Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
Advertising
EIJV TELERAU AM 1875. Pris yn mlacii llatv$2.50. Pris y DRYCH SW Pris y DRYCH i Canada .$2 70 Pris y DRYCH i Gymru 350 Anfouer arian mewn Post Office ■Order neu Registered Letter, neu mewn lJraft arlJSiew York, taladwy i T. J. GRIFFITHS, DRYCH OFFICE, UTICA, N. Y. Heb Erioed Ffaelu. Ni wybuwyd i DR. MORRIS' SYRUP OF TAR, WILD 'CHERRY AND HOREHOUND erioed fethu rhoddi 'gweUadl'ærhaol oddiwrth Beswch, Anwyd, Croup, Whooping Cough, neu unrhyw anhwyldeb arall ar y peiriftnau anadlu—a gwna hyny hefyd yn union- gyrclwlJ Ni raid ei gymeryd am amser maith er effeithiau daioinus. Gwerthir symiau aruthr- <01 e bono, ac mae ei boblogrwydd yn gyffredinol. Ni « idylid ei restru gyda meddyginiaethau wedi eu par- (otoi gan bersonau anghyfarwydd. Rhoddir sicr- "iWJlfid fiiymwad ei fod yn gyfansoddedig o'r defn- yddiau puraf a goreu, wedi eu parotoi mewn dull igwyddonol, a'i fod bob amser yn rhoddi boddlon- mydd. Rhoddwch brawf ar ymeddyginiaeth gwerth- fawr ac effeithiol hwn. Ni wna ac nis gall eich siomi. Treiwch ef unwaith. Gofynwch am Dr. Morris1 Syrup of Tar, Wild Cherry and Horehound, a gwrthodwch bob un arall. Prawf botelau 10 cent. Gwerthir ef gan gyfferwyr yn mhob man, a chan C. 11. Williamson a'i Gwm., Utica, a Francis Etheridge, Seme, N. Y. #0^bfo|)r an jD^-cr^pn-boprr. tJwobr i'r Beirdd.— Cynygia Ap DAFYDD, 'Braidwood, Ill., @5 o wobr am y cyfieithiad goreu i'r Saesneg o'r penillion a ymddangosasant yn y DRYCH am Hydref 7fed, "Ar Farwolaeth merch fechan John a Margaret Ormond, Braidwood." jggT" Y cyfansoddiadau i'w hanfori i Swyddfa y DRYCH eriun Tachwedd lOfed. Mae Ap Dafydd wedi ymddiried y wobr i ni i'w chyflwyno i'r budd- .tigwr. Y Gair Cherish."—Ysgrifena y Parch. J. Da- vies, Winne, Me.: BARCHUS OLYGYDD—Mae'ti wir i mi ysgrifenu ych- ydig linellau yn nghylch y gair 1, Cherish," ond nid '!iVyf yn deall pa fodd y daethant i law y Sylwedydd -sraff,1 yr hwn a'u hanfonodd i'r DRYCH. Ond mae Siynyna o'r goreu. Ond yn enw dyn, paham y mae ;yu rhaid cael y peth bach yn benbleth o wallau, hyd yn nod fel nas gallaf adnabod fy ysgrif fy hun, ond ■o'r braidd? Yn lie Most Reverand" (!) darllener Most Venerand," h. y., yn y Llndin, Venerandissi- ■jaus, neu Makime Venerandus, sef Y Mwyaf i'w An- rhydeddu. Dyna un o deitlau yr Archdderwydd Cy- ilrediiiol, a roddir iddo oddiwrth ei fam Keridwen. -J. Davies.
DYDD IAU, HYDREF 28, 1875.
DYDD IAU, HYDREF 28, 1875. T. J. GRIFFITHS, Cyhoeddwr. GOLYGWYR, J. W. JONES, J. C. ROBERTS. TANYSGRIFIWCH YN DDIOED.-Dymun- •<em hysbysu yr anfonwn y rhifynau o hyn i ddiwedd y flwyddyn yn rhad i dderbyn- wyr newyddion; hyny yw, ar dderbyniad $2,50 yn awr, cliriwn y tanysgrifiwr i Hhagfyr 31, 1876. Gwnaed cyfeillion y DRYCH bob ymdrech i gasglu enwau new- yddion yn ol y telerau hyn. AGENTS YN EISIAU i ganvasio dros y DRYCH yn yr feoll ardaloedd Cymreig. Telerau manteisiol. Ym- ofyner a T. J. GRIFFITHS, DRYCH Office, Utica, N. Y.
