Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
HANES BYWYD HEN BERSON LLANDEDWYDD.…
HANES BYWYD HEN BERSON LLANDEDWYDD. f GANDDO EF EI HUN. PENOD XII. Teimlai Mr. Thomas braidd yn archoll- edig o herwydd ymddygiad fy merch, a chyda rhyw wedd betrusgar cymerodd ei ymadawiad. Yr oedd ei agwedd boenus yn peri dyryswch i mi, gan fod yn ei allu i symud yr achos, trwy ddatgan ei deimlad- au yn anrhydeddus. Ond beth bynag yd- oedd ei boenau ef, yr oedd yn ddigon hawdd gwybod fod gofid Olwen yn llawer mwy. Ar ol y cyfryw ymweliadau oddi- wrth ei chariadon, ac yr oedd ganddi am- ryw, byddai yn arfer myned o'r neilldu i wylo allan drallod ei chalon. Yn y cyflwr hwn y daethum o hyd iddi un prydnawn, acmeddwn wrthi, "Yr ydych yn gwel'd yn awr, fy anwyl blentyn, fod eich ym- ddiried yn serch Mr. Thomas tuag atoch wedi troi allan yn freuddwyd hollol. Y mae yn caniatau ymgais un arall sydd is- law iddo, tra yn gwybod o'r goreu fod yn ei allu eich sicrhau, drwy wneuthur cynyg- iad eglur ac agored." "Ie, nhad," atebai hithau, ond y mae ganddo ef resymau dros yr oediad hwn. Y mae cywirdeb ei eiriau a'i olwg yn profi i mi ei fod o ddifrif. Nid oes eisiau ond ychydig iawn o amser na byddwch yn gallu canfod didwylledd ei amcanion; a chewch weled fod fy marn i yn llawer cywirach na'ch barn chwi." "Olwen anwyl," ebe finau, "y mae pob dyfais sydd wedi ei harferyd hyd yn hyn i'r dyben o gael allan ei feddwl wedi eu cynllunio genych chwi eich hun, ac nis gellwch mewn un modd ddweyd fy mod i wedi arfer unrhyw ddylanwad yn y mater. Ond cofiwch, fy anwylyd, na byddaf fi byth yn offeryn i adael i'w gydymgeisydd gonest am eich calon i gael ei dwyllo gan eich teimladau afresymol tuag at arall. Faint bynag o amser eto fydd arnoch eisiau i ddwyn eich anwylyd ff ansiol i bwynt mi a'i caniataf; ac os na bydd gobaith iddo ddyfod i delerau yn y cyfwng hwnw, yr ydwyf yn hawlio yn benderfynol, fod i'r gonest Williams gael ei wobrwyo am ei ffyddlondeb. Y mae'r cymeriad ag ydwyf yn ystod fy mywyd wedi ei gynal yn gofyn hyn oddiar fy llaw, ac ni cliaiff fy nhyner- wch fel rhiant byth ddylanwadu ar fy an. rhydedd fel dyn. Gan hyny, penodwch eich diwrnod; cewch ei osod mor bell ag y dewisoch; ac yn y cyfamser cymerwch "ofal i adael i Mr. Thomas wybod yr adeg pan y bwriadwyf eich cyflwyno i arall. Os ydyw efe mewn gwirionedd yn eich caru, nid oes ond un llwybr iddo rwystro eich colli am byth." Cytunwyd ar hyn, ac ad- newyddodd ei haddewid i briodi Mr. Wil- liams, os byddai y llall yn ddidaro ar y mater; ac yn mhresenoldeb Mr. Thomas, yn mhen dyddiau, penderfynwyd ar fis i'r diwrnod hwnw i'r seremoni gymeryd lie. Ymddangosai y trefniad yma fel yn rhoddi ysbryd adnewyddol yn Mr. Tho- mas; ond yr oedd yr hyn a deimlai Olwen ..yn rhoddi cryn anesmwythder i mi. Yn ei hymdrech rhwng serch a synwyr, gadaw- ,odd ei bywiogrwydd hi, ac ymneillduai yn fynych i'r dirgel i dywallt dagrau. Aeth un wythnos heibio, ond ni wnaeth Mr. Thomas unrhyw yindrech i rwystro yr un- deb. Yr wythnos ganlynol drachefn yr oedd yn dra gofalus; ond dim arwydd o amlygiad meddwl. Y drydedd wythnos peidiodd ei ymweliadau yn llwyr, ond nid ymddangosai fy merch fel yn pryderu mewn modd yn y byd. O'm rhan fy hun, yr oeddwn yn llawenychu yn y gobaith fod fy merch ar fin cael ei sefydlu mewn bywoliaeth, ac yn mynych ganmol ei doeth- ineb yn dewis dedwyddwch yn hytrach na gwag fawredd. Rhyw bedwar diwrnod cyn y briodas, gyda'r nos, yr oedd fy nheulu bychan wedi ymgasglu o gwmpas tiln braf, yn adrodd chwedlau am yr hyn a fu, ac yn tynu cyn- lluniau erbyn yr amser a ddaw. Wel, Llywelyn