Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
..----.--..---------AR DAITH…
AR DAITH 0 BERERINDOD. GAN Y PARCH. F. EVANS (EDNYFED.) Gelwid Evan Tyclai yn ddyn y tri rby- feddod. Cyn ei fod wedi teithio allan o olwg mwg simnai ei dy ei hun, arferai fyned i ben bryn cyfagos, o'r hwn y cawsai olwg lied gyflawn ar y wlad oddi- amgylch, a llenwid ef gan syndod gan eangder fawr y weledigaeth. Ond pan aeth ychydig bellach o gartref yn Llan- fynydd, Sir Gaerfyrddin, a phan y gwel. odd y Bristol Channel am y tro cyntaf, braidd y gallasai ddal y weledigaeth. Rhyfeddai at eangder y greadigaeth, fel y deuai i'r golwg oddiar ben y bryn, ac fel y teitliiai ychydig filldiroedd o Llanfynydd. Dyma y rliyfeddod cyntaf. Ei ail ryfeddod oedd hwn—un hynod naturiol er eanged oedd y byd, nad oedd cwys o hono yn ei feddiant ef. Gall Ilawer o honom uno gydag ef yn y syndod hwn. Ei drydydd rhyfeddod oedd hwn, er na feddai gwys o'r ddaear, ei fod mewn gwirionedd mor gyf- oethog a'r cyfoethocaf. Maddeuwch i mi am fyned ddau ryfeddod oddiwrth y testyn, wedi'r cwbl y rhyfeddod peiitf yw, fy mod yn dal cystal at y testyn. Cyrnwysaf y cyntaf at y Gorllev in, synir chwi at yr eangder diderfyn a ymleda o'ch blaen, ac nid yw y prairies eu hunain ond drysau llydain, trwy y rhai y telthia y werin yn orllewinol. Mae gan yr eangder hwn ddy- lanwad nerthol ar feddwl, calon, ar hyd yn oed corff y dyn. Ar wastadedd y Gorllew- in y mae llawer corif sigledig iawn i'w ganfod. Yn llythyrenol, y mae y ty o glai yn siglo ar ei seiliau. Dywed Solomon fod amser i alaru, amser i lawenhau; am- ser i ddawnsio, amser i wylo; amser i adeiladu, ac amser i dynu i lawr, ond nid wyf yn meddwl ei bod yn dweyd fod am- ser i siglo, oddigerth mai dyna ei feddwl pan y dywed, "ac amser i ddawns o Pan ger Carondolet, galwais i weled teulu caredig iawn o hen gymydogaeth fendigaid Penycae, lie yr oedd gair da i Emlyn enwog (a thra y cofiwyf, y mae darlun Emlyn i mi ar ol yr anfoner ef), a chefais bawb allan ond brawd y wraig liynaws, ac fel rheswm o'i arosiad yn y ty, dywedodd wrthyf mewn ton hynod grefyddol, "It is my day to shake" Gallwn feddwl fel y byddo adeiladau yn lluosogi, a tliiroedd yn cael eu gwrteithio, yr encilia yr ellyll a elwir YCRYDARYMWYTH o'r wlad ond nid er chwilio am leoedd sychion. Dyma un peth anymunol a berthyn i lawer o fanau yn y West, ond y mae hyn o gysur-y mae digon o le yno i drigolion yr Unol Dalaethau siglo. Nid oes mwy o siglo yno nag mewn rhyw le arall, oblegid fod llai o sylfaen danynt, canys y mae yn Missouri fynydd cyfan o haiarn. Credwyf fod gan yr eang- der mawr hwn ddylanwad nerthol ar feddyliau y bobl. Fel y gwna lie genedigol ac arosol y bardd a'r pregethwr, eifeithio ar eu meddwl, felly y credwyf y m te gyda golwg ar bawb eraill. Preswylied y bardd mewn lie rhamantus, yn agos i'r rhaiadr a'r graig, y bryn a'r allt, a ehawn eu delwau yn ei waith, ond os mai gardd brydferth yw ei wlad, lie ni feiddia y nerthol a'r gwyllt ymddangos, ceir darlun yr ardd yn ei farddoniaetli; ae nis gall gwastadeddau llydain, afonydd mawrion y Gorllewin Iai nag effeithio ar feddwl a theimlad y trigol- ion. Medda y Cymry yma ryw fath o ryddid, na welir yn y Dwyrain. Nid rhyddid diddeddf yw, nid y rhyddid a bnodoIa rhai anwybodusion i'n gwlad, ond rhyddid i weithredu ar raddeg eang, rhydd- id i ymgynyg at bethau mawrion, rhyddid i edrych dros y terfynau, a damcanu gyda golwg ar yr hyn a all fod yn y wlad ddieithr hono. Medda y