Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
30 articles on this Page
'Y Ceffyl.
Y Ceffyl. GWir addas gymwynaswr—yw ceffyl, 1 Ac hoff was amaethwr, Byd-enwog gerbyd-dynwr A'i allu i gyd yn llaw gwr. GLANEDOG. ♦
Gwen.
Gwen. Hael wen, pwy a'i darlunia,-heb wyneb Anwyl yn orphwysfa; Duw a'i dyd 1 hau y Da, Lion hanfod, llun y Wynfa. Oonoen, G. C. IETJAN WYN.
Y Goron Ddrain.
Y Goron Ddrain. Gerwinedd roes goron ddrain-ar ael lor, El i'w arlais firain; Er iasau cur, Iesu cain, Ar fore, fe a'i harwain. IEUAN WYN.
Cerdyn Nadolig Sarah.
Cerdyn Nadolig Sarah. Bawddamor heddyw yma-a chofion I'r ferch ilanc wiwdda; Ar hyd ei dydd rhoed Duw da Wyliau sirlol 1 Barah. lVeto York. H. MAURICE HUGHES.
Y Bladur.
Y Bladur. Llarnaidd arf liyfn ei ddur&n,—hen ydyw Y bladur gynefin; Yn ei rhaib yn un rhibin, Eillia y maes oil a'i min. Kanticoke, Pa. T. C. BENJAMIN.
Y Ffenestr.
Y Ffenestr. Buddiol i bawb, gwybyddwch,- yw ffenestr Lie ffyna tywyllwcli; Par ei gwen hoff, lawen, fflwch, I ddynion wiw ddyddanwch. 2yft Hartford, N. Y. DTEFBTNOG.
Y Wraig Anynad.
Y Wraig Anynad. lien grug wenwynig yw gwraig anynad, Ac hwyr a bore ceir hi a'i bwriad I Waedu mynwes, dyna'i dymuniad- ttl, y ffolog, undonog ei dwnad, a|1 hoer lef, a chwerwa wlad;—ei bustledd A-'l sarug oerwedd, a sura gariad. ■^arul, Pa. D. M. LEwIS.
"Dwy Hatling y Wraig Weddw."
"Dwy Hatling y Wraig Weddw." [Y cyntaf yn fuddugol.] Tellwng rodd, dwy hatling rad-gweddw wraig, Oedd rodd ffydd a ohariad; Hael iawn oedd ei chyftwyniad, Yn llys Duw o'i holl yetad. 0 oludoedd ei thlodi-Y weddw Roddai'r oil oedd ganddi; DYlanwad ei haelioni Drys yn noeth wers i ni. H. MAURICE HUGHES.
[No title]
Mr. Owen W. Parry a Miss Maggie Jones, Fair Haven, Vt. Hawddamor i'r ddau yma—yn rhwymau Yr amod tynera'; Deued hedd o'r dedwydda' Lono'u hoes fel haulwen ha'. :r net wen a anfono—hael wenau Rhagluniaeth i urddo Y cwlwm nad oes cilio Hyd ledd o'i ymrwymiad fo. JV". r. T. HENRYJONES.
Cydnabod Dnw.
Cydnabod Dnw. Diolch iti, Arglwydd grasol, Am y gofal mawr a fu. A r fath sylw roddaist arnaf, Er fy ngwylio ar bob tu; Rhag I'm troed 1 lithro ymalth, Oddiar dy lwybrau glan, Ac am hyny y'th folianal Mewn llawenydd byth a chin. Dechreu diolch a wnaf yma. Yn yr anial ar fy nhaith, diolchaf acw adref Ar hyd tragwyddoldeb maith; ond diolch allaf dalu, 4 Am oludoedd nefoedd wen; Arglwydd, derbyn di fy niolch, Yn oesoesoedd mwy. Amen. pa. j. j. WiiiiaAMB. ♦
Y Ddeilen Grin.
Y Ddeilen Grin. Yw'r d(leilen ar y brigyn, Uan iawn i'r llaid y disgyn; Ty y meddwl call a ddarllen, ers o addysg ar y ddeilen. Health, chwarddodd mewn gwyrddlesai, y nef orphwysodd ami; Da myr<lcliwn o gyfeillion, awnslai yn yr hwyr awelon. 5?ftu'r urdd oedd arni gynau— rfi11 y deil dail wlith y bore; a rila8 y chwa ireiddlon yad. yn angeu i'w chyfoedion. -sil haul, er ymbelydru, a Jiawn Uoer, er ei harianu, all yr awel dyner n ol ei hen ireldd-der. Rl?*riro ychydte oedd ei chyfran— r un wen ar wyneb anian; "n °'r yu Hydref waedda— ■"arfu'tjj waith"—a hi a drenga I J. BLACKWELL. ^Chl
b.ineb y Squib Factory yn…
b.ineb y Squib Factory yn Plymouth, Pa. Tv» yn Eisteddfod Nadolig.] W I^AiV > Al twI^L06^ y twrw ofnadwy a glywals, >' %ria y daran yn adsain drwy'r aig? jjI'Ca c[r eto, mae'r swn yn fyddarol, r\ aa rJ £ Uiu mae'n debyg i holltiad y graig. lw Iwg' Swela:f fflamau yn esgyn Un t ^olln Powell, mae'r cyfan ar dan; S'y>nirvT eto' C)1 P'le mae y marched ais y bore mor felus ei can? V*i>b Hj, brysiwn! er ceisio gwaredu Tv^la^0 r trueiniaid sy'n nghrafanc y fflam; Q^I yuiwrolwu, O Dduw, bydd drugarog, dyjT i'r oil rliag cael yr un cam; S». r oil 7,y heafwd i fewn yn ysgyrion 7 H a*> r Senethod, mor brj'dferth a glan, 11 Hsfwr el ffordd i fyd yr ysbrydioa n Wltlni angelion mewn cerbyd o dan. Y^hyii gorfodir y canoedd T *U, OK .e,:) al'u gwaredu'r un ferch; ^San0j^wiorydd a brodyr yn syllu Soelcerth am wrtlirych eu sereh; Ia'on sy'n gwelwi'n ei wyneb, J- 11 Hhi drycbineb a ddaeth ar ein tref; 11 c^, r[Sluniaeth a ddwg ini alaeth 4e' 111 yn berllaith i gwrdd yn y nef. REESE REESE (Fryf Peap^ek).
Parablu Y Gymraeg.
Parablu Y Gymraeg. II fCyflwynedig 1 Gwilym Gwent.] O yn canu can fc&rahi dan i'th deulu, Yn 1 an eglur a dIn am Sho ,d>T ram anwylgu; A era,! r beri deimladau, hi gyda'th ddagrau, Wtth cly dad yn fynych gynt rcxl<l hynt dy dadau. wyt Gymro anwyl am O dysi.. Iam 1 larw, j a, blant, cyn myn'd i bant, arad hon yn groew. rw dy wraig, siar^H V aeg wJ,'n garu! Tv°ad vr» gair J'n unrhyw aeg iririL ymraeg a'th deulu; .A Vij^ynt ei pherseiniau, ei hemynau; A Rielno u drosti o bob rhyvr, Q yw ei ffrwythau. 11 ad wyt Gymro, &c. ■°ysg h0n AiFel catron^ ?lant bob Sul a S^y1' awon t'wyl i ganu lyr^at taJ? ,dy anwyl wlad, tCvr, ^Qhad o'i dysgu 4 ^ae'n 0 *arddoniaeth, yn 0 ° beroriaeth, danl]tt,»?ae iaith dy fr0 to- OB TV y 0 drydaniaeth. ^yt Gymro, &c. T. CILCENIN EVANS.
