Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
YR HAUL AR FACHLUDO.
YR HAUL AR FACHLUDO. Ha! mae'r haul ar fin machludo; tyn Ei ben cyn hir dan gwrlid prudd y nos. Fe sua'r awel hwiangerdd orhoff I anian werdd; gan sisial mwyn "Nos dawch." Y rhosyn a oblyga'i ben mewn hun: Cerddorion per y wig: dystewi wnant; Ymlechant yn y tew-frig nes daw dydd I ail fywhau, a deffro natur gain. Mae yn brydnawn ar haul fy mywyd bran Blinderus man,-machluda yn y man!— Mae mantell lwyd y cyfnos yn pruddhau Fy awyrgylch;-mae'r nos yn wir gerllaw! Ymlecha f' enaid! paroto dy hun Gogyfer nos dy angau! Bydd yn gall— Arsylla i'r dy! odol! gloewa'th fl'ydd- A chwsg mewn gobaith am dragwyddol ddydd. Glen Boy. E. B. WILLIAMS. 'U
Y PARCH. D. M. JONES, BE MS…
Y PARCH. D. M. JONES, BE MS EN, N. Y., YN EI FYWYD NEWYDD. Wrth roddi y fodrwy am fys dy anwylyd Tra thywyll fy nghyfaill dyfortol dy fyd, Rhoed nefoedd aur fodrwy-o anigylchdy aelwyd, Dodrefnau dy anedd benditbion i gyd; Na fydded priodi yn fyiiwent dy gariad, Na'r fodrwy yn feddrod i gladdu dy eerch; Ti gefaist rwy'n credu yn awr dy ddymuniad, Os collaist rat petban enillaist dy ferch. Ar ol priodi dechreu byw," Medd y ddiareb gynt; Daw gofal byd a magu plant Fel teithwyr ar eu hynt; Ti deimli'n chwith pan glywi lais 0 fynwes bur ddi-frad, Fel rhyw angelaidd sibrwd gwan Yn ceisio gwaeddi Nhad." Bydd eislau hyn ac eislan'r liall, Wrth ddechreu cadw ty; Ond nid yw cariad, cofia frawd, Yn gweled dim yn ddu; Mae cwlwm serch yn gwasgu'n dyn Bob dydd mae yn tynhau, Wrth glymu dau yn un mae'n gwneyd Bob amser un yn ddau. Boed i dy yrfa f6d yn hir Heb gwmwl uwch dy ben, Os gweli nos boed i ti gael Goleuni'r lleuad wen; Wrth gasglu blodan yn y byd Mae'n anhawdd cael y rhain, Heb dderbyn liawer archoll drom Gan-rhyw felldithiol ddrain. Os gweli rai yn gwgu frawd, Paid tori'th galon clyw! Ti gai gan fwy dy barchu gwn Fel flyddlon was i Dduw; Boed i dy rian deimlo'n falch Wrth weini arnat ti, Tu draw i'r bedd mewn arall fyd Boed nef yn eiddo chwi. Remsen, N. Y. MORRIS EYAN. -aeboo.
AR FABWOLAETH
AR FABWOLAETH JDafydd, mab bychan Mr. Charles D. Jones a'ibriod, Audenrled, Pa. Gwywodd y blodeuyn harddaf, Rhosyn teg a glan ei wedd; t, elwyd ef yn myn'd yn araf 0 byrth y byd i borth y bedd; Hedeg wnaeth ei enaid bychan At ei Dduw i wynfyd pur, Gyda'r lesu mae ef weithian, Darfu ochain poen a chur. Y'mhlith seraphiaid a cherubiaid Eilia gan na dderfydd byth, Ni ddaw deigryn mwy o'i lygaid, Bydd fel jtugel yn ddilyth; Gwisg ei enaid gorflE ysbrydol, Corff anlanol aeth i'r bedd; Harddach fllwaith yr un nefol Yn nhragwyddol wlad yr hedd. Os bu angmi erch a'i ingoedd Yn cysraddio David bach, Dwyn ei fywyd ond diangodd, Ha! mae ei enaid ef yn iach; Ni raid iddo roddi cyfrif Yn y farn am becbod cas, Er bydd yno dorf aneirif Wedi gwrthod moddion gras. 0 rieni pa'm galarwch Yn hiraethas ac yn ffol, Er ei fod yn addurn tegwch, Byth y dychwel yn ei ol; Chwithau deithiwch yr un llwybr, Fe ddaw angau brenin braw; Gwyn ei fyd yr hwn a welir Yn barod iddo pan y daw. Audenried, Pa. LEWIS T. BRTNioa.
