Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
JI wi?j?jRLr j\rJ?ifS2\A %>iim. ]E§TA.I5JLffgSSI3I> 1851. Issued Every Thursday Morning. T. J. GRIFFITHS, Proprietor, UTICA. N. Y.
I BETH YW HEDDWCH?
BETH YW HEDDWCH? GAN FEIHDD NANTICOKE, YN NGWYLIAU NADOLIG. Yr angel sy'n cyfryngu,— yw heddwch, Ac addnrn pob teulu; Cycghanedd yw, geimveddgu Gwyneb anian yn gwenu. IEUAN DDU. Heddwch yw tad pob dedwyddyd—dynol, A doniau'r cyfaufyd,— A nwyflant awen hefyd; Neu alaw bêr-haul y byd. CILCENIN. Ni cheir i hedd ddechreuad;— neu adeg A noda 'i derfyniad,— Gwirir mae'n gar i gariad, Ion a'i rhoes i ddyn yn rhad. DEWI GLAX ELYKCH. ■< » < »
YR HEN FRUTANIAID.
YR HEN FRUTANIAID. Safe Dysgeidiaeth yn Mhrydain oW flwyddyn 55 Cyn Crist, hyd ddyfodiad y Saxoniaid i'r Ynys yn yfl. 449 o Oes end. GAN BRYTHON HEN. Y mae i genedloedd a gwahanol wled- ydd, yn gystal a phersonau unigol, eu dechreuad a'u mabandod, y cyfnod yn yr hwn y mae pob cenedl nid yn unig yn wan a bychan, ond hefyd yn anfoesgar ac an- wybodus. Wrth wneyd ymchwiliad i sef- yllfa wreiddiol a chyntefig pob cenedl o ddynion, hyd yn nod y rhai mwyaf diwyll- iedig, yn ein hoes ni, gwelwn eu bod hwy wedi bod y peth ydyw cenedloedd eraill, yn eu sefyllfa anwareiddiedig bresenol. Gan hyny, nid oes achos i ni fel cenedl i ryfeddu a chywilyddio, am fod ein cenedl ni wedi bod yn anwybodus, ac yn arfer bywyd o anwareiddiwcli. Yn y cyfnodau boreuol, cawn fod trigol- ion Prydain wedi eu rhanu yn llwythau bychain, yn cael eu llywodraetliu gan dyw- ysogion, eto yn anllythyrenog, yn anwy- bodus, ac heb eu llwyr wareiddio. Ym- ddengys fod haneswyr pan yn rlioddi hanes y gwahanol lwythau gwasgaredigyn Mryd- ain yn y cyfnod dan sylw, wedi cymeryd Uawer mwy o drafferth i ddarlunio IIwydd- iant milwrol y Prydeinwyr, yn nghyd ag ymeangiad eu tiriogaethau, a'u cynydd mewn gallu, nag y maent wedi bod, i ddarlunio a chwilio i mewn i gynydd a llwyddiant y„llwythau hyny mewn dysg, a gwybodaeth fuddiol, canys ychydig iawn a ddywedir ganddynt hwy am gynydd y Prydeinwyr mewn crefydd, a gwybodaeth foesol. Dygir ger ein bron gofnodiad braidd o bob brwydr a ymlafldwyd gan y Prydein- Wyr, yn nghyd a'r amrywiol fuddugoliaeth- au, a enillwyd ganddynt, yn nghyd a'r dewrder mawr a ddangoswyd gan eu gwa- hanol dywysogion yn yr ynys yn y cyfnod hwnw yn eu hanes. Gwna y diffyg hwn, o sicrwydd awdurdodol mewn hanesydd- iaeth, ein lluddias i ddechreu ar hanes gwladol a milwrol.Prydain yn foreuach nag ymosodiad cyntaf y'Rhufeiniaid dan Julius Caesar, yn y