°Wodw7 laner I)dirwe8to1-
°Wodw7 laner I)dirwe8to1- OrtC^iaVvner ddirwestol rho»n tav7r eln < C^ae byrdd^f hlau °yna1101 ^lfy(ided j S" diotawl sarhad; dyral .7 PeHaf eithafoedd vr ZPesia(i yn mlaen; r°l'u p^fer fyddin^dd Oyjo^ ar eI bron ddiystaen. ^yrldUna dinvI'S'1 y de>'rnas, Yw ,atu moesoirt K6th y 8Wydd' Ucbder a n cymdeithas llawnder ei llwydd. Cyfodwn y faner ddirwestol Drwy'n cylchoedd eglwysig yn glau; Yn Seion molawdau ymledol Gyfuner i'w haeddol fwynhau; A llwyrymwrtliodiad gwregyswn Ein lwynau hyd derfyn y daith, Tywysiad o lwybrau temtasiwn, A byd sobr fydd gwobr ein gwaith. Cyfodwn y faner dirwestol, Cylch cyfrin swyddogaeth Ty Dduw; Cvhoedded a doniaJl trydanol Arwyddair y faner i'w fyw; Trawst llygad i'r deg weinidogaeth Na chaffed ymyfed fod mwy, Ond arwyr yn mhlaid iachawdwriaeth, Llu'r gwydriad heb eithriad fo'nt hwy. Dinmael, G. C. DIPHWYSON.
CYIHANFA G^KDOROL YOUNGSTOWN,…
CYIHANFA G^KDOROL YOUNGSTOWN, 0. Cynaliwyd y Gymanfa uchod ddydd Nadol- ig, yn nghapel eang y Methodistiaid Episcop- alaidd. Cafwyd cynulliadau lluosog. Hyfryd oedd gweled cynifer o Gymry parchus o Sharon, Brookfield, Palmyra, Cyclone, Min- eral Ridge, &c.. yn cymeryd y fath ddyddor- deb yn yr wyl gerddorol. Teimlem ar yr un pryd y dylasai fod mwy o frwdfrydedd yn y gwahanol eglwysi gyda'r ymarferiad blaenorol a'r tonau a genid. O'r braidd y sylweddolid yn briodol yr angenrheidrwydd am gynulliad o'r natur yma. Nis gall yr eglwys Gristion- ogol fod mewn sefyllfa iach tra fyddo gwres- fesurydd ei moliant yn isel. Dywed Matthew Henry nad oes un ddyledswydd grefyddol yn talu yn well am ei chyflawni na moli yr Arglwydd. Galwyd cyfarfod y bore i drefn gan Mr. David L. Williams, llywydd y Pwyllgor Lleol, ac wedi ychydig eirian hynod o gyfaddas mewn ffordd o groesawu y Gymanfa gerddor- ol i'n dinas, galwyd ar y Parch. J. M. Thomas, Alliance, at ei waith fel llywydd apwyntiedig y dydd. Ceir yn Mr. Thomas gyfuniad hapus o anhebgorion llywydd doeth a medrus, ac ni chlywsom ef erioed yn fwy hapus na'r tro hwn. Disgynodd y gorchwyl o arwain dad- ganiadau yr holl donau, y cor-ganau a'r an- themau, i ran Mr. John B. Lodwick, yr hwn yntau a wnaeth ei waith er boddlonrwydd cyffredinol. Tybiwn mai drychfeddwl Mr. Lodwick oedd rhoi ail gychwyniad i'r Gym- anfa Gerddorol, a rhoddodd holl ymadferth- oedd ei enaid ar waith, er dwyn mudiad can- moladwy oddiamgylch yn llwyddianus, a llwyddodd i raddau helaeth yn ei amcan clod- wiw. Gwasanaethwyd ar yr organ yn ystod cyfarfodydd y dydd gan Mr. David Douglass a Mr Hodges. Y tonau cynulleidfaol a ganwyd yn y tri cyfarfod oeddynt-Moscow, Llansanan, Tan- y-marian, Mendelssohn, Aberystwyth, YDelyn Aur, Yr Hen Dderby, Wynnstay, Hudders- field, St. Garmon, America, Coalburg, Penry, Danville, Gogerddan, Llawenydd, Glan Rhon- dda, Concwest, Twr Gwyn. Nid ydym yn abl i gyflwyno beirniadaeth ar y canu, ond tybiem i'r tonau ddwyn y tyrfaoedd i naws addoli yn y dadganiad o honynt. Bu y pwyllgor yn dra hapus yn y detholiad o donau. Dygwyd i arferiad rai a genid gyda hwyl nefolaidd haner can mlynedd yn ol, megys y Delyn Aur, Llawenydd, <fcc. Dad- ganwyd tail' o anthemau—" Seren Bethle- hem," (Nichols). Diolch i'r cyhoeddwrantur- iaethus, Mr. D. O. Evans, Youngstown, am roi lie yn y Temple, Gems, i'r hen anthem ar- dderchog hon. Cawsom yr hyfrydwch o glywed hefyd yr anthem, "Coffawdwriaeth," (Blessed Recollection,) yr hon a gyfansodd- wyd gan Mr. J. B. Lodwick, er coffawdwr- iaeth am yr hybarch dad Mr. Thomas Grif- fiths, Youngstown. Siomir ni os na ddaw yr anthem hon i fri yn ein cynulleidfaoedd. Ceir hon eto yp y Temple Gems. Canwyd i derfynu y Gymanfa "Teyrnasoedd y ddaear," ac fel holl gynyrchion yr anfarwol J. Am- hrose Lloyd, pery hon yn ei bias holl ddydd- iau y ddaear. Tybiem fod y tair cor-gan (chants) a ganwyd yn ychwanegiad pwysig at ddyddordeb y cyfarfodydd. Yr oedd dygiad y chants i mewn i weithrediadau y Gymanfa yn rhywbeth newydd i gan mwyaf o'r genedl Gymreig. Dichon y ceir am bell un yn ddigon ffol i siarad yn erbyn canu Salmau, heb gofio fod y Salmau mewn bod cyn creu yr un emyn, ac y mae y rhan fwyaf o'r Emynau wedi derbyn eu goleuni o'r Salmau, fel nad ydynt ond adlewyrchiad gwan o air Duw. Mae clywed cyfeillion fel hyn yn dadleu dros yr emynau, ac yn erbyn y Salmau, yn ein gorfodi i gredu mai rhagfarn gul tuag at Eglwys Loegr, ac ymlyniad slafaidd wrth bethau fel yr oeddynt yn amser eu teidiau sydd yn eu llywodmethu. Yr ydym yn hir- aethu am yr amser y byddo y cor-ganau mewn arferiad dymunolyn ein holl gynull- eidfaoedd. Am yr anerchiadau yr oeddynt oil o nod- wedd ymarferol, a thra phwrpasol. Traeth- wyd ar y cor-ganau (chants) yn ngwasanaeth y Cysegr, gany Parch. J. M. Thomas; "Y gweddusrwydd gofynol yn nglyn a chaniad- aeth y Cysegr," gan y Parch. J. P. Davies, Tallmadge; "Cysylltiad offerynau cerdd a gwasanaeth y cysegr," gan y Parch. T. A. Humphreys, Cyclone "Pob perchen anadl molianed yr Arglwydd," gan y Parch. J. P. Williams, Youngstown; "Canu ar deall," gan y Parch. J. L. Davies, Plymouth Church, Youngstown; "Canu a'r Ysbryd," gany Parch. G. Henshaw, Sharon. Cafwyd anerchiadau byrion hefyd gan y Parch. 1. C. Hughes, Palmyra, a'r hen dad parchus Mr. Evan Davies, Pittsburg. Bu y brodyr oli yn dra dedwydd mewn siarad i bwynt a'r y gwahanol faterion a ymddiriedwyd iddynt. Buom mewn rhai Cymanfaoedd Canu cyn hyn, ac yr oedd y siarad dibwynt ac ysgafn a geid ynddynt, yn gadael ai-graff anffafriol ar ein meddwl. Nis gallem yn ein byw gymodi ag ysgafnder a phob dwlni wrth ganu mawl. Mae gwneyd cyfarfodydd yn debyg i Eistedd- fod neu gyngerdd yn annheilwng o amcan y fath gjTiulliad. Credem fod yr holl anerch- iadau a gafwyd yn y Gymanfa ganu yji Youngstown yn tueddu i gynorthwyo y can- torion i fyned i mewn i ysbryd yr emynau a genid. Gwelsom yn y gynulleidfa y Parchn. E. Evans, D. Probert, I. N. Roberts, Youngs- town; J. Edwards, Crab Creek; T. M. Grif- fiths, Wheatland, &c. Nid yn ami y treulias- om ddydd Nadolig gyda'r fath ddymunoldeb ysbryd. Hiraethem am fwynhau gwledd gyffelyb eto.—J. P. W.