FY NHAD A MINAU MEWN CYBTUDD.
FY NHAD A MINAU MEWN CYBTUDD. Fy anwyl dad, cyd deithio'r y'm I fythol wae neu hedd, A buan rhoir ein marwol ran I orwedd yn y bedd. Ymdrechu byddo'm yn ddiball Am gael y gwynfyd pur, Gan wrthod hudoliaethau'r fall Er cyraedd Canaan dir. Mae'n pabell bridd yn siglo'n wan, 'Ry'm ni yn Hesg ein dau; 0 boed y nefoedd ini'n rhan 'Nol gado'r ty o glai. Fy anwyl dad, os bydd i chwi I fyned o fy mlaen, I uno gyda'r tenlu fry Yn y Gaersalem lan. Cewch yno welld fy anwyl fam, A'm brodyr yr un wedd; A chyd glodfori'r Oen dinam Yn hyfryd wlad yr hedd. Dywedwch wrthynt fy mod i I'ch dii vii ii cbrwydd iawn, A'm hunig obaitli a fy nghri Yw aberth Crist a'i lawn. Ond os myfi ddarparodd Duw I flaenu yn y daith, Nid ydych chwithau'n hir i fyw Ar yr hen ddaear laith. Gobeithio y caf i wel'd eich gwedl A chynes siglo llaw, Cyn rhoir ni yn y dystaw fedd Gan angau, brenin braw. Ond os na chaf (Duw'n nnig wyr), Gwnaed ei ewyllys ef, Boed i ni dyngu'n awr i'n dau. Gyfarfod yn y net.. Llanidan. MAIB MEIRCHION. ■ »
Nomox CEiinnonoL.
Nomox CEiinnonoL. .Gelllr cael rbyw ddryclifeddwl am yr organ newydd ardderchog yn nghapel Dr. Hall, New York, oddiwrth y desgrifiad canlyuol: Great organ, compass C C to A, 58 notes; 12 registers, 870 pipes. Swell organ, C C to A, 58 notes, 16 registers, 986 pipes. Choir organ, C C to A, 58 notes, 9 registers, 522 pipes. Pedal organ, C C C C to F, 30 notes, 210 pipes. Coup- lers, 6; pedals, combination, 11. Total, 11 pedals, 58 registers, 2,588 pipes. Y mae John Williams, o Stockton, y baswr buddugol yn eisteddfodau Llanarth a Pwllheli, a Mr. James Sauvage, y tenor medrus, yn awr yn efrydwyr yn y "Royal Academy of Music." Y mae Mr. Williams wedi ei osod o dan Mr. Cox, yr athraw canu Seisneg goreu yn y sefydliad, ond y mae Mr. Sauvage wedi bod yn fwy ffodus byth. Y mae o dan Signor Randegger, y meistr Italaidd enwog. Yr oedd Mr. Ran- degger wedi penderfynu na chymerai yr un pupil newydd; ond ar ol clywed Mr. Sauvage yn canu, fe ffurfiodd farn mor uchel am dano ag a barodd iddo newid ei feddwl. Bwriedir cynal cyngerdd cydgenedl- aethol yn Florence, yn mis Mai nesaf, er coffadwriaeth am Cristafori, dyfeisydd y berdoneg, yn yr hwn y disgwylir Abbe Liszi i gymeryd rhan. Yr organ fwyaf yn yr holl fyd, medd- ir, sydd yn yr Albert Hall, Llundain, yr hon a adeiladwyd gan Henry Willis, yn 1870, ac a gynwysa 138 stops, pedwar manuals, ac yn agos i 10,000 o bibellau wedi eu gwneyd oil o fetel. Chwythir yr organ drwy nerth ager. COAL RAIN, GER BEAVER MEADOW, PA. -Bu Cor yr Aelwyd, sef E. T. Davies a'i ddwy ferch, o Mineral Ridge, 0., gyda ni ar y laf o Tachwedd, yn cynal cyngerdd, o dan lywyddiaeth Thomas Pugh. Ofer fyddai i mi geisio