Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
17 articles on this Page
LrLYN CYSGOD ANGAU."
LrLYN CYSGOD ANGAU." Glyn ingol yw glyn angau,-a glyn dn Glan y dwr, a'i donau;— Iesu'n flrynd dry'r glyn du'n glan, A'i niwliog byrth yn olau. Llanrwst. HRNRY GWYNEDD HUSHES.
Y PYLOn.
Y PYLOn. Tyrcha, rhwyga tir a chreisvrtd,—ar f6r, Prif arf fel dinystrydd; F, gyr fwled y rhyfelydd, Pylor i ap hela'r hydd. Machac eoweh rho'r fflsvch gwiwhtir—liylor, Gyr belen trwchftii-; Dewrol ef a'i ifxwydrol lafnr Wna'n ulw dda faguel o ddur. Rodney, Miss. I. o P. ou..
[No title]
I Pylor gwn, palwr gw an aide!—glas wryw { >< Ger glycerine cawraidd; V Yn llwyd try cyn ca'r lie traidd, Seirian nerth glycerinaidd. Rodney, Miss. 1. o F.
LLINELLA U
LLINELLA U Ar briodas T. H. Hughes, 7sw.. Cassville, JST. Y., a'i briod, Awst, 1875. Rhyw rosyn tyner gwridog Yn ngardd dynoliaeth deg, A wenai ar flodionos- O'i gylch a chwarddai'n chweg! L, Ond ger ei ymyl gwelid r Y lili deg ei gwedd f Yn plygu mewn edmygedd— Hyd at ei nwyfol sedd. „ r Gwcfusau tea: y lili Gyffyrddodd wefus hwn:- Atdyniad nwyfus cariad Wnaeth yma "undeb crwn"— Y ddau yn un sydd heddyw T Mewn cwlwm puraf serch, Sef Tomos hoff ei dalent Yn un a'i anwvl ferch. Na ddeued 'stormydd gofid I guro mwy y ddan Na! un y ddau a enwer- Na fydded undeb gan: Yn un trwy bob trallodion, Yn un hyd ddiwedd oes, Yn un pan dderfydd amser Mewn gwynfyd heb un groep. Utica, N. Y. DWTFOR.
ANEROHIAD
ANEROHIAD Ar briodas John M. Hughes ac JEnni Jones, Shenan- doah, Pa. Cariad darddo'n ffrydiau gloyw Dan eu dwyfron yn gytun, Cariad fel y cariad hwnw Wnai 'u dwy galon lan- yn un; Gwlithed eu golygon beuriydd Grisial lifed dros eu mant, Fel b'ont byth yn carn'u gilydd Fel y carent pan yn blant. Llwyddiant a'a cylchyno'n wastad Fel goleuni gylch yr haul, Meini cedyrn bythol gariad Fyddo dan eifgaer yn sail; Boed yn uchel gylch am danynt, CyJch na ddryllir gyda brys, Cylch fo'n grwn o amgylch iddynt Fel y fodrwy gylch y bys. Rhodder iddynt blant i'w magu Ddigon i boblogi gwlad, Merch fel ei mam an wylgu, Meibion hefyd fel eu tad; Boed y plant drachefn yn dyrfa Cyn i'w rhiaint golli'r un, Nes bo'r teulu enwog yma Bron yn deyrnaa ynddo'i hun. Can fo beanydd ar eu tafod Heddwch drigo dan eu bron, Cyfoeth deufyd lanwo 'u trigfod Tra b'ont ar y ddaear hon; Ac wrth farw'n hen mewn dyddian Goleu fyddo'r glyn i gyd, Parod iddynt fo'n gorseddau Yn nhrigfanau'r nefol fyd. Shenandoah, Pa. lOAN LLECH.
PWYLLGOR HYDE PARK.