Newburg, Cleveland, O.
Newburg, Cleveland, O. NEWBURG, 0., Ion. 2.-Daeth dydd Calan i fewn yn nodedig o wlyb yn y parthau yma, er hyny yr oedd y gan "Blwyddyn Newydd Dda," yn hwyliog ar dafodau pawb, ac er mwyn bod yn lwcus yr oedd pob dyn yn dra gofalus mai dynes fuasai yn ei weled gyntaf, a'r ddynes, hithau, yn llygadu yn ochelgar mai dyn a gyfarfyddai yn gyntaf, ac wrth gwrs yr oedd o bwys pa lythyren ydoedd y gyntaf yn yr enw. Hyderaf, gan hyny, fon- eddigion y DKYCH, mai rhai o'r rhyw deg ddaeth i'ch golwg chwi yn gyntaf fore Calan; y mae hyny o bwys i lwyddiant y papyr am 1890. Y mae ngeiniau o bobl yn y ffordd yma o jian grafangau "La Grippe," a Uawer o'r meddygon, ac yn eu plith ein meddyg Cym- reig J. D. Jones. Y mae y clefyd hwn yn sicr yn dysgu gwers o gydraddoldeb, ac yn gosod yr Ymerawdwr yn Rwsia ar yr un dom- en a phreswylydd y bwthyn to gwellt. Ond odid fod rhagluniaeth neu ryw symudydd arall yn gweled fod angen plaeno tipyn ar y bobl fawr, ucheldrem, weithiau. Nos Calan, yn nghapel yr A., cafodd yr ys- gol Sul o dan arolygaeth Mr. Richard Thom- as, wledd flasus mewn canu, adrodd ac an- rhegu. Gwasgarwyd twmpath anferth o gandi ac aurafalau, ac anrhegwyd y brawd Thos. Thomas a ffon a'i phen yn aur, gan ei ddosbarth, a'r brawd Thos. Evans ag Oxford Bible gan ei ddosbarth yntau. Y mae y naill fel y Hall yn gyfryngau priodol i deithio wrth- ynt.-D. F. Lewis. 4loo
[No title]
-At wendid a nychdod yn tarddu o af- iechyd, nid oes dim yn fwy effeithiol na Sarsaparilla Ayer. Mae yn ddiberygl ac eto yn nerthol fel cryfor, yn hyrwyddo y treul- iant, yn rheoleiddio yr afu a'r elwlod, ac yn glanhau y gwaed o hadau afiechydon.
SYNIADAU Y BOBL.
SYNIADAU Y BOBL. "RHYDD I BOB MEDDWL EI FAUX AC I BOB BARN EI ELAFAII." Paliam y Foresters ? YN y DRYCR am Rhagfyr 5ed, y mae "Syll- dremiwr" yn dwyn CWJTI yn erbyn Cym- deithas Elusengar Chicago, ac yn gofyn "Beth pe sefydlid cymdeithas debyg i'r Foresters, &c." Bydded hysbys i'r cyfaill hwn fod cym- deithas Gymreig yn bodoli yn barod, a'i bod "yn debyg i'r Foresters" yn y pethau a noda efe, sef yr Urdd Iforaidd. Pe byddai Cym- deithas Elusengar yn hollol ddifai yn ei olwg ef, byddai Cyfrinfa Iforaidd yn fantais an- mhrisiadwy i weithwyr Cymreig Chicago. Yr wyf yn deall yr honir fod taa phymtheg mil o Gymry yn y ddinas hono, a gallant yn hawdd gynal tair neu bedair o Gyfrinfaau. Maent yn sylfaenedig ar yr un egwyddorion a budd-gymdeithasau yn gyffredin; telir o $3 i fyny wrth ymuno, ac 'oddeutu 50c. y mis wedi hyny; acyn gyffredin bydd y taliadau allan o bedair i bum' dolar yr wythnos am y ehwech mis cyntaf o afiechyd, swm 11 ai am y chwech mis dylynol; ac yn gyffredin$1.50 yr wythnos ar ol hyny tra parhao yr afiechyd. Mae y rheolau yn caniatau i bob Cyfrinfa ryddid barn a gweithred ar hyn o fewn ter- fynau penodedig. Mae y dyfyniad canlynol allan o adroddiad swyddogol D. P. Thomas, Scranton, AnrhydeddusYsgrifenydd yrUrdd, yn llefaru yn uchel am y lies mae Iforiaeth wedi ei wneyd yn y gorphenol: "Wrth edrych ar ystadegau yr Urdd am y deg mlynedd a aeth heibio, sef o Ionawr laf, 1879, hyd lonawr laf, 1889, canfyddir y gwa- haniaeth canlynol: Am y flwyddyn yn dl- weddu lonawr laf, 1879, yr oedd rhif yr ael- odau yn 1759, neu 62 yn llai nag ar ddechxeu 1889. Talwyd am glafdal, $4:,388.22; tal ang- laddol,$1,330.68; elusenau,$331.93; treth i'r Bwrdd a'r Adran, $901.59; treuliau achlysur- ol,$5,519.19; eyfanswm yr holl daliadan, $12,471.61. Am y flwyddyn yn diweddu Ionawr laf, 1889, rhif yr aelodau ydyw 1821, ac mae y taliadau am y flwyddyn fel y can- lyn: Olaf dal, $8,183.39; tal angladdol, $2,- 242.20; teuluoedd gweddwon, $67.57; elusen- au, $627; treth i'r Bwrdd,$555.77; treuliau achlysurol, $2,956.39; holl dreuliau eraill, $191.87; cyfanswm yr holl dreuliau, $14,842,- 19, felly derbyniodd y weddw a'r amddifaid, a'r claf a'r angenus ond $6,050.83 yn 1878, gogyfer a $11,138.16 yn 1889, ac mae treuliau achlysurol yr Urdd yn Uai o $2,716.75 yn 1888 na 1878. Mae eyfanswm gwerth yr Urdd yn bresenol yn $45,275.56, neu $16,487,55 yn ychwaneg nag oedd ddeg mlynedd yn ol. Oddiar ddechreu y flwyddyn 1878 hyd ddech- reu 1889, yr ydym wedi colli 270 o frodyr trwy farwolaeth, ac wedi talu tuag at eu .claddedigaeth y swm o $21,201.13. Talwyd hefyd fel claf-dal wythnosol yn y cyfryw am- ser y swm o$71,021.91; a ehyfranwyd y swm o $5,174.07 mewnelusenau i'r tlawd a'r angenus, yn gwneuthur y eyfanswm o $97,- 397.11. Heblaw y daioni moo yr Urdd wedi wneyd yn ei chyleh yn foesol a chymdeithas- ol, gellir dweyd heb ameuaeth fod y eyfan- swm uchod wedi esmwythau beichiau y weddw a'r amddifad, a'r tlawd a'r angenus. Y mae 225 o frodyr wedi derbyn claf-dal wythnosol, a 22 o deuluoedd gweddwon wedi derbyn cynorthwy arianoL" Mae y Gymdeithas Iforaidd yn amcanu at rywbeth heblaw cynorthwyo yr aelodau a'u teuluoedd mewn afiechyd ac angen; amcana fod yn gyfrwng cenedlgarol i uno y Cymry a'u gilydd yn y gwahanol sefydliadau, yn hollol annibynol ar enwad crefyddol na phlaid wladyddol. Mae yn perthyn iddi gyfrinion Cymreig; mae ei llithoedd yn seil- iedig ar yr ysgrythyr, ac yn argymell pur- deb, moesoldeb a dyngarwch. Deallwyf fod rhagolygon gobeithiol am sefydllad Cyfrinfa yn Denver. Dylai fod un o leiaf yn mhob sefydliad Cymreig llaw- weithfaol; a chredwyf y byddai, pe gellid dwyn teilyngdod y gymdeithas i sylw y pres- wylwyr. Bu amser pan fodolai budd-gym- deithasau Cymreig yn New York; byddai Cyf- rinfa Iforaidd yn fanteisiol iawn yno yn bres- enol. Byddai felly mewn lluaws o ddinas- oedd a threfi lie mae Cymry yn trigianu. Utica, Rhag. 27, '89. B. F. LEWIS.
