Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
17 articles on this Page
PWNC YR ARIAN YN 1876.
PWNC YR ARIAN YN 1876. Blwyddyn bwysig fydd y nesaf mewn cysylltiad a gwleidiadaeth yn y Talaethau Unedig; canysbyddCydgyngorfa newydd a Thy Democrataidd mewn cyflawn weith- rediad, a rhaid ethol Arlywydd, yn nghyd a Chydgyngorfa arall, i ddyfod i weithred- iad yn 1877. Pwnc yr arian oedd y prif destyn dadleuol rhwng y pleidiau yn yr etholiadau diweddaf, ac mae yn debyg o barhau yn asgwrn y gynen am amser i ddyfod. Dylai ein harweinwyr gwleid- yddol ymdrechu dwyn pwnc yr arian i ddealldwriaeth ar unwaith, a'i benderfynu heb ddadleu a chroes dynu, canys os na wneir hyny yn fuan, bydd i'r oes sydd yn codi anghoflo fod arian bathol mewn bod- olaeth. Nid ydyw ein dynion ieuainc 15 mlwydd oed yn gwybod dim am aur ac arian mewn cylchrediad, oblegid ni welsant ond arian papyr er dydd eu genedigaeth. Bydd llawer iawn yn pleidleisio y flwydd- yn nesaf dros etholiad yr Arlywydd am y tro diweddaf; ac yn 1880, ni fydd y rhif luosocaf o'r pleidleiswyr yn gwybod dim drwy brofiad am arian bathol yn safon gwerth, ac yn gyfrwng masnachol yn y z;1 wlad. Mae o'r pwys mwyaf i'r pwnc gael ei benderfynu yn awr; canys os eir heibio yr etholiad Arlywyddol nesaf, heb ddwyn y ddadleuaeth i dertyn, nis gellir dysgwyl am sefydlogrwydd masnachol am amser maith i ddyfod. Yr oedd poblogaeth y Talaethau Unedig yn 1870, yn 38,558,000, ac yn 1876 rhifa y bobl 43,185,373, yn ol cynydd o 12 y cant. Yn 1870, yr oedd yma 8,307,305 o bersonau mewn oedran i bleidleisio; ac yn ol yr un cyfartaledd bydd 9,354181 o bleidleiswyr yn y Talaethau Unedig. Ymddengys na phleidleisiodd yn 1872 ond 3 o bob pedwar o'r rhai yr oedd pleidlais ganddynt; ac.os cyfrifir y bydd i'r bumed ran o'r pleidleis- wyr sefyll draw yn yr etholiad Arlywydd- ol yn 1875, cawn y bydd 7,500,000 yn pleid- leisio, sef ychydig dros 1,000,000 yn fwy o bleidleisiau nag a gaed yn 1872. Gellir cyfrif y bydd y mwyafrif o'r bumed ran na phleidleisiant, yn bersonau dros 50 mlwydd oed, sef y rhai fyddant yn deall oreu drwy hir brofiad, am ffurflywodraeth America; ac yn gwybod y gwahaniaeth rhwng arian bathol ac arian papyr. Gellir dweyd gyda diogelwcb y rhifa y rhai hyn 2,500,000; ac ar y llaw arall, megis i fantoli y rhai hyn, bydd oddeutu 3,000,000 o ddynion ieuainc, dros 21 mlwydd oed, na phleidleisiasant erioed o'r blaen yn defn- yddio yr etholfraint. Nis gall y rhai hyn wybod dim drwy brofiad am arian caled- ion mewn cylchrediad; a chan eu bod yn ieuainc a heinif, bydd iddynt oil roddi eu pleidlais dros ethol Arlywydd, am y tro cyntaf yn eu hces. Mae rhyw swyn mewn cysylltiad a phleidlais y tro cyntaf, ac anaml y bydd i neb esgeuluso yr hawl- fraint. Mae yn amlwg oddiwrth y cyfrif uchod y bydd y pleidleiswyr yn rhanedig fel y canlyn: Tua 3,000,000 yn rhy ieuainc a dibrofiad i ddeall dim yn ymarferol am y pwnc mewn cystadleuaeth; ac agos i 4,000,- 000 a bleidleiswyr rhwng 30 a 50 mlwydd oed, y rhai ydynt yn deall y pwnc yn weddol dda, ac yn gwybod rhagoriaeth aur ac arian mewn cydmariaeth ag arian