Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
Advertising
EIN TEljEMAtf AM 1875. Pris yn mlaesi Haw$2.50. iW Pris y DRYCH i Glybiau ..$2 20 riW Pris y DRYCH i Canada .$2 70 ,tW Pris y DRYCR i Gymru 350 -laifosier arian mewn Post Office Order neu Registered Letter, neu mewn Dra ft ar ineio York, taladwy T. J. GRIFFITHS, DRYCH OFFICE. UTICA, N. Y. DAVID W. LEWIS & CO., COMMISSION MERCHANTS, No. 85 & 87 BROAD ST., NEW YORK. YR YDYM YN AWR YN GWNEYD MASNACH er'S U11 mlynedd ar b^mthcg, a dymunem ddiolch i'n hen gyfeillion am eu hymddiried ynom Mae ein mas- nachdy, 85 & 87 Broad St., congl South William St., yn oleu, eang a chyfleus; a thelir sylw uniongyrchol i lotian o YMENYN, CAWS nea DDOFBDNOD, a anfon- ir i'n gofal gan Amaethwyr Cymreig Swyddi Oneida, Madisoa, Herkimer a Lewis. Marciwch y parseli a c&yfeiriwch lythyran i DAVID W. LEWIS & CO., Yn ol y cyfeiriad uchod. 1-18'76 ~yttaw ». CYHOEDDIAD JNEWYDD rR BED- YDDWYR. AT YR EGLWYSI BEDYDDIEDIG: Gan fod yr enwad Bedyddiedig heb GYHOEDDIAD MISOL, a bod mawr angen a dymuniad am dano, a dim yn cael ei wneyd gan neb, ar ol hir ddisgwyl a chymell mae rhagdrefniadau wedi en cvvblhau i ddwyn cyhoeddiad allan o Swyddfa y Drych, lie eis- oes y cyhoeddir Y Cyfaill a Blodau yr Oe8-Y RHIF- TN CYNTAF I YMDDANGOS YN NECHREU EBRILL YN dan yr enw Y WAWR." Bydd Darlun o ROGER WILLIAMS, y Bedyddiwr enwog, a thad rhyddid crefyddol yn America, ar yr amlen. Gyda y bydd yr Hysbysiad hwn o flaen y cyhoedd, byddyr eglwysi yn derbyn cylchlythyrau yn cynwys y manylion. Sicrheir y bydd Y W.A. WR" yn ateb i'w henw, ac na fydd ar ol o ran ei gynwys wysiad a'i ddiwyg i unrhyw fisolyn Cymreig. Disgwylir cefnogaeth pob Bedyddiwr drwy y wlad i'r anturiaeth. El bris fydd SI.50 i bawb a dalant yn mlaen llaw. Ceir gwybod mwy o fanylion eto. Anfoner pob gohebiaeth i'r cyhoeddwr— OWEN GRIFFITHS (Oiraldus), 5 Blandina Place, Utica, N. Y. TYSTIOLAETH YR ARGRAFFYDD. Yr wyf fi 'wedi gwneyd cytundeb gyda'r Parch. Owen Griffiths i argraffu Y Wawr," ac ymrwymaf i 'w dwyn allan yn brydlon a rheolaidd am flwyddyn. Swyddfa y DRYCR. T. J. GRIFFITHS. WILKESBARRE 1 U". i.;I. MUSICAL INSTITUTE. Y mae D. J. J. MASON (diweddar Brif Athraw y ISanrille Musical Institute) wedi symud i Wilkes- bfirre, swydd Luzerne, Pa., lie mae yn barod i gyf- ranu addysg yn holl Gan trenau Ymarferol Cerddor- iaeth. Am hysbysrwydd pellach anfoner am cata- logue at D. J. J. MASON, Principal, WLLKESBABRE MUSICAL INSTITUTE, 3 9 WilkesbarrC; Luzerne Co., Pa. < £ iit a'tt l^erpntogr. Counter Hoper, o LANSANAN.—Y mae digol) wedi ei gyhoeddi ar V mater hwn. Ni chyhoeddir un gair eto, o dan ffligenw beth bynag. Cauwyd allan nifer o hanesion lieol o'r rhifyn hwn er ein gwaethaf—hanesion o Nelson, Coalburgh, P.ieblo, Bevier, Nekama, Divide, Brookfield, Ebcns- burJh, Randolph. Dewi Aberarth.-Yr oedd yn dda genym gael gair oddiwrthych; a hyderwn y byddwch o ran eich inchyd yn alluog i ysgrifenu rhyw FANION yn ach- 17 i'r DRYCH, fel yn y dyddiau gynt. ■ I—ll—HIIIIMII—I— IIHIHIII ■■MPHBIIII lllllflllBII WIHIIIII III! II II IIIIMilllll minn mini
------------------DYDD IAU,…
DYDD IAU, CHWEFROR 3, 1876 T. J. GRIFFITHS, Cyhoecdwr. GOLYGWYR, J. W. JONES, J. C. ROBERTS.