bach," meddwn, "bydd genym briodas yn y teulu yn bur fuan; beth yw dy farn di am bethau yn gyffredinol ?" "Fy marn i, nhad," ebe Llewelyn, "ydyw fod pob peth yn myn'd yn mlaen yn ar- dderchog, ac yr oeddwn yn meddwl y mynyd yma, pan bydd Olwen wedi priodi Mr. Williams, y cawn ni fenthyg y car a'r ferlen las pan fyd ar fynom, a chawn hefyd ddigonedd o afalau a gerllyg bob dydd, os mynwn." "Cawn Llewelyn, ebe finau, ".fe gawn, a chawn Sasiwn yn Nghymru,' a'r Carwr Trwstan' hefyd ganddo, i godi ein hysbrydoedd yn awr ac eUwaith." Y mae wedi dysgu 'Sasiwn yn Nghymru' i Sami bach," ebe Llewelyn, "ac yr ydwyf yn meddwl ei fod yn myned trwyddi yn rhagorol." "Yn wir, tybed," ebe finau, "gadewch i ni ei chael hi allan; lie mae Sami bacli-yma a fo." Y mae mrawd Sami wedi myn'd allan gydag Olwen," ebe Bil, fy mhlentyn ieuangaf; "ond y mae Mr. Williams wedi dysgu dwy gSn i mi, ac mi a'u canaf i chwi, nhad. Pa un oreu gencyh chwi Y plentyn marw, ai Cerdd y ddafad ddu ?'" Cerdd y ddafad ddu,' mhlentyn anwyl i," ebe finau, "nid oes eisiau son am farw yn ymyl priodi. Y mae amser i bob peth, medd y dyn doeth, allan a hi Bil. Yn awr, Emma bach, cyn cael y gan, chwi wyddoch o'r goreu fod poen a gofid yn sychu esgyrn-gadewch i ni gael potel o'r gwin goreu-dowch cariad-er mwyn codi yr ysbryd. Yr ydwyf wedi wylo cymatot wrth wrando pob math o ganu yn ddiweddar, fel mae'n siwr mai i lewyg y syrthiaf wrth wrando ar hon, oni chat wyd:iad lied dda cyn dechreu. Yn awr, Maria, cymerwch y delyn i helpu Bil. Dyna ni, i ffwrdd a hi blant." "Me! Me!" gwaeddai y plentyn nerth ei ben, a phan oeddym yn dysgwyl am ragor, ymaith a'r gwalch bach nerth y coesau, gan chwerthinf nes oedd pob man yn crynu. "Bachgen garw yw hwna," ebe ei fam, ac ond iddo bregethu cystal ag y medr ganu, nid oes dadl nad esgob fydd o cyn diwedd ei oes." Aeth yr ymddiddan siriol yn mlaen mewn perthynas i'r pwnc priodasol. Dy- wedai Llewelyn mai Trefriw a Llandrin- dod ydynt y ddau le goreu dan haul i gyd- maru, a nodai luaws o engreifftiau o beth- au rhyfedd, damweiniol, oeddynt wedi digwydd yn y manau iachusol uchod. Ond nid yw marchnad y merched (na'r dynion o ran hyny) yn-agored ond am ryw dri mis yn y flwyddyn, pan bydd y tywydd yn boeth, a'r bobl yn sâl. Trwy ddylanwad iachusol !y dyfroedd a phethau eraill, dy- wedir y bydd lluaws yn ymweled a'r lle- oedd hyn o dan amgylchiadau tra gwa- hanol yn mhen tua blwyddyn. Bydd llawer dau wedi myned yn un, a'r un hwnw wedi myn'd yn dri. Felly clywais i bobl yn dweyd, ond mae'r pwnc yn dywyll i mi." "Wel, Llewelyn, Llewelyn," ebe ei fam, "ynmh'le, mewn difrif, y ce'st ti wybod pethau fel hyn?" Emma bach," meddwn inau, "y mae'r bachgen yn llygad ei le, gadewch i ni gael un botel yn ychwaneg cariad, a cliaiff Llewelyn roddi can iawn i ni. Faint o ddiolch ddylem ni dalu i'r nefoedd am roddi i ni y fath dawelweh, iechyd, a chysuron! Yr ydwyf yn ystyried fy hun yn hapusach nag unrhyw frenin ar wyneb y ddaear. Gan bwy y mae'r fath aelwyd, a gwynebau mor hawddgar yn ei amgylcnu. Ydym, Emma anwyl, yr ydym yn myn'd yn hen, ond y mae prydnawn ein hoes yn debyg o fod yn ddedwydd. Yr ydym wedi disgyn o deulu diwaradwydd, ac ni a adawn blant da a rhinweddol ar ein holau. Hwynt-hwy fydd ein cymorth a'n cysur mewn bywyd, ac ar ol i ni farw, fe gariant ein henw a'n hanrhydedd yn ddi- lychwin i genedlaethau dyfodol. 