Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

T)EHEUDIR CYMRU.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

T)EHEUDIR CYMRU. —Cafwyd dyn o'r enw Evan Owen, Casile street, Dowlais, wedi ymgrogi yn nhy ei fab, Owen Owen. —Gwnaeth Syr Pryse Pryse, Gogerddan, yn ol ei arfer bob blwyddyn, anrheg o ys- gyfarnog i b b un o beirianwyr a guards ilordd haiarn y Cambrian. —Dydd Mawrth, Tachwedd 30ain, y cymerodd etholiad Bwrdd Ysgol Unedig dosbarth Abertawe le. Yr oedd wyth o ymgeiswyr, ac fel y canlyn y safent yn yr etholiad: Davies, 3;532; R A. Jones, 3,052; Riley, i ,9?9; •Llewellyn, 1,420; T. Jones, 1,369; Williams, 1,139; Raynor, 274; Roberts, 83. Y pedwar blaenaf a ethol- wyd, —Canfyddwn fod y Parch. Thomas Gar- non o Goleg wedi rhoddi ateb eadmnhad i alwad egl wys y Bedyddwyr Seisnig, yn nghapel Seion, Glyn Ebbw. Mae y Parch. Isaac Hughes Jones, B. A., is-gorgeiniad Eglwys Gadeiriol Ty Ddewvigael ei ddyichafu gan Syr Thom- as Davies Lloyd, Barwnig, i fod yn rector Din as, yn Sir Ben fro. —Yn Heddlys Bwrdeisiol Caerdydd, Tachwedd SOain, pryd yr oedd y maer ar y fainc, dirwywyd deg o fenywod am fod yn feddwon y nos o'r blaen, a thraddodwyd ehwecho hooynt i garchar, am eu bod yn ffaelu talu y ddirwy. —Traddodwyd Thomas Thomas, o Aber- aman, i sefyll ei brawf yn y brawdlys am ladrata 11 ceiniog o westdy y Partridge. — Cafodd hitchwr o'r enw George Brock- ington, ei ladd yn IVfhwll y Darren, Merth- yr. Taraw vd ef adarn o lo, a syrthiodd o dram oedd yn esgyn y pwll. —Cyfarfyddodd un George Benjamin, 24 oed, a'iddiweddyn Aberdar, drwy fyned rhwng cerbydau y Great Western. DYFFRYN RHONDDA.—Wrth ddilyn yn mlaen gyda'u gwaith, daeth y glowyr yn ngwaith glo Penrhiwfur, yn Nyffryn Rhondda, i ddwfr, yr hwn a ddeuai yn 11 if mawr o hen waith ger Haw, a gorlifodd yr holl waith yn mhen yehydig amser. Di- angodd rhwng 50 a 60 o weithwyr rhag eu dinystrio; ond methodd dau, a boddasant yn y dwfr. LLANDEILO.—Pren Afalau.—Cafodd Mr. J. W. Jones, ironmonger, Llandeilo, yr haf diweddaf, ddau gnwd o afalau tra thor- eithiog ar yr un pren. Yr oedd yr afalau yn yr ail gnwd yn mesur pum' modfedd a haner o amgylcliedd. A phan oedd Mr. Jones yn tynu y ffrwyth, yr oedd y pren drachefn yn blodeno am drydydd cnwd; ond ataliwyd hyny gan y tywydd oer. CAERDYDD.—Ymosododd rhyw ddyhirj'n ar un Mrs. Griffin wrth ddrws ei thy; rhodd- odd chloroform iddi ac yna tynodd ei mod- rwyau oddiam ei bysedd gyda'i ddanedd, a lladrataodd ei phwrs. ABERGAFENNi.—Cynawnodd John Mor- gan, cigydd, Flannel St., hunanladdiad drwy dori ei wddf a chyllell fawr. Yr oedd wedi bod yn yfed yn drwm.

MARWOLAETH PREGETHWYR.

MARWOLAETHAU CYMRU.

r DBHEUDIR.

LORD SWELLHEAD.

IFAN ptrw.

JOB TOJtOS.

BNGLYNION

AR BRIODAS

[No title]

FFRWYDRIADA U OFNADWY.

CINCINNATI, OHIO.

[No title]

[No title]

LLOFFION 0 BELL AC AG OS.