Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Advertising
EIN TELERAU JAM 1875. Pris yn inlaen llaw$2.50. Pris y DRYCH i Glybiau ..$2 20 EST" Pris y DRYCH i Canada .$2 70 Pris y DRYCH i Gymru 3 50 Anfoner arian mewn Post Office Order neu Registered Letter, neu mewn Draft arlNew York, taladwy i T. J. GRIFFITHS, DRYCH OFFICE, UTICA, N. Y. ■jgnYCH AT Y GEMYDD EVANS, I lirynu eich ORIADURON, eich AWLEISIATT a'ch TLYSAU. Adgyweirir WATCHES a CHLOCIAU yn y modd goreu- am brisiau rhesymol. tv- Cofier y rhif- 82 HEOL COLUMBIA, UTICA, N. Y. 3475tf
Gobaith i'r Gwangalon.
Gobaith i'r Gwangalon. Os ydych wedi bod yn pesychu er ys hir amser ac yn dechreu anobeithio am wellhad, neu os ydych wedi cael anwyd yn ddiweddar, ewch ar unwaith i store gyfferi C. H. Williamson a'i Gwm., Utica, a cheisiwch botelaid o DR. MORRIS1 SYRUP OF TAR, WILD CHERRY AND HOREIIOUND. Cymerwch ef a byddwch iach. Nid oes un feddyginiaeth arall yn gweithredu mor gyflym ac effeithiol mewn peswch, anwyd, a phob anhwyldeb yn y gwddf, yr ysgyfaint, a'r ddwyfron, a arweiniant i'r darfodedigaeth. Mae canoedd o rai a gredent unwaith eu bod yn ngafael yr afiechyd enbyd hwnw wedi eu hadferu i iechyd trwy arfer y meddyginiaeth rhyfeddol hwn. Efe hefyd yw y meddyginiaeth goreu y gwyddys amdano rhag y Croup, ac nid yw byth yn ffaelu gyda y Whooping Cough. Pris prawf-botelau yw 10 cents. Gwerthir gan y prif gyfferwyr yn mhob rhan o'r wlad, ac yn mysg eraill gall Francis Etheridge, Rome, N. Y.
<Æin @,cr]fb(.Ugi an
<Æin @,cr]fb(.Ugi an Gwelliant Gwall.—Yn y llinell olaf yn Meddar- graff Kbisiart Delu o Wynedd, a ymcldaugosodd yn y JJRYCH diweddaf. darllener A thoi dros v fath dry- sor," yn lie "A throl," &c. Y Diweddar Josiah J. Williams, LAFAYETTE, N. J.—Rhydd gohebydd y manylion a ganlyn am Mr. W., yn.ychwanegol at yr hyn a gyhoeddwyd yn y DRYCH diweddaf: Mab ydoedd i John ac Ellen Williams, Nantbach. Llandwrog, a daeth i'r wlad hon 18 mlynedd yn ol. Priododd gyda Miss Jane R. Humphreys, o Bethesda, 11 mlynedd yn ol, yr hon sydd wedi ei gadael yn weddw gyda thri o blant, mewn sefyllfa gysnrus. Yr oedd Mr. W. yn wr crefyddol, a chedwid Ysgol Sul Gymreig yn ei dy. Claddwyd ef yn barchus yn mynwent Newton, N. J. O. Morganwg Jenkins.-Bydd eich yssgrif ar Iaith" yn ein nesaf. Drwg genym iddi gael ei chadw cyliyd heb weh'd goleuni dydd. Ond nid yw fymryn gwaeth. Bydded ein gohebwyr eraill sydd wedi ysgrifenu ar bynciau o nodwedd cyUredinol yn ymarhous. At Bobl Church Hill, 0.- Gellwch clalu am y DRYCHi Mr. TOM Ap DAVIES neu J. L. JONES; ym- drcchwch wneyd hyny yn fuan. Ac hyd y mae ynoch (fel Ilenorion) byddwch heddychol.
