Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
RHEW AC EIRA.
RHEW AC EIRA. Hyfryd y nos fydd diddosfa—os daw Ystorm rew ac eira; Mae'r awydd, pan lym rewa, Yn tynu dyn at dan da. Plu eira'n daenfa drwy'r dydd-a welir Hyd waelod y meusydd; A gwyra'r haul tan geurydd, A'r wybren heb seren sydd. Yna'r awel yn merwmo'r ewin, Oddiar y Hi, o'r gogledd-orllewin, Yn awr a chwytha yn oer a chethin, I gynddeirioci gwyniau y ddryghin; A daw lluwch y dywell hin-trwy bared Y tO i waered teiau y werin. Rhoi addfwyn blant mewn gorweddfa-gysgu, Mewn gwasgod o eira; Drwy ing y baban drenga, A'i dyner rtidd dan yr ifit V Distryw mawr lied y 'storm hon A ddaliodd yfforddolion; Cyfyngder a dwysder du Dy wyllwch yn eu dallu; Rhewog ias yn minio'r gwynt, A'r eira'n trymhau'r oerwynt; A gw6n oedd fel heulwen hil', Yn oerach na'r gwyn eira. Daw y noson hon i ni A thranoeth ei thrueni, Tirion rudd wedi troi'n rhew, A dau oerach na'r durew; A llawer llongwr gwrol, Gan yr aig a gawn ar ol. Yn aig y don, pan gadwyna-y rhew Yr hwyl, teimlir gaua'; Ystorm hyllaf oeraf ia, Ar y m6r, yw 'storm eira. Fairhaven, Yt. IONDEON GLAN DWYRYD.
Y FL WYDD TN NEJYYDD.
Y FL WYDD TN NEJYYDD. Yr ail oreu yn Eisteddfod Utica. Bu farw'r hen flwyddyn a'i hanadl olaf Wrth drengu ar fynwes distawrwydd y nos, A ddygodd i fywyd y flwyddyn ganmlwyddol A thaenodd gorfoledd dros ddyffryn a rhos; Yn swn y magnelau a chaniad y clychall Mil fil o galonau a deimlent foddhad, Wrth estyn croesawiad i'r flwyddyn bresenol, Sef blwyddyn canmlwyddiant i ryddid ein gwlad. Mae calon pob Cymro er teimlo'n frwdfrydig Gan sel annibyniaeth a rhyddid ein gwlad, Er hyny yn berwi gan deimlad gwladgarol I feithrin llenyddiaeth ac iaith Cymru fad; Rhaid dechreu y flwyddyn trwy gynal Eisteddfod, Byw byth y bo awen barddoniaeth a chan, Byw byth fo'r Eisteddfod i ddyfod bob Calan, I gadw gwladgarwch y Cymry ar dan. Vtica, N. 1. CTNWAL. 1.
CYPARCHIAD PRIODASOL
CYPARCHIAD PRIODASOL Mr. Edmund D. Thomas a Miss Mary A. Jones, San Francisco,, Calif. Ar fin y Mor Tawelog Ychydig flwyddi'n ol, Cyfododd seren fechan Lewyrchai fryn a d61; Cynyddodd mewn maintioli, Ac mewn disglaerdeb ter, N es dyfod yn nodedig 0 hardd yn mhlith y ser. Yn nghyfnod ffawd a llwyddiant Ar fynwes Cymru wen, Fe welid ser y nefoedd Yn gwenu werth el phen; Fe ddygveyd baban bychan I fyd y cnawd i fyw, A'r merched a ddywedent— Rhyw angel bychan yw!" Ar ol i'r angel" dyfu A dod yn gryf mewn nerth, Fe deimlodd fod ei natur Am rywbeth uchel werth; Atheimlodd mai y rhywbeW Oedd seren, siriol, draw Yn eithaf y gorllewin- Aeth yno maes o law. Nid hir y bu yno cyn canfod y seren," A theimlodd bob pryder o'i fynwes yn ffoi; Aeth ati-mynegodd yn eofn ei neges, A thrysor ei galon wtiaeth iddi ddadgloi. Mae'r "angel" a'r "seren" yn awr mewn amodiad, Yn modrwy dedwyddwch i gydfyw eu hoes; 01 bydded i'r nefoedd roi gwenau a llwyddiant A mor o dangnefedd heb awel yn groes. San Francisco. OBEDOG.
MA1R YN ENEINIO'R IESU.
