Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
36 articles on this Page
[No title]
Un o bynciau y dydd yw A yw pwnc yr arian yn fyw? Dywed John Sher- man nad yw a W. J. Bryan ei fod. Y mae arian, yn ddiau, yn fyw, ond mor ddiau a hyny y mae rhyddfathiad yn ei wely am ryw dymor..
[No title]
Er cymaint yr ymffrostir gan bieid- wyr yr Eisteddfod, nis gallant gyfeiric at yr un Jones Llanddowror yn eu plith. Gresyn na wnaethai yr Eisteddfod yn Nghymru ymdrech o ryw fath i sefydlu ysgolion i addysgu Cymraeg i'r Cymry,
[No title]
Symudwyd John W. Keely o ddiym- orphwys goffadwriaeth i blith y mwy- afrif, fel y dywedir. Treuliodd ei fywyd 1 ddarganfod egwyddor y symudiad di- sefyll, a chadwodd hyny ei feddwl i fyn- ed hyd iddo orphwys yn yr angeu. Er y tueddir ni i watwar pobl o fath Keely, i feddyliau fel ei eiddo ef y mae y byd yn ddyledus am lawer o'i gysur a'i gyn- ydd. Y maent gyda brig a blaen y llanw o hyd.
[No title]
Gym terfynu gwedthrediadau cynadledd1 Undeb y Gwragetdkl Dirwestol Cristion- ogol yn St. Paul, Minn., yr wythnos didiweddaf, pasiwyd pend'erfyniad yn cymeradwyo pleidlais i'r merched: "Gan i Ddluw greu dyn yn wryw ac yn fenyw ar ei didslw i arglwyddiaethu ar y ddae- ar, yr ydym ni yn credu mewn hawl gyf- artal i'r ddau i goledidu a d;adgan eu gol- ygiadau gartref, ar y llwyfan, yn y pwl- pudl, ac wrth yr etholflwch."
[No title]
Ymneillduwr odldiwrth Ynmeillduaeith ac athraw oedd Dr. Owen, Esgob Tyr ddewi, pan y codwyd ef i'r Fugeiliaeth; ac ymddengys oddiwrth ei hanes yn yr Esgobaeth ei fod yn cyflawni ei waith i foddlonrwydd. Bydd hyn yn gymell- iad i'r lljrwouraeth benodi mwy o ys- golheigion a 11ai 0 offeiriadon i'r Esgob- aethau Cymredg. Andwyaeth Eglwys Loegr yw yr offeiriadon eglwysyddol, lefeticaidd, eiddiewogi yma.
[No title]
Kid yw yn ddiirgelwch, mwyach, y gwaistreiffr llawr o fwydydd yn, Amer- ica. Cedr llawer o weithwyr yn y wlad hon yn byw fel arglwyddi, a ffwrdd a hi yw hyd y pery pethau. Amicangyfrifir fod digon o fwyd yn cael ei wastraffu yn ninas New York i gynal 100,000 o deulu- oeddi! Mae Guggenheimer, llywydd y cyngor dinasol, eisoes wedi cynyg cyn- llun i gasglu gwastrafi y gwestai, y bwytai, a thai y cyfoethogion, a'i ranu yn mhlith y tlodion angenus.
[No title]
Dywedir ei fod yn mwriad yr Arlyw- ydidl McKinley a'r Ysgrifenydd Rhyfel i gymeradwyo cynyddu y fyddin reolaidd i gan mil. Deingys yr ymbrofiad a'r rhyfel diweddaf, nas gellir ymddibynu ar wirfoddolwyr mewn hinsoddau es- tronol. Effeithia y cyfnewidiad disym- wth 0 fywyd moethus yn andwyol ar- nynt, fel y gwelwyd yn Cuba. Ychwan- egir at eu peryglon hefyd gan eu hym- didygiad a'u bucheddiad diofal. Bech- gyn wedi ymgaledu pia hi.
[No title]
Priodolir y fuddugoliaeth Werinol ar hyd y wlad gan rai newyddiaduron i'r bobl, ond cyflawnach o lawer fydda1 dweyd mai y bobl dida a phwyllog wnaeth y gwa.ith. Gwneir y bob! i fyny o blaint dynion da a drwg, fel y dysgwyd ni yn ddigon cywir gan "Rhodd Mam." Fel mae yn resyn cyfaddSef, cawn ddos- barth o'r bobl, bob amser, yn rhy barod i gefnogi a phleidio y pethau mwyaf an- dwyol i'w lies. Gwnant hyn yn eu dall- bleidiaeth.
[No title]
Pasiwyd deddf yn Lloegr y flwyddyn ddiweddaf, yn rhoddi hawl i bob un a fyddo yn meddu gwrthwynebiad cyd- wybodol i fyned at yr ynadon, a hawlic ysgrif, yn eu hesgusodi rhag gosod buchfrech ar ei faban. Cynifer yw y rhai a hawliant y fraint hon fel y synir atynt. Ni thybid erioedi o'r blaen fod cynifer o bobl gydwybodol yn y wlad. 0 herwydd hyny, gwna yr ynadon eu goreu i brofi mai mympwy ac nid cyd- wybod sydd gamddynt!
