Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Y MARCHNADOEDD.
Y MARCHNADOEDD. NEW YORK, TACHWEDD 8. Aur a Bonds.—Daatti yr aur yn is yn ystod yr wythnos ddiweddaf, a'r pris cauolig oedd 115. Pris punt o arian Prydain oedd $5 58. Gwerthai Bonds y Llywodraeth yn rhwydd am y prisiau blaenorol. Peillied a Blawd.—Yr oedd y farchnad yn far- waidd, a'r gwahanol fathau yn gwerthu am o $4 50 i 8 25 y faril. Ydau.—GWENITH—Goatyngodd y gwenith o 1 i 2c y bwsiel. Gwerthwld 158,000 o fwsieli o wenith gwanwyn am $109 a 110; No. 3 Chicago 10117 a 118; No.3 Milwaukee $124 a 1 27; No. 2 Chicago $1 27 a 1 29; No. 2 Milwaukee $1 32 a 1 34; No. 1, $1 37 a 140; heb ei raddio$1 25; coch gauaf $1 24 a 1 44; amber $1 25 a 1 45; gwyn gorllewinol$1 45 a 1 48 y bwsiel. RHYG-Yn sefydlog am 75 a 83c y bwsiel. HAlDD- Yn fywiog am 93c a $125 y bwsiel. CORN- Gwerthwyd 136,000 o fwsieli am 72 a 76c; melyn cym- ysgedig 72 a 74c; gwyn cyffredin 72c y bwsiel.— CEIRCH—Yr oedd y farchnad yn farwaidd a'r prisiau yn tueddui ostwng; cymysgedig 38 a 46c; gwyn gor- llewinol 46 a 52c y bwsiel. Ymenyn.—Yr oedd y farchnad yn wan a'r pris- iau yn is nag arferol, ac yn gwalianiaethu o 24 i 31c y pwys. Caws.-p..rha y farchnad yn ddwl a'r cyflenwad yn ateb y galwadau. Factory 8 a.llc, am y cyffredin a da; goreu 11 a 13c; dairy y Dalaeth 9 a 12%c; gor- llewinol 6 a 9>$c; goreu 10)9 a ltf&c y pwys. Hopys.—Mae y farchnad yn lied ansefydlogo her- wydd nad oes sicrwydd am swm y cnwd yn Evrrop. Hopys 1875, 10 a 17c; 1874, 7 a lie: California 17 a 20c; hen 4 a 6c y pwys. Wyau.- Yn fywiog am 29 a 31c y dwsin. Gwair.-I'w allforio, yn fywiog am 70c y cant. Glo.-Mae y farchnad yn fywiog a'r pris o $5 25 i 6 50 y dunell, cyfanwerth. Gwlan.—Cnu cartrefol 43 a 65c; tubbed 52 a 56c; pulled 27 a 46c; heb ei olchi 17 a 32c; Texas 15 a 33c y pwys.
Adroddiad D. W. Lewis, Tachwedd…
Adroddiad D. W. Lewis, Tachwedd '6.
[No title]
YMENYN-Derbyniadall am yr wythnos 26,527 o packages. Anfonwyd i Liverpool 1,796 o packages. Yr oedd y farchnad yn ddwl a'r prisiau yn myued i lawr. Ymenyn fancy swydd Orange 35 a 36c; twb- iau a pheliau da 22 a 35c; ymenyn diwedd y flwydd- vn da 28c; ffres gorllewinol30 a 34c dairy packed 25 a 30c; farm dairy 24 a 28c; gorllewinol, mill butter, 20 a 24c y pwys. CAWS—Derbyniadau am yr wythnos, 40,434 boxes: anfonwyd i Loet^r 15,556. Gwnaed ymdrech egniol ddechreu yr wythnos i godi y pris, ond methwyd a myned yn uwch na 14c. Ffactori y Dalaeth 13 a 13ge; caws mis Medi 139 a 14c; skimmed mewn rhan 10 a 12c: wedi ei wneyd yn Awst, 12Ya a 13c; 1_ skimmed 4 a 6c y pwys. Uttca,, Tach. 8.—PisiLidED yn gadirn. Gwanwyn Mo. 1 $70011. 7 25; coch gauaf #7 25 a 775; gwyn gauaf S7 50 a 8 50; pastri $7 75 a 9 00 y faril. i-Gorllewinol 72 a 75c; y Dalaeth $1 00 y 'on- bwsiel. ULAwD-Blawd corn teg $31 00; corn a cheirch $32 y uanell. Blawd rhyg$6 00 y faril. Blawd ceirch g7 50 y faril; Ysgotaidd $9; Gwyddelig $14 a $17. biiorts$22 i $25; middlings $35 00 y dunell. l; EIRCH- Y n is, 45 a 50c y bwsiel am geirch newydd. B>A—$1 50 a 2 50 y bwsiel. YMENYN—Ffres 29 a 31c; goreu 30 a 33c y pwys. CAws-Yn uwch, newydd 11 a 13c; hen 11 a 14c y pwvs. WYAu-26 a 27c; mewn calch 25c y dwsin. GWAIR—$12 00 y dunell am timothy da; yn fwrneli $14 y dunell. CIGOEDD-Cig moch mess $23 i $25 y faril. Hams plaen 14c; mewn llian 14#c y pwys. Moch wedi eu lladd, 10c y pwys. LARD—Yn gwerthu am 14# a 14%c y pwys. HALEN—CyJSredin$1 30 i 1 40 y faril; anthracite $1 75 i 1 85. GWLAN-Cnll teg 35 a 37c; mediums 38 i 43; wedi ei vr, b o 44 i 48c y pwys. LI.Tr A R—Pytatws, 30 a 35c y bwsiel. Wynwyn 75c y bwsiel. Pytatws melusion$3 50 a 4 00 y faril.
