Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
D, (I "!I¡l"" "¡I'Æ.,2{!{@) '/Pw,"i' r.- ,y- '-W=- ).o 111)" A W&JZKLT JVJZWSTATED. EST ABLISIIED 1851. Issued Every Thursday Morning. T. J. GRIFFITHS, Proprietor, UTICA. N. Y.
....... TRANOETH WEDI'R DY'GWYL.
TRANOETH WEDI'R DY'GWYL. GAN Y PARCH. L. MEREDITH (L. GLYN DYFI.) Dyna adeg nad oes neb yn hiraethu am ei gweled; ac eto dyfod y mae, fel y cym- ylau ar ol y gwlaw. Edrych yn mlaen yw yr hyn yr ymhyfrydir ynddo gan bawb dysgwyl pethau gwych i ddyfod." Mae twysged o wir yn yr hyn a ddywed y bardd Seisnig- Hope springs eternal in the human breast; Man never is, but always to be blest." Y fath lawenydd a ddawnsiai dan fron yr hogiau a'r genethod bychain, wrth feddwl am y gwyrthiau a gyflawnid gan hen Sant y Nadolig Ond dyn a helpo'r tlawd Hosan wag yn y bore, a chinio heb na thwrci na gwydd, cig rhost na berw, ar y bwrdd dyna syrthiodd i ran Ilaweroedd ar ol yr holl ddysgwyl. Ac nid yw hyn ond arlun mewn drych, o ddosbarth arall tua'r dyddiau hyn. Parotoi mawr, a dys- gwyl mawr sydd wedi bod ar gyfer y Nad- olig a'r Calan. Awdwyr a chystadleuwyr —traethodwyr a beirdd, wrth y canoedd (bobl anwyl!) wedi bod trwy y misoedd yn cerdded ar flaenau eu traedmewn gorhoen berlewygol, ar hyd a lied gerddi perlysiol eu dawn a'u drychfeddyliau. Pob llinell yn creu syndod at ddyfnder y meddwl a phrydferthwch anhafal y farddoniaeth. Wedi i'r naill gyfansoddiadi ar ol y Hall gael ei orphen, ei selio, a'i anfon ymaith, dyna binacl goruchafiaeth wedi ei gyr- haedd bob tro Gwarchod pawb, y fath gynhauaf toreithiog o anfarwoldeb oedd i orwedd yn gnwd toreithiog ar faes pob ym- geisydd cyn machlud haul y Nadolig a'r Calan Byd<:>,i pob awdwr dan orfod i dynu i lawr (í hen ysguboriau, ac adeiladu rhai mwy. Ni byddai un ty yn ddigon maintiolus, nac yn cynwys digonedd o ys- tafelloedd, i drysori y cadeiriau, y tlysau, a'r arian, y byddid yn sicr o'u henill. Dy- wedais "pob awdwr." Nid yn hollol felly. Rhoddwn binsiad o halen yn y frawddeg yna fel hyn pob awdwr bach— pob pastynfardd-eystadleuwyr ag y tasgai y chwys i'w talcenau wrth freuddwydio am ateb y cwestiwn Beth yw "awen wir ?" Y "sparbillsnid yr "hen hoelion wyth." Mae y glewion, y gwir deilwng, yn fwy gwylaidd o lawer na'r tylwyth hyn. Ni chlywir hwy byth yn ymffrostio wrth wisgo eu harfau, nac yn swagro wrth groesi cyffiniau yr ornestfa. I'r gwrthwyneb gyda'r lleill. Amser sobr yw "tranoeth wedi'r dy'- gwyl i'r epil yma. Caed allan fod llew ar yr heol-ei yn y preseb, yn sefyll rhyng- ddynt a nod .pen y gamp. y beirniad- wfft fyth i'w fath dyna'r andros diwybod- ar-dda a;u hysbeiliodd o'r gadair, y bath- odyn a r arian Ac yn aWr, ar ol i Eis- teddfodau y Nadolig a'r Calan gael eu gosod ar lechres yr hyn