[No title]
DYWEDODD y Parch. G. S. Willis, mewn .anerchiad yn New York yr wythnos ddiw- sddaf, tra yn ymresymu yn erbyn y symud- sad i gau y Beibl allan o'r ysgolion dyddiol, fod tri o bob pedwar o holl dlodion a •chrwydriaid America yn Babyddion, a phedwar o bob pump o holl ddrwgweith- redwyr y wlad yn Babyddion. Yn 1869, yn ol adroddiad swyddogol, yr oedd yn y ITalaethau Unedig 71,000 o ddrwgweithred- wyr, o'r rhai yr oedd 56,000 yn Babydd, ion, a dim ond 15,000 yn Brotestaniaid.- Hefyd dywedodd fod Esgob Ohio yn aw- .yddus am i'r Pabyddion fod yn geidwaid yn y carcharau, o herwydd fod naw o bob deg yno yn perthyn i'r grefydd hono.
[No title]
HYSBYSIR fod nifer o soddwyr, a dynion ydynt yn gwneyd eu bywoliaeth drwy godi 'Uongau a badau suddedig, casglu gwedd- itllioa llongddrylliadau, mewn gobaith da JVl -awr y gallant godi llong a suddodd yn Llyn Erie dair blynedd ar hugain yn ol, yn aghol yr hon y mae gwerth $150,000 o irliisky! Credant fod y barilau yn llawn- ion o whisky, ac o herwydd hyny nid oedd yn ddiehonadwy i ddwfr fyned i mewn iddynt. Mae y bobl hyn yn credu y gwnant gyfoeth mawr, wrth werthu gwir- od fu yn ngwaelod Llyn Erie 'yn cael oed' • iin 23 o flynyddoedd; canys dywedir nad oes eisiau ond amser i wneyd pob whisky wirod o'r radd flaenaf.
[No title]
MAE llawer o gwyno o herwydd amser -•caled, ond y mae gwerthwyr gwirodydd a íhobaco yn ymffrostio eu bod yn gwneyd yn dda y dyddiau hyn. A ddarfu i'r dar- Jienydd feddwl yn ddifrifol am y swm laawrawerir mewn blwyddyn wrth dalu yehydig o sentiau yn ddyddiol am dobaco a gwirodydd poethion? Pe byddai i'r sent. Iau gael eu rhoddi mewn banc cynilo yn talu nogar log. yn mhen chwe' mis cymer- Yr hyn a ganlyn Ie. Byddai 2%c. y 'Sydd am dobaco yn $10 y nwyddyn—yn $130 mewn deng mlynedd, ac yn $2,900 tnewn 50 mlynedd. Cyrhaeddai -r)} £ c. y AJyaa i$20 mewn blwyddyn, $260 mewn HO mlynedd, a $5,800 mewn 50 mlynedd.- byddai lle. y dyddyn$40 mewn blwyddyn, ?520 mewn 10 mlynedd, ac $11,600 mewn 39 mlynedd. Cyrhaeddai 27y2 y dydd i 4100 mewn blwyddyn,$1,300, mewn 10 mlynedd, a $29,000 mewn 50 mlynedd. Os gwerir 55c. y dydd, bydd yn$200 mewn ■; blwyddyn,$2,600 mewn 10 mlynedd, a $50,000 mewn deng mlynedd. Y mae yr hwn sydd yn talu allan$1,10 y dydd am oferedd yn amddifadu ei hun o $400 mewn blwyddyn,$5,200 mewn 10 mlynedd, ac o $116,000 mewn 50 mlynedd! Eto maemil- oedd yn gwario mwy na dolar a deg sent y dydd, at eu gilydd.
[No title]
GWNAED darganfyddiad pwysig yn New York yr wythnos ddiweddaf, mewn cys- ylltiad a'r dull y mae rhai masnachwyr Seisnig yn twyllo Llywodraeth y Talaeth- au, drwy smuglio eu nwyddau i'r farchnad heb dalu y tariff, yn ol y gyfraith. Am- heuwyd mor bell yn ol a'r flwyddyn 1872, fod Louis Goldberg & Co., No. 9 Love Lane, Llundain, yn twyllo y tolldy yn New York. Maent yn gwerthu penwisgoedd merched, tlysau, addurniadau, gemau, modrwyau, brest dlysau, arddwrn dlysau, pluf, beads, velvet, &c. Y dull a ddefnydd- iwyd i dwyllo oedd rhoddi prisiau rhy isel ar yr holl nwyddau; ac wedi llawer o wylio, canfyddwyd fod y goruchwylwyr yn New York yn dangos invoices gwahanol i'r rhai a wnaed drwy lw yn Llundain. Yr oedd boxes yn werth Cl,,700 yn Llundain yn cael eu rhestru yn werth C500 yn New York— £ 600 yn werth £160, C300 yn werth £140, ac felly gyda'r oil. Wedi cael digon o brawf, aed a meddianwyd yr holl nwydd- au, gwerth tua $30,000, yn yr ystordy, 441 heol Broom, a chertiwyd y cwbl i lawr i'r tolldy, i'w fforffetio er budd i'r llywod- raeth, ac atafaelwyd y masnachwyr.
