Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

BEIRNIADAETHAU. EISTEDDFOD…

BWYTA. AC YFED PECHOD.

News
Cite
Share

BWYTA. AC YFED PECHOD. GAN WATCYN WYN. AMMANFORD, Rhag. 1.-Mewn erthygl ddiweddar yn y Cymro, deuwyd yn lied agos at y fan yr wyf fi yn byw, wrth son am yr hen arferiad o "Fwyta Pechod." Nid bwyta pechod fel bara, ond bwyta pechod fel halen y byddem ni yn Llan- debie yn gwneyd er ys llawer dydd, medd y traddodiad y sonir am dano. Yr wyf fi yn byw yn mhlwyf Llandebie. a chredaf y gallaf ddweyd gyda sicrwydd na fu yma ddim bwyta pechod yn ddiw eddar iawn beth bynag, oblegid y mae pechod mor uchel ei ben yn Llandebie heddyw ag yw yn nemawr i blwyf yn yr holl wlad, fel, os bu yma fwyta pechod, na lwyddodd y bwytawr i glirio y bwrdd beth bynag. Cofiwch, nid wyf yn dweyd fod mwy o bechod yn Llandebie nag yn rhywle arall-ond os yw y traddodiad y dywedwch am dano yn wir, fod dyn yn cael ei dalu am fwyta pechod yr hen blwyfolion, a hyny yn ddiweddar yn hanes y plwyf-os yw hyn oil yn wir, dylasai y pechod yma fod yn llai blod- euog nag mewn lleoedd oedd wedi cael eu hesgeuluso. Y mae yr un hen sto ri yn cael ei had rodd a'i hail adrodd yn ami; y mae hi yn codi fel ysbryd o'r hen oesoedd bob tair neu bedair blynedd, ac yn codi o hyd yn L oegr, yn mysg y Saeson. Tebyg maiy Lhw y pia hi, ond eu bod am ei rhoi i ni, ac am ddweyd mai yn ein gwlad ni y gwurtid hyn. Tybed fod mwy o angen I.wyta pechod yn Nghymru nag yd Lloegr, neu yn mhlwyf Llandebie nag yn un c blwyfi eraill yr hen wlad bechadur- us? Codwyd hi gan Paxton Hood ych- ydig flynyddau yn ol, os wyf yn cofio yn iawn, yn Nghofiant Christmas Evans. Dywedai y pryd hwnw fod y ddefod mewn grym yn ddiweddar iawn yn Nghwmaman, Sir Gaerfyrddin; ond gall- af fi dystio yma nad oes neb yn fyw yn Nghwmaman yn cofio dim am dani, ac nad oes mwy o ol bwyta pechod yn Nghwmaman nag yn Llandebie. Y mae y ddau le yn agos iawn idd eu gilydd, ond nid ydym wedi clywed son yn y naill le na'r llall am fwyta pechod y marw. Dichon fod olion rhyw hen ddefod o'r fath ar hyd y wlad. Bum yn siarad heddyw ag un o Gaerfyrddin, a dywedai wrthyf ei bod hi yn cofio yr arferiad o roi halen ar ddysgl ar y bwrdd lie y byddai corff marw, ac weithie gosodid y plate a'r halen ar y corff. Ond dywedai hi mai i buro yr awyr.a gwneyd i ffwrdd a'r arogl yn yr ystafell, y gwneid hyn. Nid oedd hi yn credu fod neb yn ei fwy ta, ond ei fod yno i buro yr ystafell. Yr wyf yn cofio yr arferiad o ranu cwrw yn yr angladd. Bum mewn angladd yn y Trap yn ymyl Llandilo er ys tuag ngain mlynedd yn ol, ac yr oedd cwrw yn cael ei ranu yno cyn codi yr angladd i fyned i Landilo i gladdu. Safai y dynion yn ddwy res ar yr heol y tu allan, ac elai rhai a llestri a chwrw o gylch i gynyg i bob nn-ac yn wir yfai y rhan fwyaf hef- yd-gallwn feddwl ei bod hi yn arferiad gwlad yno. Celai y menywod gwrw twym, ac yr oedd rhyw lysiau yn y gwpan fawr, o'r hon y rhenid y cwrw. Yr oedd bara a chaws a chwrw yn beth digon cyffredin yn yr ardaloedd hyn er ys dengain mlynedd yn ol, a hyny feall- ai am fod ffordd bell i fyned a phob ang ladd, a'i bed yn arferiad cario y corff yr holl ffordd ar ysgwyddan; felly yr oedd gofyn bwyd a diod cyn cychwyn i'r siwrne faith. Y mae careg fawr ar ben y mynydd rhwng Cwmaman a Chwmtawe, ar fyn- ydd y BettwB-careg a elwir heddyw yn Llech yr Halen. Wn i a oedd rhywbeth a wnelo yr hen gareg hono—Llech yr Halen—a bwyta pechod? Wn i a oedd am bell un, wrth ei gario i Langiwc o Gwmaman, neu o'r ochr arall i Lan debie; wn i a oedd rhai o'r hen frodorion diniwed yn cael bwyta eu pechodau ar Lech yr Halen? Dichon fod gan rywun arall air i'w ddweyd ar hyn. Byddai yn dda genyf glywed os oes.

Hen Bobl.

[No title]

FLOYD, ONEIDA CO., N. Y.

*• Rhyngyll y Flwyddyn '96.

Advertising