fl. SBjcyn Crist. Mae yr un anhawsder ar ein ffordd I ddyfynu hanes dysg, yn mhellach yn ol. Mae gwawr y gwyddorau fel gwawr y dydd, mor aneglur ac egwan, fel ag y mae braidd yn an- mhosibl gwybod yn iawn y cyfnod y gwnaethant eu hymddangosiad gyntaf yn unrhy w wlad. Mae genym brawfion digon- 01 fod amryw ddynion yn y Talaethau Prydeinig yn yr amser yr ymosodwyd arnynt gan y Rhufeiniaid, yn cael eu cynal ar draul y cyhoedd, er myfyrio, h^rLr ri gwyddorau a chrefydd. Adna- dosbarth dysgedig hwn wrth yr enw Derwyddon. Yr oeddynt hwy yn athronwyr. yn gysM Iwythan fod trigolion y gwledydd uehod, hyd yn nod yn °eu fa e.lunaddolgar, ac a„w„eithiedig, yn talu y parch a'r anrhydedd uchaf i'r Der wyddon. Mae lie i gredu fod ami un yn mysg y genedl y pryd hyny yn dangos cryn lawer o allu celfyddydgar, yn nghyd agysbryd gweithgar a bywiog; eto gallwn feddwl mai ychydig iawno sylw a wneid ohonynt gan eu cydgyfoedion yn eu sefyll- fa symudol ac anfoesgar. Mae genym brawfion digonol fod amryw o'r Talaethau Prydeinig wedi cyrhaedd peth enwog- rwydd mewn celfyddyd a dysg, hyd yn nod yn y cyfnod y gwnaetli y Rhufeiniaid eu hymosodiad cyntaf ar Ynys Prydain. Dywed Diodorus Siculus fod y Prydeinwyr yn talu y parch mwyaf i'w hathronwyr, neu y Derwyddon. Dywed yr un awdwr ei bod yn arferiad yn mysg y Prydeinwyr i beidio a chyflawni un ddefod grefyddol, neu gysegredig, heb fod un o'r athronwyr yn bresenol, am eu bod yn credu fod yr Athronwyr neu y Derwyddon yn wir gyd- nabyddus ag ewyllys y duwiau. Credid ganddynt mai yr Athronwyr hyn oedd y rhai mwyaf cymwys i gyflwyno eu gwedd- iau a'u diolchgarwch i'r duwiau. Dywed Stmbo fod tri dosbartli o ddynion yn Mryd- ain, y rhai a berchid yn fawr gan y Pryd- einwyr, sef y Beirdd, yr Ofyddion a'r Der- wyddon. Y Beirdd oeddynt y prydyddion a'r cantorion, yr Ofyddion oeddynt yr offeiriaid a'r anianwyr, a'r Derwyddon oedd yn chwanegu y ddysg o athroniaeth foesol at yr anianaeth, a ddysgid gan yr offeiriaid. Wrth i ni adlewyrchu ar henafiaeth a rhifedi dirfawr y Derwyddon, y lluosog ragorfreintiau oeddynt yn eu mwynhau, y tawelwch a'r bywyd hamddenol oeddynt yn ei fyw, yn nghyd a'r cyfleusderau a'r gefn- ogaeth oeddynt yn gael i fyfyrio, rhaid i ni gredu a gwneyd cyfaddefiad llydan ac agored, eu bod wedi gwneyd cryn gynydd mewn amrywiol gangenau o ddysg, cyn iddynt gael eu difodi gan y Rhufeiniaid. Cadarnheir ein barn yn hyn wrth ddarllen y modd boneddigaidd a ffafriol y mae ys- grifenwyr Groeg a Rhufain yn ddweyd am eu dysg. Mae rhai o honynt yn gosod