Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Y RHOSYN AR Y BEDD.
Y RHOSYN AR Y BEDD. Mae pawb yn hoffi gweled Y fonwent yn y coed, A llawer un sy'n coflo am Yr eneth saith-mlwydd oed, A welwyd yn penliuio, A deigryn ar ei boch. Ar feddrod llwm ei hanwyl fam, I blanu rhosyn coch. Yn ngwen y blod'yn tyner Canfyddai wen ei mam; A'i gofal oedd am dano'n fawr Rhag iddo byth gael cam; Ymledodd ei brydferthwch Dan wenau heulwen hedd, A phawb sy'n 'nabod gwridog rudd Y rhosyn ar y bedd. Un diwrnod yn y gwanwyn Pan wenai'r rhosyn iach, Daeth angel o'r trigfanau fry I 'nol yr eneth facti I ardd y nef rosynan, Uwchlaw pob croes a cham, A'i chorff gwywedig roed i lawr Yn medct ei hanwyl fam; Ond pan fa farwlr eneth Daeth rhyw angyles dlos Y'mlaen, yn llaw Rhagluniaeth nef, I gadw'n fyw y rhos; Os yw'r un faeh yn ddistaw Dan len gorphwysfa hedd, Mae'r rhosyn blanodd gant a'i llaw Yn siarad ar ei bedd. Dinorwig. GLAN PADABN.
CYFARFODYDD GWERSYLLOL
CYFARFODYDD GWERSYLLOL YMWELIAD AG OCEAN GROVE, N. J. MRI. GOL.- Y mae yn debyg Dad oes llawer o ddarllenwyr y DRYCR wedi bod erioed yn Ocean Grove, lie y cynelir cyf- arfodydd gwersyllol yn yr haf. Y mae yn gefyll ar lan y mor, chwe' milldir o Long Branch, Jersey Newydd. Cychwynwyd y sefydliad hwn gan nifer fechan o weinid- ogion yr efengyl ac eraill, chwe' blynedd yn ol, gyda'r bwriad o fyned i ryw ardal lonydd yn yr haf i gael seibiant oddiwrth lafur a thrafferthion bywyd-cael adnew- yddu eu nerth yn gorfforol ac yn ysbrydol, a chael cyfleusderau i gynal moddion cref- yddol, Ymunodd eraill a hwynt, ffurfiwyd cymdeithas neu gwmpeini, a chynyddodd y lie yn gyflym. Y mae ganddynt yn bresenol dros dri chant o erwau o dir, ac o dri i bedwar cant o fythynod wedi eu had- eiladu gan wahanol feddianwyr; ac yn yr haf y mae canoedd yn byw mewn tentiau o'r eiddynt eu hunain, neu wedi eu rhentio oddiar y cwmpeini. Y mae nifer mawr yn aros yno drwy yr haf. Fel gorphwysfa i'r lluddedig a'r afiach, ac i'r rhai sydd yn hom tawelwch a hedd- wch i twynhau eu hunain fel y gwelont yn oreu, y mae yn anhawdd dychymygu am un lie mwy hyfryd a dymunol. Y mae yn rhydd oddiwrth lywodraeth gwag ffasiyn- au, (yr hyn sydd yn rhwystr i lawer i fyned i leoedd eraill ar lan y m6r,) a gwaherddir gwerthu diodydd meddwol yno, a phob- peth a duedda i lygru moesau pobl. Fel hyn, y mae yr ymwelwyr yn anadlu math o awyr foesol iachus, gan fod y trigolion, a phawb sy'n dal cysylltiad a'r lie, naill ai yn grefyddwyr eu hunain neu o dan ddy- lanwad teuluoedd crefyddol. Nid myfi, na neb