Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

[No title]

[No title]

HANES BYWYD HEN BERSON LLANDEDWYDD.

AR YR ADEN.

[No title]

Adolygiad y Wasg.

[No title]

DEFODA U HYNOD.

!Y " CLEDDYF" HWNW!

News
Cite
Share

gost!" 0 berthynas i "chwareu teg," bydd- ed hysbys i Mr. Griffiths mai dyna yn unig ydym yn ddymuno, "chwareu teg" i un blaid yn ogystal a'r llall. Daeth ef allan yn bytheirio celaneddau" yn erbyn Mr. Tilton, yn ei alw yn gelwyddwr, a phob peth isel a gwael, gan ei draddodi i ddyfn- deroedd dinystr tymorol ac ysbrydol, cyn dechreu y prawf. Dyna Qngraifft o'i chwareu teg ef! Oberthynas i'r"gosb'' sydd yn ein haros, nis gallaf ddirnad pa beth mae y bachgen yn ei feddwl. Dear anwyl, beth fydd hi tybed! Mae Mr. Griffiths yn diweddu ei ysgrif yn y dull mwyaf bombastaidd. Mae y "cleddyf" sydd wedi bod yn taw el gysgu yn ei wain i gael ei ddeffro. "O'r goreu," medd yr addfwyn ysgrif enydd, "dyma fy nghleddyf inau allan eto. Mynaf weled pa faint o wir sydd yn y dywediad, that "one sword keeps anotlier\in its scabbard." Bobol anwyl, ffowch i'r noddfa cyn i ddialydd y gwaed eich dal, a chyn i'r cleddyf hwnw drywanu eich calonau! Ond 'mewn difri', yn awr, heb ddim 'smaldod, onid yw rhyw fygythiad fel yna yn ein gorfodi i wenu? Mae yn wir fod Mr. Griffiths yn wr gallu- og, yn ysgrifenwr medrus, ac yn bregeth- wr campus. Yn yr ystyriaethau hyn, mae lei glod yn yr holl eglwysi.' Ond gwyb- ydded ein parchedig frawd na chrea y fath iaith un braw yn ein mynwesau. Nid oes genym un awydd i ddefnyddio na 'chleddyf' na phicell, ac nid oes un angen- rheidrwydd iddo yntau son am 'gleddyf;' a'r cyngor a roddwn i iddo fyddai y cyngor a glywais un fam y diwrnod o'r blaen yn roddi i'w bachgen bychan tra yn chwareu a chleddyf a ddygwyd gan ei dad o'r rhyf- el—'Willie bach," meddai y fam, 'dyro y cleddyf yna yn ei wain.' '0, na hidiwch, mam,' meddai Willie, 'wna'i mo'ch brifo chwi.' "Does arna'i ddim ofn hyny,' ebai y fam, 'ond mae arna'i ofn i ti frifo dy hun.' Guto bach, dyro y cledda yna yn y wain, rhag ofn i ti frifd dy hun! Ond os yw Mr. Griffiths yn penderfynu ymosod arnom, am nad ydym yn cyd-uno ag ef o berthynas i Mr BeeCher, diolch yn fawr iddo am ein rhybuddio. Mr. Griffiths, yr ydym yn liollol barpd—deuwch yn mlaen. Dewis- well faes yrymladdfa. Cawn faes y DRYCH heb rwgnach. Gwn y bydd croesaw i chwi mewn papyr Cymreig arall; ond a ga rhyw un arall ddyfod ar y maes hwnw i'ch erbyn sydd gwestiwn. Yr ydym yn barod, gyda y teimladau mwyaf serchus tuag atocli, i'ch cyfarfod unrhyw amser. Ond byddai yn well genym, os yw y peth o fewn cylch posiblrwydd, i chwi beidio ein galw yn 'kuklux,' neu yn 'erlidiwr,' neu yn 'frad wr,1 neu yn goward,' neu yn ysbryd af- lan,' neu yn 'hyena,' neu yn 'buzzard.' Ond os nad yw yn boslbl i chwi ysgrifenu ar Mr. Beecher heb alw enwau drwg, allan a niiw; ond rhaid i chwi beidio disgwyl i'ch gwrthwynebydd eich efelychu. Mae Mr. Griffitihs yn siarad yn goeglyd am 'ffugen- wau.' Credwyf y buasai yn fwy o anrhyd- eild i efengyl Iesu pe buasai iddo yntau ys- grifenu y fath erthyglau o dan ffugenw. Pa wahaniaeth a wna enw priodol yr ysgrifen- ydd i Mr. Grimths ? Beth os yw yn aelod eglwysig cymeradwy, neu yn ddiacon jffyddlon, neu yn flaenor defosionol, neu yn weinidog parchus ? Yn ei farn ef ni phwys- ai hyn bluen—"kuklux, bradwr, erlidiwr, ysbryd aflan, un yn sychedu am waed, hy- ena, buzzard, a phregethwr rhagfarnllyd," a fyddai ar ol y cyfan. Pan ddel angen- rheidrwydd am ein henw priodol, bydd yn ddigon hawdd i'w gael. Ond dyna ddigon jiydymddangosiady 'cleddyf' hwnw. LUKE MOSES (Pistillfardd).