PWYLLGOR HYDE PARK. HYDE PARK, PA., Hydref 14, 1875.- Gwelaf fod un o leiaf yn anfoddlon i Eis- teddfod Fawr Genedlaethol Hyde Park basio yn dawel i'r gorphenol; rhaid iddo ef gael codi 'stwr, er gwneuthur hyny yn y modd llwfraf y gallasai. Ni ystyriaf yr ymofynydd pryderus hwn-yn hytrach ym- ofynydd eiddigeddus ddylasai fod,-yn deilwng o un atebiad, ond rhag y bydd iddo gamarwain y cyhoedd feallai na fydd y llinellau canlynol o un lies iddo ef, nac o niwed i'ch darllenwyr. Yn gyntaf, os Pwyllgor Eisteddfod Hyde Park a feddylia wrth Bwyllgor Hyde Park, byddai yn ddymunol iddo ddeall fod penderfyniad wedi ei basio ganddynt wythnosau yn ol i beidio talu un sylw i erthyglau, llythyrau na gofyniadau a deflir o'u blaen dan gys god ffugenwau. Yn ail, nas gall ddisgwyl i wyr rhesymol a goleubwyll, fel darllen- wyr y DRYCH yn gyffredin, gredu y fath ymadroddion gwag a sigledig ag a ddef- nyddia yma, megys "yn gymaint ag i Carl Zerrahn anfon ysgrif i un o bapyrau Phila- delphia, yn yr hon y dywed, &c.: "Atol- wg, pa bapyr ydoedd? Pa bryd y cyhoedd- wyd ef? Ai ni allasai ef sydd yn gallu dyfynu Shakespeare mor dda roddi i ni y rhan wreiddiol o'r ysgrif a gynwysa yr honiadau a ddwg yn mlaen ? Eto sylwer ar yr ymadrodd canlynol: "A • bod sicrwydd fod J. W. P. Price, yn bender- fynol o'r farn, mai Cor David D. Davies, Plymouth ddylasai gael y wobr ar bob cyf- rif." Eiddo yr ysgrifenydd yw y pwysleis- iad uchod, ond ymddengys y geiriad yn hynod awgrymiadol o fodolaeth perffaith, yn meddwl Y. P., pa fodd y barnai Mr. Price deilyngdod y corau. Ni chynygiaf un esboniad ar y rhyfedd-beth, ond boed y darllenwyr oil yn feirniaid. Atolwg hefyd pa beth a eill fod yn an- foddloni llawer yn Wdkes-Barre yn yr achos hwn ? Nid oedd iddynt hwy ran na chyf- ran yn. nhrafferth y cystadlu na'r wobr. Os oes rhai yn Hyde Park yn anfoddlon i'r dyfarniad, cadwodd ffawd dda fi yn glir oddiwrthynt hyd yn hyn.—" There is some- thing rotten in Denmark." Gallasai fod yn amser Hamlet, a geill fod eto yn awr, ond medd y dyfyniad uchod gyfeiriad mor agos at y cwestiwn dan sylw ag yw Denmark i Hyde Park. I Mympwy ysgrifenyddol rhai yw dyfynu o'r beirdd Seisonig yn enwedig Shakespeare. Defnyddiant hwy fel Ys. grythyr i selio pob pwnc. Odid na f-yddai allan o le i gynghori'r darllenwyr i ddy- weyd wrthynt yn iaith Gloster wrth Henry VI. Down, down," <&c. I derfysu, gallaf sicrhau Y. P., a'r gwedd ill o'r cyhoedd fed dyfarniadau y beirniaid cerddorol ar y prif ddatganiadau yn yr Eisteddfod yn eu Ilawysgrifau eu hunain yn fy meddiant yn barhaus; ond nad ydwyf wedi fy argy- hoeddi eto o'r dymunoldeb o'u cvhoeddi ganddo ef nac arall. Yr eiddoch yn gywir, THOS. R. HUGHES.
Y DIWEDDAR P. L. DAVIES A'R…
Y DIWEDDAR P. L. DAVIES A'R CYMRY. Or braidd y gallaf ysgrifenu y diweddar P. L. Davies. Efallai ein bod wedi treulio mwy o amser gyda'n gilydd na nemawr i ddau weinidog yn y wlad am yr yspaid o bum' mlynedd.. Yr oeddem fel Dafydd a Jonathan, a methodd angau a'n gwahanu. Edrychwyf yn mlaen at yr amser pan y bydd yn nwylaw Cymry Pennsylvania gof- iant teilwng o fy anwyl frawd. Gwnaeth darllen penderfyniad Cymanfa y Bedydd- wyr yn Taylcrville, i'm calon lawenychu a gorfoleddu. Gobeitliiwyf nad yw y pen- derfyniad soniedig i gyfarfod a thynged ambell i benderfyniad CymanfaoI-sef tir anghof. Haedda coffadwriaeth fy mrawd a'm carbarch, ie parch sylweddoi, a haedda ei weddw hawddgar, Mrs. Davies, gydym- deimlad Cymry Pennsylvania. Er iddo orplien ei yrfa yn mlilith yr Americaniaid, eto meddai ar galon Gymreig, a meddai pregethu Cymreig ddylanwad anrhaethol ar ei feddwl a'i galon. Pan yn ngliyfeillacli ein gilydd, yr hyn a gymerai Ie bob wytb- nos, ac weitliiau amryw droion yn yr un wythnos, siaradem yn fynych Gymraeg. Iechyd i'w enaid oedd adrodd mewn hwyl y