a fu, gwae darllen- wyr y DRYCH, y Wasg, a Baner America f oblegid y peth nesaf ar droed, o'r dwyrain aIn a'r gorllewin, o'r gogledd a'r- de, fydd- nid Q ddigabl barabl sydd gwbl beraidd," ond mewn chwerwder a surder ysbryd, i gwyno a gruddfan, a brathu a chablu, o herwydd y cam dybryd a'r anwybodaeth diesgus y bu y beirniad hwn a'r beirniad arall yn euog o honynt tuag at gyfansodd- iadau anwyl ac anhafarch y rhai a gy- hoeddwyd yn aflwyddianus. Yn awr, bwyllgorau Eisteddfodol yr am- ser a ddaw, goddefwch i mi anadlu aw- grym yn eich clust, a dyma fa: Dechreu- wch yn gynar i gasglu arian fel llwch, ac aur coeth fel ceryg yr heol. Yna, yn y cwrdd cyntaf ar ol Ilenwi eich trysorgell, pasiwch benderfyniad i droi pob beirniad allan o'i swydd, a pheidio ethol un arall ond gadawer i bob cystadleuwr i fod yn feirniad ar ei waith ei hun. Yna, Aneisor hawddamor ddydd dydd a rydd derfyn tragywyddol ar duch- an diddarfod "tranoeth wedi'r dy'gwyl.
4.H.. 0 GYMRU I AWSTRALIA,…
4.H 0 GYMRU I AWSTRALIA, AC YN OL, VIA ST. HELENA. GAN TOM AP DAVIES, CHURCH HILL, OHIO. Yr wyf yn ysgrifenu y via, Lladin, am nad oes un gair yn y Gymraeg na'r Saeson- aeg yn alluog i gyflwyno y syniad o fyned heibio i le, a galw yno. Gwael iawn ydyw by way of y Sais; ac nid yw heibio, trwy, na trwy ffordd, yn cyflwyno i'r Cymro yr un syniad ag a wna via i'r Lladinwr. Pan yn hogyn 16eg oed, ac heb fedru dim Saesneg, cychwynais, heb neb yn gwmni, o blith twmpathau brwyn plwyf Caio, Sir Gaer- fyrddin, i faesydd euraidd deheu-ddwyrain y byd. Cychwynais o Plymouth ar fwrdd llong hwyliau dda, o'r enw Sir John Law- rence—enw Llywodraethwr India yn am- ser rhyfel y Punjaub. Wedi pasio y Liz- zard, sef y pwynt mwyaf gorllewinol o Loegr, yn ngwaelod Cernyw, dyna dir Lloegr yn diflanu yn y gorwel o'n tu ol. Cymru aymroddai'n raddol, Oil i gladdiad pell ogleddoi." Cyfeiriai y Ilestr ar y cyntaf tua'r deheu, ar draws y Bay of Biscay, arfordiroedd Spaen ac Affrica. Ceir mwy o wynt wrth hwylio i lawr gyda'r arfordir Affricanaidd, na phe eymerid y ffordd ganol-forawl, am y rheswm fod hinsawdd Affrica yn gynes- ach na'r mor, ac felly mae awyr y naill yn deneuach na'r llall, ac o ganlyniad yn ach- osi ysgogiad awyrol parhaus, neu yr awe] ddymunol hono a eilw y morwr yn land breeze. Tua lledred 25° gog. cawsom y masnach-wynt gogledd-ddwyrain, yr hwn a'n cludodd yn fywiog ar ei aden, nes oedd- em bron wrth linell y cyhydedd, yr hon a groeswyd yn hydred 18°. Dywedai rhai o bobl dda Sir Gaerfyrddin wrthyf. cyn i mi gychwyn, mai lie peryglus iawn i fyned trwyddo oedd y line, am fod y llongau yn myned dan ddwfr am ychydig amser, ac yna i'w gweled fel pe yn troi a'u gwyneb i waered, am eu bod yn troi i'r ochr arall i'r byd. Tebyg eu bod yn credu fod y ddaear yr un ffurf a thorth blanc Sir Gaer, neu deisen lychwan Morganwg; fodd byn- ag, ni ddigwyddodd dim neillduol ini.