EIN MAP 0 GYMBXJ.
EIN MAP 0 GYMBXJ. Y mae genym y pleser o hysbysu ein dar- llenwyr ein bod wedi clywed o Liverpool, y bydd y MAPIAU o GYMRT; yn barod i'w lianfon yma yri mben tua pythefnos. Mor faan ag y deuant i law, byddwn yn dech- reu eu hanfon i'r rhai ydynt wedi talu hyd lonawr 1, 1877. Y mae nifer y rhai a ?gymerasant fantais ar ein cynygiad yn fwy sag oeddym wedi ddychymygu; ac yr ydym i gyfateb y galwad, wedi gorfod anfon ail-arclieb at y cyhoeddwr yno. Gan ein bod yn awyddus am i bob un o'n der- bynwyr gael MAP, yr ydym yn estyn yr amser iddynt i anfon eu taliadau i mewn hyd Mawrth 1 af. Y mae tua 3,000 eisoea wedi talu yn llawn yn ol ein telerau. Dis- gwyliwn y bydd o leiaf 5,000 yn glir ar ein llyfrau o hyn i ben mis GWNAED Ern GORUCHWYLWYR BOB YM- IDRBCH I GAEL Y TALIADAU I LAW YN BRYD- LON, FEL Y GALLWN ANFON Y MAPIAU GYDA'U GILYDD HEFO'R EXPRESS. BYDD HYNY YN ARBED CRYN LAWER 0 GOST I NI.
[No title]
GWNAETH y frech wen hafoc anarferol yn Brooklyn y misoedd diweddaf; ond .cadwyd y pwnc yn ddirgel mor bell ag yr oedd hyny yn ddichonadwy. Hysbysa y 'bwrdd iechyd yn awr fod yr haint dan reolaeth effeithiol, a gobeithir y Ilwyr ddinana cyn hir. Bu y marwolaethau o'r frech wen mor uchel a, 155 yr wythnos, yn vgnwedig yn mhlith y Germaniaid.
[No title]
MAE llywodraeth Lloegr yn dechreu dyfod i ddeall ac i gydnabod nas gall fyned i'w thiriogaethau yn Awstralia a New ?South Wales mor hwylus drwy gamlas Suez ag y gall dros y rheilffordd i'r Tawel- for. Caed prawf yn ddiweddar y gellir snyned o Lundain i Awstralia drwy New York a San Francisco, mewn llai o amser ¡ o 7 i 12 diwrnod, na thrwy Gamlas Suez, heblaw fod y fforcld yn llawer iachach a mwy hyfryd.
[No title]
DERBYNIWYD hysbysiad o Berlin, Prwsia, fod y Seryddwr Foerster, wedi darganfod planed newydd yn y ffufafen ar y laf cyn- fisol, o'r 12fed gradd mewn maintioli. Yr oedd ei hesgyniad yn 3 awr a 10 mynyd, a'i gogwyddiad gogleddoi yn 18 gyadd a 17 mynyd. Hefyd, mae y Seryddwr M. Leferrier, Paris, yn hysbysu fod y Prof. Saul Henry wedi darganfod planed arall o'r un maintioli, a'i rhawd yn gogwyddo 15 gradd a 25 o fynydau.
[No title]
MAE prif newyddiadur y blaid Ddemo- crataidd yn y De, sef y Richmond Enquirer, yn cydnabod nad oes gan y blaid unrhyw organ newyddiadurol o'r radd flaenaf yn y Gogledd. a'u bod yn annhraethol israddol i'r Gwerinwyr yn hyn. Cyfaddefa fod y New York World yn newyddiadur galluog, ond nid ydyw yn iach yn y ffydd Ddemo- crataidd; ac hefyd y mae y Cincinnati En- quirer yn hereticiaid ar bwnc yr arian. Ac yr un modd y mae gyda'r Baltimore Gazette, y Chicago Times a'r Louisville Courier- Journal—nid oes yr un o honynt yn llanw y galwad sydd am newyddia ur Demo- crataidd o'r iawn rywogaeth.
