Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
Advertising
EIN TELEHAL AM 1875. Pris yn mlaen Haw$2.50. fW Pris y DRYCH i Glybiau ..$2 20 HP" Pris y DRYCH i Canada .$2 70 W~ Pris y DRYCH i Gymru. 3 50 Anfonar arian mewn Post Office iQrder neu Registered Letter, neu mewn York, taladwy i T. J. GRIFFITHS, DRYCH OFFICE, UTICA, N. Y. Y Goreu yn Ddiddadl.. DR. MORRIS' SYRUP OF TAR, WILD CHERRY AND HOKEHOUND yw y cymysgedd goreu a baratowyd a hysbyswyd, neu a werthwyd erioed gan unrhyw ber- son o dan unrhyw enw-at roddi esmwythad union- gyrchol agwellhad hollol oddiwrth Beswch, Anwyd, Croup, Wnooping Cough, Bronchitis, Byranadl, a phob anhwylaeb o natur y darfodedigaeth. Di- wreiddia yr arwjddion peryglus hyn mewn haner yr jimser a gymenr gan unrhyw feddyginiaeth aralt. Mae o natur hciiol tysieuol, heb fod yn cynwys dim {jpiwrn nac un cyfiyr peryglus arall. Tystia meddyg- on ynmhob parth o'r wlad mai efe yw y meddygin- iaeth mwyaf effeithiol at anhwylderau y gwddf a'r ,ysgyfaint. Nid yw byth yn ffaelu. Sicrheir y cyf- lawna pob potel yr hyn a addewir. Byddwch yn sicr o ofyn am Dr. Morris Syrup of Tar, Wild Cherry and florehound. Prawf botelau, 10 cents. Gwerth- it ef gan y prif gyflerwyr yn mhob man, ac yn mysg laa-ai'TfraD O. H. Williamson a'i Gwm., Utica, a Fran- cois Ethuridge, Rome, N. Y. ITAVIO'W. LEWIS & CO., COMMISSION MERCHANTS, No. 85 & 87 BROAD ST., NEW YORK. YR YDTMTN AWK YX GWNEYD MASNACH er's un cmtyneddarbymtheg, a dymunem ddiolch i'n hen gyfeillion am eu hymddiried ynom. Mae ein mas- nachdy, 85 & 87 Broad St., congl South William St., yn oleu, eang a chyfleus; a thelir sylw uniongyrchol i lotiau o YXENYN, CAWS nen DDOFEDNOB. a anfon- ir i'n gofal gan Amaethwyr Cymreig Swyddi Oneida, Madison, Herkimer a Lewis. Maiciwch y parseli a •efcyfeiriwch lythyrau i DAVID W. LEWIS & CO., Yn ol y cyfeiriad Hctoi. 1-18'6 €iit (Stflubhjp a'n I^rbntttoor. u'" ..r.j D. J. E., ST. JOSEPH.—OS oedd rhyw bethau ohynod iawn yn y gwrthrych gadewchi ni gael yr hanes. Os dyn cyfiredin ydoedd, dichon fod digon wedi ymddangos i fod yn ddyddorol i Gymry Ameri- oCa. Mae angeu yn tori pregethwyr, fel eraill, i lawr yn barbaus. ac ni chaniata gofod i ni gyhoeddiCoF- TANTAU meithion, os na fydd y cymeriadau yn gen- ;edlaethol. -Gwerfyl.—Bydd yr ysgrifau yn hynod gymer- adwy. Ysgrifau Tom ap Davies.—Yn ysgrif gyntaf Mr. D. yn lie Ond o'r Uedredau pegynol mae y cyf- ryw awelon yn dyfod yn ddeheuol"-darllener yn .fldechreuol. Slion o'r Castell.—Ysgrifenwch yn fwy cryno y tvo nesaf, ac ar ddalenau bychain. AGENTS Y DRYCH. ORANVILLE, N. Y.—Mr. Jos. W. Williams. POULTNEY, YT.—Mr. W. Nathaniel. SWYDD MADISON, N. Y.-Mr. Samuel L. Jones, Nelson. MINERSVILLE, PA.—Mr. Job Jones. NANTICOKE, PA.—Mri. D. W. Evans a T. Cilcenin Evans.
DYDD IAU, IONAWR 13,1876.
