Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

&R GORLLEWIN PELL.

News
Cite
Share

&R GORLLEWIN PELL. GAN W. S. EVANS. PALISADE, NEV. Tach. 24.-Fe allai y byddai gair o'r Dalaeth hon yn dderbyniol gan rai o ddarllenwyr y DRYCH, a thrwy fod y tywydd yn wlyb, cymeraf y cyfleus- dra hwn i roddi ychydig o hanes pethau yn gyffredinol. Nid yw iechyd yr Aderyn ond pur wael. Yr wyf wedi bod haner yr amser yn gorwedd yn fy ngwely er y 15fed o Fehefin, a gorfu i mi fyned i lawr i wlad yr aur er newid y climate. Aethum yn gyntaf i Damascus, a chefais amser hyfryd, a gwnaeth lawer o les i fy iechyd. Bum yn aros, pan yno, gyda fy hen gyfaill ffydd- lon, Robert Lewis, Ysw. Nid oes yma ond dau fwnglawdd, un yn cael ei berchen- ogi gan Mri. R. Lewis ac Owen Griffiths. Mae ganddynt ddigon o dir am oesoedd. Bum i mewn un boreu, a gwelais well prospect nag a welais er's blynyddau. Bob tro y tarwn y pick i mewn i'r gravel, gwel- wn aur yn mhob dernyn, eto nid yw yn talu rhyw lawer; a'r rheswm am hyn yw, fod y Cwmni yn rhy fychan; ond mae yn sicr fod eu cyfoeth bron yn ddiderfyn. Y nesaf yw y Mountain Gate-mae hwn yn Gwmni mawr, ac y maent yn gweithio llawer o'r C/iinamen. Mae yma amryw o Gymry; a meddyliais gwrdd a fy hen gyf- aill Owen Jones, gynt o Racine, Wiscon- sin, yma, ond clywais ei fod ef a'i fab, Wm. R. Jones, newydd gyraedd San Fran- cisco, o'r Dwyrain. Aethum i lawr i'r dref a daetlium o hyd iddo, ac yn wir da iawn oedd genyf ei gyfarfod a'i weled yn edrych mor dda, a'i fab yr hwn sydd yn y Pacific Business College; ac yn wir rhyfeddais wel- ed William R. Jones, o herwydd nid oes ond ychydig amser, feddyliwn, er pan y bum yn ei gario yn fy mreichiau, ac erbyn hyn y mae wedi tyfu yn ddyn golygus a hardd—ni ryfeddwn ddim pe clywid ei lais ryw ddydd yn yr Hall of Congress. Llwydd- iant iddo yw dymuniad y Chicken, you bet. Pan yn y dref, cefais y pleser o fod yn nghwmnieich gohebydd clodwiw Obedog, ac Ap TrefoT, a chefais amser difyr. Teim- lais yn bur ddrwg pan welais waith y China Hurder yn rhoi ar Ap Trefor, ei fod yn ieuanc, ac yntau fel rhyw gawr, ac ynjjlien law ar y gwaith o ysgrifenu-yn gwybod y cwbl, ac heb,ei fai. Os yw ef gymaint yn hynach yn y gwaith nag Ap Trefor, cred- wyf y dylai dreio ei ddysgu, ac nid ei gicio i lawr, a threio tori ei galon. Efallai y chwydda y teitl uchod gymaint ar y llenor enwog hwn a phan y cafodd y fmint ofarch- ogaetli y mwlsyn yn Emigrant Gap ychyd- ig amser yn ol. Digon ar hyn y tro hwn, gan obeithio caelfgweled gwaith yr ieuanc Ap Trefor yn ymddangos yn y DRYCH cyn hir. Cawsom ddigon ar California, ac aeth Owen Jones a minau adref; ac ar ol cyr- aedd gorfu i mi fyned i'r gwely am tua mis, ac nid wyf ond gwael eto. Ni welais gy- maint o bobl allan o waith erioed, a rhai dynion da yn cynyg gweithio am eu bwyd, er nad yw y mwyafrif yn werth eu bwyd. Cyngorwn bawb i aros 'gfertref gyda'u mam- au, os oes ganddynt rai. Gan i mi gychwyn gyda'r cyfaill Owen Jones, dymunwyf ddweyd gair am dano, gan fy mod yn gydnabyddus ag ef er's blynyddau. Am ei gymeriad fel dyn gon- est, diwyd a sobr, ni all neb ddweyd gair yn ei erbyn; a phan oeddwn i yn ei hen fin- ing camp, Damascus, rhoddai pawb yno yn gyffredinol enw rhagorol o dda iddo. Clyw- ais fod ei hen gyfeillion yn Wisconsin wedi clywed, ac yn credu fod ganddo fenyw neu wraig yma yn California. Wel, chwardd- ais lawer wrth feddwl am y fath beth. Why, since he came back, he is a regular women hater; ac nid wyf yn meddwl fod un dyn erioed wedi dod yma yn meddwl mwy am ei deulu, ac yn well iddynt, yn ol ei allu, nag ef. Teimla yn bur esmwyth yn bres- enol, ac mae mewn swydd na raid iddo weithio yn galed. W. S. E.