[No title]
MAE rhai o arianwyr craffus Ewrop yn dechreu credu na enillodd Prwsia ddim yn ei buddugoliaeth ar Ffrainc, er iddi dderbyn y fath swm aruthrol o iawn. Tra yr oedd y Prwsiaid yn Ffrainc, darfu iddynt hoffi arferion y Ffrancod a chel- fyddyd-waith cywrain ei chrefftwyr; ac mor fuan ag y dychwelasant adref, dech- reuasant anfon am nwyddau cywrain o Ffrainc. Nid oedd yn Berlin cyn y rhyfel ond 200 o weithwyr cywrain o Ffrainc; ond yn bresenol y mae yno 2,400 o gywrain grefftwyr o wahanol fathau. Mae y Tywys- og Yon Pless yn adeiladu palasdv ardderch- og, a Ffrancod yw yr holl weithwyr, a'r un modd gellir dweyd am y Tywysog Yon Puthus. Hefyd mae y fasnach rhwng y ddwy.wlad yn cynyddu yn gyflym Der- bynia Ffrainc aur Prwsia yn gyfnewid am ei nwyddau a'i hofferynau.
[No title]
CYFARFU cynrychiolwyr y gwahanol reil- ffyrdd mewn cynadledd yn Philadelphia yr wythnos ddiweddaf, i ddarparu erbyn rhedeg cerbydau isel bris, o wahanol barth- au y wlad, i'r dathliad canmlwyddol yr haf dyfodol. Rhoddir tocynau allan o Mai 10fed hyd Hydref 31, am 25c. ar y ddolar yn llai na'r pris rheolaidd, yn ol ac yn mlaen o bob lie i'r dwyrain o Omaha i Philadelphia, a bydd pob tocyn yn dda am 30 o ddyddiau. Hefyd ceir myned i Phil- adelphia dros un ffordd ac yn ol dros ffordd arall, er mwyn cyfleusderau i weled y wlad, a'r gwahanol ddinasoedd. Y clud- iad o Chicago i Philadelphia ac yn ol fydd $32. Bydd dolar o wahaniaeth yn y pris rhwng New York a Philadelphia, os prynir tocyn yn mlaen ac yn ol. Rhedir trtins rhwng y ddwy ddinas bob 20 mynyd am 10 awr y dydd, yn ystod yr wyl. Cynelir y cyfarfod nesaf yn Louisville, Ky., i gwbl- hau y trefniadau.
[No title]
CWYNA y Pabyddion yn fawr yn erbyn y tariff presenol, o herwydd fod wyth cent y pwys o doll ar y canwyllau cwyr angen- rheidiol yn eu haddoliadau, heb y rhai y mae yn anmhosibl iddynt addoli yn ol y gorchymyn santaidd; ond y mae y Chine- aid yn cael eu heilun-dduwiau, eu joss- sticks a'u joss-lights drosodd yn ddi loll. Hefyd, rhaid iddynt dalu 60c. y cant o doll ar frethynau yr allorau, a 25c. y cant ar eu Beiblau a'u llyfrau crefyddol, tra y mae gweithiau anffyddwyr fel Renan, Strauss, Huxley, Hackel a Tyndall yn cael eu foan- fon i lyfrfau Colegau yn rhad. Rhaid talu 36c. y cant o doll ar wydr Uiwiedig perth- ynol i ffenestri yr Eglwysi Pabaidd, eithr ni raid talu ond 9c. o doll ar wydrau i wneyd pell-ddrychau. Mae 36c. y cant o doll ar lestri arian perthynol i'r allor, ond y mae offerynau seryddwyr yn rhad. Der- bynia y crythwr linynau ei grwth yn rhad, ond rhaid i'r offeiriaid dalu 60c. y cant o doll ar ddefnydd y gwisgoedd offeiriadol.
[No title]
MAE yn ymddangos fod y pwyllgor ar gymwysiad arian at y gwasanaeth cyhoedd- us yn y Gydgyngorfa, wedi penderfynu cynilo drwy ostwng cyflogau gweinidogion a thrafnoddwyr y Talaethau (Jnedig mewn gwledydd tramor. Neillduwyd at y gwas- anaeth tramor y llynedd$1,351,282; ond eleni bernir y gwna$911,147.50 y tro, sef llai 0 $441,337.50 na'r llynedd. Tynir cyflogau y gweinidogion i Brydain a Ffrainc i lawr o $17,500 i $14,000. Cyflog y gweinidogion i Mexico, Japan, China Awstria, Brazil, o$12,000 i $10,000; Itali o $12,000 i $8,000; Portugal, Switzerland, Sweden, Norway, Twrci, Venezuela, Yn- ysoedd Hawaian o $7,500 i $6,500; Chili Bolivia i fod yn un negeseuaeth am $6,500; a Peru, Equador a Columbia yn un. Hefyd gwneir y Weriniaeth Argentaidd, Paraguay ac Uruguay yn un, a gostyngir cyflogau rhai eraill. Mae dynion addas i farnu yn ameu doethineb y symudiad hwn; canys mae y Talaethau Unedig yn teilyngu cael eu cynrychioli yn barchus ac urddasol, am yrhyn y mae y bobl yn foddlon i dalu yn d
"SUPERVISORS" SWYDD ONEIDA.
