Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
IR A W& £ !J £ LT A~& W S ?>A 3\mi ESTABLISHED 1851. Issued Every Thursday Morning. T. J. GRIFFITHS, Proprietor, UTICA. N. Y. I
PYNCIAU Y DYDD.
PYNCIAU Y DYDD. Sylw go darawiadol oedd hwnw a wnaeth amaethwyr Ohio yn nghylch ychwanegu swm YR ARIAN PAPYR, pan ddywedasant wrth y Cadflaenor Cary ar ddiwedd ei araith-" Syr, yr oedd eich araith yn ddyddorol i ni; ond rywsut yr ydym yn metliu deall yn eglur, wrth yr hyn a] ddywedasoch, Os ychwanegir dau alwyn o ddwfr at un galwyn o laeth, y gwna y galwyni glasdwr hyny fwy o gaws.Dyna fel yr ymddengys pwnc yr Inflation" yma i filoedd ac iechyd i gal- onau y/iyfryw rai, oedd y gwrthwynebiad a gafodd yr ymchwyddiad afiach hwnw gan fwyafrif pobl Ohio. Er hyny, mae y mwyafrif hwnw mor fychan, ac mae mor hawdd gwneyd y pwnc yn ddyryslyd i'r lluaws, nes y mae yn angenrheidiol iawn parhau i osod y mater mor eglur ag y gellir gerbron y bobl. Efallai mai dyma un o bynciau pwysicaf y dydd. Diolch i'r DRYCH am ei addysg eglur ar fater mor bwysig. Arwydd ddymunol hefyd yw gweled llawer o wir gyfeillion y Beibl yn ,dyfod i well dealldwriaeth yn nghylch p vnc Y^BEIBL A'R YSGOLION DYDDIOL. Er yn ddiau na wnaetbai darllen rhanau o'r Hen lyfr bendigedig ddim niwed i neb yn yr ysgolion dyddiol, ac y gallai ei ddar- llen wneyd rhyw faint o les yno; diau hefyd mai dylanwad go fychan ar unrhyw blentyn a gaffai y darlleniad brysiog, afler o'r Gair Santaidd a arferid wneyd yn yr ysgolion* hyny. A chan fod hyny bach o beth yn cael ei chwyddo yn achlysur mawr gan lawer o bobl i wrthwynebu yr ysgolion hyn, ac yn sail dadl dros gael yr ysgolion cyffredin yn sectol, a chael y wladwriaeth i gynal sectyddiaeth grefyddol, hyderwn y daw y mwyafrif mawr o holl edmygwyr y Beibl i weled mai gwell yw peidio per- yglu yn y mater o gysylltu y wladwriaeth âg enwadaethau crefyddol. A phwy byn- ag sydd yn wir frwd dros addysgiadau y z, Beibl, dylai y peidio a'i ddarllen yn yr ysgolion dyddiol eu gwneyd yn ymdrech- gar iawn i gael gwell darlleniad o'r gyfrol gysegr-lan yn eu teuluoedd a'r ysgol Sul. Mae yn anhawdd iawn hefyd i unrhyw wir ddyngarwr beidio teimlo dyddordeb yn y pwnc pwysig a chynyrfus yn nghylch CYFLOGAU GWEITHWYR. 0 y fath dralloclion, a'r fath arwyddion o annhegwch sydd yn y "strikes" mynych hyn yn Lloegr ac America Gristionogol (!) Er cymaint sydd i'w ddweyd dros hawliau cyfalaf; ac er mor bwysig yw i feistri gael elw mawr yn eu hanturiaethau eang; ac er nad yw yn hawdd dweyd pa faint o an- nghyfartaledd sydd gyfiawn rhwng gwerth llafur, amser a merlr gwahanol ddynion, rhaid fod rhywbeth yn mhell ofnadwy o'i le mewn gwlad pan mae dyn diwyd a medrus o weithiwr yn methu cael un ddol- ar o elw o'i lafur am bob can' dolar o elw a ga ei feistr sydd heb fod yn well dyn na'i weithiwr. Pan mae un dyn mewn pulpud, neu ar esgynlawr, neu mewn swyddfa, yn cael mwy o arian am awr o lafur nag a ga dyn arall am fis o lafur llawer caletach, mswn difrif onid oes rhyw ormodedd o anghyfartaledd yn hyn? Pa mor anhawdd bynag yw uniawni y camwri hwn, rhaid cael rhyw ddiwygiad anferthol fawr yn hyn