Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

',rODDIAR GORYN MOELYGEST.

News
Cite
Share

',r ODDIAR GORYN MOELYGEST. Coryn y Moelwyn Ma,wr.—Llongyfarchiadau at y Gweledydd. Diolch iddo am gydnabod fod ar- ¡-' syllfa Moelygest yn up to date, ac hefyd y ceir yma 'olygfa glir.' *A gellir dyweyd hefyd, 'Imi- tation is the sincerest flattery.' Diolch am y gwahoddiad caredig i ddringo i fyny,' ond bydd yn well genyf ddringo i lawr at y gauafyma, yn enwedig os y bydd mor galed a'r un blaenorol; tic heblaw hyny, nid oes angen dringo mor uchel i weled olwynfeirch; gwelir canoedd bob wythnos r o gwmpas bodiau y Foel yma. Cyfarfod Gweinidogion.-Ar y laf cyfisol y gwelwn y frawdoliaeth yn hwylio eu camrau tua thrigfan yr hen dad o Dabor, oblegidydyddhwlnw y cynelidy eyfarfod misol. Gwr y ty oedd a'r awenau yn ei law, ac efe hefyd ddechreuodd y cyfarfod trwy weddi. Oafwyd gan y Cadeirydd ddarlleniad rhagorol o ran o Salm xxxvii. Dar- llenodd Mr Ivor Jones adolygiad manwl a medrus ar y Rbagarweiniacl i I The Redemption of Man' (Dr Simon). Cynwysa y rhan hon o'r llyfr gryn- odeb pur gyflawn o'r gwahanol ddamcaniaethau yn nghylch yr hwn. Dysgwylir gwledd yn y llyfr. Cafwyd esboniad prydferth gan Mr Nichol- I son ar 'Y Gwynfydau' (Matt. v.) Braslun o bregeth ar Salm xxxvii. 5, 6, oedd y gyfran o'r gwaith a ddisgynodd i ran Mri Ross Hughes, a Williams, Maentwrog. Dilynid yr boll bethau uchod gan ryddymddyddan bywiog a siriol. Nod- weddid y cyfarfod gan fywiogrwydd, yn enwedig y rban olaf obono, wedi i'r cyfeillion fod yn cyfran- r I ogi o'r danteithion a barotoisid ar eu cyfer, ac yn yfed y te a dyfaaai ar ucheldiroedd Ceylon, yr hwn a ddygwyd adref gan fab y ty, yr hwn sydd yn ar- ianydd ilwyddianus ar yr ynys er's rhai blyn- yddau, ond sydd ar hyn o bryd yn mwynhau ychydig seibiant yn ei hen gartref. Yr oedd yn j flin iawn gan y frawdoliaeth nad oedd Mrs Jones J yn gref ei hiechyd, ae befyd fod un o'r merched yn wael yn Llundain. Dymunwn i'r ddwy adferiad ■>. buan a Ilwyr. ■*>- Dirtoest.-Y mae Pwyllgor Cymanfa Ddirwestol fl Lleyn ac Eifionydd wedi penderfynu ceisio ffurfio undebau dirwestol Ileol yn nglyn a'r Gymanfa. Bodola math o undeb dirwestol rhwng eglwysi Porthmadog er's blynyddau, ac y mae wedi gwneydgwlith da mewn llawer cyfeiriad. Oeisir yn bresenol ffurfio undeb tebyg rhwng eglwysi Borthygest a'r Morfa Bychan. Gobeithio y llwyddirac y gwneir gwaith effeithiol. Y Feibl Gymdeithas. Cynaliwyd cyfarfod blynyddol y Feibl Gymdeithas yn y Neuadd Drefol. Porthmadog, nos Fawrtb, y 5ad cyfisol. Dr S. Griffiths yn y gadair. Darllenodd Mr R. McLean, yr ysgrifenydd, y cyfrifon arianol, y rhai a ddangosent leihad bychan, a hyny, fel y tybid, oherwydd gerwindeb y gauaf. Yr ymwelydd ar ran y Gymdeithas eleni oedd y Parch D. C, Edwards, M.A,, olynydd Dr Dickens Lewis. Byr iawn oedd ei anerobia-d-yehydig dros haner awr -ond efallai fod a