"SUPERVISORS" SWYDD ONEIDA. Mae BVYRDD Y SUPERVISORS perthynol i Swydd Oneida, N. Y., yn cynwys 40 o ael- odau, y rhai a etholir o wahanol Wards Utica a Rome, yn nghyd a phlwyfydd'y Sir. Gwaith yr arolygwyr ydyw rliagddar- bod arian ar gyfer y treuliau cyhoeddus, prisio eiddo, gosod trethi, cymwyso arian at wasanaeth y llysocdd sirol, y rheithwyr, yr Uchel-Sirydd a'r swyddogion eraill. Mae saith o aelodau y Bwrdd yn Gymry, sef y rhai canlynol: THOMAS JAY GRIFFITHS, Utica; LEWIS J. LEWIS, Steuben-, WILLIAM WILLIAMS, Vernon; ROBERT H. ROBERTS, Boonville; WILLIAM A. DAVIES, Floyd; R. W. WILLIAMS, Marshall, a RICHARD R. JONES, Remsen. Cafodd Thomas Jay Grif- fiths ei ethol yn Gadeirydd y Bwrdd, yr hyn oedd yn ddyrchafiad neillduol i Gym- ro. Yr ydym dan rwymau i gydnabod Mr. Richard R. Jones yn gylioeddus, am ei ddoethineb yn dWYll y DIlYCH i sylw y Bwrdd, a dangos y pwysigrwydd iddynt gyhoeddi eu gweithredoedd ynddo. Darfu i Mr. Jones hefyd lwyddo i basio y pen- derfyniad; a phaham na ddylai y Cymry gael eu cydnabod yn gystal a'r Germaniaid ac eraill? Mae cylchrediad y DRTCnyn eang yn y swydd hon; ac yr oedd Mr. Jones wrtli ei ddwyn i sylw y SUPERVISORS, yn profi ei fod yn gwerthfawrogi ei safie, fel newyddiadur. Mae adroddiad biynydd- ol y Bwrdd yn llyfr hardd, ac yn cynwys 125 o dudalenau. ac wedi ei argrafEu gan T. J. Griffiths, yn Swy ;dfa y DRYCH.
TWNEL RHWNG LLOEGR A FRAING.
TWNEL RHWNG LLOEGR A FRAING. Mae yn ymddangos yn awr nad oes un amheuaeth gyda golwg ar dori twnel dan y mor rhwng Lloegr a Ffrainc, canys y mae y cytundeb wedi ei wneyd, ac mae yr offerynau yn cael eu darparu. Cychwynir y twnel ar oclir Ffrainc, o bwynt rhwng dinas Calais a phentref Sangate, a daw allan ar ochr Lloegr yn Bay St. Margaret, bum' milltir i'r dwyrain o Dover. Bydd ei hyd yn 25 o filltiroedd, ac yn nghanol y sianel bydd 350 o droedfeddi islaw arwyn- ebedd y dwfr, ac o 21 i 25 o droedfeddi yn is na gwaelod y mor. Cyrhaeddir y dyfn- der hwn drwy weithio y twnel i lawr yn raddol, rhyw 200 o droedfeddi cyn cyraedd glan y dwfr; yna a y twnel i lawr i'r gor- waered yn raddol am bedair milltir, ac wedi hyny esgyna i fyny yn raddol. hyd nes y daw allan yn ochr Ffrainc. Barna y peirianwyr fod hyn yn angenrheidiol mewn trefn i roddi rhediad i'r dwfr a all ddyferu o'r ochrau, fel y gellir ei weithio allan a. pheirianau sugn-dynol. Os gor- phenir y gwaith hwn bydd yn un o brif ryfeddodau celfyddydol y byd. Mae yr un peirianydd yn ymaflyd yn yr anturiaeth, sef M. de Lesseps, yr hwn a lwyddodd i orphen Camlas Suez, ac nid oes eisiau dweyd mai Ffrancwr ydyw.
TALU DYLED Y DEHEUWYR.