cyn y daw y gymdeithas ddynol i'w lie. A pha beth bynag well sydd raid i weithwyr wneyd er mwyn cael y diwygiad hwnw, mae yn amlwg fod gan feistri hef- yd, a chan lawer eraill, rywbeth i'w wneyd er mwyn cael tegwch yn y cysylltiadau pwysig hyn. Mae yn syndod genym weith- iau na thalai Statesmen and. Political Econo- mists fwy o sylw i'r pwnc mawr ymarferol hwn. Y mae dydd i ddyfod yn sier, pan wneir llai o wahaniaeth rhwng y gweith- iwr a'i feistr o ran yr elw a dderbyniant oddiwrth eu gilydd. Mae y ddadl yn cael eu hadnewyddu yn awr mewn llawer o newyddiaduron cref- yddol, yn nghylch a ddylai dynion NEWID EU HENWADAU CREFYDDOL Os newidiant rywfaint yn eu golygiadau duwinyddol. Mae y pwnc yma yn myned yn fwy pwysig o hyd, o herwydd fod can- oedd lawer o bregethwyr goreu yr oes yn prysur newid eu golygiadau parthed eu hen gredoau. Mae llawer o enwogion yn y Gorllewin yma, fel Prof. Swing, Drd. Dudley, Thomas, Holland, &c., yn cael eu cyhuddo o anonestrwydd, gan eu bod yn pregethu pethau gwahanol i gredoau eu henwadau, ac eto yn ymlynu wrth yr enw- adau hyny. Mae tri o weinidogion Cynull- eidfaol yn ninas Milwaukee yn unig yn gwneyd hyn. Dadl y dynion hyn dros eu hymddygiad yw hyn :—Mai nid ymrsvymo am eu hoes i beidio dysgu dim ond yr hen gredoau a ddarfu iddynt pan ordeiniwyd hwy i'r weinidogaeth, ond ymrwymo dysgu pob gwirionedd yn ol fel y deallent ef trwy ymchwiliad gonest—mai nid beth a ddy- wedodd rhai o'r hen dduwinyddion yn Standard Works eu henwadau, yw rheol gwir Brotestant, ond beth a ddywed yr Arglwydd. Dadleua y dynion hyn fod yn well ganddynt aros gyda'u hen gyfeillion a'u cynefin gynulleidfaoedd er mwyn preg- ethu iddynt yr hyn a onest ystyriant yn wirionedd; ac nad oes arnynt eisiau codi eglwysi na sectau newyddion—fod gormod o ymranu eisoes-fod yn arw o beth y rhaid i ddyn da, meddylgar, barhau ar hyd ei oes heb feiddio meddwl yn wahanol i'w deidiau, neu os meiddia, y rhaid iddo fygu y gwir yn ei fynwes ei hun, neu adael maes anwylaf ei lafur. Ac yn mhellach, yr ym- ddengys yn amlwg yn awr, y rhaid i'r holl enwadau oddef yn eu mysg filoedd o'u hapr^Vn a chanoeddo'u pregethw-yr mwyaf meddylgar, sydd heb gredu llawer o'r hen ertliyglau ffydd, neu ynte ddiarddel y mil- oedd hyn o'u cymdeithasau eglwysig. Mae yr adegfyn prysur wawrio, pryd y bydd raid i eglwysi oddef miloedd o'u mewn o bersonau na allant swnio yr hen Shibbol- aethau gynt, neu ymranu ac ymchwalu yn hynod o hunan-ddinystriol. Onid gwell, gan hyny, o:lawer fyddai i eglwysi wneyd ymdrech i fyw yn dduwiol yn amod eu cys- ylltiadau'^crefyddol, na chydwelediad yn nghylch credoau nad oes modd dal dynion meddylgar yn hir heb anghydweled â hwynt ?a¥Hyderwn fod mwy o undeb rhwng crefyddwyr ar ddyfod-undeb i gydym- drechu yn erbyn: pechod, yn hytrach nag undeb opiniynau sydd mor annichonadwy ei gael mewn oes ymofyngar. Nid beth a ddywed^y sect, ond beth yw gwirionedd, yw arwyddair mawr gwir Brotestant. Addefaf fi yn rhwydd nad yw o nemawr o bwys genyf yn mha bulpud y safaf, os caniateir i mi yno fynegn yn onest yr hyn a ymddengys ijmi yn wirionedd Duw. Geneva, 111. R. L. HERBERT.
