Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
T. J. GRIFFITHS, Cyhoeddwr.…
T. J. GRIFFITHS, Cyhoeddwr. GOLYGWYR, J. W. JONEW, J. C. ROBERTS.
Y DRYCH AM 1876.
Y DRYCH AM 1876. Mae y rhifyn hwn yn dechreu y XXVI Gyfrol o'r DRYCH, ac wele chwarter canrif o'i wasanaeth i Gymry America yn awr o fiaen y byd. Hawdd fyddai i ni gyhoeddi ugeiniau o lythyrau a dderbyniasom yn ystod yr wythnosau diweddaf, oddiwrth hen ddarllenwyr cyson a diwyd, yn diolch o eigion eu calonau am wasanaeth y DRYCH iddynt, drwy y blynyddoedd; ond gobeith- iwn y boddlonant ar grybwylliad cyffred- inol fel hyn, o herwydd prinder gofod i gyhoeddi y manylion. Mae yn gysur i ni gael ar ddeall fod y rhai oeddynt yn di- bynu YD gwbl ar y DRYCH am bob gwybod- aeth fuddiol, drwy y chwarter canrif diw- eddaf, yn gallu tystio yn awr na cham- arweiniwyd hwy; ac yn diolch yn wresog am ymweliadau cyson y papyr, yn or- lwythog o amrywiaethau buddiol a dy- ddorol, cartrefol a thramor. Mae adnew- yddiad y tanysgrifiadau a'r derbynwyr newyddion a ddylifant i mewn o bob parth o'r TJndeb, y prafion goreu o werthfawr- egiad ein llafur, a'n gwasanaeth i'n cenedl yn eu gwlad fabwysiedig. Bu ein goheb- wyr yn ffyddlon a gweithgar yn eu gwa- hanol gylchoedd; ac y mae yn hyfrydwch genym allu rhifo yn eu plith brif ysgrifen- wyr ein cenedl yn America, y rhai ydynt yn addaw dyblu eu ffyddlondeb y flwydd- yn hon. Bydd erthyglau byrion a grymus ar bynciau buddiol ac addysgiadol, yn wir dderbyniol, a chfint y flaenoriaeth ar bob cecraeth a chyndyn-ddadleuon pcrsonol ac anfuddiol. Mae meusydd y celfau a'r gwyddorau, gwleidiadaeth, hanesjddiaeth, athroniaeth, bywgrafflaeth, &c.,ynIIawn- ion o bynciau dyddorol a buddiol, i'w hefrydu ac i ysgrifenu arnynt. Hefyd y mae llawer o bynciau mewn cysylltiad ag addysg elfenol, y byddai yn fuddiol i ys- grifeuwyr galluog eu trafod er addysg yr oes sydd yn codi. Yr ydym yn gwybod drwy brofiad, ac mae hanes gwareiddiad a Iledaeniad gwyb- odaeth yn profi yr un peth, y gall daioni mawr ddeilliaw oddiwrth ddadieuon ar wahanol bynciau, ond i'r dadleuwyr gofio y diarebion canlynol: Egwyddorion, nid personau."—"Nid gwaeth y gwir er fei chwilio." Er mor syml a rhesymol ydyw y gosodiadau uchod, y mae braidd yn an- mhosibl cael dynion i sefyll atynt. Prif nodweddion dadleuwyr yn gyffredin ydyw, priodoli dybenion anheilwng y naill i'r Hall, danod gwendidau a beiau eu gilydd, llysenwi a brathu ag ymadroddion chwer- won. Nis gall dadleuon o'r fath gynyrcliu unrhyw ddaioni, a doeth fyddai i bersonau nad allant drafod pynciau heb ddifrio per- sonau, ymgadw o'r maes dadleuol.