arall, sydd i farnu pa nifer o ddyn- ion duwiol sydd yn myned yno; ond y r r mae pawb yn gorfod ymddwyn fel pe buas- ent felly; ac y mae hyny yn llawer iawn o beth y dyddiau hyn. Y mae Ocean Grove yn lIe ,prydferth iawn, ac yn neillduol o iachus. Y mae yn cynwys heolydd, parciau a llwyni heirdd a deniadol. Y mae y cyfleusderau i ym- drochi yn y dwfr hallt yn dra manteisiol a diogel; ac os bydd rhywrai yn dewis ym- drochi^ mewn dwfr croew, y mae yno lyn- oedd eirian at eu gwasanaeth. Ar un o'r ynoe hyn, sef ^Wesley Lake., gwelir ug- einiau o fadau-rhai gyda rhwyfau, eraill wy lau ac y mae y rhai sydd ynddynt yn difyru eu hunain, yn enwedig yn min h*yr drwy ganu emynau, neu ganeuon W dmiwed &c., &c. Y maey canu a'r olygfa, yn nghyda r amgylchiadau cylchynol yn ddigon, weithiau, i wneyd i ddyn anghofio ei fod ar y ddaear. Ar yr ochr arall i'r Hyn y mae Asbury Park, yn cynwys 500 o erwau o dir, ac yn 'cael ei gyfaddasu bron at yr un dyben ag Ocean Grove. Y mae hwnw hefyd yn cynyddu yn gyflym, ac y, mae yn debyg o ddyfod:i fyny cyn bo hir (t'r Grove—mewn rhaipethau, ond nid yn mhob peth, Gyda golwg ar y moddion crefyddol, dy- wedir fod weithiau dros ddeng mil mewn un cynulliad. Barnwyf nad ydyw cyf- arfodydd gwersyllol yn boblogaidd iawn gyda ni fel Cymry. Peth rhyfedd yw hyn, oblegid y maent yn tebygu mwy i'r Cym- anfaoedd" a'r "Cyfarfodydd Mawr" yn Nghymru, na dim a welais erioed. Weith- iau y mae rhai o'r llefarwyr a'r gwran- dawyr yn myned dipyn i eithafoedd yn mhlith yr Americaniaid; oDd gwelais yn Nghymru, yn enwedig yn Sasiwn y Bala a Sasiwn Dolgellau, fwy o orfoleddu a chy- nyrfiadau crefyddol nag a welais erioed mewn Camp-meeting. Yr wyf yn coflo gwrando, pan yn hogyn, ar William Owen Bach, CaernarfoD, yn pregethu ar y geir- iau "Abba Dad," yn nghyfarfod n-iawr y Wesleyaid yn Nolgellau, nes oedd y preg- ethwyr a'r holl p-ynulleidfa yn bloeddio gyda'u holl nerth, ac yn boddi ei lais ef yn hollol. Hyd yn hyn ni welais ddim cyf- artal yn y wlad lion. Ond beth sydd allan o le yn hyn? Gwn fod dynion deallus," "pwyllog," "gwy- bodus," a "choeth," naill ai yn dirmygu neu yn gwatwor y fath arddangosiadau o deimlad, ac yn haeru mai arwyddion o wallgofrwydd ydynt. Gwelais, pan yn llanc, (mewn chwareudy) Mr. Macready a Miss Charlotte Cushman, pan yn actio ac yn adrodd darnau o Dramas Shakespeare, yn gwneyd i'r fath ddynion "deallus," "pwyllog," &c., &c., wylo fel plant, neu wingo yn eu heistedd-leoedd, neu fioeddio fel pe mewn cyjyngder; ond nid oedd neb' yn haeru eu bod yn colli eu synwyrau, er y