TALU DYLED Y DEHEUWYR. Yn ystod y dadleuon cyhoeddus ar ad- egau yr etholiadau y blynyddoedd diwedd- af, amlygodd y Gwerinwyr fod perygl i'r Democratiaid gael buddugoliaeth, o her- wydd fod llawer o honynt yn haeru y dy- lai y llywodraeth gyffredinol dalu y ddy- led yr aeth y Deheuwyr iddi, tra yn gwrth- ryfela yn erbyn yr Undeb. Ronai eraill nad oedd perygl i hyny gymeryd lie, ac nad oedd y Democratiaid yn bwriadu gwneyd i'r llywodraeth dalu afe fradwr- iaeth ei gelynion. Yn 1862 ac yn 1867, pasiwyd mesurau yn y Gydgyngorfa i ddi- ogelu y Drysorfa Genedlaethol, ac i wa- hardd digolledu personau ffafriol i'r gwrth- ryfel, a'r rhai a godasant arfau bradwrus yn erbyn y llywodraeth. Bernid fod mes- urau o'r fath yn angenrheidiol ar gyfer y dyfodol, gan fod yn bosibl i'r Democrat- iaid gael awenau y llywodraeth i'w dwy- law eu hunain. Llwyddodd y Democrariaid i gael mwy- afrif yn Nhy y Cynrychiolwyr yr etholiad diweddaf; ac un o'r symudiadau cyntaf o eiddo eu blaenoriaid oedd ymgais. i ddi- ddymu y mesur a basiwyd Mawrth 2, 1867, yn gwahardd talu arian i ddigolledu y gwrthryfelwyr. Cynygiodd Mr. Vance, o North Carolina, fod y mesurau a fabwys- iadwyd Chwefror 4, 1862, a Mawrth 2, 1867, i'w diddymu, mewn trefn i gael y ffordd yn glir i ddigolledu yr hen wrthryf- elwyr. Mae y mesur uchod we fi diogelu y drysorfa yn erbyn hawliau hollol anheil- wng yn y swm o $700,000,000, ac osllwydda y deheuwyr yn eu hymgais presenol i ys- beilio y drysorfa, rhaid cael $1,000,000,000 i ddiwallu eu gwanc. Hefyd, y mae deddf 1862 yn awdurdodi yr Ysgrif-nydd Cartref. ol i groesi allan oddiar restr y personau yn haeddu pension bob un a gododd arfau yn et'byn y< llywodraeth; ac mewn trefn i or- fodi y llywodraeth i dalu pension i'r hen filwyr deheuol, gwnaeth Jlr. Vance ym- gais i ddiddymu y ddeddf uchod hefyd.- Mae yn amheus a fu ymgais mwy beiddgar erioed i daflu anfri, gwawd a sarhad ar y ffyddloniaid a aberthasant bob peth, le, eu bywydau, ar allor eu gwlad, na gwaith y Democratiaid yn amcanu rhoddi y gwrth- ryfelwyr bradwrus yn y De ar yr un tir a milwyr yr Undeb. Mae yn dra thebyg mai y symudiad nesaf fydd ymgais i wneyd i'r Ilywodraeth dalu i'r hen gaetlifaanachwyr am y caethion a ryddhawyd drwy fesurau milwrol! Hawlia Mr. Vance y dylai y De- heuwyr gael eu digolledu am y rhyfel, ac X am y difrod a wnaed gan filwyr yr Undeb yn yr holl ryfelgyrchoedd. Cynygiodd Mr. Fort benderfyniad yn y Ty, fod milwyr Undebol i dderbyn y flaen- oriaeth mewn swyddi israddol; ond safodd y Democratiaid yn erbyn, a chollwyd y mesur. Gan fod y Ty yn eu meddiant drwy fwyafrif, diswyddasant yr Undeb- wyr, a phenodasant hen wrthryfelwyr De- heuol i'w lleoedd oil! Dengys hyn ysbryd Democratiaeth yn ei liw ei hun; ac mae yn amlwg eu bod am ddial ar yr Undebwyr a'r Gwerinwyr yn mhob modd o fewn eugallu. Pe byddai iddynt lwyddo i basio eu mes- urau dialgar a chwyldroadol drwy y Ty, ni wnant ond dangos eu hegwyddor, ac o ba wraidd y rnaent; canys bydd i'r Senedd Werinol sefyll dros liawliau y gwir wlad- garwyr, ac nis gall yr un mesur ddyfod yn ddeddf heb ei chaniatad. Dyma lie bod- ola diogelwch y Wladwriaeth ar yr adeg bresenol; ac mae yn ddyledswydd ar bob dinesydd sydd yn hoffi tangnefeddd, llwydd- iant gwladwriaethol, rhyddid crefyddol a moesol, wneyd ei orcu dros ledaeniad eg- wyddorion Gwerinol.
CYMREIGYDDION UTICA.
