Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
YMDDYDDAN.
YMDDYDDAN. GAN APOLLOS, CHICAGO, ITjIJ. Mae y gair wedi myned allan y rhaid rhestru y ddawn o ymddyddan yn mhlith y celfau coll. Yn yr oes hon, pan y rhuthra i'r wasg bob un y sydd ganddo rywbeth i'w ddyweyd, a phan y ceidw y newyddiadur ni yn hysbys o bob dygwyddiad, poed ef bwys- ig neu arall, ni feddir y cymhelliad na'r def- nydd at yr ymddyddan llafurus a addurnai y gymdeithas wrth y bwrdd, ao ar yr ael- wyd gynt. Cofia y Saeson gydag edmygedd am Johnson a Burke, Goldsmith a Garrick, ao amryw o arebyddion eraill oeddynt yn uwoh o'u hysgwyddau na neb o'u cyfoes- wyr yn y ddawn hud-ddenol hon. Pa wedd bynag, nid yw yn angenrheidiol i un fod yn ddyn mawr er gwneuthur ym- ddyddan wr da; ao i'r farchnad gyffredin o gydgyfeillach, nid oes arnom angen llafnau mawrion o aur neu arian fel oyfryngan oyf- newid. Gall ymddyddan fod yn addysgiad- ol, heb fod yn ddwfnddysg; a gall fod yn foddhaus a buddiol, fel esmwythad oddiwrth lafur a llndded, pan na fydd yn ddwfn- ddysg, nac yn neillduol addysgiadol. Gwyr siaradwr da y pryd i ddal ei dafod. Nid yw byth yn mynu ymddyddan pan fyddo ei wrandawydd yn flinedig neu yn gysglyd, neu pan ddirdynir ei feddwl gan amgylohiadau na pherthynant iddo ef. Meddylddrych Charles Lamb am gydym- aith cymdeithasgar, ydyw oyfaill cydym- deimladol a fedr gydeistedd o flaen y tan a mwynhau y dystawrwydd. Gorchwyl Iled bruddaidd ydyw gwnenthur ymdrech i gadw i fyny ymddyddan er mwyn ffurf yn unig. Gwell na hyny o lawer ydyw tic y cloo, neu gyngerdd y gwlaw ar ben ty, neu chwibaniad y gwynt trwy dwll y elo, neu lais eras y felin goffi yn y gegin, ao yn ben- difaddeu drydar y criciedydd neu ypry' tan! Addasa siaradwr da ei hun i sefyllfa a safle y cymdeithion. Gedy o'r neilldu y pynciau a dueddant i gynhyrfu Hid neu wrthwyneb- iad. Llwyrymwrthyd a ohwestiynau a chyf- eiriadau a dueddant i glwyfo teimladau ei wrandawyr. Ni esyd am ei ysgwyddau fan- tell o ragoriaeth ddeallol, ao ni sieryd ath- roniaeth wrth bobl gyffredin, ac ni wna gyf- eiriadau dysgedig y rhai nad oes ganddo yr un sail i gredu y gwyr ei gwmpeini ddim am danynt. Yr eiliad y dechreuo dyn siarad er mwyn effaith, neu i wneuthur "show off," y foment hono a yn niweidbeth, os nad yn ohwerthinbeth. Rhydd ymddyddanwr da fantais a lie i ereill gyflieryd rhan yn yr ym- ddyddan. Yr hwn a sieryd yehydig, mewn oymhariaeth, eithr a fedda y ddawn neu y knack o dynu ereill allan ydyw ein ffefryn ni, bondigrybwyll. Y mae yn ddywediad cyffredin am rai pobl, ''Nid ymddengys fod ynddynt nemawr hwyl siarad eu hunain, eithr meddant y rhodd werthfawr ac am- heuthyn o roddi awoh ar arabedd rhai ereill." Nid oes prinder galwad am ddyn- ion'o'r fath hyn. I raddau mawr, rhaid i ymddyddan da fod yn ddifyfyr. Anhawdd ydyw teimlo dyddordeb mewn ymddyddan yr ymgymerir ag ef er mwyn treulio yr amser, megys wrth aros am y tren, neu tra yn aros am ryw gyf- aill a ddygwydda gael ei ddal hyd at ddi- weddarweh, gan ryw amgylohiadau. Siaradwr da yw yr hwn a wyr yr adeg i atal ei dafod. Wedi i'r dyn hwnw ddywed- yd yr hyn fydd ar ei feddwl, ni theimla y gosodwyd arno anghenraid i ail-ddywedyd y ewbl drachefn gydag ychydig amrywiadau. Nid ydym am lwyr a chwerw gondemnio ymddyddanion a fyddont yn sawru o dipyn o fyfiaeth. Pan y byddo person wedi cyf- lawni rhywbeth gwerth son am dano, oarwn glywed am y modd y dygwyd y gorchwyl i ben, am y rhwystrau a orchfygwyd a'r an- hawsderau a yrwyd ar ffo, ac am y moddion a arferwyd tuag at hyny. Y mae yn ddigon posibl mai anturiaethau y dyn ei hun ydynt y pethau mwyaf dyddorol y gall ef ein cyn- ysgaeddn a hwynt. Y tywydd yw testyn mwyaf goludog ac epiliog ymddyddan cyfEredin, a gormod tasg 1 ni ydyw dywedyd sut y gallem wneuthur hebddo! Os cyfarfyddwn a dyn ar y brif- ffordd mewn tymestl erwin o eira, gwlaw neu genllysg, a'i gyfarch gyda'r ymadrodd, "Mae'n dywydd mawr, onid ydyw," ni fuas- em yn rhoddi un newydd iddo, ond pa beth a allasem ddywedyd yn fwy priodol i'r am- gylchiad? Eithr, pe ymgymerem a'i gadw yn nghanol y storm i egluro iddo y theory ddiweddaraf am achosion tyruestlcedd, neu risial yr eira, neu ei werthfawredd fel ffrwythlonydd (fertilizer), degiunnad ewyll- ysiai yn mywyd ei galon eich bod yn Hali- fax, neu Van Diemen's Land. Gellir cario tywydd-ymddyddan yn rhy bell. Yn sicr ddigon, y mae ymddyddanwr da yn werthfawr mewn ardal, a dylid ei werth- fawrogi yn gyfatebol. Dyrchefir y meddwl a'r ysbrydoedd pan ddywedir wrthym ein bod ar gyfarfod a'r cyfryw berson; gwydd- och yn eithaf da yr a pobpeth yn mlaen yn hwyliog a hyfryd. Gall hwn wneyd non- sense yn adeiladol. Llawer gwaith y cariodd saeth anwadal a phen-chwiban wirionedd llym ar ei blaen. Mae arabedd dyn fel Sidney Smith yn ddoethineb. Y mae llawer o ddynion yn rhy hoff o glywed eu lleisiau eu hunain, ac wrth gwrs, siara(lant dwysged anfesurol o ddim. Er bod yn sier y bydd ein hymadroddion yn dderbyniol a chymeradwy, ni ddylem un amser siarad os na fydd genym rywbeth i'w ddweyd. "IV
SEFYDIJAD OSHKOSH, WIS.