'Rwan am gan, a gadewch i ni gael un a chydgan. Ond yn mh'le mae Olwen? y mae llais yr angyles fechan hono yn bereiddiach na llais neb yn y gan." Pan oeddwn yn siarad dyma Sami bach i'r ty. gan waeddi nerth asgwrn ei ben, "Tada! O! Tada! y mae hi wedi myn'd, y mae hi wedi myn'd, wedi myn'd oddiwrthym am byth!" Wedi myn'd, blentyn!" "Ie, y mae hi wedi myn'd i ffwrdd gyda dau wr boneddig mewn cerbyd; a chusan- odd un o honyn' nhw hi, a deudodd y base fo yn marw drosti hi; ac yr oedd hi yn crio yn arw iawn, ac eisio cael dwad yn ol, ond mi ddar'u o ei swydio hi wed'yn, ac aeth hithe i'r cerbyd gan waeddi, "O! beth 'neith fy nhad pan glyw o mod i wedi cael fy ngwneyd." "Yrwan, fy mhlant i, gwaeddwn inau mewn cynddaredd, ewch a byddwch dru- enus-ni chawn awr o fwynhad byth mwy, ac O! bydded i ddialedd y nefoedd ei ddi- lyn ef a hithau! Y mae yn siwr o wneyd am ddwyn ymaith fy mheth diniwed, ag oeddwn yn arwain fry i wynfyd. Y mae ein holl ddedwyddweh daearol wedi ffoi ymaith am byth! Ewch, fy mhlant, a byddwch druenus, oblegid mae fy nghalon wedi tori!" Nhad," meddai fy machgen, ai dyma nerth eich amynedd?" "Nerth ac amynedd, blentyn! estynwch fy mhistolion, a chaiff deimlo fod genyf nerth, beth bynag am amynedd. Tra bydd y llwfrgi a'r twyllwr ar y ddaear yr wyf am ei erlyn; ac er mor hyned ydwyf, calff y filain weled y gallaf dalu iddo ef eto. Y filain! y filain melldigedig!" Yr oeddwn erbyn hyn wedi estyn fy arfau i lawr, pan y daliodd fy ngwraig fi yn ei breichiau. Nid oedd hi o deimladau mor danllyd a mi. "Fy anwyl, anwyl briod," ebe hi, "y Beibl yw'r unig erfyn cyfaddas i'ch hen ddwylo yn awr. Agorwch ef, fy anwylyd, a darllenwch ein digofaint i amynedd, oblegid y mae hi wedi ein twyllo yn war- adwyddus." Yn siwr, nhad," meddai fy mab, dy- lech lywodraethu eich hun, oblegid y mae eich ysbryd, yn lie cysuro fy mam, yn achosi mwy o boen iddi. Nid yw yn gweddu mewn un modd i ddyn o gymeriad mor barchedig i fslldithio eich gelyn penaf fel hyn. Ni ddylasech ei felldithio er gwaethedyw." gwaethedyw." "Ddaru mi mo'i felldithio fo, ddaru mi?" Do'n wir, nhad, ddwy waith." "Wel, os felly, bydded i'r nefoedd fadd- eu iddo ef a minau. Ei hen arfer hi yw maddeu, machgen i," ond nid daioni dynol a ddysgodd i ni gyntaf garu ein gelyn- ion. Bendigedig a fyddo ei enw sanctaidd Ef, am yr holl drugareddau a roddodd a'r rhai a gymerodd ymaith. Nid profedig- aeth fechan fedr dynu dagrau o'r hen lyg- aid hyn sydd heb wylo er's blynyddau. Na, machgen i, y mae eisiau morthwyl mawr i dori hen graig. Ond fy mhlentyn! fy mhlentyn i! Twyllo fy mhlentyn anwyl i! Y nefoedd ddaionus a faddeuo i mi- beth oeddwn am ddweyd? Yr ydych yn cofio, fy anwylyd, mor dyner a hawddgar ydoedd hi. Ei holl hyfrydwch oedd ein gwneyd yn hapus. 0 dase hi wedi marw! Y mae anrhydedd ein teulu wedi ei golli, a rhaid i mi edrych bellach am ddedwydd- wch mewn rhyw fyd heblaw hwn. Ond Sami bach, dywed y gwir wrth dada, a welaist ti nhw yn gyru i ffwrdd, fe allai mai cael ei gorfodi i fyn'd wnaeth fy ngen- eth anwyl i, ac os felly, y mae hi yn ddi- niwed eto. "O na, fy nhad," ebe'r plentyn, "ni wnaeth ond yn unig rhoddi cusan iddi, a'i galw yn angyles, ac mi griodd hithau yn arw iawn, ac a bwysodd ar ei braich, a ffwrdd a nhw gymaint fyth." "Yr oedd hi yn greadures fach wael iawn," ebe fy ngwrig, dan wylo yn hidl, "i'n trin ni fel hyn. oblegid ni chafodd unrhyw rwystr ar ffordd ei serchiadau. Y globen ddrwg i wneyd ffasiwn beth a digio ei rhieni heb un achos, a hyny achosi blew gwynion yn eich pen, a'ch dwyn i'r bedd, lie y byddaf finau yn union ar eich ol. Emma anwyl!" Dyma y noson fwyaf annedwydd a gaw- som erioed. Yr oeddwn i yn benderfynol o gael allan fangre ein bradychwr, a'i gospi am ei ddrygioni. Boreu dranoeth, O! bobl bach, pwy all gydymdeimlo a mi, yr oedd fy mhlentyn anwylaf ar ol wrth ein