Skip to main content
Hide Articles List

12 articles on this Page

YMDDYDDAN.

News
Cite
Share

YMDDYDDAN. GAN APOLLOS, CHICAGO, ITjIJ. Mae y gair wedi myned allan y rhaid rhestru y ddawn o ymddyddan yn mhlith y celfau coll. Yn yr oes hon, pan y rhuthra i'r wasg bob un y sydd ganddo rywbeth i'w ddyweyd, a phan y ceidw y newyddiadur ni yn hysbys o bob dygwyddiad, poed ef bwys- ig neu arall, ni feddir y cymhelliad na'r def- nydd at yr ymddyddan llafurus a addurnai y gymdeithas wrth y bwrdd, ao ar yr ael- wyd gynt. Cofia y Saeson gydag edmygedd am Johnson a Burke, Goldsmith a Garrick, ao amryw o arebyddion eraill oeddynt yn uwoh o'u hysgwyddau na neb o'u cyfoes- wyr yn y ddawn hud-ddenol hon. Pa wedd bynag, nid yw yn angenrheidiol i un fod yn ddyn mawr er gwneuthur ym- ddyddan wr da; ao i'r farchnad gyffredin o gydgyfeillach, nid oes arnom angen llafnau mawrion o aur neu arian fel oyfryngan oyf- newid. Gall ymddyddan fod yn addysgiad- ol, heb fod yn ddwfnddysg; a gall fod yn foddhaus a buddiol, fel esmwythad oddiwrth lafur a llndded, pan na fydd yn ddwfn- ddysg, nac yn neillduol addysgiadol. Gwyr siaradwr da y pryd i ddal ei dafod. Nid yw byth yn mynu ymddyddan pan fyddo ei wrandawydd yn flinedig neu yn gysglyd, neu pan ddirdynir ei feddwl gan amgylohiadau na pherthynant iddo ef. Meddylddrych Charles Lamb am gydym- aith cymdeithasgar, ydyw oyfaill cydym- deimladol a fedr gydeistedd o flaen y tan a mwynhau y dystawrwydd. Gorchwyl Iled bruddaidd ydyw gwnenthur ymdrech i gadw i fyny ymddyddan er mwyn ffurf yn unig. Gwell na hyny o lawer ydyw tic y cloo, neu gyngerdd y gwlaw ar ben ty, neu chwibaniad y gwynt trwy dwll y elo, neu lais eras y felin goffi yn y gegin, ao yn ben- difaddeu drydar y criciedydd neu ypry' tan! Addasa siaradwr da ei hun i sefyllfa a safle y cymdeithion. Gedy o'r neilldu y pynciau a dueddant i gynhyrfu Hid neu wrthwyneb- iad. Llwyrymwrthyd a ohwestiynau a chyf- eiriadau a dueddant i glwyfo teimladau ei wrandawyr. Ni esyd am ei ysgwyddau fan- tell o ragoriaeth ddeallol, ao ni sieryd ath- roniaeth wrth bobl gyffredin, ac ni wna gyf- eiriadau dysgedig y rhai nad oes ganddo yr un sail i gredu y gwyr ei gwmpeini ddim am danynt. Yr eiliad y dechreuo dyn siarad er mwyn effaith, neu i wneuthur "show off," y foment hono a yn niweidbeth, os nad yn ohwerthinbeth. Rhydd ymddyddanwr da fantais a lie i ereill gyflieryd rhan yn yr ym- ddyddan. Yr hwn a sieryd yehydig, mewn oymhariaeth, eithr a fedda y ddawn neu y knack o dynu ereill allan ydyw ein ffefryn ni, bondigrybwyll. Y mae yn ddywediad cyffredin am rai pobl, ''Nid ymddengys fod ynddynt nemawr hwyl siarad eu hunain, eithr meddant y rhodd werthfawr ac am- heuthyn o roddi awoh ar arabedd rhai ereill." Nid oes prinder galwad am ddyn- ion'o'r fath hyn. I raddau mawr, rhaid i ymddyddan da fod yn ddifyfyr. Anhawdd ydyw teimlo dyddordeb mewn ymddyddan yr ymgymerir ag ef er mwyn treulio yr amser, megys wrth aros am y tren, neu tra yn aros am ryw gyf- aill a ddygwydda gael ei ddal hyd at ddi- weddarweh, gan ryw amgylohiadau. Siaradwr da yw yr hwn a wyr yr adeg i atal ei dafod. Wedi i'r dyn hwnw ddywed- yd yr hyn fydd ar ei feddwl, ni theimla y gosodwyd arno anghenraid i ail-ddywedyd y ewbl drachefn gydag ychydig amrywiadau. Nid ydym am lwyr a chwerw gondemnio ymddyddanion a fyddont yn sawru o dipyn o fyfiaeth. Pan y byddo person wedi cyf- lawni rhywbeth gwerth son am dano, oarwn glywed am y modd y dygwyd y gorchwyl i ben, am y rhwystrau a orchfygwyd a'r an- hawsderau a yrwyd ar ffo, ac am y moddion a arferwyd tuag at hyny. Y mae yn ddigon posibl mai anturiaethau y dyn ei hun ydynt y pethau mwyaf dyddorol y gall ef ein cyn- ysgaeddn a hwynt. Y tywydd yw testyn mwyaf goludog ac epiliog ymddyddan cyfEredin, a gormod tasg 1 ni ydyw dywedyd sut y gallem wneuthur hebddo! Os cyfarfyddwn a dyn ar y brif- ffordd mewn tymestl erwin o eira, gwlaw neu genllysg, a'i gyfarch gyda'r ymadrodd, "Mae'n dywydd mawr, onid ydyw," ni fuas- em yn rhoddi un newydd iddo, ond pa beth a allasem ddywedyd yn fwy priodol i'r am- gylchiad? Eithr, pe ymgymerem a'i gadw yn nghanol y storm i egluro iddo y theory ddiweddaraf am achosion tyruestlcedd, neu risial yr eira, neu ei werthfawredd fel ffrwythlonydd (fertilizer), degiunnad ewyll- ysiai yn mywyd ei galon eich bod yn Hali- fax, neu Van Diemen's Land. Gellir cario tywydd-ymddyddan yn rhy bell. Yn sicr ddigon, y mae ymddyddanwr da yn werthfawr mewn ardal, a dylid ei werth- fawrogi yn gyfatebol. Dyrchefir y meddwl a'r ysbrydoedd pan ddywedir wrthym ein bod ar gyfarfod a'r cyfryw berson; gwydd- och yn eithaf da yr a pobpeth yn mlaen yn hwyliog a hyfryd. Gall hwn wneyd non- sense yn adeiladol. Llawer gwaith y cariodd saeth anwadal a phen-chwiban wirionedd llym ar ei blaen. Mae arabedd dyn fel Sidney Smith yn ddoethineb. Y mae llawer o ddynion yn rhy hoff o glywed eu lleisiau eu hunain, ac wrth gwrs, siara(lant dwysged anfesurol o ddim. Er bod yn sier y bydd ein hymadroddion yn dderbyniol a chymeradwy, ni ddylem un amser siarad os na fydd genym rywbeth i'w ddweyd. "IV

SEFYDIJAD OSHKOSH, WIS.

Spring Side, Kansas.

[No title]

ACHOSION DIRtWIAD.

Y PARCH. R. VAUGHAN GRIFFITHS.

Y PARCH. H. DAVIES, WILKESBARRE.

[No title]

BEIMIADAETHAU.

Yn rhy Dlawd i gynal Cymanfa.

[No title]

PA BETH A WNAWN YN Y DYFODOL?