penillion canlynol 0 Iachawdwr pechaduriaid Sydd a'r gallu yn dy law," &c. Os gwelir fi bechaduv Rhyw ddydd ar ben fy nhaith," &c. Mae'r Iachawdwriaeth fel y môr, Yn chwyddo byth i'r lan," &c. "Dyma Geidwad i'r colledig Meddyg i'r gwywedig rai," etc. Pan yn pregethu Cymraeg, taflai ei en- aid i'r gwaith yn y modd llwyraf. Credai mai y Cymry oeddynt y pregethwyr goreu, ac hefyd y gwrandawyr a ddeallant oreu bregeth. Ni chyfodai y farn hon o un teimlad allanol, ond oddiar brofiad yn hyt- rach. Soniai lawer am bregethau Nefydd. Tystiai fel pob dyn call mai Roberts, gynt o Dabernacl, Merthyr, (yr hen droed), oedd y siaradwr goreu ar y ddaear, yn ei ddydd. Edrychai ar y Dr. Roberts, o Bellevue, Pa., fel un o gewri y Pwlpud Cymreig. Nid oedd ganddo ond gair da am y diweddar William Rowlands. Taniai ei lygaid yn fwy nag arferol pan y croesai yr hybarch William Morgan, Pottsville, drothwy ei feddwl. Edrychai gyda pharch sanctaidd ar enw y tad Morgans—rhoddasai fwy o goel i farn addfed rhai o'r Cymry yn ei gynulleidfa yn Efrog Newydd, na holl dadwrdd yr Americaniaid. Yr oeddyn-ei fwriad i ymweled a Chymru; acam fy mod yn gwybod mwy o'i fryd a'i feddwl na neb arall, yr wyf yn barod i ddweyd y prif bethau a ddenasent ei fryd. Treulio ych- ydig amser yn nghartref dedwydd a chys- urus y Dr. Price, Aberdar—gwrando ar Tom Jones, Abertawe yn dweyd y drefn— syllu ar fedd y diweddar William Roberts, Nefydd—gwrando ar Mathetesyn pregethu —ymgomio a David Thomas, Stockwell, a siglo llaw ag Evan Thomas, Lleurwg, Hughes, Llwyni, a Nathaniel Thomas, Caerdydd, a threulio peth amser yn hen gartref ei gyfaill mynwesol yn Llandybie. Nid oedd yn gerddor gwych, eto meddai lawer osglyn y gwaith o ganu. Er y byddai ganddo dair ton ar yr un gair ar brydiau, eto credai nad oedd alawon yr un genedl i'w cydmaru ag eiddo y Cymry. Ni chyf- ansoddodd ond ychydig o ;farddoniaeth, ond mynych yr ymegniai wneuthur bar- ddoniaeth yn y mesur caeth. Ni ofynai i ysbryd Dafydd ap Edmwnt ei gyfarwyddo ac ni freuddwydiai ychwaith am Aneurin Fardd tra y barddonai ar hyd ystrydoedd dinas Efrog Newydd. Weithiau tarawai enw rhyw fasnachwr ei feddwl gyda grym, a dechreuai wneuthur yr oil i odli yn ei ddull ef. Rhoddodd hyn i mi lawer o ddig- rifwcb. Cofiaf am rai o honynt yn awr; gosoder pob rheol farddonol, ond rheol natur, o'r neilldu.—"A T. Stewart yw'r dyn am starto—"Sheldon and Co., sholdyn y cyw"—John T. y giant tew."—"Mae'n bryd i fyn'd lawr i'r Broadway"—"Dyna cheato y maent yn Chatham," &c. Deli<;i yn y petliau uchod yn wholesale. Ni chym- erai arno ddeall mesurau caeth, ac nid wyf wedi dyfynu yr uchod ond er dangos an- sawdd fywiog ei feddwl ar rai adegau. Y geiriau diweddaf a lefarodd wrthyf oedd- ynt yn Gymraeg, a hyny gyda golwg ar rai 11 ,U ysgrifau yn y "Seren Orllewinolj" flynyddau yn ol ar Y weinidogaeth Ddysgedig." Meddai sel danllyd dros 7 Olorian, tra y bu. O! yr oedd yn berffaith Gymro, a bendigedig fydd Cymry Pennsylvania am ymlwybro fel y gwnant. Bydded i'w gwaith canmoladwy lawenychu calon y weddw, ein hanwyl chwaer Davies, allyfu- hau llwybr y plant bychain. A yw yn ormod gofyn i Gymry Penn- sylvania, a dinas Efrog Newydd, am godi cof-golofn uwch ei fedd yn Camden. Myn- er un ar-ysgrif yn Saesonaeg a'r llall yn Gymraeg. Enwaf gyfaill mynwesol P. L. Davies, sef J. T. Davies, (loan Fedyddiwr) 358 Broadway, fel y Trysorydd. Ga-lwaf ar Ieuan Ddu, Dwyfor, ac Aneurin Fardd, am ychydig linellau barddonol i addurno y gof-golofn. A fydd yn ormod i ychydig o Gymry gyfarfod ar lan ei fedd, a chysegru ei gof-golofn ag enaint gwir gariad? Bydd- af yno yn un. Gymry, cofiwch am bender- fyniad Cymanfa Taylorville. Addurner pob Bedyddiwr trwy holl Bennsylvania a darlun P. L. Davies. Ysgrifened rhywun ar y pwnc hwn yn ddioedi. Franklin, Pa. EDNYFED.
