Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

[No title]

[No title]

[I FYNY I RHAGFYR 18, 1875.1

....... GOGLEDD CYMRU.

...... MARWOLAETHAU CYMRU.

[No title]

News
Cite
Share

Y NADOLIG YN LRONTON, O.—Treuliwyd rhai oriau difyrus yn yr holl addoldai yn y ddinas hon ddydd Nadolig diweddaf, yn benaf er anrhegu deiliaid yr ysgolion Sab- botliol. Yn y prydnawn cawsom gyfarfod difyrus yn addoldy y T. C. Cymerai yr hen a'r ieuainc ran yn yr ymarferiadau. Galwyd y cyfarfod i drefn gan yrarolygwr, Mr. David Davies. Agorwyd y cyfarfod trwy ganu, gan yr holl ysgol, yna anerch- iad byr a phwrpasol gan y gweinidog, y Parch- J. L. Jeffreys; dilynwyd gan y plant mewn adroddiadau byrion; gan yr hen frawd Thomas L. Morgans, ac adrodd- odd, o Efengyl Matthew, hanes genedig- aeth Crist, yn Iled gywir, er ei fod yn 70 mlwydd oed, ac yn ddall er's rhai blyn yddau; yna canwyd yn soniarus iawn, yr hen garol fendigedig- Clywch lais ac uchel lef Swn telynorion Nef," &c., Gan yr hen chwaer, Mrs. Hannah Jones, yr hon sydd agos yn 80 ml. oed. Cafodd gymeradwyaeth mawr. Dyma esiampl dda i bobl ieuainc i drysori yn eu cof bethau buddiol erbyn henaint a phenllwydni. Ond yr oedd llygaid y plant ar y bwrdd arlwyedig, a rhoddwyd i bob ysgolor gyd- aid o felusion (candy), a llyfr huddiol i goethi eu meddyliau. Cafodd y rhai hynaf wledda ar deisenau hyfryd ac afalau per. OncLy goreu oedd, calenig i'r gweinidog, sef y Parch. J. L. Jeffreys, o flychaid o napcynau poced, o'r fath oreu, fel arwydd o barch tuag ato. Ni chafodd y Pwyllgor ond tuag wythnos i drefnu. a'r chwiorydd ieuainc i gasglu arian er prynu yr hyn oedd angenrheidiol erbyn y cyfarfod—gweith- iasant yn egniol ac effeitliiol. Aeth pawb i'w ffordd yn llawen, gyda theimladau diolchgar i'r brodyr a'r chwiorydd am eu ffyddlondeb. Ioan Dewrlais.

... Y MARCHMDOEDD.

I Adroddiad D. W. Lewis, Ionawr…

MARCHNADOEBB ERAILL.

Advertising