[No title]
[No title]
YR wythnos ddiweddaf cyflawnwyd yr orchest fwyaf y clywyd erioed son am dani yn nglyn a nofio, gan Capten WEBB, nofiwr Seisnig enwog, yr hwn a daflodd Byron, a Boynton, ac eraill i'r cysgod. Nofiodd dros yr English Channel, pellder o bedair milltir ar hugain, mewn un awr ar hugain a deugain mynyd, a hyny heb wisg o India-rubber nac unrhyw gymorth arall. Canlynwyd ef gan gyfeillion mewn cychod, y rhai a'i bwydent a beef-tea a brandy, tra y byddai efe yn gorphwys ychydig drwy orwedd yn llonydd ar wyneb y dwfr.
[No title]
GWELIR oddiwrth y Newyddion Tramor fod pla y gwartheg yn ymledu yn gyflym yn Lloegr, er gwaethaf y cyfreithiau o barth dadforiad gwartheg. Mae y cyf- reithiau hyn mor fanwl yno, fel os ceir cy- maint ag un anifail yn dioddef oddiwrth yr afiechyd, y troir yr holl lwytli yn ol i gael eu lladd mewn rhyw lanerch neillduedig. Nodir un engraifft lie yr oedd wyth cant o ddefaid, y rhai awrtliodwyd oil o herwydd fod gan un o honynt droed dolurus.— Hawlia yr atgludwyr na ddylid taflu allan ond y rhai afiacli yn unig, a dywedant na bydd iddynt gyflenwi y farchnad Seisnig dan yr amgylchiadau hyn. Y canlyniad yw prinder cig, a chodiad yn y prisiau, yr hyn sydd yn dylanwadu yn uniongyrchol ar bris y caws. Dichon y gallai masnach- wyr caws y wlad hon gymeryd mantais ar y sefyllfa drwy anfon drosodd symiau ych- wanegol o gaws, yr hyn fyddai yn enill mawr i'r wlad hon.
[No title]
Y MAE y newyddion diweddaf o Ecuador yn cadarnhau yr hanes am lofruddiad Dr. QUENTDHO GARCIA MORENO, Arlywydd y Weriniaeth. Y llofrudd ydoedd person siomedig o'r enw Capt. Rayo, yn cael ei gynorthwyo gan ddau o ddynion. ieuainc o'r enw Cornejo. Lladdwyd y blaenaf gan y gwylwyr yn y fan; ond diangodd y ddau eraill. Garcia Moreno ydoedd arweinydd y gwrthryfel llwyddianus a gymerodd le yn nechreu y flwyddyn 1869, yn ystod Ar- lywyddiaeth Dr. Javier Espinosa. Y weithred gyntaf o'i eiddo wedi gweith- io ei hun i awdurdod yn y dull hwn, oedd diddymu carchariad am ddyled, a chau pob ysgolion oddieithr y rhai Jesuitaidd. Ar yr 16eg o Fai, 1869, rhoddodd Moreno ei swydd i fyny ac etholwyd Rafael Carvajal yn Arlywydd. Ar ddiwedd y flwyddyn, modd bynag, llwyddodd Mores o i g;el ei t ail ddewis am dymor o chwe blynedd, er fod y tymor arlywyddol yn cael ei gyfyngu yn ol y cyfansoddiad i bedair blynedd. Fell^nid yw yr amgylchiad hwn mewn un modd yn beth i synu ato, gan mai trwy drais y daeth Garcia Moreno i awdurdod ar y cyntaf, a pharhaodd mewn awdurdod trwy ddirdynu y cyfansoddiad.