[No title]
YMDDENGXS fod adroddiad Prof. Wal- lace, a daearegwyr eraill yn Lloegr, fuont yn archwilio Ogof fawr Kent, yn Swydd Devon, yn parhau i greu llawer o ddadleu- on ar y pwnc o henafiaeth yr hil ddynol. Wedi myned yn mhell i'r ogof y mae syl- wedd crisialaidd yn dyferu yn ddefni par- haus o'r nen, ac yn ifurfio yn sylwedd caled fel callestr ar y llawr. Torwyd en- wau, ffigyrau, dydd o'r mis, &c., ar y syl- Ily wedd hwn a chynion caled, 200 o flynydd- oedd yn ol, ac maent i'w gweled eto. Ni thewychodd y palmant ond y ganfed ran o droedfedd mewn 200 o flynyddoedd. Gos- ododd Prof. Wallace ddynion i dori drwy y sylwedd crisialaidd hwn, a chyfrifa yr aeth can' mil (100,000) o flynyddoedd heibio tra bn pum' troedfedd o drwch yn flurflo. Fel yr oeddynt yn myned i lawr, yr oedd arwyddion fod yr haenau yn Ifurfio yn arafach yn ystod cyfnodau pell yn ol; ac wedi cyraedd y llawr, neu y graig, o dan y sylwedd crisialaidd, synwyd hwy yn fawr drwy ddarganfod yno esgyrn y mammoth, y glutton a'r reindeer, yr hyn sydd yn profi fod hinsawdd pegwn y gogledd yn Lloegr y cyfnod hwnw. A'r peth rhyfeddaf oil oedd iddynt ddyfod o hyd i benau saethau, cyllill, a bwyeill wedi eu gwneyd o gerig callestr ac esgyrn. Dyma waith dwylaw dynion, ac mae Prof. Wallace, a daeareg- wyr eraill, yn cyfrif fod pum' can' mil (500,000) o flynyddoedd wedi myned heibio er pan oeddynt yn rhodio y ddaear!
[No title]
MAE Ymerawdwr Brzil wedi cael can- iatad gan ei Senedd a'i bobl i ymweled ig Ewrop a'r Talaethau Unedig yr haf nesaf, fel ag y gall fod yn bresenol yn y dathliad can'-mlwyddol yn Philadelphia. Hysbysir yn y newyddion diweddaf o Brazil fod yno lawenydd a gorfoledd mawr drwy yr Ym- erodraeth, o herwydd geni etifedd i'r or- sedd, sef mab i ferch yr Ymerawdwr. Priododd y Dywysoges Ymerodrol gyda Gaston, Count D'Eu, wyr i Louis Philippe, hen Frenin Ffrainc, un mlynedd ar ddeg ynol; acynawry caed etifedd i'r orsedd. Ar ol ei fam y mae y baban a anwyd i gael ei ddyrchafu i'r orsedd, os bydd byw, can- ys y mae 'hi i olynu ei thad, yn ymerodres ar un o'r llywodraethau eangaf yn y byd. Er fod Louis Philippe wedi methu sefydlu ei hiliogaeth ar orsedd Ffraine, y mae ei waed yn rhedeg yn ngwythenau nifer o deuluoedd Breninol. Wyr iddo ydyw Leo- paid II, Brenin Belgium; mae dau o'i wyr- ion yn meddu hawl i orsedd Spaen. Fer- dinand De Montpensier ac Anthony De Montpensier; ac mae ei wyres, Mercedes De Montpensier wedi ei dyweddio i Alph- onso XII, Brenin Spaen; ac mae y baban ymerodrol a anwyd yn Brazil yn orwyr i'r hen Frenin.
AEAETH ROSCOE GONELMG.