SEFYDIJAD OSHKOSH, WIS. RING, P. 0., Mai 4.—Y mae yr anrheg a anfonasoch i'ch derbynwyr sydd yn glir ar eich llyfrau, yn dwyn boddhad ao edifeir- wch yr un pryd-boddhad i'r rhai oedd a hawl iddi yn ol eich telerau, ac edifeirwcn i'r rhai oedd wedi esgeuluso talu yn brydlon i dderbyn y rhodd. Fel hyn y canodd un o'r beirdd yn yr olwg ami, pan yn cael ei rhanu gan eich goruchwyliwr yma: 'Mae hygar drem gwr y DBYCH—yma'n wir, Mae un wedd a'r gwrthrych; Arlun o gawr-eilun gwych, A geir yn anrheg orwych." Cwyno parhaus rhag oerni yr hin a glywir yma. Pan oedd oerni eithatol y gauaf yn mron a rhewi pob peth i fyny, cysurid ni gan broffwydi y tywydd y caem wanwyn cynar a hyfryd yma, ar ol gauaf maith a garw; ond y mae fel pe mynai rhaglaniaeth ddangos eu geudeb, gan fod mis Mai yn dod i mewn ac arwyddion ac oerni gauaf eto heb lwyr ymadael. Boreu ddydd Liun diweddaf yr oedd caenen o eira yn ouddio y ddaear, a chaenen o rew ar y dyfroedd;ond erbyn hyn y mae anesmwythder wedi codi yr amaeth- wyr allan i ddeohreu trin y tir, er ei fod yn ddigon gwlyb ac oer. Crybwyllodd eich gohebydd yn ddiwedd- ar am y cyfarfod a fwriedir ei gynal yma ar y 4ydd o Orphenaf i ddathlu canmlwyddiant yr ysgol Sabbothol, yn mysg y Cymry. Y mae yma ryw ychydig o drefnu a pharotoi ar ei gyfer, er nad cymaint o unfrydedd a sel ag a haeddai coffadwriaeth y sylfaenydd, a theilyngdod y sefydliad. Breintir ni yn fynych ag ymweliadau preg- ethwyr dyeithr, perthynol i'r gwahanol en- wadau. Bu y Parch. Evan Owen, Randolph, yma ar dro y ddau Sabboth diweddaf,yn preg ethu yn nerthol a chymeradwy. Y mae ar- wyddion addawol y cawn ef yma i lafurio fel bugail Soar cyn hir. Ba gwr ieuanc add- awol o Mankato, o'r enw J. C. Jones, ar ym- weiiad a'r lie hefyd, yn pregethu yn nghap- elydd y T. 0., ar nosweithiau o'r wythnos, ao yn casglu at gapel yn Mankato. Dysgwylir y Parch. Griffith Griffiths yma eto at y Sabboth nesaf, i bregethu, a chymer- yd i fyny gasgliad tuag at addoldy newydd yr Annibynwyr yn Chicago. Gwelir ein bod yn cael digon o gyfleusderau i wrando ef- engyl gras, a digon o fanteision hefyd i weithio allan ras yr eferigyl; ond y mae yn naturiol i bechaduriaid dderbyn mwy nag a gyfrenir. Talodd y Parch. H. Parry ymweliad a ni, ar ol bod yn absenol am yspaid maith tua Missouri. Y mae yn edrych yn dda ar ol y teithiau a'r oil. NAGBOM.
Spring Side, Kansas.
Spring Side, Kansas. SPRING SIDE, Mai 1.—Ar ol gauaf lied oer y mae y gwanwyn yn gwenu arnom, a phob peth yn edrych yn addawol, yn enwedig y gwenith gauaf a hauwydyngynar, a'r ceirch. Yr ydym yn awr yn prysur barotoi at blanu corn. Cawsom wlaw yn ddiweddar, ac y mae y tir mewn cyflwr rhagorol. Gwertha tiroedd ymao $10 i $25; ac ni chyfeiliornwn wrth ddweyd fod yma gystal gwlad amaeth- yddol i godi grawn a magu anifeiliad ag mewn un rhan o'r byd. Ond dyma y lie mwyaf ofnadwy am dramps ag a welais i erioed. Ebrill lleg, galwodd dyn dychrynllyd yr olwg arno heibio i ni, gan ofyn am ei giniaw. Gan ein bod wedi blino ar dramps, gwrthodasom ar y cyntaf ei ollwng i mewn. "Wei," meddai yntau "yr wyf yn flinedig ac yn mhell o'r dref." Gof- ynais a oedd ef yn myned 1 weithio i'r ffactri, "Na," atebai, I pregethwr wyf." Synais at hyn, a chymerais ef i'r ty, a difyr oedd y gymdeithas y diwrnod hwnw. Dywedai iddo gael ei eni yn Jerusalem, Palestina a derbyn ei addysg yn Lloegr; ei fod yn medru siarad 32 o ieithoedd, a phregethu mewn 13 o honynt. Y mae yn America er's naw mlynedd, ac wedi ymweled a phob Sir yn y wlad. Bwriada ddychwelyd adref yn yr hydref, ac ysgrifenu llyfr o hanes ei deith- iau. Dyn lied fawr o gorffolaeth ydyw, yn gwisgo fel pregethwr ei wlad-ffrog ddu laes, a chap coch bychan am ei ben. Gwisga ei wallt yn llaes, ac y mae o bryd tywyfl. Ni chysgodd mewn ty er's naw mlynedd; cluda ei babell gydag ef. Ei enw yw y Parch. A. N. Experidon, Bulgarian Monk of the Greek Church of Jerusalem. Os gwel y Cymry ef, gwnant yn fawr o hono.-Robert J. Jones. 1Il1o..
[No title]
-Ar y 5ed cyfisol, yn Webster, Mass., bu farw Sylvia Dupee, bachgen tew naw mlwydd oed, 220 o bwysau.
ACHOSION DIRtWIAD.