RHESWM A DATGUDDIAD.
RHESWM A DATGUDDIAD. GAN Y PARCH. R. H. EVANS, HYDE PARK, PA. Pan yn son am ddatguddiad goruwch naturiol, yr ydym yn deall yr hyn a dder- bynir oddiwrth Dduw yn uniongyrchol, ac nid oddiwrth ail achosion; peth nad yw yn cael ei gynyrchu gan ddeddfau natur, ac nad yw yn gorwedd mewn natur ynddi ei hun. Y goruwch naturiol yw y peth sydd uwchlaw gallu naturiol, ac felly i'w briodoli yn hollol i Dduw. Peth goruwch naturiol yw y peth hwnw, nad all gwydd- oneg neu athroniaeth ei gael allan-y peth hwnw y methodd Pedr gael enw arno ar ddydd y Pentecost. Dywed Mr. Williams mai "tystiolaeth cenadon y byd paganaidd yw, fod gan y paganiaid allu deallol a moesol i dderbyn goleuni crefyddol." Nid ydym yn ameu hyn, ond y cwestiwn yw, ai nid yn y Beibl y mae y goleuni crefyddol hwn yn gynwysedig? A ydyw y cenadon wedi llwyddo gyda rhyw oleuni arall? Rhydd W. ar ddeall nad yw gwledydd y Beibl yn well na gwledydd paganaidd. "Mor hawdd," meddai, "fyddai son am ryfel- oedd gwaedlyd, a phechodau gwarthus pobl gwlad y Beibl, a thynu darlun duach na'r darlun a roddes Evans, Hyde Park, o'r byd paganaidd, a hwnw yn wir bob gair am wledydd mwyaf goleuedig y Beibl." Mae yn wir fod dynion i'w cael yn euog o bech- odau arswydus yn ngwlad oleu efengyl; ond pwy yw y dynion hyn? Ai nid an- ffyddwyr yw y rhan fwyaf 5 honynt? neu ddynion yn gwawdio y gwirionedd fel y mae yn yr Iesu? Ai nid dynion sydd yn gwrthod y goleuni, a diystyru gair yr Ar. glwydd ydynt? Onid oes llawer y'n y wlad hon mor anwybodus yn ngwirioneddau y Beibl a phaganiaid yr India? ac yn wir, mae genym le i gredu fod miloe'dd o ddyn- ion yn y Talaethau Unedig nad ydynt wedi gweled Beibl o gwbl. Yr wyf fi wedi cyfarfod ag amryw yn gwybod can lleied am drefn iachawdwr- iaeth a thrigolion Ethiopia. Mae llawer o waed (_»wirion wedi cael ei dywallt gan Babyddion, ac mae llawer c honynt yn ddynion peryglus, ond gwyr pawb fod y Beibl yn cael ei gadw oddiwrthynt. Er hyn oil, mae yn amlwg i bawb fod gwled- ydd y Beibl yn tra rhagori ar wledydd eraill. Mae llawer cwmwl du yn crogi uwch ben gwledydd cred, ond mae ffurfaf- en gwledydd paganaidd yn dywyllwch caddugawl drwyddo draw; a bydd y tywyll- wch yn aros yn oesoesoedd o ran dim a all rheswm dynol ei wneyd heb oleuni gair Duw. Chwiliwn am y wlad neu y gymyd- ogaeth fwyaf barbaraidd, lie y,mae mwyaf o drais, ac angliyfiawnder yn cael ei gario allan, a chawn mai dyna y wlad, neu y gymydogaeth sydd yn gwybod leiaf am eg- wyddorion Cristionogaeth. Pa le mae y teulu mwyaf anedwydd? B'le bynag y y y mae, dyna y teulu sydd yn gwybod leiaf am egwyddorion y deyrnas, "nad yw o'r byd hwn. O'r tu arall, mynwn wybod yn mha wledydd mae y cyfreithiau