- Gwnaed pob ymdrech oedd ddichonadwy i gadw dadleuon anfuddiol allan o'r DRYCH y flwyddyn ddiweddaf, ac ar yr un pryd, sefyll at ein harwyddaif, "Rhydd i bob meddwl eifarn, ac i bob barn ei llafar." Mae rhwymau arbenig arnom i gydnabod yn ddiolchgar wasanaeth ein gohebwyr, mewn gwahanol ardaloedd, fuont yn ffyddlon i anfon hanesion lleol, am an- sawdd a chyflwr cymdeithas yn y sefydl- iadau Cyrnreig. Bydd i hanesion cyfar- fodydd cyhoeddus, damweiniau, marwol- aethau a phob newyddion Cymreig, gael y flaenoriaeth bob amser; ac ymdrecher an- fon y cyfryw yn ddioed, cyn iddynt fyned yn hen hanesion. Mae yn hyfrydwch gen- ym alia lloagyfarcli ein darllenwyr ar y ffaith fod holl newyddion y DRYCH yn am- serol drwy y flwyddyn ddiweddaf. Gofal- wyd yn neillduol am hyn, a chyhoeddwyd hanesion pob dygwyddiadau pwysig car- trefol a thramor, tra yr oeddynt yn newydd- ion. Mae rhagarwyddion amlwg y bydd y fiwyddyn hon y bwysicaf ar amryw ystyr- ion, er terfyniad y gwrthryfel mawr; a bwriedir gwneyd y DRYCH yn gyfrwng gwybodaeth anhebgorol i bob teulu Cym- reig, yn gystal a phersonau unigbl. Y flwyddyn hon sydd yn terfynu y .canrif cyntaf o oed Gwerin-Lywodraeth y Tal- aethau Unedig, a dathlir y dygwyddiad hynod drwy yr arddangosiad helaethaf a welwyd erioed ar y cyfandir hwn, o gyn- yrchion diwydrwydd, ac arwyddion llwyddiant cenedlaethol anghydmarol.— Hefyd etholir Arlywydd am y pedair blyn- edd dyfodol; a llywodraethir Ty y Cyn- rychiolwyr gan y Democratiaid am y tro cyntaf o fewn pymtheng mlynedd. Bydd llygad y wlad yn Ilym am y chwe' mis dyfodol ar ymddygiadau y blaid Ddem- ocrataidd, yr hon sydd yn gwybod fod ei thynged yn y glorian. Bwriada enill ffafr- au y cyhoedd drwy ddynoethi twyll ac anonestrwydd gweinyddiaeth y blaid Wer- inol, a gosod esiampl dda ei hun o flaen y genedl. Rhaid i'r ddwy blaid ymarfogi yn y modd goreu, a defnyddio eu holl ddoethineb yn y chwe' mis nesaf; a bydd i'r bobl ddewis y dynion goreu, i ba blaid bynag y perthynant. Disgwylir adfywiad masnach yn nghorff y flwyddyn; a chan fod y Democratiaid yn cwyno o herwydd aneffeithiolrwydd y blaid Werinol er's pymtbeng mlynedd, teimlir yn bryderus gyda golwg ar eu gweithrediadau y gauaf presenol. Bydd i'r DRYCH wylio yn ofal- us bob symudiad cyhoeddus, a chyfleu i'w ddarllenwyr gyflawn wybodaeth o ansawdd helyntion y byd a'r amserau. Yr ydym yn bwriadu arwain yr un cwrs y flwyddyn hon eto, a chadw y DRYCH yn annibynol, anmhleidiol a rhydd, i amddi- ffyn y gwirionedd, cyfiawnder a thegwoh yn mhawb a phob peth. Nid ydyw yn perthyn i unrhyw enwad crefyddol na phlaid boliticaidd, ond mae yn GENEDL- AETHOL yn nghyflawn ystyr y gair; ac yn amddiffynydd iawnderau y gweithwyr, bonedd y Cymry, llenyddiaeth ein cenedl, a'r iaith Gymraeg. Amddiffynir y gwir- ionedd, y cywir a'r da; ac ymosodir ar bob twyll, rhagrith a chyfeiliornad, lie bynag y canfyddir y cyfryw. Drwy sefyll yn dyn wrth y rheolau hyn y llwyddodd DRYCH yr amser a aeth heibio, ac wrth ddyblu diwyd- rwydd a ffyddlondeb yr arweinir ef i fwy o lwyddiant yn y dyfodol. Dymuna i'w boll gefnogwyr "FLWYDDYN NEWYDD DDA."