AEAETH ROSCOE GONELMG. Traddododd y Seneddwr Conkling ar- eithiau politicaidd ardderchog yn Albany a New York yr wythnos ddiweddaf. Dech- reuai drwy daflu golwg eang dros honiad- au y Democratiaid, eu bod wedi diwygio, ac o herwydd hyny yn gofyn am gefhog- aeth y cyhoedd. Profai y Seneddwr fod llawer o'u hathrawiaethau heddyw yn gondemniad hollol o'u hathrawiaethau blaenorol, a hyny gan yr un blaenoriaid, yr hyn a ddengys anghysondeb gwarthus; ond rhaid cofio mai awydd am swyddi a hufen bywioliaeth sydd wrth wraidd y cwbl. Yn y lie nesaf y mae y Seneddwr yn rhoddi yr archwiliad craffaf a manylaf ar hanes gweithredoedd cyhoeddus y ddwy blaid yn ystocl y 15 mlynedd diweddaf, mewn trefn i gael allan gan ba un y mae hawl gyfiawn i ofyn am gefnogaeth a ffafr y cyhoedd. Daw hanes gweithredoedd y blaid Ddemocrataidd i'r amlwg yn ei holl hyllni atgas, ac mae yn rhaid ei barnu yn ol ei ffrwythau, sef ei gweithredoedd cy- hoeddus. Dangosodd fel yr oedd y Llyw- odraethwr Tilden yn amcanu codi ei hun i ffafr y T^ljid, fel blaenor y Democratiaid, drwy ddatguddio twyll ac anonestrwydd y Canal Ring; ond profodd Mr. Conkling drwy ffeithiau a ffugyrau mai Democrat- iaid oedd y twyllwyr, ac mai i'w llogellau hwy yr aeth arian y treth-dalwyr. Profodd drwy adroddiadau swyddogol, mai pan oedd y canal yn nwylaw y Democratiaid y gwnaed y twyll, ac y cynyddodd y costau? Pan oedd y canal dan drefniad a llywod- raeth y blaid Werinol, lleihaodd y costau, a'r trethau, a derbyniodd y Dalaeth elw oddiwrtho. Bob tro y daeth y blaid Ddem- ocrataidd i allu, cynyddodd y costau, a thalwyd am waith na chyflawnwydmo hono erioed. Er fod y Llywodraethwr Tilden wedi creu cynwrf yn mhlith rhai o'r Democrat- iaid mwyafhyf a gwyneb-galed yn y twyll, yr un ydyw y blaid; ac nid oes fawr o am- ser er pan oedd Tilden ei hun yn cyd- weithredu gyda William M. Tweed i dwyllo, mewn cysylltiad a'r etholiadau yn New York. Y Llywodraethwr Tilden yw y cawr Democrataidd a anfonodd i bob adran o'r Dalaeth am adroddiad buan o'r bleidlais, a hyny cyn derbyn yr adroddiad swyddogol, fel y gallant hwy, yn New York, newid y bleidlais yn ol yr amgylch- iadau. Os byddai y bleidlais Werinol yn gref yn y wlad, byddai iddynt hwy ych- wanegu y bleidlais Ddemocrataidd yn New York, er sicrhau buddugoliaeth! Dangos- odd fod athrawiaeth y Democratiaid mewn cysylltiad ag arian papyr, yn gyfartal i wadu ein cyfrifoldeb, a gwrthod talu ein dyledion. Yn 1871, pan acth y blaid Ddemocrataidd allan o allu drwy i'r Gwerinwyr ethol y Cad. Dix, caed fod y Dalaeth wedi ei rhedeg i $11,000,000 o ddyled. Yr oedd yn rhaid i'r Gwerinwyr fyned o ddifrif at y gwaith o wneyd y swm ucliod i fyny, gan fod$5,000,- 000 yn perthyn i'r sinking fund; ac nis gellid cyffwrdd a hwnw heb dori amod o cyfansoddiad. Pan ddaeth y blaid Werin- ol i allu yn y Dalaeth canfyddasant ddyled yn aros o$20,260,755, ond mewn tair blynedd lleihawyd y ddyled i$605,887. Mor fuan ag y daeth awenau y llywodraeth i ddwylaw y Democratiaid, cynyddodd y ddyled. Dangosodd yr areithiwr hyawdl fod y twyll a wnaed mewn cysylltiad a'r contracts ar- y camlasau yn ddieithriad yn waith y Democratiaid; ac er y cwbl y mae y blaid hono yn awr yn apelio at y bobl am gefnogaeth.
G WLEID YDDOL.
