Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
29 articles on this Page
Advertising
1851-Y DRYCH-1890 NEWYDDIADUR CENEDLAETHOL. CYHOEDDEDIG BOB D YDD IAU. Pris yn MJaea. Llaw -$2.00 Ar ol Tri Mis 2.50 Pris i Gymru, tal yn mlaen llaw yn ddieithriad- 2.50 HYSB YSIAD A U am Brisiau Rhesymol. Anfoner am ein Teleraa. ANFONER ARIAN MEWS PosT OFFICE ORDER, POSTAL NOTE, REGISTERED LETTER, NEU MEWN DBAFT AR NEW YORK, TALADWY I']& PERCHHWOG— T. J. CRIFFITHS, Bit YCII OFFICE, UTICA, N. Y. YMENYN AR GOMISIWN. DAVID W. LEWIS & CO.. 177 & 179 CHAMBERS ST., NEW YORK, [Rhwng Washington a Greenwich Sts.] YMENYX NEWYDD. LL.01 WEDI EU LLADD, &c„ ar werth ar Gomisiwn. Antonir arian mor fuan ag y gwerthir hwy. G-elwch gyda ni pan yn y ddinas. D. W. LEWIS. t Premiums Premiums t SUBSCRIBE FOR THE CAMBRIAN FOR 1890. An English Monthly Magazine for t, the Welsh-American People. NATIONAL AND NON-SECTARIAN. Subscription Price S1.25 Per Year. REV. E. C. EVANS, M. A., REMSEN, N. Y., EDITOR AND PUBLISHER. Specia! Features for 1890. LARGE PORTRAIT OF REV. W. C. ROBERTS, D. D., in January number. THE POPULAR PICTURE CHRIST BEFORE PILATE," sent FREE by mail to EVERY SUBSCRIBER PATIWG IN ADVANCE. Address- REV. E. C. EVANS, Remsea, Oneida Co., N. Y. EISIAU GWEINIDOG. Dymuna Eg- JLJ lwysi Cynulleidfaol Black Diamond a Frank- lin, Washington, wneyd ym hysbya fod arnynt eis- lau gweinidog-un a all bregethu yn Gymraeg a Saesneg. Sicrbaut iddo un fil o ddoleri y flwydd- yn o gytlog. (koheber a THOMAS H. WILLIAMS, Franklin, King Co., Washington. HUGH ETANS a ddymuna hysbysu ei fod wedi syiaud yn ol i'w hen anedd cyfleus, 57 Columbia, Street, Utica, ac fod ganddo le i gadw ychydig o o fyrddwyr, fel cynt. Cartref Cymrelg cysurus. EIN GOHEBWYR. Un Oedd Yno, NEWBUKG.—Ni welsoch yn dda ymddirled 1 ni eich enw priodol. felly i'r fasged yr aeth yr ysgrif. 0 ran hyny, dyna y lie y gwna leiaf o ddrwg. Diaelod, HYDE PARK.—Ymddengys 1 ni eich bod yn ymyraeth A materion nad yw yn perthyn i chwi o gwbl. Tybiwn fod yr aelodau yn alluog i bendorfynu pethau fel hyn yn annibynol ar awg- rymiadau allanolion. Hejilaw hyny, ni ymddir- iedasoch i ill eich enw priodol.
[No title]
z BERNIR fod deunaw tuilell o ddur yn cael eu gwisgo ymaitk bob dydd ar reilffordd y London & North Western yn Lloegr gan rwd a threuliadau.
[No title]
CYN i STANLEY gychwyn o Zanzibar rhodd- odd Sultan y He hwnw iddo arwydd urdd y Seren Fflamllyd. Ai tybed nad yw HENRY M. wedi diflasu ar ryw anrhydedd rhad o'r fath (
[No title]
DYDD Gwener diweddaf, bu farw Proffeswr CHARLES AUGUST HABE, o Brifysgol Jena. Adwaenir ef yn y wlad kon yn benaf fel awd- wr "Bywyd Crist," yn amser y ddadl fawr gyda STRAUSB. 4.
[No title]
DYWEDIR fod y Czar bron a gwallgofi gan ofn am ei fywyd. Pwy all dosturio wrth y gormeswr, yr ysbeilydd, a'r Uofrudd Ych- ydig iawn, heblaw penaduiaid Ewropaidd. I lawr yr elo gorthrymydd y bobl!
[No title]
SYNIR pobl Sir Allegheny, Pa., gan alluoedd cerddorol ETHEL JONES, merch dair ar ddeg oed i'r Parch. EDWARD JONES, gweinidog Wes- leyaidd. Chwareua y darnau clasurol an. hawddaf gyda rhwyddineb a chywirdeb. Darperir i'w hanfon i gael addysg yn Ewrop. +.
[No title]
YN ystod y ddwy flynedd ddiweddaf, lladd- wyd 13 o bersonau yn ninas New York trwy iddynt fyned i gyffyrddiad a gwifrau y goleu- ni trydanol. Gellid meddwl fod hyny ei hunan yn ddigon o reswm dros fynu rhoddi y gwifuau peryglus hyny dan y ddaear.
[No title]
TRA. yn cloddio dan hen adeiladyn ninas Mexico, yn ddiweddar, aeth y gweithwyr ar draws hen goffr a gynwysai$300,000. Cyf- iawnha hyny y syniad cyffredin fod wmbredd o drysorau henafol yn guddiedig yn y wlad hono, a thrwy yr oil o ganolbarth America. ♦- —
[No title]
GYDA dechreu y flwyddyn hon, aeth i rym yn Ohio gyfraith EVAN DAVIS i orfodi rhieni a gwarcheidwaid i anfon plant rhwng saith a 14 mlwydd oed i'r ysgolion cyhoeddus, i ddysgu y cangenau buddiol. Credir na cheir 11awer o anhawsdra i fynu ufudd-dod i'r ddeddf. ♦
[No title]
CYNYDDA yr arwyddion mai chwedl dwyll- odrus o bwrpas oedd yr hysbysiad a ddan- fonwyd rai wythnosau yn ol, fod Dr. PETERS wedi ei ladd yn Affrica. Cafwyd yn ddiw- eddar lythyr oddi wrtho yn teithio i'r gor- llewin o fynydd Keaia, gvda'r amcan o ad- feddianu i Germani yr hya a roddwyd i fyny trwy ymadawiad EMIN BEY gyda STANLEY.