— Ond pan oeddwn yn dychwelyd y ffordd hono chwe' mlynedd wedi hyny, cefais y fraint un noson o weled Neptune, duw'r mor,yn codi o'r dyfnder mewn colofn'o dan coal tar, ac yn byrddio ein llong, a dyna'F noson y cefais fy argyhoeddi fod yn rhaid cael dau o torwyr I wneya un as- yn. (Caiff y darllenydd hanes digrif a manwl o'r'digwyddiad yn hanes fy nych- weliad). Nid yw y cyhydlin yn ddim am- gen na llinell ddychymygol, yn rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin ar draws canol y bel- en ddaearol. Dechreuir cyfrif lledred o'r llinell yn ogleddoi hyd begwn y gogledd, ac o'r un llinell yn ddeheuol hyd begwn y deheu; gelwir y naill yn lledred gogleddol a'r llall y deheuol. Cyfrifir lledredau wrth raddau. Cynwysa un gradd 60 o filltiroedd daearyddol, neu 69 o rai Seisnig. Mae y pellder o'r un llinell i bob un o'r ddau beg. wn yn 90 o raddau, yr hyn o'i luosogi a 69% a rydd y pellder mewn milltiroedd. I egluro-yn fanylach—y mae sefyllfa New York tua 43 gradd o ledred gogleddol, yr hyn o'i luosogi a 69% a rydd bellder N. Y. yn ogleddoi o'r cyhydlin mewn llinell un- ionsyth. I iawn ddeall y "MAP o GYMRU," yn ogystal a phob map arall, cofier mai y top yw y gogledd y deheu yw y gwaelod, y dwyrain ar yllaw ddeheu, a'r gorllewin ar yr aswy. Os bydd rhifnodau y lledredau ar yr ochrau yn cynyddu tuag i fyny, bydd y wlad a ddarlunir mewn lledredau gog- leddol ond os cynyddant tuag i waered, bydd y wlad y tu deheu i'r cyhydlin. Hyd- red yw y llinell sydd yn croesi y lledred— yn llydain wrth groesi y cyhydlin, ac yn darfod yn y pegynau. Gellir ei gyfrif yn ddwyreiniol a gorllewinol o unrhyw le; o Greenwich, ger Llundain, y gwneir hyny yn gyffredin. Mae yn angenrheidiol i'r darllenydd, os ydyw am ddeall natur ac achos y masnach- wynt, i gofio fod y cyhydlin, neu linell canolbwynt amgylchedd y ddaear, ynrlianu y belen ddaearol i ddwy haner-bel, sef yr ogleddol a'r ddeheuol; y mae cylch llyd- an, mawreddog arall yn rhedeg bron yn gyfochrog a'r cyhydlin, yr hwn a elwir y diffyglin, ac a ddynoda y llwybr a dra- mwya yr haul; ymestyna 23° 307 o raddau yn ogleddol a deheuol o'r cyhydlin, y rhai ydynt y ddau eithafnod a dramwyir gan yr haul, hyny yw, mae yr haul yn syth uwch y cyhydlin ar yr 21ain o Fawrth ac o Fedi. o Mawrth 21ain hyd Mehefin 21ain, bydd yn dyfod fwy-fwy i'r gogledd, nes y bydd uwch lledred 23%, neu 23° 307 gog., yna ymddengys fel yn dychwelyd yr un modd; bydd yn ol uwch y cyhydlin Medi 21ain, a cliyrhaedda ei bwynt mwyaf deheuol, sef 23° 30' gradd, ar yr 21ain o liagfyr; o ganlyniad mae y gwres yn fwy angerddol yn y lledredau hyn nag yn un rhan arall o'r ddaear, am fod yr