G WLEID YDDOL. Y LLYWODRAETHWR TILDEN-Mae yn ym- ddangos fod Samuel J. Tilden, Llywodr- aethwr Talaeth New York, yn ddyn nod- edig iawn fel maddeuwr i ddrwgweithred- wyr; canys dywedir ei fod wedi rhoddi pardwn i 70 o ddrwgweithredwyr o fewn y saith mis diweddaf. Diau y bydd iddynt oil roddi eu pleidlais dros yr ymgeiswyr Democrataidd ddydd Mawrth nesaf. Gwnaed Thomas Jefferson yn Arlywydd drwy un bleidlais; a gall un bleidlais eto orchfygu y dyn goreu. Na fydded i neb aros gartref ddydd yr etholiad.Os gwna pob Gwerinwr ei ddyledswydd yr wythnos nesaf yn New York, Pennsylvania a New Jersey, ceir buddugoliaethau cyffelyb i'r hon a enillwyd yn Ohio.Credir y bydd Senedd Iowa yn cynwys 40 o Werinwyr a 9 o Ddemocratiaid,a bydd yn y Cynulldy 8.0 o Werinwyr ac 20 o Ddemocratiaid. Fel hyn bydd gan y Gwerinwyr 92 o fwyafrif ar gyd-bleidlais y ddau dy, tra nad oedd ganddynt yn y Ddeddfwrfa ddiweddaf ond 16. iCariodd y Gwerinwyr yn ystod y flwyddyn hon y Talaethau canlynol: Maine, New Hampshire, Rhode Island, North Car- olina, Michigan, Ohio, Iowa, a Nebraska. Bu y Democratiaid yn llwyddianus i gario Connecticut, California ac Alabama.Bu Democratiaid Pennsylvania mor greulon a rhoddi gwahoddiad i'r Llywodraethwr Al- len, o Ohio, i ddyfod yno i areithio. Dyma fel yr atebodd cyn yr etholiad: 'Golyger fy mod i yn cael fy nghuro fel hell yn fy Nhalaeth fy hun, oni fyddwn i yn beth hardd iawn i fyned i areithio i Bennsylvan- ia?"Dywedodd y Cad. Woodford, yr hwn fu yn areithio mor lwyddianus yn Ohio, fod Democratiaid arian papyr mor benboeth, penderfynol a dialgar yno ag ydoedd y Deheuwyr cyn y rhyfel dros gaethiwed.Er fod y Democratiaid a'r Independiaid wedi ymuno yn Maine, y mae gan y Gwerinwyr fwyafrif o 23 yn y Ty.- Cyfrifir y bydd yno 32 o fwyafrif Gwerin- 01 ar gyd-bleidlais y ddau Dy, ar ol llanw yr eisteddleoedd gweigion yn y Senedd. Hysbysir mai mwyafrif Hayes, Llywodr- aethwr Gwerinol Ohio, ydyw 5,007, Caf- odd Sam. Cary, apostol mawr arian papyr, ei guro am y swydd o Is-Lywodraethwr drwy 12,000 o bleidleisiau. Taw pia hi, Sam!Cynrychiolir Swydd Johnson, Io- wa, yn awr gan Werinwyr, er mai yno yr oedd prif luesdy y Democratiaid; ac ni fu Dubuque erioed o'r blaen heb gynrychiol- ydd Democrataidd.Bydd etholiadau ddydd Mawrth nesaf yn y Talaethau can- lynol: New York, Pennsylvania, Massachu- setts, Virginia, Kansas, Maryland, Missis- sisippi, Minnesota,Missouri a New Jersey, Mae y cyn-Seneddwr Carpenter yn tra- ddodi areithiau gwleidyddol yn", Wisconsin dros y blaid Werinol. Dywedir iddo ym- wroli ar ol i Chandler gael ei benodi gan yr Arlywydd yn Ysgrifenydd Cartrefol.Ni chafodd yr achos Dirwestol yn Ohio ond 2,461 o bleidleisiau allan o 592,538 a bleid- leisiau!Mae John Morrissey yr ym- laddwr wedi dyfod i'r maes gwleidyddol eto, ac yn bygwth cario pob peth o'i flaen; a dywedir ei fod yn gyfaill mynwesol i'r Llywodraethwr Tilden, yr hwn sydd yn gwneyd ei oreu i'w ddyrchafu fel aelod o'i blaid.Mae 144,934 o bleidleiswyr wedi cofrestru eu henwau yn New York, sef llai o 1,284 na'r llynedd. Pleidleisiodd dros y Llywodraethwr 132,344, neu lai o 13,874 nag oedd o enwau ar y rhestr! Pleidleis- iodd dros y Maer y tro diweddaf 131,250.
