Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
[No title]
[No title]
O Baner ac Amserau Cymra, Yr Herald Cymraeg, Y Goleuad, Y Bywvsogaeth, Y Tyst a'r Dydd, Seren Cymru, Y Gwladgarwr, Y Fellten, Y Dydd, Caer- narvon & Denbigh Herald, a'r North Wales Chron- icle, y rhai dderbynir yn wythnosol; ac eraill a dderbynir yn achlysurol,
[I FYNY I RHAGFYR 18, 1875.1
[I FYNY I RHAGFYR 18, 1875.1 BEIIEUBIR CYMRU. —Y mae cais wedi ei wneyd yn nghyng- or trefol Aberystwyth y dydd o'r blaen, am dir i adeiladu skating rink at wasanaeth y dref. —Torodd tan allan un boreu yn ystablau Cwmpeini Darllawdy Cwm Rhondda, yn Nhreherbert. Llosgodd yr adeilad a'r ceff- ylau yn ulw —Fel yr oedd tri o fechgyn yn ysglerio ar wyneb v gronfa {reservoir) perthynol i'r Great Western yn Abertawe, ddydd Mawrth, Rhagfyr 7fed, torodd y rhew a boddodd dau o'r tn. —Prydnawn ddydd Sadwrn, Rhag. 4, bu farw Mr. Parker, oriorydd, Bute street, Treorci, yn sydyn iawn. Buasai allan y dydd o'r blaen, a chafodd godwm ar y ffordd, canys yr oedd n llithrig iawn, a derbyniodd niwed dwys. Yr oedd uwch- law 50 mlwydd oed. —Agorwyd cangen Coleford o Ffordd Haiarn yr Hafren a'r Wy, ddydd Iau, Rhag. 4. Gwnaed amryw ddatganiadau o lawenydd ar yr achlysur. Yn mysg pethau eraill, cafodd dros 2,000 o blant yr ysgolion de da a phob danteithion. —Cafodd dyn o'r enw David Williams, pydler, yn ngwaith glo y Meistri Vivian, Mvnydd Newydd, ger Llangyfelach, ei ladd ddydd Mawrth, Rhagfyr 7, wrth ddis- gyn i'r shaft, drwy i gareg gwympo arno. —Dygwyd dau ddyn o Waunarlwydd ger bron eu gwell y dydd o'r blaen am ym- ladd ceiliollod-yr hen farbareidd-dra gynt —a dirwywyd un o honynt i 25s. a'rcostau, neu ynte fyned i'r carchar am fis, a rhyddhawyd y Hall. —Digwyddodd i fachgenyn o'r enw Ken- nedy, oedd yn gweithio mewn ffaetri yn Nghaerdydd, gael ei gymeryd i mewn gan flYlwheel y peiriant, alladdwyd a muluriwyd J7 ef yn dost. —Yn mwrdd ysgol Bedwellty, a Mr. R. Lay bourne yn y gadair, darllenwyd y ceis- i-idau am y swydd o arolygwr vr ysgolion. Yr oedd 81ain o ymgeiswyr. Y cyflog yw 200p., a 30p. at gostau teithiol. Mr. Hogg yw y gwr a etholwyd-Cymro galluog. —Pan oedd certwynwr o'r enw Llewelyn Thomas, yr hwn oedd yn ngwasanaeth Mr. David, Llindir, Bontfaen, yn teithio ar y ffordd o Lantwit-Major Bontfaen, rhyw- fodd efe a gwympodd o dan y wagen. Aeth un olwyn dros ei ddwyfron. a'r llall dros ei benglog, a lladdwyd ef yn y fan. 9 11 —Deallwn fod Mr. Rees Phillips, yr hwn sydd wedi bod mewn cysylltiad a Gorsaf y Taff Vale yn Mountain Ash am 20 mlynedd, wedi ei ddyrchafu i fod yn stat on master yno.
....... GOGLEDD CYMRU.