[No title]
BYDD yn llawen gan y ffarmwyr yn y Talaethau Gorllewinol gael ar ddeall fod y gwahanol reilffyrdd, sef yr Erie, Pennsyl- vania Central a'r New York Central, wedi gostwng pris cludiad nwyddau yr wythnos, ddiweddaf, mewn trefn i osod dinas New I York ar yr un telerau a Boston. Dichon nad ydynt yn haeddu diolchgarwch am eu haelfrydedd; canys cyn gwneyd y gos- tyngiad, amcanasant ddarbwyllø y Grand Trunk a'r Vermont Central R. R., i godi pris y cludiad, ond gwrthodasant gyd- synio. Peth arall, y mae llai o ffordd o New York i'r Gorllewin nag sydd o Bos- ton, gan hyny dylai y cludiad fod yn rhatach.
I.' EFENGYLXJ Y BYD.
I. EFENGYLXJ Y BYD. I' Mae sefydliad yn Lloegr a elwir Train- ing Inst.tute, lie y darperir cenadon i fyned i wledydd tramor; ac mae adroddiad di- weddaf y sefydliad yn cynwys flieithiau tra hynod. Dywedir fod llawer yn anfon deisebau am gael dyfod i mewn; ond g-rfu i fwrdd y trefnwyi* wrthod amryw o hon- ynt, am nad oedd profion fod Duw wedi eu galw i'r genadaeth dramor, a bod nifer yn anaddas i unrliyw genadaeth o gwbl. Dywedir fod eisiau mwy o ddoethineb yn hyfforddwyr a chyfarwyddwyr colegau Lloegr a Chymru, y rhai a gynelir ar draul rhoddion gwirfoddol cyfundebau crefvdd- ol, tuag at gymwyso dynion cyfaddas i waith y weinidogaeth efengylaidd. Cwyn- ir fod dynion yn cael eu llithro i mewn i'r colegau, nad oes ynddynt y gradd lleiaf o gymwysder i'r gwaith afwriedir; ac mae yr aflwyddiant yn nglyn a'u llafur an- effeitliiol yn profi y pwnc tu hwnt i bob rhitli ambeuaeth. Dywedir hetyd nad oes eisiau rhagor o genadon cartrefol yn Nghymru a Lloegr, a bod yno ormod yn barod, yn ol nifer y bobl. Mae gan yr Eg- lwys Sefydledig 25,000 o weinidogion: yr Annibynwyr, 2,400; y Wesleyaid, 2,000; y Bedyddwyr, 1,800. Dyna 30,000 dan urddau gweinidogaethol mewn tiriogaeth fechan fel Cymru a Lloegr; ac os ydyw y pregethwyr cynorthwyol, ar brawf, &c., yn ddeg am bob un gweinidog rheolaidd, ceir byddin o efengylwyr yn rhifo 300,- 000. Nid oes gan y nifer uchod o ddiwygwyr ond 20,000,000 o bobl i lafurio yn eu plith, tra y mae ar y maes Paganaidd 800,000,000 o eneidiau, heb ond 800 o ddysgawdwyr i'w harwain i'r iawn ffordd! Dywedir yn yr adroddiad yn mhellach fel y canlyn: "Mae gan Eglwys y Gym- deithas Genadol 242 yn llafurio ar y maes cenadol, ond yn hynod o wasgaredig; y Trefnyddion Wesleyaidd, 250, hefyd ar wasgar; y.Gymdeithas Genadol, 158; Cym- deithas y Bedyddwyr, 100; a rhyw ychyd- ig yma a thraw gan y Presbyteriaid, a mSn enwadau crefyddol. Os ydyw y rhifnodau yna oil yn gywir mewn perthynas i gyflwr moesol y maesydd cenadol, neu y byd pag- anaidd yn y ganrif bresenol, o herwydd diffrwythder a difaterwch y pedwar enwad fu dan sylw, ac yn enwedig arweinwyr y colegau