Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

, EISTEDDFODAU Y CALAN.

News
Cite
Share

EISTEDDFODAU Y CALAN. J GWYL FAWR CHICAGO. Kisteddfod Genedlaetliol yn Llwyddiant .$—Cor Racine yn Enill y Brif Wobr— Neb yn Deilwng o'r Gadair. f°DDlWSTH EIN GOHEBYDD D. R. WILLIAMS.] & Chicago, Ion. 3. Dechreuodd y Cymry 18'0lw y ddinas yn mhell cyn dyddiau yr Eis- ffl ^<idfod—arwydd o ysbryd Eisteddfodol anal- ly J*ol. Daeth rhai yma wythnos gyfan cyn y Calan. Rhwng swn y dyrfa yn dod o bell, a Eisteddfodol yn llanw clustiau miloedd 'It' ChIcago, nid rhyfedd i'r Eisteddfod droi all- sb: I\n yn llwyddiant mwy nag a welwyd eto yn d ^'lad lion, Yr oedd brwdfrydedd Gwilym S y tu allan i'r ddinas, yn el fen bwysig Yn ei llwyddhnt. Elfen arall oedd fod corau Pi ^Wrion yn dyfod o Minneapolis a Racine, #5' ^eblaw o Gomer, O.—yr oil yn bwriadu yn S^fiawn lorio cantorion Chicago. Bore dydd $e, Calan trwm oedd gweled y gwlaw yn disgyn f :\)lor ddisymwth ac annysgwyliadwy, nes d- gwneyd yr heolydd yn hynod anghysurus; cjj, dymunol oedd gweled gwynebau siriol a jy. ^rddonol John Edno Roberts, Oshkosh; John B. Lodwick, Youngstown; Tenorydd Tpchno, Ap Mawrth, a Gwilym Eryri yn ymr ^aoiychu gan y mwynhad Eisteddfodol, a'r £ tri Wdd yn englynu am y goreu i reilffyrdd rj. y Chicago, Milwaukee a St. Paul, &c. Am 2 o'r gloch, er gwaethaf y gwlaw a Ptob peth, dacw y rhan fwyaf o seddau un o fteUaddau goraf y wlad—y Central Music j Sail—yn llawn o Gymry, Americaniaid ac Ell- j. ^yniaid, oblegid yr oedd cymdeithasau Ger- v ^anaidd y ddinas wedi amlygu y mynent i« t pa beth ydoedd Eisteddfod. SAMUEL JOB, YSW., PULLMAN, ILL. Cytnerodd y Llywydd gweithgar a bonedd- 1.gaidd Samuel Job, Ysw., Pullman, y gadair, a dYDla Gwilym Eryri fel arweinydd yn ym- atlYd yn awenau y cyfarfod. Ar yr esgyn- l^r yn mhlith eraill yr oedd Proff. John P. °&es, yr Ysgrifenydd E. G. Lloyd, Proff. Poiadoc, Proff. D. Y. Thomas, Robert bomas, John Edw ards, Dr. D. J. J. Mason, beirniad cerddorol; Tenorydd Machno, 8aac Daries, William Wynne Jones. Dyma refn y cyfarfod cystadleuol cyntaf: Can. agoriadol, "Mae hen wlad fy nhadau," P Mawrth, a'r holl gynulleidfa yn uno yn y ^ydgan. Anerchiadau barddonol gan Gwilym /yn, Wil. Charles Jones, Moriog, W. Llew- 5^ Rees, Win. Jones, Proff. Apmadoc, John Hk Edno Roberts, Isaac Davies, j^siart Ddu o Fon, Llwydfab, R. R. Wil- o Michigan. Wele rai o'r ymfflamych- 1I\dau: Hawddamor hen Eisteddfod, Boed parch i'th heuaint mawr, Ymgrymwn, gynulleidfa O'i blaen yn wyl hyd lawr; Daeth atom draw o'r cynfyd Drwy anhawsderau blin; Bu'n meithrin ein llenyddiaeth Am oesoedd ar ei glin. Er bod yn hen o ddyddiau, Nid yw hi'n llesg ychwaith, Mae'i hysgogiadau'n chwimwth, A'i dwylaw'n llawn o waith; Gofalwch chwi'n Chicago, Na roddwch un sarhad Ar arwyl ein henafiaid,- Cyd-seliwch ei pharhad.