Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Y DIAWL TU OL PR SCREEN
Y DIAWL TU OL PR SCREEN Fel yr oeddwn y dydd o'r blaen yn cardd- ed ar hyd yr heolydd, a chenyf amser i syl- wi, cymerais hamdden i wneyd ardremiad ar y masnachdai. Yr oedd y diwrnod yn lied boeth, a'r drysau yn agored, felly cef- ais gyfleustra i edrych i mewn. Yr oedd y cigwyr, y pobwyr, y iferyllwyr, y siopwyr, y dilladwyr, a'r eillwyr oil yn brysur gyda eu gwahanol orchwylion—y siopwyr yn dangos eu nwyddau i'r prynwyr, a phob peth yn agored ar g'oedd; hyd yn nod pan oedd dyn yn cael ei eillio, yr oedd yn eis- tedd yn arnlwgnes i'r gwaith gael ei orphen. Ond wrth fyned heibio i ddosbarth arall o fasnachdai, y rhai oeddynt wedi tynu y lleni dros eu haner isaf, os nad dros yr oil o honynt, a'r drysau yn nghauad, neu or- chuddlen o flaen y drws, neu yn agos i'r counter, yno yr oedd rhywbeth ag yr oedd dynion gywilydd ei arddel yn gylioeddus. Pabam? Yn y restaurant gerllaw mae yr holl ffenestri yn agored o led y pen, ac nid oes neb yn cywilyddio pe byddai llygaid y byd yn edrych arnynt yn bwya cig eidion a ohig dafad, a chioron, ac yn yfed dwfr neu laeth. Ond pan fydd dynion yn myn- ed i geisio drink ant tu ol i screen. Nid yw yn rhyfedd! Siaradant fel y gwelant yn dda; gwyddant nad ydynt yn gwneyd yn iawn, ac y mae arnynt gywilydd eu bod yn gwneyd y fath beth. o Y mae yr yfwyr cymedrol :yn ddigon i berii ddyn golli ei amynedd; yfant, pan ar yr un pryd yn gwybod y dylent beidio; mae arnynt gywilydd o'u gwaith-dyna pa- ham yr ymguddiant tu ol i'r screen, a rhodd- ant bob math o esgusawd a allant ddyfeisio dros eu hymddygiad. Paham nad esgus- oda dyn ei hun am fwyta darn o beef-steak, neu yfed cwpanaid 0 goffi ? Y mae ei gyd- wybod yn rhydd pan yn gwneyd hyny. Y mae y Beibl yn llawn o rybuddion yn er- byn yfed diodydd meddwol, hyd yn nod gwin—gwin pur. Ond y mae rhai pobl nad ydynt yn gofalu beth a ddywed y Beibl, troant i lyfr arall; cred y mwyafrif yn Shakespeare, o herwydd ei wybodaeth ryf- eddol am y natur ddynol a ffyrdd dynion. Gwrandewoh ;)rno: "O! dynion yn rhoddi gelyu yu¡.¡u gensiii i ladruta ymaith cu hym- 7 %} enydd!" Och, yr ydym oil wedi gweled hyny,ac nid rhyfedd fod y bardd yn galaru o'r herwydd drachefn, ac yn gryfach fyth: 0, tydi ysbryd anweledig y gwin' gan nad oes genyt enw wrth yr hwn y'th ad- waenir, gad i ni dy alw yn ddiafol!" Ni ddywedodd dyn erioed air mwy gwirion- eddol. Os oedd sefyllfa y cyfryw a fedd- ienid gan ddiafol, neu yr ysbryd drwg, yn waeth na sefyllfa rhai dynion a we|som ni wedi eu meddianu gan ysbryd y gwin, rhaid ei fod yn anrhaethol ofnadwy yn wir; ac mae yr holl ddrygau yna yn dyfod drwy yfed cymedro], Nid oes yr un dyn yn suddo i'r arferiad gwarthus mewn un dydd neu wythnos. Yn amryw o'r gweithfeydd mawrion y mae rhanau o'rpeirianau yn hynod beryglus; os tynir dyn neu ddynes i mewn iddynt, bydd y cyfryw yn ddi-help, a gwaredigaeth yn anmhosibl; byddant yn sicr o gael eu chwyrndroi oddiamgylch a'u llethu gan nerth dirfawryr olwyn a'r gwregys, neu eu, malurio gan grafangau a danedd ha:m di- dosturi. Pa fodd mae dynion yn gwneyd, ai myned mor agos atynt ag y gallont, ac yn rhoddi blaenau eu bysedd i mewn?- Nage; ondcadwant can belled oddiwrthynt agy byddo modd. Nid oes ond diofalwch neu ddamwain a ddaw a'r dyn i'r cyfryw berygl. Er hyny, pwy sydd yn cadw draw oddiwrth y cyfryw beiriant a. droir gan y diodydd meddwol? Acy mae dynion ya rhoddi gwyliadwriaeth a gorchudd-leni o ajngylch y peirianau peryglus hyn; ond pan ydym ni yn anog dynion i gadw yn mhell oddiwrth "ddiawliaid" arswydus Shakespeare, dywedir wrthym nad oes gen- ym ddim busnes i gwtogi rhyddid dynion, hyny yw, os byddant yn dewis cerdded i'r peiriant ofnadwy hwn, a dyfod allan yn anafusion ysigiedig,i ni eu cadw hwy a'u teulu oedd ;dywedant y rbaid i ni adael idd- ynt; nad oes genym hawl i ymyraeth. Wel, finau h}?n yna yn gwtogiad ar ein rhyddid. Na, nid yw o un dyben siarad a dynion tu ol i'r screen. Ond gadewch i ni ddechreu gyda'r plant, i'w cymell hwy i beidio yfed. A chwi yfwyr cymedrol, a fydd i chwi ddim cadw tu allan i'r screen? Os na wnewch, bydd i'r danedd haiarn eich tynu i mewn, a'ch anafu gorff a chymer- iad. A chofiwch na chaifl. meddwon etif- eddu tragywyddol orphwysfa y saint. Utica, N. T. PWY.