DYDD IAU, IONAWR 13,1876. T. J. GRIFFITHS, Cyhoeddwr. GOLYGWYR, J. W. JONES, J. C. ROBERTS. Y MAP 0 GYMRU. ER PAN wnaethom yn hysbys ein bwriad ..0 anrhegu ein derbynwyr a MAP HARDD o GYMRU, y mae eisoes tua DWY FIL wedi talu yn llawn am y DRYCH hyd ddiwedd y iiwyddyn lion. Derbynied y cyfryw ein diolcligarwch am eu prydlondeb. Yr oedd- ym yn disgwyl y buasai y Mapiau yma cyn tiyn; ond yr ydym wedi clywed o Liver- pool na fyddant yn barod cyn y mis nesaf. Na fydded i neb gan livny deimlo yn an- esmwvth o herwydd nad ydyw y Mapiau wedi eu cyraedd. Mor fuan ag y derbyn- iom hwy yn y Swyddfa hon, anfonir hwy yn ddioed gyda'r EXPRESS i ofal ein Gor- luchwylwyr, neu gyda'r Post i dderbynwyr unigol. Yn y cyfamser, brysied pawb i em- fon eu taliadau i fewn, fel y gallont gael y •wobr fwyaf gwerthfauor a roddwyd i dderbyn- ,Ifl)JJr unrhyw newyddiadur Cymreig erioed. ISIPRHODDIR Y MAP I BAWB A ANFON- ANT EU TANYSGRIFIADAU IR SWYDDFA CYN MAWRTH IAF.
[No title]
DARFU i wyth o Dalaethau yr Undeb ,;gyfTif eu poblogaetli yn 1875, ac yn ol y eynydd a gymerodd le mewn pum' mlyn- '.edd,bydd poblogaeth yr Undeb yn 1880 yn llawn 50,000,000. Y Talaethau a gyfrifas- -ant eu poblogaeth oeddynt, Kansas, Louis- iana. Massachusetts, Michigan, New Jer- sey, New York, Rhode Island, a South Carolina; a chan eu bod yn wasgaredig i'r ■dwyrai-n, y de a'r gorllewin, y maent yn cynrycliioli y wlad.
[No title]
YMDDENGYS oddiwrth adroddiadau o Washington, fod yr Arlywydd Grant wedi penderfynu cosbi y terfysgwyr a'r carn- iadron ydynt yn rhuthro dros y terfynau o Mexico i'r Talaethau Unedig, gan lofruddio .alladrataynymodd mwyaf anfad. Mae perygl i'r anwariaid hyn ddwyn y ddwy wlad i ryfel, a'r cam cyntaf yw y goreu i roddi terfyn ar eu rhwysg. Rhoddwyd ar ddeall yn amlwg. i Mexico ei bod yn gyf_ nfol am anfadwalthei deiliaid, ac nas geliir ou goddef yn hwy.
[No title]
MAE yn ymddangos fod y Gydgyngorfa 11 z;1 ;vedi penderfynu lleihau y fyddin i ryw ,.<5.000 neu 18,000 o "vnion; a thwy hyny \-wir 1: 0 $18,000,000 yn :lv" ar ddeall fod y sylfeini nag y bu er's blynyddoedd. Mae y llynges yn costio yn awr$32,000,000 yn flynyddol, er Dad oes ond ychydig o'r cadloiigau yn addas i wasanaetli. Doethineb ydyw llei- hau costau y fyddin a'r llynges yn amser heddwch; ac os daw perygl, gallwn ym- arfogi yn fuan.
[No title]
MAE yn ymddangos fod ychwanegiad at y ddyled wladol bob mis Rhagfyr wedi dyfod yn sefydlog, er fod yr ychwanegiad y mis diweddaf yn llai nag yn y blynydd- oedd blaenorol. Yn 1873 yr oedd y swm yn$8,452,273, ac yn 1874 $3,659,368. Hef- yd yr oedd y derbyniadau yn y tolldai yn llawer llai y mis diweddaf nag arferol; ac am y chwe' mis diweddaf yn llai o $4,000,- 000 nag am yr un amser yn 1874. Ond er j»cwbl, buwyd yn alluog i leihau y ddyled gencdlaethol y mis diweddaf yn y swm o $8,856,531.
[No title]
Ni fydd i berchenogion yr agerlongau fordwyant rhwng New York a Liverpool, anghofio y Iiwyddyn 1875 yn fuan, o her- wydd ei marweidd-dra masnachol. Darfu i rai cwmniau atal eu holl longau, ac ni chafodd yr un o honynt ddigon o waith. Arferai pedwar cwmni anfon allan dair, ac weithiau bedair, o agerlongau yr wythnos; eithr prin y buont yn alluog i anfon un all- an bob wythnos y flwyddyn ddiweddaf. Cafodd y prif agerlongau gyflawnder o nwyddau i'w trosglwyddo, ond yr oedd pris y eludiad yn is nag arferol. Ni thros- glwyddodd y cwmniau blaenaf ond oddeu- tu 8,000 yr un o ymfudwyr ar gyfartaliad, sef llai nag a drosglwyddwyd o fewn un- rhyw flwyddyn flaenorol. Credir y bydd i'r Dathliad Canmlwyddol yn Philadelphia eleni adnewyddu masnach rhwng America ac Ewrop.