MARWOLAETH Y PARCH. WILLIAM…
MARWOLAETH Y PARCH. WILLIAM DA VIES, D. D., BANG OR. Cawn hanes o Gymru am gwympiad un arall o gewri y pwlpud Cymreig; neb llai na Dr. Davies, gweinidog Wesleyaidd o enwogrwydd mawr; yr hyn a gymerodd le am chwech o'r gloch boreu ddydd Gwener, Awst 13eg, yn fuan wedi i'r Cyngor yn Nghynadledd Wesleyaidd Sheffield roddi ei enw ar restr yr "Uwehrifiaid." Cladd-- wyd ef yn hynod barchus yn Aberystwyth, lie y bu ei ail wraig farw ychydig wyth- nosau yn ol-yr hwn ddigwyddiad yn ddi- au a brysurodd ei ddiwedd yntau, canys yr oedd eisoes yn nychu er's misoedd o dan glefyd yr afu. Gadawodd ddau fab yn amddifaid. Yn marwolaeth Dr. Davies, collodd y Dywysogaeth un o'i meibion mwyaf tal- entog. Meddai alluoedd meddyliol cryf- ion; ac er na chafodd ond manteision addysg cyffredin yn nyddiau ei ieuenctyd, bu yn llafurus a diwyd i ddysgyblu ei hun a chasglu gwybodaeth o bob cyfeiriad. Ystyrid ef yn feirniad Ysgrythyrol craff iawn, ac yn ddeonglydd naturiol a medrus; ac yr oedd yn dra hyddysg yn llenyddiaeth yr iaith Gymraeg, i astudiaeth yr hon y talodd sylw neillduol. Ganwyd ef yn Aberystwyth yn y flwydd- yn 1820; felly yr oedd yn 55ain mlwydd oed pan orphenodd ei yrfa. Dechreuodd bregethu tua 1841, pryd hefyd yr enillodd radd o enwogrwydd fel cyfleithydd a chy- hoeddydd pregeth Dr. Bunting ar Gyfiawn- had. Cymerodd daith drwy Ogledd Cymru i ledaenu y bregeth hono, ac yr oedd yn hynod o boblogaidd, yn enwedig yn ardal Bethesda. Yn nys Mon tynodd sylw y diweddar Barch. David Willams, y "bren-' in," fel yr adnabyddid ef. Ai ti," meddai y brenin, "a gyfieithodd y bregeth hon?" "le," meddai y gwr ieuanc. "Dylet ti gael gwell gwaith, wel di, na gwerthu preg- ethau," meddai y brenin. Felly fu, treul- iodd y cyfleithydd beth amser yn yr ynys fel pregethwr cyflogedig. Yn y flwyddyn 1843, dechreuodd ar waith rheolaidd y weinidogaeth, os nad ydym yn camgym- eryd, yn Swydd Mon. Wedi hyny bu yn teithio yn nghylch-deithiau Abergele a Cbonwy, Abermaw, Dolgellau, Liverpool, Bangor, Tregarth, Beaumaris, Llundain, Caernarfon, a Bangor yr ail waith. Yn y flwyddyn 1857, penodwyd ef yn olygydd yr Eurgrawn ac yn orucliwylydd y llyfrfa, yn yr hwn gylch yr arosodd hyd derfyniad ei yrfa ddaearol; a bydd "Llith Hen Wyl- iedydd," yn yr Eurgrawn yn gofgolofn i'w graffder a'i fedr tra pery yr iaich Gymraeg. Flynyddoedd yn ol, dygodd allan Eir- iadur Ysgrythyrol" rhagorol, ac yn gan- lynol i hyny, Agoriad i'r Ysgrytliyrau." Enillodd glod ar faes dadleuaeth, o dan yr enw "Bugail" yn yr hen Amserau; a thrwy y ddadl ar Olyniaeth Apostolaidd yn yr Herald Cymraeg. Yn y cyfan oil ni ysgrif- enodd frawddeg annheilwng o Gristion a boneddwr. Ond nid oedd ei ragoriaethau z, fel awdwr yn fwy nodedig na'i ragoriaeth- au fel areithydd. Yr oedd yn ymresymwr cadarn, ac yn draddodwr nertliol, a choflr yn hir am rai o'i bregethau mwyaf nertliol-, megis hono mewn Cyfarfod Talaethol yn z, Nghaernarfon yn 1854. Bu yn wasanaeth- gar iawn i'w enwad; ac i achos crefydd yn gyffredinol yn y Dywysogaeth. Boed heddwch i'w lwcli.
PANIC YN CALIFORNIA.