G WEI TUFA O L—MA SNA CHO…
G WEI TUFA O L—MA SNA CHO L. -Dywed papyrau Llo.egr fod $100,000,- 000 o gyfalaf Seisnig wedi cael ei wario ar Reilffordd Erie. -Mae y prif linellau rhwng Chicago a'r Dwyrain wedi mabwysiadu yprisiau can- lynol, y rhai a fyddant mewn grym ar ol y laf o Tachwedd: I New York, $22; i Bos- ton, $25; i Philadelphia, $20; i Batlimore, $19.50; i Albany a Troy,$20 15; i Harris- burg, $19. Mae hyn yn godiad o $Sar yr hen brisiau. —Gohebydd o East Madison, Maine, a hysbysa fod y cyfIog yn "Maine Slate Quar- ry" wedi ei ostwng, a rhybuddia chwarel- wyr Vermont i beidio|derbyn y telerau new- yddion, os gwahoddir hwy i fyned i Maine i weithio. -LLINELLAU a gyfansoddwyd wrthHveled naddu llechi gyda pheiriant o ddyfais Hen ry Williams,* Slatington, Pa.: Ydwyf siwr mai dyfais Harri-Williarns A welai'n rhagori; Y wychaf at naddu llechi,— 'Rhwylusa' un a wela' i. Mae gwall y'mhob arall beiriant,—ond mae I'w wel'd i mi'n welliant; [hwn Am weithio heb ddangos methiant, Oil wrth hwn o'r Ileill i warth ant. t Awchus y tyr y llechen,—heb dwrw, A croyw bob crawen; Drwyddo'n dod mae'r ysgloden 0 un ffurf gynffon a phen. Y cerig a ysgwaria—'nol mesur, Fel mae 'u heisiau, trwsia Lechi bob gradd, a nadda A graen deg gywrain a da. LlechPr riant ant drwy'r tir.-a t.orswii edd gub inai oed ddE Rh yd( ,$3( ho, i'r syc wa olv aw ha1 hw vil aw Ca- cyflogau yn llai o 25 y cant nag o'r blaen. —Drwg genym gael ar ddeall nad oris mwv o arwydd i waith haiarn Brady's Bend, Pa., ail gychwyn, nag oedd pan yr ataliwyd ef ddwy flynec^d yn ol. FAIRYIEW, IDAHO, Hyd. 3ydd —Maeyn y lie hwn tua deuddeg o gloddfeydd aur ac arian, er nad oes ond tri o honynt mewn llawn waith yn bresenol. Yr achos o'r marweidd-dra yw, fod y cwmniau heb dalu i'r gweithwyr-rhai er's tri mis, eraill er's pedwar; ac mae y gweitliwyr wedi peidio gweitbio er dechreu y mis, nes y cant dal am eu gwaith. Nid oes ond ychydig iawa o obaitn y gwna rhai o honynt dalu yn fuan; nid oes yma ond un glodd|# yn talu am ei gweithio. —Mwnwr.
CTMANFA Y T. C. YN WISCONSIN.