GOGLEDD CYMRU. —Gorchymynodd ynadon Menai Bridge i un Richard Roberts i dalu 20s. a'r costau, i Mrs. Parry, Llanidan, am adael ei gwas- anaeth heb rybudd. —Deallwn mai Mr. J. Rhydwen Jones, Rhyl, yw y cymerwr er helaethu Clare- mont, er ei wneyd yn sefydliad a elwir Hydropathic (Meddyginiaeth y Dwfr Oer), am £ 4,950. —Y mae awdurdodau porthladd Caer- narfon wedi penderfynu rboddi cadwen ar draws pen deheuol y doc newydd, yn nghyda rhoddi goleuni yno; a dysgwylir y bydd y damweiniau yn llai o hyn allan. —Mae rhif y meibion a'r merched agos a bod yn gyfartal yn siroedd Brycheiniog, Dinbych, Fflint, Meirionydd a Threfald- wyn. Mae mwy o feibion nag o ferched dd yn siroedd Maesyfed a Morganwg. Clyw- som fod 700 mwy o fenywod nag o wrywod yn Rhyl; dyna'r lle i gael gwraig. —Nos Sadwrn, Rhag. 4ydd, torodd dyn o'r enw Rees Pugh, mfin-werthwr, 58 ml. oed, o Lyn Penmaen, ger Dolgellau, ei goes, wrth adael y gwesty-y Royal Oak, tra mewn cyflwr o feddwdod. Cymerodd yr heddgeidwaid ef i'r lock-up, a thranoeth i'r tlotty. —Ymgyfarfyddodd Pwyllgor Eisteddfod Gwrecsam ddydd Llun, Rhag. 13. Dar- llenwyd llythyr oddiwrth Major West, yr Arglwydd Raglaw, yn cynyg E500 at Adran Celf, ar yr amod y gwnai y Pwyllgor godi yr un swm. Penderfynwyd gwneyd y cais i'w gyfarfod. —Cawn fod gwely newydd o fwn glo wedi ei ddarganfod o dan yr afon Hafren, a bod gobaith y profa yn llwyddiant mawr os gweithir ef allan yn ddoeth ac egniol. —Dywedir fod masnach yn fywiog iawn yn Rhyl y dyddiau presenol, a bod llawer o dai a siopau newyddion yn cael eu had- eiladu yn barhaus yn mhob cwr yno. -Rhif y tlodion yn nosbarth Tal-y-llyn, Undeb Dolgellau, yw pump y cant, yn ol yr adroddiad diweddar gan Mr. Morris T Jones, y swyddog o'r dosbarth hwnw. —Gorfu i ffarmwr o'r enw Evan Jones, yn nghymydogaeth Bettws y Coed, dalu £ 50 o ddirwy am fygwth "malu" ffarmwr arall, yn ystod cweryl a gymerodd le rhyngddynt yn nghylch y defaid. —Cynaliwyd trengholiad yn ddiweddar ar gorph Ann Jones, Bagillt Street, Tre. ffynon, yr lion a gafwyd wedi marw yn ei th £ y dydd Gwener blaenorol. Rheithfarn —"Bu farw drwy ymweliad Duw, yn cael ei achosi drwy ymyfed i ormodedd." —Cyfarfu gwraig o'r enw Kitty Williams a damwain ddifrifol yn ngorsaf Bettws y Coed, Hydref 30ain, yr hon a brofodd yn angeuol iddi. Gwraig o Lanrwst ydoedd, yn meddu ar deulu parchus, ac yr oedd hithau yn ddynes ddiwyd ac ymdrechgar. —Prynwyd yr eidion mawr Cymreig a arddangoswyd yn LIangefni, gan Mr. Owen Jones, cigydd, Porthaethwy. Dysgwylir ei fod yn werth 960. —Torodd tan tra dychrynliyd allan yn amaethdy Ty'nllan, Bottwnog, ger Pwll- heli, nos Sadwrn, Rhag. lleg. Llwyddodd yr oil o'r teulu i ddianc yn eu dillad no3, ond dychwelodd y wraig i geisio rhy wbeth allan o'r ty, a chyn iddi gael amser i fyned allan, syrthiodd y nen i mewn, a llosgodd yn ulw. —Gyda boddhad yr ydym yn hysbysu fod strike y glowyr yn Ngogledd Cymru wedi ei therfynu yn mhob glofa yn y rhan- barth ond un. Ail-ddechreuwyd ddydd Mawrth, Rhagfyy 14, a chredir y bydd i'r rhai sydd yn sefyll yn gyndyn roddi i fyny cyn diwedd yr wythnos Y mae'r bobl yn dangos awyddfryd i wneyd i fyny am eu segurdod yn ystod y strike a barhaodd chwech wythnos, yn yr hon ni enillasant un fantais heblaw ffurfiad undeb cryf. -Ymddengys fod Ellis Eyton, Ysw., yr aelod rhyddfrydig dros fwrdeisdrefi Fflint, wedi bod mewn cryn ddyryswch yn ddiw- eddar, o herwydd iddo omedd talu C50 i Mr. W. W. Wynne, Rhyl, am winoedd. Dygwyd cyngaws yn ei erbyn, ond ni ym- ddangosodd yn y .llys, ac ofnid y rhoddid ef yn ngharchar. Yr oedd yr achos i gael ei benderfynu yn Ilys y Wyddgrug, Rhag. 17eg, pa un a ellid carcharu Aelod Sen- eddol ai peidio. Mae Mr. Eyton yn bres- enol yn dyoddef dan afiechyd, ac wedi colli nerth ei aelodau i'r fath raiddau fel y rhaid ei gario o amgylch y ty. PENMACHNO.