bobl yma lawer iawn o ysbryd rhyddfrydig, ac nid wyf yn camsynied pan yn dweyd fod y Cymry yn y Gorllewin yn llai opiniynog nag yn y Dwyrain. Gan eu bod yn wasgaredig, ni feddant y fath gyfleusderau i wasgu ar eraill eu meddyliau mawreddog hwy eu hunain, a'r canlynia 1 yw, y maent yn dra rhydd o'r elefyd marwol hwnw a flina ein cenedl mewn manau eraill, yr hwn a elwir CLICYDDIAETll. Rhag hwn gwared ni Ar- glwydd daionus. Credwyf er hyny. fod mwy o duedd yn mhobl y Gorllewin i grwydro nag sy'n nlirigolion y Dwyrain,— Ar y cyntaf daethant o'r Dwyrain, gan ddilyn seren anturiaeth, ond nid yw y seren yma yn un o'r ser sefydlog. Rhodd- odd y daith o'r Dwyrain awch iddynt ar deithio. Gwyr pawb fod trysor Capt. Kidd yn mhell yn y Gorllewin. Yn y pell Orllewin hefyd y mae maen yr athronydd. Clywais un yn dweyd unwaith mai prif gwestiwn y gwir lanci yn y gogoniant fydd hwn, "A oes yna le yil mhellach i'r gorllewin na hwn?" Lie y machludiad yw y Gorllewin, ac nid yw y gair ffarwel mor boenus yno ag yn y Dwyrain. Medda y rhan eang yma o'n gwlad ddyfodol teg a disglaer, ac nid oes ynwyf yr un amheu- aeth na wna y Cymry sydd wedi symud yno fendithio Duw am hyny. Paham yr arosant yn dyrfaoedd yn yr un lie, gan weithio deg diwrnod, a hyny yn unig mewn mis o amser, tra y mae lleoedd agored iddynt ddangos eu diwydrwydd am 365 o ddyddiau yn y flwyddyn. Nid wyf yn perthyn i'r bobl hyny a gredant fod y nef wen yn Patagonia, a'r baradwys well yn Kansas, neu y wynfa Ion yn California, eto credwyf y geill y Cymro synwyr-gall, diwyd a phwyllog, gael cartref ardderchog yn y Gorllewin. Mae cyflwr gwasgarog y Cymry yn y Gorllewin yn milwrio yn erwin yu erbyn cadwraeth yr iaith Gyniraeg. Nid yw yn bosibl casglu digon at eu gilydd i greu un- rhyw frwdfrydedd parhaus, canys erbyn y byddys wedi ymgorfloli yn gymdeithas, neu yn eglwys, bydd y dynion goreu wedi symud i le, fil o filldiroedd oddiyno, a'u lleoedd yn cael eu llenwi (?) gan Ellmyn- iaid a Gwyddelod. Ni wyr sefydliadau Cymreig Wisconsin a Minnesota ddim am hyn. Trwy ddylanwad lleuyddiaeth a chrefydd, gwaith digon hawdd yw flut,tio undeb rhwng holl Gymry y Gorllewin a phlant Gomer yn y Dwyrain, a byddai yn !)uri M peth i bobl gwlad machludiad haul I.>i\ ychydig o'u dynion mwyaf dy- i.i:iwad"! i Philadelphia erbyn dydd Dathl- i, tI Caiunlwyddiant y wIad gan y Cymry. Franklin, Pa. EDNYFED.
CREFYDDOL AC EGL WYSTG.
CREFYDDOL AC EGL WYSTG. BETH sy'n cyfansoddi Eglwys? Dyma atebiad Eben Fardd: Nid henafiaeth a wna eglwys; Nagc1 'r eglwys ddeng mlwydd oed Oedd y lanaf, oedd y symlaf, Oedd y ryddaf fu evioed; Nid ei hundeb a'r wladwriaeth Sydd yn rhoi ei gras a'i grym, Cyn yr undeb, eariai'n wa-tad Ddawn dylanwad hynod lyua. Nid cynysgacth a wna eglwys, Nid rhyw fyw ar bwys y byd, Pan oedd dlotaf y bu gryfaf A rhagoraf oil i gyd; "Dau neu lid yn uydymgynnll Yn enw Iesn," ac o'i dn, Yntau 'i hunan yn y canol- Dyna eglwys gymhwys gu. ALLAN o 400 o gyhoeddiadau crefyddol ddygir allan yn y Talaethau Unedig, perth- vna 47 i'r Methodistiaid Wesleyaidd, 41 i'r Pabyddion, 35 i'r Bedyddwyr, 29 i'r Pres- byteriaid, a 9 i'r luddewon. MAE y Cenadon yn Canton, China, wedi cynyg pedair gwobr yn ddiweddar am y traethodau goreu ar bwysigrwydd y Gref- ydd Gristionogol, fel moddion i ddyrchafu moesau y Chineaid. Dywedir fod lluaws o Chineaid brodorol wedi cyrneryd rhan yn y gystadleuaeth, a derbyniwyd dwy a deug- ain o lawysgrifau. MEWN cyfarfod perthynol i eglwys Lloegr a gynaliwyd