Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Y CYNWYSIAD.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Y CYNWYSIAD. [ Cofier mai Dosraniad y Beirniaid yw yr isod; ac mai yr awdwr sydd yn ysgrifenu rhwng cromfachau.] 1. Taerweddi-Deisyfladau i Dduw a'i ddwyfol Ysbryd gyfnerthu ac ysbrydoli yr awdwr a'i Awen-Taer alwad ar yr holl ddaear a'r saint sydd arni i glodfori a mawrhau Penarglwyddiaeth yr Anfeidrol. 2. Erledigaeth y Puritaniaid (neu y cwmni)—Eu cyfyngderau (sef cyfyngder- au y cwmni)—Mawr ofal Duw (am y cwmni)—Penderfyna Efe gyfeirio ei blant (sef y cwmni) dirwasgedig o Leyden i Am- erica. 3. Y Speedwell yn troi yn ol (a'r cwmni digalon)—Y Mayflower yn hwylio yn mlaen (a'r cwmni dewrfrydig)—Ail erfyn- iad am gyfnerthiad i'r Awen—Y May- flower ei hun yn dra distadl, ond yr ys- brydol a'r anweledig (yn y cwmni, wrth gwrs,) yn ei hamwisgo a mawredd-Pethau mawrion a phwysfawr iawn yn tarddu yn ami o bethau tra bychain a digylw, (sef y cwmni "yn hedyn gogoniant Americ fawreddog.") 4. Tawelweh hydryfawl y iror (ar yr hwn yr oedd y cwmni yn morio)—Dychy- myga y bardd ei fod yn clywed adlais orswynawl a didewi eu ffarwel (sef ffarwel y cwmni)—Gweddiant (sef y cwmni) dros eu gwlad-Cyfarchiad i'r llong (yr hon oedd yn "llwythog o grefydd" y cwmni.) 5. Y mae y bardd yn rhodio yn ol ac yn mlaen ar lan y mor-Dygwydda bigo cragen oddiar y traeth a'i gwasgu at ei glust- Gwrandawa ar y stori leddf a dirgeledig, a sibryda wrtho! Y Mayflower (yn arwyddo y cwmni) fel cragen yn adrodd stori yr erledigaeth- Teyrnged (neu yn hytrach cyf- archiad) i'r dyfnder mawr (ar ran y May- flower, neu y cwmni.)—Cyfarchiad i'r gwynt a'r elfenau (ar ran y Mayflower, neu y cwmni.) 6. Y Weilgi dwyllodrus (ar yr hon yr oedd y cwmni yn hwylio)—Ystorm ar y cwmni)—Yr ystorm yn ymgryfhau (ar y cwmni)—Tristwch (y cwmni) ar y bwrdd. 7. Adolygiad (ar symudiadau y cwmni) -Delft, neu Dafthaven, (y porthladd o'r hwn y inordwyodd y cwmni)—Y Speed- well (yn cludo y cwmni i Southampton)— Dwy chwaer yn ymranu (darlun o'r cwmni yn ymadael yn Dafthaven)—Gweddi y gweinidog (ar ran y cwmni)—Ystorm dra- chefn (ar y cwmni)—Rhuthrwynt ac ys- torm ofnadwy (ar y cwmni)—A adawa yr Arglwydd iddynt (y cwmni) gael eu llyncu i'r dyfnder-Gwaredigaeth ragluniaethol (i'r cwmni)—Tawelwch (i'r cwmni)— Diolchgarwch (gan y cwmni). 8. Tywydd teg (i'r cwmni)—Y lloer (a gweddi hwyrol y cwmni)—Y wawrddydd (a gweddi foreuol y cwmni)—Ystorm un- waith eto (i'r cwmni)—Tymestl echrydus (yn euro ar y cwmni)—Gobaith (y cwmni.) "9. Ymhwylio ynannyben (gan y cwmni) -Tir mewn golwg (i'r cwmni)—Llawen- ydd a diolchgarwch (gan y cwmni)—Canu mawl i Dduw (gan y cwmni)—Y tir yn ddieithr (i'r cwmni)—A'r brodorion yn fy- gythiol (i'r cwmni.) 10. Hwylio yn 01 a blaen (gan y cwmni) —Y bobl (oil yn gwmni, yn llawn ofn a phryder)—Angori am ychydig (gan y cwmni)—Cydymgynghoriad (gan y cwmni) i sefydlu y drefedigaeth neu wladfa mewn cyfiawnder- Ymhwylio eto (gan y cwmni) —Gwroldeb Miles Standich a'i wyr (oil yn gwmni)-Galygfa auafol (o flaen y cwmni) —O'r olxedd y maent oil (sef y cwmni) yn glanio ar Plymouth Rock. 11 Casgliadau—Teyrnged i'r Mayflower —Ffarwel—Yr egwyddorion a fynweswyd gan y Puritaniaid (neu y cwmni) wedi ym- ledu erbyn hyn ar hyd ac ar led yr holl Gyfandir Mawr-O Maine hyd California.

Y MAYFLOWER.

NODIADA U.

Advertising

Y MAYFLOWER.