ACHOSION DIRtWIAD. Yn ol fel y'u Heglurir yn Hanes Eglwys y T. C., Cambria, Wisconsin. Peth arall sydd ar fforcld cael gweinidog yma, a chael adnewyddiad yn yr eglwys (heblaw diffyg yn y cyfraniadau), ydyw ditf- yg hunan-ymwadiad a chydweithrediad yn mysg y rhai a fynant fod ar y blaen yn yr eglwys. Gormod o awvdd am naenori—tin gario allan eu cynlluniau a'umympwyon eu hunain, eu dyrchafiad personol, ar draul llwyddiant, cysur, a lies cyffredinol yr eg- lwys. Pe ceid digon o arian i dalu cyflog anrhydeddus i weinidog, mae yn amheus genyf a allai yr eglwys gytuno ar y person y gallent roddi galwad yn agos i unfrydol iddo. Mae gan bawb ei blaid, ac os golygid y byddai y gweinidog yn gyfeillgar gyd a hwn hwn, a ni thalai ddim gan y llall. Felly yr oedd pethau wedi myned er's amryw flyn- yddoedd cyn colli Mr. Evans. Nid oedd modd iddo, er called oedd, "ddal y ddysgyl yn wastad" i bawb. Ac yr oedd yr eglwys wedi myned mor ranedig fel nad oedd wedi gallu cydtino i alw ar Mr. Evans I'W gwas- anaethu fel ei gweinidog, er's amryw flyn- yddau cyn ei farw. Mae yr eglwys wedi cael ei blino er's llawer o flynyddau gan ormod o "ddefnydd- iau blaenoriaid," dynion na allodd yr eg- lwys (na neb arall, ond hwy eu hunain), er- ioed fesur eu galluoedd, a gweled eu gwerth. Mae rhai o'r cyfryw wedi gadael yr eglwys er's blynyddau bellach, ac wedi ymuno ag eglwys Saesneg, oedd yn ddiffyg- iol iawn mewn defuyddiau blaenoriaid. Cyn y gellir, yn rhesymol, ddysgwyl llwydd- iant crefyddol yn yr eglwys yma, rhaid i'r aelodau oil ddeall eu lie yn well, ac ym- drechu i gyflawni eu dyledswyddau eu hun- ain lie bynag y gosodir neu y gadewir hwy. Rhaid i'r eglwys (a phob cymdeithas ar- all lwvddianus), redeg yn mlaen fel peiriant gorphenol, pob olwyn wedi ei gosod ac yn troi yn ci lie ei hun. Ni ellir dysgwyl per- ffeit-hrwydd yn symudiad y peiriant c s gos- odir yr olwyn fechan yn lie yr olwyn fawr, ac os ceisir gwasgu yr olwyn fawr i le yr un fechan. Mae llawer o wir yn yr hyn a ddy- wedodd rhyw hen of, oedd yn hynotach am graffder ei sylwadau nag am gaboledd ei iaith. Meddai unwaith: "Job nice felldigedig ydi cael blaenor seiat i ffitio'n iawn yn ei Ie." Mae'n sicr fod rhyw gymwysderau naturiol, neillduol, yn angenrheidiol mewn dyn i fod yn flaenor llwyddianus a defnyddiol. Er mai swydd bwysig ydyw swydd blaenor, credwyf fod yn bosibl i ddyn fod yn rhy all- uog a rhy wybodus i fod yn ddefnyddiol fel blaenbr. Ychydig o waith lied gyffredin, yn galw ond am alluoedd pur gyffredin, syad gan flaenor i'w wneyd, os bydd yn adnabod ei le ac yn deall ei waith; ac os gosodir dyn o dalentau a galluoedd cryfion i gyflawni rhyw fan swyddi a berthynant I swydd y blaenor, mae perygl iddo deimlo mai rhyw joke arno fydd hyny, ac iddo bailu cyfiawni y dyledswyddau perthynol i'w swydd. Ond y mae llawer mwy o berygl i eglwys godi dyn rhy fychan, rhy deneu ei wybodaeth a'i synwyr cyffredin, a rhy ddiffygiol mewn barn (am ei gymwysderau ei hun yn enwed- ig), i swydd. Nid ydyw y cyfryw yn deall y gwahaniaeth sydd i fod lhyngddynt hwy a'r gweinidog. In lie gofalu am amgylch- iadau allanol, arianol, &c., yr e«lwj>, tyb- iant mai hwy sydd i reoli pob peth perthyn- ol iddi, yn enwedig ei gweinidog, os bydd un yn perthyn iddi. Ac os bydd ambell i weinidog yn esgeuluso talu y "parch dylad- wy" iddynt hwy, mae perygl iddynt geisio gosod eu traed ar y gweinidog anffodus, yn y cyrddau chwarter ar cymanfaoedd, yn newisiad rhai i lanw pwlpudau lie na bydd gweinidog, &c. 0 herwydd hyny mae y gweiuidogion yn ami yn rhoddi gormod o raff i r cyfryw flaenomd, nes yr ant yn an- nyoddefol; fel y gwna ambell i dad adael i'w facbgen drwg gael ei ffordd nes yr elo yn rhy gryf i'w reoli. Bai mawr ar weinidogion ac eglwysi ydyw peidio cadw rhyw fan swyddogion i lawr ar lefel y gwaith a berthyn iddynt. Mae am- bell i flaenor gonest, difrifol, galluog a. med- rus yn hollol ddi-fudd am ei fod wedi ei amgylchu a rhai difater ac anfoddlawn ae eraill amlluog i gydweitbredu ag ef. Beth all y cyfryw wneyd os bydd rhai o'i gyd- swyddogion yn rhy ddifater, a difywyd i'w gynorthwyo; a'r lleill yn rhy annoeth. hnn- anol, a phen chwiban i allu cydweithio ag ef i gario petbau yn mlaen yn weddaidd ac mewn trefn ? Mae yn sicr nad oes neb yn rhy alluog, yn rhy fawr na rhy fychan i fod yn Gristion; ond mae cymwysderau i lanw swyddi yn bethau gwahanol. Betb, tybed, all fod yn ddiffygiol yn eglwys Cambria? Mae yn sicr nad ydyw yn symud yn mlaen fel y dylai peiriant perffaith cymdeithas grefyddol wneyd. Onid oes gan yr "Hen Gorff" hawl i gymeryd gael ynddl, ei dadansoddi o'i seil- iau, ei phuro a'i glanhau, a'u hail-adeiladu yn deml ogoneddus ? Mae yn sicr fod yn- ddi ddigon o ddefnyddian eglwys lewyrchus, gynyddol. Ond pwy ydyw y peirianydd a all ei"hail wampio," a'ichychwyn yn mlaen, fel y byddo o ryw fantais i'r ardal ac i gym- deithas yn gyffredin ? Mae yr eglwys yn sicr o gael ei dal yn gyf- rifol am y difaterweh am bethau crefyddol sydd yn amlwg yn ieuenctyd yr ardal; am y syniadau cyfeiliornus ac anffyddol sydd yn cael eu oleoidu a'u lledaenu heb un rhwystr ar eu ffordd; am y rhedeg ar ol gwag bles- erau, a'r syched am ryw ddifyrwch di-fudd a ganfyddir yma, yn enwedig yn mysg yr ieuenctyd yr elfen fyw, symudol, a gyfan- sodda gymdeithas yr oes nesaf. Pa faint o effeithiau dylanwadau daionns eglwys Cam- bria a ellid oheitino eu gweled ar gymdeith- as yn y dyfodol ? Os gwaith yr eglwys ydyw geleuo, addysgu, hyfforddi, puro, moesoli, a chrefyddoli cymdeithas, mae yn sicr mai hi a ddelir yn gyfrifol os canfyddir tywyllwch, cyfeiliornadau ac anfoesoldeb yn cynyddu ao yn lledaenu. Diffyg goleuni a bar dy- wyllwch, ac yn niffyg addysg y ffyna anwy- bodaeth acannhrefn;ac Did yranwybodusa'r anfrdrus a gant eu beio, ond y rhai sydd a moddion gwybodaeth ac addysg yn eu dwy- law. Ai tybed fod genym ryw sail i obeithio y cawn o hyn allan lai o honiadau a mwy o wir grefydd—llai o hunanoldeb a chroes dynu, a mwy o gydweithrediad mewn gwneuthur dnioni; llai o dwrf llestri gweig- ion, a mwy o arllwys a chyfranu gwybodaeth o'r rhai llawnion; llai o fydolrwydd, crin- tachrwydd a chybyd d-dod, o mwy o hael- frydedd mewn ymddygiadaua chyfraniadau; llai o ryw gnoi cil yn y gongl wrth son am ryw grefydd rad," na ellir dysgwyl iddi ond yn unig gario ei pherchenog i'r nefoedd, a mwy o awydd am wneyd lies i eraill-o leiaf bod yn ddinasyddion teilwng, cyso cymeradwy, cymydogol, moesol, buddio., cyn son am ein honiadau crefyddol, ein bod yn ddidoledig o r byd, yn well na n cym- ydogion, yn "blaut etholedig Duw," &c.! I ba le yr ydym i edrych am y diwygiad gwir angenrheidiol yma ? A oes digon o fywyd ac yni moesol a chrefyddol wedi ei adael yn yr eg] wys i ddwyn hyn oddiamgylch ac i ymburo ac ymdrwsio ac ail gyctiwyn gyda phenderfyniad am fod yn oleuni byw yn yr ardal yma? Dylai eglwys fod fel gwlad wareiddiedig, dan werin-lywodraeth lwyddianus, ac ynddi ddigon o allu, pen- derfyniad a chydw ithrediad i symud pob rhwystrau oddiar ffordd ei lwyddiant, pa un bynag ai swyddogion anfedrus, deiliaid an- ffyddlawn neu elynion allanol a all hyny fod. Gobeithiwn fod digon o fywyd a doethineb wedi ei adael yn hen eglwys Cambria i fynu ail gychwyn, ac i osod ei hun eto ar safle lie gall hawlio parch yr ardal a'r wlad iddi fel sefydliad teilwng o'r oes bres- enol, ac o genedl y Cymry. Peth posibl ydyw fod llawer o eglwysi Cymreig America mor ddiffygiol a'n hen eg- lwys ninau, ac y byddai y sylwadau a'r aw- grymiadau afler a chymysgedig yma yn eith- af priodol a chymwys iddynt; ond am Cam- bria, fy hoff hen gartref, yr ydwyf yn gwy- bod oreu. PRYDERUS.
