Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
§riniiatotta.
§riniiatotta. Beirniadaeth ar Draethodau Eis- teddfod Wisconsin. GAN Y PARCH. LLEWELYN EVANS, M. A. DYLAN WAD CRED AR WAREIDDIAD Un cystadleuwr—"Maesycoed." Y mae yr orgraff ar y cyfan yn gywir, er yn feius inewn manau. Y mae y gwahannodiad yn ddiffygiol, a dosbarthiad siilebol geiriau yn fwv gwallus na dim arall. Ond y mae prif ddiffygion y traethawd yn ymddangos yn yr ymdriniaeth a'r pwnc. Y mae yr ateb a gynygir i'r gofyniad, Beth yw gwareidd- iad? yn mhell oddiwrth fod yn foddhaol. Nid yw yn gosod allan y gwahanol elfenau sydd yn cyfansoddi gwareiddiad. Mewn un lie, tuedda yr awdwr i gymeryd di- wylliant y meddwl dynol fel darnodiad o wareiddiad;" ond nid yw yn ymsefydlu ar y darnodiad liwn, ac y mae y darnodiad ei hun yn anmherffaitli. Diwedda gyda dy- weyd "y gellir edrych ar hanes gwareidd- iad fel hanes am godiad a chynydd crefydd yn y byd," yr hwn sydd eto osodiad un- ochrog. Yn xnhellacli, os wyf yn iawn ddeall y pwnc, nid yw yr awdwr wedi iawn amgyff- red y gair "cred." Dywed: Yn y testyn arwy ida grediniaeth grefyddol (religious be- lief), neu Gristionogaeth." Camgymeriad pwysig. Nid y ffydd Gristionogol, nac un- rhyw ffydd grefyddol arall, a olyga y gair Cred, pan y sonir am dano fel elfen yn dy- lanwadu ar wareiddiad; nid religious belief mo hono, ond belief, yr hyn a gredir, pa beth bynag a fo. Y mae y gair yn un tra chynwystawr. Yn wir, y mae yr awdwr ei hun yn myned yn mlaen i gymeryd gol- wg helaethach arno, panyn rhanu credoau ybydi'rtri dosbarth canlynol-cred ofer- goelus, cred athronyddol, a chred Gristion- ogol. Ond nid yw yn ymsefydlu ar y dos- barthiad hwn ychwaith. Nid oes ganddo ond ychydig i'w ddweyd am ofergoeledd. Y mae ei ddarnodiad o athroniaeth yn han- erog ac anghyson. Dywed: "Wrth hyn [cred athronyddol] y golygir cred yn olyg- iadau athronwyr paganaidd y dyddiau gynt, ac yn olygiadau amheugar athronwyr y dyddiau presenol." Ond ychydig yn mlaen sonir am athroniaeth efengylaidd," ag sydd "eisoes yn gwneyd ei rhan yn niwyll- iant y byd." Ond trwy y gweddill o'r traethawd, Cristionogaeth yw yr unig ffurf o gred a gymerir dan sylw. Gellid nodi amryw ddiffygion eraill, yn tarddu, gan mwyaf, o'r prif ddiffygion uch- od. Er engraifft, pan yn priodoli barbar- eidd dra i enciliad y ddynolryw o santeidd- rwydd, y mae yn gadael o'r neilldu, heb sylw nac eglurhad, y ffaith mai yn hiliog- aeth Cain y cawn rai o ddadguddiadau mwyaf nodedig gwareiddiad boreuol y byd. Yn yr un modd prin y mae yn gwneyd cyf- iawnder a gwareiddiad yr Aipht, a chen- edloedd eraill, mewn cyferbyniad a'r Is- raeliaid. Yn ei elyniaeth at Eglwys Rhuf- ain, nid yw yr awdwr yn gwneyd cydnab- yddiaeth briodol o'r hyn a wnaeth Pabydd- iaeth er gwareiddiad y byd, ac o'r cynydd a wnaed hyd yn nod yn yr 'Oesau Tywyll.' 0 herwydd y diffygion pwysig hyn, nis gellir dyfarnu y traethawd yn deilwng o'r wobr. Ar yr un pryd, y mae yn amlwg fod yr awdwr yn berchen gallu a diwylliant uwchlaw y cyffredin; y mae yn meddu ar- ddull lluniaidd, cryno, pwyntiedig; a phe buasai wedi cymeryd golwg ddigon eang ar y pwnc, gallasai yn rhwydd gyfansoddi fel ag i deilyngu y wobr. Y mae y pwnc yn rhyglyddu cystadleuaeth bellach; ac y mae yn ngalJu lVIaes-y-coed i ddwyn y dorch. -4'
WILKES BARRE, PA.