AT WESLEY AID CYMREIG AMERICA
AT WESLEY AID CYMREIG AMERICA CAPEL COFFADWRIAETHOL AUBREY. ANWYL FRODYR: Yr ydym yn wasgared- ig ar hyd a lied y wlad fawr hon. Llawer o honom wedi ymdoddi i wahanol enwadau Cymreig, ac eraill wedi ymuno a'r Saeson. Eto, mae yn ddiau fod y tan Wesleyaidd heb ddiffodd o'n mynwesau, a pha beth bynag yw ein hamgylchiadau a'n cysyllt- Ily iadau, mae yn ddiau fod genym galon gynes at ein mam-eglwys, yr hon a'n magodd; ac hefyd, barch calon at y gwei- nidogion enwog a glywsom yn amser ein hieuenctyd. Yn mhlith enwogion y Wes- leyaid, y rhai ydynt wedi huno, mae yn ddiau nad oedd neb yn fwy na'r Parch. TnoMAs AUBREY. Ac mae yn ddiameu na fyddai un balchder enwadol ynwyf pe y dywedwn na welodd Cymru yr un dyn mwy hyawdl mewn pwlpud, nac ar esgyn- lawr, na Mr. Aubrey. Yn awr, mae diadell fechan yn CEFNCOEDCYMER, ger Merthyr Tydfil, lie y ganwyd ac y magwyd y Parch. Thomas Aubrey, yn ymdrechu adeiladu capel Wesleyaidd. Mae yn cael ei alw yn Memorial Chapel-Capel Coffad- wriaethol i'r Parch. Thomas Aubrey. Maent yn ychydig mewn rhifedi, ond yn hynod ffyddlon. Mae y capel yn cael ei adeiladu yn ddigon helaeth i gynal o gwmpas pedwar cant o wrandawyr. Ond maent yn rhy wciniaid i'w oiphen fel y dylai. Yn awr, maent yn gwneyd apeliad at holl Wesleyaid Cymreig Cymru, Lloegr, Australia ac America, yn enwedig edmyg- wyr Mr. Aubrey, i gyfranu eu hatlin at yr adeilad uchod. Yr wyf yn gobeithio, an- wyl frodyr a chwiorydd, na adewch i hyn fyned heibio yn ddisylw. Bydded i ryw un gymeryd y mater mewn Haw mewn pob ardal Gymreig, He y mae rhai, ydynt neu a fuont yn Wesleyaid, a gofyn am gasgliad gan y rhai hyny. Yna anfoner yr arian i law y Parch. D. T. Davies, 104 Genesee St., Utica, N. Y. Mae y brawd Davies yn adnabyddus i'r Cymry fel dyn cyfrifol a chymwynasgar. Bydd yntau i anfon yr arian i'r trysorydd yn Nghymru. Yn mhlith y rhai ydynt yn derbyn y casgliad at y capel hwn. mae y Parchn. D. Young, John Rees, a'r dylanwadol a'r gweithgar, Delta R. Davies. Disgwylir yr arian i fod yn Haw Mr. Davies yn Utica, o leiaf o hyn i ben dau fis. Yr eiddoch, anwyl frodyr a chwiorydd yn yr efengyl, &c. Fondukic, Wis. W. R. JONES.
NOD ION PERSONOL.
NOD ION PERSONOL. Yr ydym wedi derbyn ysgrif oddiwrth y Parch. R. H. EVANS, Hyde Park. ar y testyn, "Rheswm a Datguddiad," sef adol- ygiad ar ysgrif ddiweddar Mr. H. Williams, Milwaukee. Cyhoeddir y rhan gyntaf o honi yn ein nesaf. Mae yn llawen genym gael croesawu i'n colofnau ddau ddadleu- ydd mor foneddigaidd. Bydd CARL SCHURZ yn dechreu traddodi ei araeth newydd "Centennial Thoughts" yn y Talaethau Dwyreiniol, Tach. laf. Fel hyn y mae CEIRIOG yn ateb gofyniad Mynyddog-" Geir, rhagor o GeiriogodV Am Geiriogod mae gwrelgan-y bardd Tra y bo byw, druan; Os drwg wyt o Feistr y gaD, Dibechod yw y bychan." Y mae ANEUEIN FARDD wedi bod yn dioddef yn dost er's tro gan fflamychiad gewynol yn ei aelodau; ond disgwylia fod yn alluog i anfon yn fuan i'r DRYCR ei ys- grif ar ein Hurddas Cenedlaethol. Dywedir fod y Proffeswr Germanaidd enwog, y Dr. SCIIUCHARDT, fu ar ymweliad a Chymru yn ddiweddar, yn bwriadu cy- hoeddi llyfryn yn y Germanaeg, yr hwn a gynwys gyfieithiadau o ddarnau detholedig o waith rhai o'n prif feirdd byw. Cant gylchlythyrau personol vn fuan. Ymddir- iedir y detholion gwreiddiol i loan Arfon a chyfaill o fardd arall. Mae y bardd