-R. R. W. Reist, Job sy bob awr yn bur—i'w wlad; Dyna ei lwydd a'i gysur; Ni fona, ni sora'n sur- Un a'i wthiad ar wneuthur. Odiaeth fel gwleidiadwr-o bur ddawn; Barddonol areithiwr; Crodidog ae enwog wr, A gwrol, gall wladgarwr. itia ei em araith y moria-yu mlaen! Yn mh'le bu ddiwedda'? Ai nid ef megys dyn da A diwniodd Indiana ? G'iViIYrn Eryrfab Gwalia-gwir odiaeth Greawdwr Dakota; o ddawn deg, mae yn ddyn da, Was moliant, a chap ysmala. **ol, weithiau'n erwin—ei galoa Sy'n gwylio'r gorllewin; ^rddol wr, a'f farddol win nydia yn anghySredin. —Apmadoc. Hfct •h* • coegir yn Chicago—haeddfawr Eisteddfod y Cymro ten frawd hyd estron fro A ddilynaW(jcj hwyl hono. ^ydd hon fu'n inisoedd haf—yn denu'n Gwyr doniol uchelaf j- gywain bri, enwogion braf, •L>aaw o honi'n rhwydd, honaf.—Edno. bU. D. J. J. MASON, WILK^SBARBE. Job Y Seisnig gan y Llywydd, Samuel teddfod^ ^dfi-ydig iawn dros yr Eis- Ry(ja Derbyniwyd yr holl anerchiadau Aiieuri ^5lerac^'}'aeth mawr. Beirniadaeth cv yr unig Gywydd "Llyn BeirniT, ,a ddaethai i law; pnnheilwng. Ju aet" ar dri phar o hosanau; heb fod Nigjjt»o'r wobr. Quartette "Silent $20. Ap Mawrth, y* deilwng o'r au H. Humphrey ar y traethod- Relating to Marriage and Allien Parch. John Morgan Thomas, 8anVa^ < iri °' yn fuddugol. Can, James ° ^ofia am dy dad fel y bu farw ef;" ac fel encor canodd gan Seisnig. Cys. ar y Piano jSolo, "Flower Song," Annie Peate, Racine, yn oreu o bump. Beirniadaeth Aneurin Fardd ar yr englynion i'r "Bladur;" derbyniwyd 43, ac yr oedd dau yn deilwng o sylw, ond y goreu o'r ddau ydoedd eiddo David Jones (Dewi Ogle) Franklin, Washing- ton. Dyma yr englyn: I dori gwair, da, rhagorol-ydyw Y Bladur ddefnyddiol; A daw yr yd ar ei hoi I'w ystodau'n wastadol. Can, Robert Lloyd (Eos Madog) "Rule Britania, a pharti yn ei gynorthwyo. Beim. G. H. Humphrey ar y Traethodau "Gwyrth- iau yn eu Perthynasa Deddfau Natur," gwobr $25, goreu eiddo y Parch. R. S. Jones, Provi- dence, Pa. Cystadleuaeth datganiaeth y Male Chorus, "Y Gof," $50, gan yr Oskaloosa Club, Iowa; Gomer Choir, Ohio; Racine Choir; Chicago Club; cor Racine yn oraf. Canu "America" dan arweiniad y Proff. John P. Jones. Beirn. John Rees, Chicago, ar y "Cernad ar faen o'r Ddraig Goch yn sefyll rhwng dwy geninen;" enillwyd y wobr o $15 gan John R. Williams, Chicago. Y CYNGERDD NOS FERCHER. Yr oedd tair mil o bobl yn y Central Music Hall yn y cyngerdd hwn; a'r brwdfrydedd dros yr ymylon. Nis gellir gwneyd cyiiawn- der a'r canu a chware y telynau mewn ad- roddiad. Dyma y drefn: "America," Proff. John P. Jones yn arwain; "Codiad yr Haul" gan gor yr Eisteddfod gyda band y telynau, a Proff. Apmadoc yn arwain, yr hyn greodd frwdfrydedd mawr, gan ei fod yn beth new- ydd; "Merch Megan" gan y pum' telyn, yn odidog, ac Apmadoc yn eu harwain; can, "Clychau Aberdyfi" yn orchestol gan Miss Gracie E. Jones, a Madame Chatterton