WILKES BARRE, PA. Gwawriodd Blwyddyn Gan-mlwyddol Bhyddid ac Aniiibyniaeth America, boreu Ionawr y laf, gyda llawer o drwst yma, fel mewn llawer lie arall, a llosgwyd llawer o bylor a barilau o olew i wneyd tân, a ddar- parodd Cwmpeini y Glo i'r pwrpas o am- gylch y ddinas. Treuliwyd y diwrnod hwnw gan y Cymry yma trwy wledda ar y danteithion a d arparwyd yn nghapel y T. C., lie yr oedd Tea ac Oyster Festival yn cael ei chynal, er mwyn cael arian i dalu y ddyled syid arno. Trodd allan yn weddol dda ar y cyfan, ag ystyried yr amser. Drwg genym nad oedd rhai yn cael digon o oysters am y tal, trwy eu bod yn gallu eu cyfrif, a bod pob un yn costio deg cent; ond dylid cofio mai oysters y cysegr oedd- ynt. Oddigerth hyn trodd allan yn dda, a chliriwyd rhai canoedd o ddoleri. Mae gweimdog y M. C., T. B. Thomas, yn gorphen ei efrydiaeth yn y Theological Seminary yn New York. Mae yno trwy'r wythnos ac yn pregethu yma y Sabboth, ac yn parhau i bregethu gyda nerth a llwydd- iant tuhwnt i brophwydoliaeth llawer un, cyn iddo ymgymeryd a'r gwaith o breg- ethu i'r eglwys hon. Rhoddodd esiampl dda i'r hen lanciau yma yn fuan, trwy gymeryd ymgeledd gymwys; a gwelir llawer un yn dilyn ei oi, ac mae yn cael y fraint o uno llawer mewn glSn briodas. Ewch ato, y rhai ydych barod mae yn deall y gwaith, gan ei fod wedi graddio ei hun, a diploma dda ganddo o Anderson College, Ohio. I I Mae yntau, Cynonfardd, yn edrych yn but dda, a chanddo g-ryn lawer o gadeiriau yn ei dy, a'r rhai hyny yn rhy debyg i'w gilydd; gwell fyddai i bwyllgorau yr Eisteddfodau nesaf fabwysiadu cynllun arall o gadeiriau iddo, sef yr easy study cliair. Carem weled Celyddon yn rhoi tro heibio yma, iddo gael eistedd yn un o hon- ynt, a Cynonfardd i'w gadeirio, a Mrs. Dim Chwareu Tegi gyflwyno iddo y gôd 11 9 ribanaidd, yn ol y drefn Eisteddfodol. Dichon mai rhyw beth fel hyn a feddvliai y bardd ffugvgadeiriol pan yn canu:— Y ft, bid siwr, a bia y clod, Ond ti wr bia y gadair a'r god. Carem fod yn fardd am bum' mynyd i wneyd Englyn. Mae Proff. D. J. Mason wedi symud o Danville i'r He yma, ac mae wedi eymeryd rooms ar Market Street. Llwyddiant iddo yma. Fe allai yr hysbysa y Proff. ei hun, a'i fwriad, i'r cyhoedd Cymreig trwy y DRYCH yn fuan. Mae y DRYCH yn cymeryd yn dda yn y lie hwn, ac y mae canmoliaeth uchel iddo. Da genym weled pob derbyniwr yn ceisio ei oreu i gael un newydd, trwy fod gwobr dda am hYllYJ heblaw y rhodd fawr o eiddo y Perchenog i bob un a dalo yn mlaen- sef y map tlws o Gymru anwyl a hoff, fel y dywedir yn ami gan filoedd o Gymry gwladgarol. Ond mae y Papyr ynddo ei hun yn werth yr arian i bob teulu. Rhodd- wch brawf o'r DRYCH am flwyddyn. Marwaidd yw masnaeh yma yn bresenol -dim ond dau waith perthynol i'r L. & W. C. Co. yn gweitliio y mis hwn, ond y mae argoel y daw .yn well yn fuan. Ychydig glywir yma yn awr am Patagonia, gan nad ydyw y Cymry yn caru y flfordd newydd i fyned yno, sef via Bangor a'r Cambrian Rocks, yn lie y Brazil Rocks. Dichon y rhydd y Chief dipyn o eglurhad, pa un yw y iiordd ddiogelafa havvddaf. Mae y Gym- deithas Lenyddol yn parhau yn fywiog, gan fod y cewri tu cefn iddi a'u liysbryd yn y gwaith. Bu y lienor D. O. Johns yn ilwyddianus eleni eto yn yr Eisteddfodau. Traddododd yr Anrh. Schuyler Colfax ar- aeth yn rdiwec-iclar, 'yn y Music Hall, ar Abraham Lincoln. Rhoddo d hanes cryno o'r merthyr hwnw i ryddid a gwirionedd; desgrifiodd ei fywyd boreuol ar y Western Prairies, a'i gynydd nes myned yn fawr, yn nghyd a'i benderfyniad i sefyll at y gwirionedd, yn yr hyn y mae yn esiampl i bob dyn ieuanc i'w efelychu, — Qohebydd, <iIí'
ADGOFION FY NHAITII.
