Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
Y CELWYDDOG.
Y CELWYDDOG. Holl hyder yr hyll aclyn,—a'i oer waedd, Yw diraddio'i g.d-ddyn; o feddwl sal y mwlsyn Yni Hid a geir yn llyn. Genfigen gloai benglog,-a malais Yw mel y gvvalch llidiog; Anniben, da,u-wyucbog—gan a bar, I'w deulu cloddia'r d-l celwyddog. Llyw y fall, eich twyllo fyn, Gwyliwch gampiau y gelyn. PB&LLANOO
[No title]
W ILKE, SBARRE P A. Dydd Diolchgwrwch. —Treuliwyd y dydd mewn modd gweddus gan Gymry y lie hwn. Cynaliwyd cyfar- fodydd gweddi yn nghapel y T. C. drwy y dydd.-Parti Te gyda yr Annibynwyr yn y boreu a'r prydnawn, a chyngerdd yn yr hwyr. Yr oedd y wledd de yn dda, ond credaf fod y wledd gerddorol yn yr hwyr yn rhagori llawer. Nid yn ami y clywais well cyngerdd na hwn, ag ystyried nad awd ddim o'r lie i chwilio am dalentau i'm, gynal ond talentau perthynol i gapel vx £ Annibynwyr oeddynt agos oil. AethJ>*P cor trwy ei waith yn ardderchog, ag ystyr- ied mai ieuanc yw fel Cor Annibynol, oblegyd Cor Undebol oedd wedi arfer bod. Mae clod yn ddyledus i'w arweinydd, J. Lloyd Evans. Yr oedd yr elw oddiwrth y te a'r cyngerdd i'w ddefnyddio at leihau dyled y capel. Gobeithio ei fod yn llawer. Mae dau o'n "mawrion" ni yma wedi ymuno mewn glan briodas, sef Dr. J. Har- ries Jones a Miss Griffiths, merch John T. Griffiths, Ysw. Priodwyd hwynt gan y Parch. Thomas B. Thomas, yn nhy tad y briodasferch, Tach. 23ain. Ar ol mwyn- hau gwledd yn taro'r amgylchiad, aeth y ddau berson ieuainc i ffwrdd gyda y tren dau o'r gloch y prydnawn, a'u gwynebau tua Philadelphia i dreulio eu"misme! Oes hir iddynt yn llawn cysuron, a llawer o'r pethau bychain hyny, y gelwir plant arnynt. Mae masnach yn lied fywiog yma ar hyn o bryd. Y gweithiau hefyd yn myned yn mlaen yn lied hwylus; ond y cyflog yn lied fychan. Yr wyf yn cael ar ddeall fod llawer yn y lie hwn yn hoffi yn fawr yr anrhegion a gynygir gan y DRYGH i'w dderbynwyr. Clywais rai o honynt yn dweyd y byddai Cymru ganddynt yn y ty y flwyddyn nesaf. Mae Cymru yn anrheg yn dipyn o beth, Ond mynaf ei chael hi, cyn wired A'r "Gemau"'n wir hefyd, b'le cawd ffas- iwn beth, A rhoddion am dalu ein dyled? A phrif "Ryfeddodau Natur a Chelf," A roddir yn anrheg ardderchog; Credaf yn wir nad oes dim ond y ferf Rhoddi yn mryd y perchenog. (Sef perchenog y DRYCH.) Llwyddiant iddo i roddi a derbyn llawer o hyn i ddechreu y flwyddyn 1876, yw dymuniad -Bambo.
Y MEDDWYN ANOBEITHIOL.
Y MEDDWYN ANOBEITHIOL. Llwyd yfwr gwanllyd atiach,-ni wrendy Gyngor undyn bellach; Hwn er clod i'r ddiodach Dora'i ben—greadur bacht OWAIN ARFON.
AR FARWOLAETS
AR FARWOLAETS J. 0., mab J. P. ac Ellen Edwards, Utica, diweddar o Gaergybi, Mon, yrhwn a fu farw. Chwefror 13, yn 13 mlwydd oed, yn mhreswylfa ei daid, Mr. 0. Edwards, Careg Onen. Mon, G. C. Johnnie, fn'n wisgi ei wedd-a yrwyd At feirwon i orwedd; aeledd O'u golwg aeth mewn gwaeledd I dy bach dinod y bedd. 0 oer welv marwolion-daw eto Dydd dated y cloion; I gwuitii gwaredigion Y wiad well ar alwad Ion. Utica, If. I". BARDD CUDD. .u.
WRTH WELMD CLADDEDIGAETH.
WRTH WELMD CLADDEDIGAETH. 01 y bedd, annedd unig-man dywyll, Mewn daear gloedig; Rhyw bwll o waith rbaw a'r big, Oeraidd mewn pridd a cherig. Yn y bedd yn fuan byddaf-finan, Af yuo a ehysgaf; Y dydd hwnw, a in galw gaf Wed'yn, yna cyfodaf. I ail fyw mewn bythol fyd—O! orfaith, Yrfa'r tragwyddolfyd; Nid yw'n byw hen ond enyd, A'r hwya' oes, fawr o hyd. Drwy angeu yw'r ffordd y dringir-ync) F' enaid, lie byth byddir; Heb gel daw'r dydd pan welir, Fi'n, a hwyrach cyu hir. Yn wael ar fy nghlaf wely-yn isel, Yn ysig, ar drengu; A rhaid i mi yw rhyclu Dwfr yr hen Iorddonen ddu. Yn ganllaw i'm dal uwch enlli-tonawg, Gwyllt hynod ei dy 1 i1; lesu mad bydd agos i mi, Pan treiddiaf mewn poen trwyddi. Melin y Wern. E. CLYWEDOG HUGHES. u..