yn cyfeilio iddi ar y delyn; unawd ar y delyn gan Madame Chatterton "Welsh Bardic Illus- trations," a gyfansoddwyd gan ei thad, Fred- erick Chatterton, am yr hyn yr urddwyd ef gan Gymrodorion Llundain yn "Fardd y Delyn;" can, gydag encor, gan James Sau- vage, "The Toreador Song" yn gampus; tri- iwd ar y telynau, "Alawon Cym- reig" yn ardderchog, ac anrhegwyd y boneddigesau a blodau costfawr; cau, "Y Fam a'i Baban" yn glasur- ol gan Miss Mollie Evans, Milwau- kee; canu penillion gyda'r delyn, Madame Chatterton yn chware, gan Proff. Apmadoc, gydag encor brwd- Erydig, ond gwrthododd ateb; can, "Gogerddan," gan James Sauvage. Cystadleuaeth gorawl am y wobr o 5150 ar y cydgan "Unto thee, 0 God" (John P. Jones) rhwng ped- war cor-cor Maplewood, cor West- ern Ave., cor yr Ysgotiaid, a chor P,aciiac-gyda brwdfrydedd mawr, y gynulleidfa orfawr yn gwrando y cyfan gyda. boddhad neillduol. Cyn y feirniadaeth, cafwyd can yn od- idog gan Miss Gracie E. Jones; Piano Solo gan Tonzo Sauvage, a "Hen Wlad fy Nhadau," gan Mald- wyn Evans, a thair mil yn canu y cydgan, Proff. Frank Hughes yn cyfeilio ar y Pipe Organ. Yna y feirniadaeth gan Dr. Mason, a phawb yn glustiau i gyd. Ar ol sylwadau ar bob cor, dyfarnodd y wobr i gor y Western Avenue, yn nghanol banllefau cymeradwyol; arwisgwyd yr arweinydd, Ap Mawrth, ar wobr mewn cwdyn hardd, gan Mrs. D. R. Jones. Y GWEITHREDIADAU DYDD IAU. CYFARFOD Y BORE AM HANER AWR WEDI DEG. Llywydd—Parch. W. C. Roberts, D. D., Principal Lake Forest University; Arweinydd, Proff. W. Apmadoc. I agor y cyfarfod caf- wyd can "Hen Gymru Wen," gan Tenorydd wyd can "Hen Gymru Wen," gan Tenorydd Machno, a bu raid iddo ail ganu. Anerchiad- au y beirdd: Apmadoc dros y Parch. Lewis Meredith (Lewys Glyn Dyfi) a ddarllenodd a ganlyn: Eisteddfod hynod enwog-hwyl iddi, A hael lwydd ardderchog; Caed hon yr urdd goronog 0 enw glan a gwawl yn glog. Lion ysbryd a lien asbri-aruchel Fo'n wreichion byw drwyddi; A gwneled maint ei braint a'i bri I'r miloedd lawer ei moli. Dylynwyd gan John B. Lodwick, Youngs- town; Gwilym Eryri i Apmadoc; W. Jones, Chicago, i Apmadoc; Glan Tawe o Racine; Parch. J. M. Lloyd i James Sauvage; Moriog i'r Eisteddfod; Llwydfab dros W. W. Row- lands, Cambria; J. Edno Roberts; Dr. Emlyn Jones yn Saesneg. Cystadleuodd chwech ar y Bass Solo, ond y goreu oedd Dan Davies, Milwaukee. Beirniadaeth y Parch. H. O. Rowlands, D. D., o Elgin, Ill., ar y traethod- au "Sefyllfa Merched mewn Cymdeithas," gwobr $20; ac ail wobr $10; Mrs. E. Coaway Davies, New York, yn oreu, a Mrs. William Jones, Chicago, yn ail. Can goffadwriaethol am y diweddar Barch. David Williams, Chi- cago, goreu eiddo John Jones (OguMydd), Tregarth, Bangor, G. C. Beirn. L. Glyn Dyfi ar y Cyfieithiadau "Cymeriad Washing- ton;" neb yn deilwng o'r wobr ($10). Cys- tadleuaeth Gorawl "Awake, Æolian Lyre," gwobr $50-rhwng pedwar o gorau yn rhifo o 20 i 24, sef cor Ben Phillips, cor Racine dan arweiniad E. O. Jones, cor Maplewood dan arweiniad George Roberts, a chor Western Ave dan arweiniad Rees Price (Ap Mawrth)— y cyntaf yn fuddugol. Can, "Hen Wlad y Menyg Gwynion" gan Maldwyn Evans o Cin- cinnati, yn rhagorol. Cys. adroddiadol, "Machludiad yr Haul," gwobr $5-Miss Rob- erts o Minneapolis yn oreu. Chware "0 Father whose Almighty Power," gan seindorf o Pullman dan- arweiniad Mrs. Samuel Job, yn deilwng o'r wobr ($50). CYFARFOD Y PBYDNAWN AM DDAU. Llywydd, Parch. W. C. Roberts, D. D.; Arweinydd, W. E. Powell, Ysw. (Gwilym Eryri). Can agoriadol, "Cymru Lan GwladyGan," gan Owen R. Williams. Anerchiadau bardd- oJ-Gwilym Eryri, Idwal Mai, yn cael eu dar- llen gan yr ysgrifeaydd; Morfryn, W;1 Charles Jones (Gwilym Bedw), William Jones, Chicago, Edno Roberts, John R. Williams, John B. Hughes, ac Apmadoc i Dr. W. C. Roberts fel y canlyn: Roberts mewn dysg ac an.bedd-a foes Ar yr wyl anrhydedd; Mawr mewn gwlad, a mawr mewn gwledd, Mawr ei enaid am rinwedd. Yr athrofa fawr, ei thrafod-ydyw Holl rawd ei gydwybod; Yn glir, Lake Forest yw ei glod, A'i henw am ddysg sy'n hynod. Didrai ei nwyf didroi'n ol—yn ei waith; Un wyr werth Prifysgol: Gyrwr blaen, geiriwr heb lol A boneddwr beunyddiol. Doethawr y w'n dysg-fendithio—llawn noddwr Llenyddiaeth ddiwyro; Athrofa'r Llyn, pob bryn, pob bro, Dda alledd, a wna ddiwyllio. Anerchiad y Llywydd a'r Prifathraw Dr. Roberts, a barn pawb yw fod yr Eisteddfod wedi gwneyd gwasanaeth i'r genedl trwy dynu allan y fath aneichiad gwerthfawr. Yr oedd tan areithyddol y Doctor yn llosgi yn ogoneddus. Dylid argraffu yr araeth. Cys. triawd, "God, be merciful," tri parti yn canu, yr oil yn annheilwug. Can. "Ein Hiaith," gan Ben Phillips, yn wir dda. Beirniadaeth Aneurin Fardd ar y Farwnad i'r diweddar Dr. Roberts (Nefydd), goreu, D. Onllwyn Brace, Aberdar. Cys. Soprano Solo "Remem- brance" (J. F. Hughes), gwobr $5; dwy yn canu, a'r ddwy yn aunheilwng. Can, James Sauvage, "Pe cawn i hon," ac fel encor caw- som "Bunker Hill." Beirn. Dr. Rowlands, Elgin, ar y prif draethawd, "The Declaration of Independence of the United States of Am- erica"-goreu, Parch. T. G. Jones (Tavalaw), Antrim, Pa., gwobr $100. Violin Solo "Han- del's Largo" i rai dan 18 mlwydd oed; Lory Rand yn deilwng o'r $5. Cys. Tenor Solo, "Total Eclipse," gwobr $5, O. E. Aaron, Ra- cine, yn oreu o saith. Yn awr, at gadeirio am yr Awdl oreu ar "Gristionogaeth"—gwobr,$100 a chadair dderw gwerth $50-a theimlai y dorf fawr ddyddordeb angerddol ar unwaith. Penod- wyd Apmadoc yn Master of Ceremonies, a phan oedd deuddeg o anfarwolion yn haner-cylch y tu cefn i'r gadair dderw hardd o waith y Rees Brothers, y cleddyf wrth law, ac udgorn yn ymyl, a phawb yn dysgwyl am gadeirio bendigedig, dyma yr ysgrifenydd Lloyd yn datgan fod