MA1R YN ENEINIO'R IESU. GAN DAFYDD Y GAREG WEN, YOUNGSTOWN, 0. Mor werthfawr ydyw cariad yn ein plith; Rhyw elfen bur nefolaidd hyfryd yw; Yr elfen oraf welodd dyn erioed. Mae'n elfen gadarn fel mynyddau'r bJd, Yn nerthol fel y daran drystfawr groch, Yn fywiog fel y fellten fflamgoch wyllt, Yn eang a mawreddog fel y mor, Yn brydferth fel yr haul yn mhorth y wawr, Ac yn anfarwol megis Duw ei hun. Tin 0 weithredoedd enwog cariad oedd Enemiad Iesu Grist gan Mair, draw, draw, Yn nhref Bethania, 'r hon a safai'n wych, Mewn esgid hardd o flodau teg eu gwawr, Dan gysgod aden glyd yr olew-wydd. Tebygol yw fod swper, neu ryw wledd Ddanteithiol. wedi cael ei pharotoi Dan gronglwyd Simon, gan gyfeillion Crist, Er prawf o'u cydymdeimlad ato pan Oedd yr Iuddewon gwancus am ei ladd; A thra'r oedd I su'u eistedd wrth y bwrdd Daeth Mair a blweh o enaint yn ei llaw, Gan dywallt ei gynwysiad ar ei ben. Y gwyddfodolion a ryfeddent oil Wrth wel'd y weithred anghyffredin hon, A Judas gynddeiriogai megis llew, Gan sibrwd wrth ei hun y geiriau hyn: Y fath ffolineb, y fath wastraff mawr, Rhoi enaint gwerthfawr ar ben bodyn gwael; Mwy cyflawn f'asai rhoddi'r arian hyn I mi, neu eraill o'r dysgyblion, fel Y rhoddem hwynt i'r tlodion 11 wm; ondah! Pe digwyddasai im' eu cael im' llaw Dodaswn hwynt yn ddirgel yn fy n^bod, A rhoddwn her i unrhyw ddiafl eu dwyn Tra'r ydoedd Judas a'i fradwrus In Am ei draddodi i'r Iuddewaidd leng, 'Roedd Mair yn barod i'w gofleidio ef. Pan ydoedd Archoffeiriaid ac Henuriaid brwnt Yn brad-gynllunio i ddwyn ei einioes gu, 'Roedd Mair yn tywallt enaint ar ei ben. Pan y grwgnachai y dysgyblion gan— Ymholi I ba beth bu'r golled hon?" Fe wyddai Mair fod Ef ei Hun o'i phlaid. Roedd cariad Mair at Iesu Grist mor gryf (Pe b'asai hyny'n bosibl idd ei wneyd) y rtoddasai holl aur berlau'r byd, A noli flodionos pert y ddaear lawr, enfyB dlo8i y ger) y noer, a'r haul, J ? „ or au heirdd modrwyog am ei wddf Ac yn goronau disglaer ar ei ben. Yn 1 menywdlawd xn tywallt enaint ar ben Brcnin Rhyw arddangosiad o egwyddor oedd A llygad crafE dychymyg gweiaf Ma. Y fynyd hon a'r enaint "yn eTIlaw air Tywallta ef mor esmwyth ar ei ben Ag y dyfera mwyn gawodydd haf- A chredu'r wyf fod aagrau cariad pur Yn gloyw-dreiglo dros ei gruddiau tea Mor hardd a gloyw wlith y nos Ar ruddiau tyner lili wen y maes; A thebyg yw fod engyl gwynfa lan Yn edrych lawr dros aur ganllawiau'r nef I fwthyn bychan Simon, pan oedd Mair' Yn gwneyd y weithred fendigedig hon;' Ac fel yn barod i roi llam i lawr O'r nefol fro i hen Bethania dref, I daenu trosti eu hadenydd claer Pe cynygiasid ei niweidio hi. Yr enaint hwn oedd lfrwyth planhigyn* prid A dyfai'n hinsawdd India'r Dwyrain draw; A chedwid ef mewn celfydd flychau cain 0 alabaster caled llyfn teg; Ei.bris oedd uchel. a'i berarogl oedd Fel balna yn rhoi iachad i'r enaki trist; Dewisodd Mair nwydd drud a gwerfhfawr i Eneinio Crist, am hyn caiff ei chofihau. Chwychwi genadon hedd, dysgyblion Crist, Plant goleuedig yr ysgrythyr liln, Cyhoeddwyr iachawdwriaeth gras, I fyd o bechaduriaid euog tlawd, Cyhoeddwch chwi o areithfau y byd, Rinweddau Mair yn nghlyn a'r weithred hon. Ble bynag y pregethir enw Crist, Pregether hefyd am ei henw hi; Fendigaid Fair I ei henw fydd mewn bri, Tra y chwareuir telyn yn y nef; Tra cofir am yr Hwn fu yn y byd, Fe gofii am yr hon a'i carodd ef; Cofnododd Duw a'i santaidd law ei hun Y weithred hon ar lyfrau'r nefoedd fry, A phan y ffiamia testamentau'r byd Dydd angladd trist y greadigaeth fawr, Bydd enw Mair yn fyw ar lyfrau'r lor, Yn gorddisgleirio yn ngoleuni'r nef, Hyd byth mewn llythyrenau pur o aur. *Dywedir mai sudd neu nodd planhigyn o'r enw Nardastachys, yr hwn a dyfai yn yr India Ddwyrein- iol oedd yr enaint hwn. 1
TAITH I OHIO.