[No title]
CYMER etholiad cyntaf y flwyddyn gan- mlwyddol le yn New Hampshire, ar yr ail ddydd Mawrth yn mis Mawrth nesaf. Y flwyddyn ddiweddaf etholodd y Gwerin- wyr y Llywodraethwr a Thy Isaf y Ddeddfwrfa, ond bu y Democratiaid yn alluog i'w twyllo gyda'r Ty arall. Ym- ddengys nad ydyw y Gwerinwyr wedi an- nghofio y dull y darfu i'r Llywodraethwr Democrataidd, a Bwrdd y Cyfrifwyr, dwyllo y Seneddwyr Gwerinol; ac maent yn darparu i wrthsefyll y cyfryw ymdrech eleni. Bydd i'r ymgeiswyr gael eu neill- duo yn fuan, a cheir amser bywiog hyd ddydd yr etholiad. Cymer etholiad Con- necticut le y Llun cyntaf yn Ebrill; ac yn mhen dau ddiwrnod wedi hyny bydd i bobl Rhode Island fwrw eu pleidlais i'r ethol- flwch. Yr uchod ydyw yrunig etholiadau a gymerant le cyn y cynadleddau cenedl- aethol i ddewis ymgeiswyr am yr Arlyw- yddiaeth.
[No title]
CAFODD rhan-ddalwyr ffordd liaiarn Erie eu boddloni'n fawr yn yr adroddiad swydd- ogol am enillion y ffordd y flwyddyn ddi- weddaf, canys mae y mwyaf ffafriol a gy- hoeddwyd erioed. Cludwyd dros y ffordd yn ystod y flwyddyn dros 5,000,000 o deith- wyr, heb ladd cymaint ag un; ac ni ddal- iwyd y Cwmni yn gyfrifol am golledion ac anafau. Yr oedd holl enillion y ffordd yn $17,677,746, a'r costau yn fwy o $1,677,746. Rhaid i'r rhan-dalwyr wneyd y diffvg i fyny; ond gwell talu hyny i hyny na thalu iawn i deuluoedd dros bersonau a laddwyd. Nis gall y New York Central R. R. ym- ffrostio na laddwyd neb arni y flwyddyn ddiweddaf; ond yr oedd ei henillion yn $29,027,218; ond y mae y swm uchod yn llai na'r enillion y flwyddyn flaenorol o tros $2,000,000, ac yr oedd ei helw yn llai eleni o$1,496,978. Bu y lleihad yn yr enillion yn 8 y cant, ac yn y costau 6 y cant. _—.—.——
[No title]
YMDDENGYS oddiwrth adroddiad per- chenogion melinau blawd yn Minnesota, fod y Dalaeth hono yn cynyrchu mwy o beillied o'r radd flaenaf na'r un Dalaeth ar- all yn yr Undeb. Mae yn Minneapolis 19 o felinau yn rhedeg 190 o feini, ac yn cyn- yrchu 4,500 o farllau o beillied yn ddydd- iol. Ceir 207 o felinau mewn 30 o siroedd y Dalaeth, yn rhedeg 8,561 o feini, ac yn alluog i falu 25.606,009 o fwsieli o wenith mewn blwyddyn. Anfonwyd allan o Min- neapolis yn nghorff y chwe' mis olaf o'r fiwyddyn ddiweddaf 438,900 o farilau o o beillied, ac yn y tri mis olaf 265,200, yr hyn sydd yn gyfartal i 1,000,800 o farilau mewn blwyddyn. Hefyd mae y Dalaeth yn nodedig o ran ei choed mewn rhai parthau. Gwnaed yno y flwyddyn ddiw- eddaf 191,365,679 o shingles; ais, 165,153,- 000, a thorwyd 36,907,000 o logs.
T DEDDFWRFA U TALAETHOL.
