Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

..----.--..---------AR DAITH…

CREFYDDOL AC EGL WYSTG.

News
Cite
Share

CREFYDDOL AC EGL WYSTG. BETH sy'n cyfansoddi Eglwys? Dyma atebiad Eben Fardd: Nid henafiaeth a wna eglwys; Nagc1 'r eglwys ddeng mlwydd oed Oedd y lanaf, oedd y symlaf, Oedd y ryddaf fu evioed; Nid ei hundeb a'r wladwriaeth Sydd yn rhoi ei gras a'i grym, Cyn yr undeb, eariai'n wa-tad Ddawn dylanwad hynod lyua. Nid cynysgacth a wna eglwys, Nid rhyw fyw ar bwys y byd, Pan oedd dlotaf y bu gryfaf A rhagoraf oil i gyd; "Dau neu lid yn uydymgynnll Yn enw Iesn," ac o'i dn, Yntau 'i hunan yn y canol- Dyna eglwys gymhwys gu. ALLAN o 400 o gyhoeddiadau crefyddol ddygir allan yn y Talaethau Unedig, perth- vna 47 i'r Methodistiaid Wesleyaidd, 41 i'r Pabyddion, 35 i'r Bedyddwyr, 29 i'r Pres- byteriaid, a 9 i'r luddewon. MAE y Cenadon yn Canton, China, wedi cynyg pedair gwobr yn ddiweddar am y traethodau goreu ar bwysigrwydd y Gref- ydd Gristionogol, fel moddion i ddyrchafu moesau y Chineaid. Dywedir fod lluaws o Chineaid brodorol wedi cyrneryd rhan yn y gystadleuaeth, a derbyniwyd dwy a deug- ain o lawysgrifau. MEWN cyfarfod perthynol i eglwys Lloegr a gynaliwyd yn Liangamarch, D. C. y dydd o'r blaen, wrth drin adran y person- oliaeth, adroddodd y pregethwr ddau eng- lyn a wnaed rhyw haner canrif yn ol mewn dadl garedig ar berson Crist rhwng dau fardd yn Llanwenog. Dywedai yr Un- dodwr: Undod, nid Trindod yw'r Un-Duw-a ddeil Addolwyr y gwir-Dduw; Dwl tra-dall sydd'n dal Tri-Duw, Myn y Doeth mai un yw Duw." Pr hyn yr atebodd y Trindodwr— Trindod mewn Undod yw'r TJii-Daw-a ddeil Addolwyr y gwir-Dduw; Dwl tra-dall sy'n cial Tri-Duw, Trinia y Doeth y tri'n un Duw." DYWEDODD Moody mewn pregeth yn ddi- weddar yr hyn a ganlyn yn nghylch bed- ydd, "Pe tybiaswn mai bedydd ydoedcl tfordd Duw i achub dynion, rhoddwn i fyny bregethu, benthyciwn lestr, ac awn o amgylch yr ystrydoedd, gan fedyddio pawb ddeuai i'm cyfarfod; a phe byddent hwy yn anfoddlawn, ceisiwn hwy pan yn cysgu, a b'edyddiwn hwy unrhyw flfordd." Ai nid yw iaith fel hon braidd yn auheil- wng o urddas y pwlpud? CYFHIFXR fod 1,762 o offeiriad Pabaidd yn Lloegr a L hymru. Nid yw y rhai hyn yn cynwys y Jesuitiaid, y rhai sydd yn llu- osog iawn. Mae 50 o Babyddion yn aelod- au o'r Parliament, 35 yn Bendefigion Pab- aidd, ac yn y Cyfrin Gyngor y mae saith yn Babyddion, tra y mae 47 o Farwniaid Pabaidd. BUTTERNUT VALLEY, MINN. -Ar ddydd Nadolig, cynaliodd y Blue Earth County Welsh Bible Society ei chyfarfod blynydd- ol, a chafwyd areithiau grymus ar yr am- gylchiad. Penderfynodd Pwyllgor y*Gym- deithas Feiblaidd gynal cyfarfod llenydd- ol yn yr hwyr. Cafwyd areithiau da a chanu campus. Ni flinaf chwi ag enwau neb, ac os oes rhyw rai yn hoffl darllen enwau, y mae cyntaf Cronicl a'r penodau cyntaf yn barod at chwaeth y cyfryw rai. Ardal Bethel.