duwinyddol, nid rhyfedd pe troai pob rhifnod yn dan ysol yn mynwes pob myfyriwr pwyllus, a'r hwn sydd ynteimlo dros achos y Gwaredwr. Mae yn drueni meddwl nad oes gan y pedwar enwad eto ond rhyw 800 o genadon i wynebu 800,000,- 000 o baganiaid! Dim ond un dyn ar gyf- er miliwn o eilunaddolwyr; eithr ar yllaw arall wele y pedwar enwad yn meddu gar- tref 30,000 o weinidogion i 20,000,000 o bobl wareiddiedig. Mae un gweinidog ar gyfer pob 666 mewn gwlad efengyl yn llawer gormod, yn ngwyneb y ffaith nad oes yn y gwledydd paganaidd ond 1 gwein- idog i bob 1,000,090 o bobl, a'r rhai hyny oil heb glywed son am yr iawn Waredwr. Wele dan deyrnasiad y Frenines Victoria dros 250,000,000 o bobl yn eilun-addolwyr yn India Dyna tua 400,000,000 yn China yn yr un cyflwr. Beth am Affrica, Aws- tralia, Japan, Rwsia a Twrci, oil yn myned ar gyfeiliorn, gydag eilun-addoliaeth, Ma- hometaniaeth, Groegiaeth a Phabydd- iaeth? Ac yn y diwedd edrychwn gartref ar ochr waethaf y ddalen-ein meddwdod, ein lladradau a'n llofruddiaethau, a'n car- charau yn llawnion o ddrwg-weithredwyr. Ar bwy y gorphwys y cyfrifoldeb? Bydded i ni ddeffroi o gysgu i gyflawni ein dyled- swyddau ein hunain. Mae y gwaith yn fawr, a'r gweithwyr yn anaml. Ymgroes. wn rhag i'r canwyllbren gael ei symud o'n plith."
Y WHISKY RINGS.
Y WHISKY RINGS. Yr hyn a olygir wrth y peniad uchod ydyw, cyngrair distyllwyr gwirod aceraill, i ysbeilio y llywodraeth o'r doll gyfreith- Ion ar whisky a gwirodydd poethion o wa- hanol fathau. Mae y twyll wedi ei gario yn mlaen er's blynyddau, ond ysgrifenydd presenol y Trysorlys fu yn llwyddianus i ddinoethi y troseddwyr, a'u dwyn i gyfrif. Nid ydyw yn llwfrhau yn ei erlyniad ar ol yr euog, a dadlenir ychwaneg o dwyll braidd yn ddyddiol, mewn gwahanol ran- au o'r wlad. Ymddengys fod dynion cyf- rifol yn dal swyddi anrhydeddus dan y llywodraeth, ac yn meddu yntddiried y cy- hoedd, wedi llychwino eu gwisgoedd swyddogol drwy gytuno filladron! Dygir cwynion pwysig yn erbyn y Cadfridog Bab- cock ac eraill, a chyhuddir hwy o gyfran- ogi o'r ysbail mewn dull dirgelaidd, a llwgrwobrwyofe^ Ar y prawf yn St. Louis cymerodd John W. Bingham ei lw iddo dalu$2,000 yr wythnos i swyddogion y llywodraeth am ryddid i ddistyllu whisky yn dwyllodrus, a pheidio talu y doll i'r llywodraeth! Tystiodd yr un person hefyd iddo arafu gwyliadwriaeth a chraffder Mr. Powell, Arolygydd y Cyllid Mewnel, drwy ei anrhegu ag oriawr aur; a rhoddwyd $500 i swyddog arall am gau ei lygaid a chau ei geg! Talwyd $100 y mis i Mr. Charles E. Marsh, Evansville, am gadw y drydedd ran o'r whisky a anfonwyd ym- aith, o gyflyfr y llywodraeth. Hefyd caed allan fod un telegraph operator wedi gwerthu ei hun am $50 y mis, i wasanaeth ysbeil- wyr y llywodraeth. Rhaid mai