PANIC YN CALIFORNIA. Achoswyd panic yn San Francisco, ac i raddau mwy neu lai drwy Dalaethau Cali- fornia, a Nevada, ddydd Iau diweddaf, gan y newydd fod "Ariandy California" wedi cau ei ddrysau a chyhoeddi ei hun yn analluog i gyfarfod y galwadau am arian. Bernir fod ei ddyledion yn cyr- aedd i'r swm o $7,000,000 neu hwyrach $14,000,000. Haerir gan rai y bydd yn alluog mewn amser i gyfarfod ei holl ym- rwymiadau, ond y mae hyny yn amheus iawn. Y tebygolrwydd yw, oni bae fod y bane mewn sefyllfa ddirywiedig ac an- obeithiol, y buasai y gwyr goludog oedd- ynt yn gwneyd masnacli gydag ef, yn rhed- eg i'r adwy i'w achub yn nydd cyfyngder. Cyfrifir Sharon o Nevada yn werth $60,- 000,000 neu $70,000,000; ac y mae cyfoeth Mills, cyn-reolwr y bane; Haywood, part- ner y Seneddwr Jones; Stanford a Crock- er ac eraill o Gwmni Rheilffordd y Tawel- for, uwchlaw amgyffredion ymenydd dyn Ily gwan." Ond gadawsant y sefydliad i'w dynged, heb gynyg ymwared, Nid yw yn hysbys i'r cyfEredin eto beth yw dirgelwch y methiant cywilyddus hwn; na pha effaith a ga ar yr ariandai eraill, amryw o'r rhai ydynt dros amser wedi eu taflu i ddyryswch, megis y "National Gold Bank," a'r "Merchant's Exchange Bank." Sierheir, pa fodd bynag, fod yr Ariandai Cynilo, i'r rhai y mae y tlodion wedi ym- ddiried eu henillion, yn ddigon diogel, a'u bod yn abl i dalu pob gofynion. Y tebygolrwydd yw mai gwastraff y swyddogion a'u dull rhyfygus o ddwyn yn In laen eu hanturiaethau, sydd wrth wraidd y dyryswch hwn. Y llywydd oedd RALS- TON, ac efe yn fwy na neb arall, a ystyrir yn gyfrifol am y trychineb. Ond y mae ef wedi rhoddi terfyn ar ei fywyd drwy foddi ei hun, yr hyn sydd yn taflu pethau i fwy o ddyryswch fyth.
jWAR TVOLAETlI DR. PRICE,…
jWAR TVOLAETlI DR. PRICE, REM8EN. Dydd Sabbotli, Awst 21, 1875, bu farw y meddyg adnabyddus, James W. Price, o fewn ychydig i fod yn 70 mlwydd oed, yn Remsen, Swydd Oneida, N. Y., lie yr oedd yn dra adnabyddus er's oddeutu 36 o flyn- yddoedd. Daeth Dr. Price i America tua'r vflwyddyn 1829, ac ymsefydlodd yn mhlith Cymry Steuben a Remsen, lie daeth yn fu- an yn hynod nodedig fel meddyg, mewn amryw o ystyriaethau. Nid ydym yn sicr pa un ai yn Beaumaris ynte yn Bangor, G. C., y ganwyd ef, ond o'r lie a enwyd olaf y symudoddj i America. Derbyniodd add- ysg elfenol yn mro ei enedigaeth; ac yn Dublin, Werddon, y bu yn y coleg, yn dysgu pliysygwriaeth a llawfeddyginiaeth. Yr oedd yn deilliaw o deulu uchel a pharch- us, a chafodd ddygiad i fyny mewn dos- barth urddasol. Yr oedd yn selog dros y bendefigaeth a'r teulu Breninol, ac o ranei grediniaeth o angenrheidrwydd yn wr eg- z!1 Iwysig brwdfrydig; ac fel gwleidiadwr yn un o'r Toryaid manylaf. Wedi dyfod i America, ymunodd a'r blaid Ddemocrat- aidd, a dadleuodd yn ffyrnig dros egwydd- orion y blaid hono, er ei fod yn byw yn nghanol Gwerinwyr Cymreig Remsen a Steuben. Safodd dros Ddemocratiaeth yn amser iselaf y blaid hono yn y rhandir hwn; ae yr ydym yn meddwl iddo weled adegau tra nad oedd neb ond efe a rhyw un neu ddau eraill yn rhoddi tocyn Dem- ocrataidd yn yr ethol-flwch ar ddydd yr etholiad. Hoffai ymffrostio yn ngwroldeb y cyn-Arlywydd Andrew