Y PARCH. R. VAUGHAN GRIFFITHS.
Y PARCH. R. VAUGHAN GRIFFITHS. Ei Bregeth Olaf yn Columbus, O.—Cwrdd Ymadawol Brwdfrydig a Lluosog. COLUMBUS, 0., Mai 4.—Fel y mae yn hys- bys i adarllenwyr y DRYCR, rhoddodd eg- lwys y T. O. ar 13th St., New York, alwad unfrydol i'r Parch. R. Vaughan Griffiths, yn Ionawr diweddaf; ac o herwydd ryw resym- au gwybyddus iddo ef a'i Feistr (ond nid i rn ni), atebodd hi yn gadarnhaol. Pan ofyn- wyd i ni fel eglwys am ganiatad i gael Mr. Griffiths i lanw pwlpud 13th St., am fis Ion- awr, teimlai llawer o honom gryn bryder yn ei gylch, oblegid teimlem yn sicr y buasai y cyfeillion yn New York yn hoffi y fath breg- ethwr ag oedd ein gweinidog ni, o ran tlys- ni, nerth ao eglurder, yn nghyd a'r difrifwoh a'r symledd aruchel sydd yn nodweddu ei draddodiad; ond mor foddhaol oedd ein cys- ylltiadau ni fel eglwys, fel y darfu i ni feiddio gadael iddo fyned. Y nos Sabboth cyntaf ar ol dychwelyd, gwnaeth y ffaith a grybwyll- wyd uchod yn hysbys i'r eglwys, yr hyn a'n tarawodd megys a mudandod; a chan fod yr ymddiswyddiad yn hollol "ddiamodol," heb yr un gwyn yn ein herbyn, ond yn hollol i'r gwrthwyneb, liac un cais atom am ychwan- eg o gyflog, na dim o'r cyfryw, yr oedd yn ymddangos nad oedd dim i'w wneyd ond ei derbyn, yr hyn a wnaed trwy i Mr. R. C. Williams, mewn ychydig o eiriau pwrpasol a llawer o deimlad, gynyg ein bod yn ei der- byn, yr hyn a basiwyd, gan ei fod yr unig beth posibl ei wneuthur dan yr amgylchiad- au. Wedi hyn, aeth pobpeth yn mlaen fel cynt, am rai Sabbothau; ond fel yr oedd am- ser yr ymadawiad yn ngoshau, a Mr. Grif- fiths yn pregethu gydag yni a difrifwch, nag anghofir yn fuan, dechreuai teimladau yr eg- lwys a'i gweinidog parchedig ddangos eu hunain; a'r cymundeb diweddaf, torodd allan mewn ffurf nas gellid ei gamsynio. Wylai y frawdoliaeth wrth yr ugeiniau, a'r gweinidog yn ei dro fel ei Feistr gynt, wrth ein gweled ni yn wylo a gynhyrfvyd, ac a wylodd, fel y methai a dweyd dim am ys- baid. Ar hyd y mis hwn dangosodd teulu- oedd yr eglwys barch a serchawgrwydd mawr tuag at Mr. a Mrs. Griffiths, trwy ei gwahodd i'w tai i dreulio prydnawn gydag ychydig o'u cyfeillion, ac yr oedd y cyfar- fyddiadau y pethau goreu a allasai cymdeith- as anmherffaith ei fforddio. Ond Sabboth y 26ain y cyrhaeddwyd y climax, gan mai dyma y Sabboth yr oedd Mr. Griffiths i bregethu ei "farewell sermons," fel y dywedir. Yn y boreu pregethodd i gyn- ulleidfa anghysurus o fawr, ocldiar Titus, 2:6. "Y gwyr ieuanc yr un ffynyd cynghora i fod yn sobr." Cyfeiriodd ei sylwadau at y bobl ieuano yn fwyaf uniongyrchol, a sier yw na welodd neb oedd yn y gynulleidfa lu- osog sylwadau oedd yn cael y fath effaith cyffredinol. Nos Sabboth, yr oedd yr hen gapel wedi ei orlenwi, a lluaws yn aros gar- tref am y gwyddent y byddai yn annyoddef- ol o lawn. Cwestiwn ag y dylai arweinwyr a chyfoethogion yr eglwys hon ofyn iddynt eu hunain yn ddifrifol yw, yn ngwyueb arddangosiadau o'r fath yma, ai nid ydynt yn euog o atal llwyddiant teyrnas y Gwared- wr trwy beidio darparu lie cyfaddas a chyf- Ions i'w cydgenedl i ddod i wrandaw yr ef- engyl. Cymerodd Mr. Griffiths yn destyn ei gyfarchiad ymadawol, Actau yr 20-13. Ad- olygodd ei weinidogaeth yn dra effeithiol, a hyderai nad oedd wedi atal dim yn ol oddi- wrthym, a'r hyn yr amlygai y dorf ei chyd- syniad trwy dywallt cenllif o ddagrau. Fel hyn terfynwyd un o'r cynuiliadau crefyddol mwyaf difrifol ac effeithiol y buom ynddo erioed. Nos Lun y 27ain, yr oedd y eyfarfod ym- adawol, yr hwn yn ddoeth y darfu i'r pwyll- gor trafniadol benderfynu ei gynal yn y Lynden Hall, am y gwyddent na buasai y capel (yn yr hwn y dylasai ar bob cyfrif gael ei gynal) yn haner digon o faint; a theg yw dweyd, er nad oedd i fod yn mysg y siarad- wyr y "Parch." hwn a hwn, na'r "Doctor" hwn a hwn-dim ond yn unig "home talent," i'r hall gael ei llanw yn llawnach nag y gwel- wyd hi erioed o'r blaen; ie, yn llawnach nag ar adeg Cymanfaoedd y T. C. a'r A. Cym- erwyd y gadair gan Mr. R. C. Williams, a dechreuwyd trwy ganu y Doxology. Hys- bysodd y llywydd amcan y cyfarfod mewn ychydig eiriau pur ganmoliaethus i Mr. a Mrs. Griffiths, ac amlygodd ei ofid dwys wrth feddwl eu