—Dygwyddodd damwain ddifrifol yn ddiweddar i Thomas Roberts, Peu-y-Groes, Penmachno, drwy idcfo'golli ei ffordd yn y nos, pan yn dycliwelyd o Bentre Foelas, a syrthio dros graig. Mae yn gwella yn dda.-Bu farw y Parch. Moses Thomas, diweddar glerigwr Pen- machno, ar y laf o Ragfyr. Yr oedd er's amser wedi syrthio i YSI âd mor isel fel nad oedd iddo gyfaill yn aros. FFESTINIOG.-Damwain Angeuol.Cyf- arfu bachgen ieuanc o'r enw Edward Ro- berts, mab i Robert Roberts, Hafod-fawr Isaf, a'i ddiwedd, boreu Llun, Rhag. 13eg, yn chwarel Mr. Holland, A. S., tra yn ceis- io rhyddhau un o'r olwynion dwfr ydoedd wedi rhewi. Cafodd ei wasgu yn arswyd- us rhwng yr olwyn a chist ddwfr. Eu fyw hyd dranoeth. Yr oedd wedi bod yn yr America, ac yr oedd yn fachgen o gymer- iad rhagorol. LLANDUDNO.—Y mae cais yn cael ei wneyd am ganiatad gan y Llywodraeth i adeiladu landing stage newydd. Mae cwm- ni wedi ei flurflo, a bwriedir iddi gostio deng mil ar hugain o bunau. Cymerwyd gwerth deng mil o gyfranau mewn saith diwrnod. Hefyd y mae y gwaith o wneyd ffordd gerbyd o amgylch Ynys Tudno yn cael sylw arbenig. Mae yr holl gyfranau wedi eu cymeryd, a bwriedir i'r ffordd gael eu hagor erbyn diwedd Mehefin.
...... MARWOLAETHAU CYMRU.
MARWOLAETHAU CYMRU. Y GOGLEDD. Tachwedd 21, yn 54 oed, William Roberts, Llainy- delyn, Llaiigristiolus, Mon. Tachwedd 26, yn 38 oed, John Roberts, Cae Mawr, Llangeinwen, Mon. Tachwedd 30, yn 60 oed, Mrs. Griffith, priod y di- weddar Barch. R. P. Griffiths, Joppa, CaernarTon. Rhagfyr 1, Mrs. Anna Jones, Bedw, ger Gorsedd, Treffynon, yn 68 oed. Rhagfyr 2, yn 37 oed, yn 2 Fishguard st., Everton, Lerpwl, Mr. Griffith. Rhagfyr 2, yn Shotton, plwyf Penarlag, yn 87 oed, John brown, gynt o Kelsterton, Fflint. Rhagfyr 2, Cadwaladr Lloyd, Nant, Llanegryn, tad- yn-nghyfraith y Parch. R. P. Jones, Pencader, yn 70 oed. Rhagfyr 2, yn Daisy Hill, Biatree, Wyddgrug, yn 38 oed, Thomas Wilcox, gyut hedttgeidwad yn Hal- kin. Rhagfyr 3, yn St. George's Hospital, Llundain, Robt rt Evan Lloyd, mab hyuaf Evan Lloyd, Peny- bryn, Ffestiniog. Rhagfyr 4, yn 196 Blandford st., Lerpwl, yn 57 oed, J. R. Owen. Rhagfyr 4, yn 61;oed, yn Hafodygan (yr Harp gynt), Llanfairtalnaiarn, Anne, priod Thomas Hughes. Rhagfyr 4, yn 85 oed, Hugh Williams, gynt o New- borough Arms, Pwllheli. Rhagfyr 5, yn Caerllyn, Llanfaelog, Mon, Margaret Anne Hughes, merch henaf y diweddar Rowland Hughes, Porilton Bridge, Wallasey, yn 13 oed. Rhagfyr 6, yn 100 oed, Mrs. Catherine Jones, Fron- degi Garn Fadryn, a nam i'r Parch. R. Humphreys, Bontnewydd. Rhagfyr 7, yn 58 oed, Capt. David Lloyd, Mostyn st., Llandudno. Rhagfyr 7, yn 66 oed, James Maurice, Rhuthyn, trysorydd sir Ddinbych. Rhagfyr 7, yn ei breswylfod, 22 Barlow st., Kirk- dale, Lerpwl, yn 62 oed, Frances Eliza, anwyl briod Joseph Wynne. Rhagfyr 8, yn 15 oed, Miss Jane Williams, Cae'r- llwyuog, Croesor. Rhagfyr 8, yn 28 oed, Robert, mab hynaf