Jackson, a dweyd geiriau mawrion, tra yn cystadlu gyda'i wrthwynebwyr. Er ei fod yn selog a phen- boeth dros ei bynciau gwleidyddol, yr oedd z, yn foneddwr moesgar a hynaws yn ei gymundeb a phersonau h llol wrthwyneb- 01 iddo ar egwyddorion politicaidd. Yr oedd rhai o'i gyfeillion penaf yn mhlith y ,,y Gwerinwyr mwyaf selog; ac wrth ymddi- ddan yn fanwl gydag ef, yroedd yn hawdd canfod nad oedd o argyhoeddiadau dyfn- ion a sefydlog ar bynciau politicaidd, nac unrhyw bwnc arall mewn gwirionedd. Yr oedd yn hoff o ganmol boneddwyr a phen- defigion Cymru a Lloegr, eu defodau a'u harferion, yn enwedig helwriaeth. Yr oedd yn ei feddiant flynyddoedd yn ol goes flaen a phawen llwynog, hanes yr hon a hoffai adrodd i'w gyfeillion. Cyrchodd y bawen gydag ef o Gymru. Yr oedd yn arferiad yn Nghymru yr amser hwnw, wrth hela llwynog y tro cyntaf ar ol i foneddwr ddy- fod i'w oed, i dori coes y llwynog cyntaf a ddelid, a defnyddio hono i droi y brandy punch y tro cyntaf yr yfid iechyd da bon- eddwr, ar derfyn yr hela; ac anrhegwyd Dr. Pr ce ag un goes ar ol cyflawniad y ser- emoni. Yr oedd llawer iawn o anrhydedd yn per- thyn i'r ymadawedig yn ei gymundeb gyd ag eraill, a'i gysylltiadau cymdeithasol, er ei fod yn gyffredin a'r gair garwaf yn mlaen, yn haerllug, yn sarug, ac yn ymos- odol. Os derbyniai sarhad neu gam, yn ol ei farn ef, chwerwai yn arutlir; a byddai yn barod hyd yn nod i ymladd gornest dros ei anrhydedd a'i sefyllfa fel dyn, ac aelod o gymdeithas; ond os llwyddid i'w argyhoeddi nad oedd sarhad na dirmyg yn cael ei fwriadu, ac egluro y pwnc iddo, yr oedd ei faddeuant yn barod a chyflawn bob amser. Cafodd ar ddeall un tro fod yr hen batriarch, y Parch. Morris Roberts, wedi ei sarhau, a bu yn bytheirio bygytlnon cr- cliyll, ac yn darparu gwn i'w saethu os na wnai ymddihenriad, ac esgusawd boddha- ol; eithr wedi iddo iawn ddeall yr hyn oedd Mr. Roberts wedi ddweyd, a chael eglurhad cyflawn ar y mater, ymddygodd fel boneddwr. Fel meddyg yr oedd yn weitliSar a fIydd- lon, ac yn barod i deithio ddydd a nos, a theithiodd lawer iawn dros hir flynyddoedd. Wedi iddo wasanaethu fel meddyg, a rhoddi ei gyfleiriau yn ffyddlon, yr oedd yn aw- yddus iawn am ei dâl; ac nid ami y gwel- wyd neb cystal agef am gasglu yr hyn oedd ddyledus iddo. Mae llawer yn alluog i en- ill arian, ond heb feddu talent i'w casglu. z, Yr oedd Dr. Price yn dalentog i wneyd ar- ian, ac i'w casglu; ond eu cadw a'u hiawn ddefnyddio oedd yn gampwaith na wyddai ddim am dano. Cafodd gyfaddasrwydd naturiol i fod yn llawfeddyg, neu feddyg esgyrn a dolur- iau, os oedd dideimladrwydd yn gyfaddas- rwydd. Diau iddo tra yn y coleg gael llawer o ymarferiad personol i ddifynu, tori aelodau, dadgymalu, a drabio cyrff; canys yr oedd mor gartrefol a hamddenol wrth drin archollion, tori aclodau, a plie bilasal yn sglisio afal i'w fwyta. Dadleuai mai felly y dylai pob llaw-feddyg deimlo, os bydd yn feistr ar ei waith; canys os bydd yn ofnus a chydymdeimladol, nis gall fod yn llwyddianus, a bydd yn fwy ar- teithiol i'r dioddefydd na thorwr cyflym a didaro. Er fod Dr. Price yn ffyddlon dros yr ys- gol feddygol ff perthynai iddi, sef yr