Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

LLOFFION 0 BELL AO AGOS.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

LLOFFION 0 BELL AO AGOS. Collodd ffarmwr yn Swydd Dallas, Iowa, werth $2000 o foch, drwy y salwch a elwir colera, a hyny mewn pythefnos o amser. Adrodda ffarmwr arall o Monroe, yn yr un Dalaeth, iddo golli gwerth $1,900 o foch o'r un clwyf. .Mae yn meddiant Mr. L. C. Fish, Otego, N. Y., fyharen dwy fiwydd oed yn uvy •■<) 392 pwys; a bwriada y perchenog ei borthi hyd nes y pwysa rhwng 450 a 500 pwys; yna cymer ef i Philadelphia, i'w ar- ddangos yn y dathliad canmlwyddol yr haf nesaf. Llofruddiwyd iar barchus yn ddiw- eddar, yr hon oedd newydd adael ei 18fed flwydd oed, gan fochyn, yn Madison, Ten- nessee. Mae Grangers, Grand Rapids, Mich- igan, newydd agor maelfa eang at eu gwas- anaeth, gyda chyfalaf yn cynwys $60,000. .Hysbysa C. S. Holbrook, Holbrook. Mass., iddo blanu coeden peach mewn twb yn ei dy brwd tuag 20 mlynedd yn ol, yr hon sydd yn ffrwytho yn rheolaidd; ac mewn 18 mlynedd gwerthodd werth$2,300 o peaches oddiar y goeden. Cafodd $36 y dwsin am rai o honynt, $24 a $28 am y lleill; ond yr oeddynt yn $18 y dwsin ar gyfartaledd. Mae ei ffrwyth yn gwerthu I oreu yn Chwefror a Mawrth. Rhydd Indiaid Wisconsin ar ddeall i'r bobl wynion eu bod hwy yn deall ar- wyddion yr amserau, ac y bydd y gauaf dy- fodol yn un llariaidd a hyfryd. < Mae hen ffarmwr yn Iowa wedi cael allan ffordd newydd i ddiogelu ei ferched rhag y bechgyn, drwy rwbio wynwyn coch ar eu gwefusau a'u danedd. -Hysbysir fod yn meddiant Mr. George Miller, Ashland, Oregon, ych sydd yn 19 dyrnfedd o uchder, yn 20 troedfedd o flaen ei drwyn i flaen ei gynffon; a chyfrifir y pwysa, ar ol ei dewychu, 5,000 pwys, neu ddwy dunell a haner. Ymddengys nad ydyw troseddau amaethyddol wedi Ilwyr ddarfod o Iwerdd- on eto,oblegid cafwyd amaethwr mewn ys- gubor—o'i eiddo ei hun-wedi ei drywanu amryw weithiau, ac yn min trengu, ychyd- ig ddyddiau yn ol. Credir fod y llofrudd- iaeth*yn gwbl o nodwedd yr hyn a adnab- yddir fel llofruddiaethau amaethyddol.

Y CNYDA U.

CULNI ENWADOL.

Y GAIR "CHERISH."-

EISTEDDFOD COLUMBUS, O.

AFLW ADDIANT CREFYDD.

GEIRIAU HALOGEDIG;

Y PWLPUD A'R ATHROFA.

CINCINNATI, OHIO.

[No title]

[No title]

[No title]

Family Notices