Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
si yrjz&jtzr jVJ&w siyA ?>&7i. ESTABLISHED 1851. Issued Every Thursday Morning. T. J. GRIFFITHS, Proprietor, UTICA. N. Y.
RHESWM A DATGUDDIAD.
RHESWM A DATGUDDIAD. "Y mae ysbryd mewn dyn; ac ysbrydoliaeth yr Hollallnog sydd yn gwneuthur iddynt hwy ddeaIl. Job xxxii. 8. Wrth reswm yr ydys yn golygu. gallu deallol a moesol dyn, yr hyn sydd yn ei wneyd yn fod moesol gyfrifol. Dyna ei brif ragoriaeth ar yr anifail-y gallu sydd ynddo i ganfod pethau ysbrydol a moesol. Heb y gallu hwn mewn dyn nis gallai Duw ddatguddio iddo wirioneddau rhesymol a moesol. Nis gall Duw, na neb arall, ddat- guddio i ddyn unrhyw wirionedd ond a ddichon gallu rhesymol dyn ei ganfod a'i dderbyn, mwy nag y gall goleuni anian- yddol ddangos unrhyw wrthddrych ond yn ol gallu y llygad i'w weled. Yn awr, y mae dirmygu y rheswm dynol" hwn, a'i alw yn "fethiant," ar unwaitli yn gwneyd y datguddiad yn fethiant; canys os yw y gallu i weled yn fethiant, y mae pob goleu- ni a roddir iddo yn fethiant. Ni all Duw ddatguddio dim i ddyn ond a all dyn wel- ed. Ofer yw "goleuni natur" a goleuni Beibl i'r neb nad oes ganddynt allu i'w dderbyn. Terfyn rheswm dynol, gan hyny, yw terfyn gallu Duw i roddi datguddiad iddo; canys i reswm neu natur ddeallol dyn y mae datguddiad yn ddatguddiad. Dweyd fod gallu dyn i dderbyn dat- guddiad yn fethiant, yw dweyd ar un- waith fod gallu Duw i roddi-datguddiad yn fethiant. Pob mymryn o wirionedd a ddat- guddiwyd i ddyn erioed, i'r rheswm dynol y datguddiwyd ef. I'r graddau y mae rheswm dynol yn ffaeledig, i'r graddau hyny yn union y mae pob datguddiad yn ffaeledig i'r cyfryw reswm. Nid yw goleu- ni Beibl, mwy na rhyw oleuni arall, yn werth dim i neb ond yn ol gallu y sawl a'i caffo i'w dderbyn. Pob mymryn o wirion- edd crefyddol a ddatguddiwyd i Buddha, neu Zoroaster, neu Moses, neu lesu Grist, neu Paul, neu Luther, neu Calvin, neu Wesley, neu Theodore Parker, i'w rheswm neu eu gallu deallol a moesol y datgudd- iwyd ef. A phob diffyg a ffaeledd yn y datguddiad a gawsant, diffyg eu gallu i ganfod yn gliriach ydoedd. A phan ydys yn golygu fod y datguddiad i Moses neu Iesii Grist yn tra rliagori ar y datguddiad a wnaed i Zoroaster, Confucius, a Socrates, golygu yr ydys fod gallu deallol a moesol Moses a Christ i dderbyn gwirioneddau felly yn tra rhagori ar alluoedd y Pagan- iaid" a nodwyd Ofer yw son am 11 grefydd naturiol a chrefydd ddatguddiedig," fel y gwna ein duwinyddion mor fynych. Nis gall neb weled gwirionedd trwy natur heb iddo gael ei ddatguddio iddo, mwy na thrwy y Beibl. Datguddiedig yw pob gwirionedd; a nat- uriol yw pob datguddiad; canys datgudd- iad i alluoedd meddyliol naturiol