Advertising
Lluosog Ydynt yr Engreifftiau Sydd i'w cael o'r budd a ddeillia i ganoedd o deulu- oedd yn flynyddol, trwy brynu LIFE INSURANCE POLICIES, ac y mae yr ugeiniau o hawliau ydynt wedi cael eu talu gan y CHARTER OAK LIFE INSURANCE CO., Er Ionawr 1, 1869, yn swyddfa y Goruchwyliwr yn Utica, yn brawf eglur o bollogrwydd yr hen gwmni diogel hwn. 0 fewn saith mlynedd talwyd mewn matured endowments, ac mewn canlyniad i farwol- aethau, y Taiwyd Tach. 1, 1875. 1,000 Cyfanswm £ 108,700 Mwy na baner y rhai a dalwyd yn ninas Utica. Yr ydym yn chwanegu y tystlythyr canlynol a roddwyd i ni yn llawen gan y budd-dderbynydd: UTICA, Tachwedd 1, 1875. Mr. Rees G. Williams, Goruchwyliwr Cyffredinol y Charter Oak Life Ins., Co.: Anwyl Syr-Y mae y taliad prydlawn o $1,000 a wnaed yn eich swyddfa gan y Charter Oak Life In. surance Company, ar yswireb a gymerwyd gan fy ni- weddar briod, David T. Ellis, a gwastatad boddhaol yr hawl, yn haeddu y cydnabyddiaeth hwn. Yr wyf yn cymeradwyo Bywyd Yswiriaeth fel parotoad eff- eithiol ar gyfer y dyfodol, a'r CHARTER OAK fel yn deilwng o noddaeth y cyhoedd. Yr eiddoch, MARY E. ELLIS. Prif nodweddion yr OAK ydynt taliad prydlawn o hawliau, dim cyfreithio, ac yswirio am y prisiau lselaf. Gwnewch ymchwiliad i'r DEPOSIT INSURANCE, Y cynllun mwyaf poblogaidd mewn arferiad. REES G. WILLIAMS, Goruchwyliwr Cyffredinol Canolbarth New York, 46-2t 131 Genesee tit., Utica. L. B. WILLIAMS, G WA WL-ARL TJNYDD, UWCHBEN 77 & 79 GENESEE ST., UTICA, N. Y. Cymerir pob math o arlnniau, yn y dull goreu sydd yn bosibl. 8.75tf Y CANEXJON— "DEDWYDDWCH Y NEF," A "LLrw GWYN RHOSYN YR HAF," AC "ARLUN HARDD 0 BREN Y BYWYD." I'w cael ar dderbyniad 25 cents, gan W. E. WILLIAMS, 39tf Kingston, Wis. LLINELL Y WIIITE STAR. Agerhngau yn cario Llythyrgodau y T. U. 0 NEW YORK BOB DYDD SADWRN. 0 LIVERPOOL BOB DYDD IAU. Pris yn y Caban o $70 i $100, mewn aur. SteeraGe $30, mewn arian papyr. AGENTS YN UTICA-GAIN L. FAT, 1 Bagg's Hotel. a P. J. MCQUADE, Steam Woolen Mills. 18'ly YSWIRIANT BYWYDAU AC EIDDO. DEWISWCH Y CWMNIATJ GOREU. 8EP Y LONDON ASSURANCE COPOBATION$15,000,000 SECURITY, New Haven 330,000 CITY, Providence. 200,000 NATIONAL, New York 400,000 HOME. New Jersey 250,000 EQUITABLE LIFE INS. CO., New York. 30,000,000 C. K. GRANNIS, Goruchwyliwr, 138 Genesee St., Devereux Block, Utica, N. Y. Yn yr hwn y gellir rhoddi pob ymddiried. 4'75
[No title]
O Baner ac Amserau Cymru, Yr Herald Cymraeg, Y Goleuad, Y Dywysogaeth, Y Tyst a'r Dydd, Seren Cymru, Y Gwladgarwr, Y Fellten, Y Dydd, Caer- narfon & Denbigh Herald a'r North Wales Chron- icle, y rhai dderbynir yn wythnosol; ac eraill a dderbynir yn achlysurol, fI FYNY I HYDREF 29, 1875.1
DEHEUDIR CYMRU.