CYMREIGYDDION UTICA. Mae yn hysbys i'r cyhoedd fod cym- deithas yn dwyn yr enw uchod mewn bodolaeth yn Utica er's llawer o flynydd- oedd, dan naw'd yr hon y cynalhvyd yr Eisteddfod. Amcan y gymdeitbas oedd creu undeb llenyddol yn mhlith y Cymry- diwylliant meddyliol yr ael idau, eangiad gwybodaeth yn y celfyddydau a'r gwydd- orau, a chadwraeth yr Iaith Gymraeg yn bur a dilwgr. Bu y gymdeithasyn Uwydd- ianus am flvnyddoedd; caed cyfarfodydd buddiol a defnyddiol, yn yrhaiyrymar- ferwyd siarad yn gyhoeddus, drwy ddadleu ar wahanol destynau, darllen, barddoni, gramadegu, yn righyda darllen papyrau ar wahanol bynciau, mewn cysylltiad ag addysg lenyddol a gwyddonol. Yn ystod y gauaf, aiferid cynal cyfarfodydd bob pythefnos, eithr ni chyfarfyddid mor ami ar dywydd poeth yr haf. Cynaliwyd rhai cyfarfodydd cyhoeddus, pryd y rhoddwyd gwahoddiad cyffredinol i'r cyhoedd fod yn bresenol, a daeth y sefydliad yn boblog- aidd. Ond prif anturiaeth y gymdeithas oedd "YR EISTEDDFOD," a rhaid dweyd iddi fod yn foddion i ddwyn oddiamgylch gyfarfodydd poblogaidd, adloniadol a buddiol, er ei bod wrth wneyd hyny yn ymgymeryd a chyfrifoldeb lied bwysig, heb fod yr aelodau yn derbyn unrhyw elw arianol. Yn ystod y blynyddoedd diweddaf daeth adfeiliad amlwg i gymdcithas y Cymreig- yddion. Symudodd rhai i ffwrdd, ac esgeulusodd craill eu cydgynulliad. Nid oedd y rhai a gydgyfarfyd'ent yn gallu cydolygu ar bob peth mewn cysylltiad a'r EISTEDDFOD; ac yn y cyfarfod cyntaf ar ddechreu y flwyddyn hon, dangoswyd awydd am ddadgorfforiy gymdeithas, drwy wrthod penderfynu cynal eisteddfod lon- awr nesaf. Aed mor bell y noson hono a cliynyg dadrwymo y gymdeithas a gwas garu yr aelodau. Safwyd yn erbyn hyn, er fod yr ysbryd enciliol yn dangos ei hun yn amlwg, a phenderfynwyd cymeryd y pwnc dan ystyriaeth am bythefnos. Cyfarfyddwyd yn swyddfa y DRYCII lon- awr 26ain, a llwyddwyd i ddadgorffori y gymdeithas drwy un bleidlais. Gwelodd yr encilwyr yn awr eu bod wedi dryllio y gymdeithas yn eu gorawydd am fyned allan o honi. Wedi gwneyd hyny aed yn mlaen a gwerthwyd yr eiddo perthynol i'r Cym- reigyddion, megis cyfansoddiadau, llyfrau, cadeiriau, &c. Yn awr, dealler fod yr holl brysur-waith uchod yn groes i gyfansoddiad y gymdeithas, ac yn drais ar liawliau yr aelod- au absenol. Ac fel prawf o hyny, darllener yr erthyglau canlynol: ERTHYGL XIII. Nad ydyw yr erthyglau uchod i gael eu cyfnewid heb rybudd o un mis, mewn cyfar- fod cyffredinol, a phleidlais dwy ran o dair o'r ael- odau. ERTHYGL X. Fob poh aelod yn gydatebol am gyf- rifoldeb arianol y Gymdeithas, a bod y swm fyddo yn llaw y Trysorydd yn eiddo cyffredinol cydrhwng yr holl aelodau fyddont yn glir ar y llyfrau ond na fydd i'r trysor gael ei rami tra byddo saith o aelodau yn perthyn i'r Gymdeithas. Mae yn eithaf amIwg oddiwrth yr uchod fod gweithrediadau y eyfarfod lonawr 26ain yn ddiawdurdod, ac afreolaidd; ond y mae gan bob dyn bawl i ddiaelodi ei hun o un- rhyw gymdeithas, os dewisa; ac mae yn debyg na chollir llawer o ddagrau o her- wydd yr afreoleii* diwch a wnaed y tro hwn. Pa fodd bynag, teg yw sylwi y gwyddai y personau hyn fod saith yn perthyn i'r Gym- deithas; a chan nad oedd saith yn bresenol y noson hono i ffurfio quorum, eu dyled- swyfid oedd gohirio y cyfarfod, ac nid dryllio y Gymdeithas. Nid oedd ganddynt hawl i roddi arian pobl eraill i'r Gymdeith- as Elusengar heb eu caniatad. Canodd un brawd fel y canlyn noson marwolaeth yr hen Gymdeithas: Bu farwl do yn wir, Ar ol rhyw gaeth afiechyd, Cymdeithas fu yn hir Yn nychu dan y clefyd; Meddygon goreu'r wlad A gyrchwyd ati droion, Ond