CTMANFA Y T. C. YN WISCONSIN. DODGEVILLE, Hyd. 15.—Cynaliodd y T. C. eu Cymanfa eleni yn y lie hwn, Hyd. 12-14, yn Dodgeville, Wis. Llywydd, y Parch. John Davis, Picatoniea. Wedi derbyn materion o'r gwahanol fanau, rhoddwyd derbyniad cynes i'r Parch. David Harries, Chicago, drwy lythyr oddi- wrth Gymanfa Ohio. Gyda'r serch mwyaf y derbyniwyd ef gan yr holl frawdoliaeth yn aelod o'r gymanfa hon. Rhoddwyd hefyd wahoddiad i'r brodyr Parchus Rob- ert V. Griffiths, Shenandoah, Pa.; John Adams, Oneida, N. Y.: Edward Thomas a R. F. Jones o Minnesota, i gydeistedd a ni, gyda dymuniad iddynt fod yn rhydd yn ein plith. Penderfynwyd fod y gymanfa nesaf i fod yn Cambria, Wis., Meh. 14-16; yna ymdriniwyd a materion a ddygwyd i sylw o'r Gymanfa Gyffredinol. Hysbys- wyd fod Chicago yn derbyn y gymanfa nesaf gyda diolchgarwch. Pasiwyd fod y brodyr David Hughes a David Foulk Jones i gael eu hordeinio yn y gymanfa_ nesaf; a dewiswyd y Parch. David Harries, Chicago, i draethu ar Natur Eglwys, a'r Parch. Wm. Hughes, Racine, i'w holi am eu hegwyddorion, a'r Parch. Rees Evans, Cambria, i roddi y cyngor iddynt. Dewiswyd y Parch. John Davis, Picat,onica,yn llywydd am y fiwyddyn nesaf eto. Dewiswyd hefyd bwyllgor cenhadol. Cafwyd hin gysurus, a charcdigrwydd mawr; a dyma y gymanfa luosocaf, .medd- ir, a fu erioed yn Dodgeville. Pregeth- wyd y nos gyntaf gan y Parchn. Edward Thomas a John Adams. Nos Fercher, gan y Parehn. Thomas Hughes, Iowa, a David Pugh; a dydd IaU4am 10, y Parchn. H. M Pugh a David Harries; am 2, gan y Parchn Joseph Roberts ac R. Vaughan Griffiths; am 6, gan y Parchn. John Davis a Richard F. Jones. Bendithier yr oil er ein lleshad, medd un gafodd fwynhad mawrjaiddi.— Gohebydd. }, It
LJLA TVER MEWN YCHYDIG.
LJLA TVER MEWN YCHYDIG. —Cynelir cyfarfod tri-misol nesaf y T. C., Dosbarth Jackson, 0., yn Soar, Tach- wedd 17, 18, pryd, y disgwylir cynrychiol- wyr o'r holl eglwysi i fod yn bresenol. -Cynygia Pwyllgor Eisteddfod Colum- bus. 0., wobr o lyfrau cerddorol gwerth- fawr, i'r hwn a chwareuo yn oreu ar yr organ, unrhyw ddarn o'i ddewisiad ei hun. i Gweler yr Hysbysiad mewn colofn arall. —Sylwer mai overture "Nebucodonosor" yn unig sydd i gaehei chwareu gan y Sein- dyrf yn Eisteddfod Utica. —Torodd tfin allan yn Fairview, Idaho, y dydd o'r blaen, a llosgwyd. y rhan fwyaf o'r pentref mewn canlyniad i brinder dwfr i ddiffodd yr elfen ddlj^ol. DAMWAIN YN TROI YN ANGEUOL.—Caf- odd dyn o'r enw David Davies ei anafu gan y freight cars rhwng Massilon a Lawrence, 0., nos Sadwrn y 10 o Orphenaf diweddaf, a barnodd ei gymydogion yn Lawrence, mai gwell fyddai ei anfon i'r Hospital. Dydd SuJ y 3ydd o'r mis hwn, cymerasant ei glun ymaith; a bu yntau farw ar y 6ed, a chladdwyd ef ar y 7fed yn ngladdfa y Seison, ger Lawrence. Claddwyd ef yn barchus. Brodor oedd o Dowlais, D. C., ac adnabyddir ef yno fel "Dai y Brenin." Mae iddo frawd a chwaer yn Nghymru. -Darfu i'r Christian Missionary Society mewn cyfarfod diweddar yn Louisville, Ky., basio penderfyniad i godi trysorfa ganmlwyddol o $500,000 i'w defnyddio i Gristioneiddio negroaid Americanaidd. Mae eglwys Capel y Bedyddwyr yn Warren Avenue, Boston, yr hwn sydd yn 125 mlwydd oed, wedi dileu y rheol hono oddiar ei dysgyblaeth, oedd yn gofyn fod i bob aelod gael ei droclii cyn derbyn cym- undeb. -Mae y rheithwyr fuont yn eistedd ar yr achos yn nihrawf y Parch. Henry Ward Beecher wedi anfon deiseb at awdurdodau King's County, am ychwaneg o dâl. -Mae Lloegr yn ewyno fod Rwsia wedi anfon milwyr i Karateghin, yn Afghan- istan, ac felly fod y milwyr 150 milltir dros y terfyn Gofynir i Rwsia eu galw yn ol yn ddioed. --Darganfyddodd Prof. Watson o arsyllfa Ann Arbor, Michigan, blaned newydd yr wythnos ddiweddaf. Mae o'r 10fed gradd; gogwyddiad 6g. 54m.; ysgogiad 5 gradd. LLOFRUDDIAD YN DENVER, COL.