[No title]
Un o nodweddion godidog y cymeriad! Americanaidd yw y modd yr ymgymoda. y pleidiau gwleidyddol a'u gilydd ar ol etholgyrch aidldgar ac ymddangosiado! ffyrnig. Yn y man y cyhoeddir y cyfrif- iard: ymfoddlona pawb ar ewyllys y mwy- afrif. Dengys hyn gymwysder nodedig yr Americaniaid i'r ffurf-lywodraeth Werinol. Nid ydyrn yn cyfrif y Tal- aethaiu Deheuol yn drwyadil American- aidd yn y rhinwedld hwn. Impier hwy i mewn yn llwyrach.
[No title]
Llawer o resymau roddir dros absen- oldieb y gwyr*a'r meibion o'r gwasan- aeth crefyddol. Gwelir yno bob amser bedair o ferched am bob un bachgen. Priodolir hyn i ddifaterwch, diogi, rhag- rith aelodau, pregethu gwaél, cyffredin- eddl y gweithrediiadau, anfuddioldeb y cyfarfodlyd'd ac anghroesawgarwch yr eg- Iwysi, &c. Cwyna ymwelwyr a gwran.. dawyr yn, ami nad yw ffwrnedsi. yr eg- Iwysi yn tynu cystal ag y dylent, ac felly, mae sirioldeb a gwres cymdeith- asol ar ddiffodfd yn fynych.
[No title]
"Gobeithiwn y ca yr Ardalydd Salis- bury ddoethineb i benodi Esgob rhag- orol yn Bangor. YChydig amser yn ol, anfonodd pwyllgor o glerigwyr eu gol.. ygiadau a'u dymuniadau da i'r Ardal- ydd, ac eto, yn awr, cawn y blaid gyf- erbyniol yn ymddiheuro ac ymwadu a phob cysylltiad a pherthynas a'r ynfyd "gariadus frodyr" hyny. Onid yw yn syndtod fod bodau sydd yn byw yn ymyl yr ysbrydol, yn gynrychiolwyr a cheid- waid buddianau tragwyddol, yn ar- ddangos y fath aflerwch trefniadol?
Family Notices
Y pwnc difrifol yr ymdrinir ag ef gan yr Eglwys Esgobaethol y dyddiau hyn yw ysgariad a thor priodas; a thelir cryn sylw iddo yn haeddianol gan yr enwadau eraill. Purdeb priodasol yw Ilygad moesoldeb, ac nis gellir dysgwyl cymdeithas anrhydeddus sylfaenedig ar anlladrwydd. Nid oes dim a fygythia sylfaeni cymdeithL8 yn fwy enbydus ac echrydus na'r cyfamcd priodasol ani- feilaidd. a phaganaidd sydd mor gymer- adwy gan rai.
[No title]
Abraham Limcoln, o fendigedig goffad.. wriaeth, a ddywedodd nas gellir ffwlian y bobl o hyd. Amgylchir hwy weith- iau gan niwloedd diallbleidiaeth a chym- ylau o fwg yn oodi o ffrwydradau dam- caniaethau, ond yn y man y dechreuc yr awyrgylch glirio a'r "moch a'r cib- au" ddyfod i'r golwg, deallant sut y saif pethau a dychwelant adref lie y gwyddant fod y gweision cyflog yn cael eu gwala a'u gwedidill o fara. Hyn wnaeth y Talaethau Gorllewinol yn yr etholiad.
[No title]
Mae yn mwriafd yr Ysbaemwyr yn Cuba atolygu ar y llywodraeth Americ- anaid,d i beidio ymyraeth a'r sefydliad adiloniadol Ephesusaidd hwnw a gyfen- wir yn "ymladd tedrw," gan y cyfrifir ymladd a theirw gan yr Ysbaenwyr mor hanfodbl angenrheidiol er cynaliaeth y bobl ag yw "peint cwrw y gweithiwr tlawd" yn mhlith cenedloedd Cristion- ogol eraill. Hyderwn y byddi i lywod- raeth McKinley dalw sylw a pharch neilldnol i deimladau y teirw yn y mater.
[No title]
Beth bynag ddywedir mewn. fford,di i gondemnio y peiriant gwleidyddol, teb- yg, wedi'r oil, mai a pheirianau y gwar- edir plant dynion rhag twyll a lladrad. Yn yretholiad diweddaf, profodd y peir- iant ethol ei hun yn drech na dim hyd yma, a gwnaeth ei waith yn gampus c anmhleidgar. Defnyddiwyd 73 o hone yn Rochester, N. Y., ac ar ol gwasan- ] aethu y pleidleiswyr ar hyd y dydd heb I ofyn dim gan neb, mewn ychydlig fynyd- au gwuiaeth pob un ei gyfrif i fyny yn didiffa,el, ac yr oedd y cyfanswm yn hysbys mewn 37 mynyd! I
[No title]
Yn ei lythyr yn ddiweddar i Webster Davis, yr Is-Ysgrifenydd Cartrefol, llon- gyfarchai Mr. Babcock, cadeirydd y Pwyllgor Gwerinül yn y Gydgyngorfa, ef am ffrwythau dla ei etholgyrch ar hyd y Gorllewin. Siaradodd Mr. Davis han- er cant o weithiau rhwng dinas Wash- ington yn y Dwyrain a Thalaeth Wash- ington yn y Gorllewin pell, a chydna- byddai Mr. Babcock fod yr etholiad yn nodedig o lwyddianus y ffordd hono. Cymro yw Mr. Davis, a chyfrifir ef yn un o areithwyr goreu y wlad.