colli. Datganai ei lawenydd wrth weled cynifer wedi dyfod yn nghyd i ddangos eu parch i, a'u hedmygedd o Mr. a Mrs. Griffiths; yna galwodd ar ysgrifenydd yr eglwys, Mr. D. J. Benbow, i roddi bras- lun o hanes yr eglwys, er yr amser y daeth Mr. Griffiths atom, hyd yn awr-hanes pur galonogol, yn dangos cynydd mawr yn y cisgliadau, a chynydd o 115 yn rhif yr eg- lwys. Canodd y Cambro American Ohoral So- ciety, dan arweiniad J. R. Beynon, Ysw., "Tramp o'er moss and fell," yn rhagorol, a bu raid iddynt ateb i encore byddarol. Am- lygodd Mr. D. S. Morgan ei deimlad mewn dull tra effeithiol, gan adolygu y weinidog- aeth rymus ac effeithiol oeddym wedi gael gan Mr. Griffiths; atherfynodd trwy ddweyd nad a Mr. Griffiths byth i'r un man y byddai yr eglwys yn meddwl mwy o hono nag yr oedd eglwys Columbus. Y nesaf oedd Mr. T. H. Jones, yr hwn yn ei ddull ffraeth ar- forol, a dd) wedai nad oedd angen i ni godi oymeriad Mr. Griffiths, am ei fod wedi gwneyd oymeriad iddo ei hun fel pregethwr a gweinidog, i'r hyn yr oedd y teimlad a welid yn y moddion y Sabboth, yn dwyn tystiolaeth anwadadwy. Sylwodd y Parch. Evan R. Jones ar Mr. Griffiths fel cyfaill pur a diragrith; ond rhwystrwyd yr hen frawd i ymhelaethu o herwydd afiechyd. Cyfododd Mr. L. D. Davies, a chynygiodd y penderfyniad can- lynol mewn araeth ag oedd yn arddangos edmygedd eithaf ol o Mr. Griffiths; "Ein "bod fel eglwys a chynulleidfa yn teimlo "gofid dwys a digymysg am fod y cysylltiad "sydd rhyngom a'n hanwyl a'n parchus "weinidog, y Parchedig R. V. Grif- "fiths yn cael ei dori ar ol naw "mlynedd o weinidogaeth lwyddianus "a thra derbyniol." Cefnogodd y oynygiad gan Mr. D. L. Richards, yn ei ddull brwd- frydig arferol; yna rhoddwyd ef i'r gynull- oidfa yn Gymraeg ac yn Saesonaeg gan y llywydd, a phasiwyd ef yn nnfrydol, trwy i'r gwyddfodolion gyfodi ar eu traed. Yna, cyfododd Mr. T. A. Morgan, un o'r dyniou ieuanc mwyaf addawol a fedd yr eg- iwys, ac mewn araeth a brofai fod dyfodol dysglaer iddo fel siaradwr cyhoeddus, cyn- ygiadd y penderfyniad canlynol: "Ein bod "fel eglwys a chynulleidfa yn cyflwyno y "Parchedig R. V. Griffiths a'i deulu i eglwys "a chynulleidfa New York, gyda'r teimhidau "mwyaf parohus, a'r dymuniadau goreu am "eu llwyddiant tymorol ao ysbrydol, fel "teulu; ein bod yn dymuno ar iddynt dder- "byn ein hanwyl frawd fel angel Duw; ac "mai ein gweddi ydyw, ar fod llwyddiant "neilldu A ar ei weinidogaeth, er adeiladu y "Saint, a throi lluaw8 o'n eydgenedl i'r iawn "allan o fagl diafol." Eiliwyd ef gan Mr. Evan Moses, a phasiwyd ef yn unfrydol. Galwyd ar y Parch. John Jones (A.), yr hwn a ddywedodd iddo fod yn cydweinidog- aethu a Mr. Griffiths am bedair blynedd, ao nas gwelodd, yn ysbaid y deugain mlynedd yr oedd wedi bod yn gweinidogaeth u, yr un brawd mwy rhydd a diragfarn nag oedd Mr. Griffiths. Yna cyfododd y llywydd, a dy- wedodd ei fod yn myned i alw ar arwr y oyf- arfod i'n hanerch. ao meddai: Y mae y ffaith fod yn bosibl, ac yn sicr mai dyma v tro diweddaf y cai rhywrai byth ei glywf d yn aoenu yr hen Gymraeg mor swynol, gyda brawddegau mor dlysion, ond dywedai, a'i deimladau bron yn ei orohfygu, fod yn rhaid er mor annyoddefol oedd y syniad ei alw. Yna galwodd ar y Parchedig R. V. Griffiths i'n hanerch, yr hyn a wnaeth yn y fath ddull teimladwy nad amoanwn ei ddar- lunio, a'r gynulleidfa luosog yn arddangos llawer o gydymdeimlad. Wedi ffarwelio a ni a dymuno ein cysur tymorol ac ysbrydol, eisteddodd i lawr yn nghanol cymeradwy- aeth. Canodd y Philharmonic Sooiety, dan ar- weiniad y galluog a'r diymhongar, Mr. John Richards, "Yr Haf;" ac er nad yw y cor hwn ond wedi oesi tair lleuad, canasant mor rhagorol nes y bu raid iddynt ail ganu. Bydd y oor hwn yn yngeisydd peryglus yn yr Eisteddfod ddyfodol yn Youcgstown, O. Yn y dull hwn terfynwyd un o'r cyfartod- ydd goreu a lluosocaf y buom ynddo yn Col- umbus, trwy i Mr. Griffiths ddweyd y fen- dith Apostoiaidd. Dylasem ddweyd i Mr. a Mrs. Griffiths, a Miss Lizzie, gael amryw o anrhegion gwerthfawr, y rh.,j ui fynni eu cyflwynwyr wneyd eu hen^-aa yu hysbys. Boed i net a daear wenu ar Mr. Griffiths a'i briod hoff a dirodres, yw dymuniad calon- CBITIOUS.
Y PARCH. H. DAVIES, WILKESBARRE.