dyrchafu y cwmni hwn, gan eu bod mor adnabyddus eisoes fel can- torion llwyddianus. Gallwn i feddwl fod yn anmhosibl i'r un galon Gymreig beidio cael ei deffro wrth eu clywed yn canu "Hen Gymru fach i mi." Pe buasai gan ein cadeirydd ond dwy aden, buasai yn debyg o fod yno cyn hyn. A phwy a all beidio teimlo pan mae Lizzie fach yn canu "Little Jennie is gone to sleep." Priodol yw dywedyd fod Mr. Davies a'i ddwy ferch yn haeddu clod, a chredwn fod pawb sydd wedi eu clywed wedi cael y boddhad mwyaf, ac wedi cael gwerth eu harian. Dymunem bob llwydd iddynt, a nodded y Nefoedd a gaffont ar dir. Gobeithiwn y cant roesawiad mawr yn Nghymru, ac y bydd iddynt hwythau roddi yr un bodd- had yno ag y maent yn ei r ddi yn y wlad hon. Hefyd canodd James Cols a'i wraig eu hoS ddernyn yn y cyngerdd. Gan fod hwnw yn hen erbyn hyn, eithaf priodol fydd iddynt ddysgu rhyw beth newydd erbyn y tro nesaf.-Ap Evan. I
,' COAL VALLEY, ILL.
COAL VALLEY, ILL. Ni fu gair yn y DRYCH o'r lie hwn er's tro bellach, ond na feddylied neb ein bod oil wedi meirw yma. Gwyr liawer mae'n debyg mai dyma lie mae yr enwog Tafalaw yn byw a bod, gan arwain rhyw double life, fel ysgolfeistr a g-vieinidog; ond nid ydyw waeth o hyny, cyhyd ag y gall foddloni ei ddysgyblion. Yr ydym wedi bod yn synu na fyddai dyn o'i fedr ef yn ysgriblio gair weithiau i'r DRYCH, ond credwn ein bod yn deall ei secret. Y mae ei amser yn rhy ddrud i'w roi i ffwrdd am ddim; a thebyg y gwyr mai pur ychydig a holIech chwith- au dalu iddo am ei lafur mwy na'r Ileill o'r papyrau Cymreig. Dyna yn ddiau yw y secret. Ychydig amser yn ol, bu Giraldus y ffordd hon yn gwerthu ei lyfr, a phregethu. Yr wyf yn dweyd gwerthu ei lyfr yn gyntaf am y gall mai dyna ddyben penaf ei daith. Araf oedd masnach yma ar y pryd, ac nid oedd yn rhyfedd ei fod yn gwneyd gwep led guchiog. Ymwelwyd hefyd a?r ardal gan y pwysig Parch. Jonathan M. Jones, nis gwn yn iawn o ba le, ond gwelais lytk- yr oddiwrth lances ieuanc o Iowa, yn ei drin yn arw am ladrata ei darlun. Dichon y buasai yn maddeu yn haws iddo am ddwyn-cusan, na'i llun. Bydd well iddo pan ddelo yma nesaf, adael y lloi yn llon- ydd, onide dichon y teimla fod cyrn llym- lon gan rai o honynt, ac na i wy- bed fod yn rhy eofn ar eu gyddfau. Cafwyd Cymanfa ragorol yma gan yr Annibynwyr, pryd yr oedd yn bresenol y Parchedigion Hughes, Iowa; Evans, Bloss- burgh, Pa., ac Owens, Ridgeway, Wis. Ymwelwyd a ni y Sabboth diweddaf, Hyd. Slain, gan y Llenores enwog Mrs. Davies, o Wisconsin, (Rachel o Fon), a phregeth- odd yn fendigedig. Agorwyd tafarndy Cymreig yma tua pytbef nos yn ol, pryd y caf odd y cyfeillion ydynt yn hoff o'u llymaid, amser lied fywiog Siaradwyd yno rai pethau digonda i gael eu hail adrodd, a