Pa Fodd A Bregethu.
Pa Fodd A Bregethu. Pan yn darllen yn y DRYCH dro yn ol ys- grif gan "Tramp" yn gwneyd nodiadau ar bregeth gwr ieuanc, meddyliais am loffa ych- ydig o dywysenau ar y pwnc o bregethu. Dy- wed Paul beth oedd ef yn bregethu, a pha fodd yr oedd yn pregethu, yn 2 Cor. 4: 5— "Canys nid ydym yn ein pregethu ein hun- ain, ond Crist Iesu yr Arglwydd." Ac yn 1 Cor. 1: 23—"Eithr nyni ydym yn pregethu Crist wedi ei groeshoelio." Pa fodd yr oedd yn pregethu; neu yn mha ddull y byddai yn cyfhvyno y testyn hwn ? Dywed hyny yn ei lythyr at y Colosiaid: "Yr hwn ydym ni yn ei bregethu, gan rybuddio pob dyn, a dysgu pob dyn, yn mhob doethineb, fel y cyflwyn- om bob dyn yn berffaith yn Nghrist Iesu." Yr oedd ei bregethau yn gyfeiriedig at ber- sonau—nid at ddynion yn gyffredinol, ond at "bob dyn." Mae y geiriau hyn yn cael eu hail adrodd mewn trefn i ddangos dirfawr bwys y ffaith fod llygaid a chalon y pregeth- w i' mewn rhybuddio a dysgu, yn sefydlog ar "bob dyn." Ond yr oedd ei bregethau per- sonol yn rhybuddiol ac addysgiadol—"rhyb- uddio pob dyn, a dysgu pob dyn." Y mae trefn y pregethwr ysbrydoledig; yn deilwng o efrydiaeth barhaus. Yn gyntaf—"Pob dyn." Mae pregethu i fod yn bersonol, nid yn unig yn y testyn ond hefyd yn y cymwysiad o hono, a'i am- can, o herwydd cyflwyniad yw o Waredwr i gydwybod a chalon pob dyn. Nid pregethu i'r natur ddynol, -ond i ddynion; nid i ddang- os allan berthynasau yr efengyl a'r hiliogaeth, ond a'r gwrandawyr fyddant yn bresenoL Y mae gallu mawr yn yr elfen o bregethu per- sonol. Ar rai adegau ymddengys fel pe bydd- ai Duw wedi bendithio y pregethu pan oedd yn myned mor bell a therfyn moesgarwch, fel yn achos Rowland Hill a'r foneddiges Holland. Rhoddodd y foneddiges orchymyn i'w cherbydwr sefyll, mewn trefn iddi wran- do un o bregethau Hill ar heol Caerludd, pryd y trodd y pregethwr a chyfarchodd hi wrth ei henw, gan erfyn iddi roddi ei chalon i Dduw, a bu yr erfyniad yn llwyddianus. Ond ychydig ddynion fedr bregethu fel Row- land Hill; o'r hyn lleiaf nid ydynt yn amcanu gwneyd. Mae ein pregethau ni yn dra am- ddifaid o'r elfen bersonol yma—"pob dyn," a dyma un rheswm o'u haneffeithiolrwydd. Yn ail—"Rhybuddio" pob dyn. Os yw yr efengyl wedi ei datguddio i achub byd colled- ig, gwaith cyntaf y cenadwr yw argyhoeddi dynion o'u perygl. Pe byddwn i wedi fy an- fon i ddeffro dynion fyddai yn cysgu, a'r ty yn myned ar dan, nid myned yn araf a dys- taw i'w ddeffro a thraddodi iddynt ddarlith ar athroniaeth tan a wnawn; neu egluro pa fodd y gallent ddianc hyd yr ysgolion trwy y ffen- estti pan byddai y grisiau yn llosgi ymaith. 0, nage; ond rhedwn a llefwn "tan!" ac wedi iddynt ddeffro byddent yn awyddus i wrando beth fyddai genyf i'w ddweyd wrthynt, mewn perthynas i'r ffordd o'u hachub. Os na bydd- ai iddynt sylweddoli eu bod mewn perygl, ychydig sylw a wnaent o'm geiriau yn dweyd wrthynt am lwybr i gael diangfa. Nid yw pregethwyr yn ein dyddiau ni (er fod eith- riadau) yn rhybuddio "pob dyn" fel y byddai pregethwyr yn y dyddiau gynt. Nid ydynt yn rhoddi yn eu pregethau ddigon o'r peth oedd hen negro yn ei alw "Rousements." Y ffordd i rybuddio dynion yw dal i fyny y groes; a chyfeirio ati, a gofyn "Paham yr oedd yn rhaid i Grist ddyoddef felly ariai?", Wedi hyny ateb yn ol yr efengyl, "Efe a brofodd farwolaeth dros bob dyn"— drosof fi, a throsot tithau. Yr ydym ni oil yn bechad- uriaid, dan ddedfryd i ddamnedigaeth; oddi- eithr i ni ddianc at y groes, a chael cysgod yn y fan hono, sicr rhaid ein colli byth. Yn drydydcl—"A dysgu pob dyn;" ie, ar ol eu rhybuddio. Pan ddeffroir dynion, yna dyweder wrthynt y ffordd iddynt gael eu hachub. Y weinidogaeth na fedr ond gwaeddi "tan" fel y gwna byddin iachawdwriaeth, gallant hwy wneyd cyffroad tros amser, ond ) n gyffredin ni bydd y canlyniad o hir bar- had. Nid rhyw ddysg gelfyddgar neu ath- ronyddol ddylid gyfranu, ond y ddysg i fod yn GristionogoL Dylai fod yn eglur; yn dangos ffordd y Beibl i fywyd, ac i gyflwyno y gwirionedd fel y mae yn yr Iesu. Nid cyngorwr yn unig yw pregethwr i fod; ac nid yw ychwaith wedi ei anfon i ddeffro cynyrf- iadau y natur. Dywed Crist wrth ei ddys- gyblion "Ewch a dysgweh yr holl genedl- oedd." Hefyd, ysgrifena Paul at Timotheus, "Glyn wrth ddarllen, wrth gyngori, wrth athrawiaethu." Nid oedd Paul yn credu mewn gweinidogaeth heb ddysg ynddi i'r gwrandawyr, nac ychwaith fod pregethu ath- rawiaethol o angenrheidrwydd yn sych ac oer, ac aneffeithiol. Rhoddodd Duw yr add- ewid yma trwy Jeremiah, "Rhoddaf i chwi fugeiliaid wrth fodd fy nghalon, y rhai a'ch I porthant chwi a gwybodaeth a deall." A dy- wedodd yr Iesu wrth Pedr, "Portha fy nef- aid," Nid sefyll o'u blaen a llefain arnynt "Deuwch at Grist," ond