yn Liangamarch, D. C. y dydd o'r blaen, wrth drin adran y person- oliaeth, adroddodd y pregethwr ddau eng- lyn a wnaed rhyw haner canrif yn ol mewn dadl garedig ar berson Crist rhwng dau fardd yn Llanwenog. Dywedai yr Un- dodwr: Undod, nid Trindod yw'r Un-Duw-a ddeil Addolwyr y gwir-Dduw; Dwl tra-dall sydd'n dal Tri-Duw, Myn y Doeth mai un yw Duw." Pr hyn yr atebodd y Trindodwr— Trindod mewn Undod yw'r TJii-Daw-a ddeil Addolwyr y gwir-Dduw; Dwl tra-dall sy'n cial Tri-Duw, Trinia y Doeth y tri'n un Duw." DYWEDODD Moody mewn pregeth yn ddi- weddar yr hyn a ganlyn yn nghylch bed- ydd, "Pe tybiaswn mai bedydd ydoedcl tfordd Duw i achub dynion, rhoddwn i fyny bregethu, benthyciwn lestr, ac awn o amgylch yr ystrydoedd, gan fedyddio pawb ddeuai i'm cyfarfod; a phe byddent hwy yn anfoddlawn, ceisiwn hwy pan yn cysgu, a b'edyddiwn hwy unrhyw flfordd." Ai nid yw iaith fel hon braidd yn auheil- wng o urddas y pwlpud? CYFHIFXR fod 1,762 o offeiriad Pabaidd yn Lloegr a L hymru. Nid yw y rhai hyn yn cynwys y Jesuitiaid, y rhai sydd yn llu- osog iawn. Mae 50 o Babyddion yn aelod- au o'r Parliament, 35 yn Bendefigion Pab- aidd, ac yn y Cyfrin Gyngor y mae saith yn Babyddion, tra y mae 47 o Farwniaid Pabaidd. BUTTERNUT VALLEY, MINN. -Ar ddydd Nadolig, cynaliodd y Blue Earth County Welsh Bible Society ei chyfarfod blynydd- ol, a chafwyd areithiau grymus ar yr am- gylchiad. Penderfynodd Pwyllgor y*Gym- deithas Feiblaidd gynal cyfarfod llenydd- ol yn yr hwyr. Cafwyd areithiau da a chanu campus. Ni flinaf chwi ag enwau neb, ac os oes rhyw rai yn hoffl darllen enwau, y mae cyntaf Cronicl a'r penodau cyntaf yn barod at chwaeth y cyfryw rai. Ardal Bethel.— Mae yma gymdeithas len- yddol wedi ei ffurfio, a llawer yn dwyn cryn sel drosti. Pwnc dadleuol y cyfarfod nesaf fydd, na ddylid darllen y Beibl yn yr ys- golion dyddiol. Dygir cryn sel dros y ddwy ochr.E. J. Evans.. BALA, RILEY Co., KAs.-Mae genyf i d gydnabod drwy eich colofnau dderbyniad y swm o $40.60 oddiwrth gasgliadau yn yr eglwysi canlynol yn Nosbarth Jackson (T. C.) Ohio, er cynorthwyo eglwys y Trefn- yddion Calfinaidd yn Bala, Kansas, i dalu ei dyled: Moriah, 8.00; Bethel, 9.79; Beth- ania, 2.40; Bethesda, 2.'0; Salem; 2.05; Soar, 7.10; Pomeroy, 3.00; Horeb, 6.26.— Gyda diolch yn enw yr eglwys am gyd- weithrediad ein brodyr yn yr eglwysi uchod. Ydwyf yr eiddoch-Trysorydd. COLLINSVILLE, N. Y.-Sefydlu Gwemid- og. -Mae yn hysbys i darllenwyryDRYCII 1>1' ys tro bellach fod eglwysi y Methodist- iaid Calfinaidd yn Sir Lewis wedi sicrhau gwasanaeth y Parch. James Jarrett, gynt o Utica, fel eu gweinidog. Dechreuo td ar ei weinidogaeth yn ein plith er y Sab- both cyntaf o'r flwyddyn. Hyderwn na cha un achos edifavhau o herwy d iddo ymwrandaw a'n gwahoddiad; ond y bydd i ni werthfawrogi ei weinidogaeth nerthol a choethedig, ac y bydd yn foddion i ar- gyhoed'ti lluaws o Gymry yr ardaloedd hyn. Er nad peth newydd yw y weinidog- aeth sefydlog yn eglwysi Sir Lewis, yr oedd cyfarfod cvhoeddus i sefydlu gwein- idog yn beth hoilol newydd i ni hyd y tro presenol. Tued ud ni i gael y fath gyfar- fod mewn canlyniad i'r awgrym o gwrdd dosbarth Penygraig, a thybiwyf erbyn hyn mai teimlad unfrydol yr ardalwyr ydyw mai da iddynt oedd bod ynddo.. Cynaliwyd ef ddydd lau, y 14eg cynsol, am 12eg o'r gloch. Dechreuwyd y cyfar- fod gan y Parch. Ebenezer T. Jones, Pain- field. Dewiswyd yn llywydd yr henafgwr a'r diacon parchus, Mr. Evan Evans, Constableville, yr hwn yn ei ddull gwreidd- iol ei hun, a roddodd fraslun o hanes yr achos Methodistai :d yn y gymydogaeth, o ldiar ei sefy^liad hyd yr amser presenol. Yna, wedi canu emyn, galwodd y llyw- ydd ar y Parch. Lewis Williams, (P..) Lyons Falls, i draddodi ei siars i'r gweinidog. Yr oedd y cyngor drwyddo vn syml, difrifol a thra priodol, ac yn seil- iedig ar 1 Tim. 4. 