Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

AMAETHYDDIAETII. ---

AT LESOBION A CHERDyDORION…

BELLE SUMTER, JEFF. CO., ALA.…

Ardal Welsh Prairie, Wis.

THE COLIJERY ENGINEER COMPANY,

IACHAU DARFODEDIGAETH.

Family Notices

Family Notices
Cite
Share

GENI- PRlODI-MARW. Sofynir tal, yn ol 25 cents am bob pedair lllnell, am gyhoeddi barddoniaetli yn ngholofn y Genedigaethau a'r PriodasalJ. PRIODWYD- MILES—JONES—Ionawr 14, 1891, yn Chi- cago, Ill, yn ei dy ei hun, gan y Parch. Dr. Har- ries, Mr. John J. Miles a Miss Maitle E. Jones. MORGANS—JONES—Ionawr 14, 1891, yn Bevler. Mo., gan y Parch. J. M. Lloyd, Mr. James R. Morgans a Miss Sarah E. Jones, oil o Bevler. DuNSTAN—DAviES—Rbf)gfyr 24, 1890, yn Butte City, Montana, yn nahapel y Presbyter laid, gan y Parch. E. J. Groenveld, Mr. W. J. Dunstan a Miss Bronwen M Davies, y ddau o'r lie uchod. HOWELL JONES—Ionawr 21, 1891, yn fi dy ei hun yn Chicago, ill., gan y Parch. D. Har rles, D. D., Mr. David T. Howell a Miss Ellizabeth M. Jones, y ddau o'r ddinas uchod. JoNEs—MoBBis -lonawr 21, 1891, gan y Parch. D. E. Phillips, yn el dy el hun yn Dons- man, Mr. Hugh G. Jones, DousmaD, Wis., a Miss Rose H. Morris, Ashland, Wis. Hir oes a llwydd- iant iddynt. HUGHES—THOMAS—Ionawr 21, 1891, yn Pen Cnwc. Wales, gan y Parch. D. M. Jones, Mr. J-hn H. Hughes Bryn Tlrlon. Watervllle, Wis., a Miss Hin C. Tlinmis, Dousman, merch y dlwedd- ar William Thomas, ttorlah. Mae Mrs. Hughes yn un o gerddorion goreu y sefydliad. GRIFFITHS—WILLIAMS—Ionawr 21, 1891, yn nhy Mr. Hobert Williams, brawd y briodferch, Holland Patent, N. Y. gan y Parch. Robert Wil- liams, Rome, y Parch. Griffith Griffiths a Miss Anna Williams, y ddau o Holland Patent. ROBERTS—PRICE- Ionawr 5, 1891, yn flomer, bed Oak, Iowa. gan y Parch. D. E. Evans, Mr. William Roberts a Miss-Mary Price. Roberts a Mary—arabedd— lechyd Bued 1 chwl"n gyfanedd; A hir oes, a goreu 1 odd. Oen Duw, Ef yn y dlwedd. GoHENYDn. BU FAJLZW- DAVIS Ionawr 21, 1891, yn bur annys- gwyliadwy, anwyl brlod Mr. Robert Df.vls, heol D well, Slatington, Pa. LLOYD--IoDawr 14, 1891, yn 74 mlwydd oed, Evan Lloyd, Oak Hill, Ohio, tad y Parch. John E. Lloyd, Jackson. Ciaridvsyd ef ddydd Gwener. ROWLAND-Ionawr 16, 1891, yn 22 mlwydd oed, David Rowland, mab Mr. a Mrs. John R. Rowland Ja< ks< n, Ohio. Bu y llynedd yn myfyr- io yn y Commercial College, Poughkt epsle. No Y. Claddwyd of d.iydd Sul o gapel y Presbyteiiaid, y Parchu. J. S. Thomas a B. t'. Tuomas yn gwein- yddu. MICHAEL-Ionawr 7, 1891, yn 2 ddiwrnod oed, Griffith, cyntafanedig Thomas ac Annie Michael, Glen Roy, Ohio. Wedi treullo :1.0 mlyn- edd o fywyd priodasol yn ddlbiant, naturiol oedd llawenhau am roddi iddynt etifedd; ond "Jch fl, benthyg oedd." WILLIAMS—Rhagfyr 