rhoddi iddynt ryw- beth i feddwl am dano—rhywbeth er eu gwneyd yn ddoeth i iachawdwriaeth. Yn bedwerydd—"Yn mhob doethineb," yn mhob ffurf 6 ddoethineb meddai Elliot. Mae y gwir bregethwr yn defnyddio pob gwybod- aeth a all gasglu, er ei gynorthwyo yn ei waith. Mae yn myfyrio y natur ddynol, yn myfyrio y meibion a'r merched yn ei gynull- eidfa; yn myfyrio hanesyddiaeth ac athron- iaeth; yn gwylio pob datguddiad newydd mewn rhagluniaeth yn y byd. Hefyd, y mae yn feddyliwr yn gystal ag efrydydd. Mae yn ystyried y dyrys-bynciau sydd yn codi yn yr yrfa o ddygwyddiadau dynol, ac yn yr holl bethau yma gydag un amcan—hyny yw, fel y gallo bregethu Crist yn gyflawnach, a mwy argraffiadol. Os yn darllen llyfr, bydd yn gwneyd hyny er dysgu ychwaneg mewn perthynas i Grist. Pan yn ymddyddan a dyn, bydd y pryd hwnw yn ceisio canfod llinynau trydanol yn ei galon, fel y gallo gyffwrdd a hwynt ag ehedfaen y groes. Dylai genau dros Grist fod y doethaf, y callaf, a'r mwyaf meddylgar o ddynion. Yn sicr, mae arno angen am bob gwybodaeth ei* cyflawni y fath genadwri yn briodol; a rhaid iddo deimlo mor ddiffygiol yw llyfrau a dynion, a pheidio anghofio troi at Dduw yn barhaus, a gofyn i'r hwn sydd yn rhoddi yn haelionus ac heb ddanod. Os dyma y modd y dylai gweinidogion bregethu, dyma y fath a ddylai dynion eu gwrando. Achwyn ar y pregethwr o herwydd ei fod yn rhy ddifrifol, nen yn rhy addysgiadol, yn hytrach nag yn areith- yddol, sydd yn gamwri mawr. Boed i bawb sydd yn pregethu Crist bregethu yn debyg fel yr oedd yr Apostol Paul yn gwneyd, a phawb sydd yn gwrando, fawrhau y fath weinidogaeth mewn cariad. WAETH PWY. Utica, N. Y.
At Bwyllgor Eisteddfod Freeland!
At Bwyllgor Eisteddfod Freeland! I FONEDDIGION Y PWYLLGOR! Mae y "Light house" (Parson Price) yn lied adnabyddus i gorau gwrywaidd Lackawanna, Luzerne, a Schuylkill, &c., ac wedi bod yn gystadleuol yno droion, ond gan fod Mr. Price i feirniadu yn Eisteddfod Freeland, beth ddywedwch am osod y "Lighthouse" yn destyn i'r llawer corau meibion ? Byddai yn sicr o dynu allan gystadleuaeth odidog. Deallwn i'r un dern- yn roddi boddlonrwydd mawr yn Poultney, Vt., yr haf diweddaf. Os yw y rhaglen yn rhy faith, gosoder y "Lighthouse" yn lie "Ymdaith y Mwncod;" bydd yn sicr o dalu yn dda. Yr eiddoch, CERDDOR BACH.
Pwy "'n Trwyddedu y Fasnach…
Pwy "'n Trwyddedu y Fasnach Feddwol? Y llywodraeth bid siwr. Ond pwy gan hyny yw y Llywodraeth ? Nid yr Arlywydd, oblegid gwas y bobl ydyw ef, wedi ei gyflogi (ei ethol) gan y bobl i'w gwasanaethu am dymor neillduol, am gyflog penodedig, ac o dan lw o ffyddlondeb i ofalu am eu buddion, a chario allan eu holl ewyllys mor bell ag y mae ei allu a'i ddylanwad ef yn cyraedd. Nid y Gydgyngorfa na'r Senedd, oblegid nid yw y Cyngreirwyr a'r Seneddwyr ond gweision y bobl, yn cael eu talu o logellau y bobl, ac o dan ymrwymiad difrifol i ofalu am fuddion y bobl, trwy ffurfio deddfau cymwys er am- ddiffyn iawnderau, personau a meddianau y bobl, ac i gario allan eu holl ewyllys fel ei dadgenid yn yr e^holfraint ar ddydd eu heth- oliad. Nid y miliwnwr chwaith ydyw y Llyw- odraeth, oblegid nid yw ei lais ef yn uwch na'i ddylanwad yn helaethach yn yr ethol- flwch, na llais a dylanwad y gweithiwr sydd yn byw yn ei gaban llwyd. A'r un modd gyda'r man swyddogion lleol, ac arglwyddi yr aur, dros holl derfynau y Talaethau Unedig. Gan hyny, pwy yw y llywodraeth ? Dinasyddion y wlad-y dynion hyny sydd yn meddu y rhagorfraint a'r hawl i roddi eu pleidlais yn yr etholflwch ar ddydd yr ethol- iad. Yma saif pob dinesydd yn berffaith gydradd, gan ddatgan ei farn a'i ewyllys mewn perthynas i pwy a ddewisa i'w gyn- rychioli, ac i ofalu am ei fuddion am y tymor dylynol. Y mwyafrif o'r dinasyddion cyd- raddol hyn ydyw y Llywodraeth. Dyma ffynonell awdurdod, dylanwad a nerth llyw- odraeth yr Unol Dalaethau. Os dywed yr etholflwch fod ewyllys y mwyafrif am i'r fas- nach feddwol aros yn y wlad, a chael ei diog- elu a'i hamddiffyn trwy drwydded, rhaid i'r ewyllys hono gael ei chario allan, bydded y canlyniadau y peth a fyddont, ni waeth pa faint o arian a werir, faint o deuluoedd a rwygir, faint o wragedd aboenir, faint oblant a wneir yn grwydriaid, na pha faint o fywyd- au a gollir; mae nerth y Llywodraeth o'r tu cefn. A'r dydd y dywed yr etholflwch fod ewyllys y mwyafrif am ddiddymu y fasnach feddwol o'r tir, y dydd hwnw y derfydd am dani, o ran hawl i nodded ac amddiffyniad gan ddeddfau ein gwlad, ac ni chaniateir mwyach i'r dyllhuanod salwnawl nythu yn mhlygion cysegredig baner ein gwlad, canys bydd nerth y Llywodraeth o'r tu cefn. Pwy gan hyny sydd yn trwyddedu y fasnach fedd- wol, a phwy sydd gyfrifol am y dinystr ofn- adwy a gynyrcha ? H. 0. ROBERTS. Minneapolis, Minn.