16. Yna galwyd ar y Parch. Eben. T. Jones i draddodi ei siars i'r eghvysi, yr hyn a wnaeth yn hapus a doniol dros ben. Credwn fod ei sylwadau priod I wedi gadael argraff ar deimladau y dorf, nad anghofir mo honynt yn fuan. Cafwyd wedi hyny sylwadau gwerthfawr a phwrpasol gan y Parch. T. M. Griffiths (A ,) Turin, seiliedigar Dat. 2. 10. "Bydd ifyddfon hydangau," &c. Yna galwyd ar y Parch. James Jarrett i ddywe yd ychyd- ig eiriau, yr hwn a wnaeth ychydig syl wad- au ar y mod y tueddwyd ei feddwl i ym wrandaw a galwad yr egl wysi ydynt yn awr dan ei ofal. Ar awgrym Mr. jarrett, galwodd y llywydd ar Mr. Robert E. Roberts, un o flaenoriaid ffyddlonaf eg- lwys flaenorol Mr. Jarrett, yr hwn a wnaeth a^ercliiad byr yn ei ddull syml arferol, ond gyda the mlad anarferol, yr hwn a gynyrchodd deimladau cyfateboi yn mynwesau pawb oedd yn ei wrandaw. Gollyngwyd y gynulleidfa gan y Parch. J. Jarrett. Cafwyd pregeth ragorol yn yr hwyr gan y Parch. E. T. Jones. Yr oedd y cynulliadau ar y naill achlysur a'r llall yn lluosog iawn —D. R. ADFYWIAD CREFYDDOL YN FLOYD, N. Y. —Yn ystod yr wythnos ddiweddaf cefais y fraint a'r pleser o dreulio yn agos i ddeu- ddydd gyda'r caredig gyfeillion Cymreig yn Floyd. Mae y ddwy eglwys yn nghan ol diwjgiad crefyd(lol na welwyd ei ail o'r blaen yn yr ardal. Mae wedi dechreu er's amryw wythnosau, ac mae y dyddor- deb ysbrydol ar gynydd. Dechreuoda y gwaith mewn ardal ger llaw, mewn ysgol- dy bychan yn mhlith y Saeson; oud erhyn hyn mae y tan nefol yn llosgi trwy yr holl ardal, a'r brodyr a'r chwiorydd oil o'r bron "yn wresog yn yr Ysbryd yn gwasanaethu yr Arglwydd." Hoff oedd gweled y capel- ydd yn llawnion mewn cyrddau gweddi am I ZD haner awr wedi un o'r gloch yn y pryd nawn, ac yn orlawn yn yr hwyr i wrandaw ar genadwri'r groes. Ymdrechais trwy gymorth gras i bregethu yn yr hen iaith yn nghapel yr Annibynwyr ar nos lau, ac yn nghapel y Trefnyddion Calfinaidd ar nos Wener. CredwTyf fod yr Arglwydd yn ein plith yn teyrnasu yn ei ras, ac y gwelir hyn yn f-wy amlwg yn y dydd a ddaw, "pan ymddengus Crist ein bywyd ni." \1 ae nifer mawr eisoes wedi ymuno a'r ddwy eglwys, a chlywir swn tyrfa yn dyfod. "Plant afradlon sy'n dod adref, A fu'n mhell o dir eu gwlad." Mae y Parch. Mr. Griffiths wrthi hi yn barhaus, "mown amser ac allan o amser." Er fod gan y Trefnyddion bregethu rheol- aidd, nid oes gand iynt weinidog yn car- trefu yn eu plith. Mae hyn yn anfantais i !dynt"hwy, ac yn gwneyd llafur Mr. Grif- fiths yn drymach. Ond mae y gwaith yn myned rhagddo, ac i Dduw y byddo yr holl ogoniant! Cefais brawf ychwanegol o garedigrwydd pobl Floyd. Nid oe idwn yu alluog j alw ond mewn ychydig o aneddau, ond gallwn yn hawdd ddarllen croesaw yn eu gwyneb- au. Ni chefais, fawr o gysgu tra yn eu plith. Yr oedd y cwmni mor ddifyrus yn "Bryn y Gloch," ac yn nhy William Jones "y canwr," fel nad oedd modd myned i orwedd cyn haner nos. Derbynied y ddau frawd caredig, Thorn as a Benjamin Jones, o Lee (meibion Joseph) fy ngwir ddiolcligarwch am eu caredigrwydd yn fy nghludo yn ddidraul o'm cartref ac yn til. ERASMUS W. JONES. Lee Centre, N. Y., Ion. 11, 1876.