Aneurin Fardd wedi rhoi ei feirn- iadaeth o dan seliau lawer, yn nghyda llythyr mai Llywydd y cyfarfod, ar fynyd y cadeiiio, oedd i dori y sel. Gwnaeth Dr. Roberts hyny, a cheisiodd gan Apmadoc ddarllen y dyfarniad, yr hyn a wnaeth, ac 0! siomedig- aeth, gan nad oedd gwobrwyo i fod, ac felly dim cadeirio! Teimlodd y dorf siomedigaeth arswydol, a chlywyd llawer yn ochain yn uchel. Ar ol i Apmadoc gyhoeddi y dyfarn- iad yn Saesoneg, oanodd Miss Gracie E. Jones "Gan y Cadeirio," a hyny mewn gwisg Gym- reig ysblenydd. Mynasom y gan, os na chawsom y cadeirio. Caiff y cyhoedd weled y feirniadaeth ar fyrder. Cystadleuaeth corau y merched—"Bridal of the Birds;" gwobr, $30; ail oreu,$20. Goreu, cor Miss Gracie E. Jones; ail oreu, cor Racine. YR AIL GYNGERDD, NOS IAU. Llywydd, Parch. W. C. Roberts, D. D. I. America, dan arweiniad Apmadoc. 2. Mrs. Alltwen Bell, Lima, Ohio, 'Merch y Melinydd," yn odidog. 3. Eisteddfod Chorus, "Hob y Deri Danno," dan arweiniad Proff. Apmadoc, gyda Band of Harps, pupils Madame Chatterton, yn chware. 4. Solo, gan Master Tonzo Sauvage, 'Rec- ollections of Wales." 5. Duett, "Marriage of Figaro," James Sau- vage a Miss Gracie E. Jones. 6. Harp Solo, Madame Chatterton, "Tyr'd ataf pan dclelo y dydd," Cafodd y Madame flodau persawrus. 7. Can, "Y Bachgen Dewr," Jas. Sauvage, ac fel encore can odd "Simon the Cellarer." 8. Triawd y Telynau, yn rhagorol dda 9. Beirniadaeth Oil Painting, gan Alfred Payne, Ysw., Chicago; dau ddaeth i law, un yn ddarlun o Gastell Conwy, a'r Hall yn Landscape—y cyntaf yn oreu. 10. Can, "Across the Dee," Miss Mollie Evans, Milwaukee, yn chwaethus a da. 11. Cystadleuaeth Gorawl am y brif Wobr, $500, am ddatganu, "As the Hart Pants," a "Then round about the Starry Throne;" pedwar cor— cor Minneapolis, dan arweiniad D. E. Jones; cor Western Avenue, Chicago, dan arweiniad Rees Price (Ap Mawrth); Scot- tish Choir, Chicago, dan arweiniad David Ro- berts; cor Racine, dan arweiniad Evan James -yr olaf yn fuddugol. 12. Can, "Mentra Gwen," Proff. Maldwyn Evans. 13. Can, Miss Gracie E. Jones, "Y Gardot- es Fach." 14. Can, "Laughing," James Sauvage. 15. "Bydd myrdd o ryfeddodau," o dan arweiniad Apmadoc, y gynulleidfa o ddwy ill a haner yn cydganu yn angerddol o ddylan- wadol. Y m ae Eisteddfod Chicago wedi bod yn fwy o lwyddiant nag a ddychymygwyd gan neb— swm y derbyniadau eisoes tua $2,OCO, a'r tocynau heb ddyfod oil i mewn eto. Tybir y bydd yn agos i fil o ddoleri ar law ar ol talu yr holl dreulion. Am foneddigeiddrwydd, brwdfrydedd, a dyddordeb, ystyrir na chyn- aliwyd yn y wlad hon eto yr un debyg iddi. Cynelir Eistaddfod gyffelyb eto y flwyddyn nesaf, neu yn 1892.

[GYDA'R PELLEBYR TANWERYDDOL.]

MANION PELLENIG.

EISTEDDFOD DALAETHOL IOWA.

EISTEDDFOD GLANAU Y TAWELFOB.

[No title]

EISTEDDFOD UTICA, N. Y.

CYMRY DINAS Y CARIAD BRAWDOL.

[No title]