[No title]
ADNEWYDDIR y darogan fod yr Americanes oludpg, Miss GWENDOLINE CALDWELL, a'r ty- wysogyn MURAT wedi trefnu eu materion fel y gallont briodi. Ca hi fod yn "Dywysoges" am hyny o gynysgaeth arianol a welo hi yn dda roddi iddo. Da genym fod yr American- es wedi cael yr ysgogyn penfain i lawr i'w thelerau ei hun. Ond gwell o lawer fuasai t iddi briodi Dyn yn ei gwlad ei hun.
[No title]
ERBYN hyn y mae deddfwrfa Montana wedi ethol dau Seneddwr Gwerinol i fyned i Wash- ington, sef Mri. W. F. SAXDEKS a T. C. POWER, Yr olaf oedd yr ymgeisydd Gwerinol am Lyw- odraethwr a orchfygwyd trwy fwyafrif bych- an gan y Democrat TOOLE yn Tachwedd diweddaf. ♦
[No title]
Nos Lun yr wythnos a liasiodd, yn St. Albans, Lloegr, yn 39 mlwydd oed, bu farw Dr. W. OSWELL LIVINGSTONE, unig fab byw Dr. LIVINGSTONE, y teithiwr Affricanaidd. Gofidiai a'i anadl olaf am nas gallai weled HENRY M. STANLEY cyn ei fyned i beidio a bod mwy.
[No title]
YCHYDIG amser yn ol, pan oedd Miss MARY MORGAN, Camden, N. Y.. yn sefyll i fyny i briodi HENRY BROWN, a phan ar fin rhoddi ei hatebiad cydsyniol i gwestiwn y pregethwr, ysgrechodd ei bod yn gweled ysbryd ei mam a fuasai farw bedwar mis yn flaenorol, yn ei gwahardd i briodi, a syrthiodd i'r llawr mewn llewyg; ac nid yw y briodas wedi ei gorphen etc. Ofergoeledd ac hysterics.
[No title]
An yr ail o fis Hydref agorwyd Prifysgol Clark yn Worcester. Mass., gyda seremoniau priodol, yn ngwydd lluaws o bobl, yn mysg y rhai yr oedd y sylfaenydd ei hun, JONAS G. CLARK, y Seneddwr GEORGE F. HOAR, STEPH- EN SALISBURY, CHARLES DEYENS, JOHN D. WASHBURN, a llywydd y sefydliad newydd, C. HALL. Rhaid i'r Brifysgol hon esgyn yn bur uchel i beidio bod yn nghysgod Harvard ar y naill law a Yale ar y llaw arall; ond nid yw y rhwystrau ar ffordd ei llwyddiant yn anorchfygol. Cychwyna ar ei gyrfa gyda di- gonedd o arian, beth bynag.
[No title]
YN nghyfarfod blyDyddol olaf y National Educational Association darllenodd Proffeswr SMITH, o Brifysgol Vanderbilt, bapyr yn yr hwn y dangosai fod yny wlad hon, rhwng 1872 ac 1885, 250 o sefydliadau awdurdodedig i roddi "teitlau anrhydeddus." Yn ystod y blynyddau hyny rhoddwyd yn Nhalaethau Lloegr Newydd, D. D. i 264 o bersonau, a LL. D. i 252; yn y Talaethau Canol rhoddwyd D. D. i 570, a LL. D. i 282; mewn 13 o Dal- aethau Deheuol rhoddwyd D.D. i 656, a LL. D. i 278; ac mewn 12 o'r Talaethau Gorllew- inol rhoddwyd D.D. i 757, a LL.D. i 278. Gwna hyny gyfanrif o 3,402. Er hyn oil, ac er cynifer o deitlau a luchiwyd o gwmpas ar antur er 1885, nid yw pawb ar ben eu digon. Ond yn yr ymrysonfa gwelir fod y D.D. yn llawer lluosocach na'r LL. D. 0.
CERYDDU COR ANNUWI0L.
CERYDDU COR ANNUWI0L. Ca ein cymydogion Americanaidd gryn drafferth i gael meibion a merched gwedd- aidd, heb son am dduwiol, i ganu yn nghor- au eu heglwysi ffasiynol. Am y cyflog y cenir yn y rhai hyny yn dra ami, ac ni falir dim am unrhyw ran arall o'r gwasanaeth. Ymddengys mai rhai cellweirus felly oeddynt hyd yn ddiweddar yn canu i'r Eglwys Bres- byteraidd Gyntaf yn Auburn, N. Y.; canys y Sul cyn y diweddaf aethant i siarad a ehwerthin yn ystod y bregeth fel y pender- fynodd y gweinidog, y Parch. WM. H. HUB- BARD ollwng y gynulleidfa i fyned adref ar haner y; oedfa, fel math o gerydd ar ei aflon- yddwyr anfoesgar. Gwnaeth Mr. HUBBARD yn iawn; ac os bydd i'r hyn a wnaeth droi sylw eglwysi er- aill at y mawrddrwg hwn, dylai gael pleidlais o ddiolchgarwch am roddi cerydd mor gy- hoeddus i hyllni sydd wedi myned yn bur gyffredin. Fe ddylai y rhai sydd yn arwain y canu cynulleidfaol fod yn b.b1 o gymeriad moesol didramgwydd a diargyhoedd, ac yn rhai a allant ac a wnant ymddwyn yn briodol yn nhy Dduw. Yn llawer o eglwysi y cyf- oethogion yn y wlad hon telir symiau mawr- ion i gorau am ganu mawl i'r Goruchaf, tra na fedd y cantorion ddim cymwysder i'r gwaith ond yn unig eu lleisiau da. Y mae hi yn hen bryd i fynu cael cymwysder moesol i arwain gyda chaniadaeth y cysegr. Pan geir y mwyafrif o bregethwyr America i deimlo a gwneyd yn debyg i Mr. HUBBARD fe geir di- wygiad gyda'r peth hwn. 0.
UNDEB DIFFYN0L GENETHOD.