Y PARCH. H. DAVIES, WILKESBARRE. Ki Gyfarfod Ymadawol cyn ei Fynediad i Gymru. WTLKESBABBE, PA., Mai 5.—Neithiwr, cyn- aliwyd cwrdd ymadawol y Parch. Hugh Davies, yn nghapel y T. C. Cymerwyd y gadair lywyddol gan y Parch. T. C. Edwards (Cynonfardd), am 7:30, yr hwn a'i llanwodd yn deilwng, fel arfer, er dyddordeb i'r dorf bresenol; yna gweddiwyd gan y Parch. John T. Morris, Bellevue, am bresenoldeb yr Ys- brydGlan; ac am feadith y nef i ddylyn Mr. Davies i Gymru, ac yn ol i faas newydd ei lafur yn Ohio. Ar ol i'r Haydn Glee Club, 25 mewn rhif, ganu yn rhagorol dan arwein- iad Oliver Riiydderch, cafwyd araeth Seis- nig gan y llywydd, yn Hawn digrifwch a synwyr cyfEredin. Yna anerchiad gan Mr. David Moses, ar ran y swyddogion. Dywed- ai fod cydweithrecliad da wedi bod rhyng- ddynt hwy a Mr. Davies bob amser; er nad oedd hyny yn cynwys eu bod yn cydolygu ar bob pwnc. Yr oeddynt wedi cytuno i baidio mewn rhai pethau. Rboddai air da i Mr. Davies fel pregethwr a gweinidog da, gonest a didderbynwyneb; a hysbys&i fod ychwan- egiadau mawr wedi cymeryd lie yn yr eg- lwys a'r gynulleidfa, o dan ei weinidogaeth, nes oedd y capel wedi mynod yn rhy fach i ddal yr holl Northmen a'r Hwntws, a'r sir Gaers a'r Cardis, a'r Iancis a ddenent i glyw- ed Mr. Davies yn pregethu. Teimlent yn ddrwg ei fod of yn ymadael; ondyr oeddynt yn dymuno bendith y nef iddo bob amser, yn mhob man. Morgan D. Williams a ddywedai fod yr eglwys yn teimlo yn hiraethus yn yr ymad- awiad, a'u bod yn ymwybyddol ei fod wedi pregethu iddynt fel yr oedd ei ddwylaw yn lan oddiwrth eu gwaed. Dymunid ei lwydd- iant yn ei faes newydd; a hyderid y byddai i'w colled hwy gael ei gwneyd i fyny trwy ddoethineb a daioni y Pen Bugaii. Yr Anrh. Morgan Williams, ar ran y gynulleidfa, a roddodd anerchiad Ilawn ffruethineb, gan gyhuddo y Methodistiaid o fod yn rhy es- geulus o'u gwrandawyr; yr oedd eisiau bod yn fwy cymelliadol. Dywedai, pe buasai ganddo fil o bleidleisiau, y buasai wedi eu rhoi yn erbyn i Mr. Davies ddyfod i Wilkes- Barre; ond y rhoddai fil yn awr dros gadw yr un gwr yn yr un lie, am fod y gynulleidfa yn hoffi ei weinidogaeth. Yna gofynodd y llywydd am i ba.wb oedd yn cydolygu a'r hyn oeddid wedi glywed, godi ar eu traed i ganu yr hen emyn: "Bydd myrdd o ryfeddodau Ar doriad boreu wawr," &c. Sylwodd y Ilywydd ar ran y pwyllgor, eu bod yn bwriadu gwneyd rhywbeth mwy syl- weddol i Mr. Davies, erbyn ei ddychweliad o Gymru, er dangos eu hedmygedd o hono. Wedi hyny, cafwyd anerchiad barddonol Seisnig gan y cyfreithiwr D. M. Jones, ar y "Pwlpud Cymreig," yn reit dda, gallwn dybied; ac anerohiad Seisneg gan Mr. Pal- mer, cyn-Gyfreithiwr Cyffrediuol y Dalaeth, yr hwn a dalai warogaeth uchel i'r Parch. Hugh Davies, am ei wroldeb moesol fel gweinidog yr efengyl, yn ymladd a'r fasnach feddwol, fel aelod o'r pwyllgor 50. Dywed- ai, gan gyfeirio at y Seneddwr M. Williams, eu bod hwy fel aelodau o bwyllgor y 50, yn alluog i brofi fod yr High License, yn ogystal a'r Low License yn aneffeithiol ac aunigonol i roddi atalfa ar rwysg y fasnach feddwol. Can eto gan y parti, ac yna anerchiad poblogaidd gan y Parch. R. F. Jones, Hyde Park, nes cynhyrfwyd llawer o ohwerthin, trwy ei ddigrifwoh tarawiadol, wrth ddar- lunio y fath greadur a fyddai y Parch. Hugh Davies, pe y gallai pawb o'i wrandawyr ei wneyd yn bregethwr yn ol eu barnau am- rywiog hwy. Cydmarai ef i'r hand organ, yn newid ei donau i blesio pawb, heb eisiau ond cyffwrdd a'r ailwedd lywodraethol. Amheuai yr hyn a ddywedai y Seneddwr Williams, gan nad oedd y gwrandawyr yn gwneyd yr hyn a ddywedai Davies wrthynt, pan yn eu hanog i ddianc o eisteddleoedd condemniol gwrandawyr yr efengyl, i'r eg- lwys am ddiogelwch. Rhyfeddai fod y fath bregethwr da yn myned o'r fath eglwys dda ag yw eiddo Wilkesbarre, a theimlai yn ddrwg o'i golli o'r Dalaeth. Y Parch. J. Gwrhyd Lewis (A.) a roddai air da i Davies fel un o'r oymydogion goreu a gafodd erioed, yr hyn a barai iddo hiraethu ar ei ol. Adroddai am rywun oedd yn teim- lo y V yn dweyd wrtho ryw dro nad oedd ef o'r un feddwl a Paul mewn llawer o bethau; ao iddo yntau ei gynghori i beidio dweyd hyny wrth neb eto, am nad oedd yn ddim credyd iddo farnu yn wahanol i bregethwr mawr fel Paul. Y Parch. John T. Morris, Bellevue, a ddy- wedai mewn dull pert a tharawiadol iddo gyfarfod a'r Parch. Hugh Davies, y tro cyntaf, 13eg o flynyddoedd yn ol, yn Niles, 0., fol llywydd Eisteddfod, a'i fodyn ei ed- mygu yn fawr byth er hyny fel pregethwr mawr. Yr oedd fel y Niagara Falls-ei fawr- edd yn dyfod yn fwy i'r golwg yn barhaus, wrth nesau ato. Rhoddai y Parch. Samson Jones (B.) air da iddo fel cymydog a Chymro, am ei fod yn meindio ei fusnes ei hun, ac am ei fod yn ddyn o egwyddor, ac nid dyn dynion. Teim- lai y Parch. Wm. Mathews, Olyphant, yn ddrwg fod Hugh Davies yn myned i adael y Dalaeth, am ei fod yn bregethwr mawr, ac am mai pregethu yw ei brif amean; a dywed- odd D. W. Evans, Plymouth, fod yr eglwys yno hefyd yn teimlo yn ofidus. Yr oedd y Parch. T. J. Phillips yn methu dyfod i'r cyf- arfod, oblegid gwaeledd ei fab. Ymesgusod- odd y Parchn. Wm. H. Williams, a Wm. J. Jenkins, am ei bod yn myned yn rhy hwyr. Yna cafwyd anerchiad byr gan y Parch. Hugh Davies ei hun. Dywedai mai ei iech- yd ef a'r teulu sydd yn ei gymeU i fyned o Wilkesbarre. Nid yw y lie yn dygymod a hwy. Toimlai yn anwyl at yr eglwys a'r swyddogion; yr hyn a'i gofidiai fwyaf oedd fod y gwrandawyr yn gwrthod gwrandaw ar ei lais. Yr oedd am iddynt goflo y byddai iddYlit gydgyfarfod eto o flaen y fainc Fawr y dydd olaf. Dywedai nad oedd yn myned i ffarwelio, am fod eu perthynas i aros i'r dyfodol pell; ac wrth derfynu dymunai fen- dithion Jacob i Joseph i eglwys Wilkes- Barre, "hyd derfyn bryniau tragwyddol- deb." Fel hyn, terfynwyd un o'r oyfarfod- ydd mwyaf dymunol o'r eyfryw nodwedd ag v bum ynddo erioed. Bwriada Mr. Davies gychwyn i Gymru dydd Sadwrn, Mai y 9fed. ao aros yno am L tua thri mis. Yr Arglwydd a fyddo gydag ef, i'w ddiogelu, ac i fendithio ei weinidog- aeth yn ngwlad ein tadau, fel y bydd iddo ddysgleirio fel y ser byth yn ff arfafen yr eg- lwys.—W. D. DAVIES.