T DEDDFWRFA U TALAETHOL. Cyfarfyddodd y rhan fwyaf o'r Deddfwr- fau Talaethol yr wythnos ddiweddaf, ac y mae cenadwriaethau y gwahanol Lywodr- aethwyr yn cynwys casgliad o ffeithiau tra dyddorol. Yr oedd cenadwri y Llywodr- aethwr Hartranfft o Pennsylvania yn gyf- ansoddiad tra galluog, ac yn cynwys adol- ygiad manwl o helyntion y dydd, ac an- sawdd pethau drwy y Dalaeth. Ymddeng- ys fod y cyllid yn fyr o $500,000 i dalu y costau, o herwydd haelfrydedd y Ddeddf- wrfa y gauaf diweddaf yn cymwyso arian at wahanol achosion. Mae dyled y Dalaeth yn awr yn $13,766,564. Dangosir cynydd mawr mewn addysg yn ystod y deng mlyn- edd diweddaf. Yn 1865 yr oedd yn y Dal- aeth 1,743 o ysgoldai, eithr yn awr y mae yno 5,625; yn 1865 yr oedd yno 2,765 o ath- rawon, ond yn awr y mae yno 13,863 o ath- rawon. Talwyd$3,613,238 dros achos addysg yn 1865; ond y flwyddyn ddiwedd- af yr oedd costau yr ysgolion cyhooddus yn $9,363,927. Mae y Llywodraethwr yn anog mesurau diwygiadol, er sicrhau iawn- lywodraeth, gonestrwydd a threfn. Gyda golwg ar y dathliad Canmlwyddol yn Phil- adelphia, addawa y Llywodraethwr Hart- ranfft y bydd yn llwyddiant perffaith.- Cymella neillduad swm o arian er gallu- ogi y Dalaeth i wneuthur arddangosiad teilwng o'i chynyrchion, ei hadnoddau a'i sefydliadau, ac i dalu am gludiad a chad- wraeth 8,000 o wirfoddolwyr i fod yn bres. enol am ddeng niwrnoct yri ystod yr Ar- ddangosfa. Ymddengys oddiwrth Genadwri y Llyw- odraethwr Tilden, fod dyled Talaeth New York wedi ei lleihau$2,000,000 yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, ac addewir lleihad mawr yn y trethi eleni. Mae y Llywodr- aethwr yn trafod pynciau politicaidd y dydd yn hyawdl, ac yn dangos fod mawr eisiau diwygiad, cynildeb a gonestrwydd yn y cylchoedd cyhoeddus. Edrychir ar y Llywodraethwr Tilden fel arweinydd y blaid Ddemocrataidd, ac mae ei enw ar flaen y rhestro ymgeiswyr am yrArlyw- yddiaeth y tro nesaf. Mae y Gwerinwyr wedi ffurfio Deddfwr- fa Ohio, a dechreu ar eu gwaith o ddifrif. Hona pleidwyr y cyn-Lywydd Allen fod dyled y Dalaeth wedi lleihau dan ei wein- yddiaet.h, ac nad ydyw y swm yn awr ond $8,000,000. «-
MASNACH Y LLECHl.
MASNACH Y LLECHl. Nodwedd amlwg pob masnach y dydd- iau hyn ydyw marweidd-dra cyffredinol, ac nid oes eithriad yn mhlith gwneuthur- wyr llechi. Gwelwyd llai o ofyn am lechi ar gyfnodau eraill, tra nad oedd y fasnach mor isel ei hanfawdd ag ydyw yn awr; a'r rheswm dros hyny yw, fod y prisiau yn isel ar yr adeg bresenol. Rhaid gwerthu llawer y dyddiau hyn i gynyrchu ychydig o elw, gan fod y gost i wneyd y ll°chi agos gymaint a'r pris a geir am danynt wrth eu gwerthu. Diau fod pris llechi fel pob nwydd arall, yn cael ei reoli gan ddeddf y galwad a'r cyflenwad. Bydd i'r prisiau godi mor fuan ag y daw y galwad yn fwy na'r swm ar law i ddiwallu y galwad; ac ar y llaw arall, os codir mwy o lechi na'r galwad yn y farchnad, rhed y pris i lawr. Gall amgylchiadau lleol a chystadleuaeth rhwng personau, ddyrysu ychydig ar ddy- lanwad deddf y galwad a'r cyflenwad; ond nis gall hyny fod yn barhaol. Mae yn bosibi i bersonau ymryson gwerthn am yr isaf, a thrwy hyny niweidio eu hunain yn wirfoddol. Yr egwyddor fawr sydd yn rhedeg drwy gyfnewidladau masnachol yd- yw, gwerthu yri y farchnad ddrutaf a phrynu yn y farchnad rataf. Mae hyn yn cleg a gonest yn mhawb; ond ffolineb o'r mwyaf ydyw rhedeg pris unrhyw nwydd i lawr, a'i werthu am yr hyn a gostiodd, neu