y Derwyddon yn y rhestr flaenaf, sef yn gyfochrog mewn dysg ac rathroniaeth i Galdeaid Assyria, dewiniaid Persia, ac eraill o'r dosbarth dysgedig. Canfyddodd Caesar a Mela eu bod hwy wedi ffurfio cyf- undraethau mawrion ar seryddiaeth ac athroniaeth naturiol, ac fod y cyfundraeth- au hyny, yn nghyd a phethau eraill, a'u dysgeidiaeth mor helaeth, fel yr oedd yn cymeryd ugain mlynedd i'r ysgolor i'w meistroli. Maent yn cael eu cydnabod gan yr holl haneswyr henafol sydd yn crybwyll am y Derwyddon, eu bod yn cael eu caru a'u parchu yn fawr gan eu cydwladwyr, y rhai nid yn unig oedd yn gwrandaw arnynt gyda pharch, ond hefyd yn ymostwng i'w crefydd a'u dysgeidiaeth. Y Derwyddon oedd yn gweinyddu cyflawnder yn mysg y bobl, ac yn addysgu eu boneddigion ieu- ainc. Mae hyn yn brawf fod gan y bobl feddwl uchel am eu doethineb a'u dysgeid- iaeth, yn gystal a'u gonestrwydd. Yr oedd y Derwyddon Prydeinig yn neillduolt yn glodfawr gartref ac oddicartref, fel yn gyffredin'y meddylid mai hwynt-hwy oedd tadau crefydd ac athroniaeth; cydnabyddid yn rhwydd mai hwy oedd y dysgawdwyr goreu yn y gwyddorau, fel ag yr oedd y rhan fwyaf o ddynion ieuainc Gal, oedd yn ewyllysio dyfod yn ddysgedig, yn myned ilBrydain i dderbyn eu dysg gan Dderwyddon Prydain, am eubod yn credu ac yn gwybod mai yno yr oeddy ddysgeid- iaeth yn cael ei dysgu berffeithiaf. Y mae wedi bod yn amheuaeth pa un ai y Derwyddon eu hunain oedd dyfeiswyr en crefydd a'u hathroniaeth, ai ynte wedi derbyn y pethau hyny oddiwrth eraill oeddynt. Mae rhai yn dychymygu mai- dosbarth o'r Groegwyr, y rhai a ymfudodd i Marseilles, yn Gâl, yn y flwyddyn 57 ol- ympaidd, a roddodd iddynt elfenau athron- iaeth a dysg, ac iddyn eu trosglwyddo i'r Galiaid a chenedloedd eraill yn ngorllewin- barth Ewrop. Ymddengys fod y dosbarth hwn a ymfudodd o Groeg i dueddau Gal, wedi cyfranu yn helaeth tuag at ddiwyll- iant y rhan hono o'r wlad y trigasant hwy ynddi; ac nid yn unig hyny, ond ymddeng. ys iddynt chwareu rhan bwysig yn ngwar- eiddiad ei thrigolion. Dywed Justin fody drefedigaeth Röegaidd yn Marseilles wedi gwareiddio cryn lawer ar y Galiaid, ac wedi eu dysgu i fyw dan ddeddfau, i adeiladu trefydd, neu ddinasoedd, a'u ham- gau a muriau, i godi gwenith a llawer o bethau eraill, fel yr oedd gwedd dra gwa- hanol ar wyneb y ddaear, yn gystal ag arferion y trigolion, fel yr oedd yn fwy tebygol'lfod Gal wedi ei thraws symud i Groeg, nag fod yr ychydig Roegwyr oedd yno wedi eu traws-symud a'u nwldio yn ar- ferion y GSliaid.
HELYNTION ST. HELENA.