Owen Lazarus, Plough, Capel Coch, Mon. Rhagfyr 8, yn Well st., Treffynon, yn 80 oed, Eliza Mary, merch ieuangaf y diweddar Peter Parry, y Tywysog, sir Ddinbych. Rhagfyr 8, yn Chwarel Lord, Ffestiniog, yn 60 oed, William Roberts. Rhagfyr 8, yn 75 oed, David Prosser, o'r Store- house, ger Trefdraeth. Rhagfyr 8, yn 15 oed, Miss Jane Williams, merch David a Grace Williams, Caerllwynog, Croesor. Rhagfyr 10, Afrs. Gwen Jones, High st., Tremadog. Rhagfyr 10, mewn gwth o oedran, Mrs. Ann Da- vies, priod Morris Davies, sexton, Trefeglwys, sir Drefaldwyn. Rhagfyr 10, yn 39 oed, W. Thos. Davies, 34 Kinmel st., Rhyl. Rhagfyr 10, yn 15 oed, Hannah, merch y diweddar William Williams, torwr beddi yn eglwys Llannor, ger Pwllheli. Rhagfyr 11, yn 83 oed, yn nhy ei merch a'i mab-yn- nghyfraith yn Nolgellau, Catherine Price, gweddw y diweddar Mr. Price, un o hen ysgolfeistri cyntaf a goreu a fu yn Nolgellau erioed. Rhagfyr 11, yn nhy ei mab, 89 Spencer st., Lerpwl, yn 83 oed, Margaret, gweddw Richard Jones, Am- lwch. Rhagfyr 11, yn Cambridge st., Wavertree-road, Lerpwl, Charles, Tyrer, baban M. E. Williams. Rhagfyr 11, yn 32 oed, Catherine, anwyl briod Wil- liym Taylor, engine driver, Baker st., Caergybi. Rhagfyr 12, yn nhy ei mab yn nghyfraith, Sand- ford House, Melton-road, Bootle, yn 89 mlwydd oed, Jane, gweddw Edward Jones, Ysw., Majesty's Cus- toms, Lerpwl. Rhagfyr 12, yn 17 oed, Harry, mab ieuangaf Henry Evans, 32 Albert-road, Southport. Rhagfyr 13, yn 49 oed, Gwen, anwyl briod Griffith Jones, rigger, Madog street, Porthmadog. Rhag. 12, mewn gwth o oedran, David Morris, Heol y Bonthir, Llanidloes. Rhagfyr 12. yn 78 oed, yr hen weinidog hybarch, D. Davies, New Inn. Bu yn weinidog yn eglwys New Inn am 33 o flynyddoedd. Rhagfyr 13 yn 43 ml. oed, John Owen, Nanhoron House, Pwllhelli. Rhagfyr 13, yn 75 oed, William Hughes, Glanrhos, Llanidan tad Idanfryn. Rhagfyr 13, yn Greenbank, Merton-road, Bootle, yn 26 oed, Charlotte Elizabeth, anwyl briod Evan Jones Williams, Aberystwyth, a merch ieuangaf O. Williams. Rhagfyr 13, yn 53 oed, John Williams, Maesygerch- an, Bangor. J Rhagfyr 14. yn 61 oed, o gl' fyd y galon, Margaret Roberta, main H. Roberts, Printer, Llanrwst. Rhagfyr 15, yn Tynymaes, Ffestiniog, yn 23 oed,' Lewis Jones, mab ieuangaf David Jones, yr Abbey Arms gynt. Y DEHEUDIH. Tachwedd 31, o glefyd y galon, y Parch. W. Wil- liams, gynt o Lalllwnog. Claddwyd ef yn Waentre- odau. Rhagfyr 1, yn Heol Cerrig, Llanyinddyfri, Mrs. Howefis, gweddw y diweddar Rees Howells, prif or- uchwyliwr y National and Provincial Bank yn Llan- ymddyfri, ao wedi hyny yn Geill, Brycheiniog. Rhagfyr 2, William Thomas, o Heol Gastell, Aber- honddu. Rhagfyr 3, yn 72 oed, David Hughes, Rest, Llan- boidy. Rhagfyr 5, yn 63 oed, David Jones, Tynymaes, Cowarch. Rhagfyr 6, Mrs. Thomas, anwyl briod Cadben Thomas, o'r Ellen Owen, Ceinewydd, yn 50 oed. Rhagfyr 8. David Morgans, Ynysfergi, Borth, Cer- edigion, yn 39 oed. Rhagfyr 9, Ann Jenkins, gweddw y diweddar Owen Jenkins, Garnwen, Dinas, Dyfed, yn 72 oed. Rhagfyr 9, Emily Noot, anwyl wraig Sergeant Noot, Ystrad, ar ol byr gystudd ar enedigaeth plentyn. Rhagfyr 10, yn 21 oed, Ann, anwyl ferch JDafydd a Charlotte Davies, Brynbryddan, Cwmafon, ar ol cys- tudd maith a chaled. Rhagfyr 11, Martha Owen, Clover Hill, Dinas, yn 78 oed. Rhagfyr 13, John Thomas, saer coed, Ystalyfera, yn 87 oed.