ydyw. Byddai raid cael gallu goruch-naturiol i ganfod pob peth a fyddai oruwch-naturiol ddatguddiedig. Mae loan yn dweyd fod goleuni Crist yn goleuo pob dyn ar sydd yn dyfod i'r byd" Dywed Paul am y paganiaid, eu bod yn "adnabod Duw," a'u bod heb y Beibl (neu "ddeddf" ysgrifen- edig yr Iuddew) "yn gwneuthur y pethau sydd yn y ddeddf." A dywed fod "tra- gwyddol allu a Duwdod" y Bod Mawr i'w gweled yn amlwg" i'r paganiaid, "hyd onid ydynt yn ddiesgus." A thystiolaeth cenadon y byd paganaidd yw, fod gan y paganiaid allu deallol a moesol i dderbyn goleuni crefyddol; canys heb hyny ofer fyddai pregethu iddynt. Os na all rheswm pagan dderbyn gwirionedd crefydd;"ot'er; son am grefydd wrtho. Mae yn amlwg fod paganiaid a Christ- ionogion yn llygredig a drwg i'r graddau y maent yn pallu defnyddio y goleuni cref- yddol sydd ganddynt. Fel y dywed Paul am y paganiaid, "A hwy yn adnabod Duw, nis gogoneddasant ef megis Duw." Ac y mae hyn yn wir am y nifer luosocaf 0 lawer yn ngwledydd y Beibl. Mor hawdd fyddai son am ryfeloedd gwaedlyd a pliech- odau gwartlius pobl gwlad y Beibl, a thynu darlun duach na'r darlun a roddes Evans, Hyde Park, o'r byd paganaidd, a hwnw yn wir bob gair am wledydd mwyaf goleuedig y Beibl. Ni plirofai hyny nad oes gwir- ioneddau yn y Betyl i wneyd dynion yn dda, pe cydymtfurfid a hwynt, mwy nag y mae drygau gwledydd heb y Beibl yn profi nad oes ganddynt ddatguddiad o wirion- eddau crefyddol. Mae miloedd o bobl dda eu moesau yn mysg paganiaid, fel sydd yn ngwledydd y Beibl. Mae miloedd o ddys- gyblion Budha, Zoroaster, Confucius a Ma- homet wedi gorfoleddu cystal a Christion- ogion, "Wrth ddisgyn at y dwr Hyd risiau brenin braw." Dylid ystyried erbyn hyn nad yw gorfol- edd a hyder dyn wrth farw yn profi, bob amser, fod ei gredo yn gywir. Mae mil- oedd o Formoniaid ac o Spiritualists yn gorfoleddu, Er oeri'r mer a marw Y mae anwireddau wedi cael eu dyweyd lawer gwaith gan dduwinyddion "union- gred," am y modd y bu gyda Tom Paine, Voltaire, a rhai cyffelyb iddynt, ar eu gwely angeu. Nid ydys yn ysgrifenu hyn i ddirmygu na cheisio lleihau dim ar werth y Beibl; canys y mae ysgrifenydd hyn o linellau yn diolch bob dydd am ragoroldeb y Beibl ar bob llyfr crefyddol arall. Ond dywedir hyn i geisio dangos yr ynfyd- rwydd o ddirmygu y rheswm dynol, i'r hwn y mae Duw yn datguddio gwirion- eddau yn mhob oes a gwlad; ac i ddangos nas gall fod dim datguddiad dwyfol i ddyn ond yn ol y rheswm dynol a all dderbyn y datguddiad. Pe ceid dynion o alluoedd deallol a moesol gwell nag a fu erioed hyd yn hyn yn y byd, diau y byddai datgudd- iad Duw o wirioneddau felly yn eglurach na dim a ddatguddiwyd eto. A dyma ydys yn ei obeithio. Y mae miloedd o