AR BRIODAS
AR BRIODAS Mr. John Williams. Fairhaven, Via Miss Sarah Price, Hydeville, Vt. Cysnrns lane i Sarah—a roddwyd I bereiddio'i thrigfa; Yn ei dvdd caed enw da, A golud byd ei gwala. lONORON GLAN DWYRYD. 4"
[No title]
-Darfu i naw o garcharorion dirio twll dan sylfaen y carchar yn Council Bluff, Iowa, yr wythnos ddiweddaf, a diangasant. -Darfu i'r dymestl fawr fu ar arorau Texas yn ddiweddar, chwythu ymaith y dail braidd yn llwyr oddiar y coed; ond yn bresenol y mae dail newyddion yn tarddu, fel pe buasai yn dechreu y gwan- wyr.
LLOFFLON 0 BELL AC AGOS.
LLOFFLON 0 BELL AC AGOS. Ymddengys fod tir Louisiana yn hynod o fras, ac yn cynyrchu cnydau tor- eithiog, heb ond ychydig o lafur. Mae cotwm yn tyfu yn rhagorol yno, a cheir enwd yn fynych yn werth$200,000. Mae yno 18,000,000 o erwau dan goed-6, 000, 000. wedi eu gorclwddio a phinwydd, a 3,000,01 ft a cypress. Mae coeden afalau (cralapple) yn Westfield, Vermont, yr hon a hodeuodd bedair gwaith yn ystod y tymor diweddaf. ac mae ami yn awr bedwar math o afalau,, rhai yn hen a'r rhai diweddaf yn dechreu impio. .Dywed y London Garden, fod y planhigion canlynol yn cynwys y swm a nodir o hadau, fel y gwelir isod. Red poppy, 50,000; thistle, 19,000; corn cockle, 200,500; charlock, 4,000; groundsel, 6,300, a black mustard. .Bwriedir tyfu llawer o bananas yn y Talaethau Deheuol yn y dyfodol, ar hen, dir a redwyd allan dan gotwm a thobaco. Tyf y coed yn rhwydd heb ddim llafur; ac mae y ffrwyth yn hynod o faethlon, a. marchnadol. Mae rhai bananas yn wyth modfedd o hyd, ac yn fodfedd a haner ar eu traws, ell yn ymborth ond y croen ar yr ochr allanol. .Caed allan yn ddiweddar y tyf coffi' yn gampus yn California; a chaed cynifer 9L, 22 o gangenau ar rai o'r coed yno, tra na thyf ond un mewn llawer o hen faesydd coffi. Codwyd yn California y llynedd 5,- 280,000 o oranges; eithr nid oedd hyny yn agos ddigon i ddiwallu Sall Francisco, lle- y defnyddiwyd 10,000,000. Derbyniwyd 5,000 o Tahiti a Mexico. Dywedir fod gwenith yn well ar ol pytatws nag unrhyw gnwd arall. Dywedir fod afalau mor dew ion, mewn rhai parthau o swydd Washington,. N. Y., fel y maent yn gwerthu mor isel a 15c., ac 20c. y bwsiel. Dywed ffarmwr yn Vermont iddo dderbyn 85 pwys o bytatws oddiwrth ddau ddarn a blanodd, o'r enw Early Vermont. (aed yr haf diweddaf 50 bwsiel o wenith i'r erw, ar gyfartaledd, ar ffarm yn agos i Santa Rosa, California. Mae y Saeson yn bwyta 4Y2 pwys yr un o gaws, am bob ly2 pwys a fwyteir gan bobl y Talaethau Unedig. Torwyd coeden afalau i lawr yn York, Maine, yr hon ddygwyd o Loegr yn y flwyddyn 1626, a chaed ffrwyth arni am 264 o flynyddoedd. Mae llawer o ffarmwyr Delaware yn cwyno eu bod wedi methu gwneyd peach brandy eleni, o herwydd absenoldeb hylif saccharine o'r ffrwythydd. .Hysbysir fod gwinrawn California yn cael eu difa yn ddrwg gan y phylloxera, fu yn hynod ddinystrol yn Ffrainc amser yn ol. Mae ffarm wyr yn Walla Walla, ac Umatilla, Oregon, yn gallu gwneyd mwy o arian wrth fagu defaid, nag unrhyw ddwy swydd arall. Adroddir fod yno 200,000 o ddefaid, a gwerthant am $2.50 a $3 y pen. .Codwyd 50,000 o fwrneli o hopys, yn Cobleskill, Schoharie