Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

RHEW AC EIRA.

Y FL WYDD TN NEJYYDD.

CYPARCHIAD PRIODASOL

MA1R YN ENEINIO'R IESU.

TAITH I OHIO.

NEWBURGH, 0.

News
Cite
Share

NEWBURGH, 0. Cynaliwyd Eisteddfod Iforaidd New- burgh ar ddydd Calan y Centennial, yn ol yr hysbysiad am dani. Trefniant y dydd ydoedd fel y canlyn: Gal wyd y cyfarfod i drefn gan Mr. J. D. Lewis, a chymerwyd* y swydd lywyddol gan y Parch. J. Jones (A.), a'r is-lywyddiaeth gan y Parch. Wm. Harrison (M. C). Araeth agoriadol daraw- iadol, a llawn o dan Cymreig, gan y llyw- ydd; Anerchiadau gan y beirdd yn llawn slips i gyd; Can agoriadol gan y Proffeswr Miles, Brookfield, nes oedd pawb mewn hwyl i ddechreu ar y gweithrediadau; Cys- tadleuaeth dadganiad y Solo Tenor, Cadair Idris, gan saith o bersonau, a rhanwyd y wobr rhwng T. Jones a J. D.Lewis; Beirn. Dr. Thomas, Pittsburgh, ar y Traethodau ar y Proffwyd Daniel—tri o ymgeiswyr, a rhanwyd y brif wobr rhwng Rees D. Lewis a Daniel Thomas, a'r ail i J. W. Jones; Cyst. ar y Solo Bass, 'Arnat Ti y Llefais'— goreu o bump Rees Roberts; Cyst. Caniad Y Ddau Forwr—R. Roberts ac E. Leigh- ton yn unig,ac yn deilwng o'r wobr; Beirn. ar y Gan ar Losgiad Nawddle y Gwallgof- iaid-un cyfansoddiad, ac yn deilwng o'r wobr, sef J. D. Lewis; Cyst. gan ddau gor o blant, dan arweiniad J. D. Evans ac R. Roberts, ar y Don Hark, 'tis the Bells- rhanwyd y wobr rhyngddynt; Cyst. ar y Don 'Dusseldorf'—cor J. D. Evans a chor R. Roberts yn gydfuddugol; Beirn. ar yr Englyn i'r Ariandy—goreu o ddau Giraldus Wyn; Cyst. Areithio difyfyr ar Nwy, 7 yn ymgeisio, rhanwyd y wobr rhwng C. George a J. A. Jones; Can ddiweddol gan Miles, a'r dorf yn uno yn y cydgan. Cyfarfod 2 oir gloGh-Araeth agoriadol gan y Parch. W. Harrison; cyst. caniad Solo Bass, 'I'll Praise Thee, 0 Lord'—goreu o 6 J. D. Evans; Beirn. ar yr englyn i Beiriant Tan Newburgh—goreu C. George; cyst. caniad Hiraeth Cymro, o Delyn yr Undeb, dau barti, R. Roberts a'i Gyf. yn oreu; Beirn. ar yr Arlun o Front View Neuaad gyhoeddus Newburgh-D. W. Jones yr un- ig ymgeisydd, ac yn deilwng; Beirn. ar v Don at wasanaeth y Gobeithlu gan Proff T. Hopkins, Ravenna, O.-dau gyfansodd- iad, ac yn gydfuddugol, ac ymddangosodd y ddau awdwr yn yr un person, sef J. D. Evans; cyst, caniad yr Alaw Gwenith Gwyn, gan farched—goreu o 7 Eos Glyn Ebwy, sef Mr, H. A. Jones; cyst. adrodd- iad darn o'r. 'Rhyf el Cartrefol' (Gabintwr)- goreu o 3 J. E. Davies; Beirn. y Gan ar Ferthyrdod Stephens yn Mexico—J. D. Lewis yr unig ymgeisydd ac yn deilwng; cyst. chwareu y Dou Codiad yr 'Hedydd ar y Concertina—goreu o 2D. Griffiths; beirn. y Traethawd ar Yr Areithfa—goreu o 2 J. Bevan, Cleveland; cyst. chwareu y Don Melancthon ar yr Organ—goreu o ddau E. Leighton, Cleveland; beirn. y Bryddest ar Crist yn porthi y Pum' Mil-J. Bevan a J. D. Lewis yn gydfuddugol; cyst. caniad yr unrhyw Chwelgan oreu—goreu o ddau barti R. Roberts a'i Gyf.; cyst, caniad corawl y Blodeuyn Olaf—rhanwyd y wobr rhwng y ddau gor a enwyd yn flaenorol. Dygodd hyn weithrediadau cyfarfod y prydnawn a'r Eisteddfod i derfyniad; ac mae yn llawen genyf ddweyd i'r oil gael ei gario allan yn ddyddorol, adeiladol athangnefeddus. Yn yr hwyr c.awsom gyngerdd ardderch- og, yn yr hwn y cymerwyd rhan gan y personau canlynol; Miss Annie Evans, Miss Annie Jones,Proff. Miles, Miss Annie Rees, R. Roberts a'i Gyf., Mr. a Mrs. J. Morris, Mr. a Mrs. Leighton, W. Bowen, a'r Cor. D. F. LEWIS.

WILLIAMSBURGII, IOWA.

DINAS NEW YORK.

MORRIS RUN, PA.