papyr. Mae yr arferiad yn yr etholiadau y blynyddoedd diweddaf yn profi y bydd i'r mwyafrif o'r pleidleiswyr dros 50 mlwydd oed, 2,500,000 mewn rhifedi, absenoli eu hunain ar ddydd yr etholiad, gan hyny yr ail ddosbarth fydd y lluosocaf Mae yn bosibl y bydd y dosbarth hwn yn llai na'r cyfrif a nodwyd, oblegid y mae y bobl dduon yn hynod o anmhenderfynol a diofal yn nghylch ypwnc; ac mae dos- barth helaeth o'r blaid Ddemocrataidd yn boethlyd dros arian papyr. Dylai ein deddfwrwyr ymdrechu penderfynu y pwnc cyn yr etholiad cyffredinol, er mwyn daioni tymorol pob dosbarth yn y wladwr- iaeth. Mae y Democratiaid yn cwyno yn bar- haus nad oes digon o arian papyr wedi eu gwneyd gan y llywodraeth i'w rhoddi allan ar wystlon er hyrwyddo masnach, tra y mae symiau aruthrol o arian yn gorwedd yn segur yn nghoffrau yr ariandai; ac mae arian i'w cael ar alwad am o l^c. i 3c. o log. Ymddengys oddiwrth adroddiadau swyddogol, fod mwy o arian mewn cylch- rediad yma nag sydd yn Mrydain Fawr, er fod masnach dramor y wlad hono yn fwy dair gwaith na'r eiddo y Talaethau Unedig; ac mae yno 33,000,000 o bobl i'w diwallu. Yr oedd yn Mhrydain ar ddechreu y mis diweddaf £ 45,580,783 o nodau papyr mewn cylchrediad, a £28,302,976 o aur heb ei fathu yn ariandy Lloegr, yn nghyda £ 6,- 809,900 o aur ac arian yn ariandai Scotland a'r Werddon, yr hyn a wna yr holl swm yn £ 80,693,659. Gwelir fod y swm yna tua $407,000,000 o arian America. Mae yn amlwg nad oedd ond £ 45,580,783 o'r cyfan- swm uchod mewn cylchrediad, gan nas gall aur heb ei fathu gylchredeg yn mhlith y bobl; ond y mae yn sicrwydd neu wystl i ddiogelu yr arian-nodau. Rhaid rhoddi y symiau uchod at yr arian man, o bunt i bum' punt yn nwylaw y bobl cyn y gellir cael allan y gwir swm mewn cylchrediad yn Mrhydain. Hysbysir fod y man werth- iadau yn Lloegr, Cymru, Scotland a'r Werddon yn Cl,000,000,000, yn flynyddol, ac os rhenir y swm uchod a 365, sef nifer y dyddiau mewn blwyddyn, canys rhaid bwyta, yfed, a gwisgo dillad ar y Sabboth, ceir fod yr atebiad yn £2,760,000, sef y swm a werir yn ddyddiol. Os rhaid di- wallu digon am ddau ddiwrnod, bydd yn ofynol cael £ 5,520,000. Mae y swm hwn yn sicr o fod yn ddigon, canys mae llawer yn prynu ar goel, ac yn rhoddi add- ewidion ar bapyrau, &c., felly saif y cyfrif fel y canlyn: Nodau, aur, arian, anrdalpiau &e, £ 80,693,695 Arian man yn nwylaw y bobl 5,520,000 Holl arian masnach Brydain £86,213,659 r swm mewn doleri$431,068,295 Oddiwrth yr uchod gwelir fod Lloegr yn cario masnach yn mlaen gyda'r holl fyd, ac yn gwneyd mwy o allforio ac atgludo, na holl wledydd y byd yn nghyd, wedi eithrio Ffrainc, gyda $431,068,295, tra y mae yn y Talaethau Unedig tuag$800,000,000 o arian papyr a $60,000,000 yn aur; ond er y cwbl, y mae y blaid Ddemocrataidd yn galw am ychwaneg o bapyr! Mae yn eithaf amlwg oddiwrth y ffeithiau blaenorol fod digon o arian yn y wlad, ac nid oes eisieu ond doethineb wrth eu defnyddio i ddwyn mas- nach i'w bwysigrwydd arferol. Dealler fod y $60,000,000 o aur y cyfeiriwyd atynt mewn cylchrediad ar ororau y Tawelfor, Texas, &c
Y XLIV GYDGYNGORFA.