ADGOFION FY NHAITII. GAN Y PARCH. OWEN GRIFFITHS (GIRALDUS.) Fel y byddo genym fath o reol a chys- ylltiad yn hyn o ysgrifau, doeth fe ddichon fydd ceisio cadw at gwrs ein taith yn y Gorllewin fyd. Treuliasom y chwech wythnos cyntaf yn St. Louis, ac felly caed hamdden i fyned am dro er cael golwg ar y ddinas hono. Wedi teithio am ganoedd o filldiroedd drwy anialwch angliyfanedd, mae cael ein hunain yn ddisymwth yn nghanol tref o faintioli a harddwch St. Louis, yn taro y meddwl a syndod dieitlir. Wrth ymsymud ar hyd y prif heolydd a chraffu ar nodweddion yr adeiladau, mae yr ymwelydd yn fynych yn cael ei dueddu i sefyll, ac efallai i siarad yn ymholgar wrtho ei hun. Gwna amryw bethau, megys a ganlyn, gymell eu hunain i'w feddwl. Wel, wyddoch chwi beth, rhyw bobl heb eu bath yw yr Iancis yma! Er engraifft, dyma'r Hotel fawr newydd yma; pwy a fedr ddweyd beth mae yn dda, mewn difrif! Bydd yn anmhosibl gwneyd iddi byth dalu am dani ei hun. Ond cyn fod y llygaid wedi haner dremio ar fanyl- ion ei hymddangosiad, teimla yn blino, ac ymsynir yn mhellach: Ai tybed fod yn bosibl i'r wmbredd hwn o adeilad, gael ei godi yn y maint a'r gorwychedd yma yn benaf er mwyn darigosiad a mawrfrydedd? Y mae rhywbeth yn peri i ddyn ymsyniaw felly a dweyd y ileiaf. Gwelir yn y ddinas fawr hon arwyddion masnaeh anghyffred- in—ymddengys fel pe yn ymwingo drwy- ddi, ac yn enwedig felly yn nghymydog- aethau y prif fasnachdai, ariandai, a gor- safoedd y cledrffyrdd. Ond wedi'r cwbl, rhaid Bad yw yr holl amlygiadau hyn o fywyd trafnidiol ond bychain mewn cym hariaeth i'r business a wneir yn y fangre boblog hon. Ymofyniad arall, ond odid a gynygia ei hun, fydd, Beth a ddichon fod yr achos i'r heolydd gael eu gwneyd mor gulion, pan yr ydoedd digonedd o diroedd yn amgylcli- ynol, y gallesid ymledu iddynt? Pr ym- holiad yna, mae eywreinrwydd yn cynyg esboniad fel hwn. Llawer o flynyddau yn ol, pan aethpwyd i dynu cynllun o'r dref a'r heolydd, yr oedd yr holl gwmpasoedd yn debyg fel y mae llawer o hono yn bres- enol, yn anialwch disathr ond gan wyllt- filod. Yr oedd greddf a thynerwch eu natur yn dysgu'r sefydlwyr cyntaf i ym- wasgu at eu gilydd yn y fath Ie. Yr oedd yr ymsyniad eu bod wedi dod i gartrefu mor bell o bob man, ac anialdiroedd diffaith yn ymgau o bob tu, yn peri iddynt ymgrynhoi at eu gilydd. Gweithredent o dan ddylanwad deddf hunari-yffiddifyniad ac ofn. Ac ar a wyddom ni, nad dylan- wadau o'r un natur a fuont yn achos i ddinasoedd ar y cyntaf dderbyn bodol- aeth. Y mae St. Louis yn mhell o fod yn dref foesol a clirefyddoL Y mae hyn, efallai, yn taro fti rhyfedd pan ystyrir fod modd- ion addysg yn uchel eu bri yno. Hona y ddinas hori tiwchafiaeth arbenig yn y cyf- eiriad hwn; ystyfia ei hysgolion yn gynllun o'r hyn ddylai moddion addysg fod; ac eto mae yn ffaith fad llawer dinas yn y wlad yn rhagori arni rnewn moesoldeb a chref- ydd. Yn ngwyncb tEyn, gellir gweled nad yw dysgeidiaeth yn unig, yn d ngonol i sicrhau iawn ymddyglad.- Nid ydym yn cofio yn awr i ni fod mewn tmriiyw ddinas a chanfod cymaint o aainharchu'r Sab- both ag a welsom yno. Gallasid barnu fod yr elfenau haiarnaidd a chryfion ydynt mor hanfodol i'r cymeriad, mewn cyflwr pur eiddilaidd yn mhlith dosbafthiadau lluosog yn St. Louis. Ymddengys fod yr i eglwys a'r cyleilhon yn Carondolet. He mae y Cymry yn llafurio yn gwneyd eu rhan yn y parth hwnw o'r dref. Yn en hymdrecliion gyda'r ysgol Sabbothol a'r moddion pregethu, maent yn esiampi i deilwng i'w hefelychu gan eglwysi mwy. Cyn yr ymweliad hwn, mawr oedd ein hawydd am weled yr afon Mississippi, ac oblegid hyny nid anfynych y buom yn defnyddio cyfle i