TAITH I OHIO. BARCIIUS OLYGYDDION Y DRYCH: Bum yn ddiweddar yn rhoddi tro yn fy hen ddyddiau, trwy ran ddwyreiniol o Dalaeth Ohio, a chan fy mod wedi addaw i rai o'r cyfeillion a gyfarfyddais yno y buaswn yn ysgrifenu ychydig o hanes fy nhaith i'r bjivcii, diolchwn i chwi am fod mor gared- igra' chaniatau lie i'r ychydig linellau can- lynol yn eich newyddiadur anrhydeddus. Cychwynodd yr hen wraig a mmau oddi- cartref (Jermyn, Swydd Luzerne, Pa.,) ddydd Mercher, Hyd. 27ain, gan fyned gyda'r Del. a Hudson i Scranton, ac oddi- yno gyda'r Del., Lack. & W. R. R. i Bing- hampton, N. Y. Yma yr oeddym yn cym- eryd cerbydau yr Erie R. R., a gallaf dystio mai dyma y rheilffordd fwyaf an- rhydeddus y bum i yn teithio ar hyd-ddi erioed yn fy mywyd. Y mae y cerbydau yn orwych, y swyddogion yn barchus, hyfforddus a gofalus, a'r train yn teithio gyda chyfiymdra anarferol, gan wneuthur rhyw 35 milltir yr awr; ac y maent yn gyff- redin, fel y dywed y Sais, on timeyn y gwa- hanol orsafoedd. Teithiasom fel hyn trwy drefydd mawr- ion Owego, Waverly, Elmira, Corning, Hornellsville a Salamanca. Yn y lie di- weddaf yr oeddym yn newid eto, ac yn cymeryd cerbydau yr Atlantic & Great Western R. R., ac yn fuan yr ydym yn cael ein hunain yn ol y tu fewn i derfynau Talaeth Penn., gan deithio yn y nos trwy drefydd mawrion Corry & Meadville. O'r diwedd cyrhaeddasom Warren, prif ddinas Swydd Trumbull, Ohio, ac er ein bod wedi teithio amryw ganoedd o filldiroedd, yr ydym yn cael ein hunain yma eto on time am bump o'r gloch yn y boreu. Ar blatform gorsaf Warren, cyfarfuasom a'n hanwyl fab Eleazer, yr hwn oedd wedi dyfod o Youngstown i'n cyfarfod, a thrwy groesi mewn omnibus o un ochr i'r llall i'r ddinas, a chymeryd cerbydau yr Ashtabula, Youngstown & Pittsburg R. R., llwydd- asom i gyraedd Youngstown am haner awr wedi chwech yn y boreA, neu bedair awr yn gynt na phe buasem wedi myned trwy Levittsburg-y ffordd gyffredin. Felly gallwn ddywedyd i ni gymeryd ciniaw yn Jermyn, Pa., ar y 27ain o Hydref, a boreu- fwyd yn Youngstown, 0., ar yr 28ain, heb orfod cymeryd ond un pryd o fwyd ar y ffordd, er ein bod wedi teithio rhwng ped- war a phum cant o filltiroedd. Yn sicr i chwi, gellir galw y ffordd yma yn Royal Route gyda mwy o briodoldeb na'r un ffordd arall a wn i am dani. Y mae Youngstown yn ddinas hardd, ardderchog iawn, yn cynwys, "medde nhw, ryw bymtheg mil o drigolion. Y mae ei heolydd yn llydain a threfnus, ac er nas gellir canmol rhyw lawer ar sefyllfa bresenol canol y ffyrdd (canys y maent yn llawn llaid fel mortar drostynt oil, ar yr amser yma o'r flwyddyn,) eto, y mae yr ochr lwybrau yn lan a dymunol. Gweithio haiarn ydyw prif fasnach y lie, er fod 1 lawer o weithio glo tu fewn i ychydig fill- diroedd i'r dref, a hyny yn cynorthwyo i wneyd Youngstown yn lie masnachol cyf- rifol iawn. Y mae yma ganoedd lawer o Gymry, a llawer o'r rhai hyny yn ddynion cyfrifol a da. Y mae yma lawer iawn o Gymry crefyddol hefyd, ond y mae lie i ofni fod yma lawer nad ydynt yn meddwl ond ychydig am "yr enaid sydd i fyw byth. Ymae yma gapeli da gan y tri enwad crefyddol-yr A., B., a'r M. Gwanaidd ydyw yr achos gyda'r Methodistiaid, ond y mae gan yr A. a'r B. eglwysi cryfion iawn. Bum yn pregethu i'r Annibynwyr yma y ddau Sabboth cyntaf y bum yn Ohio, sef Hyd. 31, a Thach. 