[No title]
Y NADOLIG YN LRONTON, O.—Treuliwyd rhai oriau difyrus yn yr holl addoldai yn y ddinas hon ddydd Nadolig diweddaf, yn benaf er anrhegu deiliaid yr ysgolion Sab- botliol. Yn y prydnawn cawsom gyfarfod difyrus yn addoldy y T. C. Cymerai yr hen a'r ieuainc ran yn yr ymarferiadau. Galwyd y cyfarfod i drefn gan yrarolygwr, Mr. David Davies. Agorwyd y cyfarfod trwy ganu, gan yr holl ysgol, yna anerch- iad byr a phwrpasol gan y gweinidog, y Parch- J. L. Jeffreys; dilynwyd gan y plant mewn adroddiadau byrion; gan yr hen frawd Thomas L. Morgans, ac adrodd- odd, o Efengyl Matthew, hanes genedig- aeth Crist, yn Iled gywir, er ei fod yn 70 mlwydd oed, ac yn ddall er's rhai blyn yddau; yna canwyd yn soniarus iawn, yr hen garol fendigedig- Clywch lais ac uchel lef Swn telynorion Nef," &c., Gan yr hen chwaer, Mrs. Hannah Jones, yr hon sydd agos yn 80 ml. oed. Cafodd gymeradwyaeth mawr. Dyma esiampl dda i bobl ieuainc i drysori yn eu cof bethau buddiol erbyn henaint a phenllwydni. Ond yr oedd llygaid y plant ar y bwrdd arlwyedig, a rhoddwyd i bob ysgolor gyd- aid o felusion (candy), a llyfr huddiol i goethi eu meddyliau. Cafodd y rhai hynaf wledda ar deisenau hyfryd ac afalau per. OncLy goreu oedd, calenig i'r gweinidog, sef y Parch. J. L. Jeffreys, o flychaid o napcynau poced, o'r fath oreu, fel arwydd o barch tuag ato. Ni chafodd y Pwyllgor ond tuag wythnos i drefnu. a'r chwiorydd ieuainc i gasglu arian er prynu yr hyn oedd angenrheidiol erbyn y cyfarfod—gweith- iasant yn egniol ac effeitliiol. Aeth pawb i'w ffordd yn llawen, gyda theimladau diolchgar i'r brodyr a'r chwiorydd am eu ffyddlondeb. Ioan Dewrlais.
... Y MARCHMDOEDD.
Y MARCHMDOEDD. NEW YORK, IONAWR 4. Aur a Bonds.-Y pris eyffredin yw 113. Pris punt o arian Prydain oedd $5 49. Bonds y Llywod- raeth yn gadarn; ondychydig oedd y galwad. Peillied a Blawd.-Y farchnad yn llai bywiog a'r prisiau yn ddigyfnewid-peillied yn amrywio o $4 35 i 9 00 y faril. Blawd rhyg $4 40 a 4 50; blawd corn yn sefydlog, $3 15 a 3 90 y faril. Ydau.—Y farchnad yn wanach, ond dim newidiad o bwys yn y prisiau. GWENITH—Gwanwyn,$1 00, 114 a 115; No. I Milwaukee $1 32; No. 2 Milwau- kee$1 24 a 1 25; No. 2 Chicago *1 22; No. I Minne- sota $130 y bwsiel. RHYG-YN gadarn; gorllewinol 88 a 90c y bwsiel. HAIDD—89c a $1 20 y bwsiel. CORN-74 a 75c y bwsiel. CEIRCH- Yn farwaidd; gorllewinol cymysgedig 44 a 48c; gwyn 46 a 50c y bwsiel. Gwair.—Yn sefydlog-80c y cant. Hopys.—Yn gadarn, 10 a 16c am hopys dwyrein- iol a gorllewinol; California 17 a 20c y pwys. Wyau.- Y Dalaeth a Pennsylvania 30 a 31c; gor- llewinol 28 a 30c y dwsin.