27, 1890, yn Taylor. ville, Pa., yu 3 blwydd a 3 mis oed Ann Ellen, unig ac anwyl blentyn tlws a thal^ntog Evan T. a Margaret W1 liains, El hafiechyd ydoedd apo pleryfUs a'r inflammation of the, lungs, yr hwn a bar- haodd am naw diwrnod. Yn ystod el holl salwch canal ac adroddii adnodau yn y modd mwyaf effeithiol, er syndod i'r mwyaf anystyrlol. Cladd- wyd hi ar y 3Uain, yn mynwent y lie, pryd y gwas- anaethwyd gan y Parch. D. T. Evans (A.) JONEs-Ionawr 4, 1891, yn Allenport, Swydd Washington, Pa., David R. Jones, ar ol dwy wythnos o gystudd trwm, yr hwn addyoddef- odd yn dawel. G;>nwyd ef yn age's 1 eglwys Cyn- yn, hir Gaer, D. C., yn 1826. Ymunodd a chref- ydd yn gynar yn ei oes gyda'r annibynwyr yu Mhendareu, ger Merthyr. Priododd Ann Harris. merch Henry Harris, Caegat w, Mountain Ash. yr hon gyda thair mt-rch a mab sydd mewn salar. Claddwyd ef dydd mawrih, pryd -y gwelnyddwyd yn y ty ac yn y capei gan Mr. Baker. Perthyna t'r Jdyddton, y rhat yn nghyda. lluaws eraill a bresenola.sant eu hunatn yn yr angladd. JOHN D. BEVAN. HUGHEs-lonawr 22, 1891, yn 33 mlwydd oed i'r diwrnod, o'r darfodedlgaeth, Catherine, gweddw y diweddar Rowland E. Hughes, iSBquare St., Utica, N. Y., gan adael dwy enetn fach ar el hoi. Mae iddi hefyd trawd yn Utica o'r enw John H. Owen. Daeth yr ymadawedlg i America gyd a'i thad, Henry J. owens. ü3 Hobart St., ryw wyth mlynedd yn ol, ac yn Utica y priododd tua chwe' mlynedd yn ol. Bu el gwr (saer coed wrth el alwedlgaetU) farw flwyddyn i'r dydd ar ol y Ca'an diweddaf, mewn canlynlad i syrthio ira yn adelladu ty newydd o'i eiddo. Claduwyd hi ddydci Llun, y Parch. Robert WllHams, M. A., yn gweinydau. •■RICHARDS—Tach. 15, 1890, yn Diamond, Pa., Mis. Lucretia Richards, priod Mr. Ed- ward Richards, gynt o Johnstown, Pa. Dyn- es hynaws a diymhongar ydoedd hi, ac er nad oedd mewn Hawn feddiant o'i synwyrau am flynyddau diweddaf ei hoes, eto ei hoff waith oedd siarad am grefydd a chrefyddwyr, a medrai adrodd llawer o bregethau grymus pregethwyr y T.C. yn America a'r Hen WIad. Aeth hi oddiwrth ei gwaith at ei gwobr, i'r wlad lie nad oes neb yn glaf. Claddwyd ei phriod ynEbensburg, Pa., Mehefin diweddaf. Gadawsant dri o blant i alaru ar eu hoi, heb- law llawer o berthynasau eraill. Y mae Mrs. Rodgers, priod y Parch. B. Rodgers, Home- stead, Pa., wedi bod yn fam dyner i'r plant pan oedd y rhieni yn ilIlalluog gan afiechyd. YINefoedd a dal i'r teulu parchus am eu car- s;dJgrwydd.