Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

DINAS NEW YORK.

News
Cite
Share

DINAS NEW YORK. (ODDIWRTH EIN GOHEBYDD.) Wrth ystyried pwysigrwydd yr ym- drechfa yn y ddinas hon, a'r elfenau gwrth- wynebol oeddynt wedi eu tynghedu i .oresgyn anrhydedd ac awdurdod, aeth yr holl helynt heibio gyda thawelwch anarfer- ol. Oud y tawelwch rhyfeddaf yw yr un presenol-syndod mud Tammany Hall! Dyna'r gymdeithas boliticaidd gryfaf a mwyaf tyranical ar wyneb y cyfandir wedi syrthio mewn un dydd i ddinodedd gwarad- wyddus, a'i plileidwyr gwresocaf gynt, sydd heddyw yn curo cnul ei marw uwch- al'! Bu'r si ar led dranoetii yr etholiad fod John Kelly, Dictator Tammany, wedi cyf- lawni hunanladdiad; ac er nad yw hyny yn wirionedd llythyrenol, y mae yn wir safadwy cyn belled ag y mae ei fossydd- iaeth ef yn myned, trwy lyffetheiriau gorthrwm a thra-awdurdod, ar gydwybod- au a hawliau gweithwyr Efrog newydd.— Pan benderfynodd Kelly daflu Recorder Hackett dros y bwrdd, dan yr esgus fod y Barnwr dysgedig a diofn hwnw wedi brad- ychu cyfrinach Tammany, a'i fod yn syrthio yn fyr o gyflawni ei swydd uchel, seliodd ei dynged ei hun o gwymp anad feradwy. Dywedir i Kelly waeddi yn dor- calonus pan glywodd y newydd am af- lwyddiant dinystriol y tocyn Tammanaidd —"Fy Duw! a all hyn focl?" yr hon ddolef hefyd ddadseiniodd mewn dychryn a braw yn nghalonau lladron a llofruddion ein dinas, ac a wnaeth i'w llochesau uffernol ysgwyd fel dail y coed mewn ystorm. Y mae Hackett wedi profi ei hun yn was- anaethwr ffyddlon i'r cyhoedd, yn annibyn- ol ar bleidiau politicaidd; ac y mae'r ffaith o'i etholiad eto am bedair blynedd ar ddeg i'r swydd a lanwodd mor ganmoladwy y blynyddoedd aeth heibio, yn ein galluogi i anadlu mewn awyr cydmariaethol o ddi- ogelwch a mwynhad. Yr oedd achosion eraill ,wedi ymgyngreirio yn erbyn Tam- many, megis gostyngiad cyflogau y gweith- wyr i $1 60 y dydd, a'r dyddiau cyflogedig am hyny yn anaml acansicr; ond gwreidd- yn y dymchweliad ya ddiau oedd amcan Kelly i sefydlu y one man power ar adfeilion ardderchogrwydd Tweed. Os yw Demo- cratiaeth i lwyddo rhagllaw, rhaid iddi lwyddo trwy gydweithrediad y lluaws; a goreu po gyntaf iddi ddechreu reorganizio, a hyny yn absenoldeb John Kelly. Ychyd- ig a wyddom am bleidleisiau Cymry y ddinas, ond gallwn anturio dywedyd i'r mwyafrif o honynt weithredu yn gypunol a dadblygiad naturiol rhyddid, heddwch a chynydd. Y DIWYGIAD CREFYDDOL. Fel yn yr amser gynt, felly yr awr hon; y mae i adfywiadau crefyddol a diwygwyr eu gelynion, neu yntau eu herlidwyr. Er mor ddidwrw a diymhongar y mae Moody a Sankey yn dwyn yn mlaen eu cyf- arfodydd crefyddol, nid ydynt heb fod yn destynau dyddorol i'r didduw a'r an- nuw i'w pwyso a'u mesur. Dyddorol yw gwrando ar ddynion y byd yn dadleu o barth i wreiddyn effeithiolrwydd, a dir- gelwch poblogrwydd yr efengylwyr uchod. Edrychant i bob cyfeiriad am esboniad, a chwiliant bob congl am brofion; a phan wedi methu darganfod arucheledd areith- yddiaeth, na dyfnder dysg, penderfynant mai sham yw'r cwbl, ac y chwelir yr effeith- iau ymaith gan amser, fel niwl o flaen y gwynt. Druain o'r doethwyr! Y mae bywyd llafurus a dichlynaidd Meistri Moody a Sankey, eu duwioldeb diamheuol, a'u ffydd gref yn ewyllys a gallu Duw i achub pechaduriaid, yn esbon- iad i ni ar eu llwyddiant, yn gystal ag yn sicrwydd o'u hanfoniad. Gall Duw weith- redu mor effeithiol trwy symlrwydd Moody ag y gwnaeth drwy liyawdledd Whitfield neu Wes7ey. Parheir i lenwi y Rink, y Tabernacl ac addoldai eraill yn Brooklyn gan dyrfaoedd astud, ac y mae canoedd lawer o'r newydd yn ymofyn lie a gwaith yn nhy Dduw. Y mae'r ysbryd adfywiadol wedi ymledu fwy neu lai trwy holl eglwysi Protestanaidd y campasoedd. Y mae arwyddion amlwg o bresenoldeb Duw yn y gwersyll.

NODION PERSONOL.

G JVEITHF AOL-MASN A CIIOL.

LLA WEB MEWN YCHYDIG.

YMERODRAETII GERMAN.I.

R WSIA.

Y GWRTHRYFEL YN SPAEN.

[No title]

[No title]

[No title]

GWLEIDYDDOL.,

TRYCHINEB ERCHYLL!!!

PR YDAIN FA WR.

FFRAING.

DIWYGIAD MOOBY A SANKEY.