AR BR 10DAS
AR BR 10DAS William, mab Mr. Benjamin Williams, a Grace, merch Mr. Evan D. Jones, Fairhaven, Vt. Bu William gyda llygaid craff Yn sylwi er's llawer dydd Ar Grace pan oedd yn eneth fach, A theimlai 'i hun yn rhydd; Wrth feddwl byddai ef rhyw bryd Pan ddeuai dipyn hyn, Er 'fallai gwrdd a rhwyatrau erch Yn siwr o serch y fun. A Grace edrychai braidd; yn swil Dan bwys gwyleidd-dra merch, Er teimlo dan ei thyner fron Rhyw fan guriadau serch; Yn ymgryfnau o hyd o hyd Nes daeth i deimlo'i hun, Mai o holl fechgyn heirdd y fro Mai ei William oedd y dyn. A'r adeg ddedwydd ddaeth i ben, Mae'r auraidd ddelw gron l'w chanfod heddyw ar ei bye, A holl allweddau 'i bron Yu crogi wrth litiynau serch Sy'n uno'r ddau yn un, A phara'n hir i ymgryfliau Fo'r serch rhwng Wil a'i fan. A gwenu arnoch bellach fo Melynaur wenau ffawd, A phob cysuron yn y byd Fo i chwi drwy eich rhawd; l'eh erbyn na ddoed tonau'r byd, Na chwaith gryf wyntoedd croes; Ond haul wen teg fo yn parhau I chwi ddiweddu'ch oes. Fairhaven Vt. War. JONES (Ap Ifor).
4 It.. CERDD YMADAWOL
4 It.. CERDD YMADAWOL Mr. Benjamin Jones (P. A. Mon) i'w gyfaill myn- wesol, Mr. Thomas Jones (P A. Mon bach), Llan- idiots, Mai 12,1832, geiriallebol yn verbatim et lit- eraturn o gynysgrif y bardd, gan Richard Ed- wards (E. Powys). Diolch am gyfeillach dawel- Angel mwyn yn He rhywgythrel; Neu'r tywyllweh imi'n gwmni Yn lie angel y goleuni. Mi a deithiais-gwelais lawer, Drwy holl Gymru deg a Lloegr; Weithiau angel y tywyllni, Weithiau angel mwyn goleuni. Weithiau'n isel yn y frwydyr, Weithiau'n nchel gydalm mrodyr, Weithiau anirel y tywyllni, Weithiau angel mwyn goleuni. Weithian 'nghoflo gan ryw gyfaill, Weithian 'nharo i lawr gan eraill, Welthiau angel y tywyllni, Weithiau angel y goleuni. Wedi dydd mae nos yn dyfod, Wedi hmdda gyfyng gafod; Wedy'n angel y tywyllni, Wedy'n angel mwyn goleuni. Er mor gadarn, er mor 'styfnig, Er mor gyfrwys, er mor ddieflio-, Ydyw angel y tywyllni, t:> Ydyw angel rhith goleuni. Credu 'rwyf fi yn y diwedd, Drecha'r celwydd a'r gwirionedd; Dreched angel y tywyllni, Trecha angel y goleuni. Er a welais yn y rhyfela, 'N erbyn ordinhad Jehofa, 0 angylion y tywyllni, Ac angylion rhith goleuni;— TJI welais eto Iwyddo, N JI'V1 maes yn galed ato, angel y tywyllni, J^ydded angel rhith goleuni. Safin'ni^ndau drDghy/ani anw'/l, Bydded angelytwMf6?^1; Bydded angel rhith goleunl- Osygadyngynrlyn„eUlon Os lluosog y gelynion? Khwng angylion y tywyllni Ac angylion rhith goleuni. Mwya'i gyd corona'r frwvdvr Amla'i gyd y nifer leddir Rhwng angylion y tywyllni Ac angylion rhith goleuni. Yn iach iti, fy nghyfaill tirion — Pury Prifais iti droion- Gochel angel y tywyllni- Dilyn angel y goleuni. Cy11. gan "W AETH PWY."
"MUSICAL FORM."