Ashley, Luzerne Co., Pa.
Ashley, Luzerne Co., Pa. ASHLEY, PA., Ion. 1.—Cawsom gyfarfod da ar y 26ain, Richard L Jones yn y gadair yn absenoldeb y Parch. Hugh Hughes. Cafwyd can agoriadol gan Jabez M. Williams a'i barti; adroddiadau, Martha Thomas, Nellie Jones, Billie Roberts, Owen H. Jones a'i barti o Sugar Notch, Ann May Evans, Edward S. Jones a Maggie Williams; caneuon gan Henry Jones, Sugar Notch, a Nellie Morgan o Auden- ried. Chwareuwyd y piano gan Miss Annie Lloyd a Thomas Morgan. Anrhegwyd y plant a chafwyd cyfarfod rhagorol. Teimlo yn bur galonog y mae William Francis, er colli yn Rolling Mill Hill. Y mae am fyned i fyny eto i Freeland gyda'i gor. Dal ati, frawd. Y mae Hugh H. Hughes yn gwella yn radd- ol o dan law Dr. Bullard. Drwg oedd genyf weled Jabez M. Williams eto wedi methu cyr- aedd Eisteddfod Utica. Dal i adael y He yma y mae y Cymry, a da genyf ddeall eu bod yn cael lleoedd rhagorach. Nid oes genyf ond dysgwyl amser gwell yma.—Hwntw.
[No title]
—Dwfr yw y ddiod gryfaf, y mae yn troi melinau.
Y XADOLIG.
Y XADOLIG. EISTEDDFOD SHENANDOAH, PA. Cynaliwyd yr Eisteddfod hon yn Fer- gusons Theatre dydd Nadolig. Yr oedd y pwyllgor wedi cynyg tua thri chant o ddoleri yn wobrwyon ar y gwahanol destynau, ac wedi anturio tua thri chant arall at y treul- iau; felly yr oeddys yn dysgwyl am Eistedd- fod flagurog, ac ni chawsom ein hollol siomi, er y rhwystrau a ddaeth i gyfarfod a'i llwydd- iant, trwy fod y gweithiau tanddaearol yn dra difywyd er's cryn amser. Gwelsom lawer o ddyeithriaid wedi dyfod i dreulio y gwyliau gyda'u cyfeillion Eisteddfodol yn Shenandoah, megys John Gilpin, Philadelph- ia; William E. Jones a Hugh E. Hughes, West Bangor, Pa.; Josiah Williams, David Edwards a Meurig Aman, Lansford; Dan Cwmbwrla, Rees Morgan ac Elijah John, Shamokin; David Davies a David Thomas, Scranton; Elias Williams, Wilkesbarre; Owen Griffiths, Slatington, &c. Yr oedd dau o'r beirniaid wedi dyfod i'r lie y noson flaen- orol, sef Apmadoc a Dewi Cwmtwrch, a chyraeddodd Cynonfardd, Miss Edwards, Scranton (Soprano), a Miss Kate Powell (pi- anist), yn brydlon. Edward Rees, Ysw., Centralia, oedd llywydd y dydd, a Chynon- fardd yn arweinydd. Galwodd yr arweinydd y cyfarfod cyntaf i drefn am 10:30; a chanwyd yr "Hen Ganfed" ar eiriau Seisnig. Ni ddaeth o'r beirdd yn mlaen ond Dewi Cwmtwrch, yr hwn a ad- roddodd ddarn ardderchog o'i waith ei hun i'r "Nadolig." Solo Bass, "See the Raging Flames;" William C. Davies, Shenandoah, yn unig yn canu ac yn deilwng o'r wobr, 84. Ad- rodd "Rhyddhad Caethion America," gwobr $4; W. E. Davies, Morea, yn oreu o ddau. Solo Alto, "Don't Forget Me," Miss Maggie Lodwick, Park Place, yn deilwng o'r wobr, $5. Triawd, "The Voyagers," Philip T. Evans, W. C. Davies a Miss Janet Bevan yn deilwng o'r $5. Solo Tenor, "Yr Esgid ar y Traeth," goreu o saith, Philip T. Evans, Shenandoah. Neb wedi cystadlu ar y ffug- chwedl "Maria Jones." Cor Shenandoah yn unig a ganodd "The Day Break," ond yn deilwng 0 rwobr, $50; arweinydd, D. T. Jen- kins (Alaw Cynwyd). Cyfarfod y Prydnawn. Yr oedd awen y beirdd wedi rhewi, felly cododd Apmadoc, ac adroddodd yn gampus ddarn o waith Myn- yddog. Yna cafwyd can gan Miss Lizzie Ed- wards, Scranton, yr hon oedd y gantores gyflogedig erbyn y cyngerdd; canodd yn syml a difai, a hyderwn fod digon o grit yn- ddi i gyraedd i esgynlawr clod ac anrhydedd yn y dyfodol agos. Cys. Soprano, "Ye Breezes that Blow," rhwng tair cantores ar- dderchog; rhanwyd y wobr rhwng Miss Mary Jenkins a Miss Janet Bevan, y ddwy o Shen- andoah. Beirniadaeth Dewi Cwmtwrch ar ddeg cyfieithiad, "Y nefoedd uwch fy mhen," &c., goreu Ap Daniel, New York. Can, "Y Baban Diwrnod Oed," Apmadoc yn gampus. Canwyd "The Lighthouse" gan barti o fech- gyn Mahanoy, dan arweiniad Gethin Powell, yn haeddianol o'r wobr. Canu Madrigal "Flora Gave Me Fairest Flowers," gan Thom- as Hughes a'i barti o Shenandoah, yn wir deilwng. Beirniadaeth T. J. Powell ar ddeg deilwng. Beirniadaeth T. J. Powell ar ddeg o ganeuon desgrifiadol "Y Talaethau Uned- ig," gwobr $10; eiddo y Parch. D. M. Lewis, Ashland, Pa., yn oreu. Adroddiad, "Death- bed of Benedict Arnold;" goreu o dri James S. Rees, Morea. Deuawd, "Go, Baffled Cow- ard, Go;" rhanwyd y wobr hon rhwng Philip T. Evans a'i gyfaill a John Price a'i gyfaill, oil o Shenandoah. Canwyd "Hen Wlad fy Nhadau" yn y fan hon; yna cafwyd adrodd- iad, "The American War" gan Sallie Griffiths o Shenandoah, yn deilwng o'r wobr. Prif gystadleuaeth y dydd oedd ar "We never will bow down," gwobr $125, rhwng cor Ma- hanoy, dan arweiniad Rees Rosser, a chor Shenandoah o dan arweiniad D, T. Jenkins; wedi beimiadaeth faith gan Apmadoc, rhan- wyd y wobr. Darllenodd Cynonfardd y can- lynol i Apmadoc: Fel beirniad craff a llygadog—a dyn Sy'n dweyd yn odidog, Dyn glan a'i gan fel y gog, Y model yw Apmadog. Cynaliwyd cyngerdd ardderchog yn yr hwyr, pan y gwasanaethwyd gan Apmadoc, Cynonfardd, P. T. Evans, Miss Anderson, Pottsville; Miss Rachel Rees, Centralia; Miss Lizzie Edwards, Scranton, a'r Shenandoah Choristers. Hyderwn fod yr Eisteddfod uwchlaw dyled, er yr amser caled sydd yn teyrnasu yn y cylchoedd hyn y dyddiau presenol.-D. 0.