goreu, a lie mae mwyaf o gyfiawnder a thegwch yn cael ei weinyddu? Yn y gwledydd hyny y mae mwyaf o gapeli, a mwyaf o Feiblau, a'r mwyaf o efengyl ybendigedig Iesu yi^sel.ai phreg- ethu. Pa Ie lmié y teuiu mwyaf I dedwydd a rhinweddol yn byw ? Lie y mae mwyaf o gariad ac anwyldeb yn bodoli, a mwyaf o ufudd-dod i rieni yn cael ei dalu. Dyna y teulu sydd yn gwybod mwyaf am egwydd- orion iachusol y gyfrol ddwyfol. Dywed W. fod gan y gwledydd sydd heb Feibl ddatguddiad o wirioneddau crefyddol; ond faint o les yw y datguddiad hwn iddynt? Mae yn rhy facli i'wgwareiddio, heb son am ddim arall, er cael miloedd o fiynyddoedd o brawf! Dywed W. fod miloedd o ddysgyblion Buddha, Confucius, a Mahomet, a miloedd o Formoniaid ac Ysbrydegwyr yn gor- foleddu, "Er oeri'r mer amarw." A yw W. yn sicr am ddwsin, heb son am filoedd? Ac os oes rhai o'r cyfeiliornwyr uchod yn marw dan orfolcddu, beth mae hyn yn ddangos? Ai nid dangos fod rheswm dynol yn fethiant! Gwelais ddyn yn y gwall- gofdy yn Columbus, 0., yn gorfoleddu oblegyd ei fod yn credu mai efe oedd perchenog y lie; ond nid oedd hyny yn profi dim ond ei fod yn wallgof. Ac a oes rhyw beth yn dangos diffyg goleuni rhes- wm yn fwy na gweled dyn yn gorfoleddu, am ei fod yn credu fod ganddo wirionedd, a'r cwbl yn dwyll? Nis gwn am ddim yn cadarnhau fy syniad yn fwy na'r sylw uchod o eiddo Mr. W. Dywed W. fod "pob diffyg a ff aeleld yn y datguddiad yn cael ei achosi, oblegid diffyg gallu y meddwl i ganfod yn egluracb, a bod y datguddiad i Moses neu Paul yn rhagori ar y datguddiad a wnaed i Zoroas- ter, Confucius a Socrates, "am fod eu gallu deallol a moesol yn tra rhagori." Mae hyn yn gystal a dyweyd nad yw datguddiad y Ilyfr ysbrydoledig yn well na datguddiad llyfr natur, ac nad yw goleuni gwlad efengyl yn rhagori ar oleuni gwan y pagan! Os yw W. yn credu, ac yn deall y peth y mae yn ei ddyweyd, pa fodd y mae yn gallu "diolch bob dydd am ragoroldeb y Beibl?" Mae ein gohebwr yn siarad mor ffol a phe bai yn dweyd mai y rheswm fod dynion yn gweled yn eglurach yn y dydd nag yn y nos yw, am fod eu llygaid yn meddu mwy o gymwysder i dderbyn goleuni, ac nad oes gan yr haul ddim i'w wneyd yn y pwnc! Rhyw resymu rhyfedd yw hwn! ac mae yr un dull o resymu yv cael ei gario allan drwy yr ysgrif oil. Ond y p-wir yw hyn: Y rheswm fod Moses, Paul, Luther, Calvin a Wesley yn deall mwy na Zoroaster, Confucius a Socrates, yw fod y goleuni oedd ganddynt yn tra rhagori. Nid am fod eu gallu deallol yn gryfach,ond am fody datguddiad a gawsant yn well. Yr achos fod dynion yn gweled yn well yn ngoleu haul nag yn ngoleu lloer yw fod goleu haul yn rhagori. Rheswm yw llygad yr enaid, a'r achos fod y llygad hwn yn canfod yn