Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

■..» —-, WIIKESBAEKE, PA .

[No title]

PURDEB YR EGLWYSI.1

I It ODDIWRXHSHEXCraSHADRACH.

[No title]

[No title]

[No title]

YN GADAEL Y COLEG.1

[No title]

LLITH 0 CANADA.

News
Cite
Share

LLITH 0 CANADA. Gwlad. y Gogledd-Orllewin—I'r Klondyke— Tir Amaethyddol Da-Yn y Maes Cenadol-Personol. GAN J. G. STEPHENS Leduc, Alberta, N. W. T.—Mesura rheilffordd: cwmni y Canadian Pacific o Mointreal i Calgary 2,264 o filldiroedd, ac o Calgary i Leduc, ar y Calgary & Edmonton Branch, y mae 173 o fllldir- oedd. Edmonton, 18 milldir i'r gogledd oddiyma, yw prif dref gogledd Alberta a'r dref nesaf at y Pegwn Gogleddol ar gyfundlrefn y Canadian Pacific Rail- way. Edmonton hefyd oedd "jumping off place" canoedd o feohgyn dewr o bob parth o'r byd aethant i'r Klondyke y misoedd diweddaf, er budd i fasnach- wyr y lie, beth bynag am eu lies eu huniain. Effeithia yr Ólwg ar y mintei- oedd yn cychwyn ar eu taith ramantus a. pheryglus mewn modd annesgritiadwy ar fy meddwl. Anhawdd. oedd gwybod beth i alw yr aiituriaeth mewn amI i amgylchiad, pa un ai y ffolineb mwyaf neu ynte weithred yn arddangos dewr- der ac ysbryd anturiaethus o'r fath or. eu. Un peth sydd yn lledi sicr, fel yr awgrymwyd gan un o ohebwyr galluog y "Drych," sef f.od digonedd i'r neb a lafuria yn ddeallgar a diwyd lawer yn nes atom na dyffryn y Klondyke. Gwlad amaetliyddol sydd y ffordd yma, a "mixed farming" sydd yn talu oreu, medd y cyfarwydd. Yr wyf yn byw gyda theulu dda,eth yma o North Dakota, bum mlynedd yn ol, heb didim yn eu meddiant ond dau geffyl, wagen a,c ychydig o offer cyffredin. Sefydlwyd ar dir y llywodraeth, 160 erw, yr hwn gawid yn rhad, ao heddyw mae ganddynt 320 o erwau o dir da, 55 erw o dan drin- iaeth, yr oil wedi ei ffencio; ty byw golygus o chyfforddus; pob machine angenrheidiol wedi talu am dano; stock go lew o anifeiliaid-tri o geffylau, 17 o dda. corniog, 18 o foch, &c., a pheth arian wedi ei gynilo. Cynyrch y gwa- hanol ffrwythau ar gyfartaledd yn ystod y pum mlynedd sydd wedi bod fel y canlyn: Gwenith, 43 bwsiel i'r erw; ceirch, 55 bwsiel; haidd, 42 bwsiel; pyt, atws, 25 bwsiel. Pris y gwenith a'r ceirch y flwyddyn ddiweddaf ar yr ele- vator ine:saf i'r lie, wyth milldir i'r die, oedd 65 cents a 3 cents y bwsiel. Efall" ai fod y ffigyrau uchod o ddyddordeb i rywrai. Anfonwyd eich gohebydd i'r parthau yma gan Home Mission Committee yr eg- lwys y perthyn iddi i gyhoeddi y genad- wri am y groes. Fe fydd yn dda, gan bob dyn goleuedig, heb son am grefydd- wyr proffesedig, fod yr eglwysi, o bob enwad, yn llwyddo yn eu hymdreeh i osod stamp grefyddcl ar bethau yn y Gogledd Orllewin. Cynryehiolir agos bob cenedl dan haul yn Alberta, heb eithrio y Cymry. Masnaehwr llwydd- ianus yn South Edmonton yw Arthur Davies, hen fyfyriwr o Goleg Aberys- twyth, a chanwr o'r sort oreu, ac y mae eraill o'n cenedl yn y dref a'r ardal nad wyf wedi eu cyfarfod hyd yn hyn. Cyn cychwyn am y Gorllewin ymwek ais a Chymry New Rockland, Prov. of Quebec, a threuliais awr neillduol o ad- eiladiol gyda'r brodyr yn y seiat un nos- on waith, pan oedd y Parch. David Pugh yn llywyddu yn fedrus, a phawb yn cymeryd rhain. Ga,ilwn enwi Mrs. John C. Jones, Mrs. Powell a Mri. John R. Thomas, John W. Williams a Robert Morris. Yr oedd pethau ychydig yn well yn fasnachol yn yr ardal nag oeddynt wedi bod am. fisoedld lawer. Gelwais ar bron yr holl o Gymry adnabyddus Mori, treal cyn ymadael. Drwg genyf fod Undeb Cymreig Montreal wedi marw, neu o" leiaf werdii syrthio i drwmgwsg. Y rhai fuont "ffyddlawn hyd y diwedd" oeddynt Thomas Harries, Ysw., Mrs. Pritchard, Mri. David; Thomas, R. T. Williams, Moses Pritchard, Moses Rob- erts, Richard Jenkins a D. Humphrey, Gwelaf wrth y papyrau fod y Parch. Einion C. Evans, D. D., wedi derbyn galwad i'r Central COlngregationa] Church, Galesburg. Gobeithio y bydd i'r doctor weled yn dda aros yn Montreal canys mae angen dynion mawr yn y ddinas fawr. Yr oedd Annie Williams yn wan iawn ) pan ei gwelais; cydymd'eimlir yn fawr a Mr. a Mrs. R. T. Williams. Y mae yn dda gan bawb yn y wlad yma—ond y cranks—am yr entente cordiale rhwng yr Hem Wlad a'r Wlad Newydd.

MRS. WATKIN GITTINS, NEENAH,…

RHWNG DIFRIF A CHWARE."

[No title]

-.......--Y TRANS-MISSISSIPPI…

IRHYDDID YNTE CAETHIWED.