—Ar yr 21ain cyflsol aeth heddgeidwaid i mewn i fwthyn, lie yr arferai Italiaid fyw, er cael allan yr achos o ddrewdod mawr oedd yn y lie; ac yn y seler deuwyd o hyd i gorff hen ddyn a chyrff tri o fechgyn, oil wedi eu llofruddio drwy dori eu gyddfau. Mae wrfanarferolynylle. AETHU DYN YN LLE COSTREL- Darfu f R. G. Mc. Williams, Bethany, Louisia- tra dan ddylanwad diod feddwol, orfodi ero Stephens i gynyg saethu costrel iar ei ben. Saethodd amryw eraill ati y dechreu; ond methodd Stephens y trel, ac aeth y belen trwy ben Dr. Mc lliams, yr hwn a syrthiodd i lawr, ac a ,wedodd mai ergydiwr gwael ydoedd,ei ef wedi ei ladd, ond nad ydoedd bai ar phens. ILOFRUDDIAD ERCHYLL—Ar nos yr 20fed ,sol cyflawnwyd cyflafan erchyll yn Or- 1, Swydd Oswego, N. Y. Cafwyd Mrs. >rge Greenfield yn ei gwely a'i gwddf ii ei dori o glust i glust. Aeth ei gwr i ei dad i gysgu y noson hono, gan ddy- lyd fod ei wraig yn myned i ffwrdd. y nos dywedodd iddo weled goleuni yn 1 £ a chyfododd y bobl i fyn'ed gydag fno. Wedi myned yr oedd y ty yndy- 11, a deuwyd o hyd i'r wraig yn farw yn wely. Yn y boreu cymerwyd y gwr i'r char, ar y eyhuddiad o lofruddio ei aig. Dywedir mai eiddigedd oedd yr auilOS. TAD YN LLOFRUDDIO EI DDAU BLENTYN, AC YN SAETHU EI HuN !—Cymerodd cyflaf- an arswydoIle yn Hacketstown, N. Jersey, odydd Sadwrn wythnos i'r diweddaf, fel y canlyn: Yr oedd dyn o'r enw John Rut- ter, 45 mlwydd oed, a'i wraig, yn nghyda dau fachgen, 7 a 4 mlwydd oed yn byw yno; ac yr oedd Rutter yn ameu ffyddlon- deb ei wraig. Y diwrnod a enwyd daeth adref i giniaw, ac yr oedd Mrs. Rutter mewn ty cymydog yr ochr arall i'r heol, a'r ddau blentyn yn chwareu ar y llawr. Wedi galw ar Mrs. Rutter, a liithau heb glywed, ymwylltiodd y dyn truenus a saethodd y bachgen hynaf yn ei ben nes oedd yn farw yn y fan; rhedodd yr ieu- angaf at y drws ond cydiodd ei dad yn- ddo, ac er i'r bychan waeddi peidiwch papa, peidiwch papa, taniodd ac aeth y belen drwy ei ben yntau, fel y bu farw yn y fan! Erbyn hyn yr oedd y fam wedi rhedeg i'r lie, ac amcanodd Rutter ei saethu hithau, ond methodd. Ar ol hyn trodd y dryll ato ei hun, a saethodd belen i ochr ei ben, ond llitlirodd ymaith heb wneyd llawer o niwed; yna taniodd yr ail waith, ac aeth y belen i'w wddf. Syrth- iodd, ond nid yn farw; a symudwyd ef i'r carchar, a dywedir nad ydyw yn an- mhosibl iddo wella. Crewyd cynwrf mawr yn y lie; ac angladd y bechgyn bychain oedd y mwyaf a welwyd erioed yn y lie.
Y GWRTHRYFEL YN TWRCI.
Y GWRTHRYFEL YN TWRCI. Er fod adroddiad ar led am derfyniad y gwrthryfel yn Herzegovania, ymddengys fod rhai minteiodd eto yn cario arfau, ac mae y Twrciaid yn casglu eu lluoedd i Zubei. —Mae y gwrthryfel yn parhau yn Spaen, a tliywallt gwaed dros ranau helaeth o'r wlad, heb ddim gobaith am heddwch. -Cymerodd etholiad Arlywyddol le yn Peru yn ddiweddar; ac ymddengys fod Senor Pardo wedi ei ethol. Bu yno der- fysgoedd blinion, a chollodd amryw eu bywydau. —Cyrhaeddodd dwy long yn llawnion o filwyr o Spaen i Cuba yr wythnos ddi- weddaf.
MARWOLAETHAU OYMRU.