ysgolheigion penaf y byd. sydd a'r Beibl yn eu dwylaw. yn hir- aethu, fel enwogion y byd Groegaidd gynt, arft oleuni mwy. Mae tywyllwch mawr eto yn gordoi pynciau pwysig, nad yw goleuni y Beibl yn ddigon i'w ymlid ym- aith. Mae dynion yn gofyn llawer o gwes- tiynau pwysig, heb fedru gweled dim ateb- iad iddynt yn y Beibl; ond fel y cynydda galluoedd deallol dynion, mae y datgudd- iad dwyfol yn cynyddu o hyd. Dyma yw yr achos fod addysgiadau Crist a'r apostol- ion yn rhagori ar yr Hen Destament, a bod duwinyddion y naill oes ar ol y llall yn cywiro camgymeriadau yr oesau a'u blaen- orent, megys y gwna athronwyr a gwydd- onwyr. Diau nad yw Duw wedi datguddio ei holl feddwl eto i ddynion. Efallai nad ydym ond yn dechreu deall, mewn cyd- mariaeth i'r hyn a ddeallir gan ddynion mewn rhyw oesau i ddyfod. A bydd pob cynydd gwybodaeth yn gynydd "datgudd- iad dwyfol" yn ol fel y dysga rheswm dynol ddeall meddwl Duw yn well. Gwar- eder ni rhag cyfyngu yr Hollwybodol i un- rhyw lyfr ysgrifenedig gan ddynion; a dis- gwyliwn ddatguddiad eglurach o hyd yn ol cynydd y gallu dynol i dderbyn gwir- ioneddau Duw. Milwaukee, Wis. H. WILLIAMS. I
I CINCINNATI AC YN OL.
I CINCINNATI AC YN OL. GAN Y PARCH. F. EVANS (EDNYFED.) FRANKLIN, PA.—Hawddwch ysgrifenu penawd nag ysgrifenu arno; er hyny, y mae yn fantais cael testyn gwych. Gofynai rhyw weinidog i weinidog arall os pregethai yn ami o lyfr y Datguddiad, a'r atebiad a gafodd oedd Na." Paham? onid ydych yn gweled eich ffordd yn glir at y testyn?" "Ydwyf at y testyn, ond y mae y ffordd trwy y testyn yn mhell o fod yn glir." Nid dyma fy ngltyflwr i-mae y ffordd at y testyn yn fwy dyrus. Cychwynais o Franklin ar foreu dydd Llun mewn cyn- hebrwng, a gwelais fwg Pittsburgh cyn deg o'r gloch y nos. Gelwir y Ddinas Haiarn yn Ddinas Fyglyd, ond pa wahan- iaeth? Mwg diwydrwydd yw, a gwyr darllenwyr y DRYCH mai nid mewn mwg y terfyna pob peth yn Pittsburgh. Lie bynag y mae Cymry, y mae mwg, o her- wydd fod yno gymaint o dan. Mae yno ,y gryn ymbarotoi at yr Eisteddfod Nadolig. Yn awr am ychydig o gyngorion i bwyll- gorau eisteddfodau. Rhoddwch ddeg mis o amser i'r cystadleuwyr barotoi; cyn y gellwch gael cyfansoddiadau galluog—yn rhyddieithol, barddonol, datganol a clierdd- orol, y mae yn rhaid i chwi roddi amser. Mynwch enw priodol y cyfansoddwr wrth ei gyfansoddiad; gadewch i'r enw ffugiol fyned i ebargofiant; ac os nad oes beirn. iaid digon anmlileidgar i wneyd cyfiawn- der pan y gwyddant pwy yw yr awdwr y yna gosodwch ddau feirniad at yr un gwaith, ac yna ganolwr os yn angenrheid- iol. Gadawer heibio bob peth bachgen- aidd a phlentynaidd. Nid oedd geuyf ond tair awr i aros yma, am hyny ni welais ond un o'r etholedigion, sef