YMSON Y LODES D TVYLLEDI G.
YMSON Y LODES D TVYLLEDI G. [Er gwneyd y testyn yn fwy barddonol, tybir fod y gwrthrych o addysg uchel a haniad anrh' deddus. Os cedwir hyn mewn golwg, fe allai, Had yw yr iaith yn rhygoeth, na'r syniadau yn rhy hedegog ac ath- rony dol.] Och I yma yn y tloty gwelir fi, Mewn neillduolrwydd cas., yn byw ar draul Y plwyf yn mhlith yr anffodusion hyn, Y rhai ni feddant fawr o serch y naill Tuag at y llall, na dim tuag ataf fi. Gwael yw'r ymborth, a thlodaidd yw y wisg; Oud llawer tlotach yw y gricin hon, Na wyr am ddim ond truenusrwydd dwys. Paham y daethym i'r fath le a hwn? Y baban bach a wena ar fy mron A etyb hyn, ffrwyth anghyfreithlon eerch. Rhag tadol wg, a rhng crenlonach wg Y byd y ciliais. (Fy anwyl fam, I anamserol fedd disgynodd hi, Rhag llidiog ur a gwarth ei hunig ferch.) Mae syniad afiach yn y byd am hyn, Y Ilances fiyddio ffolog ydyw hi; Y llanc twyllodrus, gwron ydyw ef. Os hudir merch rhaid hefyd ei chaeau, A goaod ant n6d rhag cyflwrdd neb A ni. Trwy gymod bacu dianga ef, A heb y nOd osodwyd gynt ar Cain. Cwymp Lucifer, mab y wawrddydd, yw cwymp Y fenyw deg a fedda radd a bri, Sef cwymp o uchelderau urddas gwych Lawr i ddyfnderoedd isaf gwarth a gwae, o uchelderau diniweidrwydd pur Lawr i waelodion is halogrwydd brwnt. Anadferadwy yw ei chodwm hi, Mor 13n yw llanc, mor aflan ydyw merch I Y cyfnewidiad tra disymwth hwn, O'r palas marmor fewn i'r muriau hyn, O'r sidan main i'r sachlen arw hon, 0 sylw byd i esgeulusdod llwyr, Sydd eto addysgiadol im', ac yn Anogaethol i ddiolchgarwch dwys; Os wyf heb dad, mae genyf nefol Dad, Heb wrthrych hoff, mae genyf Iesu Grist, Y Cywir hwnw na chyflawna gam, A'r Diddrwg nad oes yn ei enau dwyll. I bechaduriaid cyfaill ydoedd gynt, I bechaduriaid cyfaill yw yn awr, A chyfaiil yw i mi, ac arno ef Gorphwysaf fel ar sail na siglir byth. Gan rag] iiiiiaetb dadleuir ddrwga da, Y da sydd oil o Dduw, a'r drwjr sydd oil o ddyn. Y brofedigaeth chwerw hon, I lodes deg y chwerwaf dan yr haul, A drefnwyd er fy lies, cymeiliad cryf I wadu byd a throi i'w ganlyn ef. Rhagrithiol fyd heb fod yn bur ei hun A ofyn burdeb Ilawn, y grasol Dad, Santeidflrwydd oil, a edrych ar y gwael, Sef ar un halogedig fel myfl. Caseion byd ynt. ei anwyliaid ef, Ysgubion byd ei etholedig rai I 0'1 fawr dyiierwch Duw a'm cadwodd i Rhag < fid mwy, rhag dau eithafnod hyll, Rhag rhuthro yn rhyfygusger ei fron, Rhag suddo'n is i lygredigaeth gwaeth. Rosenddle, Wis. JOHN EDWARDS. i
[No title]
SHENANDOAH, PA. -Iforiaea-Ar yr 20fed o Ragfyr diweddaf corffolwyd Cyfrinfa o Wir Iforiaid yma, dan yr enw Llanerch yr Ewig. Dywedai swyddogion yr adran na ddarfu iddynt gortioli. yr un Gyfrinfa mor llewyrchus ar ei dechreuad o'r blaen yn yr adran. Mae yma faes am gyfrinfa Iforaidd o'r radd fiaenaf, a chredwyf y bydd Llan- erch yr Ewig, yn mhen ychydig amser, yn tra rhagori mewn rhif aelodau a choethder chwaeth, ar y rhan luosocaf o'i cawiorydd cymydogaethol. Ilefyd, y mae yn resyn gorfod dweyd, nad yw hwn heb ei wrth- wynebwyr mwy na rhyw fudiad newydd arall; ond, bydded i'r brodyr feddu pen- derfyniad unfrydol, a buan y bydd i egwyddorion Iforiaeth orchfygu eu holl wrthwynebwyr, neu ynte eu gadael mewn gwarth a cliywilydd.Ifor.
