Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

..----.--..---------AR DAITH…

News
Cite
Share

AR DAITH 0 BERERINDOD. GAN Y PARCH. F. EVANS (EDNYFED.) Gelwid Evan Tyclai yn ddyn y tri rby- feddod. Cyn ei fod wedi teithio allan o olwg mwg simnai ei dy ei hun, arferai fyned i ben bryn cyfagos, o'r hwn y cawsai olwg lied gyflawn ar y wlad oddi- amgylch, a llenwid ef gan syndod gan eangder fawr y weledigaeth. Ond pan aeth ychydig bellach o gartref yn Llan- fynydd, Sir Gaerfyrddin, a phan y gwel. odd y Bristol Channel am y tro cyntaf, braidd y gallasai ddal y weledigaeth. Rhyfeddai at eangder y greadigaeth, fel y deuai i'r golwg oddiar ben y bryn, ac fel y teitliiai ychydig filldiroedd o Llanfynydd. Dyma y rliyfeddod cyntaf. Ei ail ryfeddod oedd hwn—un hynod naturiol er eanged oedd y byd, nad oedd cwys o hono yn ei feddiant ef. Gall Ilawer o honom uno gydag ef yn y syndod hwn. Ei drydydd rhyfeddod oedd hwn, er na feddai gwys o'r ddaear, ei fod mewn gwirionedd mor gyf- oethog a'r cyfoethocaf. Maddeuwch i mi am fyned ddau ryfeddod oddiwrth y testyn, wedi'r cwbl y rhyfeddod peiitf yw, fy mod yn dal cystal at y testyn. Cyrnwysaf y cyntaf at y Gorllev in, synir chwi at yr eangder diderfyn a ymleda o'ch blaen, ac nid yw y prairies eu hunain ond drysau llydain, trwy y rhai y telthia y werin yn orllewinol. Mae gan yr eangder hwn ddy- lanwad nerthol ar feddwl, calon, ar hyd yn oed corff y dyn. Ar wastadedd y Gorllew- in y mae llawer corif sigledig iawn i'w ganfod. Yn llythyrenol, y mae y ty o glai yn siglo ar ei seiliau. Dywed Solomon fod amser i alaru, amser i lawenhau; am- ser i ddawnsio, amser i wylo; amser i adeiladu, ac amser i dynu i lawr, ond nid wyf yn meddwl ei bod yn dweyd fod am- ser i siglo, oddigerth mai dyna ei feddwl pan y dywed, "ac amser i ddawns o Pan ger Carondolet, galwais i weled teulu caredig iawn o hen gymydogaeth fendigaid Penycae, lie yr oedd gair da i Emlyn enwog (a thra y cofiwyf, y mae darlun Emlyn i mi ar ol yr anfoner ef), a chefais bawb allan ond brawd y wraig liynaws, ac fel rheswm o'i arosiad yn y ty, dywedodd wrthyf mewn ton hynod grefyddol, "It is my day to shake" Gallwn feddwl fel y byddo adeiladau yn lluosogi, a tliiroedd yn cael eu gwrteithio, yr encilia yr ellyll a elwir YCRYDARYMWYTH o'r wlad ond nid er chwilio am leoedd sychion. Dyma un peth anymunol a berthyn i lawer o fanau yn y West, ond y mae hyn o gysur-y mae digon o le yno i drigolion yr Unol Dalaethau siglo. Nid oes mwy o siglo yno nag mewn rhyw le arall, oblegid fod llai o sylfaen danynt, canys y mae yn Missouri fynydd cyfan o haiarn. Credwyf fod gan yr eang- der mawr hwn ddylanwad nerthol ar feddyliau y bobl. Fel y gwna lie genedigol ac arosol y bardd a'r pregethwr, eifeithio ar eu meddwl, felly y credwyf y m te gyda golwg ar bawb eraill. Preswylied y bardd mewn lie rhamantus, yn agos i'r rhaiadr a'r graig, y bryn a'r allt, a ehawn eu delwau yn ei waith, ond os mai gardd brydferth yw ei wlad, lie ni feiddia y nerthol