haul yn pelydru ar- nynt ar lai o osgo, ac fe'i gelwir y gwregys poeth (torrid zone). Wedi cymeryd hyn i ystyriaeth, a chofio fod y ddaear, ys dy- wed Newton, yn atdreiglo ei distaw yrfa yn mlaen o amgylch yr haul, deallir yn rhwydd yr achos o'r masnacli-wyntoedd. Ond i fod yn fwy manwl-mae gyrfa ym- ddangosol yr haul o'r dwyrain i'r gorllew- in, ac mae yn amlwg fod ei belydrau trwy y gwres a gynyrchant yn teneuo awyrgylch isaf y gwregys poeth, a'r cyfryw awyr dra- chefn yn esgyn i fyny yn ffrydlif parhaus; a thra mae hyn yna yn myned yn mlaen, mae awyr ocrach o'r lledredau tymerus cyfagos yn rhuthro i mewn i'w lie; ond o ledredau oerion y pegynau y mae y cyfryw awelon oerion yn dyfod yn ddeheuol; aphe buasai y ddaear yn sefydlog (stationary), dyna fuasai eu cyfeiriad, ond yn lie hyny mae cyfeiriad y trSd-wyntoedd sydd y tu deheu i'r cyhydlin o'r de-ddwyrain, a'r gogleddol o'r gogledd-ddwyrain, o her- wydd hyn-nid yw y ddaear yn atdreiglo ond y nesaf peth i ddim ar y pegynau; ond fel y dynesir at y cyhydlin mae yn atdreig- lo gyda chyflymdra dirfawr, ac nid yw y gwyntoedd wrth ysgubo i lawr o'r pegynau tua'r cyhydlin mor gyflym yn eu hysgogiad ag yw y ddaear; felly, maent megis yn cael eu gadael ar ol, a thrwy hyny yn chwythu bob amser o'r pwyntiau a nodwyd. Ter- fynau pellaf y ddau fasnach-wynt ydyw 30 o raddau yn ogleddol a deheuol o'r cyhyd- lin. Ni chawsom ddim gwlaw yn un o'r ddau fasnach-wynt, ond cawsom y gwlawogydd mwyaf a welsom erioed am 5 lledred wedi croesi y llinell, a dywedai y morwyr ei bod yn gwlawio yno bron bob amser. Gwel- som yno hefyd filoedd o bysg adeiniog (flying jkh) o faintioli ysgadan, ac o ran lliw a ffurf yn lied debyg i black suckers af- onydd y wlad hon; cyfodent yn heidiau o'r dwfr, pan yn cael eu herlyn gan y por- pois a'r dolphins; gallent ehedeg cyhyd ag y parhai eu hadenydd yn wlyb, yna syrth- ient yn ol i'r dwfr, ac weithiau i safnau gwancus eu beddau byw. Yn fy ysgrif nesaf, af yn frysiog i Adel- aide, ac yn ol i St. Helena.
[No title]
0. NID ydyw deddf addysg Mr. Forster wedi llwyddo i gael y plant i'r ysgol yn Nghymry a Lloegr fel y dysgwylid; ond ycliwanegwyd yr ysgolorion mewn pedair blynedd o 1,225,000 i 1,725,000, eto y mae yn y deyrnas 2,575,000 o blant heb fyned i'r ysgol o gwbl! Mae gwneyd cyfraith i gosbi rhieni plant am beidio eu hanfon i'r ysgolion, heb ddarparu lie iddynt, yn ang- hysondeb mawr; a dywedir nad oes yn Lloegr a Chymru ond eisteddleoedd i 2,- 871,000 allan o 4,500,000 o blant. Bernir y cynygir mesur yn y Parliament nesaf, i fabwysiadu cynllun ysgolion rhad Ameri- ca, i'w cynal yn gwbl drwy drethiad eiddo tirol. Diau y bydd i'r tir-feddianwyr wrth- wynebu y cynllun; ond dywedir fod Ar- glwydd Russel, yn ff afriol i'r drychfeddwl.