Y XLIV GYDGYNGORFA. Galwyd y Senedd i drefn am 12 o'r gloch ddydd Llun, y 6ed cyfisol gan yr Anrh. T. W. Ferry, o Michigan, y Llywydd dros yr amser presenol. Gweddiodd y Parch. Dr. Sunderland am fendith Duw ar yr Arlyw- ydd, a'r Gydgyngorfa, yn gystal a'r holl genedl. Hysbysodd Mr. Boutwell y Sen- edd mewn modd swyddogol o farwolaeth yr Is'Arlywydd Wilson. Pasiwyd pender- fyniad i hysbysu Ty y Cynrychiolwyr a'r Arlywydd, fod y Senedd yn barod i ddech- reu gweithredu; a chan nad oedd tebygol- rwydd am genadwri o'r Ty, gohiriodd y Senedd hyd dranoeth. TY Y CYNRYCHIOLWYR. Yr oedd tyrfaoedd mawrion wedi yin- gynull i'r Ty, i edrych ar etholiad Llefar- ydd. Galwyd enwau yr aelodau, ac ateb- odd 286, allan o 292. Aed yn mlaen i ethol Llefarydd, ac yr oedd yn ofynol cael 141 i wneyd y dewisiad. Derbyniodd Mi- chael C. Kerr 173, James G. Blaine 106, Alpheus S. Williams 1, Alexander Camp- bell 1. Yr oedd yn amlwg fod Mr. Kerr wedi ei ethol, ar y bleidlais gyntaf, ac arweiniwyd ef i'r gadair gan Randall a Blaine. Traddododd Mr. Kerr anerchiad agor- iadol, yn diolch am yr anrhydedd, ac yn cydnabod y bydd arno angen cymorth ei gydaelodau i gyflawni ei swyddogaeth yn deilwng o urddas y sefyllfa. Gweinydd- wyd y llw swyddogol iddo gan Mr. Kelly, Pa., fel yr aelod hynaf yn y Ty. Wedi hyny aed yn mlaen i dyngu i mewn yr ael- odau newyddion, ffurfio pwyllgorau, &c. Gan na anfona yr Arlywydd ei Genadwri i mewn hyd nes y bydd y Ty yn barod i weithredu, rhaid i'r DRYCH fyned i'r wasg yr wythnos hon cyn ei derbyn. Cyhoedd- wn grynodeb o'i Genadwri yn ein nesaf.
NO DION riUtSONOL.
NO DION riUtSONOL. Anrhegwyd Prifysgol Aberystwyth a Delw Indiaidd gan THOMAS WILLIAMS, Parciau, Criccieth. Dydd Mercher, Tach. 24ain, yn yr ager- long Vandyck, yr oedd EDWYN CYNRIC ROBERTS yn bwriadu cychwyn o Liver- pool am Buenos Ayres. Cofied cyfeillioE y Parch. M. A. ELLIS, M. A., ei fod wedi symud o Rhif. 37 i 47 Ellen st., Cincinnati. Ni ddarfu i faer newydd-etholedig Din- bych, T. J. WILLIAMS, Ysw., gydymffurfio a, hen arfer ffol rhai maerod Ymneillduol o fyned i eglwys y plwyf y Sabboth cyntaf ar ol ei etholiad. Aeth Mr. Williams, yn ol ei arfer, i'w gapel ei hun, sef y Capel Mawr, addoldy y T. C. Yn yr arwerthiant diweddar a gynaliwyd ar hen "Domen y mur," yn mhlwyf Trawsfynydd, a'r tir cylchynol iddi, Mr. BREESE, cyfreithiwr, Porthmadog, oedd y prynwr. Cymro trwyadl, a llenor Cym- reig uchel, yw Mr. Breese. Dywedir fod yn mryd rhai o wyr da Dolgellau brynu yr hen a elwir "Senedd-dy Owain Glyndwr," a'i wneyd yn Ysgoldy Waddoledig i Enethod y dref hono. Ymddangosodd a ganlyn yn yr Herald Oymraeg: "Dywed cyfaill mai golwg athrist iddo ef, ac eraill, oedd canfod tad a mam hybarch y dadganwr adnabyddus, Mr. EVAN J. WILLIAMS, Llanddeiniolen, yn ffarwelio ag ef, dichon am byth, ar ei ddychweliad i'r America. Y mae Evan J. yn gerddor gwych. Dylasai