Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

460. CItEFYJDJDOL AC EGL WYSIG.

News
Cite
Share

460. CItEFYJDJDOL AC EGL WYSIG. Dywedir fod yn Los Angelos dri o dduwiau Chineaidd wedi costio $3,000 yr un. Bydd Cwrdd Dosbarth T. C. Swydd,, Oneida yn cael ei gynal yn Penygraig Rhagfyr 3-5. Y mae a ganlyn yn gyfrif lied gywir o'r nifer o bersonau a gynwys Eglwysi Cadeiriol Ewrop: St. Pedr, yn Rhufain, 54,000; Eglwys Gadeiriol Milan, 37,000; St. z, Paul, yn Rhufain, 25,000; St. Sophia, yn Constantinople, 13,000; Notre Dame, yn Paris, 21,000; yr Eglwys Gadeiriol yn Pisa, 13,000; a'r San Marco, yn Venice, 7,000. Cynelir Cwrdd Dosbarth perthynol i'r T. C. yn Chicago, Rhag. 11-12. Bydd yn dechreu nos Wener, pryd y disgwylir i fod yn bresenol gynrychiolwyr o'r gwahan- ol eglwysi. Y mater o dan ymdriniaeth yn y Seiat Gyffredinol fydd—"Ein rhwymed- igaeth a'n braint i gadw yn sanctaidd y dydd Sabboth," seiliedig ar Esaiah 58. 13, -David Harries.' Y mae'r Trefnyddion, y Presbyter- iaid, y Cynulleidfaolwyr a'r Episcopaliaid yn Ninas Mexico, yn cynal cyfarfodydd undebol, ac y mae dyddordeb mawr yn cael ei ddangos yn y gwasanaeth. Der- bvniodd Dr. Butler ddeunaw o ddychwel- edigion i'r Eglwys Drefnyddol ar y 26ain 0 Fedi. IRONTON.—Galwad i Weinido.q.- Y mae eglwys Gynulleidfaol Ironton, Ohio, wedi rhoddi galwad unfrydol i'r Parch. WIL- LIAM POWELL, Mifflin, Iowa Co., Wis., ac y mae yn hyfrydwch genyf hysbysu darllenwyr y Duron ei fod wedi ateb yn gadarnhaol. Dechreua tymor ei weinidog- aeth gyda'r ail Sabboth yn Tachwedd. Ei gyfeiriad o hyn allan fydd, Ironton, Law- rence Co., Ohio.—Gohebydd. RmfE, N. Y.—"George Wltitjield. Traddodwyd darlith ar yr Efengylwr a'r Diwygiwr anfarwol uchod yn nghapel y T. C. yn Rome y mis diweddaf, gan ein cym- ydog, y Parch. Erasmus W. Jones, Lee Centre, i Gymry y ddinas hon, y rhai a ddaethant allan yn gyffredinol fel ag yr oeddynt yn perthyn i'r gwahanol enwadau Cymreig, a Ilawer eraill agy sydd yn dilyn eglwysi Seisnig fel gwrandawyr ac aelod- au. Aeth y darlithydd drwy ei waith yn feistrolgar, a chafodd sylw a gwrandawiad difrifol, canys difrifoldeb dyddorol oedd cynwys y ddarlith. Cafwyd hanes y dyn nodedig yn gryno o'i enedigaeth, ei ddyg- iad i fyny, a'i oes lafurus hyd ei farwol aeth; yna addysgiadau a chymwysiadau oddiwrth hyny. Er nad oedd dim arogl sectol ar y ddarlith yn ei chyfeiriad at gys- ylltiad cyfeillgar Whitfield a'r ddau Wes- ley, yn nghydag ymweliadau a Chymru i gwrdd Howel Harris, lie y cynaliwyd y Gymanfa Fethodistaidd gyntaf erioed; eto cynghorem yr enwad hwnw i agor drysau eu capeli yn llydain, a rhoddi gwahoddiad croesawus i Mr. Jones, er mwyn y degau a'r ugeiniau y sydd yn Swydd Oneida, mae yn debyg, heb wybod nemawr am ddeclueuad yr enwad y perthynant iddo, i gael clywed y ddarlith hon, yn gvstal a iioffwyr llwyddiant a chynydd crefydd a brawdgarwch yn mysg pob enwad. Mae eisiau diwygiad yn mysg ein cenedl i gefnogi darlithiau a thuedd ynddynt i helaethu gwybodaeth fuddiol, a pheidio cymeryd ein harwain yn ormodol gan swn cyngerddau. Y mae hyny yn eithaf da fel adloniant, tra y cedwir o fewn terfynau moesoldeb; ond cofier mai peth i'r dymer yw yr olaf, a bod y deal! yn gofyn y flaen- oriaeth. Eos Glan Twrcli. LLYTHYR OLAF JOHN ELI AS.—Y Parch John Elias yn y llythyr olaf a ysgrifenwyd ganddo, cyfeiriedig at Gyfarfod Misol Mon, a ddywed, "Pell yn ddiau yw Duw oddi- wrthym yn y weinidogaeth. Ofer a fyddai gwadu hyny. Pe amgen, pa fodd y gallai y miloedd annuwiolion sydd yn gwrandaw fod mor dawel ac esmwyth dan y pregeth- au? Nid ydyw ein pregethau yn dychrynu nac yn afionyddu annuwiolion; ymadaw- ant o'r odfeuon gan ganmol y pregethwr, ond heb derfysg na thrallod oblegid eu cyflwr drwg. Pe cawn bregethu ychydig eto, carwn allu pregethu nes y byddai'r an- nuwiolion yn ymgodi yn erbyn fy mhreg- eth neu yn erbyn eu pechodau, yn anfodd- lawn i'r pregethwr am ddangos iddynt eu cyflwr mor erchyll, neu ynte yn anfodd- lawn i fyw yn hwy yn eu cyflwr truenus a cholledig. Nid yw ond cysur gwael i bregethwr, pe yr ystyriai bethau yn deilwn0", fod annuwiolion yn canmawl ei bregethau. Y mae perygl rhag ei fod yn gwnio clustogau iddynt." 11

LLONGDDRYLLIADAU ! !! ■rpj

[No title]

PBYDAJN FAWB.

[No title]

G WEI TIIFA OL—MA SNA CIIO…

[No title]

[No title]

BRA. WDL YSOEDD CYMRU.

DEHEUDIR CYMRU.

GOGLEDD CYMRU.