Co., N. Y., eleni, a hyny ar ddwy ffarm yn unig, sef eiddo y brodyr Moot. .Fel yr oedd Charles Fael Zall, 17 mlwydd oed, yn bwydo defaid, yn Swan- ton, Va., y dydd o'r blaen, corniwyd ef gan h-n fyharen, fel y bu farw yn y fan. Mae Kossuth yn byw yn Carracon- ne, ac yn mwynhau ei hun drwy amaethu y ddaear, codi llysiau, blodau, ifrwythau,. &c. .Dengys yr adroddiad swyddol sydd newydd ei gyhoeddi fod llai o dir dan wenith eleni yn Lloegr nag mewn unrhyw flwyddyn er pan ddechreuodd y llywod- raeth gyhoeddi ei hadroddiadau, a llai a- 500,000 o erwau nag oedd y cyfartaledd hyd. 1860, pan yr oedd ganddynt yno lai o bed- air miliwn o bobl i ddarpar ymbortb iddynt. SEFYDLIAD CYMREIG FARIBAULT, MINTI. —Mae yn yr ardal hon rai Cymry yn byw er's deuddeg mlynedd; ond y mae y He yBh adnabyddus o herwydd nad oes neb yn: anfon gair oddiyma drwy y wasg. Pedwar o deuluoedd sydd yma yn bresenol, gan fod amryw wedi symud o herwydd diffyg- moddion crefyddol. Mae y lie yn 146 o filltiroedd i'r gorllewin o La Crosse, a. deuddeg milltir o Wells. Tref gynyddo-i ar y Southern R. R., ydyw Wells, ac mae- y Mankato R. R., yn cysylltu a'r S. R R- yno. Mae y Cymry rhwng y ddwy fforddi haiarn, bedair milltir o'r Mankato R. R., a thair milltir o'r S. R. R. Gwelir eu bod mewn lie cyfieus i'r marchnadoedd. Mae yno gyflawnder o ddwfr da yn rhedeg, ac mewn ffynonydd. Mae y tir yn ffrwythlon a'r cnydau yn doreithiog; ond y mae y tir yn rhad iawn. Pan oeddwn yno yn Gor- phenaf diweddaf, gallaswn brynu ffarm o 160 o erwau am $1000, $1200, neu $180G-, am y rhai goreu. Pe byddai i'r amaethwyr ranu eu ffermydd yn amryw o gaeau, gall- ent gael digonedd o ddwfr yn barhaus o'r fountain wells, o'r rhai y rhed dwfr yn barhaus i gafnau. Mae y coed tan yn lied brinion-rai 15 milldir o bellder; ond gwneir y diffyg hwn i fyny a digonedd o lo am $5 y dunell yn ystod yr haf. Ym- ddengys y wlad yn goediog, o herwydd fod. y ffarmwyr wedi planu llawer o good- Mae y teuluoedd Cymreig yn teimlo oddi- wrth ddiffyg moddion gras yn yr iaith, Gymraeg; ond symudir hyn ymaith fel y cynydda y boblogaeth. Mae ganddynt ys- gol Sabbothol, a chyfarfodydd gweddi. Dealler fod yno le da i weinidog fydd yB deall y ddwy iaith. Nid oes ond 30 a filltir- oedd i Mankato, yr hon svdd yn ddinas boblogaidd. Wrth fyned yno, eler o'r ger- bydres yn ngorsaf Minnesota Lake, ar y- Wells& Mankato R. R., o fewn 4 milltir i'r Cymry; neu yn ngorsaf Eston ar y Southern R. R., o fewn 3 milltir i'r Cymry.. Juds \11.. R. W. JONES..
CYFLWYNRDIG
CYFLWYNRDIG 1 William a Hannah Da vies, Caibmdale. Pa., ar enedigaeth eu cyntafanedig, Freddie, yr hwn a an- wyd Hydref 5, 1875. Wel William a Hannah Rhowch ddiolch i DdIlW, A cheisiwch ei foddio Tra byddo chwi byw; Am iddoc'h anrhegu A baban mor Jân, A chenwch o'i gwmpas Ale ynwes ar dan. A chan mai eich cyntaf- Anedig chwi yw, Gofalweh ei ddysgu Yn nghyfraith eich Duw; Fel byddo'n ymrestru Yn moreu ei oes, Yn fllwr dewr ffyddlon Yn myddin y groes. Hir oes a phob llwyddiant I'r baban dinam, Anrhydedd a fyddo I'w dad ac i'w fam; Ei yrfa ddaiarol Pan ddelo i ben, Ei dderbyn a gaffo I wynfyd uwch nen. Oarbondale, Pa. THOS. PRICE.