hyny o'r areithfa Gymreig y Sabboth canlynol; ond braidd mae eisiau dweyd mai y traddodiad cyntaf oedd y mwyaf effeithiol. Ychydig ddyddiau yn ol, ar achlysur o briodas cwpl ieuainc, bu yma dipyn o ffrwgwd tra anymunol. Tra yr oedd y bechgyn yma yn ol yr hen arfer- iad dwl sydd ganddynt arhyd y wlad yn serenedio y par ieuanc, aeth yn gweryl, ac ymladd rhwngy priodfab ac un o'r boys, a therfynodd o flaen yr Yswain. Synwyd ni y dydd o'r blaen gan ymddangosiad disym- wth Eryr yn ein plith, sef (Eryr Pen Pych) ac yn wir aderyn glew ydyw hefyd. Llwydd iddo yn Coal Valley. BACH. I
PAGANIAETH BBYNIAU CASSIA.
PAGANIAETH BBYNIAU CASSIA. Y Parch. Griffith Hughes, cenhadwr o Cassia, a rydd y desgrifiad canlynol o'r Cassiaid a'u harferion: Yr oedd yr olwg gyntaf o'r Cassiaid yn repulsive mewn ystyr gorfforol a meddyliol-yn eu dyn oddi- allan, yn eu harferion, yn eu dillad, a phob peth. Nid oedd ganddynt un awydd am ddarllen, nac i geisio unrhyw wybod- aeth. Credent fod y dyn gwyn wedi ei greu i fod yn arglwydd ac i lywodraethu, ac ni choelient fod'y dyn gwyn yma yn gweithio yn galetach ac am amser mwy.- Credent fod y dyn gwyn wedi ei greu i lywodraethu, fel y mae y Bengaliaid i fod yn glercod, a'r Cassiaid i gario y baich yn ei fasged gyda strap am ei dalcen. Y mae tai y brodorion yn cynwys dim ond un ys- tafell heb simnai ac heb ffenestr; ar un, ochr i hon bydd clwyd yr ieir, a'r ochr arall y gwartheg. Odditan y ty bydd v ewt mochyn—adeiladant eu tai ar bohon, a thrwy agen yn y Ilawr gollyngant eu bwyd i'r moch. Ni olchant eu dillad, ond byw- iant a chysgant ynddynt nes y byddant yn syrthio ymaith yn ddarnau oddiam danynt. Nid oes ganddynt na chadeiriau, ystolion, na llestri. Ysmociant oil o'r un bibell, a llyngcant y mwg. Y mae meddwdod yn beth cyffredin yn eu mysg, ac yr oedd y pechod hwn yn ffynu yn eu plith cyn mynediad Ewropeaid i'w mysg. Byddant yn meddwi ar bob achlysuron neillduol, fel genedigaethau, claddedigaethau. achyff- elyb; ond nid oedd ein heglwysi ni wedi cael achos i ddisgyblu yno, o herwydd yr arferiad hwn, a'r unig ffordd i gael ym- wared o'r pechod yno fel yma. Y mae eu tybiau am bwysigrwydd yr ystad briodasol yn isel iawn, a pheth cyffredin oedd ys- gariad; nid oes rhagor o seremoni yn ang- enrheidiol nag i'r gwr daflu pum' cragen at eu gilydd na fydd wedi gwneyd ei hun yn hen lane yn y fan. Yr oedd crefydd yn gwellhau y bobl yn gymdeithasol,, yn gystal ac yn foesol; yr oedd tai y Cristion- ogion brodorol yn cynwys tair neu bedair o ystafelloedd. Yr oedd yn sefydlu un- wreigiaeth. Math o demonology yw crefydd y trigolion; ac ni chymerant feddyginiaeth rhag ofn digio yr ellyllon. Mae gan y Trefn- yddion Calfinaidd yno ugain o eglwysi wedi eu sefydlu.