"MUSICAL FORM." MRI. GOL.: Mewn atebiad i'r gohebydd o Holland Patent, N. Y., yn y DRYCH am Tach. 24ain, dymunwyf ddweyd: Fod caugen gerddorol a elwir Musical Form, yr hon yw y seithfed gangen, a astudir ar ol astudio yn drwyadl y chwe' cangen flaen- orol, sef yr Elfenol, Trysawd, Cynghanedd, Cyfansoddiant (Counterpoint), Fugue (L. fuga) a Cannon. Gan fod y gohebydd yn ewyllysio cael "ychydig ddesgriflad" o'r gangen hon, ni wnaf ond yn unig ysgrif- enu enwau y gwahanol gyfansoddiadau cerddorol, yn nghyd a chyfeirio ei sylw at weithiau y cyfansoddwyr goreu am eng- reifftiau. Yn— 1. Song Form,.— Cynwysay ffurf hon bedwar phrase, un s, ction a period. Gall gynwys mwy nag un period os dewisir, ond yr un fydd y ffurf er hyny. Am engreifftiau, edryched Beethoven's rondo themes; Andante theme yn y Sonata yn A, Op. 26, neu'r 63 banau yr Allegretto o'r Sonata yn E. Op. 14, Rhif. 1. 2. Applied Song Form.—TSid yw ffurf yr ail yn gymwys ond i gyfansoddiadau offerynol yn seiliedig ar ffurf y Song Form. Y mae yn cynwys y Contil- lion, Reel, Jig. Hornpipe, &c., sef y dosbarth cyn- taf; a'r Quadrilles, viz: La Pantalon, La Poule, L'Ete, La Tremise, neu La Pastonrelle, a La Finale. Cynwysa dosbarth yr ail, Marches, Polkas, Quick- steps, Schottisches, Mazurkas, Waltzes, Redowas, &c. Y mae pob un o'r uchod yn meddu mydr (rhythm) neillduol iddynt eu hunain, ac yn ol y mydr y gwahaniaethir hwy. Gellir cael digon o engreifft- iau o'r uchod mewn unrhyw violin neu organ col- lections. Dywedir fod y Minuet yn perthyn i'r dos- barth nchod, ac os yw, edryched Don Giovanni, Mo- zart, am engreifft. 3. Rondon.- Y mae'r Rondo yn cynwys Theme, Episode (passage), Theme, Coda. Y mae gwahanol fathau o Rondos, ac am engreifftiau, edryched Book Sfi of L. Holle's edition of Beethoven's\Works; yr Andante o Beethoven's Sonata yn F. Leiaf, Op. 2; y Largo o Sonata yn A. Op. 2; yr Allegretto o'r Sonata yu E. Fwyaf, Op 14; y Barcarolle yn C gan Croisey, o'r Eighteenth Amusement yn Richardson's New Method; Finale of Beethoven's Grand Sonata yn C, Op. 53; Adagir Cantabile o'r Sonata Pathefique: Beethoven's C Major, Sonata, Op. 2; Finale to the F Minor, Sonata, Op. 2. 4. Sonata neu Sonatina.-Rhenir y cyfansoddiad hwn i ddwy neu dair o wahanol ranau, a phob rhan yn gyfansoddiad unigol. Ceir engraifft ardderchog o Sonatina deu-ran yn Beethoven's Sonatina yn G, Op. 49;;y flaenaf yn 4-4 tempo, allegro non troppo, a'r ddiweddaf yn 3-4 tempo, Tempo di Menuetto. Pan bydd y Sonatina yn cynwys pedair rhan, gelwir y drydedd yn Minuet neu Scherzo gyda trio. Y mae'r Sonatina yn F Leiaf, Op. 2, Beethoven, yn engraifft o un yn meddu pedair rhan; a'r Sonatina yn G. Op. 14, Rhif. 2, yn engraifft o un dair rhan. Ysgrifenir Sonatinas i'r pianoforte, organ, violin, violoncello,. &c., y rhai elwir trios, quartettes, quintettes, Sex- tettes, Octettes, &c.; ac adnabyddir y rhai hyn wrth yr enw Chamber Music. Symphony yw Sonatina wedi ei hysgrifenu i'r orchestra. 5. Variable Forms—Overture. Edryched Over- ture y Magic Flute, Mozart, Polonaise a Polacca. Cyfansoddiadau yn y 3-4 tempo, mydr y Polish dance -nis gwyddwyf am engraifft. Variation. Edrych- ed Beethoven's Andante with variations, from Son- ata, Op. 26. Fantasia, cyfansoddiad digynllun. Ed- p ryched Keller's Fantasia. Potpourri, cyfansoddiad heb ffurf benodol. Songs without words (Leidr onhe worte.) Edryched Mendelssohn's Songs without words. Nocturne, cyfansoddiad tyneriawn. Etude. Edryched Chapin's Etudes, Op. 10. Aria a Recita- tive. Edryched Haydn's With verdure clad" a Messiah Handel. Fugue. Edryched weithiau Bach. 6. Ecclesiastical Form—yn cynwys Choral, Hymn, Anthem, Mottette, Sentence, Ohant a Mass. Edrych- ediyfrau cerddorol ycysegr. Ceir engraifft ardderch- og o Cho, al yn Eine Feste Berg," Ienan Gwyllt. 7. Dramatic Form.- Opera Comique, Grand Opera, Cantata, Oratorio. Edryched weithiau Se bastian Bach, Mendelssohn, Beethoven a Handel. Nid wyf yn gwybod am un Text-book ar Musical Form. D. DULCIMER HUGHES (Eilon Mon). Prospect, N. Y.