fod yn un o brif gantorion yr oes erbyn hyn. Curodd Eos Morlais yn Eisteddfod Llandudno. Wrth ei weled yn ymadael a'i rieni, dy- wedodd Deiniolfryn: "Evan, y dyddan doddydd-a gychwyn Dros y guchiog Werydd; Athrist, anfadwaidd fydd Dwyn arwr o Denorydd." Y Sul cyn iddo gael ei wneyd yn faer, yr oedd Mr. HUGH HUMPHREYS yn preg- ethu yn nghapel y Wesleyaid Seisnig, Llandudno. Yn mhlith ei wrandawyr, yr oedd y Gwir Anrhydeddus John Bright, A. S., a dywedir fod y boneddwr talentog yn mawr edmygu dull gwreiddiol y Cymro o bregethu Saesneg. Mae eglwys y Bedyddwyr Cymreig yn Pittsburgh wedi rhoddi galwad unfrydol i'r Parch. FRED. EVANS (Fdnyfed); ond ni wyddis pa beth fydd ei atebiad. Deallwn fod ei eglwys yn Franklin yn mwynhau diwygiad nerthol ynbresenol; a llawer yn 11 y ymofyn cael eu bedyddio. Derbyniodd D. H. JONES, B. A., o Mad- ison University, Hamilton, N. Y., alwad unfrydol oddiwrth eglwys y B. yn Coal- burgh, 0.; ond nid yw yn debyg y bydd iddo gydsynio a. hi. Mae THALAMUS wedi ymgymeryd a bugeiliaeth eglwysi Bedyddiedig Portrhyd- fendigaid a Swyddffynon, D. C. Ymddengys fod hinsawdd gynes India'r Gorllewin yn dygymod yn gampus ag awen bert GWILYM ALLTWEN. Dyma "Serch-odlig" a gyfansoddodd yno yn ddi- weddar; ac ymddirieda i Mr. JARRETT ROBERTS, R. A. M., y gorchwyl o briodi y geiriau a chord doriaeth: TYR'D I RODIO DRWY DY HUN. Tyred, Enrwallt, O! fy mun, Tyr'd i rodio drwy dy hun. Dewis noswaith leurgain lloer, Pan na fo'r don yn maeddu poer; Gollwno; rail i'th freuddwyd clws Gyraeda ataf yn dy gwsg: Gyda'r awel Dyner, dawel; Tyred, Eurwallt, O! fy mun, Tyr'd i rodio drwy dy hun! Tyred, fron-yn-mron a'r don, A chan o serch y nos hon: Ar aden swyn, rho dan sel, Gosod gusan-wefus mell 01 fy ngeneth,anwyl aur, Tyr'd i sibrwd haner gair Gyda'r awel Dyner dawel; Tyred, Eurwallt. 01 fy mun, Tyr'd i rodio drwy dy hun. Cwrddwn ar y dystaw for, Llaw yn llaw ag engyl lor; Gogwydd eto bwys dy ben Ar fy mynwes lili wenl Gad i'm glywed yn fy nghur Un ochenaid cariad pur Gyda'r awel Dyner dawel; Tyred, Eurwallt, 0! fy mun Tyr'd i rodio drwy dy hun. Tyred, gwena ar dy fardd- Brysia'n wir, her rosyn hardd! Cymer awgrym gan y ser- Pefria dithau'th lygaid per! Hal ti ddaethost ar fy nghais! Clywaf Jiwsigi: sidylais Yn yr awel Dyner dawel, Sydd yn sibrwd, 01 fy mun— Sibrwd cariad drwy dy hun I Y mae y Parch. S. O. MORRIS, M. A., prif athraw Ysgol Rammadegol Dolgellau, wedi sefydlu dosbarthiadau gwyddonol yn nglyn ag Adran Gwyddoniaeth Celfyddyd deheubarth Kensington. Y mae Mr. Hughes, Dinas Mawddwy, wedi ei wasan- aethu i ddarlithio ar fferylliaeth ymarferol. Y mae gweithfa fferyllawl wedi ei chodi
Advertising