UNDEB DIFFYN0L GENETHOD. Gwelsom yn ddiweddar fod rhai ugeiniau o ferched ieuainc arweiniol Plymouth, Pa., wedi ffurfio math o gymdeithas ddiffynol, fel nas gallo y bechgyn eu twyllo ar ol hyn, trwy garu mwy nag un ar y tro, honi bod o foesau gwell nag ydynt mewn gwirionedd, &c. Ach- lysurwyd ffurfiad y gymdeithas hon gan bri- odas anffodus yn y lie, yn yr hon y llwydd- odd gwalch digymeriad i enill llaw a chalon lodes rinweddol a diwylliedig, yr hon a dor- odd ei chalon ac a fu farw ar ol deall sut un oedd ei gwr. Ni fydd amryfusedd felly mor hawdd yn y dyfodol i'r rhianod sydd yn ael- odau o'r undeb dywededig; canys mor fuan ag y bydd llanc yn dechreu talu sylw i ryw un o'r aelodau, rhoddir pwyllgor ar waith i olrhain ei holl hanes a'i arferion, ac i ddwyn adroddiad o'u darganfyddiadau i'r rhai y perthyn Iddynt ei wybod. Nis gall dyn ieu- anc dan wyliadwriaeth fyned i ddioty, addol- dy, na chwareudy, na fydd cofnodiad o'r ffaith yn barod ar gyfer cyfarfod nesaf yr urdd. Y mae amcfan y gymdeithas hon yn dda; ond ameuwn a fydd iddi fyw yn hir, ac eff- eithio llawer o ddaioni, o herwydd dallineb diarebol cariad, ac oblegid eiddigedd naturiol y genethod a'u gilydd. Pe yr ymffurfiai mamau y llancesau yn undeb gyda'r un amcan mewn golwg ar ran eu merched, gallai mwy o ddaioni ddeilliaw o hono. Ond os bydd i'r gymdeithas fel y mae gadw cynifer ag un wyryf deg o fagl serch at un annheilwng o honi, ni fydd ei bodolaeth yn ofer. ♦
IPARNELL DAN G WMWL...
PARNELL DAN G WMWL. Prin y bydd Torïaid Lloegr mor ddedwydd yn y Nefoedd ag y maent yn awr, o herwydd fod CHARLES STEWART PARNELL wedi cael ei wneyd yn gyd-ddiffynydd yn nghyngaws ryw "Capten O'SHEA" am ysgariad oddiwrth ei wraig. Gosodir y trosedd honedig mor bell yn ol ag 1886, pan oedd yr erlynydd a'i wraig yn byw yn Eltham. Nid yw ond teg- wch hollol gyson ag ysbryd a Ilythyren y gyfraith i'r cyhuddiad hwn yn erbyn Mr. PARNELL gael ei anghredu hyd ar ol y treial, beth bynag, gan nad ydyw ef yn ei gyfaddef. Ymddengys fod PARNELL, flynyddoedd yn ol, ar delerau cyfeillgar gyda Mr. a Mrs. O'SHEA, ac arferai dreulio llawer o'i amser yn eu ty, a hyny yn ami pan fyddai O'SHEA oddicartref. Wrth gwrs, yr oedd hyny yn gwneyd y cy- huddiad presenol yn un posibl, pa un bynag a oedd Mr. PARNELL yn euog o ryw ddrwg ai peidio. Sut bynag am hyny, dealer yn Awr fod O'SHEA wedi bod er's tro maith yn mynu tal am ei ddystawrwydd gan Mr. PABNELL; ac un tro gwnaeth i'r gwladweinydd hwnw bwrcasu ei anfoniad ef i'r Senedd am yr ua peth. Barn llawer ydyw mai teclyn y Lon- don Times yw O'SHEA, yn dwyn y cyhuddiad hwn yn y cyfwng presenol er mwyn gwan- ychu Mr. PARNELL yn ei erlyniad ar y Tunes am enllib. Bid siwr fod papyr oedd yn ddigon cyfoethog i dalu i'r hunanleiddiad an- udonllyd DICK PIGGOTT am bentwr o lythyr- au ffugiedig yn erbyn PABNELL, etoyn ddigon arianog i dalu i O'SHEA am gyhuddo ei wraig o odineb, fel y gallai wneyd PARNELL yn gyd- ddiffynydd, er cysur a chymorth i'r Times. Ond fel yr awgrymwyd, geilw cyfiawnder am i farn ar y mater gael ei hatal hyd ddiwedd y prawf, os nad yn mhellach. Da genym wel- ed fod y Cyngrair Cenedlaethol yn datgun ei ymddiried ynddo, gan ddweyd yn ddi- floesgni nad ydyw hyn ond un yn rhagor o gynllwynion gelynion creulawn a rhagrithiol yr Iwerddon. Tipyn yn ysmala yw gweled y swyddogion gwladol uchel oeddynt yn ddiw- eddar yn dra ymdrechgar i ochelyd ymchwil- iadau cyfreithiol i'r eyhuddiadau ffiaidd yn erbyn pendefigion y West End Club, yn awr yn gwaeddi yn groch hyd grygu am i achos O'SHEA yn erbyn ei briod a PABNELL gael ei brofi mor fuan ac mor gyhoeddus fyth ag y gellir! Un selog iawn dros glaerwynni di- lychwin yw y Pentan, mewn rhai amgylch- iadau.
Y DIWEDDAR JOHN JPNES (VUXCAU),
Y DIWEDDAR JOHN JPNES (VUXCAU), Derbyniasom y newydd yn rhy hwyr yr wythnos ddiweddaf i wneyd rhagor na chry- bwyll fod y Parch. JOHN JONES ( Vulcan) wedi marw ar yr 16eg cynfisol, a chael ei gladdu yn Mangor y djcld Sadwrn canlynol. Yn ol y Gicyliedydd, ganwyd ef yn mhlwyf Llan- dwrog, Sir Gaernarfon. Pan oedd ef yn ieu- anc symudodd ei rieni i dref Caernarfon, ac yna i Braich Melyn, yn agos i Bethesda. Pan yn hogyn, rhoddwyd ef i weithio yn chwarel y "Cae." Oddiyno aeth ei rieni i Gorris, lie ydysgwydiddo fod yn of, fel ei dad. Yno hefyd y dechreuodd bregethu gyda'r Wesley- aid, tua'r un amser a Lewys Glyn Dyfi yn Nghemmaes. Wedi hyny bu am ysbaid yn y Coleg Normalaidd yn Abertawe. Yn y cyf- amser ymsefydlodd ei dad yn Caellwyngrydd, ger Bethesda. Ar y cyntaf, g Nrthoclodd y Cyfarfod Talaethol ganiatau iddo bregethu; ond trwy ddylanwad v Parch. T. Aubrey, ag- orwyd y pyrth iddo. Yn 1854 y galwyd ef i'r weinidogaeth. Tua'r amser hwnw priododd Miss Williams, Conwy, yr hon sydd wedi ei oroesi. Bu yn gweinidogaethu yn y Wydd- grug, Abergele, Llanrhaiadr, Tregarth, Caer- gybi, Liverpool, Bangor, Rhyl, Caernarfon. Gwnaed ef yn uwchrif yn 1887, o herwydd gwaeledd ei iechyd. Yr oedd yn ddyn da, a galluog fel meddyliwr dwfn a dadleuydd ar- gyhoeddiadol.