BARDDONIAETH UCHELRYW A CHOETHI
BARDDONIAETH UCHELRYW A CHOETH MRI. GOL:—Gwelais ofyniad ataf yn y DRYCR yn ddiweddar, gan un a eilw ei hun Bardd Ieuanc o Cattaraugus," yr hwn feddyliwn sydd wedi ei eni a danedd dur yn ei ben, onide nis gallasai byth gnoi y fath gegaid o ansoddeiriau. Rhyfedd byth fod y cyfaill yn galw yr englyn can- lynol, o waith Rhys Goch Eryri," yn uchelryw": Pwl afangc naddgrangc pawl neddgryg,—presfwng, Prudd penflwng praidd paunflys; Piliwr, adarwr dyrys, Par dengl sengi siop chwerwdrop chwys." A ganlyn sydd engraifft o'r uchelryw: Pa les cael lloches o'r llaid? Duw rano dy i'r enaid.-G. Owen. Helaeth noddfa uwch heulwawr, Cynteddai'r nef olau wawr.-D. Ionawr. Nid darn ystwythgamp" ydyw chwaith, fel y can- lynol: R ag O-wr a gawn-B E R T A bwriad da uniawn; E Y T yw-waed da iawn, 0 N cofiwch, enw cytiawn.-H. Morris. Yn yr englyn mewn dadl, pa fodd bynag, dangosir nerth cynghanedd y bardd mewn modd amlwg, ac y mae y desgrifiad o'r paun yn un o'r pethau hynotaf ynyriaithGymraegargyfrif ei synwyr lafodrydd. A gellir sylwi fod Dafydd ab Gwilym yn plethu yn yr un modd yn ei anerchiad i Rhys Meigant: Ceerwawd ei cardlawd eecyrdlai-cwthraigl Hir dreiglest sigl hwyr drai Cafn latys ei nam flotai Cafn rhisg gysegrwisg a sai. Hefyd, y bardd goleubwyll Lewis Glyn Gothi pan yn canu i Saeson Flint, a'r hen William Bibydd lbaq- pipe player): J Chwythu o'r crane, chwith yw'r cri, Chwyddo r god a chrochweiddi; Gwaedd hunlle'n lladd gwydd henllom, Gwaedd gast drist greg dan gist grom, Gerwingestigrioungerdd Gwythi ceg yn gwthiaw cerdd. Nen feallai y dealla y Bardd Ieuanc" yn well y dull emme hwn a fabwysiadai yr hen feirdd o draethu eu meddwl dull llawn o aspri bawddonol, ef In ddi- ffygiol yn ami o synwyr a chynganedd: Llygadlor yn gwreiehioni-yw gwreiddyn Pob gradd o oleuni. 0 -< j" v. engrnifft eto o englynion tafodrydd, gan y bardd dyhysbaddol Rice Jones, o'r Blaenau, jfeirion —o awdl Deicyn yr Aradrwr": Deicyn, cyw melyn eymalog-dyrus Adarwr bwbachog; Pen sitrach yw'r crybach crog, Gaflaw awchus gaflachog. Ni sylwaf ar yr ail englyn a grybwylla y "Bardd leuanc;" gadawaf ef yn fater o fyfyrdod ac efrydiad i'r beirdd o Cattaraugus i Ohio. Un dewisgrair nid ysgribl, 0 freninbwyll farn hen bobl, Acw'n dysgu can disgybl, Am aur degan mawr digabl, Am neuadd drefn mwynaidd drebl Am ddrudgost ymdcliried gwbl. Vtica, N. Y. T. L. THOMAS, L. L. D.
Y DDAU URIS.
Y DDAU URIS. Y mae wedi bod yn arferiad lied gyff- redinol yn mysg masnacliwyr Cymreig ac ysywaeth, yn bodoli eto i raddau mewn manau, o roddi dau bris ar y nwyddau a werthir ganddynt. Brethynwyr, mae yn debyg, ydynt wedi bod ddyfnaf yn y cam- wedd hwn. Yr ydym yn dweyd masnach- wyr Cymreig, nid am ein bod yn ystyried mai y Cymry yn unig ydynt yn euog o hyn, ond am mai a hwy y mae a wnelom yn bresenol. Nid ydym yn ystyried fod y Cymry at eu gilydd yn Ilawn cynddrwg a'r tylwyth lluosog o bedleriaid, gan mwyaf yn Iuddewon, ydynt yn tramwy ar hyd' a lied y wlad. Ond y mae yn bryd gwneyd ymaith yn hollol a'r arferiad. Yr unig beth tebyg i reswm a roddant dros eu hymddygiad yw yr arferiad sydd gan lawer o brynwyr i dynu y pris i lawr, fel ag fod y gwerthwr o dan angenrheid- rwydd i nodi pris uwch ar y nwyddau na'u gwerth priodol, er boddloni y bargeinwyr hyn heb ddrygu ei hun. Wrth werth priodol y meddyliwn, y pris isaf am yr hwn y gall y siopwr werthu ei nwyddau, yn fanteisiol iddo ei hun, ac heb ofyn