EIN TELERAU AM 1875. Pris yn mlaen Ilaw 02.50. iSF" Pris y DRYCR i Glybiau ..$2 20 jW Pris y DRYCH i Canada .$2 70 or Pris y DRYCH i Gymru 3 50 Anfoner arian mewn Post Office Order neu Registered Letter, neu mewn Draft ar^New York, taladwy i T. J. GRIFFITHS, DRYCH OFFICE, UTICA, N. Y. Heb Erioed Ffaelu. Ni wybuwyd i DR. MORRIS' SYRUP OF TAR, WILD CHERRY AND HORBHOUND erioed fethu rhoddi gwellad parhaol oddiwrth Beswch, Anwyd, Croup, Whooping Cough, neu unrhyw anhwyldeb arall ar y peirianau anadlu-a gwna hyny hefyd yn union- gyrchol! Ni raid ei gymeryd am amser maith er teimlo ei effeithiau daionus. Gwerthir symiau aruthr- ol o hono, ac mae ei boblogrwydd yn gyfEredinol. Ni ddylid ei restru gyda meddyginiaethau wedi eu par- -otoi gan bersonau anghyfarwydd. Rhoddir sicr- wydd diymwad ei fod yn gyfansoddedig o'r defn- yddiau puraf a goreu, wedi eu parotoi mewn dull gwydrtonol, a'i fod bob amser yn rhoddi boddlon- rwydd. Rhoddwch brawf ar y meddyginiaethgwerth- fawr ac effeithiol hwn. Ni wna ac nis gall eich siomi. Treiwch ef unwaith. Gofynwch am Dr. Morris' Syrup of Tar, Wild Cherry and Ilorehound, a gwrthodwch bob un arall. Prawf botelau 10 cent. Gwerthir ef gan gyfferwyr yn mhob man, a chan C. H. Williamson a'i Gwm., Utica, a Francis Etheridge, Rome, N. Y. igitt (Mnbiwirr a'n Tnysog.—Derbyniwch ein diolchgarweh am y ddwy ysgrif ar California. Mae ysgrifau fel hyn yn ddyddorol ac addysgiadol. Parch. R. Gwesyn Jones.-Cyhoeddwn lythyr ei h cyfaill o Gymru gyda phleser—yn ein nesaf, os gallwn; neu yn y rhifyn canlynol. Anfonwn hefyd gopi iddo o'r DRYOH fydd yn ei gynwys. « y Tri Hyn" gan PISTILLFARDD neu y Parch. Erasmus W. Jones—yn ein nesaf. Evan Evans, IXONIA CENTRE, WIB.—Yr ydym w cdi cyflwyno eich llythyr i John Emdin. Diau y cewch glywed oddiwrtho. tg- Agent y DR7CH yn West Bangor, fel arfer fydd Mr. HUGH C. ROBERTS. 11
[No title]
[No title]
NEWYDD DA! Ymddengys fod awydd cyffredinol yn mhlith ein derbynwyr am feddianu ein "MAP o GYMRTJ." Y mae ugeiniau eisoes wedi enill y wobr, drwy dalu yn mlaen llaw am 1876, ac addawa canoedd yn rhagor wneyd hyny erbyn dechreu Ionawr-pryd yr ydym yn disgucyl dsrbyn y map, ac y byddwn yn ei anfon yn ddidraul i bawb fyddont yn glir ar ein l yfrau. Da genym hysbysu ein hewyllys- wyr da hefyd, fod ENWAU NEWYDDION yn dylifo i mewn yn ddyddiol; ac yr ydymyn barod wedi anfon ugeiniau o gopiau o "Gemau Llwyfo," a "Marvelous Works of Nature and Art," i weithwyr ffyddlon. Aed pawb o'n cyfeillion allan yn ddioed, sc ni fydd un anhawsder iddynt ddyblu nifer ein derbynwyr.
[No title]
RHODDWYD ugeiniau o weithwyr new- yddion ar waith yn y Navy Yard, yn Ports- mouth, New Hampshire, yr wythnos ddi- weddaf, ac mae swn arfau diwydrwydd yn llanw y lie y dyddiau hyn. Bydd y gad- long agerol, Marion, yn barod i gychwyn ar hynt forwrol yr wythnos hon; ac aw- grymir yr hwylia yn syth i ddyfroedd Cuba. Derbyniwyd gorchymyn yn y Navy Yard, yn Brooklyn ar yr ail cyfisol, i wneyd 10 o'r cadlongau haiarn-wisgidig yn barod heb oedi dim. Mae bywiogrwydd adnewyddol yn y llynges yn mhob porth- ladd.