I Adroddiad D. W. Lewis, Ionawr…
Adroddiad D. W. Lewis, Ionawr 1. YMENYN-Derbyniadau am yr wythnos 20,457 o packages. Dyma yr wythnos fwyaf marwaidd y tv- mor. a'r prisiau 1 a 3c yn Is. Gwerthwyd dairies da am 25c, ac fel rheol yr oedd y prynwyr yn cael eu ffordd eu hunain. Mae ataliad amryw o weithfeydd mawrion a thlodi y dosbarth gwei'hiol yn dylanwadu yn fawr ar y prisiau. Fancy, wedi ei wneyd yn Hydref 35c; siroedd canol a deheuol 25 a 30c; ym- enyn gauaf 22 a 25c; ymenyn gorllewinol -'mill" 18 alc; rollsgorllewilloiffres 22 a 25c; gwaelaf yn y farchnad 15 a 18c y pwys. CAws-Derbyniadau am yr wythnos, 24,935 boxes; allforiadau 22,634. Yr oedd allforiadau Rhagfyr yn fwv na chymaint arall a'r swm a aliforiwyd yn yr amser cyferbyniol y ilynedd. Y farchnad gartrefol yn hynod o farwaidd. Gwerthwyd 2,600 boxes o'r 'factory am 12^c y pwys, wedi eu gwneyd yn Medi a Hydref. Cofnodia y prisiau canlynol: Factory fancy y Dalaeth, Medi a Hydref 12 a 13,lic; factory y Dal- aeth cyffredin neu wedi ei skimio mewn rhan, 8 a ll^c; caws da wedi ei wneyd yn gynar yn y tymor 11^ a 12^c; skimmed 4 a 6c y pwys.
MARCHNADOEBB ERAILL.
MARCHNADOEBB ERAILL. Chicago, Ionawr 4.-Peillied yn farwaidd. Gwen- ith yn fywiog. scwanwyn No. 1,$1 06 y bwsiel. Corn yn is. No. 2, 42 a45c y bwsiel. Ceirch yn ansefydlog o. 2, 30 a 3076C y bwsiel. Rhyg, 67c y bwsiel. Haidd, 60 a 77c y bwsiel. Moch wedi eu Iladd $7 75 a 7 90 y cant. Ymenyn, ffansi 25 a 32c; canolradd 18 a 23c; cyffredin 13 a 17c; rolls 18 a 25c y pwys. Caws o 8>s i 12>4c y pwys. Wyau ffres 25c y dwsin. Milwaukee, Ionawr 4.-Peillied yn ddigyfnewid. Gwenith yn wanaidd, No. 1 Milwaukee$1 05; No. 2, 98% c y bwsiel. Corn yn sefydlog a galwad cy- medrol am dano. No. 2, 46c y bwsiel. Ceirch yn sefydlog, No. 2, 31c y bwsiel. Haidd ychydigyn is, gwanwyn No. 2, 94c y bwsiel. Rhyg, No. 1, 67&C y bwsiel. St. Louis, Ionawr 4.-Pelilied yn dawel. Gwen- ith yn gadarnach ac uwch, coch No. 2,$1 41Xa 1 42; No. 3,$1 26y bwsiel. Corn yn is, No. 2 cymysg- edig 37Xc y bwsiel. Ceirch yn dawel, No. 2, 34;gc y bwsiel. Rhyg yn is, No. 2, 67c y bwsiel. Cincinnati, Ionawr 4.-Peillied yn farwaidd.— Gwenith yn wanach,$1 25 a 1 28 y bwsiel. Corn, 45 a 46c y bwsiel. Ceirch yn farwaidd, 35 a 43c y bws- iel. Rhyg yn farwai-d, 78 a 80c y bwsiel. Ymenj'n yn dawel. "Moch yn farwaidd ac is,$6 75a 7 35 y cant. Utica, Ion. 3.—PEILLIED yn sefydlog. Gwanwyn No. 1$7 00 a 7 25; coch gauaf$7 00 a 7 50; gwyn gauaf$7 50 a 8 50; pastri $7 75 a 9 00 y faril. CORN-Gorllewinol 72 a 75c; y Dalaeth $1 00 y bwsiel. BLAWD—Blawd corn teg$30 a$31; corn a cheirch $29 a$30 v dun. Blawd rhyg$6 y faril. Blawd ceirch 17 50 y faril; Ysgotaidd$8 50; Gwvddelig$16 a$18. Shorts$211$22; middlings$31 a$32 y dunell. CEIRCH- Y n is, 50 a 52c y bwsiel am geirch newydd. FFA—$1 50 a 2 50 y bwsiel. YMENYN-Ffres 28 a 31c; goren 29 a 32c y pwys. CAwB-Yn wan; newydd 10 a 13c; hen 11 a 14c y pasvvs. w WYAu-28 a 30c; mewn calch 25c y dwsin. GWAIR—$12 00 y dnnell am timothy da; yn fwrneli $14 y dunell. CIGOEDD-Cig moch mess$22 50 a$23 50 y faril. Hams plaen 14c; mewn llian 1436e y pwys. Moch wedi eu lladd, 10c y pwys. LARD—Yn gwerthu am 14 a 14ge y pwys. HALEN—Cyffredin$1 50 i 1 50 y faril; anthracite $1 75 i 1 85. GWLAN-Cnll teg 35 a 37c; mediums 38 i 43; wedi ei gribo 44 i 48c y pwys. ELYSIAu-Pytatws, 30 a 35c y bwsiel. Wynwyn T5c y bwsiel. Pytatws melusion S3 25 a 4 00 y faril. ADAR DOFION.—Cywion 12 a 14c; twrcis 14 a 16c; gwyddau 10 a 12c y PWYA; petris 75c y par; hwyaid gwylltion 75c y par; colomenod$1 25 a 1 50 y dws- in; cyffylog$1 00 y par: ieir mynydd $1 25 y par; oig carw 18 a 20c; hwyaid 14 a 16c y pwys; cwningod Z- c yr un.