syllu arni yn ymsymud ynarafaidd, eto'n fawreddog tua'r cefnfor mawr. Y pryd hwnw ymgodai hyd ei glanau gan lifogydd. Cariai yn feunydd- iol goedydd o rywle ar ei cliefn llydan. Gwelid weithiau bersonau mewn badau yn anelu i gyfarfod ambell i bren, gan ei dywys tua'r lan, er bod yn ddefnyddiol at ryw wasanaeth neu gilydd. Yn debyg i hyn mae dyngarwyr weithiau wedi rhwyfo i gyfarfod sefydliadau a rhagorion a gludid ymaith ar gefn llydan afon fawr amser. Mae amser wedi olwyno, a ninau yn olwyno ymaith yn nghyfeiriad y Coal Valley, 111. Yr oedd y rhan gyntaf o'r symudiad hwn yn digwydd dan fantell y I nos, ac fel yr ydoedd yn dyddhau, caem ein hunain yn nghanol maesydd ftrwyth- lawn Illinois; a dyma lie yr oedd golyg- feydd! Eangdiroedd dibendraw yn orch- uddiedig gan yr Ihdrawn; mwyaf gogon- eddus yn mhob cyfeiriad. Wel, dyma Ganaan o; wladj meddwn. Teimlwn rai o'm hen syniadau am y Gorllewin ac America yn myned i ddiddymdra yn debyg fel yr oedd agerdd a mwg elD, peiriant yn ymddiflanu ar hyd wyneb y tir. Ymlioewai ein cerbydres drwy y fath wlad a golyg- feydd, megis wrth ei bodd.. Ymddolenai ar ei llwybr ar hyd ochrauagwaelodion ymchwyddiadau y tir, fel oesoedd yn ol, pan oedd y mor yn gorchuddio y fan, yr ymddolenai pysgod anferth ar hyd' yr, un lleoedd. .#'
[No title]
-Dywedir fod y dylanwad mawr a fedd- iana John Bright ar gynulleidfa i'w briod- oli, mewn rhan, i'r nifer lluosog o eiriau unsill a arfera. Mewn un ymadrodd ar- dderchog yn un o'i areithiau, yr-oedni MQ" allan o 190 o eiriau yn un sill.
YSBRYD DIWYGIAD.
YSBRYD DIWYGIAD. —Dywedir fod llawer o bobl feddwon, na fyc(lant yn myuychu tai adcloliad, wedi myned i wrandaw Moody a Sankey yn Phil- adelphia, a chael troedigaeth. —Dvwedir fod 254 o Babyddion yn nhir- fogaeth Quebec wedi cofleidio Protestan- iaeth yn nghorfl ychydig d.ly diau yn ol. Gwna hyny y cyfan a ddychwelodd mewn ychydig wythnosau yn bedwar cant ac un ar ddeg, fel ffrwyth gwaith y Genadaeth Bresbyteraidd yn mhlith y Ffrancod. —Hysbysir mewn adroddiad o Philad- elphia, fod cyfarfodydd Moody a Sankey yn y ddinas hono wedi costio $30,000, a bod eisiau codi $8,000 eto i orphen talu y costau. Dechreuodd y diwygwyr eu llafur yn New York yr wythnos hon. -Adrodda y Parch. John A. Monroe, gweinidog Wesleyaidd yn Port Jervis, N. Y., ffrwyth cyfarfodydd diwygiadol am ddeng wythnos. Cofrestrwyd 701 wedi cael troedigaeth; ar brawf 501—196 o wr- ywod a 301 o fenywod, a'r gweddill yn blant. Mae y pentref wedi ei ddosranu i 13 o adranau, fel y gall y chwiorydd lafur- io ynddynt. Prin y gwelir neb meddw yn y He. -Hysbysir fod yn China 436 o genadon mewn 41 o ardaloedd. Bu un yno 38 o liynyddoedd; un arall 31, a'r trydydd 30. Mae yn Japan 100 o geiiadon Protestanaidd mewn 7 o randiroedd; ac o'r nifer uchod y mae 44 wedi eu hordeinio, 4 yn feddyg- on a 52 o fenywod. Hefyd y mae yn Siam 24 o genadon. Allan o'r 436 yn China y maeJIO o'r Talaethau Unedig; 194 o Bryd- ain Fawr, a 32 o Germany; ac o'r 100 yn Japan, 76 or Talaethau Unedig a 24 o Brydain Fawr. Mae yr holl genadon Pro- testanaidd yn Siam o'r Talaethau Unedig, RACINE, WIS.