yn ormodol gan ei gwsmer. Y mae yn amlwg i bawb nad yw hyn yn un rheswm dros yr ymddygiad. Y mae nodi dau bris yn ang- hyflawnder o'r mwyaf, a'r dosbarth hwnw (a'r mwyaf Iluosog hefyd) ydynt yn fodd- lawn i gymeryd y siopwr ar ei air a thalu y pris cyntaf a ofynir. Dylai fod gan y gwerthwyr ddigon o wroldeb moesol i roddi pris cyfiawn ar eu nwyddau a glynu yn gadarn wrtho. Ond y mae yn angenrheid- iol hefyd wrth gydweithrediad y cwsmer- iaid er cael diwygiad llwyr yn hyn. Y mae masnachwyr mewn ambell i ardal, er yn condemnio yr arferiad, o dan fath o orfodaeth i'w mabwysiadu er enill eu bywoliaeth. Yr ydym wedi dangos fod gosod dau bris yn anghyfiawnder a tbwyll ar ran y mas- nachydd; y mae yr arferiad o fargeinio hefyd yn un ffol iawn o du y cwsmer. Tra y mae y blaenaf yn twyllo ei gwsmer drwy honi ei fod yn gwneyd aberth mawr wrth ostwng ei bris, y mae yr olaf yn fynych yn twyllo ei hun drwy dybied ei fod wedi cael bargen dda, tra mewn gwir- ionedd y bydd wedi talu mwy na'i wir werth am y nwydd: Y mae y cynllun hwn o fasnachu yn sarhad ar brynwyr a gwerth- wyr. Y mae gofyn i'r masnachwr ostwng ei bris yn arwyddo diffyg ymddiried yn ei onestrwydd, ac y mae hyn yn naturiol yn cynyrchu anonestrwydd. Hyderwn y bydd i fasnachwyr Cymreig lwyr ymwrthod a'r gyfundrefn hon, a chofied y prynwyr am beidio rhoddi y demtasiwn o'u blaenau drwy wasgu arnynt i ostwng en prisiau. Bydd hyn yn enill i'r prynwyr, os nad i'r gwerthwyr hefyd, ac yn ddyrchafiad moes- ol i'r naill ddosbarth a'r llall.—Pvynwr.
PROFIAD BEIRNIAD.1
PROFIAD BEIRNIAD. MR. GOL.: Gwarchod ni, y fath orchwyl diddiolch a pheryglus yw ymgymeryd a beirniadu cyfansoddiadau Cymry America! Mae pob un o honynt yn gwybod gymaint yn well na neb a faidd ryfygu i'w beirn- iadu. Pentyrant arno y fath abuse nes ei wneyd yn sal gan ddirmyg at y fath deim- lad corachaidd anheilwng. Yn lie cydna- bod, mewn ysbryd teilwng, awgrymiadau y beirniad, y dull cyffredin yn mhlith dos- barth lluosog o feirdd hunanol, yw rhuthro fel llewod o'u ffauau, yn "grac" ulw greis- ion, yn gas ac insulting, nes agor dadl chwerw ddiflas, a diles. Gwae ni ein bod yn preswylio yn Mesek, yn cyfaneddu yn mhebyll Cedar, "llymion saethau cawr, yn hghyda marwor meryw." "Heddycho ydym ni; ond pan lefarwn, y maent yn barod i ryfel." "Hush!" ebai y guide yn yr Alps; "not a word above a whisper here, or you may bring down the avalanche!" Hyderwn y bydd i olygwyr ein fiewydd- iaduroa gau allan y cyfryw ddadleuon ar ol yr Eisteddfodau dyfodol. BEIRNIAD.
CYNYGION Y DRYCH.
CYNYGION Y DRYCH. MRI. GOL.- Y mae tipyn o ddadleu yn y lie hwn o barth y map a gynygir i bersonau a dalant yn mlaen am y flwyddyn nesaf. Mae y dyryswch yn nglyn a'r cynygion o barth enwau newyddion, a byddai ateb i'r gofyniad canlynol yn foddhad i lawer- "Pe byddai i mi gael dau enw newydd, yn nghyd ag adnewyddu fy nhanysgrifiad fy hun, a thalu yn mlaen hyd ddiwedd y flwyddyn 1876, pa sawl map a roddid gyda y ddau lyfr?" Dywed rhai mai un map, a hwnw yn eiddo i'r hen danysgriflwr, yn nghyd a'r ddau lyfr; ond dywed craill fod tn map, a dau lyfr yn cael eu cynyg.-R. H. H. 1 [Anfonid y ddau lyfr a map i chwi, w nghyd a map i'r ddau danysgrifiwr new- ydd. Yr ydym yn golygu fod pob un a dalo yn mlaen am 1876, pa un bynag ai hen danysgrifiwr ai newydd a fyddo, i gael map. Rhoddir y llyfrau fel gwobr ychwan- egol i hen danysgrifwyr am y drafferth i gael enwau newyddion.—GOL.]
Y OWN MUDION.