—L. WILLIAMS -lonawr 8, 1891, yn Plankinton, South Dakota, yn 13 mlwydd oed, Miss Lil- lian, merch ienengaf a hoff David T. a Cath- erine Williams, gynt o Tanygrisiau, G. C. Byr fu ei chystudcl-rhyw fath o- enyniad ar yr ymenydd. Yr oedd yn yr ysgoldy ddydd Llun, oud erbyn tri o'r gloch bore dydd lolu, yr oedd angen wedi gorchfvgn, er pob gofal meddygol, ar hyn allai dwy law tyuev rhieni ei estyn iddi. Yr oedd yn ferch ieuanc a hoffia yn fawr gan bawb a'i ballvaenai. Yr oedd Jll l1fndc1I'w rhieni a'i hathrawon, yn dyner a charedig wrth bawb. Yr oedd yn hoff o ddarilen. Ymroddodd yr haf diwedd- af i ddarilen y Bsibl trwyddo, ond ni chafodd amser i orphen ei thasg. Canodd- lawer ar hymnau o'r Gospal Hymns, a bydd yn chwith genym am glywed ei liais penidd. Dydd Sadwrn y lOfed, rhoddwyd at gweddillion i orphwys yn mynvvent y Cymry, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. Mr. Waters, yn Seisnig. Gadawodd dad a mam, dwy chwaer a thri brawd mewn galar trwm ar ei hoi.— W. C. P. MORRIS -Ionawr 14, 1891, yn flwydd a thri mis oed, Edwin, anwyl blentyn y Tarch. John. T. Morris a'i briod hynaws, Bellevue, Scranton, Pa. Cymerwyd ef yn glaf y dydd cyntaf o'r flwyddyn gan dwymyn yr ymen- ydd, ac er pob gofal ac ymdrech feddygol o eiddo Dr. J. J. Roberts, no eraill, methwyd atal buddugoliaeth angeu. Yr oedd Edwin o'i oedran yn un o'r plant mwyaf deniadoi, I deallus a dyddorus a welodd yr ysgrifenydd erioed, a chwithig fydd myned i'w hen gar- tref heb gyfarfod a'i wen groesawus. Cyd- ymdeimlir yn ddwfn a chyffredinol a'r teulu yn eu galar. Daearwyd gweddiliion yr un bychan gan dyrfa luosog dydd Gwener yn nghladdfa y Cymry, Hyde Park. Gweiuydd- wyd yn deimladwy iawn gan y Parchn. R F. Jones, W. E. Morgan, a D. Davies, Oshkosi. Eich Edwin tlws ddaeth ar ei daith I'n daear ni; Ond bore dranoeth gyda'r wawr, Gadawodd fyd y dymestl fawr, A darn o'ch serch sydd ganddo 'n awr, Mewn gwynfyd fry.—Celyddon. TiiomAs-lonawr 11, 1891, o'r dart'oderlig- aeth, yn 23 oed, John Thomas, mal) i Wil- liam Thomas, Sodom, ger Youngat"wn, O. Bu yn dihoeni yn hir -atiechyd araf graddol yn gwywo ei wedd, ac yn dita ei nerth. Ganwyd ef yn Blaen Nant, ger CWill- llynfell, D. C. Yn 18(59 daeth ei rieni dros- odd i'r wlad hon. Arosasant am dair blyn- edd yn Crab Creek, ac yna symudasant i'w cartref clyd presenol. Mawr hoflid yr ym- adawedig gan. ei holl gydnabod, fel gwr ieu- anc hynaws a charedig, pur ei foesau, a dich- lynaidd ei ymarweddiad. Meddai y cymwys- der o fod yn gontractor mewn gwaith ceryg, ac fel y cyfryw, enillodd ymddiriedaeth lawn Commissioners Swydd TrumbulL Er yn awyddus i wella, amlygodd yr ysbryd mwyaf ymostyngol yn ei gystudd maith. Cafodd y rhieni nerth i ymgynal yn nydd eu profedig- aeth. Yr oedd'yr ymadawedig yn berthynas agos i'r Parch. J. Gwrhyd Lewis, Wilkesbarre, Pa. Perthynai i'r Foresters, y rhai a gymer- asant ran yn y gwasanaeth angladdol gyda'r Parchn. Thomas Swain, Sodom, a J. P. Wil- liams, Youngstown. Claddwyd ef yn Oak Cemetery, Youngstown. —IF. JONEs-ICDawr 4, 1891, yn ardal Wild Rose, Wis., Miss Hannah Jones, merch Robert a Mary H. Jones. Ganwyd hi yn yr ardal hon Hydref 10. 