Skip to main content
Hide Articles List

13 articles on this Page

BULL, BEDYDD.

News
Cite
Share

BULL, BEDYDD. FONEDDIGION Y DRYCH: Er pan mae y Bedyddwyr Cymreig wedi eu hamddifadu o gyhoeddiad or eiddynt eu hunain yn y wlad hon, maent wedi bod yn ddyledus iawn i'r DRYCR am gyhoeddi newyddion ac ysgrifau o ddyddordeb i'r enwad yn unig. Gyda diolcligarwch gwirioneddol am eich caredigrwydd yn y mynedol, byddwn yn rhwymedig iawn i chwi os gellwch fforddio lie i'r ysgrif ganlynol yn un o'ch rhifynau dyfodol. Rhan yw o ys- grif a ymddangosodd yn ddiweddar yn y Christian Minor uwch enw Prof. L. L. Paine, D. D., un o athrawon yn Athrofa Dduwinyddol Bangor, Maine. Hanesiaeth Eglwysig yw ei ddosran ef. Cofier mai athrofa perthynol i'n brodyr, yr Annibyn- wyr, yw Athrofa Bangor, acfod Dr. Boone yn un o ser dysgleiriaf yr enwad dysgedig hwn. Pan y trafodir yr ordinhad o fedydd addiar safon dduwinyddol, dylid rhoddi rhyddid barn a chydwybod i bawb. Qnd pan yr ystyrir y pwnc yn ngoleu ieithyfld- iaeth (philology), ac hanesiaeth eglwysig, mae honiadau mai taenellu oedd dull gwreiddiol bedydd, ac mai dyma arferiad yr eglwys foreuol yn swnio yn ddigrifol i berson sydd yn gwybod rhywbeth am feddwl geiriau a hanesiaeth eglwysig. Os grwgnach neb o'm brodyr taenellyddol yn fyerbyn, y waith hon, gwnaf fwch diangol o Dr. Boone; ac os y Dr. sydd gyfeiliorn- us, ac un neu ddau o ohebwyr ein misolion yn iawn—well, well.—Chwedl Byron- "Indeed! 'tis granted, faith! but what care I? Better to err with Pope than shine with Pye. Whitestovm, N. Y. H. 0. ROWLANDS. "DULL GWREIDDIOL EEDYDD." Gofynir yn onest gan rai, Ai trochi oedd dull cyntefig bedydd? 0 barthed i'r faith ary pwnc, mae y dystiolaeth yn ddigonoJ a phendant. Nid oes un cwestiwn mewn hanesiaeth eglwysig yn fwy eglur. Mae'r dystiolaeth oil yr un ifordd; ac mae holl haneswyr eglwysig o unrhyw nodedd yn unol. Nie gallwn honi hyd yn nod wro^Siol- der pan yn dysgu hyn mewn Athrofa Dduwinyddol Gynulleidfaol. Pwnc ydyw ar yr hwn nid yw hanesyddwyr hen, canol- oesol a diweddar—Pabyddol, Protestan- aidd, Lutheraidd, a Chalfinaidd yn ang- hytuno. Am y rheswm syml fod statements y tadau eglwysig mor glir, a'r goleu a deilir ar y dangosiadau hyn gan arferiadau yr eglwys gyntefig mor benderfynol, fel na feiddia un hanesydd sydd yn gofalu am ei enw da, wadu y fFaith, ac ni ddymunai un haneswr sydd yn deilwng o'r enw. Mae rhai pynciau lianesyddol, ar y rhai y mae yr ysgrifenwyr dysgedicaf yn-ang- hytuno. Er engraifft, y pwnc o fedydd babanod; ond ar y pwnc' o'r arferiad gwreiddiol o drochi mewn bedydd, mae yr hynatiaethwyr enwocaf, megys Bingham, Augusti, Smith (o'r Oeiriadur;) a'r hanes- wyr, megys Mosheim, Giesler, Hase, Nean- der, Mil man, Schaff, Alzog (Pabydd), yn dal yr un golygiad. Mae y dyfyniad can- lynol o Hynafiaethau yn arddangos yn eglur iawn yr hyn y cytuna pawb arno: "Yn yr eglwys foreuol (primitive), troch- iad oedd dull bedydd yn ddiamheuoL Yr oll a ellir honi am daenelliad yn y cyfnod boreuol yn hanes yr eg.wys, ei fod yn cael ei ganiatau fel eithriad mewn amgylchiad angenrheidrwydd. Mae y ffaith hon mor sefydlog fel nad oes angen dyfynu awdur- dodau i'w phroti." Er engraifft arall, dyfynwn o'r Eglwys Apostolaidd, gan Schaff: "Partliedy dull alianol o weinyddu yr ordinhad hon, trochiad ac nid taenelliad, yn ddiddadl oedd y dull gwreiddiol a chyffredin." Ond tra mai trochiad y pryd hwnw oedd yr arferiad cyffredinol, yr oedd cyfnewidiad yn y ddefod yn cael ei ganiatau yn rhwydd a'i amddiffyn mewn achosion o angenrheid- rwydd pwysig, megis afiecliyd tost, ac agosrwydd marwolaeth; a daeth y dull neillduol o daenellu i arferiad, ac adna- byddid ef wrth yr enw bedydd y claf lcLnic baptism.') Mae yn bwysig i sylwi na chyfododd dadl o bwys ar ddull bedydd hyd y Diwyg- iad; 0 ganlyniad mae yn anhawdd pt-nder- fynu pa bryd y rhoddes trochiad y ffordd i daenelliad, fel rheol gyffredin yr eglwys.— Arferid y ddau ddull—un fel rheol, a'r llall fel eithriad, hyd onid aeth Cristionog- aeth i liin oer y Gogledd, pan y daeth yr eithriad yn rheol. Mor ddiweddar a'r 13eg ganrif, yr oedd trochi yn dal yn arferiad, fel y dangosir mewn bmwddeg gan Thomas Aquinas yn ei Sum-met Theologica, lie mae'r rhesymau ffafriol i'r ddau ddull yn cael eu cydmaru, ac y penderfynir mai trochi yw y diogelaf, am mai hwn oedd y dull cyif- redin. Tri chan' mlynedd yn ddiweddarach i amser y Diwygwyr. yr oedd taenelliad yn cael ei arfer yn gyffredinol; er fod Calvin yn siarad yn wahanol am ddulliau bedydd, yr hyn sydd yn arddangos nad oedd trochi wedi myned i ebargofiant. Wrth hyn tybiwn fod Dr. Schaff yn rhoddi y dyddiad yn llawn.rhy foreu pany dywed "mai cynt na'r 13eg ganrif y daeth taenelliad yn rheol, a throchiad yn eithr- iad." Dylid sylwi na chymerodd y cyf- newidiad hwn le ond yn yr eglwys Latin- aidd. Yn yr eglwys Iloegaidd, mae trochi yn parhau yn unig yn ddull bedydd hyd y dydd hwn.

IFORIAETH YN OInO.

[No title]

AMAETIIY/YB SWYDD lorVA, WIS.

AR BRIODAS

; AR BEIODAS %

YR AFON.

LLEF O'R DYFNDER.

JACK TAB.

MBINUIWCH EICll BUSNES.

AT DAFYDD Y GAREG WEN.

AK Y FifORDT).

LLOFFION 0 BELL AC AG OS.