—Mae genyf newydd da o lawenydd mawr i bob Cristion sydd yn darllen y DRYCH, sef fod diwygiad bendig- edig wedi tori allan yn y ddwy eglwys Gymreig yma. Ymunodd yr A. a'r M. C. i gadw yr "wythnos weddi;' ond mae yr wythnos wedi myned yn dair, a'r hwyl nef- olaidd yn parhau yn ei rym, a rhyw bech- aduriaid braidd bob nos yn ffoi rhag y Hid a fydd, a'r rhai hyny gan mwyaf yn benau teuluoedd—hen wrandawyr yn plygu ac yn wylo fel plant. "Diolch iddo Byth am gofio llwch y llawr." Mae yr eglwys A. yn awr heb fugail; ond mae bugail ac esgob eneidiau yn gofalu am danynt, drwy rod<!i adnewyddiad i'r aelod- au, nes mae llestri yr hen bererinion yn llawn, ac ar brydiau yn tori drosodd. Mae ffurfioldeb wedi myned o'r ffasiwn, a'r hwyl canu a gweddio, a'r Amen, 0 diolch, &c., wedi cymeryd ei Ie. Mae y Parch. Joseph Roberts yn sicr o fod yn enill setch nefoedd a daear, am ei ddoetliineb a'i ysbryd efeng- ylaidd yn arwain y symudiad hwn o daerin- eb ar bechaduriaid i ffoi rhag y gawod ofn- adwy sydd i ddyfod ar fyd yr anwir ddyn- ion. Dos yn mlaen,nefoldS,n,yw dymuniad. —C'ymro. FISH CREEK, GER BANGOR, WIS.—Da genym allu hysbysu y cyhoedd fod y cyfar fodydd gweddio a gychwynWyd yn yr ar- dal uchod ddechreu y flwyddyn wedi troi allau yn gyfarfodydd toreithiog. Mae yr hen frodyr crefyddol yno fel yr hydd, yn brefu am yr afonydd dyfroedd; felly y maent hwythau wedi bod yn hiraethu am Dduw, am y Duw byw; ac yn ol ei arfer, fe adawodd Duw iddynt ei gael; a'r can- lyniad yw, fod y diafol yn barod wedi colli ei ddeiliaid yno or bron. Nid ydym am geisio rhoddi cyfrif i chwi o'r dychweled- igion, oblegid y mae hi yn edrych yn awr fel pe baent oil o'r mwyaf hyd y Ileiaf o honynt am gael adnabyddiaeth o'r Ar- glwydd fel eu Gwaredwr. Par hyn lawen- ydd nid bychan i garedigion yr Arglwydd yn yr ardaloedd hyn, yn neillduol i'r ddau frawd yn y weinidogaeth, sef y Parehn. O. Jenkins a H. M, Pugh. Teimlad y brodyr yw, fod braich yr Arglwydd yn ymddang- os, ac felly nad yw eu llafur yn ofer yn yr Arglwydd. Wrth ddarHen newyddion y dydd, cawn fod yr Arglwydd fel pe bae yn galw ar ei Seion i ddeffro rawn modd mwy cyffredtnol nag arfer; a phWy a wyr tra y mae yr holl ddarpariadau ya snyffed yn mlaen, a'r holl adeiladau yn cael &>a! codi i ddathlu y flwyddyn Ganmlwyddol d oes y Talaethau Unedig, nad ydyw Duw tiefyd yn myned i adeiladu Seion, yna y gweHtef yn ei ogoniant; bydd palasau beion mOlt wych nes tanu palasau gwychaf y byd i'r cysgod. Ni a obeithiwn y bydd y flwydd- li yn Ganmlwyddol hon yn arieg ag y cymer ein Duw ni hi i gymeryd Cyfandir mawr America, i ddiosg ei fraich yn ngolwg yr holl genedloedd sydd yma yn barod, ac hefyd i'r rhai fydd yn cyrchu yma bron o bog) cwr o'r byd o fewn corS y flwyddyri honf a tliray mae Duw yngalw ar Seion i ddeff to, y caiff hithau nerth i waeddi— "Deilro, Deffro, 0 fraich yr Arglwydd!" Bydded hon yn flwyddyn Jubilee i Seion, yv/ fy nymuniad, er yn wan—J. M. larry, GOMER, O.—Da genym allu dweyd drwy ein papyr elodwiw, fod y Cymry yn ardai Gomer yn nT wynhau cysuron bywyd i radd- audymunoL Mae iechyd yr ardalwyr yn rhagorol; ag ystyried y gauaf agored., a'r gwlawogydd- parhaus y tymor hwn. Bu Llwyildiant- tynwwol yn helaeth y flwyddyn a bashJdd; agystjlxied amgylchiadau y w lad —y cynhauafllaifb, a'r cyfyngder arian ol y cwynir cymaint or,i herwydd; ond yn ben- af oil, cawsom; f wyi-illiau yn helaeth o fen- dithion ysbrydol; a'douiasuyr Ysbryd Glan. Bu llwyddiantyreglwy»yn fawr, a gwein- idogaeth ein gweTnidoa:" parefet 'dig yn bob cysur i ni, er pan y sefy cilo#d y* Ðin plith. Mae yr eglwys yn rynydfe me"% 'n undeb, cariad, a gwenau y' nefoedd awaoia i radd- au dymunol. Ni bu gweinidog- yn nghyd a'i deulu erioed: yn ddyfnach yn-seinv hiadau eglwys nag yw y Parch. D. Jsfles^ aA deu- lu anwylaf yn serchi-adau eglwys G<V.ft 81' Un o'r bendithion-'gwerthfawrocafi'a'p^ 'sur penaf all gweinidog a'i eglwys au ydyw undeb, cariad'ia chydweithrgdiadl 11 holl gylchoedd crefyddy yn nghyd 8/' gWik. au grasol "Preswylydd y berth." swvd cvfeiliorni. erallaf ■ ddweyd, ein- bod yn nghariad Crist, yn mwynhau y bendith- ion hyny yn eglwys Gomer i r&ddau dy-- munol. Maeyn wir i ni