buasai ar bob un o honynt gywilydd dangos unrhyw deimlad mewn addoldy. Gwelais hefyd mewn cyfarfodydd politic- aidd ddynion penffaled yn cael eu cyn- hyrfu gan areithiwr hyawdl nes yr oeddynt yn neidio a bloeddio fel gwallgofiaid; ond wrth ymddiddan a hwy ar ol y cyfarfod, ceid eu bod yn hynod o wide-awake. Yn awr, paham y dirmygir ac y gwawdir cref- yddwyr am eu bod ar droion yn cael eu cynhyrfu wrth wrando ar yr hanesion, yr apfeliadau a'r darluniadau mwyaf effeith. iol, dwys a chyffrous-mwyaf pwysig idd- ynt hwy yn bersonol, a mwyaf angenrheid- iol iddynt roddi eu holl fryd arnynt? A ddylai addolwyr eistedd yn fud a llonydd fel ceryg, pan yn gwrando gwirioneddau yn cael eu traddodi ag ydynt yn llawer mwy pwysig iddynt hwy na gwaith Shakes- pere, ac areithiau politicaidd? Nid oes llawer o berygl y dyddiau hyn i neb fyned yn wallgof o herwydd gormod o wresog- rwydd crefyddol. Yr oedd y pregethau a glywais i yn y gwahanol gyfarfodydd yn syml ac efengyl- aidd-yn briodol i'r lie a'r amgylchiad. Eu dyben oedd gwneyd dynion drwg yn ddyn- ion da, a dynion da yn ddynion gwell. Nid oedd yno neb yn ceisio gwneyd i bobl feddwl ei fod yn ddwfn mewn dysg, dawn a doethineb. Gan hyny, ni phregethodd neb oddiar destynau fel "Y Dyddim An- feidrol," "Y Nifwl Anhysbyddadwy," a Twrch Daear fel engraifft o Ddoethineb Creadigol," a phynciau o'r fath natur. Y mae yn ddiameu fod pethau fel hyn yn hynodJddyddorol yn eu lie priodol; ond nid y camp-meeting yw y lie hwnw. Gwelais rai Cymry oEfrogNewydd yno; yn eu plith Mr. Thomas Davies, Mr. Wm. D. Davies, a Mr. Robert Lewis, a'u teulu. oedd. Fe allai fod yno Gymry eraill, o wahanol barthau o'r wlad, na chefais y fraint o ddyfod yn gydnabyddus a hwy. Yr oedd yn Ocean Grove, un Sabboth, gyfaill i mi (nid Cymro) yr hwn sydd yn Univeraaliad. Enthusiasts oedd y gair a arferai ef am yr addolwyr yno. Pan ddy- chwelais i'r ddinas, aethum y nos Sabboth gyntaf i'w eglwys ef (UniversaMst). Yr oeddwn yn awyddus am gael gwybod pa beth a feddylid wrth bregeth "oer," "syn- wyrol," ddeallus," mewn gwrthgyferbyn- iad i bregeth y "teimlad." Nid oeddwn yn gwybod beth oedd y testyn i fod y nos Sabboth hono, ond dyma fo: "From New York to Paris." Dim gair o son am Dduw, na nefoedd, nac Uffern. Wel, wel, y mae yn debyg y gwyddai y bugail enwog pa fath ymborth a foddlonai ei braidd; ond yr oeddwn i yn meddwl, yn fy niniweid- rwydd, y buasai yn well iddo geisio dangos iddynt y ffordd o New fork i'r nef oedd ar nos Sabboth, nag i Paris. Yr eiddoch, New York. CAXTOR.
EDITH WYNNE (EOS CYMBU.)