7 C7B7DD.
7 C7B7DD. Hen genaw am y geiniog Yw'r cybydd trwy ei oep, Nid oes digoni arno, Ond gwaedda'n gyson "Moes;" Argasglu golud b'ydol Yrhoes ei serch a'i fryd, O barthed hyn abertha Ei gysur yn y byd. 'Ran hyny dyna ydyw Ei gysur ef wrth gwrs, Sef crafu, hel a chrafu, Yr aur o hyd i'w bwrs; Rhag gwario cent o hono Newyna'i hunan bron, A'i wraig, os gwraig a fedda, WelDuw a helpo hon. Ei wisg sydd bron gan hyned Ag ydyw ef ei hun, A brithir hi a chlytian 0 bob rhyw liw a Uun, Fel nad oes unrhyw ddewin Ar wyneb daear gron dc All ddweyd o ba rhyw ddefnydd gwnaetITpwyd gyntaf hon. %y.mbi1 taer y weddw, Ni egyr ef ei law: Fe iCy-bach am^difad, Er tlerni V, Wy?eb draw; ni,7 cardotyn, Fe'i trvvn Tdd rnor Hwm, El galon sy' yn hof 11 lawD. Oforeuhydbrydnawn- Gwna dduw o'r aur a'r arinn Bentyra yn ystor.* an Yr aur y mae'n addoli Yn lie addoli'r lor. Ymwrthod ddyn traenus A'r fath resynus nwyd, Cyfrana i'r angenns A'th feddwl bellach cwyd; Ar bethau byd trag'wyddol O cofia'r farn a ddaw, i' Addola'r Duw, mae'th gyfoeth A'th anadl yn ei law. Trenton, N. y. Huw DTFI.
IGALLUOEDD JIILWROL EWROP.
GALLUOEDD JIILWROL EWROP. DENGYS y tabl canlynol a gasglwyd gan Ffrancwr, fod holl nerth milwrol Ewrop yn cynwys 8,011 000 o ddjmion, a'r draul flynyddol i'w cynal yn$676,426,000. Mae y gallu aruthrol hwn yn rhanedig rhwng y gwahanol wledydd fel y canlyn: Germani. 1,700,000 $100,000,000 Llnegr 535,000 120,000,000 Awstria 505,000 54,000,000 Belgium p. 43,000 8296,000 Denmark 54,000 1,883,000 Spaen. 270,000 32,000,000 Ffrainc 1,700,000 133,000,000. Qrocg 51,000 1,800,000 Itali 760,000 47,200,000 Holland 100,000 5,600,000 Portugal. 73,000 900,000 Rwsia. 1,550,000 136,000,000 Sweden 160,000 5,600,000 Switzerland. 180,000 1,800,000 Twrci. 300,000 28,400,000 Cyfanswm. 8,011,000 $676,426,000 Dangosir yn y ffigyrau uchod y gall Ym- erawdwyr Germani, Awstria a Rwsia roddi 3,785,000 o ddynion ar y maes pan y myn- ont; a phe yr ymunai Lloegr, Belgium, Denmark, Holland, Spaen, Itali, Switzer- land a Twrci, ceid byddin wrthwynebol o 3,942,000 o ddynion. Ar un olwg gallesid tybied y dylai y byddinoedd lluosog hyn fod yn foddion effeithiol i sicrhau hedd- wch rhwng y gwahanol wledydd; ond y ffaith yw, mai peri i'r naill ddrwg-dybied ac ofni y lla11 y maent, a byddai eu di- ddymiad yn ffordd llawer mwy effeithiol tuag at sicrhau heddwch cytfredinol. Y mae y ffaith o fodolaeth y galluoedd arfog hyn yn brawf eglur nad yw y mil blynydd- oedd yn ages wrth law.
«• CTJiFKLYN A'R JIWXVVYR…
«• CTJiFKLYN A'R JIWXVVYR ETO. MRi. GOL.—Er adeg ymddangosiad ysgrif genedlgarol Cynfelyn yn y DRYCH amser yn ol, yr wyf wedi disgwyl gweled ysgrif- au lawer yn eich papyr clodwiw ar yr un testyn; ond hyd yn hyn nid oes onri dau neu dri wedi dyfod allan yn gyhoeddus i gymeradwyo y cynllun a awgrymwyd gan y Cymro eenedlgarol, a'r mwnwr profiadol hwnw; eto credaf fod amryw, ar hyd a lied y wlad eang hon, a ewyllysient yn eu calonau weled rhyw gynllun o'r fath yn cael ei roddi mewn gweithrediad, ac y byddai iddynt, hyd eithaf eu gallu, roddi pob cynorthwy i gario y peth oddiam- gylch. Bum yn siarad yn bersonol ag am- ryw o barthed i'r peth, ac yr oedd y rhai hyny yn fyw i'r meddylddrych o gael rhyw gynllun o'r fath i weithrediad. Er nad wyf yn bersonol gydnabyddus o Cynfelyn, eto gwn ei fod yn un sydd yn caru dyrcliafiad ei gydgenedl, ac yn un sydd yn barod bob amser i wneyd yr hyn sydd yn ei allu tuag at ddwyn hyny oddi- amgylch. Yr wyf yn dweyd hynyna am y rheswm fy mod wedi ei gael felly fy hun. Ysgrifenais ato amryw droion er pan wyf yn y wlad hon, a chefais ef bob tro yn barod i roddi pob gwybodaeth a chy- northwy oedd yn ei allu i mi, er fy mod yn hollol ddyeithr iddo. Yr oedd yn dda g-an fy nghalon weled un o nodwedd Cynfelyn yn dechreu codi achos y mwnwyr i sylw, gan fy mod yn hollol argyhoeddedig, mai lies ei genedi ac nid elw personol oedd yn ei symbylu i ysgrifenu ar y pwnc. Disgwyliaf weled lluaws o ysgrifau eto ar yr un testyn, ac y bydd i ni, fel mwn- wyr gydweithredu i gael rhyw gynllun o'r fath oddiamgylch. Sugar Notch, Pa. WM. EDWARDS.