IAT BWYLLGOR REMSEN.
AT BWYLLGOR REMSEN. FONEDDIGION: Byddai yn foddhaol i mi ac amryw eraill sydd yn teimlo dyddordeb yn ein cyfarfodydd Ilenyddol, pe byddech yn ol eich addewid yn cyhoeddi y penill- ion buddugol ar ol y diweddar William Richards, Remsen. Gwyddom i'r cyfan- soddiad gael canmoliaeth uchel gan y beirn- iad, sef Eos Glan Twrch. Yn awr, pa le y mae y penillion yn llechu? Ai tybed eu bod dan ofal lor? R. A.
AT Y PARCH. H. GWERFYL JAMES.
AT Y PARCH. H. GWERFYL JAMES. MBI. GOL.: Yr wyf 11 wedi clywed lawer I gwaith fod Gwerfyl yn dra hoff o faguieir, a'i fod yn deall eu naturiaeth bron i ber- ffeithrwydd; hefyd y gall ef ddweyd yn ddibetrus pa ryw fydd yn yr wy cyn ei ddeor. Yn awr, gan fod hyn o bwysig- rwydd neillduol i fagwyr dofednod, carwn i fel un gael ychydig o hyfforddiadau yn y gelfyddyd gan Mr. James. Yn sicr, bydd- ai yn fanteisiol iawn i lawer gael gwybod am reol i ddethol wyau, i'w dodi o dan yr ieir, fel ag i sicrhau cywenod yn lie ceiliog- od; a byddai erthygl fer yn Adran Am- aethyddiaeth," yn ddyddorol i bawb. Remsen, N. Y. HEN GEILIOG.
RHYBDID CREFYDDOL.
RHYBDID CREFYDDOL. Ymddangosodd ysgrif yn y DRYCH dro yn ol gan y Parch. W. R. Jones, yn ym- drin a rhyddid gwahanol enwadau cref- yddol, ac ti hawlfraint enwogion i amddi- ffyn eu hopiniynau. Yr ydwyf inau yn teimlo awydd i draethu ychydig ar y rhyddid crefyddol a ddylai fodoli rhwng aelodau o'r un eglwys a'u gilydd. Un o nodweddion amlycaf Cristionogaeth, yn mha wedd bynag yr edrychwn arni, yw haelfrydedd. Eglurir hyn trwy dystiol- aethau athronwyr, duwinyddion a Christ- ionogion hen a diweddar yn ogystal a thrwy ymwybyddiaeth bersonol eu gallu- oedd eneidiol. Ond y mae personau i'w cael yn ein heglwysi, y rhai, er yn proffesu pleidio yr egwyddor hon, ydynt mewn effaith yn ei gwrthwynebu, er meddianu iddynt eu hunain hawl-freintiau y cysegr. Nid digon ganddynt i'w meddianuy prif seddau ac urddau, heb gael marchogaeth ar deimladau y lluaws. Nid oes un arwydd fod gair y bywyd erioed wedi dylanwadu ar galonau y personau hyn. Dylai fod gan aelodau eglwysig ddigon i'w wneyd heb fyned i gweryla a chyfyngu ar hawliau eu gilydd. Er cymaint a ddyoddefodd yr eglwys mewn gwahanol oesau, trwy erledigaethau chwerwon gan elynion oddiallan, y mae lie i ofni mai oddimewn y mae ei gelynion chwerwaf a mwyaf peryglus. Tueddai yr erledigaethau gynt i buro yr eglwys a chy- nyrchu undeb a chyd-weithrediad yn ei haelodau; ond tuedd uniongyrchol yr ym- raniadau a'r ymbleidiau a ganfyddir yn bresenol yw ei dinystrio. Dylid meithrin mwy o wroldeb moesol yn ein heglwysi i sefyll yn erbyn yr ysbryd gormesol hwn. Y dynion mwyaf anwybodus yn fynych a ddangosant yr ysbryd cul a gormesol hwn. Pe