DEHEUDIR CYMRU. —Y mae James Lloyd, yn 34th row Sir- howy wedi ei draddodi i sefyll ei brawf am roddi ei dy ar dan, a pheryglu bywyd ei blentyn. —Yr oedd y gystadlcuaeth mewn saethu yn cymeryd lie ddydd Iau, Hydref 7ed, gan Wirfoddolwyr Merthyr Tydfil. Y private Powell a enillodd y gwpan gyntaf, a'r private Berry yr ail. —Cafwyd dyn o'r enw John Francis yn farw yn llofft wair Elias Francis, Waen uchaf, ger Abergafenni, wedi bod yno am tmHl wythnos, ac wedi dechreu dadgyfan- soddi. -Deallwn fod Mr. Thomas, mab J. D. Thomas, Richmond House; a Mr. John Evans, mab John Evans, Cwm Meudwy Farm, Llandyssul Ceredigion, wedi bod yn llwyddianus yn yr arholiad diweddaf am scholarships ac exhibitions yn Mhrifysgol Cymru, yn Aberystwyth. Cymerodd y blaenaf ysgoloriaeth Commercial Travellers o 20p., i'w dal am dair blynedd, a'r olaf Exhibition o 10p., eto am dair blynedd. Bu- asai y ddau am flynyddau yn Ysgol Ram- adegol, Llandyssul, dan ofal y Parch. Wm. Thomas, M. A. EISTEDDFOD MERTHYR. — Cynaliwyd Eisteddfod yn Drill Hall, er talu dyled Y Ffenestr, cyhoeddiad misol bychan perth- ynol i'r B. Enillodd Cor Ynysgan 15p., am ganu y Y Gwanwyn." Y gystadleu- aeth fawr oedd am ganu "Teilwng yw'r Oen,gwobr 25p, a metronome gwerth tair punt i'r arweinydd. Y corau a gystadleu- asant am y wobr hon oeddynt Cor Undebol Hirwain, dan arweiniad Gwilym Cynon: Cor Undebol Dowlais. dan arweiniad Eos Myrddin; Cor Undebol Aberaman, dan arweiniad Gwynalaw; Cor Undebol Merth- yr, dan arweiniad Lewis Morgan; a Chor Undebol Aberhonddu, dan arweiniad Mr. Silas Evans. Dyfarnwyd y wobr, gyda chymeradwyaeth uchel, i gor Hirwain. Yr ail oreu oedd Merthyr; yna Dowlais, Aber- aman, ac Aberhonddu.
GOGLEDD CYMRU.I
GOGLEDD CYMRU. -Enillodd William Roberts, mab David Roberts, saer melinau, Dolgellau, Ysgolor- iaeth Powys, yr hon a'i galluoga i fyned i Rhydychain, neu Caergrawnt, i orphen ei addysgiaeth. —Mae amryw o gyfeillion John Dafydd Morgan, LlanuwchlJyn wedi penderfynu gwneyd tysteb iddo fel arwydd o'u diolch- garwch iddo am ei wasanaeth fel meddyg dynion ac anifeiliaid trwy yspaid ei oes hirfaith. —Dewiswyd y rhai canlynol yn feddyg- on chwarelau Ffestiniog—Dr. Griffiths, Porthmadoc; Dr. Thomas, Ffestiniog, a Dr. Evans, gynt o'r Wyddgrug. —Y Parch. W. H. Mills, o ysgol yr eg- hvys Gadeiriol, Henffordd, sydd wedi ei benodi yn brif feistr Ysgol Ramadegol, Rhuthyn. —Trwyddedwyd y Parch. D. Thomas, i guradiaeth Capel Curig, Arfoa. CAERNARVON. —Damwain. —Digwyddodd damwain ddychrynllyd i ddyn ieuanc o'r enw William Hughes, mab Mr. Owen Hughes, morwr, 8, St. Helen's street, Caernarfon, yn Llanael-haiarn. Yr oedd wedi myned yno gyda'r agerlong King Ja Ja, ac aeth ar yr incline lie y rhed y gwag- eni ar hyd-ddo. Gan nad oedd yn clywed yn berlfaith iawn, symudodd oddiar ffordd y gwageni ag oedd yn dyfod i fyny, pryd y taflwyd ef o dan y rhai oedd yn dyfod i lawr. Torwyd ymaith ei drwyn yn llwyr, ac anafwyd ei ben a'i ochr yn ofnadwy, a drylliwyd ei wisg yn ysgyrion. FFESTINIOG.- Yr oedd ugain o bersonau yn cychwyn oddiyma i Patagonia, Hydref 18fed; yn mysg eraill-D. Roberts, Trefei- ni, a'i deulu, a'i fab-yn nghyfraith; W. R. Jones, arweinydd y seindorf, ac arolygydd y llechau yn nghloddfa y Rhiw; Robert Williams, Tandduallt, &c. ABERLTiYFENi -Damwatn alaetlms.