GRANVILLE, WASH. CO., N. Y.
GRANVILLE, WASH. CO., N. Y. Cyfarfod Dyddorol-Cyflwyniad Anrliegion. GRANVILLE. N. Y., Rhag. 28 -Cynaliodd ysgol Sul y T. C. yn Granville, gyfarfod di- fyrus ac adeiladol yn y capel mewn cysyllt- iad a'r Goeden Nadolig, nos Lun o flaen y Nadolig, o dan lywyddiaeth ddeheuig Mr. Richard Roberts (Llew Dulas). Cafwyd ad- roddiadau a chaneuon gan y plant, a chan amryw o'r plant mawr, megys Thos. Rob- erts, Henry Williams a Morris H. Jones, a mwynhawyd y cwbl yn fawr gan gynulliad lluosog. Daeth Santa Claus i mewn yn syd- yn, mewn diwyg addurnol a dyeithr, a gos- odocld bawb yn eu lie a chyda eu gwaith i dynu yr anrhegiQn amrywiol oddiar y Goeden, yr hon oedd yn brydferth dros ben. Hefyd nododd rai i gtirio yr anrhegion i bawb, yn cynwys pob math, a mathau eraill o felusion a phethau dewisol i'r plant bach, a phethau gwerthfawr i'r plant mawr. Yn mhlith yr amrywiol ddymunolicn yr oedd pen-holder goreuredig, a chadair siglo esmwyth, hardd a buddi,ol, y rhai a gyflwyn- wyd i Richard Ifor Parry, gan ei ddosbarth ffyddlon fel arwydd fechan o'u hymlyniad wrtho, ac fel cydnabyddiaeth iddo o'i ffydd- londeb gyda y dosbarth er's dros naw mlyn- edd bellach. Galwyd ef yn mlaen i eistedd yn y gadair, a chan na wyddai ddim am hyny yn mlaen llaw, nid oedd yn teimlo i ddweyd llawer, o herwydd yr oedd peth fel hyn yn beth dyeithr iddo, ac effeithiodd yn ddwys arno. Mae'n debyg y bydd yn anhawddach gwahanu yr athraw oddiwrth ei ddosbarth bellach, ac y bydd yn ofynol iddynt ddweyd wrtho, "dos," cyn y bydd iddo eu gadael. Heb ragrithio, dymuna ddiolch iddynt un ac oil yn gyhoeddus fel hyn, ac ymrithiodd y llinellau dylynol i'w feddwl tra yn eistedd yn y gadair un o'r nosweithiau dylynol: Mi gwrddais ag ami dro chwerw'n y byd, Ces gernod drom, hynod, a bront lawer pryd; A theimlais ing enaid gan siomiant a chroes, Yn troi yn ddymuniad terfyniad fy oes; Ond dyma wawr ddysglaer haul cariad yn ho; Niwl oer anobeithion fy nghalon i ffoi. Yr anrheg i enw o athraw yw hon, Gan ddosbarth a fyddant hyd fedd ger fy mron; Arddengys hon deimlad gwir gariad i'w Bwrsiddj Ffyddlondeb fel trydan drwy'r cyfan a draidd; Tra Ilethir fy ysbryd gan flinfyd a chroes, Mae hon yn lliniaru gotidiau fy oes. Yr holder a'i luniaidd wisg euraidd, "was gwir Fwyn i ysgrifenu" fy meddwl yn glir; A'r gadair ddrud esmwyth un hydwyth a hardd, Wel, methais ag enill 'r un gadair fel bardd; Er hyny caf heddyw well enw a chlod, Sef "Athraw Cadeiriol" heb haeddu cael bod. Wel, diolch am dani, nis gwn y pa fodd, I ddiolch yn deilwng o'r dosbarth a'r rhodd; Erfyniaf o'm calon yr awrhon ar Dduw, Am gymorth i mi ac i chwithau gael byw I fyny a'i Air a chael teimlo ei rym, I'n gwneyd fel yr lesu i bechod yn Uym; A thori chwyn anmhur o'n natur i gyd, Nes byddo cyfnewid ein bywyd 'n y byd; A'n hamcan fo chwilio a threiddio i'w Air, Nes gwel Duw ei ardeb yn mhurdeb y pair; A phan ddelo angeu i'n rhoi ar wahan, Dymunaf eich cwrdd yn y nefoedd wen lan. R. IFOR PARRY.
GWYL LENYDDOL FAIR HAVEN,…
GWYL LENYDDOL FAIR HAVEN, VT. FAIR HAVEN, VT., Rhag. 30.—MaeeinHeis- teddfod yn mhlith y pethau a fu. Cawsom dri chyfarfod yn ystod v dydd yn Knights' Opera House, pryd y daeth cynulliadau mawr yn nghyd o ardaloedd West Pawlet, South Poultney, Poultney, Farnamsville, a'r ardal kon; a gallwn longyfarch ein cenedl am y dull sobr a boneddigaidd yr oeddynt yn ymddangos trwy yr Eisteddfod. Cawsom gystadleuaeth dda iawn ar y cor meibion a'r tenor solo, dan feirniadaeth Proff. Dan. Protheroe, Scranton, Pa., yr hwn roddodd foddlonrwydd cyffredinol, gan ddangos ei hun yn wir feistrolgar, yn ei ddull o gyfranu addysg i'r ymgeiswyr aflwyddianus. Argy- hoeddodd bawb ei fod yn feirniad diragfarn, heb ofni gwg na gwawd neb, a dynion o'r fath sydd arnom eisieu. Y Parch, Thomas Henry Jones, Granville, oedd yr arweinydd am y dydd, a rhoddodd yntau foddlonrwydd rhagorol, fel y bydd yn hyfrydwch genym ei weled yn dyfod yma eto. Yr unig drawback eleni oedd mai ychydig oedd wedi ymgeisio ar y gwahanol destynau. Dyma yr ymgeis- wyr buddugol: Traethawd, E. G. Roberts yn gyntaf, a David Thomas yn ail; Cwestiynau, Robert Thomas; Llythyr, Robert W. Oweas a David » Thomas yn gydradd; Cyfieithu, David Rob- erts, South Poultney; Pryddest, R. O. Prich- ard yn gyntaf, a Robert J. Davies yn ail; Penillion Coffadwriaethol i'r diweddar Owen J. Jones, R. 0. Pritchard, yr hwn hefyd oedd y buddugol ar y chwe' englyn i'r Masonic Monument; englyn "Yr Wyn, 'Dan. R. Wil- liams. Datganu—"The Voyage," The Welsh Presbyterian Choir yn deilwng o haner y wobr a baton i'r arweinydd; "Y Gof," West Pawlet Male Party; "Teilwng yw'r Oen," Fair Haven Choir; Pedwarawd, Robert W. Davies a'i barti; Deuawd, Owen E. Williams a Robert W. Davies; Tenor Solo, Humphrey S. Parry, West Pawlet; Unawd Soprano, Annie Francis; Unawd Alto, Hughie Thomas; Unawd i blant, Jennie E. Jones; Organ Solo Maggie Owen; Piano Solo, Jennie A. Jones. Adroddiadau-meibion, Henry Parry; merch- ed, Miss Jennie Jones; Dos. o 12 i 16 oed, Freddie Williams a Robbie Williams yn gyd- radd am y cyntaf a'r ail wobr, a Willie J. Jones yn dry dydd; Dos. o 7 i 12, Robbie Jones (1), Owen Parry (2), Hughie Parry (3); o dan saith oed, Annie Hughes (1), Elias M. Hughes (2), Martha Parry (3).—Un oedd yno.