TEITLAU YNFYD EWROP.
TEITLAU YNFYD EWROP. Gwneir yr ochr arall i'r mor wawd parhaus o "deitlau Americanaidd." Ond er mor af- resymol a by chain yw llawer o'r teganau hyny, gellir yn ddibetrus haeru nad oes yn nglyn a'r pethau ysmala a dirmygedig hyn ddim sydd yn agos mor wallgof a'r gyfun. drefn o deitlau etifeddol sydd yn ffynu yn Ewrop. Pe y sefydlid yn ein mysg rii ar- feriad o drosglwyddo A. M., Ph. D., LL. D., a D. D., y tadau i'w meibion, byddai genym rywbeth tebyg i'r arferiad Ewropaidd o wneyd pob cyntaf-anedig mewn teuluoedd neill- duol yn Dywysog, Due, neu Arglwydd, &c., yn UBig am fod y tad yn Dywysog, Due, neu Arglwydd. Yn y dechreuad yr oedd ystyr priodol i'r pethau hyn; gelwid rhaiyn dywys- ogion am eu bod yn tywys pobl ar faes y gwaed, neu mewn rhyw gylch arall. Ond yn awr nid oes neb yn golygu fod tywysog yn tywys neb na dim, oddieithr yn achlysurol, megys y Tywysog BISMARCK. Fel rheol, pethau gweigion, anwireddus, ridiculous yw teitlau llinachol yr Hen Fyd; a thra y byddo y bobl yno yn rhoddi parch a gwarogaeth i'r fath humbugs, gweddai iddynt hwtio llai ar "deitlau Americanaidd." Nid oes yr ochr yma i'r Werydd un yn gwisgo D. D. neu LL. D., ac yn agos mor annheilwng o'i cleitl oddimewn ag yw 95 o bob cant o'r rhai sydd yn gwisgo teitlau etifeddol yn Lloegr, ac ar Gyfandir Ewrop. Ond nid yw yn debyg y bydd i'r teuluoedd teitlog ymwrthod a'u shams nes y try y bobl i chwerthin am eu penau, ac i'w dirmygu mor gyhoecldus ag yr ymchwyddir danynt yn awr. Dywedai Byu- ON fod CERVANTES yn ei nofel ddoniol Don (Quixote wedi gyru Ewrop i chweithin chivalry o fodolaeth. Yn mha le y mae yr awdwr gwatwarol a wna i bobl yr oes hon gellwair a gwawdio teitlau gweigion Ewrop, nes y bydd- ant oil wedi eu gosod yn yr un bedd a ifwlbri chivalry ?
PERSONOLIADA U.
PERSONOLIADA U. Ymddengys fod yn y natur ddyrol duedd gref i gorffori a phersonoli meddylddrychau neu ddylanwadau ydynt o ddyddordeb mawr a hirbavhaol iddi. Cynyrchion y duedd hono yw Angeu, Cupid, Santa Claus, Uncle Sam, John Bull, &c. Cynwysa pob un o'r cymer- iadau hyn ddarlun o'r syniad a hofranai J n anweledig yn meddyliau y lluaws, ac wedi i'r llygaid weled y. darluniau trodd y darfelydd i'w cymeradwyo fel poitreiadsu ffyddlawn. Y mae llawer o wirionedd athronol yn hyn oil. Pwy a fynai roddi gwedd wahanol ar Cupid? Onid un tirf, lluniaidd, ieuanc, dwys-bigo1 yw Serch? Onid j r hen yn an- rhegu yr ieuainc yw meddylddrych canol- barthol Santa Claus? Priodol gan hyny iddo ymddangos fel henafgwr barfwyn, ac ni fyn- ai neb ei newid. Dyna y llun yna o ddyn gwyneb-lydan, byr-yddfog, bolgrwn, coes- fawr, tyn yn ei ddillad, a hunan-ddigonol ei agweddiad--cydnabydda pawb mai y cyfar- taledd hanesol a moesol o'r genedl Seisnig yw efe. Nid oes arwydd piinder bwyd arno, na gosgecld un a ymostyngai i fod dna reol- aeth eraill. Y mae ei lonaid ef oreddf meistr yn mhob man. Gwelir mwy o arwyddion caderuid na dillynder ar ei wisg. Profa han- es y byd gyw irdeb y darlun adnabyddus hwn. Ac Did cynyrch damwain neu fympwy yw fod yr lanci yn cael ei osod allan fel un tal, main, bir-walltog, cul-wynebog, llac ei ddill- ad, eto direidus a hirben ei ymddangosiad. Nid yw efe yn annhebyg i CASSIUS, yn 01 desgrifiad CAESAR o hono: Would he were fatter; but I fear him not. Yet if my name were liable to fear, I do not know the man I would avoid So soon as that spare Cassius. He reads much, He is a great observer, and he looks Quite through the deeds of men. —Julius Caesar, Act I, Scene ?. Diameu fod y duedd grybwylledig yn y natur ddynol yn elfen helaeth yn yr hyn a gynyrehodd aml-dduwiaeth yr henafiaid. Fel y creda plant yn ein hamser ni yn mherson- olaeth gwirioneddol Santa Claus, felly yr aeth lluaws y bobl yn Groeg a Rhufain er's talm i gredu yn modolaeth personol Iau, Sadwrn, Neifion, SEE. Gwelwn felly fod tuedd rymus yn mysg plant dynion i gnawdoli eu meddyl- ddrychau penaf.
Y CWYN YN Y GORLLEWIN.