eglurach yn Paul nag yn Socrates oedd, fod un wedi derbyn goleuni ysbrydoliaeth a'r Hall ddim. Un wedi cael gair Duw, sef yr ysgrythyrau santaidd, yn llusern i'w draed, ac yn llewyrch i'w lwybrau, a'r llall yn rhodio wrth oleuni natur. Ymddengys i mi fod Mr. W. yn tywyllu y mater ag "ymadrodd- ion heb wybodaeth." Dywed—"Nis gall neb weled gwirionedd trwy natur heb iddo gael ei ddatguddio iddo, mwy na thrwy y Beibl. Datguddied- ig yw pob gwirionedd; a naturiol yw pob datguddiad." A oes rhyw ddewin a all ddeall meddwl y frawddeg uchod? A yw W. ei hun yn ei deall? Dywed fod natur yn gyfrwng i ddangos gwirionedd yn gystal a'r Beibl, ac eto cawn ar ddeall nad yw natur na'r Beibl yn ddatguddiad, oblegid dywed, "nas gall Deb gweled gwir- ionedd trwy natur, heb iddo gael ei ddatgudd- io iddo, mwy na thrwy y Beibl." Felly mae rhyw beth yn datguddio heblaw natur na'r Beibl, ac heb y peth hwnw fod natur a'r Beibl yn fethiant! Yn awr, beth yw y datguddiad, a phwy sydd yn datguddio tu allan i natur a'r Beibl? A yw yn bosibl fod W. yn golygu mai yr Ysbryd Glan ydyw! Gwna W. fy meio i ac eraill am ddywed- yd fod rheswm dynol yn fethiant, acyntau ei hun yn dywedyd ei fod yn fethiant, oblegid dywed, "nis gall neb weled gwir- ionedd trwy natur heb iddo gael ei ddat- guddio iddo," &c. Dywed mai "Datgudd- iedig yw pob gwirionedd." Felly mae yn anmhosibl dod i gyffyrddiad a gwirionedd heb ei weIed-heb ei ddeall. Yn awr, yn olgeiriadW., nid yw natur na'r Beibl yn cyn wys gwirionedd, nac yn dangos gwir- ionedd. Rhaid cael rhyw beth arall! Doed fy nghyfaill allan o niwl rhesymoliaeth, ac yna gall ysgrifenu yn fwy dealladwy. Rhydd W. ar ddeall ei fod yn ysgrifenu "i geisio dangos yr ynfydrwydd o ddirmygu y rheswm dynol." Ond ai nid gwirionedd yw fod rheswm dynol heb Air Duw yn fethiant. Ac yn mhellach, a wyf fi yn dirmygu rheswm wrth ddweyd hyn. Onid yr un peth ydyw a dywedyd nas gall y llygad weled i ddarllen yn y nos; a pha ddirmyg ar y llygad fyddai hyny? Ond ni charwn i neb ddeall nad oes rhyw ddirmyg mewn cysylltiad ag anwybodaeth dyn an- ianol, oblegid pechod sydd wedi, ac yn ei achosi, ac mae yn rbaid cael goleuni Ys- bryd Duw drwy air y gwirionedd i agor y deall cyn ei symud. Yn awr, gan fod W. yn "diolch bob dydd am ragoroldeb y Beibl ar bob llyfr crefyddol arall, nodwn ranan o hono, a galwn ei sylw difrifolaf atynt. Wrth son am gyflwr yr Ephesiaid wrth natur, dywed Paul—"Canys yr oeddych chwi gynt yn dywyllwch, ond yr awr hon goleuni yd. yeh yn yr Arglwydd." Os yw dyn yn dywyllwch, onid yw ei reswm yn fethiant? Hefyd dywedir fod y rhai sydd yn am- ddifad o Air Duw "yn eistedd mewn tywyllwch," a "rhodio yn y tywyllwch." Esau 9. 