Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

NEWYDDION YR HEN WIAD

News
Cite
Share

NEWYDDION YR HEN WIAD CRVNODEB .O'R NEWYDDIADURON._ A Gyraeddasant New York gyda'r Agerlong- au i fyny i IMydd Mawrth, Ion. 7, 1800. GOGLEDD CYMRU. —W. N. Griffith, M. A., sydd wedi ei ben- odi yn brif athraw ysgol ramadegol Clynog yn Arfon, yi hwn svdd i gael ei hail agor y mis hwn. -Fel yr oedd dau low:, o'r enwau John Drury a John Hughes, yn dylyn eu gwaith yn siafft Alnn Bank ger y Wyddgrug, cwymp- odd swm mawr o lo arnynt, a chladdwyd hwy yn gyfangwbl. Yr oedd y ddau yn hollol V., farw pan ddarganfyddwyd hwy. -Y dydd o'r blaen, cymerwyd W. Hughes, cigydd Plas Isa, Trefriw, i'r ddalfa gan y Rhingyll Owen, Bettws-y-coed, a'r Heddgeid- wad K vans, Trefriw, ar y cyhuddiad o ladrata dafad berthynol i Pierce Evans, Tai Isa, Llanrhochwyn. Bu y carcharor o flaen yn- adon Bettws-y-coed, ond gohiriwyd ei brawf. Canfyddwyd y ddafad golledig yn lladd-dy y carcharor, wedi ei lladd a'i blingo, gyda'r clustiau wedi eu tori ymaith. -Mewn cyfarfod diweddar o dan lywydd- iaeth Mr. Sanbach, pasiodd plwyfolion Llan- gerniw yn ffafr fFordd haiarn newydd trwy Ddyffryn Elwy. Penderfynwyd anfon y pen- derfyniad i Syr Richard Moon, a Syr Edward Watkin, A. S. Teimlir fod cangen-linell yn dra angenrheidiol yn y rhan hon o'r wlad, gan fod y cyfleusderau teithio yn hyilod brin. AUTURIAETHATJ PWYSIG YN Y GOGLEDD.—Yn mysg cyfnewidiadau pwysig eraill ag y maent ar fedr eu gwneuthur ar eu heiddo yn Ngog- ledd Cymru, bwriada Cwmni Ffordd Haiarn Llundain a'r Gogledd-Orllewin adeiladu gor- saf newydd yn Llandudno; a chan y bydd i'r swm o 30,000p. gael ei wario i'w chwblhau, gellir meddwl y bydd yn adeilad gorwych ac ysblenydd. Hefyd, y mae yn mryd y cwmni adeiladu mor-fur oddeutu milldir o hyd, i gyraedd o orsaf Penmaenmawr hyd y gwaith nwy perthynol i'r dref hono; yna gosodir col- ofnau cynaliol i lawr o dan furiau Castell Conwy sydd yn terfynu ar y llinell. Yn goron ar y cwbl, bwriedir cysylltu Llanrwst a Threfriw trwy gyfrwng llinell drydanol, yr hon fydd y gyntaf o'r natur hwn o fewn yr holl ogleddbaarth. GWRAIG YN HOFFI CERXFLEW. Y mae achos lied hynod a dyddorot newydd gymeryd lie yn Connah's Quay. Aeth gwraig i longwr ieuanc, sef mate Hong fasnachol, ar fordaith gydag ef i borthladd yn Ysgotland. Wrth ddychwelyd, trodd y Uestr i mewn i borth- ladd Millom, ac amlygodd y wraig ei bwriad i ddychwelyd adref gyda'r tren. Aeth ei phriod gyda hi i orsaf y ffordd haiarn; ond erbyn iddo ef, druan, gyraedd Connah's Quay, yr oedd llythyr yn ei aros, yn yr hwn yrhysbys- ai y wraig ei bod wedi penderfynu ei adael am byth, am nas gallai fyw yn hwy gyda dyn heb ddim cernflew (w/dskers). Ni chlywyd gair oddiwrth y wraig anffydillawn. ar ol hyn, ac y mae y gwr wedi gwerthu ei ddoclrefn a myned i letya. CIcrcCIETH.-Adeiledir amryw o dai new- yddion yn y lie hwn. Mae ysgol amaethydd- ol y Parch. John Owen, M. A., yn parhau yn ei bri, a llawer yn ymuno a hi. Un diwrnod taflwyd yr ardal i brudd-der gan y newydd fod W. Rowlands, Ornsby-terrace, wedi cyfar- fod a damwain yn Calcutta, trwy syrthio ar y llong First Lancashire, yr hyn a drodd yn angeuol iddo. Claddwyd ef yno yn barchus. Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu yn eu prof- edigaeth.

DEHEUDIR CYMRU.

MARWOLAETHAU CYMRU.¡

GAIR 0 ESCANABA, 3IICH. .-

MILWAUKEE, WISCONSIN.

Teilwng o Ystyriaeth.

Advertising

Y llARCHNADOEDD.

Advertising

[No title]

SEFYDLIADAU NEW YORK A VERMONT.

Tystiolaethau Diamwys.

Sut Mae Hyn ?