Y Nadolig yn Wind Gap, Pa.
Y Nadolig yn Wind Gap, Pa. WIND GAP, Ion. 2.-Erbyn hyn mae ein gwyl lenyddol a'n pren Nadolig ninau, megys dydd ein genedigaeth, i'w rhestru gyda mil- oedd dygwyddiadau eraill 1889, yr hon ei hun- an sydd wedi ymuno a'r canrifoedd pell yn ngororan yr oesol fyd. Cawsom yn ystod y diwrnod ddau gyfarfod, y cyntaf yn y pryd- nawn, wedi ei drefnu ar gyfer cystadleuaeth- au y plant, mewn adrodd y gwahanol emyn- au, a gwobrwywyd yr oil o honynt. Dech- reuwyd yr ail gyfarfod am 7 yn yr hwyr, trwy ganu y don, "Duw mawr y rhyfeddodau maith;" ac yn mysg yr ymgeiswyr buddugol yn y cyfarfod hwn cawn Talywaenydd yn mlaenaf am yr englyn i'r "Poerwr tybaco mewn addoldy;" M. H. Thomas yn oreu am y "Penillion i gapel newydd Wind Gap," yn nghyda'r traethawd ary "DinasoeddNoddfa;" ac Ellen Peters yn oreu o bedwar am ddat- ganu unrhyw gan. Ymgeisiodd dau gor, sef eiddo Wm. W. Pritchard a Griffith Roberts; y cyntaf yn oreu. Cymerwyd rhan ychwan- egol hefyd yn nygiad y cyfarfod yn mlaen gan Pedr Felyn, Wm. W. Pritchard, Thomas Evans (Eos York), John W. Pritchard, Mor- ris W. Jones, Peter Roberts, John D. Wil- liams (yr hwn hefyd oedd beirmiad y gerdd- oriaeth), Miss Ellen Thomas a Miss Mary Ann Lewis. Yn ddiweddaf awd at y gorch- wyl o dynu i lawr y ffrwythau oddiar y coed, a'u cyflwyno i'w perchenogion gan Santa Claus. Heblaw y rhoddion rhoddodd Santa felusion i 150 o Gymry, yr hyn a draetha yn groew am gynydd Cymreig cyflym y gymyd- ogaeth. Cawsom Nadolig hapus, a theilwng o'r wyl yn ei natur a'i nodwedd gyntefig. Ioan. +
[No title]
POWELL, S. DAKOTA, Rhag. 28,—Cynaliwyd Cyfarfod Llenyddol yn y lie hwn dydd Nad- olig, yn nghapel y T. C. Llywyddwyd yn fedrus a doniol gan y Parch. R. Vaughan Griffith. Ar ol cael anerchiad byr a phwr- pasol gan y llywydd, ac anerchiadau gan y beirdd, aethpwyd trwy y Rhagdrefn o ddam- au tra dyddorol mewn canu ac adrodd. Cymerwyd rhan gan Miss Lizzie Griffith, William Rowlands a'i barti, Griffith R. Will- iams a'i barti, Thos. LI. Davies, J. T. Llew- elyn, a'r Powell Glee Club, yr hwn a ganodd "The Christmas Bells." Am 6:30, llanwyd yr addoldy drachefn. Adroddodd y llywydd ychydig benillion ar "Enedigaeth Crist;" yna cafwyd anerchiadau barddonol gan J. T. Llewelyn (Bardd Banwy), o Ipswich. Aed trwy brogram meithach nag un y prydnawn, mewn gwell hwyl, gan yr un personau gyda'r eithriad o W. B. Williams a D. M. Jones, yr hwn ganodd ddwywaith yn ystod y cyfarfod. Darllenwyd "The Pauper's Death Bed" gan amryw, ond i Miss Mary Griffith y dyfarn- wyd y wobr. Diweddwyd gyda'r cydgan "Farewell." Gwnaeth pawb eu rhan yn dde- heuig. Dysgwyl ir Eisteddfod leol yma Dydd Gwyl Dewi. Pe buasai Hugh Whittington o Racine gyda fni dydd Nadolig, ni fuasai yn desgrifio ein sefyllfa mor druenus yn y DRYCR. J[tirionfab.
j Cylchoedd Coal Creek, Colorado.
Cylchoedd Coal Creek, Colorado. COAL CREEK, COL., Rhag. 30.—Arafaidd iawn y mae y gweithfeydd yn cerdded trwy y cylchoedd-No. 1 y C. C. & 1. wedi cau i lawr, a glofeydd y C. C. C. Co. ar lai na han- er amser. Cwyno cyffredinol sydd trwy y Dalaeth, eto i gyd y mae dylifiad pobloedd i'r parthau hyn i chwyddo i fyny fyddin drall- odus llafur, ac i gyfnerthu Haw haiarnaidd cyfalaf i wasgu dynach, dynach. Gorphwys ar eu harfau y mae llenorion y cylchoedd. Dysgwylir pethau gwych i ddy- fod o gyfringyngorau Denver mewn lien, awen, a chan. Cafwyd cyrddan adloniadol y Nadolig yn Coal Creek a Rockvale, a digon o ysbryd y peth byw yn y naill a'r Hall i'n hargyhoeddi fod yma dalentau gwych yn aros eto. Gresyn na cheid ffordd briodol i'w dodi ar log. Oni ellir cael Eisteddfod yn Rock- vale, Nadolig 1890? Ie, Rockvale, o herwydd y mae torfynyglu urddas, lien, awen, a chan wedi peri i ogoniant yr Eisteddfod gilio o'r Creek am ryw gyfnod. Yn grefyddol, gwelsom Coal Creek mewn agwedd lewyrchus iawn cyn heddyw, ond amlwg yw ei bod yn llithro i'r darfodedig- aeth er's mwy na dwy flynedd. Beth yw yr achos o hyn ? A oes neb o hen grefyddwyr gonest a didderbynwyneb "gwlad y Cyman- faoedd" wedi eu gadael i achub gweddill Judah yn y Creek? Os oes deffrowch o gysgu; mae anrhydedd y cysegr, a gogoniant Arglwydd Dduw y tadau yn galw arnoch ar unwaith i ymwisgo mewn cyiawn arfogaeth, a bwrw yr Achan allan o'r gwersyll. Os yn rhengau y gwehynwyr dwr a'r cymunwyr coed y mae, gwyntylliwch; os sawyr anwy- bodaeth cyfringyngor y "set fawr" sydd yn ei ategu, difreinier; ac os yn nby Lefi y mae, Uabyddier, a myner diwygiad heb oedi. -Jolly Fox. 0-00
ROCHESTER, Gorph. 13.
ROCHESTER, Gorph. 13. F. E. C. MEDICINE Co. Fmeddigion: Cefais fy mlino am flynyddau gan anhwylderau elwlol, a rhoddais brawf ar wahanol feddyglynau, ond yn ofer, hyd nes y cymerais F. E. C. Kidney Remedy, yr hwn sydd wedi fy ngwella. Gellwch ddefnyddio fy enw neu gyfeirio ataf parth ei elfenau iach- AOL R. F. CHAPMAN. 32 Marietta St. I