nid oedd dim Uesad Yn canlyn eu cyngorion. Cawd amryw M. D. doeth. I roi cyffeiriau iddi, Piofessors hynod ddoeth Cadd ddigon i'w seboni; 0 td er y cyfan myn'd A wnaeth i drarfcedigaeth; F/arwel rhown i'r hen ffrynd, Tra hun yn mro marwolaeth! As adgyfoda mwy I blith y daearolion, Gadawa ei hen glwy Yn mhlith y crachlenoriou; Yn hwylus foria wna I eang foroedd llwyddiant, Yn iach o'i phoen a'i phla Yn mlwyddyn y canmlwyddiant! Pe buasai y bardd wedi rho Idi hfln i'w amrantau cyn eyfansoddi ei gan, nid Os adgyfoda mwy" fuasai yn ddweyd; canys yn foreu y diwrnod canlynol, yr oedd ar- wyddion ofywyd yn ngweddillion "Y CYM- REIGYDDION," a gwelwyd nad oedd un "os" i fod, A ganlyn yw hanes yr "adgyfodiad:" AIL GORFFORIAD "Y CYMREIGYDDION "— PAKOTOI AR GYFER EISTEDDFOD Y CA- LAN NESAF. Boreu Ian Ion. 27ain, cyhoeddwyd yn y Morning Herald fod y Cymreigyddion wedi eu dadgorffori y noson flaenorol, yr hyn a darawoddlawer a syndodneilldnol; a phen- derfynodd noddwyr llenyddiaeth Gymreig a'r Iaith Gymraeg, nad oedd gan neb hawl i selio tynged y Gymdeithas mor ddirybudd a diseremoni. Aed oddiamgylch yn ddi- oed a sicrhawyd cydweithrediad nifer o foneddwyr, igyfarfod yn Swyddfay DRYCH y noson bono, i aU ffurfio y Cymreigydd- ion, ac wele yn canlyn eu henwau: Parch. D. T. Davies, B. F Lewis, Parch. H. Humphreys, Griffith Jones, Parch. W. 0 Williams, Thomas Owens, Parch. J. Edred Jones, D. J. Davies, Parch. Owen Griffiths, Thos. L. Thomas, Parch. H. Gwerfyl James, Rees Thomas, Parch, Wen. A. Jones, E. H. Jones, J. W. Jones, W. W. Jones, J. C. Roberts, John I. Jones, R. E. Roberts, Erasmus Pritchards, D. B. Roberts, David Davies, J. W. Roberts, J. Trcvonau Williams, Cynwal Jones, Robert E. Robeits, David Jones, Ellis E. Roberts, Richard Jones, Thomas Owen, leu., John D. Griffiths, William E. Williams, D. E. Ellis, Robert W. Jones, Richard E. Jones, John Thomas, W. H. Rowlands, Stephen Breese, T. J. Griffiths, Richard Pritchard, Wm. W. Roberts. Henry Morris. Eglurodd J. W. JONES amcan y cyfar- fod, ac etholwyd y Parch. D. T. DAVIES yn Llywydd, RICHARD E. ROBERTS yn Ysgrif- enydd, a'r Parch. WM. O. WILLIAMS yn Drysorydd, y rhai ydynt i aros yn eu swyddi hyd y laf o Fawrth, sef Dydd Gwyl Dewi, pryd y cynelir cyfarfod rheolaidd i ethol swyddogion. Gyda golwg ar lwydd- iant yr Eisteddfod, dywedodd J. W. Jones nad oedd amheuaeth ar y pwnc-fod yr Opera House wedi ei sicrhau i'w cliynal, a'i fod ef mewn gohebiaeth gyda MYNYDDOG yn nghylch ei daith ddyfodol i America, er's dros fis. Yr oedd yn disgwyl atebiad cadarnhaol yn ddyddiol; a chan y bwried- ir cynal Eisteddfod Ganrnlwy -dol yn Phil- adelphia, gwneir trefniadau i MYNYDDOG fod yn bresenol yn holl brif Eisteddfodau America. Penodwyd pwyllgor i ddiwygio Cyfansoddiad Cymdeithas y Cymreigydd- ion, ac i wneyd adroddiad yn y cyfarfod nesaf. Cyn ymadael, penodwyd pedwar o bwyllgorau, yn cynwys tri.aelpd yr un, i ddethol testynau thyddiaethol, barddonol, cerddorol, ac adroddiadol, ar gyfer yr Eif- teddfod nesaf, y rhai a osodir o flaen y cyf- arfod nesaf, ac a gyhoeddir yn' fuan. Gall caredigion y sefydliad ganu .bellach: "Wi! wi! mae'r GYMDEITHAS yn iach ac yn siriol, Yn myned i gynal EISTEDDFOD FLYNYHDOL, Hi lwyr adfeddianodd yn ol ei holl eiddo, Tra mae'r afradloniaid o'i gwydd yn ymguddio; Mae'n rhifo ei meibion yn awr yn ugeiniau, A rhai'n yn llawnion o ddisglaer dalentau, Nes arni yn siriol gwir Ffuwd sydd yn gwenu, A hithau mewn mawredd gaiff eto deyrnasu, Tra megys mam dyner, ni cheidw hir soriant, Cynygia i'w Ileiddiaid delerau maddeuaut." "'11'
Y XLIV GYDG YNGORFA.