MARWOLAETHAU OYMRU. Y GOSLEDD. Medi 10. John Williams, Post Office, Trelech, yr hwn oedd frawd i'r Parch. S. Williams, Llanberis, ac yn fab i Mrs Williams, Castellnewydd Emlyn. Medi 12, yn 93 oed, -Jane, gweddw y diweddar Rob- ert Jones, amaethwr, Cedlar, Botwnog, a chwaer y diweddar Owain Lleyn. Medi 16. yn 55 oed, Margaret, gwraig Capten John Hughes, o'r scwner Pearl, Wesley St., Caernarfon. Medi 20, yn Ovenden, ger Halifax, Yorkshire, yn 25 oed, Ellen, anwyl briod Joseph Hughes, saer, Kliosbach, Llaneilian, Mon. Medi 20, yn 80 oed, yn Mhlas Tegid, Bala, Thomas Lloyd. Medi 22, yn 31 eed, Mary, anwyl briod Robert Thomas, o'r Gelli, Rhydwen, eir Fflint. Medi 23, yn Nglasgow, yn 25 oed, John, ail fab William Jones, Bush Bach, Port Dinorwic. Medi 23. yn 62 oed, Mrs. Margaret Ellis, Aberllef- eni, a main y Parch. Griffith Ellis, Bootle. Medi 23, yn 85 oed, yn Belle Vue, Lo^er Park, Rhuthyn, Anne Parry. Medi 24, yn 68 oed, Mary, gwraig William Jones, ffarmwr, Pwll-llechog, Nantmor, Beddgelert. Medi 25, yn 61 oed, yn mhreswylfod y Parch. John Williams, Cae Coch, ger Trefriw, Mary Ann, merch henaf y Parch. John Davies, gweinidog Annibynol, Nant Uchaf, Trefriw, wyres y Parch. John Williams, o'r lie uchod. Medi 25, yn 74 oed, Catherine, priod Mr. Rowlands, 3 Wynne St., Caergybi. Medi 25, yn ei phreswylfod, Fern Villa, Rhyl, yn87 oed, Mary Anne Falkuer. Medi 26, yn 46 oed, Henry Lloyd, Crown Hotel, Corwen. Medi 27. yn 75 oed, yn ei phreswylfod, 23 Green- gate st., Caernarfon, Ellen Roberts, gweddw y di- weddar John Roberts, cooper. Medi 30, yn 82 Boundary st., Lerpwl, yn 42 oed, Annie, gwraig Peter Edwards, grocer. v Medi 30, yn 38 oed, David Jones, Bryn Barlwyd, Tanygrisiau. Medi 30, yn ei breswylfod, 22 Cochrane st., Ever- ton, Lerpwl, yn (3 oed, Hugh Owen. Hydref 1, yn 15 oed, William Evans, mab ienengaf y Parch. M. Evan., Penarth, Maldwyn. Hydref 2, yn Bryntiriou, Henllan, Mrs. Anne Da- vies, gynt o Ffynon Ddu, Gyffylliog, yn 75 oed. Hydref 5, yn 59 oed, yn Rhislas Villa, Trefriw, ThomaB Amos, Rhyl. Hydref 5, yn 66 oed, Mrs. Mary Davies, priod y di. weddar Robert Davies, Pandy'rodyn, ger Dolgellau. Y DEHEUDIR. Medi 9, yn 1 flwydd ac 8 mis oed, Mary Jane Da- vies, merch David ac Abigail Davies, Carmarthen Arms, Dean st., Aberdar. Medi 18, yn 19 oed, Catherine Davies, 59 Ynysgau, Merthyr. Medi 18, yn 76 oed, Ann Davies, 1 New Inn Court, Penydarren, Merthyr. Medi 20, yn 57 oed, Ann Rees, 2 Upper Colliers' Row, Merthyr. Medi 20, yn 77 oed, David Williams, agent, 1 Mar- garet st, Merthyr. Medi 5. yn 13 oed, Edward Francis, Dowlais Oil Works, Dowlais. Medi 21, yn 29 oed, Catherine Burns, ,2 Cross Keys St., Merthyr. Medi 21, yn 69 oed, Rachel Davies, 15 South st., Dowlais. Medi 22, yn 30 oed, Mary Ann Tyrrel, 10 Pottery row, Merthyr. Medi 22, yn 63 oed, Ann Barker, 15 Sand St., Dow- lais. Medi 23, yn 42 oed, Phoebe Davies, 28 Russell st., Dowlais. Medi 24, yn no oed, Charles Taylor, Professor of Music, Farmer's Arms, Heol Fawr, Merthyr. Medi 27. yn li3 oed. John Thomas, flour merchant, Reol y bon t, Llandeilo. Medi 28, y Parch. James Wilkins, o FfrtbYr. yn nhy ei fab yn Nghjdweli, yn 79 oed. Yr oedd (I L dyfod i Gydweli yn nghylch chvvech wythnos CVR hyny. Yr oedd yn wan iawn pan y daeth, a odd yn raddol o'r amser hyny hyd nes tynn yr HII:I,Il- iad olaf. Dec.hi-enodrt ei yrfa grefyddoi yn y flwydd- yn 1811. Bedvddiwyd ef yn Nglanyfferi, gan y Parch. Daniel Davies, o'r Felmfoel. Parhaodd yn fEydd- 0, lawn ac yisidrechol gyda'r achos hyd y diwedd, a'i gymeriad yn dflisjlaer Hu yn pregethu vr efengyl am o gylch 59 o flynyddan, a gellir dweyd am daoo ei fod ef yn wr cadaru yn yr ysgrythyrau, ac yn breg- ethwr da. Hydref 3. yn 60 oed, Thomas Evans. Giyn Nedn. tad John Evans Aberdar, Ysgrifenvdd Eisteddfod Alban El fed gynt. ° Hydref 3, yn 20 oed, John, mab Richard Wigley, 25 Meirion St., Trecynon. Hydref 5, yn 55 oed, David Jones. Chester, gynt e Towyn, yn nhy ei frawd-yn-nghyfraith, y Parch. W. Edwards, Meirion Cottage, Heoiyfelin. Yn ddiweddar, yn Nghaerdydd, David Bv.ms, yn 102 oed. Hydref 5. yn 42 oed, yn y Pilot Inn, Penarth^'W Amnlia Llewellyn, anwyl briod William Pullen.
::::: Adolygiad y Wasg.