golli drWy farwol- aethau rai o'r aelodau ffyddlonaf, ac ar- chollwyd felly deimladau personol a cliym- deithasol; ond yn ol yr addewid, Pyrth uffern nis gorchfygant hi." Buychwaneg- iad parhaus at rif yr eglwys ar hyd: y flwyddyn ddiweddaf, fel yn y blynyddau blaenorol. Derbyniwyd i'r eglwys dros ddeugain y flwyddyn ddiweddaf, ac eto y mae amryw yn ymofyn am:eu lie yn yr eg- ,lwys. "O'r Arglwydd y dae'th hyn;" De- chreuwyd y cyfarfodydd gweddio yr wyth- nos gyntaf o'r flwyddyn hon yn lluosog, gwresog a dylanwadol, a daliasant felly yr wythnos ganlynol, heb un arwydd edwino na llesgau; felly cawsom bythefnos (eel- wvdd, ac arwyddion amlwg fod Duw yn ei ras yn ein bendithio. Ac yn 01 rhif y cyn- ulliadau, cynesrwydd y canu, a nerth gaf- aelgar y gweddiau, ein cred yw, y buasai y cyfarfodydd yn parhau etc oni buasai y ty- wydd anffafriol, a ihywyllwcli y nos. Mae yr eglwys yn Gomer wedi ei dyrch- afu yn uchel, yn mwynhau y weinidogaeth buraf a'r gweinidog ffyddlonaf, yn nghyd a'r cantorion a'r gerddoriaeth ragoraf all- wn ddymuno. Ni bum erioed yn nyled y cor am sebon, felly nid ofnaf gael fy nghyhuddo o seboni, wrth ddweyd fod caniadau y cor yn ardderchog, ac ni allwn iawn brisio canu cynes a gwir werthfawr felly yn addoliadau y cysegr. Wn i ddim na allaiy cor gydag ychydig o rag-drefnu, leoli eu hunain yn fwy manteisiol er taflu eu dylanwad yn fwy nerthol drwy y gyn- ulleidfa. Ond yn wir, dylem gydnabod gwasanaetli Dr. Davies fel arweinydd y gan, yn nghyd a cliantorion Gomer, er cy- sur yr eglwys a llwyddiant yr achos. Dig- rif i ni oedd darllen barn N. Ddu, gangyd- maru goruchafiaeth Cor Gomer yn Eistedd- fod Columbus i "drwch asgell gwybedyn." Dichon ei fod ef yn gwybod trwch esgyll gwybed. Beth bynag am hyny, gwelodd y beirniad eu rhagoriaeth yn ddigon trwclius i'w barnu yn oreu; dyna i gyd, tae waeth am ryw ysmaldod felly.—Josiah Jones. III
HAELLOM EGLWYSLG.
HAELLOM EGLWYSLG. -Cyhoeddodd y Parch. George H. Hep- worth, New York, fod ei eglwys mewn dy- led yny swm 0 $189,000; ac o'r swm yna y mae$100,OJO ary wystl gyntaf, a $89,000 ar yr ail wystl. Costiodd y tir $125,000 a'r adeilad$150,000 yn rhagor. Mae y Dr. yn bwriadu ymgymeryd a'r gwaith o gasglu y swm uchod, a chlirio y capel. —Mewn cyfarfod perthynol i Eglwys Loegr yn Leeds, yn ddiweddar, dywedodd yr Esgob fod eisiau 15 o eglwysi newydd- ion yn y lie, a 500,000 i dalu am danynt.— Caed casgliad gwirfoddol yn y fan,' yr hyn a gyrhaeddodd y swm o $150,000! c) -Dywed un o newyddiaduron Mexico fod gan y Protestaniaid 125 o gynulleidfa- oedl, ac 11 o eglwysi, a 99 o ystafelloedd i addoli; a bod gan yr eglwysi Protestanaidd eiddo gwerth tua $139,000; 28 o ysgolion dyddiol, 28 o ysgolion nos, dau nawddle i blant amddifaid, dwy ysgol dduwinyddol, chwech argraff-wasg yn cyhoeddi llenydd- iaeth grefyddol, chwech o gylchgronau crefyddol, 122 o oruchwylwyr, a $100,000' wedi eu defnyddio y flwyddyn hon—$151 er cario yn mlaen y gwaith. OSHKOSH, Wis- YFeibl Qyrndeithas Gym- reig-Cynali wyd ein 25ain cyfarfod blyn- yddol yn Bethesda, Ion. lleg. Wedi de- chreu yn y dull arferol, darllenwyd y cyf- rifon, y rhai a gymeradwywyd ar sail tyst- iolaeth y prawfyddion. Yr oeddynt fel y canlyn: Derbyniadau—Arian ar law dlléùhreu y flwyddyn 1875,$29.08; llyfrau ar law.