Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

NODION PERSONOL.

News
Cite
Share

NODION PERSONOL. Bydded i bawb gofio mai cyfeiriad pres- enol Mr. CADWALADR RICHARDS, diweddar o'r Temperance Hall, New York, yw-70 South 6th Street, Williamsburgh. Sylwer ar ei Hysbysiad ar yr 8fed tu dalen. Dywedir fod yr henafgwr WILLIAM ALLEN yn dechreu pryderu yn nghylch ei etholiad yn Llywodraethwr Ohio, yn en- Wedig er pan y mae SCHURZ ar y maes. Un o'i sylwadau y dydd o'r blaen, medd y Cleveland Leader, oedd "fod yr Ellmyn- iaid yn dd-l-g o ansafadwy." (Jrddwvd y Cardinal MCCLOSKEY, o New York, yn seremoniol iawn yn eglwys Sanc- ta Maria Sopra Minervani, yn Rhufa n, ar y 30ain cynfisol. Teyrnged nid bechan o barch i'r Cyn- Seneddwr SCHURZ oedd i bron bob new- yddiadur o nod gyhoeddi ei araeth gyntaf yn Ohio yn llawn. Mae Mr. HENRY VINCENT newydd lanio yn New York o Loegr; a bydd yn ymwel- ed â'r prif ddinasoedd i ddarlithio y tymor dyfodol. Yr oedd J. RUSSELL JONES i ddechreu ar > ei swydd o Gynullydd porthladd Chicago ar y laf cyfisol. Dywedir fod yr awdwr enwog THOMAS CARLYLE, er yn 79 mlwydd oed, yn ym- neillduo i'w fyfyrgell bob nos, lie yr erys am oriau. f Gwneir yn hysbys fod yr Anrh. ALEX- ANDER H. STEPHENS i draddodi un o'r lyceum lectures' yn Chicago y tymor dy- fodol, am yr hyn y derbynia$1,000. Dymunem alw sylw pobl Hyde Park a'r cylchoedd at Hysbysiad Dr. HENRY 1. JonES, a welir mewn colofn arall, yr hwn fel y deallwn sydd wedi enill clod nid bych- an ar gyfrif ei fedrusrwydd yn y gelfydd- yd feddygol. Mab yw Mr. Jones i'r bardd adnabyddus Robert Isaac Jones (Alltud Eif- 1 ton), Porthmadoc, ac y mae wedi cael yr addysg oreu, a phrofiad helaeth. Bydd yn drwm gan lawer gael ar ddeall fod y Parch. D. W. MORRIS, Hyde Park, Pa., wedi penderfynu dychwelyd i Gymru i dreulio gweddill ei oes. Y mae Tywysog CnIRu wedi cychwyn i'r India. Ffaith arall am dano yw, ei fod Wedi penderfynu i'w ysgoloriaeth rydd ef am gerddoriaeth yn y Coleg Athrawol Cenedlaethol gael ei rhoi yn unig i ymgeis- i wyr o Dywysogaeth Cymru. Llawen genym hysbysu ein darllenwyr fod ANEURIN FARDD yn parotoi ysgrif i'r DRYCH ar Urddas ein Cenedlaetholdeb. Dymuna Mr. JOHN C. WILLIAMS "yn y modd mwyaf diolchgar" gydnabod caredig- rwydd y cyfeillion crefyddol yn Cattarau- gus, N. Y., ac yn neillduol yr henafgwr ffyddlon Deacon John Lewis, am gasglu iddo y swm 0 $90.50, i'w alluogi i fyned i t Goleg Hamilton, i barotoi ar gyfer y wein- r idogaeth. Camgymeriad a wnaed wrth ddweyd mai lanci yw dewis-ddyn Miss EDITH WYNN.- Un o Armenia yw AVIET AGABEG ac nid o America; ac mae yn aelod o'r bar Seisnig. Mae Mr. Dio LEWIS wedi syrthio mewn cariad a San Francisco, a bwriada wneyd ei gartref yno. Derbyniasom oddiwrth ein gohebydd o New York (ond yn rhy ddiweddar i fod yn y rhifyn hwn) adroddiad am gwrdd ymad- awol i'r Parch. D. S. PATAGONIA DAVIES, yn eglwys 11th Street nos Wener diweddaf. Deallwn fod Mr. Davies a'i deulu i gycli- wyn am Gymru y diwrnod canlynol yn yr agerlong City of Berlin. Dr. J. M. WILLIAMS yw yr ymgeisydd Gwerinol am y swydd o Drengholwr dros Ranbarth Luzerne, Pa., a haedda gefnog- gaeth pob Cymro. Ysgrifena Mr. JOHN CLOSS, Fairhaven, Vt., i ofyn pwy oedd y John C. Jones hwnw a foddodd ei hun yn Rhaiadr Niaga- ra ar yr 8fed cyfisol; canys teimla dipyn yn bryderus o herwydd fod nai fab chwaer iddo o'r enw John Closs Jones yn aros yn Canada dris mis yn ol. Nis gallwn ddweyd uno ba le oedd y gwr a fu mor ffol a rhoddi terfyn ar ei fywyd brau; ond yr ydym yn k credu, modd bynag, fod ymlyniad y Cym- ro dywededig yn ddigon clos wrth fywyd, fel na raid i'w ewythr deimlo un pryder yn ei gylch. ,u..

BEEOHER A TILTON.

Adolygiad y Wasg.

CYMANFA GYFFREDINOL Y T. C.,

LTJAJVEII mewn ychydig.

Prydain Fawr.

Y Gwrtliryfel yn Spaen.

I Ffrainc.

Y Gwrtliryfel yn Twrci.

Ymerodraeth Germani.

EISTEDDFOD OL.

[No title]