myfyrient fwy ar weithredoedd Duw mewn natur a rhagluniaeth, effeithid cyf- newidiad buan ynddynt. Y mae safon gwybodaeth yn ein heg- lwysi yn rhy isel; y mae hyn yn wir am bregethwyr, diaconiaid ac athrawon ein heglwysi. Nid digon eu bod yn meddu ar ryw ychydig o wybodaeth Feiblaidd, ond dylai fod ganddynt wybodaeth gyffredinol yn y celfau a'r gwyddorau. Gwybodaeth yw gelyn penaf trais a gormes. Gwawried yr adeg pan y bydd rhyddid crefyddol yn teyrnasu yn ein heglwysi yn gyffredinol. Byddai hyny mor ddymunol i'w ganfod ag oedd y waredigaeth o'r Aifft i'r Israeli iaid gynt, neu y datganiad rhyddid gan Abraham Lincoln i gaethion America. Toungstown, 0. T. W. WILLIAMS.
SHAMOKIN, PA.
SHAMOKIN, PA. Mae y lie hwn yn cael ei freintio a mas- nach lied lwyddianus, er dichon y gallai fod yn fwy bywiog. Hyd yn hyn nid yw clefyd y Mollies wedi anmharu yr heddwcll yma; ond wrth gwrs mae pawb yn weddol effro, rhag iddynt gael eu cymeryd pan yn anmharod. Y mae agwedd grefyddol y lie hwn, er dichon y gallai fod yn well, mor lewyrclius ag y bu er's blynyddoedd. Mae Shamokin wedi bod yn ddoeth mewn un peth, sef eu penderfyniad i uno y tair eg- lwys Gymreig, y rhai nad oeddynt yn fwy na haner llawn, a'u gilydd. Pe cymerai lluaws o sefydliadau Cymreig y wlad esiampl Shamokin, byddai golwg mwy llewyrchus ar grefydd a chrefyddwyr; ond yn lie hyny, os bydd dau neu dri dwsin wedi dyfod at eu gilydd, ac yn cael eu gwneyd i fyny o rai yn perthyn i wahanol enwadau, bydd raid i'r Annibynwyr gael capel, y Methodistiaid gapel, a'r Bedydd- wyr gapel, a thrwy hyny beicbir y gymyd- ogaeth a thraul ddirfawr o herwydd mym- pwy enwadol. Mae yn bryd i bethau o'r cymeriad hwn gael eu claddu o'r golwg. Yr ydym yn cael ein breintio yn lied dda yma gan bresenoldeb gweinidogion—Mri. Davies, Taylorville; Todd Jones, gynt o Mahanoy; a Jones (B), Shenandoah. Mae y boneddwr diweddaf wedi rhoddi rhai Sabbothau i ni, a phob tro yn jjieillduol o ddylanwadol ac effeithiol. Yn unol a'n cais, daeth yma i bregethu Hyd. 31ain, ac i draddodi ei ddarlith ar yr Ail ddull o bregethu" y noson ganlynol. Ymgynull- odd cynulleidfa dda i'w wrando, yr hyn a lefarai yn uchel am Mr. J. fel pregethwr. Nid yw hon yn ddarlith gyffredin, ond yn ddarlith dda; mae ynddi amcanion da, ac mae y traddodiad yn dda. Nid yn ami y gwelwyd hyn yn cael ei gadarnhau gan wrandawiad mor astud, a chasgliad da ar y diwedd. Buom yn hir ddyfalu pa beth oedd yn feddwl wrth yr ail ddull o breg- ethu, a dyfalu y buom hyd nes y cawsom esboniad ganddo ef. Hyderwyf y ca liaw- er glywed y ddarlith hon eto. Dymunaf gydnabod braint eglwys Fedyddiedig Shen- andoah o gael gweinidog o gymeriad da, ac yn bregethwr da, yr hyn yw Mr. Jones. NID HWNTW.