— Mae yma gymdeithas len- yddol wedi ei ffurfio, a llawer yn dwyn cryn sel drosti. Pwnc dadleuol y cyfarfod nesaf fydd, na ddylid darllen y Beibl yn yr ys- golion dyddiol. Dygir cryn sel dros y ddwy ochr.E. J. Evans.. BALA, RILEY Co., KAs.-Mae genyf i d gydnabod drwy eich colofnau dderbyniad y swm o $40.60 oddiwrth gasgliadau yn yr eglwysi canlynol yn Nosbarth Jackson (T. C.) Ohio, er cynorthwyo eglwys y Trefn- yddion Calfinaidd yn Bala, Kansas, i dalu ei dyled: Moriah, 8.00; Bethel, 9.79; Beth- ania, 2.40; Bethesda, 2.'0; Salem; 2.05; Soar, 7.10; Pomeroy, 3.00; Horeb, 6.26.— Gyda diolch yn enw yr eglwys am gyd- weithrediad ein brodyr yn yr eglwysi uchod. Ydwyf yr eiddoch-Trysorydd. COLLINSVILLE, N. Y.-Sefydlu Gwemid- og. -Mae yn hysbys i darllenwyryDRYCII 1>1' ys tro bellach fod eglwysi y Methodist- iaid Calfinaidd yn Sir Lewis wedi sicrhau gwasanaeth y Parch. James Jarrett, gynt o Utica, fel eu gweinidog. Dechreuo td ar ei weinidogaeth yn ein plith er y Sab- both cyntaf o'r flwyddyn. Hyderwn na cha un achos edifavhau o herwy d iddo ymwrandaw a'n gwahoddiad; ond y bydd i ni werthfawrogi ei weinidogaeth nerthol a choethedig, ac y bydd yn foddion i ar- gyhoed'ti lluaws o Gymry yr ardaloedd hyn. Er nad peth newydd yw y weinidog- aeth sefydlog yn eglwysi Sir Lewis, yr oedd cyfarfod cvhoeddus i sefydlu gwein- idog yn beth hoilol newydd i ni hyd y tro presenol. Tued ud ni i gael y fath gyfar- fod mewn canlyniad i'r awgrym o gwrdd dosbarth Penygraig, a thybiwyf erbyn hyn mai teimlad unfrydol yr ardalwyr ydyw mai da iddynt oedd bod ynddo.. Cynaliwyd ef ddydd lau, y 14eg cynsol, am 12eg o'r gloch. Dechreuwyd y cyfar- fod gan y Parch. Ebenezer T. Jones, Pain- field. Dewiswyd yn llywydd yr henafgwr a'r diacon parchus, Mr. Evan Evans, Constableville, yr hwn yn ei ddull gwreidd- iol ei hun, a roddodd fraslun o hanes yr achos Methodistai :d yn y gymydogaeth, o ldiar ei sefy^liad hyd yr amser presenol. Yna, wedi canu emyn, galwodd y llyw- ydd ar y Parch. Lewis Williams, (P..) Lyons Falls, i draddodi ei siars i'r gweinidog. Yr oedd y cyngor drwyddo vn syml, difrifol a thra priodol, ac yn seil- iedig ar 1 Tim. 4. 16. Yna galwyd ar y Parch. Eben. T. Jones i draddodi ei siars i'r eghvysi, yr hyn a wnaeth yn hapus a doniol dros ben. Credwn fod ei sylwadau priod I wedi gadael argraff ar deimladau y dorf, nad anghofir mo honynt yn fuan. Cafwyd wedi hyny sylwadau gwerthfawr a phwrpasol gan y Parch. T. M. Griffiths (A ,) Turin, seiliedigar Dat. 2. 