—Cyf- arfu dau ddyn (tad a mab) a datnwain ang- euol yn Chwarel Aberllyfeni, Hydref 15fed. Yr oeddynt eill dau yn gweithio gyda'u gilydd ar ymyl sink neu shaft, pryd yn sydyn y rhoddodd y graig o dan eu traed ffordd, ac i lawr 'a hwynt i ddyfnder o 30 o latheni. Bu y tad fyw am ychydig. Ond ymddengys i'r mab farw yn y fan bron. Enw y tad ydoedd W. Davies, Cambergi. Gadawodd ar ei ol wraig a phump o blant, un o ba rai sydd yn briod. Enw y mab oedd John Davies, ac yr oedd yntau yn briod er's ychydig flsoedd, ac yn byw yn zD Beaumaris. PRIODAS ANRHYDEDDUS.—Y dydd o'r blaen priodwyd yr Anrhyd. G. S. Douglas, M. P. (yr aelod dros sir Gaernarfon), a Miss Gertrude Glynne, nith y cyn-Brif Weinidog, yn eglwys y plwyf, Penarlag, pryd yr oedd llawenydd mawr, a dangos- wyd teimladau cynes y trigolion. PENYBRYN, N ANTLLE-Cyflwyniad Tysteb -Dangosodd gweithwyr chwarel Penybryn eu parch i Mr. Wm. Davies,yr hwn a fu yn brif oruchwyliwr ar y chwarel hono am o ddeutu un mlynedd ar ddeg, drwy gyflwyno tysteb werthfawr iddo, ar ei ymadawiad i ymgymeryd a phrif arolygiaeth chwarel Talysarn. Cynwysai y dysteb ddarlun (patnting) hardd o hono ei hun a Mrs. Da- vies, gwerth tua 21p., yn nghyd ag oriawr aur, gwerth 18p.; a chadwyn aur i Miss Davies, gwerth 6p. 6s., ac amryw bethau eraill. Ni chafwyd cyfarfod cyhoeddus yn nglyn a'r amgylchiad, ond gwnaed pob peth yn dawel a dirwysg, heb na gormes na thrais ar neb iroddi,ond o ewyllys rydd a chalon ddiragrith. Yn nghyfarfod y cyf- lwyniad, dan lywyddiaeth Mr. W. W. Jones, Llanllyfni, cafwyd anerchiadau gan y llywydd: Meistri R. Williams, Petrice; J. Jones, Benalitgoch; H. Williams, Peny- groes; W. Jones, Tyddyh-difyr; R. Jones, Penygroes; R" Jones, Tyddynisaf; Owen Owens, Creigiau mawr; J.Jones, Caegroes; H. Jones, Tyddyn-difyr, &c. Ar ol cyf- lwyno yr anrliegion gan W. W. Jones, dat- ganodd Mr. Davies ei serch a'i gariad at y gweithwyr a'i ddiolchgarwch gwresocaf i bob perchen pen a chalon a gyfranodd hat- lins tuag at y drysorfa. Cyn ymadael, caf- odd cynifer ag oedd wedi ymgynull eu gwala a'u gweddill o wledd swperawl rhag- IW orol, ac ymadawyd gan ddymuno rhwydd hynt gydag ewyllys dda i'r naill a'r llall.— Gohebydd. PRIFYSGOL CYMyu-Cyfiwynwyd y Schol- arships a'r Exhibitions canlynol Hydref 13, 1875, y rhai ydynt i barhau am dair blynedd. Yr oedd yno 37 o ymgeiswyr. Scholars. 1. Owens, Thomas, Aberystwyth, 40p., gan D. Davies, Ysw., M. P., Llandinam. 2. Griffiths, E. Jones, Sir Fon, 30p. gan Gyngor yr Athrofa. 3. Thomas, E. W., Bryneglwys, 25p.,gan EleazerPugh, Ysw., Lerpwl. 4. Griffiths, R. A., Caernarfon, 25p., gan Eleazer Pugh, Ysw., Lerpwl. 5. Thomas, Thomas, Llandyssul, 20p., gan Commercial Travellers Gogledd Cymru. 6. Roberts, T. F., Aberdovey, 20p., gan Commercial Travellers Deheudir Cymru. Exhibitioners. 1. Owen, D. S., New Quay I 2. Evans, J., Llandysul I 3. Jones, D. LI., Llandeilo lOp. yr un. 4. Jones, J. H., Merthyr 5. Davies, J. G. J Prizemen. 1. Daniel, H. R., Cardigan ~) 2. j Ellis, T. E., Bala V 5p. yr un. 3. ( Hobley, W., Carnarvon J Close Scholarships. 1. Rees, J. D. G., Irwell School Scholar- ship, 20p. 2. Pierce, P. M., Dinorwic Scholar- ship, 25p.