[No title]
CYHOEDDWYD amser yn ol fod Rwsia wedi gorchfygu yr holl lwythau yr oedd yn ymladd yn eu herbyn yn nghanolbarth Asia, ac wedi ychwanegu tiriogaethau ne- wyddion at yr ymerodraeth; ond y mae yr hanesion diweddaraf yn rhoddi gwedd wa- hanol ar ansawdd pethau. Dywedir fod y Khokandiaid wedi gorchfygu y Rwsiaid, a chuddlofruddio holl warchodlu Rwsia yn Khokand; a bod yr Ymerawdwr yn dar- paru adgyfnerthion milwrol i'w hanfon i'r fyddin yn Asia.
[No title]
MAE Llywodraeth Lloegr newydd gy- hoeddi Deiliadeb yr India Ddwyreiniol, sef y cyfrif o'r holl drigolion, cyfoeth y wlad, cynyrch y tir, ansawdd cymdeithas, ysgolion, enwadau crefyddol, rhifedi y credinwyr, &c. Mae yno dros ddau gant o filiwnau (200,000,000) o bobl, ac o'r rhif -uchod nid oes ond 900,000 yn myned wrth yr enw Cristionogion, yn cynwys y Pab- yddion a'r Protestaniaid, sef un allan o bob 250 o'r trigolioD!
[No title]
ANFONODD y Trafnoddydd Prydeinig yn Siam, hanes gweinyddiad cyflawnder yn y wlad hono, i'r Swyddfa Dramor yn Llun- dam yn ddiweddar, pryd y dygwyd i'r am- lwg bethau rhyfedd iawn. Pan fydd dau .dyst mewn llys gwladol yn cymeryd eu llwon yn groes i'w gilydd, nis gall y ddau fod yn dweyd y gwir, a'r modd i bender- fynu y pwnc yn ol deddfau Siam sydd fel y canlyn: Rhoddir y ddau i orwedd ar fwrdd, yna suddir hwy dros eu penau i ddwfr, a'r hwn a erys hwyaf heb godi ei ben o'r dwfr fydd y tyst geirwir! Rhoddir y rhai a ladratant wartheg a chawrfilod i farwolaeth. Anfonir pob wits-wraig a dewin allan o'r wlad; ac mae y rhai a alltudir o herwydd y trosedd hwnw yn Iluosog.
[No title]
ANFONODD- Rhagl a w Frenin yr Aifft fyddin o filwyr arfog yn ddiweddar i Ab- yssinia (Ethiopia), i ymosod ar rai o'r pen- aduriaid brodorol, o herwydd iddynt ores- gyn ac ysbeilio rbanau o diriogaethau yr Aifft; ond mae yn ymddangos iddynt gyf- arfod ag anffodion erchyll. Hysbysir yn awr fod 1,200 o filwyr yr Aifft wedi eu har- .wain i fagl, a'u llofruddio oil.
[No title]
HYSBYSIR yn y newyddion diweddaraf o'r India Ddwyreiniol, y cyfarweiniwyd Tywysog Cymru i wydd y Tywysogion brodorol a ganlyn: Jam o Nowanuggur, Thakur Sah o Bhownaggur, Rao o Cutch, Dewar o Pahlanpore, Nawabs o Junagarh, Radhanpore, Meer Ali Morad Khan o Khaipur, Raj Saheb o Dhraugadra, Rajeh o Rajpeepla, Mahrajoos Edar o Mysore, a Sir Salar Jung. Mae yn amheus a fydd Tywysog Cymru yn alluog i gofio enwau y gwyr mawrion uchod, dros y rhai y daw efe yn Frenin ar farwolaeth ei fam.— Rhoddir ar ddeall hefyd fod amryw o'r Tywysogion brodorol wedi gwrthod yr an- rhydedd o ddyfod yn gydnabyddus a'r Ty- wysog estronol, nad ydynt yn dewis talu teyrnged iddo.
[No title]
RHODDIR ar ddeall yn awr fod nifer o'r glofau yn rhandiroedd Swydd Schuylkill, Pennsylvania, i'w hatal yn fuan, o her- wydd fod y marchnadoedd yn rhy lawnion o lo yn barod, yn ol honiadau y masnach- wyr. Os cymer hyn Ie, dywedir y teflir deng mil o dorwyr glo allan o waith, a hyny yn ngwyneb y gauaf caled sydd wedi dechreu yn barod. Bu y gweithwyr yn ddiwyd a chynil er terfyniad y strike yn Mehefin diweddaf, yr hyn sydd yn gysur iddynt yn y cyfyngder a'u bygythia yn awr. Dywedir fod y perchenogion yn hynod o annibynol, ac yn gwneyd pob peth er eu lies eu hunain.