boreu-fwrdd, lie yr ydoedd bob amser yn enaid y gyfeillaeh. Yr oedd fy ngwraig yn gynddeiriog wyllt o herwydd ymddygiad fy merch, a dy- wedai yn benderfynol na buasai hi byth yn ei chydnabodyn ferch iddi hi. "Emma fach," meddwn inau, "peid- iwch a bod mor echryslon yn erbyn eich plentyn. Yr ydwyf yn teimlo mor ddig- 11 llon a chwithau tuag ati, ond bydd fy iihy a fy nghalon yn agored i bob pechadur edifeiriol; gall y goreu gwympo unwaith. Y mae'r camwedd cyntaf, yn gyffredin, yn cael ei achosi, gyda golw"ar yr ieuanc, gan ddichellion a thwyll iflSR hynach, ond am yr ail, rhaid i mi, a phawb arall, ei briodoli i ddrygioni cynhenid ei natur. Fe gaiff y plentyn yma ei dderbyn gyda chroesaw calon, er iddi gael ei hanurddo gan fil o gamweddau. Gwrandawaf ar ei llais peraidd gyda hyfrydwch, a bydd yn dda genyf orphwys ar ei mynwes, ond i mi glywed y sibrwd lleiaf o edifeirwch yn dy- fod oddiyno." "Fy mab, deuwch a'r Beibl a'r hen ffon yma-af ar ei hoi; ac er nas gallaf ei cliadw rhag cywilydd, gallaf ei rhwystro rhag cyf- lawni rhagor o ddrwg." t fill
CYMANFA 0 YNULLEIDFA OL NEW…
CYMANFA 0 YNULLEIDFA OL NEW YORE. Cynaliwyd y Gymant'a hon eleni o Medi 14 hyd Medi 24, yn Remsen, Penymynydd, Turin, Floyd, Utica a Waterville. Cynal- iwyd y gynadleddyn Remsen ac Utica,pryd yr oedd yn bresenol y gweinidogion can- lynol: Morris Roberts, W. D. Williams, E. Davies, J. R. Griffiths, R. G. Jones, D. D.; D. E. Pritchard, J. H. Griffiths, Thos. M. Owens, T. M. Griffiths, H. R. Williams, E. R. Hughes, R. Evans, J. P. Davies, Dan- ville, Pa.; G. Griffiths, Cincinnati, 0.; J. Jones, Racine, Wis.; a D. D. Davies, New York. Yr oedd cenadon o'r eglwysi can- lynol-Bethania, Bethel, Deerfield, Floyd, Holland Patent, Nelson, New York Mills, Penymynydd, Plainfield, Remsen Rome, Steuben, Ninety-Six, Utica, Waterville a Trenton. Heblaw y Penderfyniadau a gyhoeddwyd yn y DRYCR diweddaf, pasiwyd y rhai can- lynol-Ein bod yn croesawu y brodyr ;E. R. Hughes, Steuben, a B. H. Williams, Wa- terville, yn aelodau o'r cyfundeb hwn, ar sail y llythyrau cymeradwyol o'r eiddynt o Penna. ac Ohio; fod Dr. Jones a'r Anrh. G. O. Jones, Floyd, i'n cynrycliioli yn nghynadledd Seisnig y Dalaeth, yn Nor- wich; fod Edw. Davies, Dr. Jones alr ys- grifenydd i fod yn bwyllgor y Gymdeithas Genadol Gartrefol am y flwyddyn; ein bod yn rhoddi deheulaw cymdeithas i'r brawd Davies o New York, ac yn dymuno ar i'w eglwys ymuno a ni fel y byddai arferol- ein bod yn dymuno datgan ein llawenydd fod y brawd, y Parch. J. R. Griffiths, Floyd, yn bwriadu talu ymweliad a Kansas, oddi- ar y gwahoddiad a gafodd oddiyno, ac yn dymuno iddo fyned yno gyda bendithion efengyl y tangnefedd. Cafwyd ymddyddan maith am y "Gym- deithas Addysgawl Gynulleidfaol Gym- reig," yr hon sydd yn cynorthwyo preg- ethwyr ieuainc Cymreig i gael addysg er eu cymwyso i'r weinidogaeth efengylaidd.— Rhoddodd y trysorydd, W. W. Thomas, Remsen, adroddiad o'r gwyr ieuainc a gynorthwywyd, a'r swm a roddwyd i bob un; acyr oedd pawb yn llawenhau fod y gymdeithas wedi gallu cyfranu y fath sym- iau haelfrydig, a bod ganddi ar law y fath swm anrhydeddus ar gyfer y galw yn y dy- fadol, Yr oedd y swm blynyddol a gyf- ranwyd ganddi er pan y mae mewn bodol- aeth, yn cyraedd ar gyfartaledd yn agos i $250. Ceir hanes manylach yn fuan am ei chychwyniad a'i sylfaeniad. Treuliwyd rhan helaeth o'r Gynadledd yn Utica i draethu ar Ddiwygiad Crefyddol, a chafwyd anerchiadau tarawiadol gan y brodyr Griffiths, Cincinnati; Jones, Racine; Davies, Danville, a Davies, New York, a chan amryw o'r brodyr cartrefol. Remsen. ROBERT EVANS, Ysg.