Y CWYN YN Y GORLLEWIN. Clywyd yn ystod pedwar mis olaf 1889, gryn lawer o gwyno yn mysg y ffarmwyr sydd yn wasgaredig yr ochr draw i'r afon Mississippi, y tu yma i'r Mynyddoedd Creig- iog, a rhwng Texas a Manitoba. Y prif ach- os o'r aflwyddiant cedd sychder yn ystod yr haf. Fel rheol, y mae sefydlwyr y parthau hyny yn feirniaid caiedig, fel nas gellir yn deg priodoli y cwynion i ragfarn^ eiddigedd a siomiant. Gwir fod eithriadau i'r rheol hon; ond nid ymddengys mai o'r eithriadau hyny y cododd y cwynion crvbwylledig. Nid oes lie rhesymol i ameu ei bod yn ffaith fod diffyg gwlaw wedi gwneyd 1889 yn flwyddyn galed i lawer o amaethwyr Dakota. Addefai y Llywodraethwr MELLETTE yn ddiweddar fod South Dakota yn analluog i dalu treuliau ei sefydliadau cyhoeddus, ac fod yn rhaid i lawer o'r trigolion gael cymorth i'w cadw rhag eisiau. Ac fe ddywedir pethau cyffelyb gan ganoedd os nad miloedd o bobl fwy preifat. Ond ni chyfyngwyd y sychder a'i ganlyniadau i'r ddwy Dakota. Llai llewyrch- us nag y gwelwyd hi oedd Nebraska y llyn- edd; a son am rai mewn cyfyngderau sydd yn dyfod beunydd o orllewinbarth Kansas. Ond tra yn dadlu na ddylid ar un adeg ceisio celu y ffeithiau am y broydd a enwyd, myntumiwn na ddylid ffurfio barn derfynol am unrhyw le oddiwrth ei lwyddiant neu ei aflwyddiant mewn unrhyw un flwyddyn. Dylid cymeryd cyfartaledd lie am tua saith mlynedd cyn anturio dweyd pa fath yw ei dymorau. Yr oedd 1889 yn eithriadol (fel y credir) o sych yn Dakota, fel yr oedd yn eithriadol o wleb yn New York. Gallai na theimlir oddiwrth yr un diffyg yno eto am flynyddau lawer. Ond os nad oedd y sych- der yn eithriadol; os oedd yn gyflwr naturiol y gwastadeddau hyny, yna y mae y rhagol- ygon yn fwy tywyll. Rhaid i bawb efrydu y cwestiwn hwn goraf y gall, yn ngoleuni prof- md a claearyddiaeth anianol. Ond tra yn gobeithio y goraf am ddyfodol pob sefydliad newydd, ni ddylem anwybyddu cyfyngderau presenol sefydlwyr newyddion, gan nad sut y mae cyfrif yn iawn am eu sefyllfa. Y mae pob lie dan haul yn agored i ddyoddef oddi- wrth anffodion achlysurol nad yw yr achos o honynt yn elfen sefydlog ynddo. Ond yn ofer y llafuiia y Uafurwr os bydd gwyneb natur yn sefydlog yn ei erbyn. Yn mhen rhyw bum' mlynedd eto bydd genym seiliau ar y rhai y gellir yn lied agos i gywir roddi cymeriadau amaethyddol y Talaethau new- yddion a nodwvd.
Y SWYDD 0LYGYDD0L.
Y SWYDD 0LYGYDD0L. Y mae golygu newyddiadur neu gylchgrawn yn waith ag y tybir gan laweroedd y gall bron unrhyw ddyn fedr ysgrifenu, ac sydd hefyd yn dipyn o 'lenor," ei gyflawni yn berffaith, a hyny heb fawr iawn o ragddarpariaeth. Ni wnaed erioed gamgymeriad mwy; canys rhaid i un sydd yn deilwng o'r enw golygydd fod nid yn unig yn feistr ar ei iaith, ac yn hydd- ysg mewn daearyddiaeth, cenedleg, hanes- iaeth, gwleidyddiaeth, &c., &c., ond hefyd bod o deithi neu wneuthuriad meddyliol ar- benig, eyfatebol i neillduolion ei ddyled- swyddau. Wrth gwrs, fe geir yn ceisio Can- lyn yr alwedigaeth hon, fel pob galwedigaeth uchel arall, bob math o ddynion, o'r llipryn- od mwyaf eiddil i'r cawr-feddylwyr sydd yn rhoddi eu delwau cryfion ar eu gwlad a'u cenedlaeth. Cydnabydda pawb erbyn hyn fod y golyg- ydd yn un o'r cymeriadau mwyaf dylanwad- ol. Dywedai Dr. DRAPER fod swyddfa y cylchgrawn a'r newyddiadur wedi myned yn fwy ei dylanwad na'r pwlpud. Tra nad yd- ym yn barnu fod y gydmariaeth hon yn deg nac yn gywir, ni phetruswn honi fod y wasg yn un o alluoedd arweiniol y byd yn yr oes bresenol. Canlyna oddiwrth hyny fod cyfrif- oldeb y newyddiadurwr yn fawr iawn. Geilw egwyddorion eyfiawnder arno wneyd pob ymdrech i beidio cyhoeddi dim ond yr hyn sydd wirionedd. Eisieu cael y ffeithiau sydd ar y bobl; am ffeithiau y talent eu harian; a ffeithiau a ddylent gael. Bid siwr nas gellir bob amser gochelyd camsyniadau; ond fe ell- ir ar ol gwybod fod camgymeriad wedi ei OY wneyd, ei gywiro mor amlwg ag y gwnaed ef. Gyda y rhan hon o'i orchwyl ca y golygydd weithiau anhawsdra i foddio rhai eithafwyr. Ar un ochr iddo dich A y bydd rhai a ddy- munant roddi eu lliw croch hwy eu hunain yn y llythyrenau mwyaf ellir gael, ar ryw ddygwyddiad neillduol, tra y myn rhai ar ei law arall grybwyll yr un peth yn ddiffrwst, mewn llythyrenau hollol gyffredin. Yr orch- est