7fed. Cefais gynulliad- au lluosog, gwrandawiad astud, a phob parch a allasai hen bererin 76 mlwydd oed fel myfi ei ddysgwyl. Nos Fawrth, Tach. 9, bum yn pregethu mewn ty anedd ar yr Holmes Road (y ffordd sydd yn arwain o Youngstown i Church Hill), ac yma y cef- ais gyfeillach yr hen bererin a'r Cristion hawddgar, Rees Herbert, yr hwn sydd fel fy hun. "yn tynu tuag ochr y dwfr." Nos Fercher bum yn pregetbu yn Church Hill. Lie enwog iawn am feirdd a llenor- ion yw hwn, ac nid yn ami y bydd y DRYCH yn ymddangos, heb ryw beth ynddo am Church Hill; felly gadawaf y lie yma trwy cldywedyd yn unig, mai mar- waidd iawn ydyw masnach y lie, a gwan- aidd ydyw yr achos crefyddol. Oddiyma aethym i Mineral Ridge. Lie enwog iawn ydyw hwn eto ar dudalenau y DRYCH-Ile yn llawn o Gymry a Chymraeg, a chlywch gymaint o Gymraeg ar yr heolydd yma o'r braidd a phe baech mewn ardal o'i maint yn Nghymru. Y mae yma eglwys fawr, a chapel go lew gan yr Annibynwyr, agweinidog galluog, da a ffyddlawn, yn mherson Mr. Edwards; ac er ei fod wedi derbyn addysg foreuol gyffredinol dda yn yr hen wlad, eto treuliodd ryw bedair blynedd o amser wed'yn yn Athrofa Hudson, Ohio, ac y mae wedi gweithio ei hun yn mlaen trwy lafur caled, a heibio i lawer iawn o rwystrau i fod yn ddefnydd- iol iawn yn ngwaith yr Arglwydd. Gwan- aidd iawn ydyw o gorff, ond y mae ei feddwl yn gryf a nerthol; a mwy na'r cwbl, yr wyf yn gydwybodol gredu fod ei "holl galon" yn y gwaith. Yma hefyd y bu yr enwog a'r anfarwol Cynonfardd yn dechreu ar ei weinidogaeth—y gwr ffraeth a'r siaradwr hyawdl hwnw, sydd erbyn hyn wedi cyraedd enwogrwydd mawr trwy enill Cadeiriau. Oddiyma aethym i West Austintown. neu fel y geilw rhai y lie, "Dutch Ridge." Y mae yma hefyd eglwys fechan gan yr Annibynwyr, a rhai dynion da iawn yn blaenori, ac mi wn fod James B.Jones, Ysw., yn gofi.iio llawer na bai mwy o lewyrch ar yr achos crefyddol yn y lie yma. Y mae rhyw elyniaeth anghyffredin wedi meddianu rhai o lo-feddianwyr y rhan yma o Dalaeth Ohio yn erbyn "Cenedl y Cvm- ry," am eu bod, meddai nhw, vn. twy parcd i edrych am eu hiawnderau na dynion eraill; ac y mae y pethau hyn, yn ogystal a marweidd-dra cyffredinol masnach, yn tueddu i ddylanwadu yn anffafriol iawn ar lwyddiant yr achosion crefyddol mewn rhai manau, ac er yn ddiameu fod bai mawr yn gorwedd wrth ddrys^u cyfalafwyr, am lawer iawn o'r trais a'r gormes sydd yn bodoli y dyddiau yma, eto gobeithio y bydd y Cymry yn y parthau hynyn ddigon call i beidio myned dros ben terfynau eu hiawnderau, ac yn ddigon pwyllog i beidio myned i eithaiion pell wrth ymdrin a'u hiawnderau, rhag dwyn gofid a thrafferth heb ddim achos ar benau eu teuluoedd. Jermyn, Pa. WILLIAM JENKINS.
NEWBURGH, 0.
NEWBURGH, 0. Cynaliwyd Eisteddfod Iforaidd New- burgh ar ddydd Calan y Centennial, yn ol yr hysbysiad am dani. Trefniant y dydd ydoedd fel y canlyn: Gal wyd y cyfarfod i drefn gan Mr. J. D. Lewis, a chymerwyd* y swydd lywyddol gan y Parch. J. Jones (A.), a'r is-lywyddiaeth gan y Parch. Wm. Harrison (M. C). Araeth agoriadol daraw- iadol, a llawn o dan Cymreig, gan y llyw- ydd; Anerchiadau gan y beirdd yn llawn slips i gyd; Can agoriadol gan y Proffeswr Miles, Brookfield, nes oedd pawb mewn hwyl i ddechreu ar y gweithrediadau; Cys- tadleuaeth dadganiad y Solo Tenor, Cadair Idris, gan saith o bersonau, a rhanwyd y wobr rhwng T. Jones a J. D.Lewis; Beirn. Dr. Thomas, Pittsburgh, ar y Traethodau ar y Proffwyd Daniel—tri o ymgeiswyr, a rhanwyd y brif wobr rhwng Rees D. Lewis a Daniel Thomas, a'r ail i J. W. Jones; Cyst. ar y Solo Bass, 'Arnat Ti y Llefais'— goreu o bump Rees Roberts; Cyst. Caniad Y Ddau Forwr—R. Roberts ac E. Leigh- ton yn unig,ac yn deilwng o'r wobr; Beirn. ar y Gan ar Losgiad Nawddle y Gwallgof- iaid-un cyfansoddiad, ac yn deilwng o'r wobr, sef J. D. Lewis; Cyst. gan ddau gor o blant, dan arweiniad J. D. Evans ac R. Roberts, ar y Don Hark, 'tis the Bells- rhanwyd y wobr rhyngddynt; Cyst. ar y Don 'Dusseldorf'—cor J. D. Evans a chor R. Roberts yn gydfuddugol; Beirn. ar yr Englyn i'r Ariandy—goreu o ddau Giraldus Wyn; Cyst. Areithio difyfyr ar Nwy, 7 yn ymgeisio, rhanwyd y wobr rhwng C. George a J. A. Jones; Can ddiweddol gan Miles, a'r dorf yn uno yn y cydgan. Cyfarfod 2 oir gloGh-Araeth agoriadol gan y Parch. W. Harrison; cyst. caniad Solo Bass, 'I'll Praise Thee, 0 Lord'—goreu o 6 J. D. Evans; Beirn. ar yr englyn i Beiriant Tan Newburgh—goreu C. George; cyst. caniad Hiraeth Cymro, o Delyn yr Undeb, dau barti, R. Roberts a'i Gyf. yn oreu; Beirn. ar yr Arlun o Front View Neuaad gyhoeddus Newburgh-D. W. Jones yr un- ig ymgeisydd, ac yn deilwng; Beirn. ar v Don at wasanaeth y Gobeithlu gan Proff T. Hopkins, Ravenna, O.