Y OWN MUDION. Pregeth gyfaddas i'r Amserau h in. GAN Y PAnCH. SOLOMON SCHTJMAKER. Y Mae fy mhregeth yn sylfaenedig ar y geiriau hynod hyny yn Esay: "Cwn mud- ion ydynt hwy ol!, heb fedru cyfarth." Dyna'r cwyn sydd i'w herbyn-peidio gwneyd eu dyledswydd. Dichon fod y cyfieithiad yma dipyn yn dywyll, mewn un gair. Ni fuasai un ci mud i'w feio, os na allai gyfarth; ond nid hyn yw y medd- wl. Nid y'm i edrych ar eu hanalluog- rwydd, ond ar eu hanewyllysgarwch, eu diogi^a'u difaterwch. Pe yn analluog, ni fuasent yn cael eu gosod yn wyliedyddion. Nid oedd Esay yn un o honynt; medrai ef gyfarth yn ofnadwy, a gwnaeth hyny, pan oedd achlysur yn galw. Ond y mae i bob oes ei "chwn mudion." Rhenir y bregeth i ddau ben. 1. PWY FEDDYLIR WRTH Y OWN MUDION ? Yr ydych yn gwybod fod cwn yn cael eu cadw gynt, a chedwir hwy eto, i wylio eiddo, a meddianau gwerthfawr, rhag per- yglon, tybiedig, a dyfodadwy. I amddiff- yn deadelloedd, gerddi, perllanau, ac an- eddau rhag ysbeilwyr, a charnladron, &c. Y cwn, at y rhai y cyfeiria y testyn, oedd- ynt broffwydi, gwyliedyddion, a gweled- yddion y tir, yn Israel gynt, er rhoddi rhybuddion prydlon, i'r hen gened], o ddynesiad gelynion, neu ddyfodiad drygau agoshaol, ;fel barn ar y genedl, am eu pech- od a'u drygioni; ac am na wnaent hyn, gel- widhwyyn "gwn mudion." Y cymeriadau yna, yn ein hoes ni, fy mhobl anwyl i, ydynt weinidogion ein heglwysi, golygyddion ein papyrau, a'r swyddogion gwladolhyny, syddyn edrych mwy ar eu hesmwythdra, eu lies, a'u helw personol eu hunain, na lies y cyhoedd sydd yn edrych ifyny atynt-y rhai na rybudd- iant trwy gyfarthiad gonest, uchel, achalon- og, pan welant berygl yn agoshau. 0, yr anrhaith, y dinystr, a'r golled, y mae eu hesgeulusdra wedi achosio bryd i'w gilydd! Gellid ychwanegu llawer iawn ar y pen hwn; ond brysiwn yn mlaen. Am y "cwn mudion" hyn, yr wyf yn llefaru. IT. PAHAM NA FEDRANT GYFARTH? Fel yr awgrymwyd yn y dechreu, nid yn y medr yn gymaint ag yn yr ewyllys, y mae'r bai yn aros. Eto, ar ol chwilio, dichon y cawn allan fod ynddynt, weith- iau, ychydig o anhawsder i roddi cyfarth- iad iawn,-un hyglyw, difloesg, gonest, a chroew; a hyny yn ltaf am fod rhai o hon- ynt yn weiniaid iawn. Nid oes ganddynt na gwynt, nerth, na gwaelod. Ar ryw olwg, nid ydym yn beio cymaint ar y gweiniaid hyn. agydym yn dosturio wrth- ynt. Weithiau yr ydym yn rhywfled fedd- wl eu bod yn ceisio gwneyd rhyw gyfarth- iad gwanaidd, ond mae'r ymdrech-os ym- drech hefyd, yn marw ar eu gwefusau, yn ami, yna rhoddant i fyny yr ymgais ffael- edig—y cwn diwerth. 2. Y mae gyddfau eraill yn llawn pluf, ac esgyrn cywion. Y maent wedi bod yn lladrata oddiar ryw glwydiSr gymydog- aethol, ac yn eu brys i ddil;nc, y maent wedi haner tagu ar yr ysglyfaeth. Mae'r lladrad yn eu gyddfau yn rhwystr iddynt gyfarth, pe byddai eu cydwybodau yn can- iatau iddynt wneyd. Felly, tra fyddont hwy yn lladrata ieir a gwyddau (mewn al- egori) eu cymydogion, nis "medrant" roddi cyfarthiad anrhydeddus, pan fyddo perygl i feddianau eu meistti eu hunain. Treia rhai o honynt, weithiau, gyfarth tipyn wrth redetr, ond trduliant eu holl nerth ar eu coesau-metha eu llais-y mae'r swn yn aros yn eu gyddfau-y cwn anon- est. 3. Y mae eraill yn safnrwym. Y mae llafn llydan ar eu genau, ac arno yn ar- graffetiig 'mewn llythyrenau eglur, "The Ev-l-ng D—11—r," ac y mae hwn yn boenus i'w hagor, i gyfarth. Yn wir, y ntae yn anhawdd iawn iddynt wneyd heb ddryllio hwn, a'r bwclau aur sydd yn ei sicrhau. Ac er ei fod yn gwnsgu yn dyn ar y safn, eto y maent yn hoff ryfeddol o hono-y cwn. 4. N id ydyw eraill yn ewyllysio cyfarth. Nid am nad ydynt yn ddigon llygadgraff i weled y perygl, ac nid am fod ofn cyfarth arnynt—nag oes arnynt hwy-ond am eu bod yn ddifater, surllyd, aphendrwm, heb un