MARWOLAETEAU CYMRU.
MARWOLAETEAU CYMRU. Y SO&LEDD. Hydref 1, yn 61 oed, yn nhy capel y Bedyddwyr, Caernarfon, Richard Jones, yr hwn a fu yn ddiacon yn y capel uchod am 24 o tlynyddoedd, ac yn geid- wad y ty capel am yn agos i 30 mlynedd. Hydref 4, yn 61 oed, yn Ffynon-y-gorlas, Caergybi, Mary Hughes. Hydref 4, yn 64 oed, Miss Elizabeth Jones, Elus- endy, Rbuthyn. Hydref 5, yn 84 oed, Grace Roberts, Tlotty'r Un- deb, yn ddiweddar o Khos, Llanychan, ger Rhuthyn. Hydref 5, yn 50 oed, Mrs. Ann J ones, priod y di- weddar Robert Jones, Heol Leina, Roewen, ger Conwy. Hydref 6, yn 77 oed, Thomas Rowlands, Ty'nyglyn, Llangwm, ger Corwen. Hydref 6, yn 11 oed, Miss Catherine Williams, merch John Williams, torwr eeffylau, Mwrog St., Rhuthyn. Hydref 9, yn 61 oed, Thomas Roberts, Llan- ddyfnau. Hydref 10, yn 74 oed, William Pugh, garddwr, Ger- ant, Llangollen. Hydref 10, yn 17 oed, David Erans, 29 Egerton st., Lerpwl. Mab ydoedd i John Evans. ac wyr i David Evans, Coedmawr, Conwy. Hydref 12, yn 24 oed, yn nhy ei dad, Corn Hir, ger Caernarfon, William, ail fab i William a Catherine Evans, o'r lie uchod. Daeth yr ymadawedig drosodd i America yn nechreu y flwyddyn 1872, a bu yn prof- wylio am dair blynedd a haueryn Remsen, N. Y., lie yr oedd yn adnabyddus i gylch mawr o gyfeillion. Aeth drosodd i Gymru yn nechreu mis Gorphenaf diweddaf, yn wael iawn o ran ei iechyd, yn unol a chyngor meddygon; ond ni fa y cyfnewidiad o un lies iddo. Hydref 13, yn 20 oed, William, mab William Jones, Ty Coed, Cwmyglo. Hydref 14. yn 4 blwydd a 9 mis aed, Johnny, plen- tyn hynaf Capt. J. Cadwaladr, 2 Salem terrace, Cric- ciech. Hydref 16, yn 88 oed, Jane Hughes, Glan Rhos, Llanidan. Hydref 19. yn 62 oed, yn 1 Market st,, Caernarfon, JSller), priod Humphrey Edwards;, cysodydd, swydd- fa'r Herald. Y DEHEUDIR. Medi 29, yn 1& mis oed, John, plentyn John ac Anne Jones, Smith's Arms, Foelgastell. Medi 26" Mrs. Mary Davies, Ddol, plwyf Llanfair- orllwyn, swydd Aberteifi, yn 86 oed. Medi 27, trwy gwympo oddiar gadair i'r llawr, Mrs, Mary Harries, anwyl briod John Harries, Peny- darren. Hydref 6, yn 34 oed, Mrs. Mary Richards, gweddw y diweddar Capt. John Richards, o'r Traveler's Well, Pwll, Pembrey. Hydref 9, yn 60 oed, Rosser Walters, Cwmfelin- fach. Hydref 10, yn 41 opd, Anne, priod D. H. Evans, cofrestrydd, Aberystwyth. Hydref 15, yn 44 oed, John Llewelyn, 18 Pantscall- og, Dowlais. Hydref 15, yn 41 oed, Ann Rees, 3'John street, Merthyr. Hydref 16, yn 37 oed, David George, 12 Mount Pleasant st., Troedyrhiw. Hydref 19, yn 42 oed, William Williams, roll turn- er, 3 Overton st., Dowlais. Hydref 20, yn 13 oed, Emily Williams, 1 Double row, Penydarren, Merthyr. Hydref 22, yn 43 oed, Hugh Hughes, argraffydd a llyfrwerthydd, Aberhonddu. Hydref 26, yn 43 oed, Mrs. Charles, priod Mr. Charles, confeetioner, High st., Merthyr.