GURNOS yn bur boblogaidd yn Nghymru fel darlithiwr. Ei destyn di- weddaf yw "Y Senedd." Bwriada fyned ar daith drwy y Deheudir yn fuan. Adroddir am farwolaeth y CADBEN DE PULESTON, yn Canada, yr hwn oedd nai ac aer Svr Richard Price Puleston, o Emral Hall. sir Fflint. Y m te y teulu hwn yn preswylio yn Emral er teyrnasiad Iorwerth I, a'r farwniaeth yn dyddio o'r flwyddyn 1813. Gwelwn fod Mr. ISAAC JONES, Treher- bert, newydd gyhoeddi deuawd am "Y teiliwr a'r crydd." Mae y geifiau wedi eu hysgrifenu gan Mynyddog yn ei ddull don- iol-ddigrif ei hun, a'r gerddoriaeth gan y cyfaill siriol, Gwilym Gwent. Dywedir fod gan Mr. SPURGEON allu an- arferol i goflo enwau a gwynebau. Ar ddiwedd y gwasanaeth Sabbothol, disgyna o'r pwlpud a saif wrth ochr drws y capel i ysgwyd dwylatv a'r aelodau, gan eu galw oil wrth eu henwau, a gofyn am iechyd eu teuluoedd. Traddododd Wendell Phillips ei ddarlith newydd, "Ar berthynas ein Llywodraeth a'r Indiaid," yn Boston Highlands, nos Fercher. Er y flwyddyn 1759, meddai, yr oedd ein Llywodraeth wedi talu$1,000,- 000,000 ar gyfrif y dyn coch. Ei gynllun ef oedd gwneyd yr Indiad yn ddines- ydd, a rhoddi iddo ysgolion, offerynau am- aethyddol a dim rum. Cyfeiriad y Parch. W. R. JONES, di- weddar o Clinton, Wis., o hyn allan fydd Fondulac, Wisconsin. Sylwer ar speliad Mr. Jones mewn colofn arall o'r rhifyn hwn. Dyma enwau swyddogion Eisteddfod Minersville, Pa.: Llywydd-y Parch. R. R. WILLIAMS, Minersville; Beirniaid-ar y cyfansoddiadau, y Parch. H. C. PARRY, Pittston, Pa.-ar y datganu, Proff. J. ALEXANDER, Pottsville, Proff. T. D. GRIF- FITHS, St. Clair, a THOS. T. DAVIES, Minersville-yr adroddiadau, &c., Parch. R. V. GRIFFITH, Shenandoah. Yn gymaint agi "Tmofynydd Pryderus" haeru yn y DRYCH am Hyd. laf, fod CARL ZERRAHN wedi wedi ysgrifenu i un o bapyr- au Philadelphia i ddweyd mai Cor T. B. Davies, Plymouth, a farnai ef yn oreu yn Eisteddfod Hyde Park, anfonodd un o'r Pwyllgor at y cerddor am eglurhad. Ac wele ei atebiad: BOSTON, Oct. 18, 1875. THOMAS R. HUGHES, ESQ.: My Dear Sir—In answer to your kind letter of the 14th inst, I will inform you that I have not sent a communication about the singing of your choirs, either to Philadelphia or to any newspaper anywhere else. Yours truly CAUL ZERRAHN. Deallwn fod ein gohebydd doniol, y Parch. LEWIS MEREDITH (Lewys Glyn Dyfi) yn unol a phenodiad y "Conference" a gynaliwyd yn Joliet, wedi symud o Chicago i dref fywiog Sterling, 111., tua 110 o fllltiroedd i'r gogledd orllewin o Chicago. Gwelwn yn y Fellten fod TROEDYNFAB wedi derbyn yn ddiogel y gadair a enillodd yn Eisteddfod Pittston, y Calan diweddaf. Sonia rhai o fechgyn Cymnier am fyn'd 11 drwy y seremoni o'i gadeirio. Mewn colofn arall, gwelir Hysbysiad Mri. GRIFFITH & RAYHILL, cyfreithwyr yn Utica Mae Mr. Griffith yn Gymro o waed coch cyfa; ac yn adnabyddus yn y cylch- oedd hyn fel un y gellir ymddiried ynddo mewn achosion cyfreithiol. Anogwn y Cymry i roddi eu cefnogaeUi iddo ef a'i bartner. CARONDELET, Mo.- Y gauaf diweddaf pan oedd y Parch. H. Gwerfyl James yma, traddododd ddarlith ar "Y Tafod," gan drin y gwragedd yn en byd. Darfu i hyn gynhyrfu Mr. James Beynon i barotoi ar- aeth o amddiffyniad i'r rhyw deg, ac un noson yn ddiweddar cawsom y pleser o'i wrando yn ei thraddodi. Yr oedd yn ddarlith ddyddorol iawn, a gwnaed$70 o elw oddiwrthi; a mwy na'r cwbl, bu yn foddion i wneyd i ddynion garu a pharchu en gwragedd yn fwy nag erioed. Buan y caffom ddarlith eto gan Mr. Bcynon.