gofal am eiddo eu meistriaid. Rhyw gysylltiadau yn eu hatal—mwy o elw idd- ynt beidio na gwneyd. Felly gallant, yn hawdd, edrych ar y drygau yn neshau, y perygl yn dyfod mewn buandra, neu'r arysor yn cael ei ddwyn ymaith, heb roddi cymaint ag un cyfarthiad. uchel i'w achub —y cwn euog. Y mae maes helaeth yn ymagor o'n blaen, ar y pen hwn, ac mae'r demtasiwn yn gref i fanylu yn helaeth, a bod yn fwy personol—mae galw mawr am i rywun wneyd, o leiaf—ond awn yn mlaen i wneyd ychydig o NODIADAU YMARFEROL. Gobeithio, fy mrodyr anwyl a hoff, eich bod yn derbyn y gwirionedd, fel y mae yn cael ei draddodi, heb aros i mi fanylu llawer, a tbynu y casgliad. Mi ofynaf, pa fodd bynag, mewn ffordd o adeiladaeth. Yn gyntrif.-I'm brodyr y gweinidogion, os oes rhai o honynt yn digwydd bod yma, ac i'r reporter acw, yn neillduol os ydyw yn olygydd, a ydych chwi yn cyfarth pan fo eisiau i chwi wneyd? A ydych chwi yn cyfarth digon, yn ddigon uchel, ac yn ddig- on amserol? Peidiweh ofni cyfarth gormod, os bydd y swn o ryw les. Y mae'n well cael dy alw yn "gi-ci-ci," fel yr athron- ydd gynt, na chael dy alw yn gi mud. Yn ail, gadawer i mi ddweyd wrth y lleill o honoch am gymeryd gofal mawr, am y cwn da, gwasanaethgar, a ffyddlon- y rhai sydd yn gwylio yn barhaus, gyda llygad bytheffro trosoch chwi a'ch trysor- au. Y mae yn anmhosibl rhoddi iawn bris arnynt hwy. Y maent yn barod i farw trosoch; safant eu tir yn erbyn ymosodiad- au llewod, ac ni thwyllir hwy gan y gelyn i lyncu abwyd aur, llygredig. Yn olaf, peidiwch troedio y "cwn mud- ion. Y mae yn wir eu bod yn haeddu hyny. Y golygyddion yn eu sanctums, y pregethwyr yn eu pwlpudau, barnwyr ar eu meinciau, deddfwneuthurwyr yn y Legisla- tures, a'r Gydgyngorfa, athrawon mewn colegau, ac ysgolion israddol, yn nghyda phenau teuluoedd yn ami. 0, y mae gv aed lawer ar eich dwylaw. "Mae Abel, dy frawd ?" Y mae llawer o honoch wedi bod -mewn mudandod hir, oblegid ofn dynion, cariad at aur, plyf ac esgyrn yn eich gyddfau, neu trwy fod Uwch masnach bydol, wedi tagu eich gallu i gvfarth. Er hyny fy mrodyr hoff, peidiwch a'u niweid- io, gadewch iddynt ymneillduo, a newynu i farwolaeth, ond na throediwch hwynt y cwn ffol. (Llonyddwch a distawrwydd mawr yn y ty.)
AR DAITH 0 BERERINDOD.
AR DAITH 0 BERERINDOD. GAN EDNYFED. Mae gwahaniaeth rhwng teithiwr a pher- erin; gall y teithiwr deithio yma a thraw,, yn y gogledd, dwyrain, gorllewin a deau, heb ddim mewn jjolwg ond teithio, ond am y pererin, ei nod yw cartref, ei uchel- gais yw myned tua thref, ei gân yw "Henffych i'r dydd cawn eto gwrdd Yn Salem lSn oddeutu 'r bwrdd." Nid yw y pererin yn ddall i olygfeydd swynol y daith, neu fyddar i'r seiniau son- iarus a ddisgynant ar ei glustiau, ond fel y llefa yr afon trwy y golygfeydd prydferth yn ogystal a'r manau llymaf, M6rr mor t. mi," felly y Ilefa y pererin Cartref, car- tref i mi." Rhaid i mi gyfaddef fod geir- iau yr anfarwol Horace Greeley yn meddu swyn neillduol i mi—"Ddyn ieuancr dos i'r Gorllewin." Nid wyf yn dweyd i mi ufuddhau i'w archiad, er fy holl barch i'w goffadwriaeth, eto yr oedd yn dda genyf weled y ffordd yn glir i gychwyn tua dinas enwog St. Louis. Nid wyf yn awyddus i ddesgrifio y daith, ac nid wyf yn hynod awyddus i ddesgrifio dinas enwog y De- orllewin. Os gwnaf hyn, bydd rhai r* ddoethion y DRYCH yn barod i wneyd em llw i mi gael y cwbl mewn rhyw Guide- Book, fel y gwna darlithwyr yn fynych, neu fel y beiddia ambell i ohebydd goa- tyngedig. Y peth penaf mewn cysylltiad a St.. Louis, yw y bont dros y Mississippi. Llais pawb a fyddo am eich boddloni ar daraw- iad yw, "Deuwch i weled y bont." Cred- ant mai paganiaid yw y rhai a fyddant feirw heb ei gweled, os yn meddu cyfleus- dra. Rhaid cyfaddef ei bod yn ardderch- og, yn ddarlun perffaith o ymgais