[No title]
—Sonir fod y Gydgyngorfa yn meddwl pasio cyfraith i leihau y fyddin sefydlog; ac awgrymir na fydd i Grant ei llawnodi.
ADDYSG EIN PLANT.
ADDYSG EIN PLANT. GAN EOS COLUMBIA. Byddem yn adnabod hen wr yn y cymyd- ogaethau hyn unwaith, a fyddai yn arfer dweyd y carasai weled yr holl ysgoldai yn myned ar dan, am mai lleoedd i fagu rogues ydynt. Credai mai pa fwyaf o ysgolheig- ion a fyddai dynion, mai mwyaf o rogues a fyddent. Nid ydym yn hysbys pa peth a achosodd i'r hen wr fabwysiadu y gredin- iaeth hono, os na ddarfu iddo ryw dro gyfarfod ag ambell un a wnaethant gam- ddefnydd o'u dysgeidiaeth,—gan ei defn- yddio at ddybenion drygionus yn lie at yr amcan priodol. Ond nid ar yr addysg a dderbyniasant yr oedd y bai hwnw yn gor- phwys, ond arnynt hwy yn ei gam-ddefn- yddio ac nid ellir ystyried yr hen wr hwnw yn eithriad ysywaeth, ond ceir llu- oedd eraill a goleddant yn debyg yr un syniadau ag yntau, neu o'r hyn lleiaf a siaradant hyny yn eu liagweddau. Dengys Adroddiad Blynyddol Bwrdd Addysg y Dalaeth hon, am y flwyddyn ddiweddaf, fod 55,641 o bersonau o ddeg mlwydd oed ac uchod, yn byw yn y Dal- aeth, yn analluog i ddarllen ac ysgrifenu, Dywedir hefyd fod cynifer a 50,000 nad ydynt byth yn myned i unrhyw ysgol. Yn ngwyneb y ffaith hon, mae rhai per- sonau yn dadleu dros gael gan y Ddeddf- wrfa i basio deddf i orfodi rhieni a guardi- ans i'w hanfon i'r ysgol, yn debyg fel ag y mae mewn amryw o'r Talaethau eraill. Y mae yn ddiameu yr atebai y cyffelyb ddeddf y dyben yn dda mewn dinasoedd lie mae gallu yr hedd-geidwaid wrth law i'w dodi mewn grym; ond y mae yn am- heus genym a fyddai y swyddogion, mewn rhandiroedd yn y wlad, yn feddianol ar ddigon o benderfyniad i roddi y cyffelyb ddeddf mewn gweithrediad. Mae y bobl hyny ag sydd yn esgeuluso rhoddi dysgeidiaeth briodol i'w plant, yn euog, nid yn unig o wneuthur cam a'r plant, ond hefyd a chymdeithas, yr oes a'r wlad y byddant yn byw ynddi. Nis gall unrhyw drychineb mwy alaethus ddigwydd i wlad, na bod ei hieuenctyd yn cael eu goddef i dyfu i fyny mewn anwybodaeth; a plia le neu pa wlad bynag a oddefa y fath beth, y giae yn sicr o brofi yn ddi- nystriol iddi yn y diwedd. Mewn gwlad fel hon, lie mae manteision addysg mor hynod luosog, nid oes angen i neb rhyw ddyn na dynes fod heb allu darllen ac ys- grifenu yn Ida; ac os digwydd i'r fath bersonau fod, bydd y bai yn gorphwys naill ai wrth ddrysau y personau eu hun- ain neu wrth ddrysau eu rhieni. Y rhan amlaf wrth ddrysau y rhieni y gorphwys y bai. Gwelir llawer o bobl nad ydynt yn ymddangos yn cymeryd un gradd o ddy- ddordeb yn addysg a diwylliant eu plant, ond goddefant iddynt dyfu i fyny mewn dygn dywyllwch ac anwybodaeth, ac o'r bron mor amddifad o addysg a'r an if ail di- reswm. Esgeulusir Ilawer o blant o her- wydd tynerwch eu