Adolygiad y Wasg. LL YFRA TJ AC A WD URON. "AR DDYMUNIAD rhai o'i gyfeillion," y mae yr henafgwr S. R. wedi ysgrifenu Crynodeb o Helyntion ei Fywyd; a dywed • ir tod yr adgofion yn hynod o ddyddorol, ac wedi eu gwneyd i fyny yn llyfr destlus. | YSGRIFENA Mr. Samuel R. Thomas, Ashley, Pa., i hysbysu mai WILLIAM JONES, gynt o Dafarn y Gath, Llandegla y, n la], yw awdwr y penill— Er nad yw InghnaNvd ond gwellt, A'm hesgyrn ddim ond clui, Mi ganaf yn y mellt- Maddeuodd Duw fy Jlilal; Mae Craig yr Oesoedd dan fy nbraed, A'r mellt yn difEodd yn y gwaed." "Adnabyddir y bardd," meddai, "wrth yr enw Hedydd Ial, ac y mae yn fyw ac iach yn awr. Dywedodd Clwydfardd ar lwyfan Eisteddfod Fflint, mai dyma y penill goreu yn yr iaith Gymraeg. Ceis- I iodd rhywun ddweyd yn y Gwladgarwr mai Ann Griffiths oedd ei awdwr, am yr hyn y digiodd yr Hedydd yn ddirfawr; a throes y penill yn englyn yn diweddu fel hyn: "Ond ffydd fyw ddiffodda felld." Dywedai wrthyf mai wrth edrych ar lightning rod ar ben ty y daeth y syniad i'w ben." "ONLY IN FUN," a new Ladies' Serio- Comic Song with Waltz Glwrus.- Y geiriau { gan Arthur W. French, a'r gerddoriaeth gan R. S. Crandall, cyhoeddedig gan F. W. HELMICK, 278 W. Sixth Street, Cincin- nati, O. Pris 50 cents. Dyma un o gan- {• euon mwyaf swynol y tyrnor, ac y mae J galwad anarferol o fawr am dani. Mae y title page yn dlws, wedi ei argraffu mewn gwahanol liwiau, gyda photograph o Miss ADAH RICHMOND yn y canol. A ganlyn yw y penill cyutal: Each afternoon dressed in fashion, 1 promenade out in the street— O'er everything else I've a passion To flirt with the gents whom I meet; Of course it is wrong, you are saying, And tell me it should not be done, It is only a game I am playing- And it's only, just only in fun. i HEAVEN BLESS MAMMA, can a chydgan brydferth, gyda titlepage hardd-y geiriau gan M. Salomon, a'r gerddoriaeth gan P. j Arnold de Thier. Cyhoeddedig gan F. W. HELMICK, 278 W. 6th Street, Cincinnati, 0. Pris 40 cents. Neu gellir cael y dern- yn hwn ac "Only in Fun" drwy anfon 75 cents i'r cyhoeddwr: 0 mamma, tell me when I die, Will angels take me to the sky ? For Mary says so, is it true? Will God make me an angel too ? Have angels wings, 0 mamma dear? And do they always hover near? And when my eyes are closed in slefp, Do they their silent vigils too, keep? CJio.— rm growing sleepy, dear mamma, Perhaps to-night I'll dream of pa. When I'm a man I'll work for you, God bless you mamma, and bless me too. DYDDIADUR y Trefnyddion Calftnaiddyn y Talaethau Unedig, am 1876, gan y Parch. THOMAS JENKINS, Utica, N. Y. Pris 25c. os telir cyn dechreu y flwyddyn, a 30c. ar ol hyny. Mae y Dyddiadur wedi ei ddwyn allan yn amserol, ac ymgymerodd Mr. Jenkins a'r anturiaeth drwy anogaeth Cymanfaoedd New York, Ohio, Pennsyl- vania A Wisconsin, yr hyn a ddylai sicrhau iddo werthiad buan. Mae yn llyfryn hardd, o blygiad hwylus i'w gario mewn cesail-logell, heb ei ddyfetha. Ceir yn y dechreu du-dalen ar gyfer pob wythnos o'r flwyddyn, a lie i ysgrifenu co'fnodiadau dyddiol ag inc neu bwyntl; yna adran Cymru, yh cynwys rhestr o weinidogion, pregethwyr, addoldai a theithiau Sabboth- ol y Methodistiaid Calfinaidd, drwy y Gog- ledd a'r Deheudir. Hefyd cynwysa ys- tadegau yr enwad yn ninasoedd Lloegr, a rhestr o farwolaethau pregethwyr y T. C. yn 1874. Ar tudalen 88 dechreuayr Adran Americanaidd, ac mae yn ymddangos fod y cyfrifon a'r ystadegau yn hynod o gyf- lawn. Mae y papyr yn dda, yr argraffiad yn lan, eglur a thlws. Dylai y DYDDIADUR hwn werthu yn rhwydd, canys mae yn llogell-lyfr rhad a hwylus i bawb. YR EURGRAWN WESLEYAIDD am ITydref, 1875, cyhoeddedig yn Llyfrfa y Wesleyaid, 31 Victoria Place, Bangor, North