Advertising
COR Y PLANT jr FEB Mae'u hy i'ryd cyf ar fod yn iiirlvvcmwr v riant. Yr ail argraffiad, wedi ei ychwanegu a'i ddiwygio; sef Hymnau a Thonau gwreiddiol a detho edig, at wasanaeth yr Ysgolion Sabbothol a'r Band of gan y Pencerdd, W. AUBREY POWELL. PRIS 50 CENTS T COPI, XEU 85 25 Y DWSIN. Y mae yn cynwys 96 o dudalenau, wedi ei rwymo yn hardd. Anfonir specimen copy yn ddidraul trvry y post ar dderbyniad y pris. Address J. W. TAYLOR, 15 Vandewater St., New York. Nell at yr Awdwr, W. AUBREY POWELL, 42-50 Scranton, Pa. GRIFFITH & RA YIIILI., CYFREITHWYR A DADLEUWYR, (Attorneys and Counsellors at Law) RHIF. 178 GENESEE STREET, UTICA, N. Y. Mae Mr. Griffith yn talu sylw neillduol i gasglu dy- ledlon, &c.; a Mr. Rayhill yn cymeryd gofal achos ion troseddawl (criminai business). Swyddfa yn agored o 8 i 12 yn y boreu, ac o 1)2 i 6 yn y prydnawn. 44tf RHYBUDD.—Dymuna JOHN EMDIN, Tremmydd, -Lt a'r unig wneuthurwr DRYCHWYDRAU (Specta- cles) yn Utica, alw sylw ei gyfeillion a'r cyhoedd yn gyffredinol, ei fod yn gwarantu pob Spectol a werth- ir yn ei fasnachdy i roddi boddlonrwydd perffaith. Os na bydd yn ffitio y llygaid, gellir ei newid unrhyw nifer o weithiau. Adgyweirir nen wydrau yn ddest- lus a rhadlawn. Ei fasnachdy o hyn allan yn 9 BAGGS HOTEL, 22-ly Ar waelod Heol Genesee, Utica. iwIwOiwM L- C- MUNDY- (SEFYDLWYD 1865.) Dynia y Lie i gael y Lluniau Goreu yn Utica. Cymerir Copiau o Hen Arluniau yn' y dull goreu a phrydferthaf. Gwerthir pob math o Fframiau o'r gwneuthuriad goraf a harddaf. RHIF. 11 BROAD STREET. 2'75 Ar y Llawr Cyntaf. Scribner's Monthly for 1876. The publishers invite attention to the follow- ing list of some of the attractive articles secured for Scribner's Monthly, for the coming year. In the field of fiction, besides numerous novel- ettes and shorter stories, there will be TWO litisliKAULY SERIAL STORIES By AMERICAN AUTHORS. The first of these, now complete in our hands "GABRIEL CONROY," By BRET. HARTE, Begins in the November number, and will iun for twelve months. This is Mr. Harte's first extended work. The scenes and characters, which the author has chosen from his favorite field, California, are painted with cearacteristic vividness and power; and the work is without doubt the most graphic record of early California life that has yet appeared. We shall also begin in the January number, "PHILIP NOLAN'S FRIENDS," Or, SHOW YOUR PASSPORTS," By EDWARD EVERETT HALE. The scene of this story is laid in the South- western territory, now forming the States of Louisana and Texas, at the time of Aaron Burr's treason. The characters lived in a section which was now American, now French, and now Spanish, and this reccord of their ad- venturous lives makes a story of intense and unflagging interest throughout. A Second Farmer's Vacation," By Col. GEO. E. WARING, Jr. Col. WARING is now in Europe, visiting, in a row- boat ride of two hundred and fifty miles, one of the most fertile and interesting of the vine-growing valleys of Europe. This second serie of papers promises to be even more inter- esting than that with which our readers are already familiar. CENTENNIAL LETTERS, Edited by JOHN VANCE CHENEY. A rare collection of Revolutionary Letters, mainly from stories in the hands of the descen- dants of COL. JOSEPH WARD. They are full of interest, and will be read with a rare relish in connection with the Centennial celebtation of the year. BRLILIANTLY ILLUSTRATED ARTICLES ON AMERICAN COLLEGES, Written respectively by their friends, will appear during the year. The revived interest in college life make these papers especially timely, and will secure for them unusual atten- tion. OLD NEW YORK. Elegantly illustrated articles on Old New- York, by JOHN F. MINES, will