- Gwrandawr. GAIR ODDIWRTH Y PENCERDD PARRY. Fel y canlyn yr ysgrifena y. PENCEBDD PARRY am sefydliad newydd y cerddor galluo^, Mr. ROBERT J. JAMES yn Hyde Park, Pa.: UNIVERSITY COLLEGE OF WALES, I ABERYSTWYTH, Oct. 3, 1875. f It gave me great pleasure to understand that Mr. Robert James has instituted a Musical Conservatory at Hyde Park. The fact of Hyde Park being sur- rounded with so much musical talent, entitles the locality to a Conservatory; and all who know the proficiency of Mr. James as a musician in its general branches, practically and theoretically, also for his zeal in the art together with his intellectual quali- ties, know him to be the right man in the right place, I would like to impress upon the minds of musical amateurs, that finish and refinement in the art can not be attained but through a thorough course of studies under the direction of a master. Trusting my young friends will avail themselves of the opportunity now offered them, and wishing the students and their Professor great success in their efforts to make our "divine art" more thoroughly understood and felt, Ibeg to remain yom old frIend and well wisher, JOSEFH PARKY. I. DINAS NEW YORK.—Nid oes yma un newydd pwysig am y Cymry i'w anfon i'r DRYCH yr wythnos hon, ond fod tipyn o gynwrf yn eglwys y T. C., 13th Street, yn nghylch cael gweinidog sefycllog. Nid ymddengys pa fodd bynag fod teimlad yr eglwys yn aeddfed eto i roddi gal wad un- frydol i neb; a dangoswyd hyn y Sabboth diweddaf, pan gymerwyd pleidlais yr ael- odau. Yr oedd llawer yn credu y buasaiy Parch. G. H. Humphreys, Pittsburgh, yn cael mwyafrif mawr, ond nid feHy y bu. Deallwn fod y Parch. Win. Roberts, D. D., Bellevue, Pa., wedi gwrthdystio yn y modd mwyaf penderfynol yn erbyn gosod ei enw i gydredeg ag eraill am Fugeiliaeth eglwys 13th Street, heb ei gydsyniad. Pe yr anfonasid gair ato, cawsid yr un ateb iad, y mae yn debyg, ag a gafodd eglwysi eraill, sef ei fod wedi penderfynu aros gyda'i eglwys yn ei' hystad o wendid a pherygl, er i hyny ei golledu o ganoedd o ddoleri yn y flwyddyn. Yr un ysbryd pen- derfynol ydyw hwn ag a'i dyianwadai i fynu talu pob dolar o ddyled eglwys 13th Street, New York, a pliwrcasu Parsonage mewn cysylltiad a hi. _Mae ei fliyddlondeb yn deilwng o efelychiad, ac yr ydym yn edmygu ei ysbryd penderfynol. Hwyrach, wedi'r cwbl, na dderbynia fawr o ddiolch gan ddynion; ond "nid yw Duw yn ang- hyfiawn, fel yr anghofla ei waith a'r llafur- us gariad a ddangosodd at ei enw ef." Nid yw y Doctor yn gwibio o'r naill eglwys i'r llall, er enill mantais i godi ei gyflog. I ba ddosbarth o "anffyddwyr" y mae dynion o'r caste yna yn perthyn? Aitybedeubod i'w rhifo yn mhlith y dosbarth newydd y soniai Dr. Roberts am danynt mewn preg- eth yn ddiweddar, y rhai a alwai yn Electrotheist? Yr eiddoch—Cymro. $1
[No title]
—Mae y lladron Leary a Lumbard, oedd- ynt yn aelodau o'r fintai a dorasant i dy Mr. Germon, ger y ddinas hon, yn Mawrth diweddaf, wedi eu profi yn euog yn y llvs yn Rome, ychydig o ddyddiau yn ol. a'u hanfon i Benydfa y Dalaeth, i gyfiawni llafur caled am 18 o flynyddoedd bob un. Mae dau eto yn y carchar yn aros eu prawf am yr un trosedd. Cafodd un ei ryddhau am achwyn ar y lleill; ac mae dau heb eu dal.