rhwng yr eithafwyr hyn yw rhoddi i'r ffaith a driniant hwy mor wahanol, y fath fynegiad ag fydd yn ateb i'w natur a'i phwys- igrwydd. Nid rhyw fath o "gadeirydd" yn unig yw y golygydd i fod, oddieithr rhwng gohebwyr a'u gilydd ac a'r cyhoedd. Yn y cyfeiriad hwnw ceir ef yn ganolwr anmhleidiol, yn rhoddi lie i bob amrywiaeth barn o fewn ter- fynau boneddigeiddrwydd a moesoldeb. Yn yr adran hono ei arwyddair ef ydyw, "Rhydd i bob meddwl ei farn, ac i bob barn ei llafar." Ond a ydyw yr egwyddor hono i'w wneyd ef ei hun yn ddifam ac yn ddilafar ar bynciau pwysicaf ei amserau ? Bid siwr nad ydyw. Yn yr adran olygyddol ni ddylai fod un rhwystr ar ei ffordd i fynegu ei olygiadau ar faterion arweiniol ei ddydd. Nid llwfrddyn llygadwasanaethgar, yn celu ei farn bersonol (os oes ganddo un) ar bob pwne dadleuedig, yw ef i fod, eithr arweinydd a ffurfiwr public opinion. Nid llai ond mwy annibynol yw cy- hoeddiad trwy fod ei olygyddion yn gwneuth- ur felly. Y papyr mwyaf gwasaidd a dibyn- ol yw yr un nad oes ganddo ddim opiniwn golygyddol ar bynciau ag y bydd pawb o'i gwmpas yn dadlu ac yn pryderu yn eu cylch; ni faidd efe ddweyd ei feddwl ei hun rhag ofn iddo ddigio rhywun o feddwl gwahanol! Ei gynllun ef o foddio pawb yw bod yn neb ac ddim ei hunan! Y mae y London Times, Liverpool Mercury, Baner ac Amserau Gymru, Y Genedl Gymreig, Yr Hirald Cymraeg, New York Tribune, New York Herald, New York World, Chicago Times, Chicago Tribune, Kan- sas City Times, Omaha Bee; mewn gair, yr oil o brif newyddiaduron y ddau gyfandir, yn hollol annibynol; h. y., nid ydynt yn werth- edig i unrhyw blaid; mae eu hawdurdodau rheoleiddiol o fewn eu swyddfeydd hwy eu hunain. Ni wisgant wddfdorch unrhyw barti politicaidd. Eto mynegant hwy eu golygiad- au gwleidyddol am fod ganddynt y cyfryw olygiadau, ac am fod yr amseroedd yn galw am i egwyddorion y gwahanol bleidiau gael eu trafod. Nis gall golygydd gwladgarol lai na chymeryd dyddordeb bywiog yn y pethau a berthynant i fuddion ei gydwladwyr. Ond os bydd golygydd yn newydd-ddyfodiad, a'i holl serch gwladol yr ochr arall i'r mor, yn bur naturiol, ni fydd fawr o wahaniaeth rhwng yr amrywiol bleidiau iddo ef. Nid oes yn ei asgwrn cefn ef y fath beth ag egwyddor wleidyddol. Policy lasdwraidd geir yn ei lywodraethu ef. Ond fel y newyddiaduron a enwyd uchod, y mae y DRYCH yn ANNIBYNOL HOLLOL mewn gwleidyddiaeth; hyny yw, ni feddienir ac ni reolir ef gan unrhyw blaid; nid oes yn perthyn i'w swyddfa neb sydd wedi cael dim, na gofyn am ddim, nac yn dysgwyl am ddim, yn ad-daliad am ei safle olygyddol ar bynciau gwladwriaethol. Cyn- yrch argyhoeddiad rhai wedi byw yn y Tal- aethau Unedig yn ddigon hir i wybod tipyn am hanes gorphenol ac egwyddorion gwahan- iaethol y pleidiau politicaidd, yw ei erthyglau golygyddol hollol annibynol ef. Yr ydym yn gwahodd meddylwyr o bob gradd a dosbarth i draethu eu syniadau yn ngholofnau agored a chroesawgar y DRYCH. Yn hytrach na mwselu neb, myn ef roddi llafar rhydd i bawb-hyd yn nod ei olygyddion ei hun.
GWEITHFAOL A MASNACHOL.
GWEITHFAOL A MASNACHOL. -Ar yr ail cyfisol, safodcl glofa Wm. L. Scott, yn Mount Carmel, Pa., gan daflu mil o bersonau allan o walth. —Dvwedir fod Syndicate Seisnig wedi prynu y Sheldon Axle Works, yn Wilkes- barre, Pa., yn y rhai y rhoddir gwaith i tua mil o bobl. —Dydd Ian diweddaf, aeth 150 o lowyr a weithient yn breaker Hillman, ger PIttston, Pa., ar streic am na chaniateid iddynt y 5 y cant o godiad a geisient. -Oddeutu wythnos yn ol, gwnaeth Curtin & Co., y rai y mae eu gweithfeydd haiarn ger Bellefonte, Pa., assignment yn ffafr y cyn- Lyw. A. G. Curtin a Constance Curtin. Tua $125,000 yw eu dyledion. -Y mae Samuel Gibson, W. A. Price, Wm. J. Roberts, C. L. V. Evans, ac M. H. Farns- worth, wedi corffori yn Cleveland, 0., y "Gibson & Price Company," gyda *150,000 o ystoc cyfalaf. -Hysbysir fod y Pennsylvania Slate Com- pany wedi prynu bron yo oil o'r prif chwareli yn Slatington, Pa., am gyfanswm o tua $1,500,000. Cyfalafwyr o Philadelphia a New York yw y prynwyr, gan mwyaf. —Ddechreu yr wythnos hon llosgodd gweithfeydd haiarn Hatcher yn Macon, Ga., er colled o $50,000. -Cauir glofa Lincoln, ger Pine Grove, Pa., hyd ddechreu y mis nesaf, er segurdod i saith gant o ddynion a bechgyn.