[No title]
—Ganol yr wythnos ddiweddaf, profwyd y Barnwr Brooks, o Pittsburg, Tex., yn euog o dderbyn llwgrwobrwyon, a dedfryd- wyd ef i'r benydfa am ddwy flynedd. Pan oedd y swyddog ar gychwyn ag ef yno, saeth- odd ei hun yn farwol. Oafodd Meshac Boar, Gordon, Ga., ei bigo i farwolaeth gan haid o wenwyn ar y pumed oyfisol. —Bwriada Charles Longfellow, mab y bardd, gychwyn yn fuau ar daith o gwmpas y byd.
BEIMIADAETHAU.
BEIMIADAETHAU. EISTEDDFOD DALAETHOL KANSAS. BEIBNIADAETH TAVALAW AB YR "ENGLYN I'B INDBAWN." Daeth i law un deg un o englynion—cys- tadleuaeth lew, am yr hyn y mae'r bechgyn i'w canmol. Ond wrth eu gogrynu yn yr ogr farnol, daethant allan yn dri dosbarth: Dosbarth I., yn cynwys Simeon, Esau, Paul, -tri brawd; loan Marcus a Didymus yr ail, dau frawd hefyd, a chefnderwydd a'r rhai blaenaf. 0 ran gwerth yr englynion, y inaent oil yn werth yr un swm, a hyny yw, dim. Y mae yn syn dod fod pob un o hon- ynt yn gywir o ran mesur;hyny yw, y mae'r llinellau yn cynwys y nifer briodol o sillau, sef deg a chwech yn y paladr, a dau saith yn yr esgyll; ac eto, nid oes cymaint ag un gynghanedd o fath yn y byd yn y pum en- glyn. Yn eiddo Simeon y mae r odlau oil yn un- sill (ultimus), sef yd, byd, pryd, hyd. Yn eiddo Esau y maent oil yn amry-sillol, a'r acen ar yr olaf ond un (penult), sef, rhagor- ol, hollol, neilldi(u)ol, gweddol. Yn eiddo Paul y mae odl y paladr yn indrawn, iawn; (yr olaf o'r ddau ddylasai fod yn ddeusill), ac eiddo yr esgill yn, freision, grytion. (Dy- lasai fod un o'r rhai hyn yn unsill, neu o leiaf yn acenu ar y sill olaf,) Yn englyn loan Marcus, yr odlau ydynt, ydo'dd, di- ro'dd, bodd, gan(n)o'dd. Gweliriodyrodlau da, ydoedd, diroedd, a gannoedd, wedi eu cigyddio i gyfateb i bodd. Ac yn eiddo Didymus yr Ail cawn yr odlau yn, resiau, dalaethau, gorsenau; ond och yn lie mae, (yr hyn ni fuasai gywir o ran hyny), y mae yn rhoddi mai. Y cyngor goreu allaf roi i'r dosbarth hwn ydyw, mynweh ryw Ramadeg da-Tegai, Caledfryn, Rowlands, Mendus, Isaac Jones, Tafol y Beirdd, Ysgol Farddol Dafydd Morganwg. neu beth fyw fyd fynoch i ateb y dyben; ond er mwyn pob trugaredd astudiweh y cynghaneddion. Y mae digon o honoch i gadw Ysgol nos i'r perwyl yn ys- tod y gauaf yma. Bydd o les i ch \Vi yn sicr. DOSB. II.-Dyma gyfansodcliadau a rhyw lun englyn arnynt. Eiddo "Eben gwan ei Obuith" 0 dra ystywyth noddawl drostan—deillia Mewn dullwedd myg, "Gornan;" Ac arni mwy y grawn man, Gain luniwyd gan law anian. Diau genyf mai "ystwyth" a olyga yn y linell gyntaf. Nid Cymraeg da yw "Corn- an," ond llafar gwlad (colloquialism) rhanau o Ogledd Cymru. Os trosir y gair "corn" i'r Gymraeg, a'i ddefnyddio yn y rhyw fenyw- aidd, "cornen" ddylai fod. Y mae'r esgyll yn ddigon da; ond yehydig o fedd wl am yr Indrawn a geir yn yr englyn. 2.—American Rhan Amerig yw'r grawn mirain—Indrawn r, Sydd hynodryw cywrain; A gronynau'r rholiau rhain, A dewycha'r mad ychain. Heblaw rhoddi darluniad o'r Indrawn, gwelir fod American yn cyfeirio at ei ddef- nyddioldeb. Cynyg go lew ydyw hwn; ond nid gramadegol yw dweyd —yr Indrawn Sydd hynodryw cywrain; Yn y ffurf yna, ansoddair ydyw cywrain, yn desgrifio "hynodryw;" yr hyn beth, pa beth bynag ydyw, a ddylasai fod yn enw. Ond os dewisir defnyddio "Indrawn" fel yr enw yn y frawddeg, a "hynodryw, cywrain," yn ddau ansoddair, pob peth yn dda, ond rhaid gosod y comma ar ol yr ansoddair cyntaf. "A gronynau'r rholiau rhain"- y rholiau hyn, nid y 'rholiau rhain." "A dewycha'r mad ychain;" ycha, ycha-in; rhy debyg. 3.-Cymro JPMr O'r nwyddlwys wialen i'r noddlan-tardd Urddawg glyd iawn allan; [clust Ac arni'r myg rawn aur man, Gysodwyd mewn gwisg sidan. Glew iawn yn wir, Cymro; ond nid yw yr englyn yngcrybwyll dim am ba beth y mae yu siarad. Gall fod yn ddesgrifiad o amryw lysiau eraill ellid nodi o'r un ffurf a corn. Heblaw hyny, nid gwisg am y corn yw y "sidan;" ac heblaw hyny, nid yw yr englyn yn crybwyll dim am ei werth a'i ddefnydd- ioldeb. 4.-Pioneer: Grawn enwog ei ronynau—wedi dod 0 dwym bell hinsoddau; Llesol, goreu o'r llysiau, Ydyw hwn i'r da dewhau. Da ryfeddol yn wir. Darluniad o'r corn a'i darddiad tramoraidd (os yw hyny yn gy- wir), a'i ddefnyddioldeb i borthi'r "da." Enw hwntwaidd ar y gwartheg yw da; felly nid yw y crybwylliad hwn mor eang ag y dymunasid am werth porthianol yr Indrawn. Nid yn unig da, ond y defaid; a beth am y moch. Ac y mae genyf fi gi yn Nhrefalaw, pan y bydd helwriaeth yn brin, a'r cwpwrdd yn wag, a a i'r crib, ac a garia 'gornan" all- an, ac a orwedda i lawr yn hamddenol i'w bwyta. A beth am y dofednod dirifedi ? Ac o ran hyny, beth am y Johnny cakes a'r mwsh. Mewn gair, y mae'r Indrawn o fwy o werth porthianol i ddyn ac anifail nag ell- ir byth gyfleu mewn englyn, os eir i nodi y creaduriaid a'i bwyty. DosB. HI.—Y cyntaf y sylwn arno ydyw eiddo Siwash: Oesa yr Indrawn llesiol-o randir Yr India ddwyreiniol; Ac eraw yn rhagorol, Ei ddogn gwych ddwg yn ei gol. Englyn da iawn. Y mae yn amheus genyf a ydyw "oesa," yn cyfleu yn dda y syniad o ddeillio-dyfod o &c. Ac nid wyf yn sicr fod "eraw" yn Gymraeg da am "gydag ef," yr hyn yw y meddwl, gallwn dybio, Dichon ei fod; ni safwn ddim ar hyny, am ei fod yn air anghyffredin iawn, a dweyd y lleiaf. Y mae yn englyn da er hyny. 2.—Amaethwr: Gwarsyth yw'r Indrawn gorsen—ac hadog Ydyw'r aur dywysen Loyw a geir mewn clog wen, A bwyd o fewn pob yden. Am gywirdeb cynghaneddol, cyflawnder syniad, a llithrigrwydd mynegiant, yr wyf olr farn yn sicr mai eiddo "Amaethwr" yw y goreu. TAFALAW. .A.-
Yn rhy Dlawd i gynal Cymanfa.