1857, felly bu farw pan newydd adael ei 33 mlwydd oed. Pan tua 18 oed, aeth i Milwaukee, Wis., lie y treuliodd y rhan fwyaE o weddill ei hoes. Yn ngwanwyn 1889 daeth adref i gladdecligaetl ei chwaer, pryd y cafodd anwyd trwm, yr hwn a ymddad- blygodd yn ddarfodedigaeth. Yn Hydrof y flwyddyn hono daeth adref yn bur wael. Gwnaed pob ymdrech oedd yn bosibl i gadw angeu i ffwrdd, ond yn aneffeithiol. Magwyd hi gyda chrefydd, a phan tua 15 oed, rhodd- odd ei hun yn gyflawn aelod gyda'r Trefn- yddion Calfinaidd yn eglwys Caersalem, a bu fyw yn mhob man yn deilwng o'i phroffes, a bu farw yn dawel a hyderus. Ar y Ged, ym- gasglodd tyrfa luosog o Gymry a Saeson i'w chladdedigaeth, pryd y rhoddwyd ei chorff i orwedd yn ymyl eiddo ei chwaer yn mynwent Caersalem. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan yr ysgrifenydd, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. R. D. E,Tans. Hefyd traddod- odd yr ysgrifenydd bregeth angladdol iddi yn nghapel Caersalem. Daniel Thomas. PRITCHARD -Ionawr 9, 1891, yn Chicago, Ill., Richard T. Pritchard, yn 62 mlwydd a 6 mis oed. Ganwyd ef yn Llanfairfechan, Sir Gaernarfon, G. C. Ddeugain mlynedd yn (,I ymfadodd y teulu, yn chwech mewn nifer, i'r wlad hon, o'r rhai nid oes yn aros ond dau -John Pritchard yn Chicago, a Thomas J. Pritchard yn* Lake Emily, Wis. Bu yr ym- adawedig yn briod ddwywaith, sef gyda merched David Pritchard, a bu iddo wyth o blant, o'r rhai nid oes ond tri wedi ei oroesi —Thos. R. Pritchard yn Chicago, Mrs. Tir- hune. a Edwnrd Pritchard yn Racine, Wis. Cafodd y la grippe y llynedd, nc ni bubyth yn iach. Gwanychodd yn raddol yn ystod y chwe' mis aeth heibio, a gwelai pawb nad oedd y diwedd yn mhell. Deallir mai yr hwyr olaf y bu allan o'r ty oedd yn gwrando y Principal Edwards yn pregethu. Treuliodd flsoedd olaf ei fywyd yn nghartr°f clyd ei fab yn 233 S. California Ave., Chicago, He y mwynhaodd gariedigrwydd a gofal tyner ei j'rawd, ei fab, a'i fereh-vn-nghyfraith. Bu fyw yn agos i 40 mlynedd yn Racine, ac yno y claddwyd ef. Daeth nifer lluosog yn npbyd i'r angiadd yn Chicago cyn cychwyn, ac yn Racine wrth y bedd. Gweinyddwyd gan y Parchn. D. Harries, D. D., Ellis Roberts a J. R. John. DAVIES -Rhag. 24, 1890, ar Brewery Hill, Wilkesbarre, Pa., wedi cystudd caled o am- ryw wytbnosau, o'r Bright s disease, Mrs. L zzie Davies, priod Mr. John G. Davies. Claddwyd hi y dydd Gwener canlyn yn myn- went Hollenbadk. Merch ydoedd i John E. ac Elizabeth Evans, o'r un lie. Ganwyd Mrs. Evans yn Providence. Pa., yn 1867, lie yr oedd ei rhieni yn triaiianu ar y pryd. Sym- udodd y teulu i Hyde Park, ac oddi yno i Wilkesbarre