$79., 10; derbyniadau y casglyddion, $188.00; llyfrau a dderbyniyvyd,$5.08—yn gwneyd cyfanswm 0 $301.26. Treuliadau-Donation i'r Fam Gymdeith- asl f211.20;am ddrafft, 50c.; postage, &c., 30c.; llyfrau, $5.08; rhoddion o lyfrau, $5.77; arian ar law, $40.18; llyfrau ar law, $38.23, yn gwneyd cyfanswm 0 $301.26. Dewiswyd yn swyddogion am y flwydd- yn ddyfodol: Llywydd, Parch. John K. Roberts; Is-lywyddion, Parch. D. Price, Thomas Roberts a James R. Williams; Try- sorydd, Joel W. Morgan; Ysgrifenydd, Evan Jones. Dewiswyd hefyd 8 o gyd- drefnwyr a 12 o gasglyddiiSn. Cafwyd cyf- arfod lluosog drwy y dydd ar hwyr, ac ar- eithiau doniol a phwrpasol af yr achlysur, Nid yw nifer y Cymry yn y sefydl'iad hwn ond bychan, eto maent. yn llawer mwy ifyddlon gydag achos y Beibl na'u tymyd- ogion yr Americaniaid. e Mae y Gymdeithas hon er pan ei sefydl- wyd wedi talu i'r Fam Gymdeithas fd> y canlyn i Talwyd i'r Fam Gymdeithas am lyfrau,$918.47; anfonwyd yn donations i'f Fam Gymdeithas, ^3407.60, yn gwneyd cyf- answm donations ac am lyfrau yn $4326.07. -Evan Jones, Ysg. SOUTH BEND, MIWN.—Ar ol cryn lawer o oediad, dymunwyf ar ran Presbyteriaid Minnesota, roddi cyfrif o ffrwyth fy llafur casglyddol yn Wisconsin y gwanwyn diw- eddaf. Bydd laweu iawn, ti ferch Seion, a chrechwena, ti ferch Jerusalem, sef eg- lWys gyntaf y Presbyteriaid Cymreig yn Judcion, canys diddyledwyd dy gapel. Swm y casgliad sydd fel y canlyn: Bangor, Wis., $14.70; Fish Creek $18.30; Prcscaeron $5.- 10; Blaenycae$15.10; Lake Emily $6.95; Jerusalem, W. P.,$3.32; Seion, W. P., $7.50; Milwaukee$17; Chicago $3; Racine $27.15; Dodgeville a'r cylchoedd$16.30; Arena$11.60; Goshen, Blue Mounds$11.10; Cambria$18.85; Salem, Columbus$7.07; tref Columbus $7.10; Bethesda,, Waukesha $10.45; Jerusalem, etc $14; Moriah, eto, $6.77; Bethania, eto $6.05; Seion,, eto$8.- 60; Mineral Point $7.50. Derbynia.is ewyllys da amryw eglwysi Presbyteraidd. Yn mysg y lluaws- enwaf yn gyntaf eglwys Winona, yn yr lion y mae Mr. Wm. R. Williams, Lake Emily gynt, a Mr. T'lios. Thomas, Bangor, Wis. yn El- ders gwir barclius, a'r blaenaf yn arwein- ydd y canu. Well done, fecligyn anwyl, dringwch i fyny. Deallwyf hefyd eu bod yn gwneyd busnes da mewn ystyr fasnach- ol. Derbyniais oddiyno $20; Milwaukee P.$46.10; Chicago $147.25; Racine 35.12; Waukesha 12.80; tref Columbus $10; MaJ- ison $17; Stillwater ^17; Portage City $15. Yn y lie olaf y mae yr Anrh. Llewelyn Breese a'r Parch. Wrn. Parry, mewn an- rhydedd a chymeradwyaeth fel Elders yn yr eglwys Bresbyteraidd, ac yn hynod gyf- rifol a pharchus fel masnachwyr yn y dref; ac amryw deuluoedd eraill gwir barchus, rhy ami i'w henwi. Eweh rhagoch, anwyl gydgenedl, a Duw yn rhwydd i chwi,mewn I pob peth da. Dylwn gydnabod haelfrydedd a chared- | igrwydd dihafal Mr. Thomas Davies, La > 'rosse, yr hwn a'm hanrhegodd a chaseg 'rtlifawr i'm gwasanaethu gyda'r etengyl 1 V cvlchoedd hyn, ac am yr ymgeledd 'usol a gefais yn ei_ fath-dy cyfleus, a r 2* wn groesaw a gefais yn ei balas hardd; eyila olfderbynied fy nidwyll ddiolchgar :ul! y' dymuniadau at Dduw ar ei ran wclu iddo feddianu yr unrhyw werthfawr IwV'r# a feddianodd ei fam a'i dad, y di- ttydd' i3arch. Daniel Davies, Cefn Canol, :weddfi!T.. aidwrn. Cyflwynwyf fy niolch- ,Suv l.)i-'$ii garwch gwresocaf am y derbyniad croes- awgar a gefais gan eglwysi a cbynuileidfa- oedd y T. C. yn Wisconsin. Caraswn en- wi personau neillduol, y rhai fuont yn dra charedig a cliynorthwyo] i mi, oni byddai i hyny chwyddo fy ysgrif yn ormodol. Der- bynied y cyfryw a'r oil a gyfranasant at yr achos teilwng hwn, duiolchgarwch yr eg- lwys a'r gynulleidfa, yr oil o'i, rbai a god- asant ar eu traed pan y rhoddais gyfrif o'm taith. A phan fynegais fod y casgiiad yn ddigon i dalu y ddyled a'r holl draul, yr oedd y dagrau o lawenydd yn llifo dros ruddiau llawer, a'r holl gynulleidfa yn cyd- uno yn eu diolchgarwch i bawb a'u cyn- orthwyodd allan o'u cyfyngder. Eu gos- tyngedig was yn rhwymau yr efengyl— Daniel Rowlands.