2-Matt. 4, 16. Y rhai mae Duw yn achub, dywedir ei fod "yn agoryd eu llygaid, a'u troi o dywyllwch i oleuni." Act. 26. 18. Dywedir am ddyn anianol- "Nid yw yn derbyn y pethau sydd o Ys- bryd Duw; canys ffolineb ydynt ganddo ef; ac nis gall eu gwybod, oblegid yn ys- brydol y bernir hwynt." Mae son am iawn, ac am i ddyn gael ei achub drwy haedd- iant un arall, &c., i Resymolwr yn ffolineb. Darllened W. yr ail benod o cyntaf Cor- inthiaid. Cawn ar ddeall yn mhellach "fod duw y byd hwn yn dallu meddyliau y rhai digred, fel na thywynai iddynt lewyrch efengyl gogoniant Crist, yr hwn yw delwDuw." 2 Cor. 4. 4.
[No title]
-Mae y rhaff wefrebol dan y Werydd wedi ei hadgyweirio, ac yn gweithio yn dda. Y pris am anfon cenadwri o New York i Loegr ydyw 75c. y gair, yn aur. —Adroddwyd y llynedd fod 220 o ber- sonau wedi colli eu bywydau ar agerlong- au y Talaethau Unedig, mewn un mis ar ddeg; ond eleni yr oedd y trefniadau er atal damweiniau yn well, a 201 o fywydau a gollwyd yn ystod yr un amser. —Yr oedd Mr. Bangs perthynol i wasan- aeth y Llythyrdy Cyffredinol yn Chicago, yrwythnos ddiweddaf yn perffeithio eyn- llun i redeg y tren cyfiym yn mlaen oddi- yno i Omaha. Bwriedir rhedeg dau dren cyfiym yn ddyddiol, yn fuan, rhwng New York a Pittsburgh.
!Y " CLEDDYF" HWNW!
Y CLEDDYF" HWNW! FONEDDIGION Y DRYCH!—Mae dau beth o leiaf yn peri mawr syndod i mi, a chred- wyf i ganoedd eraill o'ch darllenwyr. Yn gyntaf, fod gwr mor naturiol foneddigaidd ag yw y Parch. G. Griffiths wedi ymddar- ostwng i ysgrifenu brawddegau mor an- mharchus, anheg, isel a fflaidd o berthynas i filoedd, a degau o filoedd o bersonau parchus a chrefyddol yn ein gwlad a ed- rychant ar Beecher a'i brawf yn wahanol i'r modd yr edrychir arnynt ganddo ef. Yr ail syndod a dardd oddiar y ffaith fod Gol- ygyddion y DRYCH yn rhoddi lie yn eu col- ofnau i'r fath ysgrifau a daflant y fath sar- had arnynt hwy yn bersonol. Nid oes un newyddiadur o gant yn y Talaethau Uned- ig a ddioddefai y fath abuse oddiwrth un o'r gohebwyr. Mae yr holl newyddiadur- on sydd yn deilwng o'r enw wedi gosod allan eu barnau o berthynas i'r pwnc o dan sylw. Mae yn debyg fod llawer o'u dar- llenwyr yn methu cydweled a'r golygwyr; ond nid oedd neb mor ffol a meddwl eu bod yn troseddu rheolau golygyddol. Mae y y DRYCH, fel yr oil o'igyd-newyddiaduron, wedi gosod y peth o flaen y werin, gyda'r fath sylwadau a farnai yn deg i'r ddwy ochr, yn ol teilyngdod y dystiolaeth. Dyna fel y gwnaeth yr Utica Herald, yr Utica Ob- server, y Roman Citizen, a'r Rome Sentinel; y New York Times, j Springfield Republican, a llawer o'r newyddiaduron crefyddol go- raf yn y wlad; ac yr oedd eu sylwadau golygyddol o'r un natur yn union a'r eiddo y DRYCH. Gellid yn