lai na hyny. Ni dderbynia neb fudd ac elw drwy hyny. Mae elw bob amser yn nglyn allafur; ac nid oes dim ond llafur yn cynyrchu eiddo. Dylai y chwarelwyr iawn brisio eu llafur a'u heiddo, ac os na wnant hwy hyny, oferedd dysgwyl i eraill wneyd. Mae yr adeiladwyr a benderfyn- ant ddefnyddio llechi i doi eu tai, yn sicr o wneyd hyry hyd yn nod pe byddai y pris yn ddwy ddolar y scwar yn fwy nag ydyw yn awr; gan hyny, y mae yn amIwg mai yr ymrysonfa rhwng y man werthwyrllechi, i werthu am yr isaf, ydyw prif achos y marweidd-dra presenol. Diau fod digon o ddealldwriaeth a doethineb yn mhlith y masnachwyr llechi i ddyfod i ddealldwr- iaeth gyda golwg ar y prisiau. drwy sef- ydlu safon neu fath o undeb i sicrhau cyf- logau ac elw priodol yn eu masnach. Fel y canlyn yr ysgrifena chwarelwr ymarferol ar y pwnc: CYNLLUN I SEFYDLU PRIS LLECHI. GRANVILLE, N. Y., Ion. 6.—Fel y mae yn hysbys yn ardal Vermont a New York, ac i chwithau fe ddichon, Mri: Gol., nid ydyw Mr. Panic wedi ein gadael ni y chwarelwyr eto; yn hytrach, maeyn gosod ei law yn drymach arnom y naill ddydd ar ol y llall, ac yn ol pob tebyg y bydd llawer o honom yn gwybod trwy brofiad, beth fydd cyfyngder cyn y gwanwyn nesaf, os na chwal y cymylau yn fuan Yn sicr, y mae yn dywyll iawn yma yn bresenol. Gan fod ugeiniau allan o waith trwy yr ardal- oedd hyn, a Ilawer o'r rhai sydd yn gweith- io yn enill ond prin ddigon i'w cadw uwch- law angen, pa le yr ymddengys y rhai sydd yn enill dim? O'r ochr arall nis gall perchenogion y man chwarelau hyn roddi eyflog uchel i'r gweithwyr am eu llafur, o herwydd y prisiau isel a dderbyniant am y llechau werthir ganddynt. Ond nid y gweithwyr sydd i'w beio am hyn; na, wrth ddrws y perchenogion y saif y bai mawr hwn. Tua dwy flynedd yn ol yr oedd prisiau y Sea Green yn $4 y scwar; y purple o $5 i $6 y scwar, a'r Ever Green o $4 50 i $5. Safon y Sea Green yr haf diweddaf ydoedd o $3 i $3 12; felly gwel y darllenydd fod yn agos i ddolar o ostyngiad yn mhrisiau y mathau a nodwyd. Pan mewn gwirionedd, mai y Sea Green fu yr achos o'r cyfan, yr ydwyf yn credu y gallesid yn hawdd ddal prisiau yr holl fathau yn y safle yr oedd ddwy flynedd yn ol, pe gwerthasid y Sea Green am yr hen bris, yn lIe fod y naill gwijini fel y Hall am y goreu i dynu y prisiau i lawr, a thrwy hyny wneyd eu goreu i dori pen naill y llall. Ychydig fu galwad am yr Ever Graen a'r purple yr haf diweddaf, o herwydd fod digonedd o'r Sea Green yn y farchnad am brisiau rhy isel o lawer. Mae bron bawb yn ddiwahaniaeth yn dewis to o'r Sea Green, am y gellir ei wneyd yn hynod o rad-ac o ran hyny gwna y Sea Green do mor hardd a'r un math o lechau a godir yma; ond y bai mwyaf sydd ar y llechi yw na ddaliant eu lliw gystal a'r Ever Green a'r purple. Pa fodd bynag, pe collai y Sea Green eu lliw yn mhen yr awr ar ol eu gosod ar y to, gwerthir hwy yn rhy isel o lawer. Yn awr, pa fodd y gellir cael yr hen brisiau am y llechau? Dyna y gofyniad sydd yn ym- gynig yn barhaus i'r meddwl. Ai trwy i bawb a feddant ar law gyflawnder o'r Sea Green redeg i'r farchnad, a chynyg gwerthu am yr isaf bris? Na, choeliaf fawr. Hyn sydd wedi cael ei wneyd yn ormodol o lawer yn yr amser a aeth heibio, ac yn bresenol o ran hyny. Yn y dull yna, ni ddaw prisiau byth i'w hen safle; yn hytrach os na chawn ryw gyfnewidiad, i lawr yr ant yn barhaus, a'r diwedd fydd atal y chwarelau, ac i'r perchenogion fyned i bedlo lhyw fan-nwyddau