CAMBRIA, WIB.
CAMBRIA, WIB. Maey flwyddyn newydd wedi dechreu. Cawsom ni yn Cambria y gorchwyl anghy- surus o anfon tri i'r fynwent mewn llai na dwy wythnos yn nechreu y flwyddyn new- ydd, sef Margaret Williams, Tan-y-bwlch, yr hon a fu farw y dydd cyntaf o'r flwydd- yn, arolbodyn gystuddiol am amser maith. Yr ail oedd plentyn i'r Bardd William Ed- wards, a'r trydydd oedd John Owens, Glan- y-gors, Welsh Prairie, yn 55 ml. oed. Gad- awodd weddw ac amryw o blant i alaru ar ei ol. Yr oedd yn ddyn a berchid yn fawr gan bawb o'i gydnabod, ac yn flaenor gyda y T. C. Yr oedd yn ei fryd er's blynydd- oedd adeiladu ty ceryg, ac yr oedd wedi codi ceryg yn barod; ond cafodd ef ei sy- mud cyn ei roddi wrth ei gilydd, i'r ty rhag- derfynedig i bob dyn byw, a chafodd dy amgenach, sef ty nid o waith llaw, tra- gwyddol yn y nefoedd. Ni wmif ond cry- bwylliad fel hyn; diau y ceir cofiant iddo gan ryw un mwy galluog. Cynaliwyd y cyfarfod llenyddol, oedd i fod yma y dydd cyntaf o'r flwyddyn, yn mhen wythnos ar ol hyny, o achos y tyw- ydd anffafriol. Cawsom gyfarfod pur dda -y Parch. Rees Evans yn llywyddu, yr hwn a wnaeth ei waith yn rhagorol, ond ei fodyn gas iawn wrth yr Hen Lane weith- iau; a gwnes inau englyn sala' oedd bosibl iddo yntau am ei gast, a dyma fo: Cawr o ddyn i'n ewrdd a ddaeth—yw'r Gwr llawn o wybodaeth; [llywydd, Yn ddyn ffri a'i ddoniau'n ffraeth, Di goll ydyw 'n gall odiaeth. Cawsom ganu ac adrodd, cystadlu a beirn- iadu, a'r cwbl yn dda iawn. Beirniadaeth Bardd yr Hendref ar y farddoniaeth; got- eu ar Englyn i Patagonia, Wm. Rowlands; goreu ar Pryddest i'r Pentecost, William Edwards, Cambria; goreu ar Gan i'r Gauaf, Isabela; ond ni atebodd neb i'r enw, ac nid oedd ryfedd chwaith, oblegid cafodd y feirniadaeth gasaf a glywais erioed. Beirn. Wm. Rowlands ar yr Englyn i'r Addoldy— testyn a roddwyd yn y cyfarfod 2 o'r gloch, i fod yn barod erbyn cyfarfod yr hwyr- Edward Williams a David Jones, Welsh Prairie, yn gyd fuddugol. Darllen byrfy- fyr, John Lloyd yn fuddugol. Cawsom gyfarfod da iawn, a digon o arian i dalu y gwobrwyon, a $7 dros ben. Wrth derfynu, y mae arnaf chwant rhoi cyngor bach i "Crwydryn o Columbus:" Cer adre,' y Crwydryn-gwr asynaidd. Gar swnio fel mwlsyn; Gor-anglod oedd gyru Englyn Heb synwyr dai achlesu'r dyn. Bardd gw'ntog a bardd gwantan—un anwyd Yn enwog ei liopran; Melin bro yn malu'n bran, :i Gwael hynod, gwel d'liunan. Neu-Dwl hynod -d—1 ihunan. HEN LANC 0 CAMBHXA.