HELYNTION ST. HELENA. GAN TOM AP DAYIES, CHXJRCH HIM,, OHIO. Wedi glanio ar y grisiau ceryg, y peth cyntaf a dynodd fy sylw ydoedd eglwys a chlochdy—eglwys Loegr, mae yn debyg; safai ar y llaw ddeau wrth droi i fyny y brif heol. Aethum i fyny yr heol, a pban ar gyfer y Post Office, yr hwn oedd ar y llaw aswy, gwelwn orymdaith briodasol yn dyfod i lawr yr heol ar garlam tua'r eglwys rag-grybwylledig; eisteddai y ptir ieuane yn y cerbyd blaenaf, yr hwn a dynid gan bedwar o asynod, a'r rhai hyny wedi eu paentio neu eu gwyn-galchu nes oeddynt cyn wyned a'r eira. Ymddengys nad oedd Ilawer o geffylau ar yr ynys, ond yr oedd yr asynod a'r mulod yn lluosog, y rhai a dynent gerbydau byehain iawn, a'u hol- wynion yn hynod o isel, am fod y lie mor fynyddig. Ychydig yn uwch ar y llaw ddeau yr oedd math o Hotel a livery, lie yr hurid asynod a cherbydau, ac y gwerthid Gape wine am swllt y, gostrelaid. Yma yr oedd ein Cadben, ac amryw o deithwyr y Caban, y rhai oeddynt foneddwyr urdd- asol, ac un o honynt (Mr. Mann) yn aelod o Senedd S. Australia; yr oeddynt yn ym- gomio yn nghyleh ffurfio parti i fyned i Longwood, i weled y fan lie bu NAPOLEON BONAPARTE yn byw yn alltud, ac i weled ffynon Colbert a'r llanerch ddvstaw oedd gerllaw iddi, yn yr hon y bu y dyn goreu a welodd Ffrainc erioed yn gorwedd. Dad- leuai rhai o'r boneddwyr dros fyned mown cerbydau, tra y credai y Cadben ac eraill y buasai yn fwy diogel i farchogaeth yno ar asynod heblaw y buasid yn gallu mwyn- hau golygfeydd y daith yn well; "Ye," meddai y Seneddwr, ond beth tybed ddy- wed pobl Llundain pan glywant i ni fod yn marchogaeth asynod-byddwn yn sport gan bawb, a bydd asynod dinas Llundain yn brefu ar ein holau." "Wel," ebai Cad- ben Angel, "os awn mewn cerbydau. asyn- od fydd yn ein tynu wed'yn—ar gefn asyn yr af fi, ac os wyf fi, a minau yn Angel, yn marchogaeth asyn, dylech chwithau ddilyn fy esiampl tra nad ydych ond dyn (Mr. Mann), ac os poenir ni gan y Llundeiniaid, gallwn ateb iddynt i Iesu Grist ei hun farchogaeth asyn, a hyny mewn lie mwy stylish na St. Helena." Yna marchogodd y fintai i ffwrdd ar bedwar-carnolion-y Cadben a'r Seneddwr yn blaenori y fintai. Yna troais i'r llaw ddeau, a gwelais ysgol Jacob. Yr oedd yr ochr ddeheuol i'r dref yn fvnvdd agos mor serth a mur, ac yr oedd heol gul igam-ogam i fyned i'r top; ond i fyrhau y ffordd i ddisgyn, adeilad- wyd yr ysgol anferth hon, a orphwysai ar y graig o'i gwaelod hyd y top, wedi ei gwneyd o blanciau derw, ac iddi ddwy ganllaw; yr oedd tua pum' troedfedd o led rhwng y canllawiau; nid wyf yn cofio pa sawl step oedd iddi, ond yr oedd y pellder ar hyd-ddi, o'r gwaelod i'r top, tua milldir. Pan oeddwn ar gychwyn i fyny ar hyd yr ysgol, dywedodd dau o'r Creoles, neu bobl dduon St. Helena wrthyf, na arferai neb esgyn yr ysgol, ac fod dringo milldir yn sicr o fod yn ormod gorchwyl i minau, yn enwedig