appear at once, and will attract the attention of all, in city or country, who mark with interest the develop- ment of the great metropolis, and affectionate- ly remember the quaint peculiarities of its olden time. Every number is profusely illustrated, thus enabling us to give to our descriptive and nar- rative articles, an interest and permanent value never attained in a non-illustrated periodical. Under its accustomed management the maga- zine will in the fifture be devoted, as it has been in the past, to sound literaturehnd Christ- ian progress. The Editorial Departments, occupy over twenty pages of each number and contain Dr. Holland's vigorous and timely ed- itorials, as well as Reviews of the latest works in Art, Literature, and Science. TERMS: 00 a Year, in advance; 35 Cts. a Number. The 10 vols., complete, Nov. 1870, to Oct. 1875, bound in maroon cloth, .$20 00 do. do. bound in half morocco, 30 00 Vols. begin in November and May. Any of the earlier volumes (I to VIII) will be supplied separately to parties who wish them to com- plete sets at this rate. i. c., cloth, $2.00; half morocco, $3.00. Booksellers and Postmasters will be supplied at rates that will enable them to fill any of the above offers. Subscribers will please remit in P. O. Money Orders, or in Bank Checks or Drafts, or by registered letters. Money in letters not regis- tered, at sender's risk. SCRIBNER & CO., 743 Broadway, N. Y. D O D R EE F" N YN MAHANOY CITY, PA. Y mae JOHN BRADLEY yn gwneyd pob math o Ddodrefn yn y modd goreu, ac yn eu gwerthu am y prisiau iselaf. W Telir sylw neillduol i ANGLADDAU, a gwneir COFFINIAU yn y modd goren. Cofiwch ei store 50 CENTRE ST., MAHANOY CITY, PA. EWCH AT Y GEMYDD EVANS, I brynu eich ORIADURON, eich AWLEISIAU a'ch TLYSAU. Adgyweirir WATCHES a CHLOClAU yn y modd goreu am brisiau rhesymol. Cofier y rhif— 82 HEOL COLUMBIA, UTICA, N. Y. 34'75tf DODREFN. Y CASGLIAD GOREU A RHATAF 0 DDODREFN 0 BOB MATH. Mattrasses a Phlu am brisiau is nag mewn un He arall yn Nghauolbarth. New York. JOHN A. DAVIES. 51, 52 a 53 Franklin Square, Utica, N. Y. Gyferbyn a'r Arcade newydd; a 39 Heol Seneca. W. H. PHILLIPS, '•USTUS HEDDWCH, Room 6, Exchange Buildings, Utica. N. Y. [4'75tf SEFYDLWYD 1871. t c Japan Tea Warehouse, 410 EAST 17TH ST., NEW YORK. G. T. MATHEWS, PERCHENOG. Goruchwylwyr yn eisiau i werthu Te a Choffl i deuluoedd yn y wlad. Telerau r,hagorol yn cael eu cynyg i bersonau gweithgar gyda'r fasnach. GYMRY, PRYNWCH GAN GYMRO, Yr hwn sydd yn cadw y Te a'r Coffi goreu yn y farch nad. Ysgri e ler am fanylion i'r cyfeiriad uchod. 39-1'76, ESMWYTH, PRYDFERTH A P II ARE A OL. Foneddigesau T. Os ydych yn chwenych esgid DDESTLUS a chref, wedi ei gwneuthur yn ol egwyddorion synwyr cy- ffredin, ac yn ffitio y troed yn berffaith, gofyn- wch am IIOLBROOK & LUDLOW'S SUPERIOR GRADE. Maent yn berffaith o ran ffurf a gwneuthuriad. ARNOLD & GRIFFITHS, 194 GENESEE STREET, UTICA, N. Y. [GARDNER BLOCK.] Yw eu Goruchwylwyr yn Utica. Mae ganddynt am- rywiaeth mawr o bob mathau o esgidiau a botasau. Byddwch yn siwr o alw. 43 ARNOLD & GRIFFITHS. MILLER & PURVIS, iwrMwwra 131 GENESEE ST., UTICA, N. Y. (EQCHANGE BUILDINGS.) Mae y Llyfr-rwymfa rad uchod uwchben Swyddfa y DRYCH, lie y rhwymir pob math o lyfrau, yn yr am- ser byraf, yn y dull goreu, ac am y prisiau rhataf. Anfoned pawb o'r wlad y llyfrau a gymerant yn rhanau, cylchgronau misol, &c., i ofal Swyddfa y DRYCH, a chant eu rhwymo yn ddioed yn ol y cyfar- wyddiadau. Gellir anfon sypynau am ychydig gyda'r Railroads. 