hawdd enwi canoedd o newyddiaduron parchus a dylanwadol trwy hyd a lied y byd a edrychant ar y peth yn yr un goleuni. Bu pr']}vf Mr. Beecher o flaeu y eykotdd am fisoedd, a darllenwyd y dystiolaeth yn ofalus gan y werin, a chynyrfwyd y wlad o'r naill ben i'r llall. Canfyddid yn hawdd fod y bobl wedi ymranu yn dair plaid—un yn sicr fod Mr. Beecher yn ddieuog, y llall yn sicr ei fod yn euog, a'r drydedd yn methu penderfynu y naill ffordd na'r llall. O'r diwedd daeth y prawf mawr i derfyn- iad, a rhoddwyd yr achos i'r rheithwyr.— Ar ol bod gyda'u gilydd am wythnos,meth- asant yn lan a chydweled. Gollyngwyd y rheithwyr yn rliyddion, a dychwelodd y dorf i'w cartrefleoedd. Dyna fel y saif y peth yn awr, ac y mae gan bob dyn a dyn- es berffaith hawl i farnu yn gydwybodol drostynt eu hunain o berthynas i'r mater. Mae miloedd o'r dynion goreu a feddwn mewn gwlad ac eglwys yn barnu, er eu galar a'u tristwch, fod Mr. Beecher yn eu- og o'r cyhuddiad, nid yn unig trwy lwon Tilton, Moulton a Mrs. Moulton, a Uythyr- au a chyfaddefiadau Mrs. Tilton, ond hef- yd ac yn benaf drwy lythyrau Mr. Beecher ei hun, ac ymbiliau wylofus am drugaredd oddiar law Theodore Tilton. Mae miloedd o'r dynion mwyaf parchus yn ein gwlad, ac yn eu plitli, credwyf, nifer mawr o'r cyfreithwyr galluocaf, yn barnu fod ei es- boniad ar y llythyrau hyny yn druenus o wan ac anghyson. Yn awr, onid oes gan- ddynt gystal hawl i'w barn ar y pen hwn ag sydd gan Mr. Griffiths i'w farn ef? Onid oes ganddynt hefyd gystal hawl, os gwel- ant yn oreu i draethu eu barn, ag sydd gan y gwr parchedig o Cincinnati ? Oddi- wrth ysgrifau Mr. Griffiths yn y DRYCH, ymddengys ei fod yn rhestru pawb na chredant fod Mr. Beecher yn ddieuog, yn 'elynion' iddo, yn 'erlidwyr' Mr. Beecher, 'cydfradwyr,' 'corachod,' 'ysbrydion aflan,' 'kukluxiaid,' 'knights of tJie coffin and cross bones,' 'rhai yn sychedu am ei waed,' 'kU- enas,1 a 'buzzards,' ac felly yn y blaen.- Dyma farn Mr. Griffiths o berthynas i bawb a farnant Mr. Beecher yn euog. Mae y demtasiwn yn lied gref i drin y gwr parch- edig yn ol ei haeddiant, ac i ddefnyddio iaith lem. Ond gwell cadw at reolau "y ddoethineb sydd oddi uchod," a bod yn "foneddigaidd." Mae meddygon yn rhoddi ar ddeall i ni y gall person o deimladau cryfion fyned yn wallgof ar un peth yn un- ig, tra yn hollol bwyllog a rhesymol ar bob peth arall. Nid wyf mewn un modd yn dywedyd mai dyma ydyw sefyllfa Mr. Griffiths, ond mae ei ysgrifau ar y mater hwn yn peri i lawer un feddwl o leiaf am y gwirionedd meddygol a enwyd. Mae Mr. Griffiths yn dweyd ein bod "yn cario syniadau rhy isel am 'gariad diarebol ein cenedl at chwareu teg, os ydym yn tybied y goddefant i'n dirdra basio yn ddi