-dau gyfansodd- iad, ac yn gydfuddugol, ac ymddangosodd y ddau awdwr yn yr un person, sef J. D. Evans; cyst, caniad yr Alaw Gwenith Gwyn, gan farched—goreu o 7 Eos Glyn Ebwy, sef Mr, H. A. Jones; cyst. adrodd- iad darn o'r. 'Rhyf el Cartrefol' (Gabintwr)- goreu o 3 J. E. Davies; Beirn. y Gan ar Ferthyrdod Stephens yn Mexico—J. D. Lewis yr unig ymgeisydd ac yn deilwng; cyst. chwareu y Dou Codiad yr 'Hedydd ar y Concertina—goreu o 2D. Griffiths; beirn. y Traethawd ar Yr Areithfa—goreu o 2 J. Bevan, Cleveland; cyst. chwareu y Don Melancthon ar yr Organ—goreu o ddau E. Leighton, Cleveland; beirn. y Bryddest ar Crist yn porthi y Pum' Mil-J. Bevan a J. D. Lewis yn gydfuddugol; cyst. caniad yr unrhyw Chwelgan oreu—goreu o ddau barti R. Roberts a'i Gyf.; cyst, caniad corawl y Blodeuyn Olaf—rhanwyd y wobr rhwng y ddau gor a enwyd yn flaenorol. Dygodd hyn weithrediadau cyfarfod y prydnawn a'r Eisteddfod i derfyniad; ac mae yn llawen genyf ddweyd i'r oil gael ei gario allan yn ddyddorol, adeiladol athangnefeddus. Yn yr hwyr c.awsom gyngerdd ardderch- og, yn yr hwn y cymerwyd rhan gan y personau canlynol; Miss Annie Evans, Miss Annie Jones,Proff. Miles, Miss Annie Rees, R. Roberts a'i Gyf., Mr. a Mrs. J. Morris, Mr. a Mrs. Leighton, W. Bowen, a'r Cor. D. F. LEWIS.
WILLIAMSBURGII, IOWA.
WILLIAMSBURGII, IOWA. Cynaliwyd yr Eisteddfod yma Ion. 3- Llywydd, y Parch. E. J. Evane; Arwein- ydd, y Parch. T. E. Hughes. Wedi cael ton gynulleidfaol, ac anerchiadau agoriad- ol gan y llywydd a'r beirdd, Darllenodd y llywydd feirniadaeth y Parch. Lewis Mer- edith ar y Farddoniaeth. Buddugwyr-Ar yr Alareb am y diweddar Barch. D. Price, Thos. A. Jones, Williamsburg; Un ar hug- ain oed, Dr. J. E. Jones: neb aryrenglyn- ion. Unawd i ddynion-John H. Jones yn fuddugol; Beirn. y Parch. W. Watkins ar y Traethodau, Elfenau Llwyddiant Am- aethwr yn Iowa-Mrs. Wm. T. Roberts, Old Man's Creek, yn oreu o 3; ar Ddylan- wad y Tafod, Mrs. W. T. Roberts yn oreu o 3; darllen—T. E. Hughes yn oreu o 5; Triawd gan T. J. Evans a'i Gwm.; adrodd- iad,Dic Shon Dafydd,gan Dorothy Hughes; Areithio difyfyr ar Wy-T. W. Davies yn oreu o 6; dadganu y Don 'Dusseldorf'—J. H. Jones a'i Gwm. a J. T. Jones a'i Gwm. yn gydfuddugol; adroddiad y Cecryn gan R. C. Jones. Am 7 yn yr hwyr, agorwyd y cyfarfod drwy ganu, vna cafwyd anerchiadau gan y Parch. M. E. Davies, Cambria, Wis., a chan y beirdd; Can a Chydgan gan J. H. Jones a'i Gwm.; adroddiad gan Thomas W. Davies; araeth, Y Diffyg ymddiried sydd yn y Byd-R. C. Jones goreu o 2; Deuawd gan E. H. Jones a'i Gyf.; adroddiad gan T. P. Jones; Can, J. H. Jones; adroddiad, Libbie Evans; Can, Lizzie A. Jones; Canu difyfyr—goreu o3 J. T. Jones) Can a Chyd- gan, J. T. Jones a'i Gwm.; Unawd, Kittie Jones; caneuon gan y Parch. M. E. Davies a'i Gwm. Wedi ethol Pwyllgor Eistedd- fodol at y flwyddyn hon, &c., terfynwyd drwy ganu 'Hen Wlad fy Nhadau' gan y Parch. Mr. Davies, y gynulleidfa yn uno yn y cydgan. Cafwyd cyfarfodydd da a hwyliog, a chredwn fod y sefydliad hwn yn mhlith Cymry Iowa yn graddol enill nerth. Daliwn ati nes y deuwn o flwyddyn i flwyddyn yn fwy deallus a choeth yn mhob gwybodaeth fuddio1. YSG. GOIIEBOL.
DINAS NEW YORK.