green-horn ydQeti4 hwn, oblegid buaeai yr un mor hawdd iddo gael $100 neu $500 heb dros- eddu mwy nag a wnaeth am $50! Ac yn mhellach, bu un Mr. Brasher, brawd i swyddog dirgelaidd y llywodraeth, yn alluog i wasgu $23,000 oddiwrth y whisky ring, am beidio achwyn arnynt! Yn mis Ionawr, 1874, smygliwyd 1,000,- 000 o alwyni o whisky o St. Louis, heb dalu sent o doll i'r llywodraeth; ac nid oedd neb o swyddogion y cyllid yn gwybod dim am byny, os ydym i gredu eu haeriad- au. Mae yn amlwg nad ydyw yn hawdd symud 25,000 o farilau allan o ddinas heb dynu sylw neb; ac mae whisky yn mha le bynag y bydd, i fed dan ofal swyddogion y cyllid hyd nes yr a i faelfa y man- werthwr, dan stamp y llywodraeth. Am- canwyd profi y gallasai y whisky gael ei gario allan yn ddirgelaidd o St. Louis mewn demijohns; ond gwrthbrofwyd yr haeriad hwn drwy y ffaith, y buasai yn ac yr oedd yn anmhosibl pwrcasu y fath nifer. Mae yn amlwg oddiwrth hyn fod yn an- mhosibl i'r whisky fyned i'r marchnad- oedd heb gydsyniad swyddogion y llywod- raeth; ac mewn trefn i sicrhau hyny, yr oedd yn rhaid llwgr-wobrwyo. Cyfrifir fod llawn cymaint o whisky wedi ei ddirgel werthu yn Chicago, Cincinnati a Milwaukee; ac felly i'r llywodraeth gael ei hysbeilio o'r doll ar 5,000,000 o alwyni, sef $3,500,000! Mae hanesion rhyfedd yn cael eu cylch. daenu yn St. Louis mewn cysylltiad a'r whisky ring; ac mae rhai yn awgrymu fod yr Arlywydd yn gwybod am y twyll er's dwy flynedd, heb wneyd dim sylw o hono. Ymddengys nad oes sail i'r syniad hwn, heblaw fod Mr. Murdock, y casglydd, ddwy flynedd yn ol wedi hysbysu yr Ar- lywydd fod twyll yn cael ei gario yn mlaen. Anfonodd adroddiad o'r ffeithiau i'r Ar- lywydd, i'r Cad. Babcock, ac i Mr. Rich- ardson, Ysgrifenydd y Trysorlys; ond ni dderbyniodd atebiad o gwbl. Barna Mr. Murdock na dderbyniodd y Cad. Grant ei adroddiad, ac iddo fyned i ddwylaw y Cad. Babcock, yr hwn a gadwodd y cwbl yn ddirgel. Dygir cwyn hefyd yn erbyn y Seneddwr Morton, ei fod ef wedi anfon at y whisky ring yn Indianapolis am arian i dalu costau yr etholiad; ond mae y Senedd- wr ei hun yn gwaduy cwbl yn benderfynol. Mae yn ymddangos nad oes dim yn erbyn. y Seneddwr Morton, ond fod ei frawd yn nghyfraith mewn cyngrair gyda'r lladron, ac yn debyg o gael ei ddwyn i brawf. Caed McDonald ac Avery yn euog yn St. Louis; ond nid ydynt eto wedi derbyn eu tynged. Refyd y mae yno 30 o ddistyll- wyr a swyddogion y cyllid wedi cyffesu eu heuogrwydd, y rhai ydynt allan dan feich- iafon yn y swm o $15,000 i $20,000; ac maent hwythau eto heb dderbyn eu dedfryd am eu troseddau. Gohiriwyd y ddedfryd gan y barnwyr i aros prawf eraill, mewn trefn i fod yn alluog i ddosbarthu y gosb yn ol maint y troseddau. Mae amryw o aelodau y Ring wedi dianc o'r wlad.