[No title]
Y safe oreu rhag tan ydyw cell, yn y lawr, wedi ei gweithio oddifewn a phridd- i feilni a cement.
[ LLOFFION 0 BELL AC AGOS.
LLOFFION 0 BELL AC AGOS. Mae magwr anifeiliaid yn agos i Aus- tin, Texas, yn codi camelod gyda llwydd- iant mawr. Gwerthodd bump o rai ieu- ainc ychydig yn ol am $4 50 yr un. Bwr- iada hefyd roddi prawf yn fuan ar godi cawrfilod (elephants) ac estrysod. .Codwyd pumpkin yn Ffrainc yr haf diweddaf oedd yn pwyso o fewn ychydig i 400 pwys. Hon oedd y fwyaf a dyfwyd erioed yn y wlad. Ymddengys yn ol adroddiad meith- rinwyr gwenyn yn California, fod yn y Dalaeth hono yn awr 1,000,000 000 o'r cre- aduriaid diwyd hyny yn casglu mel i'r cychod. .Rhoddir ar ddeall fod cnwd gwair Prydain yr haf diweddaf yn werth $260, 000, 000. .Mae Dr. Glenn, ffarmwr mawr yn California, newydd werthu yr holl gnwd gwenith eleni oddiar ei ffarm am y swm hardd o haner miliwn o ddoleri ($500,000). .Gwerthwyd yn ddiweddar yn Ken- tucky 800 o anifeiliaid cyrn byrion am $464.86 y pen, ar gyfartaledd. Mae yn tyfu yn awr yn y wlad 2,700 o wahanol rywogaethau o afalau, a adna- byddir wrth 1,800 o wahanol enwau; 2,200 o rywogaethau o ellyg; 200 o cherries; 150 o eirin; 300 o rawnwin; 50 o currants; 80 o raspberries a 30 o blackberries. .1 ddiogelu coed ffrwythau rhag cyn- rhon a phryfed, gwyn galcher gyda quick- lime a lludw coed. Cymerer bloneg 3 rhan, tar 1 rhan, ac wedi eu poethi rhodder ar fonau coed ffrwythau, a bydd i lygod a thyrchod daiar gadw draw. Os hauir calch newydd ei slacio dros faes o faip, cedwir pob pryfed ymaith. .Mae 270 o droedfeddi cyfochrog o wair oddiar y cau vn pwyso tunell; o 216 i 233 o droedfeddi cyfochrog o'r das, ac mae o 297 i 324 o droedfeddi cyfochrog o wair clover sych yn pwyso tunell. I gael allan a fydd pren hir yn ddi- lwgr ar ei hyd, rhodder y glust wrth un talcen tra y bydd person arall yn taro ar y pen arall; ac os bydd y swn yn glir ac am- lwg, ceir fod y pren yn galed drwyddo. .Defnyddiwyd 18,000,000 pwys o got- wm yn Georgia y llynedd i wneyd calico; 7,000,000 yn South Carolina, a 6,000,000 pwys yn Alabama, Tennessee a North Car- olina. Dywedir na bu cynifer o arwerth- iadau (auctionz) yn un man er dyddiau Noah, ag sydd yn cymeryd lie yn Nolgellau, Glanaber, Trawsfynydd, Maentwrog, Ffes- tiniog, Talysarnau. Lleyn ac Efionydd, a Ilawer o fanau eraill yn y Gogledd hyd yn Ynys Mon, y dyddiau hyn. CALIFORNIA A'R TIRIOGAETHATT.