Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Y DIAWL TU OL PR SCREEN

News
Cite
Share

Y DIAWL TU OL PR SCREEN Fel yr oeddwn y dydd o'r blaen yn cardd- ed ar hyd yr heolydd, a chenyf amser i syl- wi, cymerais hamdden i wneyd ardremiad ar y masnachdai. Yr oedd y diwrnod yn lied boeth, a'r drysau yn agored, felly cef- ais gyfleustra i edrych i mewn. Yr oedd y cigwyr, y pobwyr, y iferyllwyr, y siopwyr, y dilladwyr, a'r eillwyr oil yn brysur gyda eu gwahanol orchwylion—y siopwyr yn dangos eu nwyddau i'r prynwyr, a phob peth yn agored ar g'oedd; hyd yn nod pan oedd dyn yn cael ei eillio, yr oedd yn eis- tedd yn arnlwgnes i'r gwaith gael ei orphen. Ond wrth fyned heibio i ddosbarth arall o fasnachdai, y rhai oeddynt wedi tynu y lleni dros eu haner isaf, os nad dros yr oil o honynt, a'r drysau yn nghauad, neu or- chuddlen o flaen y drws, neu yn agos i'r counter, yno yr oedd rhywbeth ag yr oedd dynion gywilydd ei arddel yn gylioeddus. Pabam? Yn y restaurant gerllaw mae yr holl ffenestri yn agored o led y pen, ac nid oes neb yn cywilyddio pe byddai llygaid y byd yn edrych arnynt yn bwya cig eidion a ohig dafad, a chioron, ac yn yfed dwfr neu laeth. Ond pan fydd dynion yn myn- ed i geisio drink ant tu ol i screen. Nid yw yn rhyfedd! Siaradant fel y gwelant yn dda; gwyddant nad ydynt yn gwneyd yn iawn, ac y mae arnynt gywilydd eu bod yn gwneyd y fath beth. o Y mae yr yfwyr cymedrol :yn ddigon i berii ddyn golli ei amynedd; yfant, pan ar yr un pryd yn gwybod y dylent beidio; mae arnynt gywilydd o'u gwaith-dyna pa- ham yr ymguddiant tu ol i'r screen, a rhodd- ant bob math o esgusawd a allant ddyfeisio dros eu hymddygiad. Paham nad esgus- oda dyn ei hun am fwyta darn o beef-steak, neu yfed cwpanaid 0 goffi ? Y mae ei gyd- wybod yn rhydd pan yn gwneyd hyny. Y mae y Beibl yn llawn o rybuddion yn er- byn yfed diodydd meddwol, hyd yn nod gwin—gwin pur. Ond y mae rhai pobl nad ydynt yn gofalu beth a ddywed y Beibl, troant i lyfr arall; cred y mwyafrif yn Shakespeare, o herwydd ei wybodaeth ryf- eddol am y natur ddynol a ffyrdd dynion. Gwrandewoh ;)rno: "O! dynion yn rhoddi gelyu yu¡.¡u gensiii i ladruta ymaith cu hym- 7 %} enydd!" Och, yr ydym oil wedi gweled hyny,ac nid rhyfedd fod y bardd yn galaru o'r herwydd drachefn, ac yn gryfach fyth: 0, tydi ysbryd anweledig y gwin' gan nad oes genyt enw wrth yr hwn y'th ad- waenir, gad i ni dy alw yn ddiafol!" Ni ddywedodd dyn erioed air mwy gwirion- eddol. Os oedd sefyllfa y cyfryw a fedd- ienid gan ddiafol, neu yr ysbryd drwg, yn waeth na sefyllfa rhai dynion a we|som ni wedi eu meddianu gan ysbryd y gwin, rhaid ei fod yn anrhaethol ofnadwy yn wir; ac mae yr holl ddrygau yna yn dyfod drwy yfed cymedro], Nid oes yr un dyn yn suddo i'r arferiad gwarthus mewn un dydd neu wythnos. Yn amryw o'r gweithfeydd mawrion y mae rhanau o'rpeirianau yn hynod beryglus; os tynir dyn neu ddynes i mewn iddynt, bydd y cyfryw yn ddi-help, a gwaredigaeth yn anmhosibl; byddant yn sicr o gael eu chwyrndroi oddiamgylch a'u llethu gan nerth dirfawryr olwyn a'r gwregys, neu eu, malurio gan grafangau a danedd ha:m di- dosturi. Pa fodd mae dynion yn gwneyd, ai myned mor agos atynt ag y gallont, ac yn rhoddi blaenau eu bysedd i mewn?- Nage; ondcadwant can belled oddiwrthynt agy byddo modd. Nid oes ond diofalwch neu ddamwain a ddaw a'r dyn i'r cyfryw berygl. Er hyny, pwy sydd yn cadw draw oddiwrth y cyfryw beiriant a. droir gan y diodydd meddwol? Acy mae dynion ya rhoddi gwyliadwriaeth a gorchudd-leni o ajngylch y peirianau peryglus hyn; ond pan ydym ni yn anog dynion i gadw yn mhell oddiwrth "ddiawliaid" arswydus Shakespeare, dywedir wrthym nad oes gen- ym ddim busnes i gwtogi rhyddid dynion, hyny yw, os byddant yn dewis cerdded i'r peiriant ofnadwy hwn, a dyfod allan yn anafusion ysigiedig,i ni eu cadw hwy a'u teulu oedd ;dywedant y rbaid i ni adael idd- ynt; nad oes genym hawl i ymyraeth. Wel, finau h}?n yna yn gwtogiad ar ein rhyddid. Na, nid yw o un dyben siarad a dynion tu ol i'r screen. Ond gadewch i ni ddechreu gyda'r plant, i'w cymell hwy i beidio yfed. A chwi yfwyr cymedrol, a fydd i chwi ddim cadw tu allan i'r screen? Os na wnewch, bydd i'r danedd haiarn eich tynu i mewn, a'ch anafu gorff a chymer- iad. A chofiwch na chaifl. meddwon etif- eddu tragywyddol orphwysfa y saint. Utica, N. T. PWY.

G WEI TUFA O L—MA SNA CHO…

CTMANFA Y T. C. YN WISCONSIN.

LJLA TVER MEWN YCHYDIG.

Y GWRTHRYFEL YN TWRCI.

MARWOLAETHAU OYMRU.

::::: Adolygiad y Wasg.

[No title]

DINAS NEW YORK.

[No title]

YMERODRAETH GERMANI.