EDITH WYNNE (EOS CYMBU.) MRI. GOL, Diameu y bydd yn dda gan filoedd o ddarllenwyr y DRYCH gael ychyd- ig o hanes pencerddes ein cyngerddau Cymreig, gan un sydd wedi darllen llawer o'i hanes, a'i chlywed, ac un sydd wedi ei eni a'i fagu ar ei phwys. Ganwyd Edith Wynne yn Trelfynon, ac unodd pan yn naw mlwydd oed, gyda Chymdeithas Gor- awl Treffynon. Yn fuan ar ol bod yn aelod, fe ganodd ddeuawd gyda'i chwaer, Miss Hannah Wynne, yn un o gyngerddau y gymdeitlias. Ar ol cymeradwyaeth y cyfarfod, cododd Miss Edith drachefn, a chanodd "The Chip Girl," nes oedd yr holl gynulleidfa wedi ei gwynfydu; a disgyn- odd cawod o flodau ar ei phen, yn nhrwst curiadau dwylaw a thraed. Amlygai y fath deimlad dwys a thoddedig yn y gan fechan hono, nes oedd dagrau y gwrandaw- wyr yn Ilifo o gydymdeimlad a boddhad. Buygeiriau, "Want Chips," am wythnos- au lawer yn mhenau pobl Treffynon, fel swn clychau yn yr awyr. Yr oedd Eisteddfod yn fuan wedi hyn yn Nhreffynon, He y cynygid gwobrau i'r goreuon am ganu deuawd. Fy anwyl Fam fy hunan" ydoedd y dernyn a ddewis- wyd gan Miss Wynne a Llew Llwyfo; ac enillasant y wobr. Pan oedd hi yn 12 mlwydd oed, fe aeth ar daith gyda Mr. Hulse o Fangor, G. C., i roddi nifer o gyngerddau trwy Gymru; a dyma'r adeg y caw&om y pleser o'i gweled gyntaf mewn costwm Gymreig. Y mae ffug-falchder a diffyg gwroldeb gwladgarol wedi gwneyd i lawer o gantoresau ein gwlad osgok,)'r neilldd; ac ymesgusodi rhag gwisgo arddull eu mamau a'u neiniau. Nid felly Miss Wynne—fe gadwodd ei hiaith; ac y mae genym ie i gredu, os oes ynddi falchder o gwbl, ei bod yn teimlo yn falchach o'i het befar a'i becdwn winsi, nag o'r ball-dress ardderchocaf a welodd. Y mae gwladgar- wch diffuant yn y teimlad penderfynol ac eofn hwn—nid all dim arall ei gynyrchu. I lygad chwaeth bur, y mae prydferthwch neillduol yn y wisg Gymreig. Yr anfantais fwyaf ydyw, fod y sawl sydd yn gwneyd y "Welsh costumes" a ddefnyddir ar yr esgynlawr yn cymeryd y patrymau oddi- wrth wisgoedd y dosbarth isaf o'r hen genedl. Y mae yr ychydig Gymroesau glan sydd yn parhau yn ffyddlawn i'r het a'r becdwn yn Mon, Arfon, Meirionydd, a'r Deheubarth, yn bobl lied dlawd ar y cyfan, ac heb chwaeth na moddion i osod allan, ac i wneyd chwareu teg a'r arddull. Y peth sydd arnom eisiau ydyw dwyn allan y costwm yn ei ddull goreu, a gadael i gelfyddyd ffurfio ei neillduolion yn unol a rheolau prydferthwch* a gweddeidd-dra ymdrwsiad. Y mae yr Ysgotyn a'i bais gwta," wedi cymeryd, y rhyddid hwnw; ac wedi newid ac addurno, a diweddaru costwm ucheldir Ysgotland, nes y mae hyd yn nod meibion ieuaine pendefigion yr Alban, yn ymhyfrydu rhoddi y bais gwta am danynt yn awr a phryd arall. Gwelsom fonedd- wr a'i dri bachgen yn Arddangosfa Llun- dain yn eu "Kilts;" a phe bae ychydig sylw yn cael ei dalu yn mysg boneddigesau Cymru i'r het a'r becdwn, nid oes un rhwystr a'r ffordd y costwm Cyn»reig i fyned i mewn i deuluoedd pendefigaidd Gwyllt Walia. Y mae Arglwyddes Llan- over yn ei fawr iioffi ar uchel wyliau y genedl. Yn