Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

Russell Gulch, Colorado.

News
Cite
Share

Russell Gulch, Colorado. RTTSSELL GULCH, COL., Ion. f.-Ar yr 20fed o Dachwedd, unwyd ein cyfaill R. O. Hughes mewn glan briodas gyda Miss Anne L. Wil- liams o Cambria, Wisconsin, yn Denver, gan y Parch. Wm. Charles, ac ar ol treulio ych- ydig'ddyddiau yn y ddinas hono dychwelas- ant yn ol i Russell ar y 25ain. Yr oeddid wedi darparu yn helaeth ar gyfer eu dyfod- iad, gan Mr. W. N. Jones a'i briod, ac yn yr hwyr ymgasglodd torf o ewyllyswyr da y par ieuanc. Cafwyd datganiadau gan amryw o'r cerddorion o ddarnau cyfaddas i'r am- gylchiad; hefyd cafwyd anerchiadau dyddor- ns gan y beirdd, ac yn eu mysg yr oedd Gwilym Afan yn ei hwyl arferol. Anrheg- wyd Mr. a Mrs. Hughes a llawer o roddion drudfawr a defnyddiol, am y rhai y teimlant yn ddiolchgar iawn. Ni chaniata gofod i en- wi neb. Sabboth, Rhag. 22ain, cawsom ein han- rhydeddu a phresenoldeb y Parch. D. Ed- wards o Denver. Yr ydoedd yn ei hwyliau goreu; mae iddo le cynes yn mhob calon yn ein hardal, yr hyn a brofir gan y cynulliadau a ddeuent i'w wrando. Nos Fawrth y 24ain, cafwyd hwyl gyda'r goeden Nadolig. Llafur- iwyd i gasglu at, ac i addurno y goeden a rhoddion gan y boneddigesau a ganlyn: Mrs. W. P. Williams, Mrs. J. P. Jones, Miss Jen- nie Hughes, Miss E. Lewis, a Miss Maggie Davies. Llywyddwyd yn y cyfarfod gan Mr. W. J. Richards (Gwilym Afan). Cafwyd amryw o adrodefiadau gan y plant, hefyd datganiad swynol gan Lizzie a Susie Jones; yna rhanwyd y rhoddion rhwng y lluaws, a boddhawyd pawb.-Ab loan.

DYFFRYN Y WYOMING, PA,

PYTIAU 0 PITTSBURG, PA.

CERDDORIAETH Y CYSEGR.

PROVIDENCE, SCRANTON, PA.I…

[No title]

[No title]

Family Notices

Y BEIBL CYMRAEG.

[No title]

1 Almanac y Gweithiwr am 1890.

Y Bedd Sy'n Blino Aros,

Gofynwcli i'ch Cyfeillion…

Advertising

AMAETHYDDIAETH.