OYMANFA Y BEDYDDWYR GYM-IlETG…
OYMANFA Y BEDYDDWYR GYM- IlETG YN NWYREINBARTH PA. CYHOKDDIAD MISOL I'R ENWAD—COFIANT I'R PARCH. W. OWEN- Y DIWEDDAR BARCH. P. L. DA VIES- Y CENTENNIAL ENDOWMENT FUND. Cynal iwyd y Gymanfa hon gyda'r eglwys yn Taylorville ar y 18fed, 19eg a'r 20fed o Medi. D. Rhoslyn Davies, Cymedrolwr, J. P. Harris, Ysgrifenydd. Dygwyd yn mlaen ranau arweiniol y cyfarfodydd cy- hoeddus gan y brodyr B. E. Jones, Thomas Morgan, D. E. Bowen, Ebenezer Lloyd, J. Gwawrfryn Evans (A.), a B. E. Bowen.— Pregethodd y brodyrB. Nicholas, Latimer; D. S. Thomas, Summit Hill; Jonathan Nicholas, Spencer, E. N.; T. Jones, Wau- namie; J. J. Morris, Jermyn; W. D. Tho- mas, Mahanoy; B. E. Jones, Wiconisco; Ll. Rees, Providence; Joseph E. Jones, Shenandoah; Morris Evans, Frostburg, Md.; L. M. Roberts, Ashland; John Evans, Rhode Island; A. J. Morton, Upper Le- high; J. P. Harris, Nanticoke; D. W. Mor- ris, Hyde Park; a Theophilus Jones, Wil- kesbarre. Yr oedd 24 o weinidogion a phregethwyr yr enwad yn wyddfodol.— Galerid o herwydd absenoldeb yr hybarch dad Wm. Morgan, Pottsville; ac o herwydd fod y brawd Parry (Cefni), Pittston, yn an- alluog i bregethu. Yr ymwelwyr a wa- hoddwyd i gymeryd eisteddleoedd yn ein plith oeddynt y brodyr Jonathan Nicholas, Spencer, N. Y.; D. E. Bowen, Sir Susque- hana, Pa.; B. W. Thomas, Hyde Park; a John Evans, Rhode Island. Cafwyd Cym- anfa daugnefeddus yn nhrafodiaeth ei gweithrediadan, a bywiog iawn yn nygiad yn mlaen y moddion cyhoeddus. Bydded bendith y nef i'w chanlyn. Bu y materion canlynolo dan ymdriniaeth: MARWOLAETH Y PARCH, P. L. DAVIES. Er amlygu ein edmygedd o weddw y di- weddar Barch. Mr. Davies, neillduwyd yn bwyllgor i ddarparu penderfyniadau B. tiuglies, J. P. Harris, ac A. J. Morton, y y rhai a dynasant y penderfyniadau can- lynol: YN GYMAINT a bod y diweddar frawd P. L. Davies wedi dechreu ei weinidogaeth efengylaidd yn ngnylcn y Gymanf a hon, ac wedi bod yn aelod o hcmi: Yn gymaint a bod yr Arglwydd yn ei Raglumaeth ddocth wedi ei alw oddiwrth ei wraig at ei wobr-yn nghanol bywyd, defnyddioldeb, ac enwogrwydd mawr; Penderfynwyd, Ein bod yn cydymdeimlo a'r weddw a'r amddifaid yn eu galar a'n colled dirfawr, ac yn anog holl gyfeiilion ein diweddar frawd, a'r eg- lwysi, i amlygu eu cydymdeimlad drwy gyfraniadau. materol er eu cynorthwyo yn y cyfyDgder hwn. Penderfynwyd, Fod adysgrif o'r penderfyniad hwn i gael ei arifon i'r weddw, ac un arall i'r eglwys a fugeiliai yn ninas New York. Penderfynwi/d, Ein bod yn anfon cyfieithiad o honynt i'r National Baptixt, i'r Examiner a'r New York Chronicle. Penderfynwyd, Fod caFgliad i gael ei gymeryd drwy yr holl eglwysi ar y Sul cyntaf yn yr wythnos gyntaf yn Tachwedd (yu nechreu y cyfarfodydd gweddio) er fliurfiofund i gynorthwyo y chwaer Da- vies. Mabwysiadwyd yr uchod gydag unfryd- edd, a neillduwyd y brodyr B. Hughes a D. S. Roberts, Hyde Park—y blaenaf yn Drysorydd, a'r olaf yn Ysgrifenydd, er hy- rwyddo dygiad y mudiad yn mlaen. Hys- byswyd fod ardeb mawr i'w fframio o'r brawd ymadawedig Davies i'w gael am $1, drwy law B. Hughes, a'r elw i fyned i chwyddo'r fund; ac yn nglyn y hyn, pen- derfynwyd, Fod pob eglwys i neillduo brawd neu frodyr tuag at werthu y lluniau hyn, a danfon yr arian i'r Trysorydd, B. Hughes, Hyde Park, Pa. Y CENTENNIAL ENDOWMENT. Daeth y pwnc hwn ger bron y Gynad- ledd, seffund tuag at waddoli Urdd-ysgol Lewisburg. Penderfynwyd, Ein bod yn anog yr eglwysi i gydweithredu a Chyman- faoedd y Dalaeth yn y peth hwn, a dis- gwylir swm cyfatebol i 50 cents yr aelod oddiwrth bob eglwys. Er dwyn y mudiad yn mlaen yn llwyddianus, neillduwyd y brawd D. Rhoslyn Davies yn Drysorydd, a'r brawd J. P. Harris yn Ysgrifenydd. CYIIOEDDIAD MISOL