awr a phryd arall y dymunem ninau i'n chwiorydd Cymreig droi allan yn I', yr arwisg genedlaethol. Ar y daith gyng- erddol gyda Mr. Hulse-fel y sylwasom o'r blaen—y cawsom y pleser o weled Miss Wynne yn y "Welsh costume." Yr ydym yn ei chael y pryd hwnw dan yr enw, "The Juvenile Welsh Songstress." Mewn cyngerdd yn Mangor, dan nawdd y diweddar y Syr John Hay Wil- liams, gyrwyd iddi lythyr o ganmoliaeth, yn nghyd a nodyn arall yn cynwys swm hardd o arian. fel anrheg oddiwrth Lady Clarence Paget. Bu teulu y diweddar Frederick Richard West, Ysw., yn anog- aeth mawr iddi yn ei gyrfa gychwynol Y mae yr anrhegion arianol, a'r rhoddion eraill a gafodd gan y Mrs. West, yn sicr o fod wedi ei chalonogiyn fawr i fyned yn mlaen. Pan oedd oddeutu 13 mlwydd oed, ymwelwyd a hi gan un o genadon penaf angeu-y dychrynllyd "typhus fever;" ond achubwyd ei llais. Cyfansoddodd don ar y geiriau, "Bywyd y meirw tyr'd i'n plith," pan yn lled ieu- anc; ac fe'i cenir yn fynych yn y capelydd yn bresenol. Y mae amryw chwedlau difyrus ellid ddywedyd am dani i ddangos yr hoffder anorchfygol oedd yn ei medd. ianu at gerddoriaeth. Yr oedd yn gorfod nyrsio y baban un boreu hyfryd o haf; ac wrth iddi rodio o gwmpas ei chartref gyda'r plentyn, fe glywai fand o fiwsig yn nesau, y tabwrdd, y symbal a'r dympan. I lawr a'r baban ar ganol y llawr, a ffwrdd ag Edith ar ol y seindorf. Canlynodd y band trwy'r dydd, o le i Ie, ac o fan i fan, a'i chalon wedi ei gwynfydu yn fwy nag erioed gan swynion anaearol y gan. Buwyd yn bryderus iawn am dani; ond o'rdiwedd, gyda bod y cyfnos yn hel yr adar i'r coed, a'r ednod i'w clwydi, daeth yr Eos i'r golwg, ac yn syth at y berdoneg i chwareu ar danau hono y darnau oedd y seindorf wedi bod yn ganu yn ystod y dydd. Yr oedd y wialen fedw er's meityn yn aros am dani i mewn; ond wrth fyned o dan y drin- iaeth, a thrwy y seremoni hono, oblegid gadael y baban yn y boreu, daeth y dagrau yn bidl dros ruddiau Edith, druan, a gwaeddodd allan, "Ar y band, mam anwyl, ar y band yr oedd y bai." Yr oedd hyny yn eithaf gwir. Gwelodd ei rhieni o'r diwedd fod holl feddylfryd calon eu merch fechan wedi ei roddi ar fiwsig. Y canlyn- iad fu iddynt fyned i gytundeb am bum' mlynedd gyda Mrs. Scarisbrook o Liver- pool, yr hon a drodd allan i'r byd cerddorol yn Miss Wynne, ei seren ddisgleiriaf oil. Terfynaf, gan ddymuno bob llwyddiant a hir oes i Edith i wasanaethu hen genedl y Cymry, ac yn y diwedd i gael ei dwyn i blith cantorion gwlad gogoniant. Hyn yw dymuniad RHYDWEN. Piitston, Pa.
MANTEISION ADDYSG.
MANTEISION ADDYSG. GAN J. PROSSER (PENFELYN).