amryw flwyddi yn ol. Yn 1885. derbyniwyd hi yn aelod o eglwys y Bedydd- wyr yn Wiikesbarre, pan y bedyddiwyd hi gan y Parch. S. Jones. Yr oedd hi a'r hwn sydd yn weddw heddyw ar ei hoi, wedi eu priodi gan yr un gweinidog, yn Medi y flwyddyn flaenorol. Bu iddynt bump o blant, y rhai fuont oil feirw yn eu babandod. Yr oedd Mrs. Evans yn ddynes ieuanc hynod dawel a hynaws ei hysbryd. Pan yn fercb, yr oedd ei rhodiad yn esiampl i lawer, a'r ych- ydig flynyddoedd y bu o fewn rhwymau y bywyd priodasol profodd ei bod yn llawn o nodweddion gwraig dda. a phriod dynergalon a gofalus. Bu ei gyrfa grefyddol fer yn ddi- fwlch, a phrofodd fod ganddi un i bwyso arno pan ddaeth yn awr o gyfyngder ami. Gweinyddwyd yn ei bangladd gan yr ysgrif- en ydd. W. F. D. JONEs-Ionawr 4, 1891, yn Alliance, Ohio, yr hen chwaear Mrs. Jones, gwraig yr hen frawd Daniel R. Jones, blaenor yn eglwys y T. C. Er iddi fod yn gystuddiol er dechreu yr haf diweddaf, gan ddyoddef poenau mawr ar amsernu, yr oedd yn hynod ddirwgnach, gan ymostwng i ewyllys ei Thad nefol yn yr hwn yr oedd wedi ymddiried er ys blynydd oedd. Ganwyd hi yn agos i Llanddewibrefi, Sir Aberteifi. Enw ei thad oedd John Ed- wards. Symudodd y teulu i'r gweithiau, ac ymsefydlasant yn Nhredegar, Mynwy, lie yr unwyd ein chwaer mewn priodas a'r h-tn frawd sydd yn awr wedi ei adael yn amddif ad iawn. Daethant i'r wlad hon dros ugain mlynedd yn ol, a buont yn byw yn Johns- town, Pa., am beth amser, o'r hwn le y daethant i Alliance, a buont o les mawr i'r achos drwy yr holl amser, fel y teimla yr eg- lwys ei bod wedi colli un o'rgwragedd goreu. Claddwyd hi y dydd Mawrth canlynol. Aed a'r corff i'r capel, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn, E. Evans, Youngstown; Daniel Evans Jones, Lane Seminary, Cincinnati; James John (A.), Alliance; I. C. Hughes, B. D. (A.), Palmyra; John Morgan Thomas (A.), a W. R. Jones (B.), Alliance, yr hwn yntau sydd erbyn hyn wedi ei arwain i dy ei hir gartref.- tV: J. Morris. HUGHES -Ionawr 15, 1891, yn Bevier, Mo., yr hen chwaer, Mrs. Ruth Hughes, yn yr oedran teg o yn agos i 80 mlwydd oed. Bu yn nychu am beth amser, ond cafodd bob gofal a thynerwch oddiar ddwylaw ei phiant. Ganwyd hi yn Sirliowy, Mynwy, D. C., yn 1811, lie yr ymuuodd mewn priodfis a John Hughes, yr hwn fu farw yn y lie hwn 17eg mlynedd yn ol. Ymfuoodd ein chwaer i'r wlad hon yn y flwyddyn 1849, ond yr oedd ei gwr ywa yn 1847. Ymsefydlasant yn Pomeroy, 0., oddiyno symudasant i LaSalJe, Ill., ac wedi hyny i'r lie hwn. Bu ein chwaer yn aelod ffyddlawo a gweithgar gydag enwad parchus yr Annibynwyr dros 65 o flynyddau. Priodol iawn oedd y geiriau y pregethwyd arnynt ar ddydd ei chynhebrwng, "Mi a yin- drechais ymdrech deg," &c. Mae un chwaer iddi yn