Advertising
umiM Mai TO VYIDA4, ?,* O'R DEFNTDBIATJ A I R G TFNE UT-H URIA D GOREU, YN MASNACHDY HELAETH Davies, Jones, .Beckwith & Co., 104 GENESEE STREET. Y mae DAVIES & JONES yn ddigon adnabyddus bellach i Gymry y cylchoedd hyn, fel dilladwyr a roddant bob amser berffaith foddlonrwydd i'w cwsmeriaid. Maent yn cadw y NWYDDAU GOREU ac yn gwerthu am BRISIAU RHESYMOL. Cadw ant ar law yn wastadol YSTOC EELAETH 0 IDI1L4I PAEOD! Y rhai a werthant yn GYFANWERTH (Wholesale) ac yn FAN WERTH (Retail); yn cynwys amrywiaeth mawr o ddillad dewisol i blant a dynion mewn oed, wedi eu gwneyd o'r brethynau harddaf a mwyaf parhaol, yn ol y ffasiynau diweddaraf. Dy- munir hefyd alw sylw neillduol at AN DILLAD fiWlMSBlAIP Yr hon sydd o dan arolygiaeth Torwr Proifiadol. Gwneir dillad i ffitio pawb, o'r bach- gen bychan hyd y dyn mwyaf o gorpholaeth, a hyny AR ARCHIAD B YR, ac yn ol y dullweddion mwyaf ffasiynol a chymeradwy. Cedwir ar law ystoc anferth o FRETII- YNAU TRAMOR A CHARTREFOL, fel y mae digon o ddewis i bawb. Mae hefyd ar law bob amser Amrywiaeth o Gent's Furnishing Goods, Is-wisgoedd gorphenedig, yn cynwys CRYSAU o bob math, WRAPPERS a DRAWERS, COLERI, MENYG, HOSANAU, a nwyddau eraill rhy luosog i'w henwi. Deued y Cymry a barnant drostynt eu hunain. W COFIER Y RHIF-104 Heol Genesee, Utica, N. Y. I BYC AM mock DECHREUAD Y XXVI. GYFROL. Y Newyddiadur Hynaf yn yr Iaith Gymraeg am 4% al fin GWOBRAU GWERTHFAWR I DANYSGRIFWYR. Mae y BUMED FLWYDD AR HUGAN 0 oed y DRYCH yn awr ar derfynu ac mae yn hyfrydwch calon i ni allu llon-gyfarch Cyniry America ar y ffaith ein bod yn gwynebu ar y flwyddyn nesaf yn fwy calonog nag erioed. Mae y gefnogaeth a gafodd y DRYCH yn ngwasanaeth y Cymry, yn myd y Gor- Ilewin am CHWARTER CANRIF, yn gwarantu ei Iwyddiant yn y dyfodol. Yn ngwyneb y gefnogaeth a gawsom yr amser a aeth heibio, yr ydym wedi penderfynu anrhegu pob derbyniwr, hen a newydd, a dalo yn mlaen Haw am 1876 a Map Mawr Lliwiedig o Gymru I Yn cynwys Gogledd a Deheudir Cymru, a rhanau o Loegr-y Siroedd wedi eu lliwio yn wahanol, gydag enwau yr holl Bentrefydd, a llawer o'r Prif Ffermydd; ac mae y Rheilffyrdd a'r Fryrdd Sirol i'w gweled yn amlwg. Pwy bynag a anfona UN enw newydd a'r blaen-dal, ac a adnewydda ei dan- ysgrifiad oi hun, a dderbynia yn wobr, heblaw Y MAP 0 GYMRU, gyfrol o GEMAIJ L'LWYFO, (PRIS UN DDOLAR.) Pwy bynag a anfona DDAU o enwau newyddion a'r blaen-dal, ac a adnew- ydda ei danysgrifiad ei hun, rhoddir iddo GEMAU LLWYFO, a chyfrol o zn MARVELOUS WORKS OF NATURE AND ART, (PRIS DOLAR A HANER,) A'R MAP MAWR LLIWIEDIG. DALIER SYLw-Bydd pawb a dalant yn mlaenllaw am 1876 yn teilvngit y Map, pa un bynag ai derbynwyr unigol neu aelodau o glybiau fyddoizt- Cyfeirier pob archebion, T. J. GRIFFITHS, DRYCH OFFICE, UTICA, N. Y. Llyfrau