H UXAN-XEIDDIAID.
H UXAN-XEIDDIAID. Paham y mae dynion yn lladd eu hun- ain? Rhyw eithriad rbyfedd ydoedd fod neb yn cyflawni hunan-laddiad cyn dech- reu y cyfnod Cristionogol; ond fel y mae gwareiddiad yn lledaenu, y mae nifer yr hunan-leiddiaid (suicides) yn cynyddu yn gyflym. Dywed Van Ettinger o Prwsia mewn cyfrol a gyhoeddodd yn ddiweddar fod nifer yr hunan-leiddiaid yn Rwsia a'r Talaethau Unedig yn cynyddu, ar gyfar- taledd, yn gyflymach nag y cynydda y boblogaeth! Ymddengys fod y mwyafrif o'r rhai a roddant derfyn ar eu heinioes yn bobl ddibriod, neu wedi cael eu hysgaru (divorced). Dywed y gwr dysgedig hwnw hefyd yn mhellach, fod un o bob tri o'r achosion i'w priodoli i afiechyd meddyliol; un o bob naw o herwydd dyoddefladau corfforol; un o bob wyth trwy golli eiddo; un o bob deg o achos ofn cosb, cywilydd, neu euogrwydd cydwybod; un o bob deg o herwydd cwerylon teuluaidd; un o bob naw trwy hap-chwareu a meddwdod, tra nad yw nifer y rhai a siomir mewn carwr- iaeth ond bychan iawn. Mae tri o bob pedwar o hunan-leiddiaid pob gwlad yn perthyn i'r rhyw wrywaidd. Church Hill, 0. CALCRAFFT.
ATAP P. A. MON.
ATAP P. A. MON. BARCHUS OLY&YDDiON! Caniatewch i mi roddi cynygiad i Ap P. A. Mon i gywiro ei haeriad yn y DRYCH, Hyd. 21. Yr haeriad yw, fy mod wedi anfon llythvr o hunan- gymeradwyaeth ato o'r Hen Wlad yn cyn- wys y frawddeg ganlynol: "Yrwyf yn y rhestr flaenaf yn Ngliym, it, fel pregethwr, Ilenor a bardd." Yr wyf yn galw ar Ap P. A. Mon i ddwyn allan y llythyr hwnw yn fy llaw-ysgrif, a'i ddanfon i Swyddfa y Faner, Scranton, Pa., fel y byddo Thomas Phillips, perchenog y Faner, D. J. Evans a W. S. Jones, swyddfa y Faner, weled y llythyr, a minau a af yno i'w cyfarfod i gydnabod neu i wrthod y llaw-ysgrif fel eiddo i mi. Hyd nes y gwna Ap P A Mon hyny, yr wyf yn ei ddal ef yn gyfrifol am ddyfeisio y frawddeg, a'i thadogi yn g" bl arno ef. 1:1 Am ffolinebau haerllug a digywilydd eraill Ap P. A. Mon. gadawaf hwynt i farn a synwyr y cyhoedd; ac ni fuaswn yn gwneyd sylw o'r anwiredd hwn o'i eiddo, oni bai fy mod yn ystyried na ddylai, hyd yn nod Ap P. A. Mon, gyhoeddi anwir- eddau, i ddifrio ei wrthwvnebydd, pan y teimla ei fod yn colli pob dadl yn y mater dan sylw. Disgwyliaf i Ap P. A. Mon, fel bonedd wr, gydymffurfio a'r cais uchod, gan nad oes un llwybr arall mor ddidrafferth i ben- derfynu tadogaeth y frawddeg uchod. Ymrwyma y boneddwyr uchod i ddychwel- yd y llythyr i Ap P. A. Mon yn ddiogel. Pittston, Pa., Hyd. 21. CEFNI.
BEECHEB A'I ERLIDWYR.