eraill. Apel- iaf at bawb, heb nodi neb i ddyfod i'r maes a ffurfio undeb cydrhwng Poultney, Gran- ville a West Pawlet, a gwneyd un cwmni o'r man gwmniau sydd yn perchen Sea Green. Yna penoder rhyw ddyn cyfrifol i werthu yr oil o'r llechau, a rhaner yr arian ar gyfartaledd cydrhwng pob chwarel yn ol y nifer a werthant. Ond mabwysiadu cyfundrefn fel hon, nis gallai neb estyn ei fys at arall a dweyd nad ydyw ef yn talu yn fisol, a thrwy hyny wnn-galoni eraill. Cof- ier na fydd gan neb hawl i lenwi unrhyw archeb (order), ond yr hwn a benodir i werthu y cyfan; ond bydd efe i chwilio am ddynion cyfrifol yn mhob dinas a chymydogaeth i brynu y "Sea Green" am y prisiau y penderfynir arnynt, gan gau allan y man "staleriaid," sydd yn prynu heb, fe ddichon, ganddynt ddigon o gyfalaf (capi- tal) i dalu am gludo y llechau. Os gellir Ilwyddo i ffurfio undeb o'r fath, bydd yn ofynol i'r man slateriaid brynu gan y prif ddynion a nodir, a thalu am danynt cyn yr elont ar y tO; ac felly ni cheir colledion. Mae llawer o'r man slateriaid hyn i'w cael ar hyd ein gwlad. Anfonant am lwyth car o lechi, a gwntir brys i lenwi yr archeb heb edrych a ddaw tal ai peidio. Os bydd y person yn onest, dichon y ceir tal; ond os anonest fydd, ni cheir ar lwynog ond ei groen. Yn awr, berchenogion y Sea Green, a wnewch roddi cam yn yr iawn gyfeiriad? Na fydded i neb fod yn dram- gwydd nac yn graig rhwystr-na fydded i neb fod yn rhy annibynol. Tafler heibio bob peth o'r fath; a gofaled y cwmniau am les y gweithwyr yn gystal ag am eu hunan- elw. Bydded i'r flwyddyn 1876 fod yn flwyddyn ag y cofir am dani yn mhen blyn- yddau lawer. Edrychwn i Gymru a chym- erwn ein brodyr yno yn esiampl. HEN CHWARELWR.
Y CYJ.YBY A'R WYL CANMLWYDDOL
Y CYJ.YBY A'R WYL CANMLWYDDOL Ffurfia y flwyddyn hon gyfnod pwysig yn hanes Gwerinlywodraeth y Talaethau Unedig, sef cwblliad ei chan' mlwydd cyntaf, ar y 4ydd o Orphenaf nesaf. Pym- theg mlynedd yn ol daroganodd gau broff- wydi Toriaidd fod Gwerinlywodraeth wedi troi yn fethiant, yr hyn oedd wrth fodd calon penau coronog Ewrop; canys myn- ant hwy gredu eu bod wedi eu geni i lywodraethu eraill, ac nad diogel ymddir ied llywodraeth wladol yn nwylaw y bobl. Torodd allan y gwrthryfel grymusaf a wel- wyd erioed, a'i brif amcan oedd diuystrio Gwerinlywodraeth, annibyniaeth, a rhydd- id; ond daeth ffurflywodraeth America all- an o'r pair poeth yn burach nag y bu er- ioed. Eleni cawn yr anrhydedd o ddathlu ei chanrif cyntaf; ac mewn trefn i wneyd hyny yn briodol, rhaid i ni ddangos ei chynydd yn mhob peth sydd fuddiol a da. Cymerodd y Cymry ran amlwg yn sefydliad y Llywodraeth, ei rhyfeloedd dros annibyniaeth ac iawnderau dynoliaeth. Pan wnaed ymosodiadau gwrthryfelgar ar ein bodolaeth fel cenedl yn y rhyfel car- trefol, yr oedd digon o wirfoddolwyr Cym- reig yn barod i aberthu eu cysuron cartref- ol, ïe, eu bywydau, ar allor eu gwlad; ac mae gweddillion llawer o honynt yn awr yn gymysgedig it'r pridd yn y Talaethau Deheuol. Mae enwau Cymreig yn britho hanes y Talaethau Unedig o'r eyfnod bor- euaf hyd y dyddiau presenol. Gan ein bod wedi gwneyd ein rhan yn amlwg yn mhob symudiad pwysig yn y Talaethau Unedig, na fydded i ni anghofio yr Wyl GanmlwyddoL Er fod y Cymry yn ddinasyddion Americanaidd ffyddlon a gwrol, nid ydym drwy hyny wedi anghofio nac abertbu ein sefydliadau a'n defodau cytienid fel cenedl. Mae ein hiaith, ein llenyddiaeth, a'n crefydd, yn anwyl gen- ym, ac