fyno gerwinder y noson a hyny. Tarawyd ni yn ystod yr araeth, fel llawer tro blaenorol, gan y modd penagored a chamarwein- iol y cyfeirir at gyaylltiad y Feibl Gymdeithas a'r Cymdeithasau Cenadol. Cyfeiriodd y siaradwr eleni at amryw Gymdeithasau Cenadol, gan wneyd cyfeiriad caredig a pharchus at Gymdeithas Gen- ii adol Llundain; a dyweiai fod y Gymdeithas hono v> yn defnyddio tua deg-ar-hugain o wahanol gyf- ieithiadau o'r Beibl, a'i bod yn dybynu yn gyfan- gwbl am danynt ar y Feibl Gymdeithas. Pall iawn I yn ddiau o feddwl y siaradwr oedd camarwain neb, ond gallai unrhyw un sydd yn anwybodus o ffeithiau yr achos dynu y cisgliad mai yr oil sydd gan genadon y gwabanol Gymdeithasau i'ftwneyd, pan yn wynebu cenedl neu lwyth am y tro cyntaf, ydyw derbyn cyfienwad parod o Feiblau a Thesta- mentau yn jaith y cyfryw gan y Feibl Gymdeithas ond gwyr y cyfarwydd mai nid felly y mae. I gyfiawnhau y sylwadau uchod, ac i oleuo rhywun all fod mewn anwybodaeth, caniatäer i mi wneyd y dyfyniad canlynol o I Hunangoflant Dr Paton.' Ysgrifenu y mae am Ynys Aneityum Daliodd dwylaw ac ymenydd cysegredig y cenadon i lafurio ddydd a nos i gyfieithu Llyfr Duw. Daliodd dwy- law a thraed ewyllysgar y brodorion, trwy bym- theng mlynedd hir, ond diflinder, i blanu a pharotoi arrowroot i dalu y deuddeg can' punt angenrheidiol i argraffu a chyhoeddi y Llyfr. Flwyddyn ar ol blwyddyn, gosodid o'r neilldu fel cyfran Duw yr arrowroot, yr hwn a ystyrid yn rhy gysegredig i'w ddefnyddio yn ymborth beunydd- iol, ac anfonid ef i Ysgotland ac Australia i'w wertbu gan gyfeillion kelly V talasant bob ceiniog.' (J. G. Paton, tudal. 77 ) Na thybier am eiliad mai beirniadu y Gymdeithas yr ydym, ond beirniadu y dull o ddwyn ei hawliau i sylw. Yn ystod y eyf- arfod, siaradwyd gan amryw o weinidogion a lleygwyr. Ar gynygiad y Oadeirydd, pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a. Dr Dickens Lewis, yr hwn, fel y deallwn, sydd yn gorwedd yn beryglus glaf. Cyfarfod Oystadleuol.—Nos Fercher, y 6ed cy- fisol, cynaliodd Ysgolion Sal Borthygest eu cyfar- fod cystadleuol blynyddol yn Neuadd Drefol Porthmadog. Arweiniwyd gan Mr R. Roberts (Llew Glas), ond gorfodwyd ef i ymadael ar y canol, a disgynodd y cyfrifoldeb ar ysgwyddau ereill. Y cyfeilydd oedd Mr J. 0. McLean. Y beirniad cerddorol, Mr O. Williams, Nefyn. Beirniad y farddoniaeth, Eifion Wyn. Y beirniaid ereill oeddvnt y Parchn R. H. Evans, W. J Nicholson, G. Parry, D. E. Jenkins, Mri D. A.. M. Roberts, a W. D. Jones, a Mrs Ann Jones, Pen- rhyn. Oafwyd cynulliad rhagorol a gweddol o drefnus ar y cyfan, ac ystyried y nifer luosog o bobl ieuainc oedd yn bresenol. Wele restr o'r buddugwyr ar y prif destynau :-Traethodau- I Rhwymedigaeth Ieuenctyd i'w Cyfamod Eglwyig,' 10s, Mr John Williams, Garth; I Gwastraff,' i rai dan 25 oed, Mr Robert Lloyd Jones, Minffordd Atebion ar Epistol Philemon, Mr John