y cyfaill diledryw a doniol, D. D. Jones. Mae ef yn yr un cwch a minau, yn y bad gyda yr Iancwn, ond rhwyfau Cymreig sydd genym; a phwy a wyr na fydd pob peth a berthyn i ni yn Gymreig yn o fuan. Rhaid yw i mi gyfaddef, er na welais ond llwydd yn mhlith yr American- iaid, foä fy nghalon yn berffaith Gymreig. Deallwyf fod Jones yn breuddwydio mwy yn iaith ei fam nag a arferai wneyd. Yn station Xenia, darllenais yn un o newydd- iaduron Cincinnati fod J. D. W. ROBERTS, M. D., wedi marw. Yr oeddwn ar dalu ymweliad ag ef. Yr oedd dau ben fy nliaith i yn ymyl y bedd. Darlun tra chywir o fywyd wedi'r cwbl. Treuliais ddau Sabboth gyda y Trefnydd- ion Calfinaidd-enwad ag y mae genyf barch mawr iddo-yn un peth y mae fy mam yn perthyn iddynt—peth arall, y maent wedi ac yn gwneyd mwy gyda'r Ysgol Sul nag un enwad arall; ac am hyny yn gwneyd mwy i gadw yr iaith Gymraeg yn fyw. Os y medr unrhyw un wadu hyn, gwaded. Mae enw y diweddar Howell Powell yn hynod barchus yno. G wnaeth waith da yn ystod ei arosiad yn .y ddinas, yn enwedigol gyda y plant; ac oni buasai ei sel gyda hwy a'r bobl ieuainc, ni fuasai yr
" Cynddelw 'n Farw 'n ei Fedd."…
Cynddelw 'n Farw 'n ei Fedd." Dyma un o'r englynion olaf, os nad yr olaf oil o eiddo CYNDDELW, am hyny dylai fod mewn cof a chadw: Wedi y loes, caf dawel hedd—wedi'r Cyfnewidiad rhyfedd; Os holir, dyma'r sylwcdd Cynddelw'n farw'n ei fedd.— Cynddelw. Cyilddclw'n farw'ii ei fed(l, "-Of air trwm A hir trig ei sylwedd: Ei rodiad fu'n aurhydedd, I Gymru hoff gll ei gwedd. Ni welwyd fawr o'i eilydd-yn Ngwalia Angyles y gwledydd; Fel bardd anhyfal y bydd, Y mawrygus Gymreigydd. Yn odlau beirdd ei genedl bydd-ei fawl Yn fyw tra darfelydd; Neu odiaeth graff feirniadydd, Yn nghoel rhwysg yn Ngwalia rydd. Tan wyddiant duwinyddiaeth—y cododd Yn un cadarn odiaeth; Yn nydd Naf cynyddu wnaeth. "Wrthreolyrathrawiacth." Urdduniant i'r wir farddoniacth-a fu,— Yu fardd o uwchafiaeth; Yn ben dyn buan y daeth I nofio mor hynafiaeth. Eang hynod ei wybodaeth,-ni bn Neb uwch mewn hanesiaeth; A tlirinai ei athroniaeth Yn ddilirost, yn rhydd a ffraeth. Ond Och! i fyny y daeth—ei yrfa Er dirfawr hiraeth; Wele'n gwrdd Gyrddelw'n gaeth Dan oer geulan argeliaeth. Ei gorff a aeth i orphwys^-ei enaid A unodd ag eglwys Y buredig baradwys, Yn nwyfawl wisg y nef lwys. Athraw y beirdd aeth o'r byd-hwn, i fYSb Ceinion feirdd y gwynfvd, Ac enfawr feirdd y cyiifyd,— 0 un gan maent yno i gyd. Alawon nef Cynddelw nawr—a'u seiniau Fel cysonawl gantawr;* Yn iach a lion uwch y llavvr, Yn y firain nef orawr. Johnstown, Pa., Medi 18. D. CADWGAN. *Cantorydd gwael oedd Cynddelw; ond credaf ei fod yn awr mor seingar ei don a Gabriel ei hun. <»«««»
Y CECRYN.