yn agos at ein calonau. Dinas noddfa yw America, lie yr ydym yn cael ein hamddiffyu yn y mwynliad o'n sefydl- iadau. Ein prif sefydliad henafpl ydyw yr EISTEDDFOD; ac mae yn dda genym weled fod symudiad mewn bwriad i gynal un yn Philadelphia, yn ystod yr haf nesaf. Byddai i hyny osod bri ar yr Eisteddfod yr ochr hon i'r Werydd; ac os cynelir un eleni, diau y bydd i'n disgynyddion efel- ychu ein hesiampl yn mhen can' mlynedd eto. Yr anliawsder mwyaf ydyw fod yr amser wedi rhedeg yn mhell; ond dichon y geliid gwneyd rhywbeth, a hyny yn effeith- iol, ond ymaflyd yn y gorchwyl yn ddioed. Mae genym hanes am Eisteddfodau wedi cael eu cynal yn y 5ed, 6ed, 7fed, a'r 9fed ganrif; ynayn 1070, 1100, 1176, 1200, 1450, 1623, ac yn mlaen hyd yr amser presenol. Bydded i ni ymuno yn y symudiad, ac ad- newyddu anfarwoldeb yr Eisteddfod yn yr Wyl Ganmlwyddol, fel y dyrchafom ein llenyddiaeth i sylw gwahanol genedloedd y ddaear. Mae barddoniaeth wirioneddol yn drysor anmhrisiadwy, ac mae yr awen yn dyrchafu y meddwl oddiwrth yr hyn sydd isel a gwael, at yr aruchel, y coeth, y prydferth, yr ysbrydol, a'r anfarwol. Gall yr awen ymgyfathrachu yn naturiol a theithi tyneraf ein natur; a gwrthddrychau ei hyfrydwch ydyw y pur, y telaid, y pryd- ferth, a'r arddunol. Bydd cynal Eistedd- fod yn Philadelphia hefyd yn rhoddi cyfle campus i Gymry America—yn enwedig Gymry Pennsylvania, i ddangos eu gallu fel cantorion. Arweinyddion corau Lu- zerne! codwch ati yn ddioed. Gyda hyn o awgrymiadau, yr ydym yn cyflwyno i sylw ein darllenwyr y llythyr canlynol a dder- byniasom oddiwrth y Parch. R. R. WIL- LIAMS, Minersville, Pa. EISTEDDFOD YR WYL GANMLWYDDOL YN PHILADELPHIA. MRi. GoL.—Yn ystod yr Eisteddfod yn Miners- ville, ddydd Calan, ymgyfarfyddodd nifer o fonedd- wyr yn swyddfa D. A. Jones, Ysw., er ystyried per- thynas y Cymry a'r Wyl ddynesol. Etholwyd D. A. Jones yn Gadeirydd, ac R R. Williams yn Ysgrifen- ydd. Cynygiwyd i sylw y boneddwyr presenol y pri- odoldeb o gynal Eisteddfod Gyfandirol (Continental) yn Philadelphia, yn ystod rhan o adeg Gwyl Ddathl- iadol genedigaeth cenedl Talaethau Unedig Ameri- ca. Derbyniwyd y crybwylliad gyda chymeradwy. aeth wresog. Adroddwyd yr ymddiddan yn un o gyfarfodydd cyhoeddus Eisteddfod Minersville, a chymeradwywyd yno y syniad yn ddieithriad a chfil- onog, a chydunwyd fod yr Ysgrifenydd i gyfarch llenorion y genedl ar y pwnc. AnwyZGymry-Yr wyf yn teimlo y gallesid cael un llawer cymwysach nami i wneyd hyny; ond yr wyf yn barod i uno ar unrhyw fesur a gyfrano at goethder fy nghenedl, ac yr wyf yn credu y gallai Eis- teddfod o'r fath wneyd hyny, a gwna hyny os cynel- ir hi yn deilwng o'r wyl, o'r genedl, ac yn benafoll o grefydd y genedl. Mae llawer o siarad wedi bod am Gor Mawr" erbyn yr Wyl; ond ymddengys nad oes teimlad cyfiredinol o'i blegid, a byddai yn anhawdd i deimlad Ileol yn unig wneyd unrhyw symudiad o'r fath yn llwyddiant. A phe buasid yn llwyddo, pa faint o'r Cymro fuasai i'w ganfod mewn "Cor Mawr?" Mae Cerdd a lluaws ar amserau yn uno YL- ddi yn perthyn i'r rhan luosocaf, os nid i'r oil o gen. edlaethau y byd; ond am yr Eisteddfod, sefydliad Cymreigaidd ydyw. Gwelir yno y Cýmro yn ei ar- ferion, ei fedr a'i chwaeth. Yn yr Eisteddfod fe geir un o sefydliadau ei fam-wlad. Gwelir yno rai o hynaflaethau y genedl, a bydd yno le i'r cerddor, y bardd, y traethodydd; mewn gair, i'r lienor o un- rhyw chwaeth. Nidamceniryn y