[No title]
NID yn ami y gwelwyd y gauaf yn dyfod i mewn mor erwin ag y daeth eleni; ac yr oedd yr oerni yn y dyddiau diweddaf o Tachwedd yn eithafol. Ymddengys fod y dymestl o wynt cryf ac eira wedi dechreu yn nhueddau y Mynyddoedd Creigiog a Colorado, lie yr oedd yr hin-fesurydd yn 16 o raddau islaw zero. Symudodd yr ys- torm yn mlaen tua'r dwyrain gyda chyf- lymdra mawr, a chynyddodd yr oerni i 20 o raddau yn ngogledd Wisconsin; ac erbyn i'r dymestl ddyfod i gylchoedd Utica, yr oedd yr hin-fesurydd yn dangos oerni o 16 i 22 o raddau islaw zero. Yn Vermont, yn Canada, ac yn Maine, bu yr arian byw mor isel a 24 o raddau islaw zero! Rhew- odd y llynau, y camlasau a'r afonydd, fel y rhoed terfyn buan ar fordwyaeth.
[No title]
DECHREUWYD achos cyfreithiol tra hynod yn New York yr wythnos ddiweddaf, yn yr hwn y mae gwerth$250s 000,000 o eiddo mewn cyngaws. Yn y flwyddyn 1666, darfu RICHARD NICHOLAS, Llywod- raethwr Talaeth New York, gyfleu darn mawr o dir ar ben uchaf Ynys Manhattan, ar yr hon y saif dinas New York, i un John Yermilyea; ac mae yn ymddangos fod yr etifeddiaeth yn eiddo eyfreithlon i'w olynwyr hyd y dydd heddyw. Er nad oedd y darn tir yn 1666 yn werth,ond y nesaf peth i ddim, y mae yn awr yn werth dau gant a haner o filiwnau o ddoleri. Ffurfiwyd cymdeithas yn New York o ddisgynyddion John Vermilyea, dan yr enw Cymdeithas Yermilyea, i'r dyben o ail feddianu yr eiddo, gan fod y teitl gwreidd- iol heb ei ddileu; ond y mae yn debyg mai i'r cyfreithwyr yr a y rhan helaethaf o'r eiddo. _——————
. PWNC YR INDIAID.
PWNC YR INDIAID. Dywed y Dirprwywr Smith yn ei adrodd- iad blynyddol am helyntion yr Indiaid, fod tystiolaethau y goruchwylwyr o bob parth o'r wlad yn ei arwain i gasglu fod yr Indiaid yn gwareiddio yn gyflym. Amcan- wyd eu rhifo y ddwy flynedd ddiweddaf, a chyfrifwyd 278,963, ond y mae rhai o'r llwythi yn wylltion ac anwaraidd fel nad yw yn ddichonadwy i neb eu cyfrif yn gywir. Bernir, pa fodd bynag, nad oes o fewn terfynau y Talaethau Unedig dros 300,000 o Indiaid. Allan o'r rhif uchod y mae 42,638 wedi eu gwareiddio, fel y maent yn alluog i lafurio y ddaear, a chy- nal eu hunain. Codasant y flwyddyn ddi- weddaf 2,402,000 o fwsieli o gorn, a 471,- 000 o fwsieli o bytatws, maip a bresych. Yr oedd ganddynt:323,000 o erwau o dir dan driniaeth, sef agos i 200,000 o erwau yn fwy nag yn 1871. Mae tua 10,000 o'r Indiaid wedi eu darbwyllo i fyw mewn tai, yn lie mewn pebyll ar y meusydd. Barna y Dirprwywr nad oes perygl am ryfel gyda'r Indiaid mwyach; ac anoga y Gyd- gynghorfa i brynu y Black Rills, a thalu yn anrhydeddus am y diriogaeth. Cymella y Dirprwywr y Gydgynghorfa i ddarparu moddion i sefydlu llywodraeth syml i'r Indiaid, yn y Diriogaeth Indiaidd, i'r De o Kansas. Os gellir casglu yr holl Indiaid yno, a chael eu penaethiaid i gario yn mlaen y llywodraeth, rhoddir pob cy- northwy iddynt gan awdurdodau y Tal- aethau Unedig. Adrodda y Cad. Pope, fod y llwythau Indiaidd a elwir Cheyennes, Arrapahoes, Kiowas a'r Comanches, wedi eu casglu at swyddfau y goruchwylwyr, ar oLwyth mis o lafur caled gan wyr meirch y llywodraeth. Costiodd eu darostwng i ufudd-dod arian mawr; ac yn awr y maent yn dibynu ar y llywodraeth am ymborth a dillad drwy y gauaf. Os ymddygir yn on- est tuag atynt, drwy roddi iddynt yr ym- borth a'r dillad, yn ol yr amodau a wnaed, ni fydd perygl yr ymosodant ar y sefydl- wyr gwynion. Rhaid defnyddio tegwch a thiriondeb gyda dynion cochion y goed- wig; ac wrth gymeryd pob peth i ystyr- iaeth, ceir nad ydyw yn costio haner cy- maint i ddilladu a bwydo yr Indlaid ag a gyst i'w saethu.