W. Jones, Borthygest. Barddoniaeth-50 llinell, 4 Fy Nuw, Fy Nuw, paham y'm gadewaist?' Tryfanwy; Ar fin y Traeth,' Tryfanwy; Englyn, Y Bysgod- rwyd,' John Jones, Llanfrothen. Cerddoriaeth— 'Y Blodeuyn Olaf' (J. Ambrose Lloyd), X4 a medal, Cor Mr Humphrey Jones, Porthmadog; Y Owchgan,' parti o 16, Parti Mr Humphrey Jones; Deuawd, Mr Rees Barrow Thorpe a'i Gyfnill; Unawd Bass, 11 yn cynyg, Richard Jones, Llanfrothen Unawd Tenor, R. B. Thorpe; Unawd Seprino, Jenny Morgan, Porthmadog; Unawd Contralto, Ellen Roberts, Borthygest; Unawd i blant dan 14 oed, Mary Williams, Borth- ygest. Yn yr adran amrywiaethol, enillwyd gwobrau gan y rhai canlynol:—Thomas Roberts, Lloyd E. Jones, E. M. Griffiths, John Henry Roberts, MathewlRoberts (tair gwobr), yn nghyda nifer ereill a enillasant wobrwyon llai. Ymddengys y symudiad hwn yn chwanegu nerth ac ya enill poblogrwydd. Gresyn na fuasai mwy u gyfeillion lleol yn ymgeisio, oblegid er eu mwyn hwy y sefydlwyd y cyfarfod. Cydymdeimlad.-Cydymdeimlir yn fawr trwy yr holl ardal A'r Parch J. H. Parry, Llansamlet, yn ei brofedigaeth lem o golli ei briod, yn ogystal ag a, pherthynasau Mrs Parry, sef Mr Ebenezer Roberts a'r teulu, Bank-place, Porthmadog. Cyn ei symudiad i Lansamlet, yr oedd Mrs Parry yn aelod selog a defnyddiol o eglwys Salem. Perchid hi gan yr holl gymydogaetb, ac adnabyddid hi fel cantores o fri. Caffed ei phriod a'i tbeulu ddy- ddanwch Duw yn eu tywydd mawr. Morfa Bychan.-Nos Fawrth a dydd Mercher, y 12fed a'r 13eg cyfisol, cynaliodd eglwys Siloam gyfarfod pregethu, yn yr hwn y gwasanaethid gan nifer o gymydogion caredig a roddent eu gwasan- aeth yn rhad i helpu yr achos, sef Mri Morgan Roberts, Penrhyndeudraeth, EliBeus Williams (Eiflon Wyn), y Parchn G. Parry (M.C). a H. Ivor Jones. Anfynych y cafwyd cyfarfod mwy dymunol. Eneiniad hyfryd ar yr holl oedfaon, a'r genadwri yn bwrpasol a gafaelgar. Gwnaed casgliadau rhagorol yn y cyfarfod tuag at leihau y ddyled ar yr addoldy. Gwna yr eglwys yn y lie ymdreehion oanmoladwy tuag at dd'od yn rhydd, ac y mae rhai o'r aelodau ac are ill wedi addaw rhoddi benthyg yr holl arian sydd yn eisieu yn awr yn ddilog. Capel Coffadwriaethol.-Clod mawr sydd yn ddyledus i weinidog llafurus y capel uchod, y Parch H. Ivor Jones, am ei ymdrecbion diflino gyda'r plant. Y noson o'r blaen arwyddodd dros 60 ohonynt gerdyn ardystiad yn cyawys y pethau canlynol:—1. Darllen y Beibl a gweddio bob dydd. 2. Ufuddhau i'w rhieni- 3. Tynerwch at bob creadur. 4. Ymgadw oddiwrth iaith ddrwg. 5. Ymatal oddiwrth ddiodydd meddwol. Dymun- wn o galon Iwyddiant i Mr Jones a'r cyfeillion selog sydd yn ei gynorthwyo i ddysgu y plant yn y pethau pwysig uchod. Afiechyd.—Y mae plant Porthmadog yn dyoddef ar hyn o bryd oddiwrth amryw glefylai, a'rysgol- ionwedi eu cau er's hir wythnos. Hyd yn hyn, y mae yr ardaloedd cylchynol yn glir oddiwrth y clefydau. GWYLIEDYDD.

Advertising

,--,ABERDAR A'R CYLCH,