[No title]
—Dywedir mai un St. Myllin, yr hwn oedd yn oesi yn rhywle o 664 i 700 O. C., ydoedd y Bedyddiwr cyntaf drwy drochiad yn Mrydain. —Aeth Sion Cawrdaf un tro i'r swyddfa argraffu yn Mliwllheli, ac anogwyd ef gan y cysodwyr i wneyd englyn i'r argraff- wasg. Ar 01 taro ei droed dwywaitli neu dair yn y llawr, a tlixoi gwyn ei lygad gynifer a hyny o weithiau tua'r nenfwd, a charthu y corn aiiiryw droion, er gwneyd lie i'r englyn ddyfod i'r byd, efe a ddy- wedodd: I Sion, llawn digon o dasg-deongli Da englyn argraff wasg; D'wedwch, mae'n fwy na dwy-dasg, I haner pen, o hyn i'r Pasg. —Pan y gwnaed cyfraith yn nlieyrnasiad Elizabeth, yn gorchymyn yr holl bobl i fyned i'r eglwysi, anfonodd y Pabyddion i Rufain i gael barn eu Sancteiddrwydd. Dychwelodd fel atebiad, "Dywedwch wrth y Pabyddion yn Lloegr am roddi eu calon- au i ni, a gall y freninesgaely gweddill." —Yr oedd yn rhaid fod yr hen brydydd a ganodd y.wele*ligaeth hon yn eistedd er gorn y lleuad, neu rywle cytfelyb: Mi welrtf Ynys Dwlwg, Mi wela.'r moryn amlwg, Mi wela'r Betws Fach Sir Gaer, .A- pheiille'r Gaer Alorg,,inwg. -Gofviiivyd unwaith i athronydd Pers- aidd, pa fodd y daethai i feddu cymaint o wybodaeth? Atebodd, "Trwy beidio bod arnnf gywilydd gofyn cwestiynau lie yr oeddwn yn anwybodus." —"Y Deigryn," g in R Erfyl: Ar y rudd delw prudd-der-y galon Yw'r gwyl ddeigryn tyner; Dystaw gyhoedda'i dwysder Wrth fyd yn ei araeth fer. —Dywedir fod y gemau a wisgid gan Gutcower ieuanc Baroda; India, ar laniad Tywysog Cymru yno, yn werth £ 2,000,000. Yr arddangosiad penaf oedd pluen y ddiamwnt yn ei "durban," a sypyn o berlau wedi eu hymylu ag aur. Gwisgai hefyd y diamwnt ardderchog Seren India, pwrcasiad pa un fu agos a thori trysorfa Baroda. —"Ni ddywedaf pwy yw'm cariad," medd MAGGIE: O! peidiwch a chyffwrdd a thanau fy nelyn Ma'ch dwylaw yn drymion ar linyn fy mron, Mae'n gofyn un cywrain i redeg ei fysedd I dynu'r alawon serch liudol sy'n hon; Nid golud, na thalent, na dysg, nasefyllfa, Yw amod derbyniad i gariad un ferch— Cynyddayn nhyfiant yr enaid nes dropio- Gan hwn mae'r agoriad i 'stafell y serch. Os darfu yr haf a gwywo o'r blodau, Os distaw yr adar ar gangau y coed, Os trist ydyw anian ar wyneb y ddaear, Blaguro mae'm cariad faint bynag fy oed; Os ydych eich dau'n ymwirioni am danaf, Nis goddef cyd wybod i'm gael ond yr un, A hwnw a garaf mor anwyl a'm calon, Nis dywedaf pwyydyw'r anwylyd eihun. —Can mlynedd yn ol, nid oedd yn ninas New York ond pedwar o newyddiaduron, ac mor ychydig oedd y gefnogaeth a roddid iddynt, fel y bu dau farw o fewn dwy flynedd.. —A ganlyn sydd restr o'r personau hynaf ag y mae genym hanes am danynt yn y cyfnod Cristionogol: Appollonius of Tyana A.D. 99 yn 130 St. Patrick 491 120 Atilla 500 124 Llywarch Hen 500 150 St. CoemgeDe 618 120 Plastus, King of Polanda.. 861" 120 Thomas Parr 1635 152 Henry Jenkins. "1670 169 Countess of Desmond. "1658 154 Thomas Damme. "1658 154 Peter Torton 11 1724 185 Margaret Putton 1735 135 John Irvin a'i wraig. 1741 164 St. Monagh a Kentigen. "1781 185 —Dichon y gall rhai o'n gohebwyr roddi ateb i'r gofynia'i canlynol a welsom, mewn newyddiadur yn ddiweddar, sef "Beth sydd yn dyfod o weddillion y miloedd adar ydynt, o angenrheidrwydd, yn trengu yn fiynyddol oddiwrth wahanol achosion?" Deuir yn ami o hyd i gyrff adar a gawsant eu &aethu yn farwol, ond credwn mai digwyddiad anfynych yw cael gafael ar gorff aderyn wedi trengu oddiwrth achos naturiol. -Englynion i "Gwmpawd y Morwr," gan Morgrugyn Callestr: Mynegydd, hwylydd, uwch beli—i'r dya Ar daith dros y weilgi; Mor hynod mae'n dynodi, Siwrnai llong uwch sarn y lli'. I'r morwr ar y dwr dig-ewynog, A'i waeau uchelfrig, Heb baid, y cwmpawd a'i big Guriadol, sy'n garedig. Er t'w'llwch o'r tu alian-dyrys niwl Dros y nen yn gyfan; Y cwmpawd yn ei rawd wna'i ran,. A gwena, er gwg anian. —Y mae y Roman Citizen, y Buffalo Commercial, Buffalo Express, Elmira Ad- vertiser, Rochester Express, Troy Times, New York Commercial, a phapyrau eraill wedi cyhoe idi eu bunain yn bleidiol i Conkling fel ymgeisydd am yr Arlywydd- iaeth. —Liinellau a gyfansoddodd "Yr Hen Sion," Fairhaven, ar ol darllen yn y DRYCH hanes Cynonfardd a Quincy Wil- liams yn cael eu gorfodi i aros yn yr orsaf yn Schenectady am bum awr: Old Schenectady with its disconnection, You have broke the laws and constitution, By|keepingQuincy Williams and bardCynon Stored away in a Railroad Station. Because they were wanted to serve their na- tion, [tion And some cheaper stuff would fill the Sta- For all men of brains would arrange con- nection, And give extra trains for Quin and Cynon. But when I am travelling through the coun- try, Trains in the stations always ready, The old iron horses puffing and snorting, Whistling old Sion we wont keep you wait- ing.