Allo- pathic, eto nid oedd ei ffydd yn gref ynddi fel gwyddor wedi ei phrofi, a chydnabydd- ai mai arbrofion oedd y cwbl o honi, gan hyny cymerai ei ryddid yn ami i weinyddu cyffeiriau yn hollol groes i reolau y gyfun- drefn hono. Natur oedd y meddyg anffael- edig yn ei olwg, a'r oil a obeithiai fod yn alluog i'w wneyd oedd cynorthwyo natur yn ei gweithrediadau adferiadol. Addefai nad oedd Allopathy yn science-dim ond treio y peth yma a'r peth arall. Gofynodd cyfaill un tro iddo, pa fodd y gallai esbonio dylanwad cyffeiriau i well- hau gwahanol anhwylderau, tra yr oeddynt oil yn cael eu rhoddi yn y cylla yn gymysg a'r ymborth a'r diod? Atebodd nad oedd yn amcanu esbonio hyny, a bod yn rhaid i'r cyffeiriau gael eu cymeryd i fyny o'r cylla i'r cylchrediad, a'u gwasgaru dros yr hofi gorff, ac felly yr oeddynt i raddau yn dylanwadu yr un fath yn mhob man. Dy- wedir fod rhai cyffeiriau yn atdynu at y dwfrediadau, a hylifoedd y corff; eraill yn efieithio ar y gwaed, yr afu, yr ysgyfaint, yr elwlenau, &c., ond addefai nad oedd efeyn credu fod un meddyg mewn bodolaeth a all weinyddu unrhyw gyffer i ddylanwadu yn union-gyrchol ar unrhyw anhwyldeb ar- benig. Yr oedd efe yn credu mewn llwyr lanhau y cylla, fel na bydd dim yno i atal rhydd-weithrediad yni y cyfansoddiad; yna bydd i'r elfen fywydawl gael chwareu teg i adferu mantoliad a chydbwysedd yn mheirianwaith y corff. Nid oedd yn credu mewn gweinyddu llawer o gyffeiriau, ond yr oedd yn rhaid i'r bobl eu cael; ac os na roddir cyffeiriau, dywedir nad ydyw y meddyg yn werth dim. Gofynodd cyfaill iddo ar un amgylchiad beth oedd ei farn am feddyginiaeth dwfr—Hydropathic, ac atebodd, "Y mae yn dda, a'r unig feddyg- iniaeth ddiogel; canys defnyddiau yr elfen sydd yn gwneyd i fyny tua saith ran o naw o'r corff; ac mae yn sicr mai hi ydyw y cyfrwng mwyaf effeithiol i gyraedd pob man yn y cyfansoddiad. Ond ni wna y tro i'r bobl, o herwydd ei bod yn rhy syml ac yn rhy rad-ni fu meddyg rhad erioed yn boblogaidd." Gofynodd y diweddar J. Mather Jones i'r Doctor beth oedd yn feddwl am effeithiau blue pills f Gwenodd, a dywedodd, gwenwyn dinystriol; ond y mae awdurdodau meddygol uchel yn dweyd mai gwenwyn defnyddiol ydyw, am ei fod yn effeithio yr afu. Fy nghyf- aill, os rhoddir blue pill i chwi, coliwch gymeryd owns neu ddwy o salts boreu dranoeth, i anfon y gwenwyn allan o'r cyf- ansoddiad. Mae y blle pill wedi lladd llaw- er mwy nag a achubodd erioed." Priododd Dr. Price yn Nghymru ferch i un o blant y Parch. Thomas Jones, Llan- ddaniel, Mon; ac yr oedd yn ddynes bryd- ferth a rhinweddol iawn. Daith y Doctor drosodd o flaen ei deulu, a darparodd le i'w derbyn. Bu iddynt dri o blant—dau o feibion ac un ferch. Bu farw un o'r meib- ion amser maith yn ol, yr hwn a gladdwyd yn mynwent Penycaerau, Remsen; ac yno y claddwyd Mrs. Price, yr hon fu farw yn 1840. Bu y Dr. yn weddw y gweddill o'i oes. Mae y mab sydd yn fyw, yn Californ- ia er's llawer o flynyddoedd, ac ni chlywyd dim oddiwrtho er's cryn amser. Priododd y ferch Mr. Billings o Trenton, lie buont yn byw dros amser. Bu efe farw, gan adael gweddw ac un ferch fechan. Rai blynyddoedd yn ol, dechreuodd y