Wales, G. B. Wele y 10fed Rhifyn o'r 67 gyfrol o'n blaen o'r misolyn uchod, yn llwythog o ddan- teithion meddyliol at wasanaeth y Method- istiaid Wesleyaidd, ac eraill hefyd os darllenant ef. Yn y dechreu ceir cerflun dur o'r Parch. John Smith, (A.,) South Affrica, heb un gair o fywwrafflad fel arfer- 01. Mae yr Eurgrawn yn cynwys llawer o ddarlleniad, y llythyren yn lied fan a'r llinellau yn agos at eu gilydd; acmae yn mhob rhifyn 43 o dudalenau. Pris, chwe' cheiniog. Cynwysa y rhifyn hwn, yn mhlith pethau eraill: Tragwyddol Gosp, Adfywiad Crefyddol, Y Beibl a Gweddi, Uchelgais, Anerchiad Blynyddol y Gyn- adledd, Dyddiau neillduol o weddi dros ein plant, Sefydliadau gweinidogion, Bardd- omaeth, hanesion a'r Genadaeth Wesley- aidd. HARPER'S NEW MONTHLY MAGAZINE am Tachwedd, 1875.—Dyma un o'r misol- lon helaethaf, rhataf a mwyaf dyddorol yn y wlad. Cynwysa y rhifyn hwn 151. o du- dalenau am 35c., neu$4 y flwyddyn yn ddi- draul drwy y post, am gyfrol yn cynwys 1,812 o dudalenau. Erthygl hy'od o ddyddorol yn y rhifyn presenol ydyw LIVING GLACIERS OF CALIFORNIA, yn yr hon y ceir eglurhad ar y mynyddoedd o ia yaynt yn ffurfio yn awr yn nghilfachau creigiau amynyddoedd California. Y mae U Henyddol am BAUTIY Tamp^SOME OF HRS friends gan a DVDDORRL^^S' ^T1 LLAWN o addysgiadau, arlunT BOB bardd a lienor. Mae WilUam LAML». S. T. Coleridge, Willis RS)er^0rth' Jolin Keats" "P- Walter S. LAND^S^' 1°R'N K(T?Y?N,' Hunt, Samuel ROO-ERS Leslie, William Hazlitt BONNF N Bryan Waller Proctor & ? darllenydd ar unwaith i wydd CEWI^UEN yddol yr oes. N chaniata^iu GOFOD ni sylwi ar y gweddill o GYNWYSIAD^ y RHifyn hwn, ond y mae yn dda drwyddo. t
[No title]
—Mae Jacob Stauderman, yr hwn a lof- ruddiodd Miss Louisa Sidenwall, yn heol Chatham, New York, i gael ei groin ar y lOfed o'r mis nesaf; ac hefyd crogir Edwin Tilomas. dyn du, am lofruddio negro arall yn Auburn, yr un diwrnod.
DINAS NEW YORK.
DINAS NEW YORK. (ODDIWRTH EIN GOHEBYDD.) NEW YORK, Hyd. 25.-Y mae yn hysbys na fu gweinidog sefydlog ar eglwys y T. C. yn y ddinas hon er marwolaeth Mr. Powell. Yr oedd yn gofyn amser, ystyriaeth fanol, ac ymchwilgar, i feddwl am olynydd teilwng i'r gwr da hwnw. Y mae'n haws taro ar ddyn craffus a galluog o feddwl nag un yn meddu prif gymwysderau bugail.- Gyda'r ystyriaeth hon mewn golwg, deall- wn fod swyddogion ac aelodau yr eglwys, wedi bod ynymdrechu ymnno ac aeddfedn mewn barn o barth i berson dymunol; ond er pob ymdrech, yr oedd yn naturiol dis- gwyl gwahanol olygiadau. Yr un ag y dygwyd ei enw yn swyddogal o flaen yr eglwys ydoedd y Parch. Mr. Humphreys, Pittsburgh, a chlywsom fod y mwyafrif wedi votio yn ffafrei alw; hyny yw, mwyaf- rif o'r rhai a bleidleisiasant; yr oedd dros haner yr eglwys heb wneyd eu meddyliau i fyny y naill ffordd na'r Jlall. Nid ydym yn ameu os y gelwir ef, ac y eydsynia yntau, nafydd yn gaffaeliad i'r achos Cym- reig yn y ddinas. Ar yr un pryd, nis gallwn lai na cbredu fod ymgais lwyddian- us wedi ei wneyd gan greawdwyr drych- feddyliau yn yr eglwys i reoli barn a dewisiad rhai heb fod mor wreiddiol, llygadog a blaenllaw. Nid ydym yn honi, cofier, i neb gael cam; on'd cyfeiriwyd golygonyr aelodau i un pwynt—Humph- reys—yn fwy trwy ddylanwad allanol na hunan-we thrediad personol. Y mae 11 u- aws o'r aelodau yn gyfansoddedig o ferched ieuainc, ac fel y cyfryw yn wylaidd gyda golwg argynygtrefniadau 'neu welliantau. I wneuthur chwareu teg a hwynt, dylesid rhoddi mantais i eiiwi eu person dewisol ar docyn, yn ddirgel, yn annibynol ar, ac yn absenoldeb dylanwad blaenorol; yna daethai gwaith y condensio rhagllaw, er mwyn ymostwng i farn y mwyafrif. Tra y mae genym o fewn cyraedd, rai dynion