[No title]
Y dydd o'r blaen, fel cosb ar oheb- ydd ysgrifbinrydd am ei feirniadu ded- frydodd barnwr ef i gyd-eistedd ag ef i benderfynu achosion, a theimlai y troseddwr hwnw yn waeth na mis o f lafur caled ar uwd sucan a dwfr. Cosb ) haeddianol ac effeithiol ar yr anarchiaid i sydd yn collfarnu pob ifurf ar lywod- raeth fyddai eu gosod mewn ynys, o'r hon nis gallent ddianc, i weithio allan eu hiachawdwriaeth eu hunain mewn dychryn ac ofn o'u gilydd. Y gwingwyr penaf, fel rheol, yw y dynion mwyaf di- werth.
[No title]
Dengys y teimlad gwrth-Iuddewig yn Ffrainc, a'r rhagfarn anghyfiawn a fegir ganddo yn erbyn y Capten Dreyfus, y fath rwystr i wareididiad yw dallbleid- iaeth. Y peth cyntaf wna rhagfarn yw creu ofnau yn ei chanlynwyr, a gwrth- wyneba y cyfryw gyfiawnder neu ddysg- eidiaeth neillduoil fel pe bae iddynt gan- lyniadau echrydus. Gydag amser, profir fod gweinyddu cynawinder, caniatau braint, neu ledaenu gwybodaeth, yn lie bod yn felldith, yn fwynhad ac yn es- mwythyd i blant dynion, a cheir rhag- farn yn ymneilldluo dan gywilydd o'r golwg.
NOSON 0 ORUCHION.
NOSON 0 ORUCHION. Crewyd cryn ddyddordeb, y nos o'r blaen, yn mhlith seryddwyr a nef-ed- rychwyr, gan y goruchion; onid nid oedd y gawod gymaint ag a ddysgwylid. Syrth y cawodydidl hyn, fel rheol, bob 32-33 o flynyddoedd: a thua'r 14eg c Tachweddl. Tybir fod yna gylch o hon- ynt yn y gwagle, ae fod y ddaear ar ei chylchdro yn taro i'w plith ar yr adegau hyn; Yr hen dyb oeddi mai ser oeddynt yn syrthio, neu ddarnau o adfedlion byd- oedd, &c., a thueddir rhai i goelio mai dechreuajdaLU bydoedd ydynt. Ymdian- beidiant gan y gwres achosir gan agos- had ydidaiear yn ddirwasgu yr awyr; ac ar eu hymsaethiad drwy y gwagle, ym, losgamt yn llwch, neu gwibiant o'r gol- wg i bellafoedd anhysbys. Tybir, hefyd, yr ymffurfiant o nwyau yn yr awyr, fel y ffurfir cenllysg o darth, ac y troant yn feini neu ddarnau o fetello,edd.
IACHAU 0 BELL.
IACHAU 0 BELL. Yn mhlith y gwahanol ddulliau iach- au sydd yn y byd, y mae dull y Gwydd- onwyr Cristionogol o iachau o bell, yn sier, yn ddyddorol. Nid yw yn angen- rheidiol i'r iachawr weled y claf, fel y mae yn arfer gan feddygon rheolaidd, eithr gwna y tro i feddyges o ben draw y wlad, neu o ben pellaf y byd, o ran hyny, weini ar y claf heb fod gydag ef. Y oedd y fedldyges a weinai ar Thomas G. Kershaw, fu farw yn Taooma, Wash., y dydd o'r blaen, yn byw ar y pryd yn Savannah, Ill., 2000 o filldiroedd oddi- wrtho. Arbeda hyn lawer o draul. Nid yw haner y ffordd o amgylch y byd! yn rhwystr o gwbl i'r meddygesau hyn weini ar eu cleifion, ac nid yw pellder ychwaith, yn lleihau dim ar effeithiol- rwydd y feddyginiaeth. Wrth ei ffrwythau yr adnabyddir y pren hwn fel pob pren arall erioed.
AMDDIFFYN COELGREFYDD.
AMDDIFFYN COELGREFYDD. Yn ei anerchiad i'w glerigwyr yn ddi- weddar, ymdriniai Esgob Llanelwy, G. C., ag amryw bethau sydld yn dychweiyd i anesmwytho ar Eglwys Loegr, set y cymun Pabydidiol, cylEesu cyfrinachol, gw,addio dros y meirw, &c. Ymddengys fod yr Esgob yn ffafriol i gryn dipyn o goel-gredoau a gwag-ddefodau o'r fath. Er ei fodlyn y cyfarfod yn cymeradwyc ymlynu wrth y Llyfr Gweddi Cyffredin, eto, dylid gwneyd hyny yn ol "y synwyr eyffredin sydd yn amrywio ae yn yon- gyfaddasu i gyflyrau sydd ym newidf yn barhaus." Ychydig o Babyddiaeth sydd yn y Llyfr Gweddi Cyffredin, a theim- lir hyny pan y gwelwn yr Esgob dan orfodaeth myned y tu allan iddo a'r Ysgrythyr er cyfiawnhau yr arferioD Pabyddol. Nid oes ganddo yntau ddim i gefnogi gweddio dros y meirw, fwy na'r Pabyddion, ond ymadirodd unig o Ail Llyfr y Maccabeaid. Y mae cymuno ar gylla gwag yn berffaith gyson a gol- ygiadau Pabyddol am drawsylweddiad, ond amlwg yw ei fod yn groes i reswm ac Ysgrythyr. Y mae sylwadau yr Es., gob hefyd ar gyffesu yn offeiriadol ond gwrth-Ysgrythyrol. "Cyffeswch i'ch I gilydd," ebe Iago; "cyffeswch i mi neu i ryw weinidog dysgedig a doeth arall (learned and dliscreet), set offeiriad ar- j all," ebe yr Esgob. Y mae el sylwadau ar weddM) droe y meirw hefyd yn dra dyeithr o emau Protestant a gweinidpg "dysgedig a doeth." Pa synwyr sydd mewn gwedldio dros y meirw ar ol idd- ynt groesi i'r ysbrydbl, oddtieithr ein bod yn coelio fod Duw yn ddioial o hon- S ynt oddigerth i ni goffau iddo yn bar- 'I hans! Mor wedidus y tawa, yr Ysgryth- yr bob amiser yn nghylch yr ochr draw, ac mor gall fyddai i bawb ei hefelychu. Y male cryn swn a sawyr Pabyddiaeth I gan yr anerchiad.