YR ENWAD. Penderfynwyd, Ein bod yn teimlo gwir angen am gyhoeddiad misol perthynol i'r enwad Bedyddiedig; a'n bod yn cymerad- wyo penderfyniad a chynllun ein brodyr yn Ohio i gael misolyn, ac yn addaw cyd- weithrediad a'r Gymanfa hono yn nygiad allan y cyfryw gyhoeddiad. COFIAXT Y PARCH. W. OWEN, PITTSBURGH. Darllenwyd llythyr oddiwrth y pwyllgor a neillduwyd gan Gymanfa Ohio, o barth dwyn allan Gofiant i'r diweddar hybarchus dad yn yr efengyl, Wm. Owen, Pittsburgh; a phenderfynwyd, Ein bod yn cymeradwyo penderfyniad Cymanfa Youngstown, 0., i gael Cofiant i'r diweddar Barch. W. Owen, Pittsburgh, ac yn dymuno ar gyfeillion yr ymadawedig, a'r eglwysi, i gydsynio a'r cais a anfonwyd atom gan y pwyllgor i gael conant allan o'r wasg. "Meddyliwch am eich blaenoriaid." Nanticoke, Pa. J. P. HARRIS, Ysg.
HYDE PARK, PA.
HYDE PARK, PA. Amser tlawd yn dod- Pobl dda Bellevue yn bwriadu ymfudo-y Gorllewin yn well na Phentir Patagonia. HYDE PARK, Medi, 24-Wrth fwrw gol- wg dros y gymydogaeth hon y dyddiau hyn, agwedd farwaidd a digalon sydd ar y glofeydd; a'r tebygolrwydd yw y bydd raid i ni fyw dros y gauaf caled, os mynwn wel- ed y gwanwyn. Y mae tair glofa wedi sef- yll. Archwyd y mwnwyr i gario eu hoffer- ynau o'r Oxford er's dyddiau bellach, ac arafodd olwynion y Diamond yr wythnos ddiweddaf-hon yw y fwyaf yn y lie; a heno clywsom fod y Dodge wedi sefyll, am wythnos, medd rhai; ond y tebygolrwydd yw ei bod wedi sefyll am ystod meithach nag y tybiant. Fel y dywedai un o'r gweith- wyr heno, "na wyddon' nhw ddim eu hun- ain pa bryd yr oedd yn myn'd i startio." Dyma dair glofa bwysig wedi sefyll, ac na wyddys pa bryd y dechreuant weithio. Y mae yr effaith ar y gymydogaeth o angen- rheidrwydd yn fawr, a haws ei ddychym- ygu na'i ddarlunio. Amlwg yw em bod yn gwynebu gauaf caled a thlawd. Duw a'n cynorthwyo i ddal ei eifeithiau gwanychol heb dderbyn niwed. Yn ymwybodol o dlodi yr amseroedd, a chyfiawnder rhif y glowyr yn y parthau hyn, ymddengys fod trigolion doeth Belle- vue yn parotoi gogyfer a'r gwaethaf, drwy fEurflo cymdeithas ymfudol yn eu mysg eu hunain. Ni chlywsom y manylion yn nghylch y gymdeithas hon, yn mhellach na bod dau gyfarfod wedi eu cynal yn yr eg- lwys gyda'r amcan o'i *ff urfio. Gallwn ddweyd hyn yn ddibetrus am bobl Belle- vue, pa fodd bynag, fod yn anhawdd cael dosbarth o Gymry, nac o un genedl arall, mor ddiwyd, mor synwyrol, mor onest a phenderfynol a'r dosbarth hwn o weithwyr a lwyddasant i adeiladu cartrefi iddynt eu hunain ar uchelfanau Bellevue. Os caiff y mater gyfiawnder oddiar ddwylaw rhywrai, diameu y telir iddo y sylw dyladwy gan y bobl hyn. Ni chlywsom pa beth yw eu cynllun; ond i'n tyb ni, os. eu bwriad ydyw prynu tir gan y llywodraeth, y cynllun go- reu fuasai anfon cynrychiolydd cymwys a gwybodus i chwilio allan gyfleusderau, manteision a ffrwythlonrwydd gwahanol sefydliadau, gan adael o'r neilldu y sefydl- iad Patagonaidd; ac yna, wedi dychwelyd, cyflwyno ei adroddiad i'r gymdeithas, y rhai a allant ymfudo ar unwaith, a chym- eryd meddiant o sefydliad cyfan. Ym- ddengys i ni mai hwn yw y cynllun goreu i gludo ymaith or-gyflawnder o'r gweith- wyr tanddaearol, er lies i'r ymfudwyr, a daioni i'r gweddill. Diau fod anhawsder- au yn perthyn i'r cynllun hwn, fel i bob un; ond y mae y cwestiwn o ymfudiaeth yn amserol a phwysig i lowyr Pennsylvan- ia, ac i rai fel fy hunan sydd yn ystyried y waedd Batagonaidd, &c., yn ffolineb pen- boethiaid Cymreig, y mae yn dda gweled rhyw ddrws yn agor rhyw ffordd yn ar- wain i gyfoeth ac annibyniaeth, er gadael y glofeydd i drugaredd olynwyr, ac i ofal deddfau natur. Dan obeithio y try cwmni ymfudol Bellevue yn llwyddiant i'r rhan- ddalwyr, ac yn lies i eraill, y terfynaf.— T. B.