byw yn bresenol yn Minersville, 0., a brawd yn y He hwn, sef D. Rowland, Ysw., yr hwn sydd yn un o ddynion mwyaf parchus a chyfrifol y dref. Y mae ef a dau o'i feibion, sef Dr. W. P. Rowland a Thos. J. Rowland, yn bresenol yn California er mwyn adgylnerthiad ei iechyd. Duw fyddo yn agos atynt pan ddygir y newydd galarus hwn i'w clustiau. Y mae hefyd iddi dri o blant yn fyw i alaru ar ei hol, sef John 11. Hughes, yr hwn .sydd fasnachwr cyfrifpl ac Ustus Heddwch yn y dref hon; MM. Mathews, pri- od y Parch. R. Mathews, M, A,, Hamilton, Mo.; a Mr. D. R. Hughes, Kansas City, Mo. Yr oedd y plant oil yn bresenol ar ddydd ei cbynbebrwng. Gweinyddwyd yn yr angladd gan y Parchn. J. J. Thompson, tL H. Owens (Monafab), a J. M. Lloyd. Deallwyf fod colianthelaethach iymddangos yn y Cenadicr. -IJewi Hydref. HUGHES—Ionawr 1, 1891, Robert R. Hughes, blaenor yn eglwys Horeb, Swydd Van Wert, Ohio. Ganwyd ef yn y Berth, plwyf Ahergele, Sir Dinbych, Tachwedd 9, 1818. Enwau ei rieni oeddynt Hugh a Mary Hughes. Gorphenaf 8, 1841, ymbriodoud ag Elinor, mcrch David a Mabella Lloyd. Sym- ndodd i'r wlad hon yn 18(19, a sefydlodd yn Radnor, Ohio. Tua wyth mlynedd yn ol symudodd i'r ardal hon. Ganwyd iddo 12 o blant, 10 o'r rhai, yn nghyd a phriod galarus f sydd yn fyw i alaru y goiled o biiod tyner a 'thad anwyl. Yr Oedd yn grefyddol o'i febyd, a pbarhaodd hyd y diwedd. Llafuriodd lawer am wybodaeth Ysgrythyrol pan yn ieuanc. Yr oedd yn gadarn yn yr Ysgrythyr- au, ac yn athruv rhagorol. Bu yn flaeaor am oddeutu 32 o flwyddi. Yr oedd yn natur- iol yn feddianol ar atluoedd meddyliol oryf; hefyd, yr oedd yn feddianol ar gorff cadarn, ac wedi cael iechyd da trwy ei oes hyd odd- eutu dwy flynedd yn ol, pan y cymerodd af- iechyd afael ynddo, yr hwn a brofodd ei hun yn tumor yn yr ystumog, ac a brofodd yn farwol. Er fod y cystudd yn faith ac yn galed, eto cafodd nerth i ymostwng i drefn Duw. Cyraeddodd yr oedran teg o 72 mlyn- edd. Bu farw gan ddwyn tystiolaeth ei fod a'i bwys ar yr Iesu, a bod yr Iesu gydag ef. Yr oedd gwrthrych ein cofiant yn un o bump o frodyr, pedwar o honynt yn flaenoiiaid, ac un yn bregethwr. Dydd Sadwrn, lonawr 3ydd, daearwyd ei gorff yn mynwent Horeb. Gweinyddwyd yn y ty gan yr vsgrifen dd, ac ar lan y bedd gan y Parchn. Isaac Edwards, Jackson, Ohio, a Thos. Roberts, Venedocia. Y Sabboth canlyno1 pregethwyd pregethau angladdol iddo gan yr ysgrifenydd a'r Parch. Isaac Edwards. Ymddengys coifant helaeth- ach a chyflawn yn y Gyfaill. D. Jeiceti Davies. y perthynasal1 yn Nghymru, dymunir i'r papyran yno grybwyll am y marwolaetbau biaenorul. -4^-

Gochelwcli bob Enaint at Catarrh…

Gtofynwcli i'eh Cyfeillion…

Advertising

THE COLLIERY ENGINEER POCKET-BOOK.

Iachau Unig Ferch o'r Darfodedlgaeth,