YMRAFAEL LLIWIA U.
YMRAFAEL LLIWIA U. Ymddengys fel pe na fydd diwedd ar yr ymrafaelion yn y De rhwng y gwyn a'r diu. Ffyna y drwgdybiaeth a'r ffyrnigrwydd mwyaf echrydus rhyng-1 ddynt. Cwyn gwragedd a merched y De yw fod purdeb a rhinwedd y feinyw wen mewn perygl parhaus yn nghanol y neg- roaidi; ac felly mai drwy ddychryn eu lladid yn unig y gellir eu cadw yn ddar- OiStyngedig i reolaeth deddf. Hyn bar- odd yr erthygl gan Manly yn y "Record" a arweiinioddi i chwilfriwiad ei wasg yn Wilmington, N. C., ac i lofruddiad wyth neu naw o negroaid. Fel atotliad, i'r gyflafan hono, daw Mrs. W. H. Felton, priod y cyn-gynrychiolydd o GeorgIa, allan i ail adrodd ei hymiadroddion gwrth-negroaiddi cynyrfus, gan ddadgan foidl lladd 1,000 o negroaid yr wythnos yn Nhalaethau y De yn angenrheidiol er eu cadw mewn ofn a dychryin gwedd- us, a diogelu rhinwedd y merched gwynion. Amlwg yw y ffaith fod y bobl wynion yn y De yn benderfynol o gadw awenau y Uywodraeth yno yin eu dwy- law eu hunain. Teimlir, bellach, yr ynfydrwydd wnaed pan drawsblanwyd; negroaeth o'i gwlad briodol ei hun yn Affrica, lie y; gOBodwydl hi gan Dduw, gan ei dad- forio a'i dadlwytho yn y De, er mwyn buidrelwa ami. Drwg a esgor ar waeth.
OFFERYN UFUDD
OFFERYN UFUDD Y blynyddoedd hyn, priodolir llawer o ddarganfyddiadlau rhyfedd ac anhy- goel i Nikola Tesla, ac ymddengys weithiau, fod y newyddiaduron, pan yn brin o ddefnyddiau, yn llunio dychy- mygion chwedlonol, ac yn eu hongian ar TeSlla feil cyff dlfyrwch. Fodd bynag am hyny, daw y newydd fod y trydan- ydd enwog wedi dlyfe,isio ffrwydredydd arweiniadwy er dymchwelyd ac andwyo llongau. Y mae rhai tebyg yn awr ar gael a arweinir miegys meirch gan awen- au lie y mynir gan wifrau trydanedig. Cysylltir y ffrwydredydd a'r tir neu a'r llong, o'r hon yr anfonir, a gwifrau, drwy y rhai y'i rheolir hyd y cyraeddo ei nod. Y gwahaniaeth pwysig rhwng dtyfais Nikola Tesla ac eraill, set y Sims- Edison, y Brennan a'r Victoria, yw ei fod yn defnyddio y trydan heb gyfryng- iaeth gwifrau, yn ol cynllun Herz, felly tra y defnyddla y llei11 wifrau fel awen- au i reoli ac arwain y ffrwydredydd drwy y dwfr, cyfeirir ef gan Tesla a chyfryngau anweledig. Dywed go- hebydd mai bwriad Mr. Tesla oedd an- fon un o'r "pysgod ffrwydrol arweiniad- I wy" hyn i mewn i gostrel Santiago i chwilfriwio llynges Cervera yn Me- hefin diwedldaf, ond methwyd a gorphen y ddyfais mewn pryd, yr hyn fu yn fanteisiol iawn i glod Sampson a Schley.
CREFYDD Y DYFODOL.