* Yr ydym yn byw mewn oes sydd yn llawn o bob manteision i dderbyij-a mwyn- hau addysg. Mae y manteision wedi, ac yn cynyddu flwyddyn ar ol blwyddyn. Mae rhifedi yr ysgolion dyddiol, lluosogrwydd y cymdeithasau llenyddol o bob nodwedd- iad, yn nghyd a genau agored yr argraff- 'wasg, yn gosod manteision addysg yn llwybr dyn, eled i'r man y myno braidd. Mae Ilyfrau yn cael eu hargraffu ar droell- au cyflym agerbeirianau, a doniau medd- yliau prif ddynion y byd i'w cael yn rhad, mewn ystyr, i'r hyn a fuont. Mae y deng mlynedd ar hugain diweddaf wedi cyflawni gwyrthiau o ryfeddodau yn lluosogiad y manteision hyn. Yr ydym yn cofio yr am- ser pan ein gorfodid i fyfyrio rheolau celyd y Gramadeg Cymreig heb gymorth unrhyw ysgolhaig wrth ein hochr, i'n cynorthwyo i amgyffred gwersi y cyfryw. Llawer hwyrnos y buom yn ymboeni wrth lewyrch canwyll, yn ceisio cael allan feddwl ymar- ferol un frawddeg, ac yn y diwedd yn gor- fod rhoi i fyny, a gadael y pwnc yn nhy- wyllwch deuddcg o'r gloch y nos, heb dde- all y dirgelwch wedi hyny. Yr un fath hefyd mewn perthynas i reolau a beiau cerdd dafod. Hwyrach mai unwaith yn ysbaid chvre' mis y gosodai ffawd ein gwyneb yn mhresenoldeb gwyneb llenor Cymreig yn y dyddiau hyny. Ond mae yr oes sydd yn codi yn bresenol, er yn sychedu am y pethau hyn, yn sefyll megis yn nghanol llenorion a beirdd yn barod i'w cynorthwyo yn rhad. Gall y myfyriwr yn awr ddysgu cymaint mewn chwe' mis ag a allai ddysgu ddeng mlynedd ar hugain yn ol mewn c) nifer a hyny o flynyddau. Nid oes eisiau yn bresenol ond ewyllys ac ymro- ad i ddysgu. Mae addysg yn ein hanerch yn ei gwahanol arweddion yn barhaus. Hefyd, y mae personau sydd wedi esgyn i fyny ar hyd ysgol addysg yn gallu gweled y llanerchau eang hyfryd yn blodeuo yn y pellder, yn awyddus i'n harwain i fyny i'r un safle, ac yn barod i estyn cymorth erein dyrchafu. Addysg ydyw y gallu sydd yn galluogi un dyn i ragori cymaint ar ddyn arall. Mae gormod o honomyn credu ac yn dychymygu fod y Creawdwr wedi ymddir- ied rhyw dalentau arbenig a neillduol i un person, tra wedi esgeuluso ei gymydog i raddau mawr yn y cyfeiriad hwnw. Fel rheol, tybiaeth gyfeiliornus a dinystriol ydyw tybiaeth o'r fath, a ffiloreg foesol yw siarad am dano. Addysg ydyw yr un- *Traddodwyd yr araeth uchod mewn cyfarfod llen- yddol yn Church Hill, 0., dro yn Ol.-PENFELYN. ig foddion sydd yn gallu cynyrchu a dad- blygu y meddwl dynol. Y mae mwy o gymwysderau, hwyrach, at fod yn ddefn- yddiol yn mhob dyn yn ei synwyr cyffred- in nag yr ydym wedi dychymygu, pe bu- asid wedi ymroi yn ddyfal, gan wneuthur defnydd o'r manteision a gaed. Rhyw fwnglawdd dihysbydd ydyw yr- ymenydd, ond cael addysg er dwyn y mwn- au cuddiedig a gwerthfawr i oleuni a gwyn- eb haul. Mae yr hwn sydd yn ymorphwys mewn diogi meddyliol tra byddo addysg megis yn curo wrth ddrws ei ystafell yn bechadur o'r nodwedd gwaethaf. Mae pobl i'w cael, ond nid yn Church Hill, gob- eithiwn, wedi credu mai unig fwriad yr Goruchaf yn eu creadigaeth, a'u lianfoniad: yma i'r byd oedd, i fod yn frodyr'i'r mul- od druain—yn fath o gefnderoedd i geffyl- au boneddigion, ac yn gaethion bwriaded- ig i ormeswyr trahaus-falch. Eithr y mae addysg yn egluro dyn iddo ei hun. Mae yn dyfod yn alluog i fFurfio barn deg am ei bwysigrwydd yn y byd yn annibynol ar liw ei hugan na defnydd ei lodrau. Yr ydym yn son yn fynych, ac yn cya" llunio yn ami am y moddion goreu i'n gall- uogi i gael ein hiawnderau yn marchnad