Y CECRYN. GAN Y PARCH. D. DAVIES (DEWI EMLYN). Y mae y boneddwrhwn yn teilyngu sylw neillduol fel un o brif ddynion y genedl Gymreig. Nid sylwadau marwgoffaol am dano yw y rhai hyn, oblegid nid yw wedi marw eto; ond y mae yn fyw ei wala, ac yn debyg o fyw yn hir, gan fod naw byw- yd cath yn perthyn i'w gyfansoddiad; ac yn wir, gellid meddwl lawer tro ei fod yn berthynas agos i Mrs. Pwsi, wrth ei gyf- archiad, oblegid "cyfarchiad ewin cath" ydyw, ys gwedodd Jones, Llangollen.— Byddai y byd hwn yn fyd digyffro angliy- ffredin i fyw ynddo, mor ddigyffro ag Eis- teddfod heb un gynen ynddi, oni bae pres. enoldeb Mr. Cecryn, a'i weithgarwch di- hafal. Beth o werth fyddai dosbarth yn yr Ysgol Sul oni bae ei fod ef yno? Ond chwareu teg iddo, nid yn tynych y mae yn esgeuluso dyfod i'r dosbarth; a phan ddelo, nid yw fel llawer yn sefyll yn gyndyn at yr un golygiadau, ond y mae yn medru rhodio dros yr holl faes duwinyddol, o gors Anffyddiaeth i ben clogwyn Antinomiaeth, a bod yn dipyn o bob peth yn ol ei fympwy ar y pryd. Nid yw yn beichio neb ag ym- resymiad manwl a dwfn, nac yn aflonyddu eu cydwybodau gyda phrofiad efengylaidd, neu gyngor buddiol; ond y mae yn byw- iocau pawb o'i gwmpas drwy gecru tipyn yn yr un style ag y byddai iar Twm Pen- singrug yn crafu gwely newydd ei blanu yn yr ardd. Efe sydd yn gosod ychydig o fywyd yn y cyfarfodydd eglwysig, pan mae perygl iddynt fod yn rhy dawel a marwaidd. Y mae ei lwyddiant a'i fedrusrwydd yn ang- hydmarol gyda thramgwyddo aelodau, a'u gyru i'r pwd; terfysgu a rhanu eglwysi, a symud gweinidogion, rhag ofn iddynt wneyd dinas barhaus mewn rhyw fan, a 1 chasglu mwswgl o'u cwmpas i rwystro eu defnyddioldeb. Pleser penaf ei galon yw hau.hadau anghydfod, pa le bynag y byddo; ac nid yw byth yn esgeuluso gwneyd hyny gydag un gymdeithas, nac un1 sefydliad. Anhawdd gwybod beth wnai pobl yr ar- dal am destynau ymddiddan, ar ol gorphen siarad am y tywydd, oni bae ystranciau rhyfeddol Mr. Cecryn. Am ei ddywediad- au ef y siaredir yn siop y crydd, ac yn ef- ail y gof, yn sisial melus y visit, ac yn nghynadledd ddiddanus gwledd y tO. Pe byddai farw y fory, neu gael ei grogi, byddai yn golled alaethus i'rpapyrau Cym- reig, gan mai oddiwrtho ef y daw y pupr a'r halen sy'n gwneyd eu coginiaeth yn flasus. Byddent mor ddiflas ar ol hyny a haf heb mosquitoes; mor wag a gwisg bon- eddiges pan yn hongian yn y closet, ac mor sych a chwrdd Democrataidd heb ddim whisci. Y mae yn rhyfeddol o lwyddian- us i wtliio ei fys i bob dadl, i fod a'i ben yn mhob ffrwgwd lenydJol, ac i wneuthur ei hun yn ben-cipryswr yn yr ymyraeth a materion rhai eraill. Un ffordd neillduol sydd ganddo i ymddieithrio, fel na wnelo dynion ei adnabod, yw cyhuddo eraill o wneuthur ei waith ef, sef o gecru. Os defnyddia yr athronydd ordd fawr athron- iaeth i falurio ei bethau yn ufflon man, poera ychydig o lafoerion bryntion am ei ben. a haera ei fod yn cecru. Os cyfeiria y duwinydd