CREFYDD Y DYFODOL. Yn nghynadledd Eglwys Loegr yn ddiweddar, dywedai Dr. Boyd Carpen- ter, Esgob Ripon, fod cynydld goleuni a gwybodaeth yn dechreu dangos i'r byd gymaint o Iuddewaeth, Pabyddiaeth a defodaeth anfuddiol sydd yn gymysg a'r hynaelwir yn Gristionogaeth; gymaint o wendidi a rhagfarn ddynol sydd yn gwrthryfeila yn erbyn gwir amcaniom crefydd. Cyfaddefai fod cynydd credoau ac athrawiaethau ar hyd yr oesau wedi yn agos a gorchuddio symlrwydd ac eff- eithiolrwyddi crefydd ein Harglwydd. Fel casgliad naturiol oddiar ei sylwadau rhagarweiniol, dadganai yr EiSgob mal nodi Protestaniaeth na Phabyddiaeth,! nac unrhyw ffurf gul enwadol ar Grist- ionogaeth, fydd crefydd y dyfodol, eiithr crefydd syml gwneuthur daioni. Yn y grefydd hono, nid y dyn rhydd ei bar- abl fydid yn flaenaf eithr y dtyn cared- ig; nid yr ysgoJhaig fydd yn ddyrchaf- edig, eithr y dyfeiswr oarediigrwydd ac esmwythadi i'r gorthrymedig a'r tlawd; cymerir lie cymanfaoedld pregethu gan gyfarfodydd gwneuthur daioni ymarfer- 01 i Lazarusiaid a chlwyfedigion trais ac anghyfiawnder cymdeithas; yn lie bod yn llawn traethodau sychion ar bynciau duwinyddol, byddi oin cyhoeddiadau cref- ydidiol ym orlawn o hanies pobl dda yn ymgystadtlu a'u gilydd miewn caru eu gilydd a phlant dynion!
"HELBECK OF BANNISDALE."
"HELBECK OF BANNISDALE." Dengys y sylw a ga ffug-hanes ddi- weddaf Mrs. Ward mor ffaeledig, wedi'r cwbl, yw barn pobl sydd yn ymffrostio mewn cyfran fawr o berffeithrwydd. Ffughanes Babyddol yw hi, hyny yw, desgriflo Pabyddiaeth, ei hathrawiaeth a'i moes, yw dyben gweledig yr awdures enwog. Dywedir pethau ffafriol i Bab- yddiaeth yn ystod yr hanes, ac ym- ddengys rhai pethau anhywaith fel gyd- a'r amioan o didladguddio ychydig o yn-, fydrwydd y grefydd; ond y dyddbrdeb mwyaf yn nglyn a'r drafodaeth yw fod rhai ysgolheigion ac offeiriadon Pabyddl- ol yn ei chollfarnu yn greulon, ac eraill yn ei chainmol a'i chymeradwyo fel campwaith! Hona rhai Pabyddion fod y darluniatdau a geir o'i mewn yn hollol anmhabyddol, a daw eraill a phethau c lyfrau Pabyddol yn eadarnhau desgrif- ladau Mrs. Wardl Daw hyn i'r amlwg ag un nodwedd yn nghymeriad y Pab- ydd, set ei barodrwydd i wadu egwydd- orion yn gyhoeddus y mae yn gredu yn y dirgel. Gwaidant yn ngwydd Protes- tania,id yr hym a arferant yn eu heg- lwysi; gwadant eu bod yn talu am fadd- euant pechodau; ond yn ei sylwadau beirniadol ar y ffug-hanes, dywed St. George Mivart (Pabydd ei hun) fod off- eiriadon yn dlerbyn arian i gael eneidiau allan o burdan. Gwada y Pabyddion eu bod yn erlidgar, er fod dalenau han- esiaeth yn orlawn o dystiolaethau. Y ffaith yw eu bod yn cywilydldiio yn gy- hoeddus o herwyddi yr hyn a wnant yn y dirgel.
MAE YN GOLEUO.
MAE YN GOLEUO. Nodweddir yr oes hon gan awydd gwybod a gwneyd, yn gyferbyniol i'r oesau fu yn ymddiffrwytho. a breu- ddwydio. Y ffaith ywfod y diwydianau wedi marw o un i un yn Nghymru, fel y gorfodir y bobl i nychu a llewygu neu ymifudo i'r gwe,ithfeydid haiarn, dur a glo neu i wledlydd tramor. Sefydlwyd y Cymdeithasau Diwydiamol hyn i fagu a dadblygu llaw-weithfeydd a thrafodaethau ar raddifa fechan i gyf- arfod a phob cymydogaeth; a thrwy hyny, hyd y mae yn ddichonadwy, wrth- weithio ymadawiad a gwasgariad y trig- olion. Tebyg fod cyfyngder Cymru o'r dliwedd wedi gwasgu ar y dosbarth cefn- og i wneyd rhywbeth i esmwythau ar y bobl. Yn Caerfyrddin, y dydd o'r blaen, cyn- aliwyd arddangosfa a chyfarfod gyda'r amioan o hyrwyddo y gwaith dla adfyw- iol hwn, ac yr oedd y llwyddiant y tu hwnt i ddysgwyliad y m wyaf gobeith- lawn. Y mae diigon o adnooJdau yn neu- ddeg Sir Cymru i gynal el phobl yn gys- urus, pe y gadiawai y trigoliom farddoni a breuddwydio, ac yn He hyny ymroi i weithio allain eu hiachawdwriaeth, dym- or ol. Bydded i Gymru o hyn allan fedd- wl mwy am wybod' gwybodaeth fuddiol ac ymwneyd a goruchwyliaethau s:ydic1 yn talu. Gresyn na ellid gosod ychydig o waed yr Iuddew neu yr Ysgotyn yn ngwythienau y Cymiro i'w gymell i fod yn fwy am lwyddo yn fasnachol yn y byd sydd yr awr hon. Pan y mae efe yn gwrando y bregeth, yn canu ei gan, yn gwau ei englyn, ei gywydd a'i awdl: ac yn ymfoddloni ar fawredid heuatol ei wlad, cawn yr Iuddew, y Sais, yr Ysgot- yn, ac eraill, yn dyfod i ben ei etifedd- iaeth, ac yn ei thrawsfeddianu o dan ei drwyn. Gymro, ymysgwyd, y mae yn bryd i ti godi.
