Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

Y LILI OLAF.

GWLAD Y SEINTIAU.

PYNCIAU Y DYDD.

News
Cite
Share

PYNCIAU Y DYDD. Nid oes bnd pump ar hugain o flwyddi eto i ddod yn y ganrif hon, ond prin y gall neb ddychymygu maint a nifer y GWYRTHIAU NEWYDDION a gyflawnir eto ynddi cyn yr egyr y flwydd- yn 1900. Gwnaed pethau anhygoel ynddi yn ystod y chwarter hwn o honi sydd ar derfynu. Caf- wyd modd i fynegu new- yddion Llun- dain yn Chi- cago yn mhen dwsin o fyn- ydau ar ol iddynt ddig- wydd. Dysg- wyd sut i an- fon llongau mawrion dros dirSuez o Ew- rop i India. Ac yn awr sonir am droi Y DIFFAETH- WCH MAWR YN FOR! Mae cynllun yn awr yn cael sylw yn Ew- rop i wneyd Sahara mawr Affrica yn lie i bysgod a llongau nofio, trwy droi dyfroedd y Wer- ydd i lenwi yr anialdir sych, mawr, "gwag, erchyll" hwnw! A phwy a all fynegu beth fydd dylanwad hyny ar hin- sawdd ac ar sefyllfa wareiddiol a chrefydd- ol y gwledydd cylchynol ? Dymunol iawn hefyd yw gweled DARLITHIAU GWYDDOREGOL yn cael sylw y lluaws yn Mrydain ac yn y wlad yma. Dywedir fod miloedd yn gwrando ar Prof. Proctor yn traddodi ei ddarlithiau seryddol yn rhai o brif ddinas- oedd ein gwlad y tymor hwn. A thra y cyhoedda yr athraw poblog hwnw ei fod yn hollol gydsynied It Tyndall a Spencer o barthed i greadigaeth trwy ddadblygiad (evolution), da genym hefyd ei fod yn eglur dystio nad oes dim mewn syniadau gwydd- oregol felly yn milwrio yn y radd leiaf yn erbyn crefydd bur-ond y dichon i'r syn- iadau hyny fod yn gynorthwyol i'r addol- iad goreu o Dduw, a'r moesoldeb puraf yn mysg dynion. Nid oes achos i neb ofni y bydd i archwlliadau i weithredoedd dwy- law Duw arwain neb i ameu bodolaeth y Creawdwr, na dyledswyddau moesol dyn- ion. Pa faint bynag o naturioldeb, ac o gysylltiad rhwng achosion ac effeithiau a ganfyddir gan ddynion fel Tyndall, Dar- win, a Hnxley, yn holl ryfeddodau a new- idiadau y byd anianyddol, diau y bydd yr Achos Mawr Cyntaf o'r cwbl yn ddirgelwch hyd byth i ddynion ar y ddaear. Ac hefyd y pery dynion i edmygu ac addoli y Dirgel Achos Hwnw tra byddo natur ddynol yn bod. Yn wir, nid oes neb parotach na'r gwyddorwyr hyn i gydnabod gyda gwyl- der dwys fodolaeth y fath ddirgelwch add- oladwy. Cydnabyddant, gyda'r enwogion gynt, nas gallant wrth chwilio "gael gafael ar Dduw "-ei fod uwchlaw eu deall hwy. Mae tuedd naturiol mewn darlithiau fel yr eiddo Prof. Proctor i eangu syniadau dyn- ion am ryfeddodau Duw. Engraifft, para draetha yn nghylch GENEDIGAETH A MARWOLAETH Y DDAEAR;: Dengys fod y blaned hon sydd yn gartref i ni yn bodoli filiwnau o flwyddi cyn i un- rhyw beth byw ymddangos arni. A bod tebygrwydd sydd agos yn sicrwydd y chwyrnella yr hen ddaear yma am filiwnau lawer o flwyddi eto ar ol iddi ddyfod yn fynwent hollol, pan na bydd modd i un- rhyw beth fyw am fynyd arni. Cyfrifa. gwyddoregwyr