Cyfarfod Llenyddol yn New…
Cyfarfod Llenyddol yn New York. NEW YORK, Ion. S.—Uynaliwyd cyfarfod llenyddol blynyddol ysgol sur eglwys 18th' St. nos Nadolig, llywydd, Robert Lewis. Cafwyd can agoriadol, "Bachgen y Medd- wyn,"ganH. Maurice Hughes; hefyd can- wyd "Hen Wlad fy Nhadau," gan R W. Hllghes (Menaifardd. Am y prif draethawd, "Manteision hunan-adnabyddiaeth yn ber- sonol,a chymdeithasol," rhanwyd y wobr o $10 rhwng J. Williams ac O. B. Williams. Traethawd, "Elfenau eymeriad Dahdd," goreu, Miss Catherine Roberts; ail, Miss M. E. Jones. Traethawd "Elijah," goreu, H Maurice Hughes; ail, Wm. Williams; tryd- yJd, W. H. Parry. Penillion "Yr Iesu a wylodd," goreu o dri gyda chanmoliaeth uch- el, H. M. Hughes; ail. Murmur y Don. Eng- lyn, "Dwy Hailing y Wraig Weddw," goreu o wytb, H M. Hughes. Ni ddaeth ond parti o bobl ieuaine eglwys 13tb st., danarweiniad H. M. Hughes yn mlaen i ganu Paham y daeth Mab Duw i lawr," ac "Arglwydd ein Hior ymwel, ymwel," a dyfarnwyd y wobro $12 iddynt gyda chryn ganmoliaeth. Ped- warawd, "Ti wyddost beth ddywed fy ngha- lon," un parti ddaeth yn mlaen, sef y chwi- orydd Misses Katie a Mamie Jones a H. M. Hughes ac Evan H. Morgan, a chanasant yn deilwng o'r wobr. Un parti gystadleuodd aryddeuawd, "Pan oeddym ni yn blant," sef H. M. Hughes ac Evan H. Morgan, a chawsant y wobr. Unawd Bass, "Honor and Arms," cvstadleuodd un ond dywedai y beirniad nad oedd yn deilwng or wobr. Nid oedd y wobr ond dolar, a theimlad y mwyafrif ydoedd fod y gwr ieuane a gynyg- iodd wedi canu gwerth dolar, beth bynag. Na ddigaloned; hyderwn y dewisir unawd y tro nesaf a fydd o fewn cyraedd amateurs, ac y ceir gwobr y bydd yn werth ymgyrafdd ati. Y cor plant goreu a arweiniwyd gan fab ieuengaf Lewis Roberts. Cyfieithu o'r Gym- raeg i'r Saesneg, goreu o wyth, Owen Rob- erts. Cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg, Mr. Jones. Araeth ddifyfyr, "Yr awrlais," gor- eu, H. M. Hughes ac E. Morris yn gydradd: 6 yn cystadlu. Llawysgrifen oreu, Hannah Morris. Adrodd -'The Force of Habit," R. Owen. Adrodd "A ddaw dy gynlluniau i ben," Master Willie Williams. Adrodd "Cyngor i'r gwebydd," Master Johnnie Wil- liams. Yr oeddbeirniadaethau R W. Hughes (Menaifardd) ar y farddoniaeth Morgan V. Powell ar y canu, a Win. Griffiths ar y cyf- ieithu, yn dra meistrolgar ac addysgiadol. Gellir dyweyd hyn hefyd am feirniaid y traethodau, sef Wm. Jones, Robert Lewis ac M. O. Roberts. Gresyn na buasai ychwaneg o gystadlu yn yr adran gerddorol. Cafwyd cynulliad da.—Llaw-fer.
Eisteddfod Idaho Springs,…
Eisteddfod Idaho Springs, Col. Cynaliwyd yr Eisteddfod uchod yn yr Opera House, ddydd Nadolig, dan lywydd- iaeth Dr. Ll. P. Davis, Central City. Beirn- iaid-y Gerddoriaeth, John Phennah; y Farddoniaeth a'r Rhyddiaeth, T. E. Jenkins, Denver. Nid oedd neb yn deilwng o'r wobr am gann y Solo Bass "Glyndwr." Traethawd "Diffyndoll a Masnach Rydd," goreu eiddo W. T. Phillips, Frostburg, Md. Cys. Deu- awd "Y Ddau Forwr," Charles Davies a George Jenkins, Denver, yn fuddugo1. Y goreu o ugain o englynion i'r "Mwnwr" oedd eiddo Dewi Glan Dulas, Rockland, Canada. John E. Morgan, Idaho Springs, gafodd v wobr am y Farwnad oreu i'r diweddar Samuel Jenkins; ac Elyrch Jones oedd y buddugwr ar y bryddest "Trychineb Golden." Tenor Solo, "Bedd Llewelyn;" goreu, M. D. Thom- as, Idaho Springs. Triawd, "Duw, bydd Dmgarog;" parti J. D. Evans, Russell Gulch. Chwe Penill i Idaho Springs; eiddo y Parch. W. Charles. Denver, yn oreu. Cys- tadleuaeth datganu "Awake, iEolian Lyre;" gwobr $30, rhwng y Russell Gulch Choral Union, dan arweiniad W. R. Hughes, a'r Idaho Springs Philharmonics, dan arweiniad F. B. Austin—y ddau yn gyfartal. Yn yr hwyr cafwyd .cyngerdd rhagorol.-Gohellydd.
NODION PERSONOL.
NODION PERSONOL. BORE dydd Calan, ar ol cystudd trwm, b odd y Parch. WILLIAM HADDOCK (B.), burgh, Md., yn yr angeu, yn 49 mlwydd oed: Bu yn briod ddwy waith. Gadawodd øJdi ol weddw ac wyth o blant, tri o'r rhai sY- yn gwasanaethu yn Pittsburg. SABBOTH y 26ain cyfisoL bydd y POCJ". JOHN EVANS (brawd Ednyfed) yn traddo^ bregeth ymadawol yn eglwys Fedyddi^ Calvary, Sumner Avenue, Brooklyn. Nid y gwr parchedig wedi gwneyd yn hysby9 resymau dros ymddiswyddo. Bu un o dderbynwyr hynaf y DBYCB tØ ddydd Llun, y 6ed cyfisol, yn Bridge^8^ N. Y., sef WILLIAM RICHARDS, gynt o £ ington Mills, yn 84 mlwydd oed. Cleddi*^ o'i hen gartref yn Washington Mills dw Iau am 12 o'r gloch. Nos Nadolig anrhegwyd RIffs ETNA JO$o Kearney, Neb., ag ysgrifbinaur gan ei WSSPV aethyddion. DYWED y Record of the Times, Wilkesb^ fod WILLIAM HAMMOND "y mwnwr hyDa^' Sir Luzerne, wedi myned am dro i Gy1111^ DRWG genym ddeall fod priod y GEORGE LAMB, DodgeviUe, Wisconsin, 31, ar oddef dan gystudd trwm er's tair GOHEBYDD o Pittsburg a'n hysbysa y W JAMES SAUVAGE yn hwylio o New Yorlt 0 Gymru yr wythnos hon, ond ei fod faethu dychwelyd yn v gwanwyn