ar ddiwrnod poeth, ac nad oedd neb o fy nghyd-longwyr wedi ei hesgyn, er i rai dreio. Ond i fyny yr aethum, a bu agos i mi a llewygu cyn cyraedd y top; ac wedi cerdded tua phum' llath syrthiais yn farw gan ludded; pan ddaethum ataf fy hun, yr oeddwn yn gorwedd yn y cysgod, dan un o'r magnelau yn yr amddiffynfa, ac amgylchynid fi gan amryw o Wyddelesau, sef gwragedd y milwyr Gwyddelig oedd yn byw ger llaw; rhoddasant i mi ddwfr a brandy-yr olaf wrth gwrs oedd y mwyaf derbyniol. Aethum i ben un o'r magnelau i edrych dros y mur i lawr i'r mor, ond yr oedd yr olygfa yn rhy erchyll ac ofnadwy i'w mwynhau; ymddangosai y llongau oedd odditanom yn y porthladd yn rhyw ysmot- iau duon bychain. Erbyn hyn yr oedd amryw o deithwyr yr ail gaban wedi dyfod i fyny dros yr heol igam-ogam, ac yn fuan ffurfiasom yn fintai i gerdded tua. Long- wood a ffynon Colbert i weled y cow-shed, a'r bedd lie y bu prif ddiwygiwr y ganrif bresenol yn garcharor gan y Saeson, ac yn yr house of detention gan angau. Wedi cyf. logi dau fachgenyn i fod yn arweinwyr, dechreuasom ein taith. Cerddasom dros fryniau, Ilethrau a lleoedd mor erchyll ac uchel ag ydyw pen clochdv St. Paul- weithiau pasiem ffynonau o'r dwfr oeraf puraf ac iachusaf ag a yfais erioed, ac 0! y fatli gnwd o ferw'r dwfr Jwater cress) oedd yn tyfu o amgylch pob ffynon. Peth rliyfedd fod dwfr mor dda mewn ynys mor fechan, ac yri sefyll dros 1,200 o filldiroedd oddiwrth y tir agosaf. Cawsom olygfa nad anghofiaf byth oddiar ben un clogwyn o graig ddanedclog-yr oedd y rhan fwyaf o'r holl ynys yn ein golwg, a gwelem y mor o'i hamgylch—edrychai yr ynys yn gorff hir-grwn, csgyrnog, neu fyd nofladwy -a'r tir a'r mor i'w weled o'n hamgylch; mewn gair, yr oedd yr olygfa mor ddy- chrynllyd o ramantus, nes y parai fwy o ofn i mi nag o fwynhad. Credai rhai o'r fintai y buasai yn fwy diogel i ddawnsio ar ben dome St. Paul yn Llundain, na cherdded y llwybrau duon, erchyll hyn, er ein bod yn rhodio yn rhyddion tua'r ) fangre lie bu dyn mwyaf ei oes yn alltud truenus! Cerddem wedi hyny trwy ddy- ffryn oedd mor gul fel nas gallasai dau gerdded ochr yn ochr, ac felly yr oedd yn ddarluniad byw o syniad yr Annibynwr am Gyffes Ffydd y Methodist. Cerddem wed'yn trwy ddyffrynoedd lletach, y rhai oeddynt yn llawn o berllanau, yn cynwys afalau, pears, bananas, sugar canes, a phethau eraill; o'r diwedd cyraeddasom Longwood, yr hwn sydd wastadedd bych- an tua 1,500 o droedfeddi uwch level y mor. Ond cyn rhoddi desgrifiad o'r He, fe allai mai mwy priodol fyddai rhoddi gair am helynt y gwron gwleidyddol enwog a hyn- ododd y lie a'r ynys amgen rhyw lancrch neu fangre arall; ac i'r dyben i wneyd hyny, deued y darllenydd yn ol gyda mi i Ffrainc, ac i faes Waterloo, ac arosed yno hyd yr wythnos nesaf, i edrych ar y mwg yn diflanu, a gwrando ar adsain swn y magnelau yn dystewi yn y pellder.
GAIR 0 RUFAIN.