nad yw oes fyw y ddaear ond megis mynyd, o'i chydmaru a'i hoes ddifywyd. Ac 0, mor fychan yw cyfnod hanesyddol dynion o ychydig flwyddi, mewn cydmariaeth i'r hyn a dystia Anian am oes greadigol Duw! Yn ol tystiolaeth y bydysawd, mae cryn lawer o debygrwydd na bu dechreuad, ac na bydd diweddiad i waith creadigol yr Hwn a breswylia dra- gywyddoldeb." Maddeuer i mi am ychwanegu gair neu: ddau yn nghylch GWYLDER GWYDDOREGWYR, a'u parodrwydd i addef byehander eu gwy- bof.a.vth, Tystia Prof. Proctor nas gall efe- na noli seryddwyr y byd ddeall ond y nes- af peth i ddim am ameanion mawrion Duw yn ei weithredoedd. Er engraifft-ym-- ddengys fod ein haul ni yn gwasgar mwy o oleuni a gwres nag sydd ddigonol i ang- enion y Solar System hon, a hyny gant a deg ar hugain o filiwnau o weithiau! Hyny yw, mai un ran o 130 millions o wres a gol- euni yr haul a dderbynir gan holl blanedau a Ileuadau y cysawd hwn. A bod yr holl filiwnau eraill o ranau y goleuni a'r gwres aruthrol hwn yn ymddangos i ddeall byr dynion fel gwastraff! Ond, chwedl Proc- tor, pwy sydd ddigon deallus i fedru dweyd nad oes amcanion i'r gwres a'r gol- euni heblaw a allwn ni ddirnad yn awr?- Dynion fel Newton a Humboldt a Her- schel a Tyndall a Spencer a Proctor, sydd barotaf o bawb i ddywedyd gyda'r Apostol Paul, fod ffyrdd Duw yn anolrheiniad- wy." A phan gyhuddir y dynion o wadu Duw, ac o ddiffyg ysbryd crefyddol, mae yn rhaid fod ganddynt "ras mawr" i beidio gwylltio wrth eu camgyhuddwyr. A pha bryd bynag y ceir yr enwogion hyn yn ddi fater am syniadau culion dynion anwybod- us yn nghylch crefydd, nid yw hyny mewn un modd yn profi fod y fath ddynion yn ddigrefydd, mwy nag y profa dirmyg Pro- testant o ddefodau Pabaidd, fod y Protest- ant hwnw yn ddigrefydd. Diau mai FEL Y BYDD Y DYN Y BYDD EI DDUW. Os bychan a chrebychlyd a chnawdol fydd dyn, Duw bychan a chrebychlyd a chnawd- ol fydd ganddo. Ac os eang a dyrchafed- ig ac ysbrydol ei syniadau fydd dyn, Duw felly fydd ei Dduw. Nid Duw yn ol syn- iadau bachgen anifeilaidd, dwl, oedd Duw dyn fel Dr. Chalmers. Ac nid Duw yn ol syniadau rhai o honom ni dduwinyddion bychain gwasaidd, yw Duw dynion sydd yn dknad mil mwy na ni am weithredoedd diderfyn yr Anfeidrol. Dichon i ddyn fel Tyndall wadu bodolaeth Duw yn ol fy nghredo bach gwyrgam i, ac ar yr un pryd yn addolwr gwir Dduw sydd fil rhagorach na fy nghredo goreu i yn nghylch Duw.- Ac er mwyn gochel camgymeriadau, mae rhai dynion enwog wedi gomedd galw eu Dnw yr un enw ag y mae dynion llai na hwy wedi arfer wrth son am eu Goruchaf; er ar yr un pryd fod y fath ddynion a gyf- rifwyd yn Atheistiaid, yn gredinwyr dif- rifol mewn Duw ardderchocach nag a add- olid gan y cyffredin. Pwnc go fawr yw hwn-Beth yw y syniad ardderchocaf o Dduw yn mysg dynion heddyw? Dyma un o bynciau pwysicaf y dydd. R. L. HERBERT.