HYNODION ST. HELENA.
reu ysgol Jacob; yr oedd hwnw wedi bod yn llygad-dyst o'r cyfan, yn gweithio yn Longwood pan oedd Napoleon yno. Clyw- oais betbau nad ydynt i'w gweled yn '■'Me- moirs Las Casas," pethau teilwngo sylwac ,tdt-nylgedd holl ddarllenwyr y DRYCH; ond i fod yn drefnus, dechreuwn gyda hanes yr alltudiad. Yn ngwyneb sefyllfa pethau yn Ffrainc, tua mis wedi brwydr Waterloo, pender. fynodd Bonaparte fyned i fyw i Loegr am -dymor, a rhoddi ei bun dan nawdd ac am- ddiffyniad baner a chyfreithiau sefydlog y '.Saeson, fel unrhyw dramor-ddyn araH. Cafodd ef a Count Las Casas, a'r ychydig gyfeillion eraill oedd yn ei ganlyn rciesaw- iad cynes gan Cadben Maitland ar fwrdd y Hong Seisnig Be-Vernphon, yr hon a'i clud- odd i Loegr. Wedi i'r llong gyraedd Ply- mouth, ac i'r arglvvyddi glywed fod yr Ymerawdwr ar ei bwrdd, penderfynasant ymddwyn tuag ato yn groes i'r cyfansodd- iad a'r cyfreithiau Prydeinig; ac yn hyt- rach na gadael iddo lanio, anfonasant gen- adwri ato i fwrdd y llestr, yn ei hysbysu nad oedd caniatad iddo lanio, ond ei fod i gael ei alltudio am ei oes i St. Helena.— "Ymwelydd a Lloegr wyf ft, ac nid ei charcharor,"ebe'r Ymerawdwr. "Daethum drosodd yn wirfoddol i roddi fy hun dan amddiffyniad cyfreithiau Prydain; ac os ydyw y llywodraeth yn fy alltudio, mae yn tori ei chvfreithiau ei hun, a cbyfreithiau cyd-genedlaethol, ac yn gomedd rhoddi nodded i un digymorth. Yr wyf yn gwrth- dystio yn erbyn y fath weithred farbar- aidd, ac yn apelio at honor y Saeson." Ond ofer oedd disgwyl "honor" oddiwrth y fath goegiaid ffroen uchel. Ni thyfodd afalau erioed ar ysgall, ac nid oedd i'w ddisgwyl oddiwrth asyn ond cic y pryd hwnw, fel yn yr oes ffug-oleuedig hon. Dangosodd blaenoriaid y Saeson yr un faint o "honor" -at yr Ymerawdwr ag a ddangoswyd gan- ddynt at y Cymry ar forfa Rhuddlan, a gwastadedd Caersallog, llebu "brad y cyll- ill hirion." Daeth cenadwri arall i fwrdd y Bellerc- phon, yn hysbysu fod yr arglwyddi yn pry- sur gasglu Ilynges i drosglwyddo yr Ymer- awdwr i'w alltudio, a'i wylio yno. Pan glywodd Napoleon hyn, aeth i'w gaban at Las Casas, a gofynai, "Pa fath le yw St. Helena? A ydyw yn bosibl i mi fyw yno? Mae yn amlwg fod fy nhynged wedi ei sel- io. Ond atolwg, a ydyw dyn i barhau yn ymddibynol ar eraill, os bydd yn dewis i'r cyfryw ymddibyniaeth ddarfod? Yn hyt- rach na myned yn garcharor i St. Helena, byddai yn well genyf roddi terfyn ar fy hoedl. Prin y credaf y gwna y Duw holl -drugarog ddamnio dyn am y cyfryw weith. red dan y fath amgylchiadau a hyn; ni fyddai y cyfan ond dymuniad i fyned ato yn gynt." Las Casas, gyda theimladau drylliog, a'i hatebai, Nid oes i leiddiad dyn fywyd tragwyddol; ond y mae i groes- au a dyfalwch a dioddefgarwch amynedd- gar eu gogoniant. Beth ddaw o'r cyfryw ydynt wedi rhoddi eu gobaith a'u hymddir- ied ynoch? Pwy fedr esbonio dirgelion amser, neu sicrhau beth a ddigwydd yn y dyfodol tywyll?" "Mae eich ymresym- iadau yn dda," ebe'r Ymerawdwr, "ond atolwg, beth a wnawn yn y fath