[No title]
Rhydd y Dywysogaeth y manylion a gan- lyn am un o'r aelodau Seneddol dros Gym- ru: "Nid yw yn hysbys i bawb fod aelod Seneddol yh eistedd ar ochr y Rhyddfryd- wyr yn y TJ, yr hwn sydd ganddo frawd yn ei wasanaeth fel garddwr. Cododd yr M. P. hwn o fod yn ddyn heb bleidlais yn gynrychiolydd. Ni chododd ei berthyn- asau gydag ef, ac y mae yn cadw un o honynt i wasanaethu mewn gorchwylion isel; ond y mae M. P. arall, yr hwn nad yw yn gofalu i'r holl fyd wybod ei fod un- waith yn llafurwr. Cyfeirir at Mr. DAVID DAVIES, M. P. dros fwrdeisdrefi Aberteifi. Gwnaeth ei ffortiwn drwy ffyrdd haiarn, a glo. Amser yn 01 ymgynghorodd a'i gyf- reithiwr yn nghylch busnes masnachol o bwys mawr, a pherswadiodd y cyfreithiwr ef i gymeryd llwybr gwahanol i'r hwn a fwriadai; a throdd y cyngor allan mor dda fel y cyflwynodd Mr. Davies i'w gyngorwr gyfran o'r gwaith glo newydd. Y mae y gyfran wedi dwyn i mewn i'r cyfreithiwr ifodus gymaint a zCI2,000 yn flynyddol. Bernir fod Mr. Davies yn gwneyd cymaint a 1600,000 yn flynyddol.
[No title]
—Y mae Good Templar Lodges Talaeth Massachussetts yn rhifo yn agos i 200, a chynwysant 15,000 o aelodau. I —Gwerthwyd chwarel tywodfaen yn agos i Wakeman, Huron Co., Ohio, yn ddiwedd- ar, am $25,000. Daliwyd bachgen gwyllt yn Texas, gyda blew pedair modfedd o hyd yn gor- chuddio ei gorff. —Gwerthir tel waste paper werth $4000 o "lythyrau meirwon" yn y llythyrdy yn Washington bob blwyddyn. Yr oedd ffynonau olew Pennsylvania yn adnabyddus i bobl wynion mor foreu a'r tlwyddyn 1629, ond ni ddarganfyddwyd gwerth petroleum am 200 mlynedd ar ol hyny. -Cyfrifir eiddo y diweddar gyn-Arlyw- ydd Johnston yn werth $175,000. —Mae y lleidr mawr W. M. Tweed yn talu $50 yr wythnos am ei le yn ngharchar Lud- low St., New York. Nid yw yn cyfeill- achu a. neb ond ei deulu, ei feddyg a'i gyf- reithwyr. Gwell i ddyhirod Swydd Cherokee, ( Ga., edrych allan am y sheriff newydd, yr hwn sydd yn gawr nerthol, yn gallu codi 1 maen melin a bwysa 2000 o bwysi. Daniel Slater ddechreuodd yr Ysgol Sul gyntaf yn America, yn Pawtucket, R. J., Medi 15, 1779; a chan fod yr hen adeilad eto yn safyll, bwriedir ei gario i Philadel- t phia, i'w ddangos yn y Centennial. —Y mae 1,000,000mwy o ferched na dyn- ion yn Germani. Y LLEUAD DLOS. A fuost ti, ddarllenydd, Ar noswaith wanwyn hardd,— Y llwyni yn feillionog, A'r dolydd oil fel gardd,— Yn teimlo'th hun yn effro Yn nyfnder tawel nos, Ond Anian oil yn cysgu, Tan wên y lIeu ad dlos? A welaist ti, ddarllenydd, Ei chwrlid tyner gwyn 0 fiin-wlith cain sidanaidd, Ar daen dros bant a bryn? Llaw Duw fu'n taenu hwna, Tan ddistaw leni'r nos, A phenwyd idd ei gwylied Neb llai na'r lleuad dlos. Bum lawer nos yn effro, Tra'r byd mewn esmwyth hun, Yn melus ber ymgomio Yn nghwmni f'anwyl fun; Ac O! y gwynfyd gefais Yn ystod llawer nos,— Er nad oedd wenau arnom Ond gwenau'r lleuad dlos. Ond erbyn hyn, fy nghariad Sy'n gorwedd yn ei bedd! Pan gollwyd gwedd ei gwyneb, Fe gollais inau'm hedd; Ac er fod engyl gwynfa Yn gwylio'i bedd bob nos, Er mwyn yr hyn aeth heibio, 0 gwylia leuad dlos!