a'r gwyllt ymddangos, ceir darlun yr ardd yn ei farddoniaetli; ae nis gall gwastadeddau llydain, afonydd mawrion y Gorllewin Iai nag effeithio ar feddwl a theimlad y trigol- ion. Medda y Cymry yma ryw fath o ryddid, na welir yn y Dwyrain. Nid rhyddid diddeddf yw, nid y rhyddid a bnodoIa rhai anwybodusion i'n gwlad, ond rhyddid i weithredu ar raddeg eang, rhydd- id i ymgynyg at bethau mawrion, rhyddid i edrych dros y terfynau, a damcanu gyda golwg ar yr hyn a all fod yn y wlad ddieithr hono. Medda y bobl yma lawer iawn o ysbryd rhyddfrydig, ac nid wyf yn camsynied pan yn dweyd fod y Cymry yn y Gorllewin yn llai opiniynog nag yn y Dwyrain. Gan eu bod yn wasgaredig, ni feddant y fath gyfleusderau i wasgu ar eraill eu meddyliau mawreddog hwy eu hunain, a'r canlynia 1 yw, y maent yn dra rhydd o'r elefyd marwol hwnw a flina ein cenedl mewn manau eraill, yr hwn a elwir CLICYDDIAETll. Rhag hwn gwared ni Ar- glwydd daionus. Credwyf er hyny. fod mwy o duedd yn mhobl y Gorllewin i grwydro nag sy'n nlirigolion y Dwyrain,— Ar y cyntaf daethant o'r Dwyrain, gan ddilyn seren anturiaeth, ond nid yw y seren yma yn un o'r ser sefydlog. Rhodd- odd y daith o'r Dwyrain awch iddynt ar deithio. Gwyr pawb fod trysor Capt. Kidd yn mhell yn y Gorllewin. Yn y pell Orllewin hefyd y mae maen yr athronydd. Clywais un yn dweyd unwaith mai prif gwestiwn y gwir lanci yn y gogoniant fydd hwn, "A oes yna le yil mhellach i'r gorllewin na hwn?" Lie y machludiad yw y Gorllewin, ac nid yw y gair ffarwel mor boenus yno ag yn y Dwyrain. Medda y rhan eang yma o'n gwlad ddyfodol teg a disglaer, ac nid oes ynwyf yr un amheu- aeth na wna y Cymry sydd wedi symud yno fendithio Duw am hyny. Paham yr arosant yn dyrfaoedd yn yr un lie, gan weithio deg diwrnod, a hyny yn unig mewn mis o amser, tra y mae lleoedd agored iddynt ddangos eu diwydrwydd am 365 o ddyddiau yn y flwyddyn. Nid wyf yn perthyn i'r bobl hyny a gredant fod y nef wen yn Patagonia, a'r baradwys well yn Kansas, neu y wynfa Ion yn California, eto credwyf y geill y Cymro synwyr-gall, diwyd a phwyllog, gael cartref ardderchog yn y Gorllewin. Mae cyflwr gwasgarog y Cymry yn y Gorllewin yn milwrio yn erwin yu erbyn cadwraeth yr iaith Gyniraeg. Nid yw yn bosibl casglu digon at eu gilydd i greu un- rhyw frwdfrydedd parhaus, canys erbyn y byddys wedi ymgorfloli yn gymdeithas, neu yn eglwys, bydd y dynion goreu wedi symud i le, fil o filldiroedd oddiyno, a'u lleoedd yn cael eu llenwi (?) gan Ellmyn- iaid a Gwyddelod. Ni wyr sefydliadau Cymreig Wisconsin a Minnesota ddim am hyn. Trwy ddylanwad lleuyddiaeth a chrefydd, gwaith digon hawdd yw flut,tio undeb rhwng holl Gymry y Gorllewin a phlant Gomer yn y Dwyrain, a byddai yn !)uri M peth i bobl gwlad machludiad haul I.>i\ ychydig o'u dynion mwyaf dy- i.i:iwad"! i Philadelphia erbyn dydd Dathl- i, tI Caiunlwyddiant y wIad gan y Cymry. Franklin, Pa. EDNYFED.

CREFYDDOL AC EGL WYSTG.

YMSON Y LODES D TVYLLEDI G.

[No title]

[No title]

HYNODION ST. HELENA.