gyda'r iad o gartrefu yn y Talaethau Unedig. CYFEIRIAD y Parch. J. E. JONES, Old 5^ Creek, ydyw 422 Lime Street, Iowa City, ¡ø. Y SABBOTH olaf o'r hen flwyddyn cynali*^ cyfarfod tra dyddorol yn nghapel Cynti^. faol Cymreig Milwaukee i ordeinio y W. A. GRIFFITHS, diweddar o Goleg Ohe^» O., yn weinidog rheolaidd yr eglwys. ddengys yr hanes yn ein nesaf. RHODDODD y Parch. THOMAS Morris eglwys Fedyddiedig Utica i fyny y Sah^ diweddaf. Daeth i'r ddinas o SlatingtoO, dros dair blynedd yn ol, ac mae wedi aelhu yr eglwys gyda ffyddlondeb a o INvyddiant. MEWN cyfarfod croesawol yn Glyn J) yn ddiweddar, cyflwynwyd anerchiad 7s ydd i JOHN JARRETT, Trafnoddydd y au Unedig yn Birmingham. Yn eiieue^jj bu Mr. Jarrett yn gweithio fel puddlerj cwmwd hwnw cyn ymfudo i Pittsburg, JACKSON, O., IOIL. 1.—Ar yr 28ain cyO^v^ bu farw Miss MARY JANE WILLIAMS, Ø1;A Mrs. Catherine Williams, yn 30 mlwydi & ar ol bod yn glaf am tua blwyddyn. wyd hi ddydd Mawrih, y Parch. D. J- ins yn gweinyddu. Rhagfyr 26ain, Thomas S. Morgan a Miss LizziS^p9 ards yn Van Wert. Mab vdyw y D. L. Morgan, Oak Hill ac mae y briI yn nith i'r Parch. Dr. Harries, Chic^ Journal. tJ. WELSH PRAIRIE, CAKBRLV, WIS., —Mae ein gweinidog, y Parch. John p^r mond yn cymeryd seibiant yr wythnos Dechreua ar ei ail flwyddyn y Sabboth Y mae arwyddion fod a fyno Duw a'i ogaeth yn Jerusalem a Seion. jjyP Jerusalem barotoadau i gynal cyrdd yddol, a sonia Mr. Hamniod am gynal fod i'r bobl ieuanc. Parha y tywydd od braf—yn fvvyr tebyg i wanwyn na g* Un o Welsh Prairie. JUDSON, MrNN., Ion. 3.—Ar y 30ain Cj^' bu yr hen gymeriad hynod JOHN P- Rose Place, farw yn 80 mlwydd oed. udodd i'r wlad hon ddeugain mlynedd 0 ardal Conwy. Bu am rai Pennsylvania a Cambria, Wis., nes y odd i'r Dulaeth hon yn 1864. Rose .yii gelwid ei tl'erm, a bu yn gweithio W, o'r enw yn Cambria, Wis. Yr oedd wr hynod mewn llawer ystyr, ond gf iau y byddai hvnotaf. Yr oedd y gof bron i gyd, ffrwyth ei drysori pa°- 'fe\A anc. Beth bynag oedd ei ffaeleddau f wn ei rinweddau; byddai hyny yn yn lies mawr i ni yn gyffredinol. f*$0 weddw oedranus, pedwar o feibio& ferch. Claddwyd ef yn myn went j, Falls, pryd y gweinyddwyd gan y ParCrf (?• Powell, W. M. Jones, a J. C. Jones.— PLAINFIELD CENTRE, N. Y., Rhag.$$ Hyn sydd i hysbysu fod ein hanwyl # og, y Parch. 0. WYNN ROBERTS, gwasanaethu yn llafurus ac ymdrec^^j dros bum' mlynedd o amser, wedirho" gweinidogaethol yr eglwys hon i fyDJ^ajj^i < edy oddiwrthym mewn heddweh a P edd. Yma y neillduwyd ef i gyfla'W'11 weinidog;aeth. Daliwn ar y cyfleusti^ ddwyn ein tystiolaeth fod ei ymad bod yn deilwng o'r efengyl a Gweithiodd yn galed yn ngwyneb anfanteision, a chad wodd a'i 3 a Gobeithiwn y cawn gyfarfod eto fawr waredigol; a dymuniad ein caloI1^-yl< fendith y nef ei ddylyn ef a'i deulu a^rg o\a wneyd yn fendith i ddychwelyd 11^ eidiau at y Gwaredwr. Ydym dros 7 —John L. Da>"is, J. C. Griffith, Pugh, diaconiaid. PLAINS, PA., Ion. 3.—Wrth gronic1^^ Eisteddfod Germania Hall, Wilkesb ddiofalwch neu ddrwg fwriad, teddfodwr" anghyfiawnder ag ainrj'^ leuwyr o'r lie hwn a Miners. rJP' BEVAN O Miners Mills, enillodd Qot A Solo, ac nid Miss Bevan o Parsons- i debol o Miners a Plains, dan arweiD\ertlj HARRIES, gafodd y$50 a chadair g ac nid "cor Parsons;" nid cor o 0^ cor Brewery Hill, dan arweini^ Amos, oedd yn cystadlu a'n cor C. lusodd y gohebydd hysbysu 1^ THOMAS a ganodd "The Raft" m°r o wy; ac hefjTd mai JAMES A. J hwn oedd y buddugol ar y ,■) yn rhith Esau yn ceisio y fendith. jyW, fi air priodol iawn i ohebwyr lleol 7^. gwir, yr holl wir, a dim ond y oeddym.
PROFEDIGAETH GOLYGYDD "Y 0…
PROFEDIGAETH GOLYGYDD "Y 0 *a-f&A COLUMBUS, O., Ion. 3.—Tra cenedl, ag eithrio teulu neu ddau, yfljj hau iechyd a chysuron tymoro yr muno gwyliau llawen y naUl i'^ 1 brenin dychryniadau we^i dod ein hanwyl frawd, a'n parchus Parch. H. P. HOWELL, D. D., aC cyx^,oi adael er dagrau mam, a brodyr » na gweddiau taerion y tad, n. p^vid f blodeuyn tlysaf yn y teulu, se^r«eyd eJfj win bach, yn 15 mis oed. et g*. glaf nos Fercher y 18fed cyus°l>, e(j0dd *1 af pob gofal a dyfais feddygoL e. aflJ if aid ymaith nos Wener y ^odd^V gloch. Prydnawn dydd Llun, Q,x&eP J*. hyn oedd faterol i gadw y» ^ada'r^/| Cemetery, yn ngofal yr adgyiEo a>11 cb A a'n gweddi ydyw ar fod i n bra cV&Ar' y fam mewn modd ar benig, S, _,yil ymdawelu i'r ewyllys er m°rbr, sur Tra yr oedd ei dad a'i fam y» urUs i «i toi cartr.-f newydd hardd a d7* {A Baldwin, ar Lexington Ave >r Hwn sydd yn h«ffach o blan mam naturiol, wrth Balden1 11^ y fyny yma i'r cartref md" yn w7A.hol3 gwyddol yn y nefoedd. Tr 7 tei^p K edigaethau, nid peth bjT^a. cyi^^ fC^ bod yn cael cydymdeimlad e poctor cymydogion, a sicr yw t°1^ldeiiula(1c ig a'i biiod yn cael cydy ddiyft?jig^ goreuon ein cenedl, nid y y Pr° fb M Smig, oudtrwy J lem. Gweinyddwyd jn 3 a y Parchn. W. Mathews, Jones, Columbus.—Cynhajal.