y gor- llewinwr, yn bregeth ar gywreinrwyddf yn brawf diymwad o gynydd gwybodaeth, ac yn gof-adail gref o allu a nerth y meddwl dynol, ac o oruchafiaeth dyn ar yr elfenau. Ar y bont a'r afon ceir darlun o gyflymdra ac arafedd-tra yr hwylia y llongau ac yr a yr ager-fadau gydag arafwch, rhuthra y gerbydres gyda brys. Onid yw pob petk yn pregethu? Dywedwyd wrthyf gan ddyn call a gwybodus, nad yw dyfroedd y Missouri a'r Mississippi yn ymgymysgu a'u gilydd gyda pharodrwydd mawr. Chwareu. teg i'r Missouri, wedi taith hirfaith o fen- dithio, wedi llwybro yn hir i lesoli, wedi llawer o hunan-ymwadiad, nid gwaith hawdd yw colli hunaniaeth. Yr unig betk sydd yn codi calon Missouri yw, fod y Mississippi i ymgolli yn y cefnfor—"MSr^ mor i mi." Mae dyfroedd un or ddwy afon fawr yn gliriach na'r Ilall, eto cânt eu hunain heb ddim yn eu gwahanu yn y mor; felly y Cristionogion—yn unigol gwa- haniaethant yn eu tymheredd, eu gallu- oedd, eu cariad, eu sel a'u ffyddlondeb, eto preswyliant yn yr un ty, trigianant yn yr un wlad, canant yr un gan, bloeddiant yr un fuddugoliaeth a choronant yr un Brenin. Nid dinas yr eglwysi yw St. Louis- byddai ei galv felly yn anfri ar wirionedd. Yma blodeua Pabyddiaeth. A yw yn bri- odol dweyd fod Pabyddiaeth yn blodeuot Os yw, blodeu gwenwynig a berthyn iddi. Mae goruchafiaeth y Gwerinwyr ar y De- mocratiaid yn Ohio wedi cynyrchu dylan- wad nerthol ar y Babaeth. Nid yw ei cham mor heinif, ei llais mor glir, na'i hanadl mor rhydd. Credwyf, pe yn ngallu Pio Nono, y byddai genym Feibl dan glo, eglwysi dadfeiliedig, carcharau llawn o Brotestaniaid a Bedyddwyr, ysgolion cy- hoeddus gweigion, baner larpiog a llywodr- aeth ddamniol. Gwywed y Haw aflan a gyffyrddo S'n breiniau, melldithier y troed a feiddia sathru ar sefydliadau gogoneddus ein gwlad, a diflaned gelynion rhyddid o'r golwg, Mae buddugoliaeth Ohio wedi lleddfu anthem Pabyddiaeth yn St. Louis, eto meddant ddylanwad anrhaethol ar lyw- odraeth y ddinas. Rhaid cyfaddef fod yr elfen Ellmynaidd yn nerthol. Pa le bynag- y cawn yr Ellmyn goleuedig, cawn y dar- llenydd, yr athronydd a'r meddyliwr- hoffant anadlu yn awyrgylch rheswm; hyny yw, yn awyrgylch rheswm yn llnig" gan hyny blinir hwy gan ddiffyg anadl, y fogfa a'r gymalwst. Os na allant ateb y cwestiwn Paham? yn gadamhaol, gwadant yr oil. Nid yw Datguddiad uwchlaw rheswm, i'r Ellmyn, ond ynfydrwydd. Edrycha gyda gwawd ar delerau yr Ef- engyl, a byddai gwrando pregeth efengyl- aidd ar Groes Crist yn wastrafE ar amser iddo ef. Gwada yr hyn ni all esboniov a chreda yr hyn a chwydda ei bleserau cnawdol, am hyny cawn ef ar drothwy an- ffyddiaeth, ac yn fynychyn ei gafaelion. Mae gan Efengyl Mab Duw waith an- nhraethol i'w gyflawni yn mhlith y bobl, hyn. Yn St. Louis meddant eu gwahaiiQl glybiau lie y dadleuant ar bynciau dyrys,, ond deniadol i'r meddwl Ellmynaidd. Medda Carl Schurz ddylanwad mawr ar- nynt. Yn ddiau y mae ef yn un o'r dates' men galluocaf a fedd ein gwlad-fel siar- adwr, y mae yn bwyllog ond nerthol; fel meddyliwr, y mae yn eglur a chywir, ac fel dyn o ymddiried y mae yn sefydlog. Nid oes yma fawr o Gymry, er gwaethaf y modd; pe rhifent eu miloedd byddai yn fendith i'r ddinas, canys lie bynag y maent profant eu hunain yn halen y ddaear, yn oleuni ar fryn, hyny yw, mewn ystyr gref- yddol, Deuwn o hyd iddynt hwy yn em nesaf. (rw barhau.)
[No title]
-Adroddir am un priod tyner-galon ym Baltimore, a baentiodd y grisiau o flaen ei. dy dair ar hugain o weithiau, «r ceisio cael lliw i foddloni ei wraig, yr hon yn y diwedd a ddywedai mai y lliw cyntaf oedd y goreu. —"Shon bach," ebe gwraig wrth hen wr a gyfarfuasai un boreu yn feddw iawn, "yr ydych wedi meddwi eisoes y boreu hwn!" "Peidiwch dweyd celwydd, fenyw," ebe yntau, "heb sobri oddiar ddoe yr ydwyf