BEECHEB A'I ERLIDWYR. Fel sylwedydd dystaw er's cryn amser ar yr erledigaeth a gedwir i fyny'mewn gwa- hanol foddau cowardaidd ar Mr. Beecher a'i "gyfeillion enwadol," a ddatganant hyder yn ei ddiniweidrwydd, ac a gyd- lawenhant ag ef yn llwyr fethiant y gyd- fradwriaeth i'w fwrw yn euog, cymhellir fi i ofyn i'w elynion oil: Pafudd sydd yn ei waed ef, pe disgynai i'r ffos" a gloddiasoch iddo?. Pe llwyddech yn eich rliyfelgyrch filein- ig arno, amcan amIwg ac unig yr hon yd- yw lladd defnyddioIdeb un o weinidogion goraf yr oesau, a fyddai hyny yn gredyd i'ch manhood? A fyddai ei gwymp ef yn gyfodiad i bregethwyr eiddigus a rhag- farnllyd, a gymerant arnynt fod yn gwneyd gwasanaeth i Dduw wrth roddi cilgwthiad bawaidd a Phariseaidd iddo, neu a raid merthyru esgob llafurus ac anwvl eglwys Plymouth i ddofi llid ysbrydion afian enwadaeth ac erledigaeth grefyddol, ag y mae ef ar hyd ei fywyd wedi enwogi ei hun fel eu gwrthwynebwr cryfaf a phybyraf? Gofynaf eto i chwi Oil, sydd yn sychedu cymaint am ei waed, ac mor fuan eich traed i'w dywallt, Pa fudd sydd ynddo, a pha hawl sydd genych i'w dywallt? Fe'i profwyd mewn llys eg'lwyaig a gwlad- ol, ac ni chafwyd y bai hwnw ynddo a ddygid yn ei erbyn, beth bynag am feiau eraill. "0, wel, cyfeillion iddo, na choel- iasent ei fod yn euog o odineb pe cyfaddas- ai hyny ei hun, oedd y rhai a ymchwilient i'w achos." Nid yn y llyg gwladol yn ddiau; a chyda Haw, foneddigion (?) Ku- kluxaidd—Knights of the coffin and cross bones-ni chredwn eich awgrymiadau en- 11 ibus am y brodyr a wnaent i fyny y pwyllgor eglwysig ychwaith. Winslow Storrs ac eraill a berthynentiddoaadwaen- ir fel dynion geirwir, anrhydeddus. ac y rhoddir yr ymddiriedaeth Iwyraf i'w tyst- iolaethau. Ond pwy ydych chwi, sydd wedi ymddieithrio dan ffugenwau gyda huddugl o simddeiau Die Ty-poeth, a ruthrweh arnynt, ac a fynech lusgo'r cy- huddedig o'u dwylaw i'w ddarnio yn eich cynllwynfan? Ond ni lwyddwch. Ac yr ydych yn cario syniadau rhy isel am gariad diarebol ein cenedl at chwareu teg. os yn tybied y goddefant i'ch dirdra basio yn/ldigosb. Mewn dadleuon ap byneiau gwleidiadol a duwinyddol, mae yn oddefadwy, a gallai fod yn ddoeth ac angenrheidiol iguddio yr ysgrifenwyr! Ond noduJedd Mr. Beecher, nid ei gredo-enw da gweinidog i Grist, a fu yn sefyll o flaen y byd. ar ei fanloriau cyhoeddusaf hefyd am ddeucain mlvnedd, heb i neb feiddio dwyn achwvn o anfoes- oldeb yn ei erbvn, sydd yn cael ei faeddu a'i larpio gan hyenas a buzzards dan ffug- enwau yn y DRYCR. Let as have peace yw fy arwyddair. Dodais fy nghleddyf yn ei wain ar y mater hwn ddau fis yn ol, gan obeithio na bydd- ai galw am i mi ei dynu allan mwyach. Ond ymddengys na chawn heddwch. O'r goren, dyma fy nghleddyf inau allan eto. Mynaf weled bellach pa faint o wir sydd yn y dywediad, that "one sword keeps another in its scabbard." Cincinnati, 0. G. GRIFFITHS. [Mae ynamlwg mai at ysgrif Pistillfardd yn y DRYCH, Hydref 14eg, y cyfeiria Mr. Griffiths yn y llythyr uchod; a chan ei fod ef mor barod i dynu ei "gleddyf" allan i drywanu golygwyr y DRYCH mewn cysyllt- iad ag achos Beecher, bydded hysbys iddo fod Pistillfardd yn weinidog yr efengyl, ac mor barchus a neb o'n gohebwyr. Yr oedd ganddo berffaith hawl i ddweyd ei farn ar achos Beecher uwch ffug-enw, os oedd yn dewis; ac os gall Mr. Griffiths ddangos yn wahanol, y mae Pistillfardd yn ddigon o ddyn i arddel ei enw priodol. A hoffai Mr. Griffiths i ni safnrwymo y wasg, a gwrthod rhyddid i neb ddweyd gair ond clodforwyr y Parch. Mr. Beecher? Nid oes yr un gallu yn ddigon grymus i'n gorfodi i ym- ddwyn mor Babyddol; ond rhoddwn ryddid perffaith i'r ddwy ochr, a dywedwn, "Rhydd i bob meddwl ei farn, ac i bob barn ei llafar."—GOL. Y DRYCH.