AMRYWION 0 CHICAGO.
AMRYWION 0 CHICAGO. GAN D. B. WILLIAMS. Chicago, Tach. 17.—Da genyf allu hys- bysu fod yr achos goreu yn dal ei dir yn dda yn Humboldt Park; ac y ceir pregethu dla bob Sabboth. Y Sul (ii- wedidaf, cawsomi bregeth athronyddol gan y Parch. Griffith Roberts, Big Rock; y Sabboth cyn hyny, pregeth dduwin- yddol dda. gan y Parch. Griffith Evans, Joliett, a'r ddau Sabboth bla-enorol gan y Parch. E. Morgans, Cambria, Wis., yn dderbyniol iawn. Bydd yr efengyles Mrs. Davies (Rahel o Fon) yn gwasan- aethu y ddwy eglwys, Sardis a Hum- boldt Park ,y ddau Sabboth nesaf. Y mae yr Ysgol Sul yn lelAyyrchus iawn yn Humboldt Park. Bydd yr ail Sab- both yn Rhagfyr, sef yr lleg, yn cael ei gynal yn Gyfarfod Ysgol yn Bethania. Bydd yn undebol, cydrhwng Humboldt j Park, Sardis a Bethania. Yn y bore, byidd y plant a'r dosbarth canol yn cael eu holi gan y Parch. William Ashford!; yn y prydnawn, y dosbarth hynaf yn y 3edd o Eifengyl loan; ac yn yr hwyr, cyfarfod o amrywiaeth, mewn canu ac adroddiadau. Bydd William O. Davies, John T. Jones a Hugh W. Owen yn ar- eithio. Y mae rhagolygon am. gyfarfod da. Yr wythnos ddiweddiaf gadawodd 1\8S Lizzie Rowlands ein dinas. Yr oedd yn parotoi er's tro, mewn awydd i dalu ymweliad a Chymru, ac yn fwyaf neill- duol ai hen gartref yn Sir Fon. Cych- wysnodid o New York gyda'r "Campania." Drwg iawn gan bawb am y ddamwain a gafodd y cyfaill a'r cerddor Proff. J. P. Jones. Dydd Sadwrn, i lawr y dref, syrthiodd o ben ysgol oddeutu 20 troed- fedd, ac mae yn rhyfedd ei fod yn fyw. Bum yno yn edrych am dano; yr oedd1 yn teimlo yn bur ddolurus, ac eto mor siriol ag erioed. Gobeithio y caiff ad- feriad buan; y mae pawb yn edrych i fyny arno, yn enwedig fel cerddor. Hefyd y mae y brawtdl William P. Hughes yn lied wael yn y Presbyterian Hospital, ond ychydig yn well, a'r medd- ygon yn bur obeithiol o hono. Y mae ef yn bur weithgar yn eglwys Hebron. Da genyf hefyd fod arwyddion pur sicr erbyn hyn fod y cyfeillion Mr. a Mrs. Love Hughes, Fulton St., yn troi ar well a, ar ol bod yn bur anobeithiol. Caf- odd Mrs1. Hughes y pneumonia yn ddrwg iawn, a hyny, mae yn ymiddangos, wrth ofalu ddydd a nos am ei phriod. Gob- eithio erbyn hyn fod y ddau wedi cefnu ar y gwaethaf, ac yn fuan wedi derbyn llwyr wellhad.
[No title]
GENYF FI mae y dewiaiaid) goreui 0 nwyddau Nadolig yn yr holl Sir. Hefyd paent o bob lliw, olew a rhai o'r grocer- ies goreu, yn enwedig coffi, yr hwn a werthfawrogir gan bawb. Hefyd mae genyf Drug Store o'r radd flaenaf, ond nid oes genyf feddyg mewn cysylltiad a mi yn bresenol. Yr wyf yn agored i chebu a medSlyg galluog o Gymro neu Ellmyn sydd eisiau lie da—ENOCH EVANS, Cambria, Wis. —* ♦♦♦
[No title]
—Dyfarnodd Hys yr hawliau yn Wash- ington $1,961,400 o iawn i Imdiaid New York ( y Tonawandas a'r Senecas) am y tiroedd perthynol iddynt yn Kansas a werthwyd gan y llywodraeth. Rhodd- wyd y tir iddynt yn ol cytundeb 1838, ond ni ymsefydlasant arno o gwbl. Der- bynia James B. Jenkins, cyfreithwr yr Lndiaid, tua $100,OQO am ei wasanaeth. —Bydd Timothy Dwightyin ymddi- S'Wyddo o lywyddiaeth Prifathrofa Yale ar ddiwedd yilwyddyngolegawl bres- enol, ar ol llenwi y swydd am ddeu- Meng mlynedd. Yr oedtd' er's tatm wedi dyfod i'r peniderfyniad o ymneillduo pan gyraeddai ei 70 mlwydd oed.