[No title]
MAE pobl New York mewn pryder mawr y dyddiau hyn yn nghylch y dwfr sydd yn dyfod i'r ddinas o'r Afon Croton, gan nad ydyw yn ddigonol i ddiwallu pawb it dwfr iachus, Adgofir yr hen amser cyn gwneyd y gwaith dwfr, pan oedd y marwolaethau yn llawer lluosocach nag y buont byth wedi hyny. Dywed y Dirprwywyr i'r ddinas ddefnyddio 1,207,000,000 o alwyni mewn 34 o ddyddiau yn fwy na'r hyn a redodd o'r afon. Yr oedd yn rhaid gwneyd y diffyg uchod i fyny drwy ollwng dwfr o'r ddwfr-gist a gedwir wrth gefn erbyn tywydd sych a phoetli. Nid ydyw yn hawdd cyfrif am iselder y dwfr yn yr Afon yn y gauaf; ond yn ami defnyddir mwy o 20,000,000 o alwyni y dydd yn y gauaf nag yn yr haf. Defnyddiwyd y chwarter diw- eddaf 99 o alwyni y pen yn New York, tra nad oedd y swm a ddefnyddiwyd yn Llun- dain ond34 o alwyni yr un, a 28 o alwyni yr un yn Paris.-Beruir y rhaid cael 117,000,- 000 o alwyni yn ddyddiol i ddiwallu New York y gauaf presenol; a chan fod yr afon yn isel, ofnir newyn dwfr
[No title]
CAED allan yn ddiweddar fod nifer o ddynion anonest yn New York, Phila- delphia, Cincinnati, Pittsburgh a Chicago, 'wedi ffugio gweithredoedd 12,000,000 o erwau o dir yn Missouri ac Arkansas, a gwerthu gwerth tua $30,000,000 yn Lloegr ac America! Yr oedd teitl a gweithred oedd llawer o'r tir wedi eu dinystrio yn amser y rhyfel; eithr nid oedd gan y rhai a ffugiasant weithredoedd un math o hawl ar yr eiddo. Mae amryw o'r lladron wedi eu carcharu, ac yn eu plith Dr. Thomas K. Harmon, David Bingham a James L. Law- ton, Shannon, Missouri. Bydd y llywod- raeth yn debyg o gymeryd sylw o'r pwnc, .a dwyn y troseddwyr i afael cosbedigaeth, canys ffugiwyd enwau cofrestrwyr tirol y Talaethau Unedig.
[No title]
MAE y dirwestwr Prydeinig nodedig, J. H. Raper, cynrychiolydd Undeb Dirwestol Prydain Fawr, yn awr ar ymweliad a'r Tal- aethau Unedig; a'r wythnos ddiweddaf, cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn yr As- sociation Hall, New York, gan Gymdeithas Ddirwestol Genedlaethol America, i roddi croesawiad iddo. Traddodwyd anerchiad- au gan yr Anrh. William E. Dodge a'r Parch. Dr. J. B. Dunn. Dywedodd Mr. Raper nad oedd efe wedi dyfod drosodd i draddodi areithiau dirwestol, ond fel arsyll- ydd, er cael allan pa fodd y mae yr eg- wyddor ddirwestol yn gweithio ei ffordd mewn cymdeithas, yn y wlad hon. Mae yn ymddangos fod yr egwyddor ddirwestol yn treiddio cymdeithas yn ei gwahanol sef- ydliadau yn Mrydain, ac yn hawlio sylw pawb, y gwleidiadwyr yn gystal a'r cref- yddwyr. Pa mor eang bynag ydyw meddw- dod yn y Talaethau Unedig, meiddiai ddweyd ei fod yn eangach yn Mrydain, yn ol cyfartalrwydd y boblogaeth. Profir drwy ystadegau swyddogol fod £ 300,000,- 000, neu $1,500,000,000. wedi eu gwario am ddiodydd meddwol yn Ynys Prydain y flwyddyn ddiweddaf!
[No title]
YMDDENGYS fod ymddygiad FATHER GRACE, yr offeiriad Pabaidd yn Newport, Rhode Island, yn gwrtliodcyflawni y gwas- anaeth crefyddol yn angladd Miss Geneva De Fray, geneth rhieni Pabaidd, a'r hon a ddygwyd i fyny yn yr eglnys gatholig, yn parhau i gynyrfu y bobl i raddau eithaf- 01. Rheswm yr offeiriad dros wrthod oedd, fod yr enetli yn arfer myned i ysgol Brotes- tanaidd, a hyny yn unig am fod yr ysgol Babyddol yn rliy bell i enetli mor wanaidd gerdded yn ol ac yn mlaen. Dywedai yr offeiriad ei fod yn foddlon i'r corff gael ei gladdu yn mynwent y Pabyddion, ond nis gallai weddio uwch ben y bedd! Darfu i ymddygiad mor anoddefol, rhagfarnllyd a dallbleidiol o eiddo yr offeiriad, gynhyrfu cydymdeimlad cyffredinol ar ran y teulu trallodedig. y rhai oeddynt yn credu fod dedwyddwch tragwyddol eu plentyn yn dibynu ar y gwasanaeth angladdol. Aeth rhai mor bell a bygwth yr offeiriad a niwed personol!