DINAS NEW YORK. (ODDIWRTH EIN GOHEBYDD.) NEW YORK, Ion. 6—Y mae poblogaeth y ddinas hon mor fawr, a'r temtasiynau i ddrygioni mor lluosog, fel nad yw yn rhyf- edd ar ryw ystyr fod cymaint o droseddau yn cael en cyflawni. Y mae natur y tvo. seddau a'u canlyniadau er hyny yn fwy amrywiol nag achlysuron neu gynhyrfiad- au y cyflawniadau o honynt. Nid oes dadl nad meddwdod yw y prif gymhellydd ac ysgogydd. Gellir olrhain aehau cymdeith- asol ein prif ddrwg-weithredwyr i'r fagwr- fa wenwynllyd hon. Dyna sydd wedi hai- arneiddio eu cydwybodau i'r fath raddau, nes edrych ar bechod yn rheidrwydd es- gusodol. Yr unig anhawsder sydd ar eu ffordd i gyflawni llofruddiaeth neu ladrad ydyw ofn cael eu dal. Ac yn wir, pan y mae'r ddiod feddwol wedi sefydlu ei haw- durdod ar orsedd y galon, nid ydyw hyd yn nod yr ofn hwnw yn cael dim effaith, os yn bodoli o gwbl. Yn ngwyneb yr ystad hon ar bethau, byddwn yn synu gan leied o ymdrech a wneir gan grefyddwyr i ym- ladd a'r gelyn gormesol hwn. Cawn ein pregethwyr Cymreig, yn gystal ag eraill, yn pensyfrdanu eu hunain a phobl eraill, wrth geisio desgrifio cyfansoddiad yr haul a'r lleuad, a byth bron yn ymosod ar gaer- au y brenin Alcohol, pan y gwyddant fod oddi fewn iddynt beirianau dinystriol sydd yn llurgynio cyrff ac yn andwyo eneidiau eu cydwladwyr. RHWYSG Y DDIOD. Dyna'r teitl mwyaf priodol y gallwn feddwl am dano ijddesgrifio treuliad y Nad- olig gan y lluaws. 0 ganlyniad, pa ryfedd fod ami un, fel Margaret Edwards yn Brooklyn, y dydd o'r blaen, wedi yfed ei hun an allan o wynt, ac yn gadael ar eu hol- au ar y gwely lie y gorwedd eu cyrff arno, ddognau o'r gwirod damniol a'n lladdodd. Gwarchod ni! onid yw honyubregeth ddi- frifol ? GWYDDELIG. Yr wythnos ddiweddaf, darfu i Wyddel —nid yw yn werth ei enwi-syrthio allan a'i wraig aflachus, a chychwyn ei golchi, nid gyda sebon, ond a'i ddyrnau cauedig; a phan ddechreuasant frifo, gyda choes ys- gub fawr. Erbyn hyn yr oedd y wraig drù- an yn ddideimlad, eto anadlai yn wan, yr hyn a barodd i'r anghenfil a elwir gwr ym- aflydynddi a'i thaflu ar y gwely; a chan benderfynu terfynu ei bywyd, tywalltodd kerosene oil dros ei dillad a'r gwely, a ffaglodd hwy a. than! Aed a'r Iruanes i ysbytty cyfagos, lie y dioddef-nld arteith- iau gwaeth na marwolaeth, a chymerwyd gofal o'r would be murderer gan wyr y gyf- raith. Byddai ciogi hwn yn rhy drugarog, oni ellid gwneyd hyny yn raddol gerfydd ei goesau! MAKW MAB CANMLWYDD. Dydd Mawrth, Rhag. 28ain, bu farw yr hybarch Dad, Henry M. Boehm, yn Rich- mond, Staten Island, yn 100 mlwydd, 7 mis a 19 diwrnod oed. Ganwyd ef yn Swydd Lancaster, Pa., yn 1775. Pregethwr Meth- odistaidd (Wesley) ydoedd, a threuliodd y rhan fwyaf o'i oes hirfaith i bregethu yr efengyl mewn gwahan. 1 circuity ond y blynyddoedd diweddaf stiydlwyd ef ar Sta- ten Island. Efe oedd y gweinidog liynaf yn y Conference Americanaidd, ac hwyr- ach yn y byd. Cawn fod Boehm am un flwyddyn yn ddeiliad llywodraeth y Brenin George, gan eifod yn flwydd oed pan gyhoeddwyd An- nibyniaeth y Talaethau Unedig. Pan dyf- odd i fyiy yn ddyn, nid oedd ond 13 o Dalaethau. Yr oedd yn newydd i'w gof yr amseroedd pan mai llongau hwylio a cheffylau oeddynt unig foddion teithio.— Yn ei dramwyadau ar draws y wlad, teith- iodd fwy na chan' mil o filltiroedd ar geff- ylau. Yn 181:9, pan ymwelodd gvntaf a Jersey City, nid oedd yn y lie ond adeilad bychan y ferry, ac ychydig dai ffermydd yma a thraw. Ni chyrhaeddai dinas New York ond at Canal Street, a rhyw bentref bychan oedd Brooklyn. Dywedir fod y cynydd a wnaeth y cyfundeb y perthynai iddo yn ystod ei oes, weithiau yn ei daro megis a syndod mud! Gresyn na chawsai fyw i ddathlu y Canmlwyddiant! LLOFRUDDIAETH DDYBLYG A HUNAN-LADD- IAD. Cyflawnwyd cyflafan ofnadwy foreu Gwener diweddaf, yn 346 W. 53d Street, drwy i ddyn o'r