llafur; ond heb i'r dosbarth gweithiol ymdrechu llawer mwy yn y dyfodol tuag at gael addysg nag y mae yn y mynedol, bydd pob cynyg am ein hawliau yn syrthia yn fyr o gyraedd y n6d. Addysg briodol yw yr allwedd aur sydd yn medru dadgloi y dorau sydd yn arwain i'r ystafelloedd lie mae gwerth llafur wedi ei gofnodi a phirL rheswm ac a gwaed y gwirionedd! Mae yr hwn a esgeuluso addysg YD" gwneyd cam a'i Grewr, a cholled iddo ei hun. Masterpiece y greadigaeth yw dyn, yn feddyliol, ar ol ei ddiwyllio ag addysg. Am ei rym corfforol, nid all ymffrostio- cyferfydd a'r llew ar y maes, a syrth yru ysglyfaeth iddo. Am ei fuander symudol'r gall dewi a son-mae hyd yn nod yr ysgyf- arnog yn gynt o draed nag ef. Yr aderya. bychan hefyd fedr ehedeg o'i gyraedd i awyrgylch y ffurfafen fry. Eithr yn ngol- euni addysg,mae dyn yn arglwydd y gread- igaeth; mae peirianau ei ddyfeisiau yn ddi- gon cryfion i chwalu llewod y ddaear yn chwilfriw, ac i flaenu y rhedwr buanaf er- ehedydd uchaf. Mae addysg, yn ein hoes. ni, yn arwain ewyllys a syniadau y medd- wl dynol o Ewrop i America, o dan gan* miliwn o dunelli o ddwfr, mewn yehydig amser. Addysg sydd yn galluogi y dyn yna i drosglwyddo ei feddwl o St.. Louis, Missouri, i New York, ar aden y fellfr- en! Addysg a ddyrchafa y meddwl heibio i haul a" ser, ac i gymeryd gwibdaith bles- erus i blith bydoedd gan' mil mwy na'n. daear ni, gan arwain pin yr ysgrifenydd i roddi hanes eu symudiadau o'n blaen.— Teimlwn yn ami fod y cyfryw ddy-niom yn mhell uwchlaw mewn syniadaeth i mI- rhyw ddychymyg a feddwn ni. Rhaid fod eu hyfrydwch a'u boddhad hefyd yn gyf- ystyr. Yn ngoleuni y gosodiadau hyn, a mil- oedd cyffelyb y. gellid eu dwyn gsr bron, oni ddylem ymdrechu llawer i gyraedd rhyw nod o bwys yn llywodraeth addysg$ Pan y byddwn yn darllen am y gwahanol ddarganfyddiadau a wneir o'dro i dro mewn gwahanol derfynau, byddwn yn gofyn i ni ein hunain, Beth a wnaethum i erioed yn deilwng o gofnodiad? Gyd-lenorion, rhaid i ni ymdrechu Cyr"- aedd rhyw nod o bwysigrwydd mewn rhyw gangen neu gilydd yn y byd yma, onide synwn i ddim na fydd ein plant eto yn gwadu eu perthynas a ni. Nid oes unrhyw esgusawd gan y naill na'r llall o honom. dros y rhan fwyaf o'n hanwybodaeth— wedi treulio ein hamser yn ofer yr ydym. Y mae cyfraith a chosb ynddi yn New York ar rieni am esgeuluso anfon eu plant-, i'r ysgol. Byddai yn fendith i ninau ac i, gymdeithas pe byddai hawl gan yr liedd- geidwaid i gymeryd pob segurddyn ym Church Hiil i'r ysgol neu i'r carehas. Add- ysg yw y lever sydd yn codi y memi. oddiar drysor-gelloedd y meddwl, ae yn gwneyd dyn yn deilwng o'i Dduw.
[No title]
—Mae y Delaware & Hudson Coal Cft wedi penderfynu peidio codi pris y glo am. y mis nesaf, fel yr hysbyswyd. amser yn oL -Darfu i grydd o'r enw Charles Revere saethu ei hun mewn ty drwgyn New York yr wythnos ddiweddaL Gwariodd oddeu- tu $200,000.
Advertising
I ¡ & TTJSMJRZT JV&WS%>j±Z>ER'. ESTABLISHED 1851. Issued Every Thursday Morning. T. J. GRIFFITHS, Proprietor, UTICA. N. Y. I