gyflegrau mawrion rhesymau a plirawfiadau Ysgrythyrol at ei druth, at- eba yn wawdus a difriol, fod hwnw yn cecru. Os cyfeiria y bardd ef at reolau traws o gyswllt ewinog, sain bendroch, a llusg gysylltgudd, a'r holl gywreinion traws- fantachol a chlogyrnachyddol y mae medd- I:ly yliau mawrion yn ymddedwyddu ynddynt, cyfoga yntau yn ol lon'd pysgodlyn o en- llibiaeth ar ben y gwr o Barnassws, gan ddywedyd wrtho ei fod yn cecru. Y ffordd i gael ganddo agor ei gwd yw rhoddi eyng- or iddo, rhyfygu barnu yn groes iddo ar ryw fater, peidio cwrcydu ger ei fron, can- mol rhyw un arall, gwneyd sylw call yn ei g]ywedig&eih, vneu ysgrifenu ychydig o wir- ionedd ar bapyr newydd. Yna ceir ei wel- ed yn codi ar ei wrych fel baedd gwyllt, ac yn dyfod allan i herio pawb, fel Goliath byddin y gecraeth. Y mae ei ddyfalbarhad yn ogoneddus.— Y mae yn parhau drwy y blynyddau i gec- ru yn nghylch pob peth—cecru yn nghylch pregethu, cecru yn nghylch gweddio, cec- ru yn nghylch priodi, a checru yn nghylch claddu; cecru am wleidiadaeth, cecru am grefydd, a checru byth a hefyd am lenor- iaeth, mor drystfawr a hen felin ban; a lied debyg gecru yn angau ei hunan pan ddelo ato. Y mae yr ychydig awgrymau hyn fil- waith yn rhy wanaidd i osod allan ei holl ragoriaethau cecrol; ac os bydd rhywrai yn methu ei adnabod wrth y darlun an- mherffaith hwn, bydded iddynt aros am ychydig i gael gweled pwy a ddaw allan i arddel y cap, a'i wisgo. Parisville, 0. '4 I""
GALAR-WISGOEDD.
GALAR-WISGOEDD. GAN Y PARCH. R. J. MATHEWS, FAIRHAVEN. Mae yn naturiol i bawb alaru, ac yn ar- feriad cyffredin i wisgo galar-wisgoedd, pan yn colli perthynasau agos neu gyfeill- ion anwyl. Mae y ddau beth uchod yn wahanol iawn, ac nid ydynt bob amser yn dilyn eu gilydd. Iaith y galon yw galar, ac nid yn liawdd y gellir ei osgoi; ond nid yw galar-wisgoedd ond arferiad iSol o dan lywodraeth ffasiwn. Ein hamcan yw tystio ger bron y byd ein bod yn galaru ar ol y marw. Nid oes neb yn meddwl galw sylw y byd trwy newid dillad, at un galar neu ofid arall o'i eiddo, hyd yn nod pe byddent fel tonau cynddeiriog y mor yn llifo dros ei enaid! Na, yn y fan hon yn unig y cewch ddangos eich galar, medd ffasiwn. Mae yn Hawn bryd i ddweyd rhywbeth yn erbyn y fath arferiad ffol, gwrthun, beicb- us ac angristionogol. Beth sydd yn fwy gwrthun na tliaflu ein galar i wyneb pawb a'n gwel? Mae digon o ofid yn y byd, er i ni gadw ein lieiddo yn y galon. Gwir fod cydymdeimlad yn felus, ac yn tori ein gofid yn ei haner. Ond un peth yw derbyn cyd- ymdeimlad calon pan mewn galai, ond peth arall yw gorfodi eraill, yn barhaus i feddwl am eu gilydd. Lie mae galar gwir- ioneddol, nid oes un awydd am ei ddangos, ac argraffu ar feddwl y byd ei fod yno. Y mae yn rhy gysegredig i wneyd y fath show o hono ei hun. Mae yn fwy awyddus i ymguddio yn nyfnderoedd y galon a llechu yn ei dirgelleoedcl hi, na gwthio ei hun i sylw pawb yn y ty, yn y capel, ar yr heol, ar y cars, a bod yn foddion i gyffroi cyw- reinrwydd dieithriaid yn mhob man.