Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
CAN Y GWYLIAU.
CAN Y GWYLIAU. TON-" Poor Jack." CAN CYNDDELW. Boed biwyddyn newydd iach I bawb, a gwyliau ilawen; Mae'r biliau, fawr a bach, I'w talu yn y fargen; Rhaid talu'r holl hen gownt, Peth cas yw byw mewn dyled, Er cymaint yw'r amount, Ac er mor fawr yw'ch syched. Chwi gawsoch lawer baich Oddiwrth y siopwr, druan, Mae bil cyhyd a braich I,w dala In awr yn gyf-; Er fod e'n llawer punt, Pa ddyben cadw mwstwr? Mae byw ar swn y gwynt Yn ormod gwaith i siopwr. Dacw'r cigydd tew ei fol A'ifill am gig a brasder, Er maint ei stwr a'i lol 'F, fyn ei daln'n syber; Os cawpoch fwyta'r cig Peth digon teg yw talu, A pheidiwch bod yn ddig Os na chewch eich carcharu. Rhaid i chwi dalu'r cwac Am bowdrach aflach ofer, Pan oedd eich bola'n grac Gan waew ar ol swper; Os aeth eich bola'n dost Wrth fwyta ac yfed gormod, Na chwynwch rhag y gost, A dysgwch ddal eich tafod. Yn nesaf, ar fy ngwlr, Daw'r eyhoeddiadau Ilesol, Rhaid talu rhai'n yn glir Rhag ofn y ffwrn uffernol; Ni ddeuwch byth yn rhydd Heb dalu am eich Ilyfrau, Fel ysbryd rhyw hen grydd, Yn nghanol fflam y biliau. Mae'r teiliwr llwyd a'r crydd Yn dod a'u biliau huion, Rhaid i chwi 'n talu yn rhydd A cheisio pethau n'wyddion; Pan dalwch bawb i gyd Chwi fyddwch mewn tylodi; Ystyriwch hyn mewn pryd— Ymswynwch rhag priodil s 0 9 1.
LARGE NUMBER OF NEEDY PEOPLE,
LARGE NUMBER OF NEEDY PEOPLE, Who, with the best intentions, and with the' great- est repugnance to anything like public charity, find themselves at this winter opening,without a plaee to lay their heads. Many are overland emigrants, land- ed here without friends or money; the Virginia dis- aster also has the effect to swell the ranks of the destitute. These, with the number usually in our midst whose resources, always of the scantiest, are now exhausted, combine to form an abnormally large hard-up element in our population, and of all others they have the best real ground for dissatisfac- tion with the present state of affairs. No doubt there will be more than the average of destitution in San Francisco the coming winter, and it would be an act of wisdom to devise some scheme of systema- tized relief. Men must live, and if maintenance is not to be procured by fair means, foul means will be sought.
[No title]
—Saethodd Seth Clark, masnachwr cyf- rifol yn Buffalo, ei hun drwy ei ben yr wythnos ddiweddaf, fel y bu farw yn y fan. Colledion masnachol, ac anghydfod teuluaidd a achosasant y trychineb. Yr oedd yn aelod parchus gyda'r Presbyter- iaid. —Dechreuodd un o'r dynion cyfoethocaf yn New York ei fasnach drwy brynu hen farilau peillied; ac wedi hyny dechreuodd brynu hen farilau olew. Bu ganddo ar un adeg 1,000,000 o farilau ar law. Collodd yn ystod y panic diweddar$250,000; ond er hyny y mae yn gyfoethog eto. —Cododd pobl New Orleans $50,000 i dalu costau dirprwywyr i fyned i Wash- ington i anog y Gydgyngorfa i wneyd darpariadau priodol i gadw yr afon Missis- sippi yn eigwely, rhag gorlifo yr holl wlad, a dinystrio bywydau a meddianau. Bernir y bydd yn ofynol cael $9,000,000 i dalu am wneyd y dwfr gloddiau yn Louisiana, Mis- sissippi ae Arkansas.
CENADWRI YR ARLYWYDD.