[No title]
TARAWYD y wlad a syndod dirfawr yr wythnos ddiweddaf, drwy ddyfarniad y Barnydd Daly, o'r Uchaf Lys, yn New York, yn gosod allati y gellir gwerthu per- doneg am ddyled yr hwn fydd wedi ei llogi at ei wasanaeth, dros amser penod- edig. Cyfrifir fod can' mil o bersonau yn talu ardreth am ddefnyddio pianos perth- ynol i'r masnachwyr yn nghylchoedd New York; a chan y gellir eu gwerthu i dalu dyledion y benthycwyr, rhoddwyd can- oedd o gerti ar waith i'w cyrchu yn ol, cyn pen teirawr ar ol dyfarniad y Ilys Mae rhai yn haeru na saif y dyfarniad o flaen Llys yr Apeliad, a bw.iedir cario y cyng- aws yno. Dywedir mai prif amcan y Barnydd yn y penderfyniad oedd, atal ben- thyewyr pianos i dwyllo masnachwyr gon- est, drwy ymddangos eu bod yn ddigon cyfoethog i berchenogi offerynau cerdd drudfawr.
[No title]
DERBYOTWYD newyddion brawychus yr wythnos ddiweddaf o orllewin Texas, yn rhoddi ar ddeall fod y Comanche Indiaid wedi troi allan ar anturiaeth ryfelgar yn erbyn y sefydlwyr gwynion a'r Indiaid heddychol. Ymgynullodd 300 o honynt oddiamgylch bwlch San Rogero, 40 milltir o Rimalo. Dywed hysbysiad o Fort Clark fod mintai o Indiaid a Mexicaniaid wedi croesi yr afon islaw San Felipe, ac ymosod ar Pond's Ranch, gan ladd tri o ddynion, a lladrata 600 o anifeiliaid corniog. Cym- erodd cyflafan erchyll le yn Atokis, pryd y llofruddiwyd pedwar o bersonau-dau ddyn a dwy fenyw, y rhai a gladdwyd ar y maes. Yr oedd y cyrff wedi eu rhostio fel nad allai neb eu hadnabod. Safai mer- lyn a chyfrwy arno yn agos i'r lie; ac yr oedd ci bychan yn gorwedd gerllaw, yn ymyl yr hwn yr oedd rhych-ddryll heb ergyd ynddo. Gosodwyd y borfa ar dan i ddinystrio y llwybrau, fel nad allai neb erlyn y llofruddion. Anfonir milwyr i'r lie o Fort Clark.
" ART UNION," PL YMO TJTH,…
[.Hysbysiad.'] ART UNION," PL YMO TJTH, PA. PLYMOUTH, PA., Rhag. 15.—ByAded hysbys i'r cy- hoedd fod Eglwy* Fedyddiedig Plymouth yn gohirio Drawing yr "Art Union" hyd Awet, 1876, o herwydd nad ydym wedi derbyu digon o arian i dalu y Gwobr- au, heb y treulion. Er boddlonrwydd rhoddwn gyf- rif o'r swm ydym wedi dderbyn. Anfonasom dros 6,000 o docynau allan; ond ni dderbyniasom ond ychydig dros$500, tra y mae ein treuliau teithio, < ndverteisio, argraffu, &c., yn agos i 8140. Nid wyf yn meddwl fed yr un Cymro na Chymraes yn disgwyl i'r Drawing gymeryd lie ar yr 22ain o Ragfyr, yn ol fel yr hysbyswyd; canys felly buasai eglwys ag oedd wedi colli ei chapel drwy dan, yn dioddef colled ych- wanegol o tua $500. Gan hyny, yr ydym yn gobeith- io y bydd i hyn foddloni y cyhoedd. Dros yr eglwys, PABCB. E. JENKINS, Llywydd. THOS. W. DAVIHS, Ysgrifenydd.