rhieni, ac yn enwedig eu mamau, yn gadael iddynt aros gartref ar yr esgusodion lleiaf a mwyaf dibwys— naill ai bydd y tywydd yn rhy gynes neu yn rhy oer, neu bydd yr athraw wedi tros- eddu yn eu herbyn, yn nghyda llawer o gyffelyb esgusodion dibwys eraill. Y can- lyniad ydyw, fod miloedd o'r ieuengtyd yn cael eu goddef i dyfu i fyny mewn an- wybodaeth, a llawer o'r ysgolion yn haner gweigion, yn enwedig yn ystod tymor yr haf, ac heb yn ami haner digon o blant i'w cadw yn mlaen. Achosa hyny i filoedd o ddoleri gael eu gwastraffu bob blwyddyn, drwy dalu eyflogau uchel i athrawon, a hyny heb dderbyn unrhyw ad-daliad yn ol. Yn ystod fy mhrofiad fel athraw, cefais mai tramorwyr oeddynt y dosbarth hwn y rhan fynychaf—plant i rieni Seisnig, Cym- reig, Gwyddelig. Ysgotaidd ac Ellmynaidd. Nid yn ami y ceir Americaniaid yn eu mysg. Cefais hefyd fod y Germaniaid yn rhagori llawer ar y rhan fwyaf o'r cenedl- oedd sydd yn dyfod yma o Ewrop. Efallai y gellir priodoli hyny i'r gwerth uchel a roddir ar addysg yn y wlad hono. Nid yn ami y ceir Ellmyn nad ydyw yn alluog i ddarllen ac ysgrifenu iaith ei fam yn dda, ac anfynych y canfyddir un nad ydyw yn awyddus am i'w blant gael addysg. I'r dos. barth anwybodus, fynychaf, y perthyn y bobl hyny sydd ddifater i rdcldi addysg i'w plant. Nid ydynt erioed wedi gweled gwerth addysg eu hunain, a thrwy hyny credant nad oes angen am i'w plant gael ei weled ychwaith. Y mae y rhan wareiddiedig o'r byd, erbyn hyn, yn argyhoeddedig o'r ffaith, fod addysg yn rhatach ac yn talu yn well na gweiDyddiad cosp, a thrwy hyny nid ydynt wedi bod yn ol o wneyd pob darpar- iaeth er dwyn oddiamgylch y cyffelyb am- can, drwy adeiladu colegau a sefydlu ys- golion, a darparu arian, &c., i'r perwyl; ac nid oes angen i neb fod yn amddifad o addysg; ond gall y tlawd yn gystal a'r cyf- oethog ddyfod yn feddianol arno, os bydd yn ewyllysio. Mewn cynadledd a gynal- iwyd ychydig flynyddau yn ol yn ninas St. Louis, er chwilio i mewn i achos trosedd- au, deuwyd i'r penderfyniad fod troseddau i gael eu priodoli i dri o wahanol achosion, sef, segurdod, meddwdod, a diffyg addysg. Pobl anwybodus ydynt y rhai sydd yn gwneuthur i fyny restr y drwg-weithred- wyr, ac yn llanw y carchardai a'r elusen- dai, a'r rhai hyny, y rhan amlaf, sydd yn esgyn esgynlawr y dienyddle. Pan gy- chwynwyd yr hyn a elwir y Ragged School, yn ninas Edinburgh, Scotland, yn y flwydd- yn 1847, yr oedd 5 y cant o nifer y trosedd- wyr o dan 14 oed, sef 315 allan o 5,734. Ond yn y flwyddyn 1851 yr oedd nifer y troseddwyr o dan 14 wedi lleihau i lai nag un y cant—allan o 5,869 o droseddwyr nid oedd ond 56 o'r nifer o dan 14 oed. Wedi gwneuthur ymchwiliad i'r achos, deuwvd i'r penderfyniad, mai yr ysgolion hyny oedd wedi bod yn brif achos o'r cyfnewid- iad daionus. Delafidd, Wisconsin.