Y LLYTHYRDT CYFFRBJDINOL.
Y LLYTHYRDT CYFFRBJDINOL. Dengys adroddiad Post-Feistr Jewell fod costau y gwasanaeth llythyrol y flwyddyn ddiweddaf yn $33,611,309, a'r derbyniadau yn $27,441,360. Tynwyd allan o'r drysor- fa $4,716,329 i wneyd y diffyg i fyny; ac yr oedd hyny yn llai o$543,626, na'r swm a dalwyd i'r un dyben y flwyddyn flaen- orol. Mae y Postfeistr yn galw sylw y Gyd- gyngorfa at y ffaith nad oes ond un linell Americanaidd yn cario llythyrau dros y Werydd, a dim un i America Ddeheuol, yr hyn sydd yn anghlod ac yn ddarostyngiad FrTaiaethau Unedig. Anoga y Gydgyng- orfa i gefnogi trafnidiaeth fordwyol, a dar- paru llinellau o agerlongau i gludo ein lly- thyrau. Pe torai rhyfel allan rhyngom a gallu tramor, ni fyddai yn meddiant y Tal- aethau Unedig agerlongau i gludo y llythyr- au. Dywed y Postfeistr fod y llywodraeth yn awr yn talu $500,000 yn flynyddol am gludo y llythyrgodau yn fisol i China a Ja- pan; a chreda y byddai y swm uchod gyda y llythyrdoll yn ddigonol i gynal llinell o agerlongau Americanaidd. Hefyd mae yn anog cynllun cyffelyb gyda'r llythyrglud- iad o New York i Liverpool. Rhoddir canmoliaeth uchel i'r llythyr- gerbydau cyflym drwy New York a Phenn- sylvania; a bernir y daw y gwasanaeth i dalu yn ddigonol i anog cwmniau rheil- ffyrdd i redeg cerbydres gyflym o New England i Lynclyn Mexico, ac o for Wer- ydd i'r Tawelfor. Anoga y Postfeistr y Gydgyngorfa i wella y ddeddf yn y fath fodd ag i ganiat- au person i ysgrifenu ei enw a ffurf o an- rheg, mewn unrhyw lyfr, os bydd yn rhodd; ac hefyd ganiatau hawl i ysgrifenu oddiwrth ac enw yr anfonydd ar amlen all- anol llyfr, pamphledyn neu bapyr newydd. Hefyd y mae y Postfeistr yn anog y Gyd- gyngorfa i ostwng y llythyrdoll ar lyfr- au, cylchgronau, newyddiaduron, lluniau, mapiau, sheet music, ysgrifau i newyddiad- uron, &c., i un sent am bob dwy owns. Ymddengys fod y ddeddf newydd i orfodi talu cludiad newyddiaduron yn mlaen Haw, yn rhoddi boddlonrwydd cyffredinol, ac ni chymellir unrhyw gyfnewidiad; eithr ni chynyrcha ond oddeutu yr un faint o gyllid a'r hen drefn. Gwnaed llawer o welliantau yn y gwasanaeth cyhoeddus y flwyddyn ddiweddaf, ac mae y llythyrau yn cael eu trosglwyddo yn gyflymach ac yn fwy rheolaidd nag y gwnaed er dechreuad y llywodraeth.