10. "Bydd ifyddfon hydangau," &c. Yna galwyd ar y Parch. James Jarrett i ddywe yd ychyd- ig eiriau, yr hwn a wnaeth ychydig syl wad- au ar y mod y tueddwyd ei feddwl i ym wrandaw a galwad yr egl wysi ydynt yn awr dan ei ofal. Ar awgrym Mr. jarrett, galwodd y llywydd ar Mr. Robert E. Roberts, un o flaenoriaid ffyddlonaf eg- lwys flaenorol Mr. Jarrett, yr hwn a wnaeth a^ercliiad byr yn ei ddull syml arferol, ond gyda the mlad anarferol, yr hwn a gynyrchodd deimladau cyfateboi yn mynwesau pawb oedd yn ei wrandaw. Gollyngwyd y gynulleidfa gan y Parch. J. Jarrett. Cafwyd pregeth ragorol yn yr hwyr gan y Parch. E. T. Jones. Yr oedd y cynulliadau ar y naill achlysur a'r llall yn lluosog iawn —D. R. ADFYWIAD CREFYDDOL YN FLOYD, N. Y. —Yn ystod yr wythnos ddiweddaf cefais y fraint a'r pleser o dreulio yn agos i ddeu- ddydd gyda'r caredig gyfeillion Cymreig yn Floyd. Mae y ddwy eglwys yn nghan ol diwjgiad crefyd(lol na welwyd ei ail o'r blaen yn yr ardal. Mae wedi dechreu er's amryw wythnosau, ac mae y dyddor- deb ysbrydol ar gynydd. Dechreuoda y gwaith mewn ardal ger llaw, mewn ysgol- dy bychan yn mhlith y Saeson; oud erhyn hyn mae y tan nefol yn llosgi trwy yr holl ardal, a'r brodyr a'r chwiorydd oil o'r bron "yn wresog yn yr Ysbryd yn gwasanaethu yr Arglwydd." Hoff oedd gweled y capel- ydd yn llawnion mewn cyrddau gweddi am I ZD haner awr wedi un o'r gloch yn y pryd nawn, ac yn orlawn yn yr hwyr i wrandaw ar genadwri'r groes. Ymdrechais trwy gymorth gras i bregethu yn yr hen iaith yn nghapel yr Annibynwyr ar nos lau, ac yn nghapel y Trefnyddion Calfinaidd ar nos Wener. CredwTyf fod yr Arglwydd yn ein plith yn teyrnasu yn ei ras, ac y gwelir hyn yn f-wy amlwg yn y dydd a ddaw, "pan ymddengus Crist ein bywyd ni." \1 ae nifer mawr eisoes wedi ymuno a'r ddwy eglwys, a chlywir swn tyrfa yn dyfod. "Plant afradlon sy'n dod adref, A fu'n mhell o dir eu gwlad." Mae y Parch. Mr. Griffiths wrthi hi yn barhaus, "mown amser ac allan o amser." Er fod gan y Trefnyddion bregethu rheol- aidd, nid oes gand iynt weinidog yn car- trefu yn eu plith. Mae hyn yn anfantais i !dynt"hwy, ac yn gwneyd llafur Mr. Grif- fiths yn drymach. Ond mae y gwaith yn myned rhagddo, ac i Dduw y byddo yr holl ogoniant! Cefais brawf ychwanegol o garedigrwydd pobl Floyd. Nid oe idwn yu alluog j alw ond mewn ychydig o aneddau, ond gallwn yn hawdd ddarllen croesaw yn eu gwyneb- au. Ni chefais, fawr o gysgu tra yn eu plith. Yr oedd y cwmni mor ddifyrus yn "Bryn y Gloch," ac yn nhy William Jones "y canwr," fel nad oedd modd myned i orwedd cyn haner nos. Derbynied y ddau frawd caredig, Thorn as a Benjamin Jones, o Lee (meibion Joseph) fy ngwir ddiolcligarwch am eu caredigrwydd yn fy nghludo yn ddidraul o'm cartref ac yn til. ERASMUS W. JONES. Lee Centre, N. Y., Ion. 11, 1876.

YMSON Y LODES D TVYLLEDI G.

[No title]

[No title]

HYNODION ST. HELENA.