—An- fonir 100 o dunelli o wenith o Walla Walla, Wash. Terr., yn ddyddiol. Y pris a geir am dano yw o 45 cents i 50 cents y bwsiel. —Yr oedd y cnwd wynwyn yn swydd Colfax, New Mexico, eleni yn iethiant, o herwydd y grasshoppers. —Cyfrifir fod gwerth dros$1,000,000 o wenith yn aros yn swydd Yols, California. —Gwnaeth Mr. Frank Orselli, o Walla Walla, 300 o alwyni o win o 6,000 o bwysi o winrawn. —Cododd un Adams, o San Francisco, oddiar un erw o dir, ar ei ffarm yn Santa Rosa, 327 o sacheidiau o bytatws. Wrth eu gwerthu am li cents y pwys, gwnaethai brofflt o $387 yr erw. —Gwerthir gwartheg biff yn Windsor, swydd Sonora, Calif., am 6ic y pwys net; moch, 5t i 6c, gross, 8 cents net; wyau, 45 cents; peillied $7 y faril; ymenyn, 40 cents y pwys. L&w GAP, Mo., Tach. 1.—Er pan anfon- ais .pjhydig eiriau i'r DRYCH, y mae lluaws weofanfon ataf, gan ymholi am y sefydl- iad. Yr oedd fy llythyr yn y DRYCH yn cynwys atebion i lawer o'r gofyniadau, ac nid rhaid i neb fod jnewn meddwl dau- ddyblyg o barthed dyfod i Low Gap; nid oes yr un amheuaeth nad ydyw yn un o'r manau goreu a fedd y Gorllewin i ymsef- ydlu ynddo. Y mae y ddaear o'r fath oreu, yn gorwedd fel y gall y prynwr gael ffarm fel y myno, mor fuan ag yn un man o'r wlad, yn ol y manteision. Daear wyllt o $2 50 i $11 50, gyda choed a dwfr; tir wedi ei ddiwyllio, o $9 i $15, nad oes ei well. Fy nghydgenedl anwyl, y mae arnaf ysfa trwy fy holl gyfansoddiad (wrth weled y Saeson yn dyfod o'r dwyrain a'r gogledd, ac am feddianu yr holl wlad), am wneyd yn hysbys i bawb sydd ar fwriad i ymfudo i'r gorllewin, fod yma yn bresenol fferm- ydd ardderchog yn cael eu cynyg yn rhad. Dewch, Gymry, daliwch ar yr adeg, y mae amryw wedi dyfod er's blwyddyn yn ol— neb yn troi ei gefn ar y wlad. Yr oedd yma er's ychydig yn ol, weinidog yn talu ymweliad a ni, a darluniodd y Low Gap yn ei pbrydferthwch a'i hymagoriad eang o flaen y teithiwr, fel y bydd y Ganaan Nefol o flaen y Cristion. Nid wyf am orgymell neb, na threio hudo neb i adael eu cartref- leoedd er mwyn symud i un man, ondy rhai sydd yn bwriadu gwneyd hyny. Na feddylied neb ei fod yn elw i mi o sent mewn can' mlynedd. Fy amcan penaf a'm cwbl i, ydyw cael digon o Gymry i fod yn gymdeithas gref, fel y gallwn gynal gwemidog da heb ei deimlo yn faich, a'i gynal yn anrhydeddus-teilwng o was yr Arglwydd. Eto, cyn terfyru-y mae yn fanteisiol iawn yma i'r amaethwr. gan nad yw yr haf yn rhy gynes, na'r gauaf yn rhy oer. Y mae yr hydref yn hir a chynes, fel y gall pawb gael digon o amser i gwblhau eu gwaith, fel na fydd dim yn aros heb ei wneyd. Aredrir y cwbl yn y fall, fel na raid haner ladd yr anifeiliaid wrth eu gyru yn y gwanwyn. Y mae y tywydd yma eto yn ddymunol, a'r nadroedd mor fyw ag erioed. Bu yr haf eleni yn hynod o ffrwythlawn. o bob peth ond y gwenith. Ni ehawsom ond haner cnwd o wenith; y mae y corn trwy y wlad o amgylch yma yn synu pawb, ac yn rhoddi calondid a bywiog- rwydd trwy y wlad. Rhoddaf ychydig o hanes moesoldeb y Low Gap, a'i rhagolyg- on hi yn y dyfodol.-Brychanog.