101)101 PEKSQMui*
101)101 PEKSQMui* Gwelir mai Apmadoc fydd beiraiad ? Adroddiadau yn Eisteddfod Mil^3, dydd Calan. Yr wythnos ddiweddaf, yn SlatingtOlll, Pa., clad dwy d Morris WilliarQiS; J nace, "Yr Hen For," fel y gelwid e agos i 80 mlwydd oed. Efe oedd y ro hynaf yn Sir Lehigh, ac yr hen gymeriad Cymireig unplyg'- garedig i ganoedd. Ail etholwycl yr Anrh. George Jones (Ymyl Alun) Wymore, yn ae},<^ge Ddeddifwrfa Nebraska, dros Sir gyda mwyafrif da. Mae ein gohebydd Humphrey Rich" lards, Cotter, Iowa, wedi cael ei gan y Llywodraethwr Shaw rychiO'lydd i'r National Farmers gress, gynelir yn Fort Worth, Te • Rhagfyr 6—9. Ystyrir Mr. Richards awdurdlod ar faterion amaeithyddo, llongyfarchwn ef ar ei be,no,dia,d. Un o ga,planiatdi y fyddin Bfydeinig yn y Soudan oedd y Parch. Owen kins, Cymro a gweinidog gyda'r vv leyadcl. C'ymerodd ran yn ngwasana ooffa Gordon yn Omdurman. Ar ol darllen am, gynwyniad y radd 0 D. D. i'r Parch. W. James, B. A., )Ian ceinion, fel hyn yr englynodd Bryd"0 Cadd fun dirion i'w loni, a mis Illel Yn mawr wlad yr Ianci; Dif yrach. fydd clodfori Dod o daitii gyda D. D. Cyhoeddir fod Miss Lewis, mercb d 'i anc amddifad, 21 oed, yn byW gydO miodryb ar Berry St., WolverhamPt0^ wedi dod i ffortiwn o $250,000 ar ewythr, yr hwn nid adwaenai. Mae Miss Alice Reese o ShaudOul 0., newydd gyhoedtdii eyfrol fechan ddeSt.. lus yn dwyn y teitl "Hurrah for Ame I ica," sef ffugchwedl yn desgriflo b Cymreig yn Amierica. Gwerth eiddo y diweddiar Edward Par vieis, Landlinami, oedd$5^400,000. awodd y cyfan i'w briod a'i fab, Nid oes dim ewyllys-roddion at achos ion cyhoeddus. Y dydd o'r blaen etholwyd JainlOO J. Evans, 38 Hanson Place, Brookly^ gynt o Utica, yn Ysgrifenydd y Wi^0 Dressers' Association of North AJDéf- ica, gan y cynrychiolwyr ymgynulledig mewn cynadledd yn y Broadway Cen- tral Hotel, New York. Nos Lun, yr 28ain cyfisol, cyuelir cyngerdd gan ddysgyblion Proff. George Marks Evans yn yr Y. M. C. A. Lecture Room, North Main St., Wilkesbarre, Fa. Yn mhlith yr enwau ar y rhagdre mae Misses Bessie a Katie Griffl^3' Misses Lillie ac Edith Maud EvaD& Miss Sadie Jones, Miss Edith Thom^ Miss Fainnie Reynolds; J. C. ac Art^'r C. Evans, D. W. Phillips o Plymouth ac Albert Theophilus. Rhifa tlysø" lion Mr. Evans am y tymor 1897-98 droo bedwar ugain. Hysbysir fod Beriah Gwynfe Evans 111 ysgrifenu llyfr Cymxeig ar "Berth/^8 yr Ainnibynwyr a'r Tadau Metho^i3~° aidd," ac fod dros fil o danys^ri^w wedi eu cael. Dywed y "Celt," Llunø dam, y "buasai Ilyfr ar berthynaS Y ddau enwad a'r Tad Nefol yn sicr o too yn fwy defnyddiol i'r werin." Dywedir mai y Parch. Dan DarieS. Gwmafon, sydd yn debyg o fod, yn alYU* ydd i'r Parch. D. S. Davies fel golygyddl "Y Celt." Y noson o'r blaen cyflwynodd CyJIlrl Llumdain, mewn ciniaw cyhoeddus, ber" doneg gwerth 110 gini, cheque ac albuiQ! i Mr. a Mrs. T. A. Ellis, A. S. Yr oedd amryw o'r aelodiau Cymreig yn bresenol ar yr achlysur. Dydd Llun, y 14eg cyfisol, yn ysbytl Scranton, Pa., bu farw Daniel E. price Easton, mewn canlyniad i niweidiau dderbyniodd yn y drylliad ar y Lehigh Valley R.R., yn Newport yn ddiweddar. Yr oedd yn 35 oed, a gedy briod a phed" war o blant yn Easton. "Yn nglyn, ag ymweliad Syr W. lIar- court a Choleg Aberystwyth," medd "Y Cerddor," a,c hefyd y dydd canlynol, Pan y cyflwynwyd y radd o D. D. i'r Parch- T. Charles Edwards, M. A., D. D., can- wydi yr alawon Cymreig 'Cadlef Mor- ganwg,' 'Codiad yr Haul,' 'Y Fwyalch" en,' 'Codiad yr Ehedydd,' ac 'Ymdaith Gwyr Harlech,' yr oil i eiriau Cymraeg- Yr oedd yn bleser clywed cynifer o'r ef- rydwyr Saeaneg yn medru canu CyW- raeg cystal a'r Cymry. Mawr dida ilr coleg hwn am gadw yr ysbryd Cymraeg yn fyw yn y lie." Y darlun yn y "Cerddior" am y uli,4 hwn yw eiddo Alfred P. Morgan, at. weinydd y Builth Choral Society, yr hwn oedid yn gyd-fudidugol a chor Caer- narfon yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ffestiniog. Ganwyd ei rieni yn mheO" tref Buallt, ac o ochr ei dad mae yn dwyn perthynas a Gwilym Gwent 8j Parson Price; ac o ochr ei fam a DaJr Protheroe, Mus. Bac. Dywed y "Cerdd- or" nad- yw Mr. Morgan yn arfer cynal ysgol gan ar y Sul i barotoi ei gior at, gystadleuaeth, fel y mae yr arfer 1: dyddiau hyn yn Nghymru ac America. Chicago, Tach. 18.