enw Monroe S. Minster saethu ei wraig a'i eneth fach drwy eu pen- au, ac yna ei hun yn gyffelyb. Cafwyd y plentyn wedi marw gan yrheddgeidwaid, a dygwyd Minster a'r wraig i'r ysbytty mewn cyflwr anheimladwy. Bu y dyn druan farw yr un prydnawn, a thra thebyg fod y wraig wedi darfod cyn hyn. Yr oedd Minster wedi bod er's amser Hed hir yn ngwasan- aeth y Gymdeithas er atal creulondeb at blant, ac ymddengys ei fod yn ddyn goleu- edig, ac yn gallu siarad amryw ieithoedd. Dengys yr ystafelloedd lie y trigianent yn- ddynt mai bywyd lled^anghysurus oeddynt wedi ddilyn-ychydig iawn o ddodrefn a, feddent, ac arwyddion budreddi yn amlwg i'w gweled. Yn ol pob tebyg, diorseddwyd rheswm y gwr anffodus gan anallu neu ddi- ffyg ewyllys y wraig i wneyd y ty yn gy- surus a chroesawgar. Cymered gwragedd ieuainc wers oddi- wrth yr esiampl arswydus hon. Peth di- galon iawn yw i weithiwr ddychwelyd oddiwrth ei lafur caled, a chael ei wraig a'i dy mewn anweithgarwch a budreddi. CROGI DAMWEINIOL. Hwyr yr un dydd, clywyd un Gustave Guisky yn datgan dymuniad am gael teim- lo iasau gwirioneddol dyn wrth gael ei grogi! I'r perwyl, cymerodd ddarn o raff, ac aeth i'r rhew-dy, a chauodd y drws. Mewn deng mynyd o amser cafwyd ef yn grogedig gerfydd ei wddf wrth un o fach- au cig y sefydliad. Yn y sefyllfa hon, llithrodd ei draed, a chyn y gallai helpu ei hun, tagwyd ef i farwolaeth.! MRS. WOODHULL. Y mae'r ddarlithyddes hynod uchod yn adnabyddus o ran enw i luaws, gan mai trwy wythnosolyn o'i chyhoeddiad hi y dechreuwyd y Beecher Scandal. Mae yn awr yn traddodi cyfres o ddarlithiau yn y ddinas. Nos Wener diweddaf, yn Cooper'a Institute, darlithiai ar 'Melldith Dynes.' Y brif idea a gynyrchodd oddiwrth y testyn oedd, fod y gwallgofdai, y tlo; dai, a'r car- cliarau, wedi eu llenwi phlant, genedig- aeth y rhai nad oedd y inamau yn ddy- muno. Ychydig o frwdfrydedd a allodd greu, uddigertll pan sylwodd arfynediad ananiserol rhai boneddigesau o'r cyfarfod mai y cyfryw oedd wedi dioddef oddiv/rth y felldith! Gwnaeth hefyd gyfeiriad at Henry Ward Beecher—ei fod dro yn ol wedi addef cydolygiad a'i haddysgiadau o barth i gysylltiadau y rhywiau, ond na all- ai weithio yn ei ffafr, gan y byddal yn fuan yn pregethu i seti gweigion. Ebe hithau, "Henry, chwi a lanwech eich eglwys bob Sul, canys y mae'r bo) I yn dyheu am ddad- leniad o'r cwestiwn hwn. Ond ni feiddiai ddod allan. Amgyjchynid ef gan haid o moral cowards, ac ymdrechai eu dal i fyny. Ni feiddient ddweyd fod ganddynt eneid- iau eu hunain, ac ni oddefent iddo ef wneyd hyny. 'Rwy'n gwybod cryn lawer yn nghylch y mater yma (y Scandal), canys bum yn ngharchar droion ar gyfrif y bon- eddwr."
MORRIS RUN, PA.
MORRIS RUN, PA. Dyma fi o'r diwedd yn cyflawni yr hyn wyf wedi hir fwriadu,, sef anfon ychydig nodion o'r cylch yma i'r DRYCH. Araf a digalon iawn yw y gwaith yma yn myned er's mwy na dwy flynedd. Nid yw enillion y gweithwvr yn cyfateb yn agos i ofynion eu teuluoedd; ac am y rheswm hwn y mae nifer mawr o'r gwyr a'r gweision wedi ym- adael i leoedd eraill i chwilio am waith. I Carbon Run, Bradford Co., y mae y rhan fwyaf wedi myned; ac y mae yn dda gen- ym gael ar ddeall fod Mr. Williams, arol- ygydd, a pherchenog mewn rhan, o'r gwaith, yn garedig iawn iddynt. Clod i'w enw a gras i'w galon am hyn. Am y lie hwn, nid oes yr un dewin, am a wn i, a wyr pa bryd y daw yn well. Mae yma daer erfyn am ryw ddiwygiad a chychwyniad i fod dechreu y flwyddyn yma. Gobeithio mai felly y bydd, er lies yr ardal. Llenyddol.