Yn rhy Dlawd i gynal Cymanfa. NILES, 0., Mai 1.-Bydd Oymanfa yma diwedd mis Mai. Sut y gwneir nis gwn, oblegid y mae sefyllfa. pawb o'r bron mor isel. Nid wyf yn meddwl fod cynifer ag un o'r dynion a gyfrifir yn aelodau yma, yn meddu gwaith ar hyn o bryd; ac yn ol yr ar- goelion presenol byddant yn hir heb waith. Mae fod un dyn yn mynu ei ffordd ei hun yn bur ddiflas Dywedai pe y llosgai holl fel- inau y wlad i lawr ei fod yn benderfynol o fynu Cymanfa yma. Ond pa synwyr sydd mewn peth felly, pan y mae angen ger drysau mwyafrif y trigolion? Ymddibynn yn hollol am arian oddiwrth yr eglwysi a gyfanaoddant y Gymanfa—pan nad yw yr un o'r eglwysi yn gryf iawn o ran arian— sydd dipyn <-»'i le. Bydd yn briodol i'r mwy- afrif ddeuant yma, gofio mai o'u hangen y bydd bron bawb yma yn cyfranu—nid arian, ond bwydydd. Aur ao arian nid oes genym, a'r hyn sydd genym, y mae yn brin iawn. 'Does neb a garai weled y Gymanfa yma yn well na myfi, a neb a wnai fwy er ei chario yn mlaen yn anrhydeddus; ond pan mae sefyllfa y lie mor isel, meddyliwyf yn wir, mai gwell fyddai ei chynal mewn rhywle arall, a pheidio gadael i D. number nine gael ei ffordd yn mhobpeth fodd bynag. Yr eiddoch- Lladmerydd. _to.
[No title]
—Cymerwyd dau Ysbrydwr i'r ddalfa yn St. Louis, Mo., yn ddiweddar, am dderbyn arian yn dwyllodrus.
PA BETH A WNAWN YN Y DYFODOL?
inol pan gawn gyfieustra, a gwna pob un o'r rhai hyn ddylanwadu er ein dwyn i gydym- deimlad a'r dyben gogoneddus hwn. Mae y dyben yma yn sicr o dynu sylw a chydym- deimlad y wraig amyneddgar sydd yn gweddio yn ddyddiol am ryddhad ei gwr; y fam sydd yn bryderns yn nghyleh dyfodol ei mab; a'r chwaer ofidus sydd wedi ei darostwng mewn cymdeithas, ao yn gorfod tystio i'r olygfa o weled ei brawd yn prysuro ei ddyddiau tua bedd y meddwyn. Mae yna ryw ddrychfeddwl yn y dyben wna daro yn hynaws ar serohiadau y cyfryw. A ydyw y dyben yma yn gofyn gormod o ym- drech, ac yn rhy fawr ac uchel i ni weithio arno? A oes perygl y gwna ofyn nerth ac ymdrech mwyaf ein galluoedd tuag at lwyddo ynddo? Nid oes achos dywedyd wrth genedl y Cymry fod angen ateb y dyben yma. Mae y ffaith fod afiechyd, llygredigaeth, a'r bedd anamserol yn gwgu arno, am ei fod yn cynwys egwyddor wna ddadlenu eu gwrthuni, a chipio yspail lawer oddiaroynt, yn tystiolaethn mai dyben rhag- orol ydyw. Y gofyniad sydd yn dyfod. atom ydyw, a oes cyflawnder o ddynion digon amyneddgar ac ymroddgar i ymgymeryd a dyben mawr ac angenrheidiol fel hwn? Mae amryw gynlluniau wedi bod yn anelu ato, ac maent ar y maes yn bresenol. Mae yr ardystiad dirwestol wedi gwneyd llawer o les, ond eto mae meddwdod yn cynyddu. Mae dau beth yn profi fod ardystiad yn an- effeithiol gyda y ey fryw sydd wedi myned yn gaethion i'r ddiod, ac a ddymunent gael rhyddhad. (a) Mae y ddiod wedi gwanhau yr ewyllys, yr hon sydd yn angenrheidiol tuag at gadw yr ardystiad. (b) Mae yr arfer- iad o yfed wedi creu a magu chwant gref na wna dim ond gwirod ei boddloni; ac mae hon yn ymosod ar wendid yr ewyllys, ac yn ei gorchfygu. Cvnlltin arall sydd wedi ei brofi a'i gael yn aneffeithiol ydyw uchel drwydded. Codi pris y ddiod ydoedd prif egwyddor hwn, ao ni wna hyny ateb y dyben. Cynllun y blaid Waharddol ydyw lladd achos meddwdod trwy symud ymaith yr achlysur. Mae hwn yn ymosod ar wraidd y drwg-yn cloi i fyny ffynonell yr afon. Mae yn gynllun anrhydeddus ac addas i ateb y dyben. Nid ydym yn gwasgu ar ryddid dyn fel y dadleua rhai, o herwydd rhyddid o dan ddeddf ydyw y rhyddid uchaf a all dyn ddefnyddio, y rhyddid uchaf a fedd, a'r uchaf a ddylai feddu. Nis gellir dywedyd fod cadw dyn rhag niweidio ei hun yn gwasgu ar ei ryddid, mwy nag y gallem ddywedyd fod c&dw y gerbydres ar y rheil- ffordd yn cyfyngu ar ei rhyddid a chyflym- der ei rhediad. Mwy priodol fyddai dy- wedyd fod y cynllun yma yn gwasanaethn i ryddhau dyn, od diwrth lywodraeth chwant, afiechyd, anghysur a thlodi, yn nghyd a gwg cymdeithas. Mae yn gynllun sydd yn dal nid yn unig mewn athrawiaeth, ond hefyd mewn ymarferiad. Mae wedi bod mewn grym yn Maine er's dros ddeg mlyn- edd ar hugain, gan wneyd llawer o ddaioni. Mae Kansas ac Iowa wedi ei gymeryd i fyny, .Y ac er nad ydyw, mwy na deddfau eraill, yn osgoi troseddiadau, eto gwna lawer o les, a rhydd arwyddion goruchafiaeth at y dyfodol. Fe rydd y cynllun yma gyfleusdra i lawer gydweithio wrth ei ddwyn i ymarferiad, a bydd rhif luosog yn cael mwynhau ei lwyddiant. Daw y mwynhad cyffredinol a ddeillia i gymdeithas trwy ei lwyddiant, a glanau y Werydd i undeb a glanau y Tawel- for; ac y mae y gofyniad yn dyfod atom nin- au yn awr, pa un ai y blaid sydd wedi gwneyd llawer yn y gorphenol, y blaid sydd mewn gallu yn awr, ai y blaid sydd yn meddu dyben a chynllun rhagorol at y dy- fodol, sydd yn teilyngu ein parotoad at, a'n hymdrech yn ei rhengau ar ddydd yr eth- oliad nesaf? Pa beth a wnawn yn y dyfodol? JU