GAIR 0 RUFAIN. ODDIWRTH T. D. EVANS, YSW., PITTSBURGH. RHUFAIN, ITALI.- Yr wyf yma yn awr er's deuddeng niwrnod, a bum am dri diwrnod oddiyma yn Naples a Pompeii; ac yr wyf yn meddwl cychwyn dydd Llun nesaf tua Paris, trwy Switzerland. Mae wedi bod yn dywydd hyfryd yma yn ystod amser fy arosiad yn y lie—y coed yn leis- ion yn y parciau, y blodau yn agored, a'r fountains yn taflu eu dyfroedd i fyny-y gerddi oddiamgylch a'u coedydd oranges yn llwythog o ffrwythau. Wrth gerdded y parciau, ar hyd y llwybrau sydd yn cael eu fflnio gan goed palmwydd, &c ym- ddengys natur yn brydferth a swynol iawn. Nid oes genyf amser i ysgrifenu y filfed ran am y pethau o ddyddordeb sydd i'w gweled yma; ond yr un mwyaf ardderchog o honynt oil, yn enwedig y tufewnol, yw Eglwys Gacleiriol St. Peter. Gan fod ei harddull allanol, ei maintioli, &c., yn cael eu desgrifio mewn llyfrau, gadawaf y peth- au hyny, drwy grybwyll yn unig, fod yr ochr fewn yn rhagori, yn ol fy marn i. Mae y tu fewn oil wedi ei adeiladu o'r mynor (marble) mwyaf drudfawr, gyda dar- luniau (paintings. mawrion o amgylch- rhai o honynt o 30 i 40 troedfedd o uchder, ac oil yn Mosaic work; hyny yw, wedi eu gwneyd oil o dalpiau bychain o wahanol liwiau o modfedd ysgwar, a'r rhai hyny wedi eu fifitio yn eu gilydd mor ber- ffaith fel y mae yn anhawdd adnabod gwa- haniaeth rhyngddynt ag oil paintings. Mae yr holl furiau oddimewn felly wedi eu gor- chuddio a Mosaic Statues a guilted panels. Nid yw Eglwys St. Paul yn Llundain yn haeddu ei chydmaru ag Eglwys St. Peter mewn ardderchawgrwydd' tufewnol nac mewn maintioli; oblegid y mae arwyneb- edd (area) y ddiweddaf—ei ground plan, agos gymaint arall a St. Paul. 0 ben Cromen (Dome) St. Peter y mae golygfa eang i'w chael ar y ddinas a'r mynyddoedd oddiamgylch. Ar y nen (roof) mae tai y gwahanol ddynion sydd yn adgyweirio yr adeilad anferth, ac y mae y tai hyn yn ym- ddangos fel pentref bychan. Mae yr adeil- ad mor eang, fel y mae yn costio $40,000 i'w gadw mewn repairs bob blwyddyn- nid oes genyf amser i ysgrifenu rhagor am St. Pedr ar hyn o bryd. Dydd Mawrth a dydd Mercher diweddaf aethum i waered i Naples; bum yn gweled Pompeii, ac hefyd ar ben mynydd tanllyd Vesuvius, yr hwn sydd tua 4,000 troedfedd o uchder. Ymddengys ar yr olwg allanol fel pentwr mawr o ludw, yn debyg fel pe safech yn ymyl y fglass-home neu y rolling- mill yn Pittsburgh. Y mae coppa y myn- ydd yn mygu ac yn llawn tan. Bum yn coginio wyau yn y tan oedd ar ei ben,, ac yn bwyta ciniaw yno. Cefais otygfa eang oddiyno ar y wlad a'r dinasoedd oddiam- gylch, ac ar y Bay of Naples, a Mor y Can- oldir. Ond rhaid i mi derfynu y tro hwn. T. D. EVANS.
ANNIBYNIAETII NEWY DD-IADUROL.
ANNIBYNIAETII NEWY DD- IADUROL. GAN D. C. DAVIES, M. D., COLUMBUS, WIS. Mae yn rhaid i olygydd newyddiadur en- wadol lynu yn llythyrenol wrth gredo yr enwad y perthyn iddo, onide ymaith a'i ben! Ac nid yn unig hyn, ond myn URAl o'r "etholedigion" y dylai poft newydd- iadur annibynol (sydd yn rhydd-agored i'r naill ochr fel y Hall) fod yn ddarostynged- ig i reitharchebau caethiwol yr un teyrix Er engraifft, faint o ddifrio, a phardduo, a chefn-ddrygu, a fu ar y DRYCH, yn y blyn- yddoedd diweddaf, am