—Mae y Parch. J- C. Jones wedi rhoddi tri mis o rybudd i eglwys Hebron o'i ymddiswyddiad. Gob- eithio y bydd iddio ail ystyried, anhawdd cael gwell gweithiwr a phreg- ethwr.—Cynalioddl y T. C. eu cyfarfod ysgolion hafner blynyddol y Sul diwedd" af, ac yr oedd cryn lewyrch ar y cynuH" tadau.- D. R. New York, Tach. 21.—Bydd yr efeng- yles nodedig Brynferch Rees yn preg- ethuySabbothnesafyn 11th St., y pryd'- nawn a'r nos, a chan mai dyma y CJ*" leustra olaf i'w chlywed cyn ei dych- weliad i Gymru dysgwylir cynulliadat* lluiosog. Yn ystod ei hymweliad a gwlad cafodd dderbyniad pob! oga^dd gan y gwahanol eglwysi yr ymwelodd ft hwy, a mawr ganmolir ei coeth a dylanwadol. Deallwn mai brod- ores o Llanelli ydyw, a'i "bod yno J11 enwog a. gwasanaethgar yn ngwasan- ateth ei Harglwydd.—P. Lansford, Pa., Tach..18.—Y Sul di- weddaf pregethodd Mrs. Brynferch Reeo yn hen gapel Cymreig Ashton, fore a hwyr; ac yn Coaldale yn y prydnawn. a nos Lun tradtdiodo-dd y genadwri mewn modd blasus yn nghapel y Bed"
Advertising
1851-Y DRYCH-1898 Swwyddiadnf tenedlaethol. CYHOEDDEDIG BOB DYDD IAU. prii yn Mlura Maw Wtrim i Gymra, tal yn mlaen Uaw yn ddleithriad 3.50 N- BE B Y8B YS1ADA U am BrUiau Rheaym- eL Anfoner am ein Telerau. ANFONER ARIAN HEWN POST OF HOB OBDBB, RKGISTESED LETTER, NBU IWRE DRAFT AS NBW YORK, TALADWT ea PBBommoG- THOMAS J. GRIFFITHS, DBYCH OFFIGSs UTICA., N. Y. Ymenyn ar Gomisiwn. DAVID W. LEWIS & CO., syy ct 179 CHAMBERS ST., NEW YORK. (Rhwng "Washington a Greenwich Sts.] wSthtoSr ariir?mo?CfuaJD ^•rtUrlnrT. DB D H. ROBERTS a ddymnna hys- bysu ei fod wedi symud el swyddfa i m GENESEE STREET, UTICA, N. Y. ruwchben Store John O. Jones & Son.] PTeswylfod—345 Genesee St. YNEISIEU —Meddyg Cymreig" Mewn ardal Gymreig eang, boblog a chyfoeth- og. Agoriad cithriadol o Fanteisiol i Feddyg Profladol i lanw lie un o'r fath a gollwyd oddi- yno yn ddiweddar. Am fanylion anfoner at C., DBYCH Office, Utica, N. T.
[No title]
Y mae y mwg eto yn dechreu blino dinas Pittsburg, Pia., a'r unig ffordd eft- eithiol i gyfarfod ag ef yw pleidio y toc- yn Democrataidd yn 1900. Ychydig G fwg oedd yn ystod gweinyddiaeth Cleve- land.
[No title]
Hyn ddywediai newydidiadur Democrat- aidd, y New York "Journal," am y blaid Ddemocrataidd ychydig ddyddiau wedi yr etholiad: "Y mae y blaid Ddemocrat- aidd yn farw er's 35 o flynyddoedd; plaid nacad a rhwystr fu ar hyd y blyn- yddoedd; ac os am fyw, rhaid iddi fab- wysiadu egwyddor gynyddol."
[No title]
Mor debyg yw ymiddygiaid y blaid Ddemocrataidd i eiddo Rahel pan y ffodd gyda Jacob, gan ddwyn delwau ei thad? Y mae hi yn hoff iawn o ddel- wau Jefferson a Jackson, ond nid ydynt o ddim gwerth ididi oddigerth i eistedd arnynt, a theimlo fod cofioam danynt yn gysur iddi yn awr ac eilwaith.
[No title]
Nid yw Quay, Piatt, Croker ac eraill i'w cymharu a Hazem S. Pingree, Michi- gan, fel pentealu gwleidyddol. Unben- aethol yw y lleill, tra y mae Pingree yn batriarchaidd. Ymddyga yn dadol tuag at y bobl. Oondeaxunir ef gan y gwleid- yddwyr cyffredin am y rheswm el fod yn onest ac yn amllygradwy. Y mae yn elyn digymod i'r elymbleldlau ar corfE- oriaethau. Planer mfwyodatwsofath Pingree. — Æ