Y XLIV GYDG YNGORFA. DYDD LLUN, lonawr 24— Y Senedd— Ym- ddang sodd y Seneddwr John P. Jones o Nevada, yn ei eisteddle am y tro cyntaf. Dadleuwyd llawer ar fesur Mr. Davis i roddi archwiliad ar yr afreoleidd-dra yn nghyfrifon y Drysorfa, ac awdurdodwyd y pwyllgor arianol i wneyd adroddiad ar y cyfryw, ar ol profi y cyfrifon ar y llyfrau. Cymellodd y pwyllgor ar reilffyrdd fod yr amser i orplien y Ffordd Haiarn Ogleddol i'r Tawelfor i'w estyn. Y ^Cynygiwyd nifer mawr o fesurau i sylw y Ty, ac yn eu plith reithysgrif i drefnu pynciau arianol y wlad, i ddadgorffori bwrdd addysg, i ben- nodi meddygon deintyddol yn y fyddin a'r llynges, i benodi cyfarfyddiad y Gydgy- ngorfa y dydd Llun cyntaf yn lonawr, i I sefydlu dechreuad y tymor Arlywyddol Mai laf, i adeiladu ffordd haiarn o For y Werydd i ddyffrynoedd yr Ohio a'r Miss- issippi. Gofynodd Dirprwywyr yr Indiaid am$216,000 i dalu costau yr archwiliad i ansawdd pethau yn y Black Hills, yn ol cais y Red Cloud. DYDD MAWRTH, Ionawr 25-Y Senedd- Derbyniwyd deiseb yn erfyn ar y Gyd- gyngorfa ffurfio llywodraeth yn District of Columbia, a rhoddi yr etholfraint i'r merched. Pasiwyd penderfyniad i ddewis dirprwywyr i chwilio i natur diodydd alco- hol aidd, eu gwneuthuriad, &c. Y ly- Prif bwnc y Ty heddyw oedd y mesur i gyfranu$1,500,000 tuag at y dathliad can- mlwyddol yn Philadelphia. Er fod llawer o'r Democratiaid yn erbyn y mesur, cafodd ei basio drwy bleidlais o 146 yn erbyn 130. DYDD MERCHER, lonawr 26- Y Senedd-- Bu ymddiddan maith gyda golwg ar an- sawdd arianol pethau yn Rhandir Columb- ia; ac wedi trafod pynciau perthynol i'r Ffordd Haiarn i'r Tawelfor, gohiriwyd-Y Ty—Ymddangosodd Thomas Scott o flaen y Ty, i ddadleu achos Ffordd Haiarn Dde- heuol i'r Tawelfor, a gofynodd i'r llywodr- aeth gyfranu $85,000,000 i'w helpd i fyned yn mlaen. Penderfynwyd adferu yr hen doll yn y Post office ar bapyrau, llyfrau, &c., o'r dosbarth. DYDD IAU, lonawr 27.—Pasiwyd y mesur i gadarnhau rhag-hawliau sefydlwyr ar dir y llywodraeth, yr hwn wedi hyny a rodd- wyd i gwmniau rheilffyrdd. Mae y mesur hwn yn amddiffyn hawliau y rhai a ddiwyll- iasant y tir, ac yn sicrhau iddynt ad-daliad. Y Ty. —Pasiwyd y mesur i wahardd unrhyw swyddog dan y llywodraeth, i gymeryd achos breintebau yn erbyn y llywodraeth, nag unrhyw hawliau eraill. DYDD GWENER, lonawr 28.—Cyflwyn- wyd y mesur ar y doll ar lyfrau a newydd- iaduron a anfonir yn achlysurol i sylw y pwyllgor ar y llythyrdy. Dadleuwyd achos