le anghys- bell?" "Gallwn fyw ar y gorphenol," ebe Las Casas; "y mae digon o hono i'n bodd- loni; onid ydym ni yn mwynhau bywyd Cresar ac Alexander?" "Felly y byddo hi," ebe yr Ymerawdwr, fe ysgrifenwn ein cof-lyfrau. Bydd yn rhaid i ni wneyd rhywbeth, oblegid gwaith yw pladur am. ser. Credwyf y dylai dyn wynebu ac ym- ladd yn ddewr yn erbyn pob rhwystrau a ddichon ei gyfarfod yn y fuchedd bresen- oL" Yr oedd wedi dyfod ato ei hun; ac er cymaint o brofedigaethau a gafodd wedi hyny, ni feddyliodd byth am gyflawni hun- an-laddiad. Yn y cyfamser, gwnaed ymdrechion clodfawr gan y werin Seisnig i atal amcan- ion yr arglwyddi. Cynaliwyd cyfarfodydd lluosog yn rhai o brif drefydd y wlad, yn y rhai y barnai y bobl nad oedd yr arglwyddi yn gwneyd yn iawn, ac y dylasent dderbyri Napoleon o dan amddiffyniad y gyfraith. Ond i atal y fath ymdrechion o eiddo y werin, gorchymynodd yr arglwyddi i'r Bellerophon hwylio allan o Plymouth, ac angori y tu allan i Start Point, ar y cefnfor agored, hyd nes y deuai y gadlong North- umberland i gymeryd yr alltudiaid i'w bwrdd. Daeth y gadlong yn fuan, yn cael ei dilyn gan amryw gadlongau eraill-oll yn llawn o filwyr, dan lywyddiaeth y Llyngeswr .Syr G. Cockburn, yr hwn a hysbysodd yr Ymerawdwr ei fod i gael ei drosglwyddo i'r Northumberland, yr hon oedd i'w gludo i St. Helena; ac fod yr ar- glwyddi yn caniatau i'r fintai oedd wedi ei ganlyn o Ffrainc fyned gydag ef, os oedd- ynt yn dewis, sef y Cadfridogion Bertrand a Gourgard, Count Montholon a'r cyfaill mynwesol Count Las Casas, yn nghyd a'u teuluoedd a'u gweision, oil yn rhifo 24 o eneidiau, ac aethant gyda'r Ymerawdwr I .I wr oil, yn nghyd a Dr. O'Mera, boneddwr Gwyddelig, a meddyg y Belleorphon; aeth ef yn wirfoddol i wasanaethu y fyddin fel .meddyg. Yr oedd gorchymyn arall oddiwrth y Llywodraeth, sef fod yr Ymerawdwr o ,-hyny allan i'w adnabod wrth y teitl insult- aidd o General Bonaparte, ac y buasai un. rhyw Sais a fuasai yn ei gydnabod neu ei ,alw yn Ymerawdwr i gael ei grogi wrth I drawslath (yard arm). Bu Syr G. Cock- burn mor ddigywilydd ag archwilio blych- au yr Ymerawdwr, a chymerodd bob sent a feddai, sef tua $20,000 mewn aur, a rhoddodd hwynt i'r Cadben Maitland i'w rhoddi i'r argJwyddi i'w gwario yn Llun- dain. Ar y 9fed o Awst, 1815, hwyliodd y Cad- lestri am St. Helena, buont 67 o ddyddiau ar y daith. Mae y pellder tua 6000 o fill- tiroedd. Felyr hwyliai y Northumberland allan o'r Culfor Seisnig, ymddangosodd tir Ffrainc iddynt am foment rhwng y cyrnyl- au yn y pellder. Ffrainc, Ffrainc'" bloeddiai Las Casas. Yr oedd yr Ymer- awdwr ar y pryd yn cerdded mewn dwys fyfyrdod ar y dec. Safodd, a phan welodd arfordir ei anwyl wlad enedigol bron dif- lanu o'i olwg am byth yn y gorwel dwy- reiniol, fe'i gorchfygwyd gan ei deimladau —wylodd yn chwerw,a wylodd hollswydd- ogion y llong wrth ei weled. Yn mhen ychydig, llefodd yr Ymerawdwr allan, "O! Ffrainc! gwlad y gwroniaid, yr wyf yn dy longyfarch am y tro olaf. Ffarwel, Ffrainc! Ffarwel, Ffrainc!"