ieuainc galluog a gobeithiol, heb eto eu hanrhydeddu a gofal bugeiliol, ac eraill sydd yn llafurio yn mhlith y Cymry, teilwng o ddyrchafiad, nis gallwn weled y priodoldeb na'r angenrheidrwydd o fyned i blithy Presbyteriaid Seisnig i chwilio am fugail ar eglwys Gymreig 13th street. Gresyn meddwl fod yr Hen Gorff yn talu am addysg golegawl i fecligyn o ath- rylith, pa rai, o ddiffyg cefnogaeth a gal- wad gan eu cenedl eu hunain. a ddefnydd- i int eu talentau i hyfforddi, addysgu a moesoli a chrefyddoli estroniaid. Nid yd- yw y goddefiad anesgusodol, ond cynyddol hwn, ond cnul marwolaeth yr laith Gym- raeg, ac arwydd diffoddiad graddol ein cenedlgarweh. Onid ydym yn rhy chwan- og i batronizio dynion sydd eisoes mewn sefyllfaoedd ac eglwysi anrhydeddus a llewyrchus, ar draul esgeuluso dynion ieu- ainc gobeithiol, ac a fyddent yn addurn i'r fugeiliaeth Gymreig, pe y caent yr iawn gyfleusdra. Da genym weled am bell i bregethwr ieu- anc yn meiddio gwrteithio meddwl anni- bynol, ac arfer gwrolder i'w draethu, heb grynu yn ngwyddfod y diaconiaid- Nid ydyw ofn diaconiaid ar bregethwyr wedi darfod eto. Y mae'r dosbarth blaenaf yn y cylfredin yn fwy arianog na'r olaf; efall- p ai mai yna y gorwedd y dirgelwch. Chance gwael fuasai i wneuthurwyr pebyll a physg- odwyr reoli crefydd yn yr oes hon! MOODY A SANKEY. Ddoe dechreuodd y diwygwyr hyn ar eu llafur yn Brooklyn mewn Rink digon eang i gynwys o 8,000 i 10,000. Yr oedd yr ad- eilad yn orlawn, a miloedd o'r tu allan yn methu cael lie i fyned i fewn. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y ddau ddiwyg- iwr, a chan y Parchn. Cuyler, Dr. Duryoa, Dr. Prime, Dr. Budington, Dewitt Tal- madge ac eraill. Arddangosid cryn lawer o deimlad yn y gwasanaeth, a phroffwydir y bydd dylanwadau daionus yn cydfyned a'r ymdrechion hyn. Un o arwyddion gobeithiol yr amserau ydyw, fod pregeth- wyr sensational fel Beecher a Talmage yn pleidio y symudiad gyda brwdfrydedd an- arferol. Bwriedir cynal y cyfarfodydd diwygiadol yn y Rink bob nos drwy y gauaf, gyda'r eithriad o nos Sadwrn; ond nid yw yn debygol yr erys Moody a San- key yma ond am dymor byr-digon i godi steam, fel y dywedir; gan fod galwad am danynt mewn lleoedd eraill, megis Phila- delphia, Chicago, &c.
[No title]
LLUNDAIN, Hyd. 26-Caed tymestloedd o wyntoedd a gwlawogydd anarferol mewn rhai parthau o'r wlad; a bu y llifogydd yn hynod ddinystriol yn nghylchoedd Sheffield Mae dyffryn yr Afon Don yn ffurfio Ilyn haner milltir a led a llawn 15 milltir o hyd. Boddwyd amryw o lofau a gweithfeydd haiarn, yr hyn sydd wedi taflu miloedd allan o waith. Gorlifodd yr afonydd Se- vern, Wye, Avon, &c., eu glanau, a chaed coliedioa mawrion. Bu y llifogydd mor uchel yn Durham a Darlington, nes boddi y gwaith llWY, a tliafiu y dinasoedd i dy- wylhvcli dudew. Taflwyd 2,000 o bobl allan o waith yn Rutherham gan y llifeir- iant. Aeth G. D. Neroulsos & Co., yn fethçialwyr. Dyled £ 25,000. Dywed y London limes fod y llanw wedi troi o'r diwedd vn ffafriol i America, a bod mas- nachdy mawr yn Manchester yn prynu calico yn y Talaethau Unedig. Dywed fod y calico yn harddach, ac yn well, a bod Manchester wedi cyfarfod a chvstadlydd o'r diwedd. Hysbysir fod Mr. Wade, cynrychiolydd Lfnegr yn China, wedi llwyddo i wastadhau yr angliydfod, a pharhau heddwch.
YMERODRAETH GERMANI.
YMERODRAETH GERMANI. MUNICH, Hydref 26—Mae cryn derfysg yn Senedd Bavaria. Rhoddodd y gweinid- ogion eu swyddi i fyny; ond gwrthododd y Brenin dderbyn eu cais. Hefyd gwrth- ododd y Brenin dderbyn anerchiad a an- fonwyd iddo gan y cynrychiolwyr. Mae amcan-gyfrif derbyniadau yr ymerodraeth am 1876 yn fyr 0 15,000,000 marks. Mae achos Count Yon Arnim eto o flaen y cyhoedd.