cyfarchiad hwn, nac yn y mud- iad, at ddim lleol, enwadol na phersonol. A gawn ni ynte ofyn am deimlad cyd-fesurol a'r cyfandir, teimlad a ddeallir o Maine hyd Georgia, o'r Llyn- oedd hyd y Llynclyn, o'r Werydd hyd y Tawelog; teimlad a grea weithgarweh a haelfrydedd trwy ddyff- rynoedd y St. Lawrence, y Mohawk, y Lackawanna, y Wyoming, y Lehigh, y Schuylkill, yr Alleghany, y Monongahela, yr Ohio, a'r holl ddyftVynoedd a dy. walltant y nfrydiau a wnant y Mississippi The Father of Waters" yn wir. A wna ein llenorion trwy yr holl wlad gymeryd y pwnc hwn dan ei hystyriaeth ar unwaith? A wna y cenedlgarol a chefnogwyr Eisteddfodan yn mhob ar- dal alw cyfarfod ethol pwyllgor, a ddanfon eu syr. iadau at yr ysgrifenydd; a chynyg befyd fod cyfarfod i'r pwyllgorau, neu brwyadwyr, fyddo mor agos ag y ge.lir ei gael yn ganolbartifol-maii ar gyfrif ei leol- deb a dynai luaws yno? Gallasai yr ysgrifenydd yn rhwydd benodi lie ac amser; ond ofna y golygid ef yn cymerydmwy arno nag a ddylai, a thrwy hyny beri i lawer edrych yn rhagfarnllyd ar y mudiad. Dylai nifer gyfarfod mewn le er perffeithio cynllun, a wna y syniad dan sylw yn llwyddiallt. Rhaid pen- odi amser yr Eisteddfod, rhyw adeg gyfleus o fewn chwe' mis yr Wyl. A dylai y cyfarfod a geisiwn, ethol pwyllgor galluog er uno ar destynau a gwaith yr Eisteddfod. Nid oes amheuaeth ynom y codir y drysorfa, ond cael teimlad cyffredinol yn ffafriol i'r anturiaeth. Mae Cymry cyfoethog yn y Talaethau. Unedig hwyrach y geliid dynesu atynt ar ypwnc. Na ddyweded un "Nid oes bellach c:c!L,on o amser," oblegid y mae digon 0 amser ond ,,(I,Jdnyddio. Os eir at y gorchwyl heb oedi, fel y gdi ar unwaith gyhoeddi fod yr Eisteddfod yn Saith, yna daw i ben yn anrhydeddus. Diau y bydd i fllocdd o Gymry y Talaethau Unedig fynediPhiiadpiphia ar un neu y lleill o adegau yr Wyl. Byddai yn hyfryd i ni gwrdd- vd yno ar yr un adeg. Meddylir y bydd rhagorfreint- iau hynod o deg ar y reilffyrdd ac ar yr agerlongau, a diau daw Ewropiaid wrth y miloedd trosodd. A fyddai yn ormod i ri ddisgwyl gweled llu o lenorion, ie, o brif ddysgedigion Tywysogaeth Cymru, yn gan- torion, yn feirdd a siaradwyry yn dyfod trosodd? A phaham nad ellid sicrhau cystadleuaeth gerddorol na bu ei gyffelyb ar y eyfandir hwn, os ar y blaned hon- A phe gosodid y corau yn nghyd mewn cyngherdd, gellid cael "Cor Mawr;" ie, cor a fyddei yn wir fawr, cor a daflai hanesiaeth corau mawrion yn hollol i'r cysgod. Mae galwad am frys. Lenorion! deffrowch ar unwaith. Hyderaf fy mod wedi dweyd digon i'ch galluogi weled yr amcan mewn golwg, ac nad ydym wedi dywedyd gormod, nes peri gwendid lie mae eis- iau nerth. Minersville, Pa. R- R- WILLIAMS.
[No title]
SYLWER ar Hyabysiad Mr. G. T. MATTHEWS, New York, mewn colofn arall. Mae Mr. Matthews yn Gymro, a bydd y Te a gynygir ar werth yn sicr o roddi boddlonrwydd i gwsmeriaid. Mae yn awyddus aIll gael Agents yn mhob ardal Gymreig; ysgrifener ato i 410 E. 17th Street, New York.
[No title]
MINERAL RIDGE, O.-Ar y dydd cyntaf o'r flwyddyn, cynaliodd Ysgol Sabbotl^ol yr Annibynwyr ddau gyfarfod hynod ddyddorol yn ystafell yr Odyddion. Llyw- yddid y ddau gyfarfod gan eiu parchus weinldog; ac yr oedd yr adroddiadau a'r canu yn dda dros ben. Nos Fawrth, Ion. 4ydd, talodd yr efengyles Rallelo Fon ym- weliad a ni. Buom yn ei gwrando yn pregethu, ac yr oedd yn ei hwyiiau goreu. Rhwydd hynt iddi fyned ynmlaen i wneyd dfdoni, yw dymuniad—Ap Earri.