Llyfrau NWYBDAU YSGRTFENU, &C. GILBERT & SALISBURY, 117 GENESEE STREET, UTICA, A gadwant y stock fwyaf o Lyfrau yn nghanolbarth New York. Cynwysa Feiblau o bob matnt a phris. Llyfrau Ysgolion o bob math. Llyfrau Hanesyddiaeth pob gwlad. Llyfrau Duwinyddol, &c. Amrywiaeth mawr o Lyfrau at wasanaeth Ysgol- ion Sul, a Llyfrgelloedd Ysgolion Dyddiol. Gweithiau yr holl Feirdd Seisnig o euwogrwydd, hen a diweddar. Y mae genym hefyd nifer mawr o bethau tlysion i'w rhoddi yn anrhegion Nadolig ac at "ChristrnaIJ Trees." Yr ydym yn gwerthu yn rhad, ac y mae ein nwyddau o'r fath oreu. BBNJ. D. GILBERT, WK. K. SALISBURY. 178 Genesee Street, Utica, N. Y. JGF" ANFONIR LLYFRAU I UNRHYW GYFEIIUAD GYDA'R MAIL AR DDHRBYNIAD isu PRIS. DYJIA Y FFORDD FWYAF HWYLUS I'R CYKBY I GAEL LLYFB- AU SEISNIG AR WAHANOL GANGENAU. 46 L. B. WILLIAMS, G WA WE-ARE UNYDD, UWCHBKN 77 & 79 GENESEE ST., UTICA, N. Y. Cymerlr pob math o arluniau, yn y dull goreu sydd yn bosibl. 8.75tf A LLAN O'R W ASG j—L YR AJIWEINYDD CYFLYM! I ddysgu darllen Cymraeg ar gynllun newydd, byr a chyflym, at wasanaeth yr Ysgol Sabbothol-70 cents v dwsin. Hefyd, CARDIAU YN CYNWYS Y PEDAIR GWEES GYNTAF, i'w rhoddi yn nwylaw plant byehain-45 cents v dwsin. Sample Copy o'r llyfr, 10 cents yr un. Anfoner at „ SAMUEL WILLIAMS, Market St., Wilkes-Barre, Luzerne Co., Pa. JAPAN TEA WAREHOUSE. [SEFYDLWYD 1871. ] 410 EAST 17TH ST., NEW YORK. G. T. MATHEWS, PERCIIENOG. Dymuna Mr. Mathews, yr hwn sydd yn Gymro yn gwneyd masnach helaeth mewn Te yn ninas New York, alw sylw ei gydgenedl yn y sefydliadau Cym- reig drwy y wlad at ragoroldeb a rhadlonrwydd y TE a'r CQfFI a werthir ganddo. Ehoddir pob manyl- ion yn nghylch y prisiau, &c., i fasnachwyr yn y wlad, ond iddyntanfon i'rcyfeiriad nchod. GORUCHWYLWYR YN EISIAU yn mhob cym. ydogaeth, i:r rhai y cynygir manteision neillduol- Ond i nifer o deuluoedd glybio a'u gilydd, gallant gael nwyddau rhagorol am brisiau isel. Rhodder prawf ar Mr. Mathews. l'76tf mmi aiiiiM I C. MUNDY. (SEFTDLWYD 1865.) Byiiia y Lie i gael y Lluniau Goreu yn Utica. Cymerir Copiau o Hen Arluniau yn y dull goreu a phrydferthaf. Gwerthir pob math a Ffrainiau o'r gwneuthuriad goraf a harddaf. RHIF. 11 BROAD STREET. 2'75 Ar y Llawr Cyntaf.. RISLEY, STODDARD & MATTESON, ATTORNEYS AND COTJNSEIXORS AT LAW Mather Block, Cor. Bleecker & Genesee, Utica. E. H. RISLEY, D. C. STODDARD, M. A. MATTESON. YSWiriant BYWYDAU AC EIDDO. lJJiJWISWCH Y CWMNIAU GOREU. SEF Y LONDON ASSURANCE COPORATION$15,000,000 SECURITY, New Haven, 330,000 CITY, Providence. 200,000 NATIONAL, New York 400,000 HOME. New Jersey 250,000 EQUITABLE LIFE INS. Co., New York. 30,000,000 C. K. GRANNIS, Gorachwyliwr, 138 Genesee St., Devereux Block, Utica, N. Y. Yn yr hwn y gellir rhoddi pob ymddiried. 475-