CENADWRI YR ARLYWYDD. AWGRYMIADAU AM DDIWYGIAD. YR ANGEN AM WELLIANT. ER SICRHAU YS- GOLION HOLLOL ANSECTARAIDD YN Y TAL., AETHAU — RHYDDFREINIAD FFUGIOL— TRETHIAD EIDDO EGLWYSIG — DADL 0 BLAID ADFERIAD ARIAN BATHOL-AN- MHLEIDGARWCH TUAG AT CUBA-Y DATBL- LIAD CANMLWYDDOL. At y Senedd a Thy y Cynrychiolwyrr Wrth ysgrifenu fy seithfed genadwri Fir Gyclgyngorfa yn y ganfed flwyddyn o oed- ran y genedl, mae yn hyfrydwch genyf goffa am ein cynydd mewn canmlwydd. Nid oeddym y pryd hwnw yn rhifo ond 3,000,000; ond yn awr y mae ein rhif dros 40,000,000. Yr oedd ein diwydrwydd yn gyf- yngedig braidd yngwbl i lafurio y ddaear; ond yn awr yr ydym wedi cynyddu yn y celfau, y gwyddorau, morwriaeth, llaw- weithfeydd, ac addysg, a pherchir ni gan brif genedloedd y ddaear. Mae y tair Tal- aeth ar ddeg wedi cynyddu i ddeunaw ar hugain, heblaw wyth o Diriogaethau, yir hyn a ddengys fod ein gwlad yn cyraedd Ily o'r Werydd i'r Tawelfor, ac o Diriogaethau Prydain i Lynclyn Mexico. Can mlynedd yn ol, nid oeddym yn gwybod dim am yr cotton gin, agerlongau, rheilffyrdd, pell- ebyr, peirianau medi, tori gwair, peirianau. argraffu, peirianau pwytho, a dyfeisiadau. ymarferol eraill. Yn 1776, prin y gellid, dweyd fod llaw-weithfeydd mewn bodol- aeth; ond yn 1870, yr oedd yma dros 2,000,- 000 o grefftwyr yn gweithio, yn cynyrchu. gwerth$2,100,000 000 o nwyddau. Bu ein, cynydd yn rhyfeddol o gyflym mewn mwn- yddiaeth; a chodir miliwnau o dunelli o lo. yma yn flynyddol, ac mae ein gweithfeydd- haiarn yn lluosog a chynyrchiol. Yr yd- ym yn gwneyd mwy o h.darn yn awr nag oedd yr holl fyd yn ddefnyddio gan' mlyn- edd yn ol; ac mae y plwm, y copr a'r zinc- ydym yn godi yn bresenol yn y fath gyf- lawnder,. fel y byddwn yn alluog i allforio. llawer yn fuan. Cafodd cynyrch ein haur: gloddiau a'n harian gloddiau ddylanwad. mawr ar drafnidiaeth a marsiandiaeth y byd. Gallwn gyfeirio gyda balchder at ein cynydd mewn addysg yn mhob adraife o wybodaeth; ond gan na fu yr un gen-edl, o gwymp Adda hyd y dydd heddyw yn hollol rydd oddiwrth beryglon, dyleim ninau ofalu am ein rhyddid a'n sefydliadr- au yn y dyfodol. YR YSGOLION CYHOEDDUS. Mae ein ffurflywodraeth yn werinol, yn- yr hon y mae pob dyn cystal a'r Hall e* flaen y gyfraith. Yn y fath lywodracth y mae o'r pwys mwyaf i bob dyn feddu; addysg a dealldwriaeth, fel y gall wybod- pwysigrwydd ei bleidlais. Nis gall nifer mawr o ddynion anwybodus, wrthsefyll.: gorthrwm ychydig o ddynion wedi cael addysg, ond dros ychydig o amser; ond. bydd iddynt gydymffurfio ag ewyllys eu harweinwyr, pa un bynag fyddant a'r demagogiaid gwladol neu dwylloffeiriad- wyr crefyddol. Gan hyny y mae rhoddi addysg i'r werin o'r pwys mwyafr er diogelu ein sefydliadau. Mae y rhai hyn: yn werth eu cadw, o herwydd y maent yn sicrhau y daioni mwyaf i'r nifer luosoeaf o'r bobl, ac yn fwy felly na'r un ffurflywod- raeth a ddyfeisiwyd eto. Mae pob ffurf- lywodraeth arall yn tebygu i'r eiddom ni yn gyfartal i wasgariad cyffredinol addys-g yn mhlith y bobl, yr hyn sydd yn aehosi annibyniaeth mewn meddwl a gweithred- oedd Gan hyny yr wyf yn awgrymu er eich anogaeth fod gwelliant cyfansoddiad- 01 i'w osod o flaen holl Ddeddfwrfau y gwahanol Dalaethau, i'w gwneyd yn ddy- ledswydd arbenigol ar bob un, i sefydlu a. pharhau byth ysgolion rhftd, cylioeddus, cyfaddas i roddi addysg elfenol i'r holl blant, heb wahaniaeth «• herwydd eenedlr Iliw, crefydd na lie genecligol, gan wahardd? addysgu yn yr ysgolion athrawiaethau, crefyddol, anffyddol na phaganaidd, ym, gwahardd hefyd rhoddi arian yr ysgolion neu y trethi, nac unrhyw ran o'r cyfryw, drwy awdurdod deddfwrol neu ddinesig,. neu unrhyw allu arall, at wasanaeth neu i gynorthwyo, yn uniongyrchol neu yn an- uniongyrchol unrhyw ehwad, plaid nem. sect o unrhyw fath pa bynag. PERYGL ARALL. Mewn cysylltiad a'r pwnc jrwysig hwn- dymunwn alw eich sylw atddrygioni, yr hwn Off parba, fydd yn debygb ddwYTh terfysg yn y tir cyn diwedd y 19 ganrif, set cynydd swm aruthrol o eiddo eglwysig di- dreth, Yn 1850, yr oedd yn y Talaethaur Unedig $83,000,000 o eiddo eglwysig, cap- elau, &c., heb dalu dim trethi Ileol na chy- hoeddus; ac yn 1860 yr oedd y swm wedi dyblu. Yn 1875, mae y swm yn$1,000,- 000,000; ac erbyn y flwyddyn 1900, bydd y swm yn $3,000,000,000, os na atelir y cynydd. Ni fydd i'r bobl a orfodir i dalii Parhad ar tudalen 5.