- Edrycher ar y dyn acw a crape ar ei het, neu y ddynes acw yn gwisgo du o'i thraed i'w choryn, yn dyfod i mewn i unrhyw gymdeithas sydd yn llawen, ac yn mwyn- hau bywyd. Ar eu dyfodiad, mae pawb yn distewi, a rhyw deimlad oer fel rliew yn myned dros y cyfan. Ambell un yn sisial yn ddistaw bach, "Beth yw ei ofid ef?" "Ar ol pwy mae hi yn mournio?" Hunan- oldeb, ac nid gofid yw yr achos fod dyn yn hoffi y fath siarad am dano; a balchder, ac nid galar yw yr achos fod unrhyw ddynes yn awyddus am gael y fath sylw. Teimlad y rhai sy'n gwir alaru yw, nas gall geiriau na dillad osod allan eu gofid a'u galar hwy. Nid yw gwisgo du bob amser yn dangos gwir alar; a chas beth plant galar yw cael eu gorfodi i ddilyn y ffasiwn a gwisgo crape. Nid yw yr anadl braidd allan o'r corff cyn y declireuir siarad am fourning. Y fath ordeal i wir alarwyr! Y fath yn- fydrwydd yw son am ddillad pan mae y galon yn cael ei rhwygo! Hefyd, mae y gost o wisgo du ar ol y marw yn rheswm dros adael heibio yr arferiad. Mae costiau eraill cysylltiedig a chladdu, y dyddiau hyn, yn ddigon ac yn ormod i lawer o deuluoedd. Maefuneral bill ambell un yn ddigon i ddychrynu Brenin y dycliryniadau ei hun. Mae bwyd a dillad ambell un yn costio llawer i'r wlad, ond nid yw y gost i'w gynal yn ddim at y draul o'i gladdu. Mae y gost i farw a chael claddedigaeth barchus yn fawr iawn. Ychwanegwch at hyn y draul o roddi dillad duon i'r holl deulu, a hyn i barhau am flwyddyn, a glyna rhai wrthynt drwy eu bywyd, hyd nes y tynir hwynt ymaith gan yr angylion, i'w gollwng i'r nefoedd. Ai nid yw yn wirionedd fod llawer teulu yn eu hawydd am ddal i fyny y deep mourn- ing am flwyddyn, o barch i'r marw, yn an- mharchu y byio trwy eu liesgeuluso ? Mae y byw yn hawlio ein parch; peidiwn a'i roddi i gyd i'r rhai sydd yn y bedd. Ni charwn ddweyd un gair i ddolurio teimladau neb sydd yn bresenol yn gwisgo du ar ol rhyw un anwyl sydd wedi eu gadael. Na, os gallant fforddio i wneyd hyny, ac os yw eu teimladau yn gofyn hyny, ni ddywedaf fi air yn erbyn iddynt fwynhau y fath drist- wch. Ond ar yr un pryd carwn i'r eyfryw beidio condemnio eraill, sydd mewn am- gylchiadau gwahanol, ac am ddangos eu teimlad mewn dull gwahanol i'r ffasiwn, a mwy cydunol a'u barn fel bodau rhesym- ol, ac a'u ffydd fel Cristionogion. Pa debygolrwydd sydd rhwng y "wisg ddu" a'r "diHad gwynion," yn mha rai y credwn fod yr ymadawedig wedi eu gwisgo? Os bydd dynes yn meddwl fod chwe' mis yn ddigon i wisgo deep mourning, ac nad oes angen am yr half a third mourning, paham na chaiff hi gario allan y meddwl hyny heb orfod gofyn mewn pryder, "betlifydd dynion yn feddwl os rhoddaf heibio y du yn awr?" Pa bryd y daw yr amser pryd y cawn wisgo yn ol ein chwaeth mewn adeg- au o alar, fel ar bob adeg arall, pryd na fydd galar y dyn tlawd yn cael ei ddyblu gan y dryclifeddwl nas gall fournio yn ol y ffasiwn?