-Lkwop. DAMEG Y PREN AFALAU. [Darn i'w gyfieithu i'r Saesneg ar gyfer Eis- teddfod Columbus, 0]. Rhyw foneddwr a gawsai rywogaeth o bren afalau ag oedd ddieithr a thramor o'r wlad hono, ond un digymar o dda a ffrwyth- lawn; ac efe ,a'i planodd yn ei berllan. Ffrwythodd y pren ar y cyntaf, er syndod i bawb a'i gwelent, neu a glywent son am dano. Yr oedd yr afalau arno yn lluosog iawn—yn fawrion a pheraidd hynod. Pa fodd bynag, yn mhen peth amser, gwelwyd fod eiddew yn tyfu o gwmpas y pren, ac yn fuan ymdaenodd ac ymglymodd yr ei- ddew bron o amgylch pob cangen o hono. Ond cyn hir ar ol hyn gwelwyd fod y pren afalau yn myned yn llai ffrwythlawn, ac felly o flwyddyn i flwyddyn myned yn fwy diffrwyth a wnaeth, nes o'r diwedd fyned yn hollol felly. Erbyn hyn, aed i ymholi beth oedd y mater fod y pren wedi di- ffrwytho? Dywedai y boneddwr mai yr eiddew oedd wedi peri hyny-ei fod yn gwasgu ar y pren, ac yn ei rwystro i dyfu a'i fod yn cadw y dwfr gwlaw cyhyd ar hyd-ddo nes ei drigo; a'i fod hefyd yn llo- ches i bryfaid drwg lechu ar hyd-ddo, a bod y rhai hyny yn ei wenwyno, ac mai dyna paham yn ddiau yr oedd y pren wedi di- ffrwytho fel yr oedd. Ond pwy oedd wedi planu yi" eiddew? Trwy ymholi, gwybu- wyd mai rhai o weision tyddyn y bonedd- wr, y rhai nad oedd yn perthyn iddynt of- alu am y berllan oedd wedi ei blanu, a hyny gan feddwl, meddent hwy, y buasai yr ei- ddew yn llawer o amddiffyn i'r pren rhag Y tywydd garw, ac hefyd yn llawer o gyn- aliaeth a harddwch iddo. Camgymeriad i gyd," ebe y boneddwr; "ond gan mai fel hyn y gwnaed, ni a blanwn yr un rhywog- aeth o bren gerllaw yr hen, yn y fan yma." "Ond," ebe rhyw un, "oni byddai yn well cwympo yr hen bren, canys bydd ef a'r ei- ddew yn un bwlwg yn rhwystro i'r pren newydd dyfu?" "Na, gadawer iddo," ebe y boneddwr, ar hyn o bryd, fel y byddo yn rhybudd i bawb i beidio aphlanu eiddew o gwmpas pren afalau mwy; ac fel y byddo efe yn myned yn grinach grinach, bydd i naturiaeth ei hunan ei lwyr fwrw ef i lawr. Yna bydd raid i'r eiddew ymgynal hebddo fel y gallo." Felly planwyd y pren new- ydd, ac y mae yn tyfu yn rhagorol, ac yn dyfod yn fwy-fwy ffrwythlawn y naill flwyddyn ar ol y llall. Pwy a wyr nad tobyg ir eiddo y pren af- alau yw hanes Cristionogaeth ar y ddaear? Planodd Duw hi ar y cyntaf wrthi ei hun, ac yn y cyfamser yr oedd ei ffrwythau yn doreithiog a pheraidd iawn. Ond wedi hyny bu i freninoedd a llywyddion daearol osod y llywodraethau gwladol ar waith i gynal Cristionogaeth yn y byd; a dyma oedd planu yr eiddew wrth y pren. O'r dydd hwnw allan ni wnaeth gwir grefydd ond gwywo, crino a darfod. Ond er's llawer blwyddyn cyn hyn mae Duw o'i fawr ddaioni wedi ei phlanu mewn llan- erch arall, ar dir goleu a glan, yn mysg am- rywiol gyfundebau o Ymneillduwyr, yn mha le y mae Cristionogaeth eto yn cyn- yrchu ei ffrwythau peraidd ei hun, a chyn- yrchir mwy o ffrwyth y naill flwyddyn ar 01 y llall o'r blynyddau hyn. A thebygol y bydd raid i bob cangen o'r hen bren crin, sef yr Eglwysi Gwladol, ac hyd yn nod yr hen fonyn, set yr Eglwys Babaidd, ddyfod i lawr cyn hir bellach.-Allan o'r Geiniog- werth, Oyf. 1.
HEN ADGOFION.
meddai yntau; "mae Siani ni yn siwr ofod yn un o'r rhai duwiola' ar y ddaear yma." "Ydach ch'i'n meddwl, Ellis Rhobat?" meddai'r llall. "Ydw', wel di, achos mae hi yn y llwch a'r lludw o hyd." Wel! yn y Ilweh a'r -ludw y byddom ni i gyd! Caernarfon.