-Er fod yma luaws mawr wedi ymadael o'r rhai fyddai yn flaenllaw mewn mudiadau llenyddol yn gyffredin, y mae yma rai o feib athrylith yn aros, sef edmygwyr y gan, hoffwyr yr awen, a chefnogwyr llenyddiaeth ac yn y cyfwng hwn, yn hytrach na llwfrhau a thori eu calonau, mewn gofid a phryder meddwl uwchben newyddion yr amserau, pender- fynasant gael cyfarfod llenyddol ar ddydd Nadolig, er cael ychydig o anthem i an- nghofio a throi o'r neilldu feddwl am am y gwaith. Cynaliwyd cyfarfod gweddi yn y boreu, Am 2 yr oedd y cyfarfod ad- roddiadol i ddechreu. Erbyn yr amser yr oedd y capel yn llawn, yr hwn oedd wedi ei addurno a. choedydd byth-wyrddion, blodau, rhosynau, a rhubanau o wahanol liwiau yn ddestlus iawn. Etholwyd yr hen frawd parod a ffraethlym, Thomas Jenkins, i lywyddu. Yn ol y rhagdrefn, cyfarfod i'r plant oedd y cwrdd 2 o'r gloch a chafwyd prawfion amlwg o ddefnyddiol- deb yr Ysgol Sabbothol, a rhai o'r fath hyn, fel cyfryngau i dynu allan alluoedd plant, trwy glywed rhai bychain, o bedalr i chwech mlwydd oed, yn adrodd darnau a sillebu geiriau dyrus. Canwyd yno amrai o ddarnau yn gampus, "Gwedi nos ya Nghymru gynt;" "Y mae oriau ola'r flwyddyn;" Echo Chorus," &c., ac am- rai ddarnau eraill gan wahanol bai,tyon- Mrs. Brown a'i chyf.; John P. Evans a'i gwm.; Thomas Davies, &c. Yr ydym fel eglwys Annibynol yn ddy- ledus iawn i'r brawd David Williams, blaenor y cor, am ei lafur dystaw, didwrw, a diflino gyda'r canu nid yn unig am ei fod ef yn cymeryd atynt, i'w perffeithio a'u dysgu, i fod yn feistri ar Glees, An, themau, &c., ond am ei fod a'i holl egni yn ymdrechu, gwella, a diwygio caim cy- nulleidfaol; ac yn wir, dyma yw ei brif amcan. Mae yn debyg mai un o bob cant o'n cantorion a geir fel efe, yn aberthu ei amser a'i dalent er gwasanaethu crefydd, a hyny heb ofyn, "Beth a fydd i mi ?" Go beithio y daw amser gwell yn fuan, fel y gallom ddangos ein bod yn prisio ei wasan- aeth. Na ofaled; os nad oes neb yn ud- ganu ei glod, yn gorganmol ei dalent, ac yn dyrehafu ei chwaeth, eled rhagddo, y mae gwobr i'w waith. Cafwyd amrai o ddadleuon gwir dda, ac adroddiadau rhag- orol. Maddeued yr adroddwyr i mi am ad- ael eu henwau allnn mae arnaf ofn ewin- edd Pwns. Yr oedd yn dda genym weled cynifer o'r rhai a ymadawsant" S'r ardal am dymor, wedi talu ymweliad l^pi ar y dydd ac mor barod i gymeryd rhan yn y gwaith. Mae yn wir eu bod hwy felly mewn rhyw ystyr, fel yr hen genedl, er's talm, wedi cael eu gyru i gaethiwed, ac yno heb hwyl i ganu, adrodd, na barddoni, ond wedi crogi eu telynau ar y cecys, ac wedi claddu yr afon yn ddigon dwfn o dan foneyff rhyw bren mawr yn Carbon Run. "Yno y gof- ynodd y rhai iddynt am ganu, ond nisgnil- asent; ond pan ddaethant i olwg Jerusa- lem, ac i byrth merch Seion, canasant rai. o ganiadau Seion, ac adroddasant rai o gerddi y cysegrmewn hwyl. Cafwyd c £ n swvnol gan T. D. Thomas, ac adroddiad ardderchog gan T. T.Howell. Cafodd pawb eu boddloni; a rhyfeddent oil pa fodd yr oeddynt yn gallu rhoddi cydau ac arian ynddynt i bawb a gymerodd ran yn y cyfarfod, a dim tal am fyned i mewn, a'r amser mor wael. Dyma ddirgelwch.- Mae'n debyg fod perchenog y DRYCH wedi cyfranogi o effaith y dirgelwch hwn, drwy ei fod wedi derbyn swm mawr o arian oddi yma. Crefyddol-Er fod y nifer luosocaf o'r gwyr a'r gweision wedi gadael yr ardal, ac felly wedi gwanychu yr eglwysi yn y lie gyda phob enwad, nid yw yr ychydig sydd ar ol wedi ymolIwng i anobaith; na, mae Duw yn aros gyda'i bobl, pan y maent yn un a cbytun; mae gwaed-gur yfrawdoliaeth yn curo yn gryf-mae undeb yn bodoli, cariad yn ffynu, heddweh yn teyrnasu mawl yn dyrchafu, ffydd yn adchwanegu', a gras yr eglwys yn ymhelaethu; ac os byddwn fyw i weled y Sabboth cyntaf yn y flwyddyn newydd, cawn y fraint o dder- byn chwech yn chwaneg at rifedi yr eg- lwys, ac y mae naill yn aros ar brawf; felly er fod rhai pethau yn ddigon digalon, mae genym achosion i ganu y nos. "Yr Ar- glwydd a wnaeth i ni bethau mawrion, am hyny yr ydym yn llawen." Blwyddyn newydd dda i chwi staff y DRYCH—llwyddiant byddai yn dda genyf gael dal ar v 'T'1p os yw yn bosibl. By —Dvled Ta $7,081,689.