Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

§riniiatotta.

News
Cite
Share

§riniiatotta. Beirniadaeth ar Draethodau Eis- teddfod Wisconsin. GAN Y PARCH. LLEWELYN EVANS, M. A. DYLAN WAD CRED AR WAREIDDIAD Un cystadleuwr—"Maesycoed." Y mae yr orgraff ar y cyfan yn gywir, er yn feius inewn manau. Y mae y gwahannodiad yn ddiffygiol, a dosbarthiad siilebol geiriau yn fwv gwallus na dim arall. Ond y mae prif ddiffygion y traethawd yn ymddangos yn yr ymdriniaeth a'r pwnc. Y mae yr ateb a gynygir i'r gofyniad, Beth yw gwareidd- iad? yn mhell oddiwrth fod yn foddhaol. Nid yw yn gosod allan y gwahanol elfenau sydd yn cyfansoddi gwareiddiad. Mewn un lie, tuedda yr awdwr i gymeryd di- wylliant y meddwl dynol fel darnodiad o wareiddiad;" ond nid yw yn ymsefydlu ar y darnodiad liwn, ac y mae y darnodiad ei hun yn anmherffaitli. Diwedda gyda dy- weyd "y gellir edrych ar hanes gwareidd- iad fel hanes am godiad a chynydd crefydd yn y byd," yr hwn sydd eto osodiad un- ochrog. Yn xnhellacli, os wyf yn iawn ddeall y pwnc, nid yw yr awdwr wedi iawn amgyff- red y gair "cred." Dywed: Yn y testyn arwy ida grediniaeth grefyddol (religious be- lief), neu Gristionogaeth." Camgymeriad pwysig. Nid y ffydd Gristionogol, nac un- rhyw ffydd grefyddol arall, a olyga y gair Cred, pan y sonir am dano fel elfen yn dy- lanwadu ar wareiddiad; nid religious belief mo hono, ond belief, yr hyn a gredir, pa beth bynag a fo. Y mae y gair yn un tra chynwystawr. Yn wir, y mae yr awdwr ei hun yn myned yn mlaen i gymeryd gol- wg helaethach arno, panyn rhanu credoau ybydi'rtri dosbarth canlynol-cred ofer- goelus, cred athronyddol, a chred Gristion- ogol. Ond nid yw yn ymsefydlu ar y dos- barthiad hwn ychwaith. Nid oes ganddo ond ychydig i'w ddweyd am ofergoeledd. Y mae ei ddarnodiad o athroniaeth yn han- erog ac anghyson. Dywed: "Wrth hyn [cred athronyddol] y golygir cred yn olyg- iadau athronwyr paganaidd y dyddiau gynt, ac yn olygiadau amheugar athronwyr y dyddiau presenol." Ond ychydig yn mlaen sonir am athroniaeth efengylaidd," ag sydd "eisoes yn gwneyd ei rhan yn niwyll- iant y byd." Ond trwy y gweddill o'r traethawd, Cristionogaeth yw yr unig ffurf o gred a gymerir dan sylw. Gellid nodi amryw ddiffygion eraill, yn tarddu, gan mwyaf, o'r prif ddiffygion uch- od. Er engraifft, pan yn priodoli barbar- eidd dra i enciliad y ddynolryw o santeidd- rwydd, y mae yn gadael o'r neilldu, heb sylw nac eglurhad, y ffaith mai yn hiliog- aeth Cain y cawn rai o ddadguddiadau mwyaf nodedig gwareiddiad boreuol y byd. Yn yr un modd prin y mae yn gwneyd cyf- iawnder a gwareiddiad yr Aipht, a chen- edloedd eraill, mewn cyferbyniad a'r Is- raeliaid. Yn ei elyniaeth at Eglwys Rhuf- ain, nid yw yr awdwr yn gwneyd cydnab- yddiaeth briodol o'r hyn a wnaeth Pabydd- iaeth er gwareiddiad y byd, ac o'r cynydd a wnaed hyd yn nod yn yr 'Oesau Tywyll.' 0 herwydd y diffygion pwysig hyn, nis gellir dyfarnu y traethawd yn deilwng o'r wobr. Ar yr un pryd, y mae yn amlwg fod yr awdwr yn berchen gallu a diwylliant uwchlaw y cyffredin; y mae yn meddu ar- ddull lluniaidd, cryno, pwyntiedig; a phe buasai wedi cymeryd golwg ddigon eang ar y pwnc, gallasai yn rhwydd gyfansoddi fel ag i deilyngu y wobr. Y mae y pwnc yn rhyglyddu cystadleuaeth bellach; ac y mae yn ngalJu lVIaes-y-coed i ddwyn y dorch. -4'

WILKES BARRE, PA.

ADGOFION FY NHAITII.

[No title]

YSBRYD DIWYGIAD.

HAELLOM EGLWYSLG.

CAMBRIA, WIB.