42'74tf R ISLEY, STODDARD & MATTESON, ATTORNEYS AND COUNSELLORS AT LAW Mather Block, Cor. Bleecker & Genesee, Utica. E. H. RISLEY, D. C. STODDARD, M. A. MATTESOST. AR WERTH. MELIN FLA WD, Gyda 13 o erwau o dir yn ei chanlyn, yn mhentref bychan Fall River, Wis. Y mae yno ddigonedd o ddwfr a phob peth yn gyfleus. Gwlad dda oddiam- gylch, a chyflawnder o waith bob amser. Am fanyl- ion pellach, ymofyner yn ddioed a DR. W. R. HUGHES, 43-45 Columbus, Wis. Gwesty €> mreig i Y "Stars and Stripes," JOHN L. LEWIS, Perchenog, 109 FRANKLIN AYE., SCRANTON, PA. Mae Mr. Lewis yn Gymro parchus o Ddeheudir Cymru, ac wedi agor Gwesty Cymreig yn y Rhif. uchod, yr hwn sydd 0 fewn CAN' LLATH i Orsaf y Del. Lack. & Western R. R. Bwriada gadw ty re- spectable, lie y ceir pob ymgeledd angenrheidiol ar deithwyr, mewn dull gwir Gymroaidd a lletygar, am y prisiau mwyaf rhesymol yn y ddinas. Ni raid i'r mwyaf moesol a rhinweddol betruso dim am gymer- iad y Ty. Cofied y Cymry ar daith, gefnogi 35, ly MR. A MRS. LEWIS. PRICE, TWENTY-FIVE CENTS. SEWSPAPEE iDTERTISiae. NINETY-NINTH EDITION. Containing a complete list of all the towns in the United States, the Territories and the Dominion of Canada, having a population greater than 5,000 ac- cording to the last census, together with the names of the newspapers having the largest local circula- tion in each of the places named. Also, a catalogue of newspapers which are recommended to advertis- ers as giving greatest value in proportion to prices charged. Also, all newspapers in the United States and Canada printing over 5,000 copies each issue. Also, all the Religious, Agricultural, Scientific and Mechanical, Medical, Masonic, Juvenile, Education- al, Commercial, Insurance, Real Estate, Law, Sport- ing, Musical, Fashion, and other special class jour- nals; very complete lists. Together with a complete list of over 300 German papers printed in the United States. Also, an essay upon advertising; many ta- bles of rates, showing the cost of advertising in va- rious newspapers, and everything which a beginner in advertising would like to know. Address GEO. P. ROWELL & CO., 37 41 Park Row, New York. CARNARYOX CASTLE. NO. 50 LIBERTY ST., UTICA. EVAN EVANS, PERCHENOG. Ceir yn y Gwesty Cymreig uchod y diodydd goreu, ac ymborth a llety am y prisiau isaf. 43'74 YPHCENIX MUTUAL LIFE INS. CO.—Dengy& pedwaredd adroddiad ar hugain blynyddol y Cwmni hwn, yr hwn sydd newydd ei gyhoeddi, fod ol-eiddo (assets) y Cwmni wedi cynyddu yn ystod 1874 0 $9,074,864.31 i $10 105,613.84, cynydd 0 $1,030,- 762.50; a'r gweddill o $875,000 i$1,127,400.84, cynydd 0$252,400.84. Yr oedd y derbyniadau yn$3,376,- 354.97, a'r llogranau (dividends) yn$929,970.43, yr hyn a ddengys ein bod wedi dychweJyd i'n policy- holders 27)6 y cant o n derbyniadau am 1874 mewn llogranau. Dywed yr Hartford Times am Mawrth 6ed: Gallwn ddyweyd yn ddibetrus fod hwn yn swm mwy y cant o logranau nag a wnaed gan un- rhyw Gwmni Bywyd Vswiriol arall yn y wlad ar boli- des o'r un oed a.premium." Wrth gymeryd i mewn golledion a gwaddoliadau oeddynt wedi cyraedd aeddfedrwydd, yr ydym wedi dychwelyd i'n policy- holders dros 54 y cant o'n derbyniadau am 1874. Yn ystod y tair blynedd diweddaf, ar gyfartaledd, mae y Phoenix wedi dychwelyd l w pholicy-holders bob blwyddyn dros 55 J cant oi holl ddethjiniadaa, yr hyn sydd yn gofnodiad heb ei ail. M^Bi thelerau yd isel a'ipholicies yn haelfrydig, ac ]H| yn un o'r cwmniau cryfaf a mwyaf poblogaidd yny wlad. L. T. SYMONDS, Goruch. CyfiE. 36 165 Genesee St., Utica, N. Y. HUGH R. JONES. BENJ. A. JONES, CAMBRIAN HOUSE. RHIF. 408 BROADWAY, SAN FRANCISCO, CALIF. JONES BROTHERS, PROPRIETORS. Single Rooms, per week. From$2 00 to$3 00 Lodgings, per night ■• • 50 cents Board with Lodgings, per week 00 to$6 00 Board, per day$1 CO ROOMS WITH OR WITHOUT BOARD. CIF- This House has been reflttedjwith new Spring Beds and Mattresses, which makes it ONE OF THE BEST LODGING HOUSES IN THE CITY. 44'74t