gyhoeddi ertliyglau y Parch. H. L. Herbert, a'u cyffelyb, er ei. fod fel newyddiadur gonest (yr hyn yw) yn barhaus gyhoeddi ei hun yn annibynol? Mae y darllenydd yn gwybod fainty heb i mi adgoffa iddo. A beth sydd yn ysgrifau Mr. H. mor niweidiol i'r gwirionedd, fel ag i alw y DRYCH i gyfrif am eu cyhoeddH Atebed ei gyhuddwyr. Hyn a wyddam,, mai yr unig beth teilwng o'i werthfawrogi; yn y byd hwn ydyw y GWIRIONEDD; ac- nid yw yn ngallu y Parch. R. L. Herbert,, mwy na'r Parch. Erasmus W. Jones,, i ddrygu dim ar hwnw; na, mae :'y peth, gwerthfawr ac anmhrisiadwy hwnw fel yr adamant, yn anninystriol! Na freudd- wydied neb, am foment, fod y DRYCH wedi profi ei hun yn elyn dynoliaeth," drwy gyhoeddi erthyglau Mr. H., o herwydd os oes rhywbeth yn ganfyddadwy ar ol i'r mwg gilio, mae hyn yn ddigon amlwg, sef fod amynedd a dioddefgarwch Mr. H. yss. arddangos uwch dynoliaeth nag a ddang- oswyd gan neb o'i wrthwynebwyr. Na feddylied y darllenydd wrth hyn mai un o edmygwyr athrawiaetliau\Mr. H. yw yr ysgrifenydd, o herwydd y gwrthwyneb i hyny yw y gwirionedd. Yn ein barn ni, mae Mr. H. yn ysgrifenu gormod—gormod o yspwrial, a rhy ychydigjo berlau—gor- mod o awgrymu a rhy ychydig o gyflawni —gormod o dynu i lawr a rhy ychydig 0' adeiladu; ond tra pery ei wrthwynebwyr yn ei erjyn' mor ddidrugaredd, efe a gaiff ein cydymdeimlad, o herwydd mae hwnw, bob amser, gyda'r ci isaf! Y gwir yw, er cymaint a hunan-folwn, fel cenedl, am eio- duwiolfrydedd, (a pha genedl sydd yn ein curo yn hyn?) maeyr ysbryd caethiwol yn gryfach yn ein plith ni heddyw nag y myn llawer o honom gredu ei fod. Os na WIla ysgrif bigog, gwawdlym, a geirfrathol, y gwr parchedig o Pittsburgh, dro yn ol (yn ei sen ar Mr. H.), brofi hyn i foddlonrwydd, anmhosbl ydyw profi dim! A beth am y ddadl a fu rhwng "Llais y Wl'adi'T a Llais yrEglwysi?" Onid oedd ysgrifau "Llais yr Eglwysi" yn llefaru yn amlwg, er mai gweinidog yr efengyl a'u hysgrifen- odd, mai lioff ddymuniad yr awdwr yd- oedd cael ei bawenau yn dyn (trwy deg neu anheg) am gyntor gwddf ei wrthwyneb- ydd? A pha ryfedd? Gan bwy mae haw] i ddweyd gair yn erbyn y "Seithfed Re- ol?" Nid gan Llais y Wladf" Heblaw hyn, drachefn, os digwydd i bregethwr ad- nabyddus i'r cyhoedd wneyd asyn o hono- ei hun (ac, fel mae gresyn cyfaddef, mae hyn yn digwydd yn rhy fynych), beth yw y canlyniad? Y canlyniad yw gweled holl newyddiaduron crefyddol y wlad yn rhuth- ro, fel milwyr i'r gâd, i amddiffyn eu har- wr asynaidd, gan adael pob beirniadaeth wrthwynebol i'r newyddiaduron digrefydd- ac os digwydd i ryw un o'r frawdoliaetb feiddio gwahaniaethu yn ei farn oddiwrth ei frodyr, gwae iddo, o herwydd pentyrir anathemau yn farwor tanllyd ar ei ben, ac un o ddeg na ddifeddianir y truan o'i fara. beunyddiol hefyd. Credwyf fod achos y Parch. H. W. Beech- er a'i brawf, yn ddigon i brofi hyn. Nid ydym yn cofio gweled cymaint ag m sylw gwrthwynebol i achos Mr. B. mewn cy- maint ag UN newyddiadur crefyddol, tra yr oedd yr holl newyddiaduron dibroffes yn heigiog o sylwadau o'r fath, a'r rhai hyny nid yn anfynych wedi eu creu gan ddy- chymyg penrhydd rhyw ohebydd diegwy- ddor. Paham y gwahaniaeth hwn? Onid yr unig ffordd i feithrin celwydd ydyw