Doctor ddibrisio ei alwedigaeth fel meddyg mewn gwlad, a graddol ddiflanodd ei ym- arferiad; a tliua phum' neu chwe' blynedd yn ol, derbyniodd benodiad i lanw swydd yn- adran cofrestru llythyrau yn y Post Otlice, yn New York. Symudodd yno, a chan fod ei ferch mewn swydd yn y Custom I-louse, yn yr un ddinas, gwnaetli ei gartref yno. Pa fodd y bu iddo ef newid digon ar ei farn Ddemocrataidd, i dderbyn swydd dan weinyddiaeth Werin- ol, sydd ddirgelwchna clieir esboniad arno y mae yn debyg. Arferai fod ei hun yn chwerw iawn ar bersonau anwadal mewn politics; ac yr oedd yn hoff o felldithio rhai yn nghylchoedd Remsen fel turn coats.— Diau fod amgylchiadau yn gorfodi llawer i oy dewi, ac mae yn dra thebyg mai felly y bu gyda Dr. Price. Tua dechreu Mehefin diweddaf daeth ei ferch ag ef i fyny o New York yn glaf, i'w hen ardal, lie y bu mewn gwaeledd mawr hyd ddydd ei farwolaeth. Yr oedd di- ffrwythder hynod yn ei aelodau, gwall- dreuliad a dyrys anhwylderau. Bu Dr. Williams, Remsen, yn gweinyddu arno gyda gofal a diwydrwydd canmoladwy; ond yr oedd ei gyfansoddiad wedi rhedeg i lawr i'r fath eithafion, fel nad oedd un gobaith am ei adferiad. Cyn marw, rhodd- odd orchymyn ar fod i wasanaeth Eglwys Loegr gael ei gyflawni yn llawn yn ei gladdedigaeth; a chan ei fod yn perthyn i'r Seiri Rhyddion (Freø Masons), yr oedd- ynt hwythau i droi allan i dalu y gymwyn- as olaf iddo. Dydd Mawrth, Awst 24ain, cymerodd yr angladd le; a chan fod Cym- ry Remsen yn ormod o Ymneillduwyr i'r Esgobyddion fodoli yn eu plith, nid oedd yno gapel perthynol i'r enwad hwnw; felly yr oedd yn rhaid anfon J. Holland Patent am berson i weinyddu y gwasan- aeth, a daeth y Parch. Mr. Vincent yno. Wedi cael person, yr oedd yn rhaid cael capel, a chaed addoldy y Trefnyddion Calfinaidd. Nid oedd hwn yn cynwys offeryn cerdd, fel mae gwaetha'r modd, a bu raid mudo organ iddo. Gwnaed hyny, ac er i'r organ gael ei chwareu yn y capel, nid oedd un arwydd halogedigaeth ar y muriau nac ar y seti; ac yn y fan hon gell- ir dweyd fod y canu yn arddercliog, er na chafodd Mr. G. E. Jones, y blaenor med- rus, ond ychydig o oriau i gasglu cor yn nghyd. Canwyd amryw o ddarnau yn wir alluog, er mai alawon trist oeddynt fwyaf priodol i amgylchiad claddu, gan y per- ,,y sonau canlynol: Griff. E. Jones, Blaenor; Miss Hattie Thomas, Organist; Misses Mary Ann Thomas, Ada Thomas, Celia Roberts, Jane Roberts, Lizzie Richards, Eunice Jones, Mary A. Jones, Lizzie Rob- erts, Lena Griffiths; Mrs. E. Wiggins a Mri. Edwin B. Mitchell; Dr. M. Wiggins, Thomas A. Jones, William J. Jones, E. Edwards, G. W. Roberts. Cyn y gellid cyflawni y gwasanaeth, yr oedd yn rhaid cael pethau eraill i'r capel, ac yn benaf y wenwisg i'r person, llithoedd a gweddiau already made. Esgynodd y person i'r pwlpud yn ei wenwisg; ac wele olygfa ryfedd, na welir, fe ddichon, byth mwy, person mewn gwenwisg yn mhwlpud Methodistaidd, rhwng dau bregethwr! Ac nid hyny yn unig, ond wele lawr y capel yn haner llawn o Seiri Rhyddion, gyda brat- iau gwynion, ysnodenau, pastynau mawr- ion, cangenau byth-wyrddion, a morthwyl pren mewn mourning ar ochr y pwlpud. Yn y set fawr o flaen y pwlpud yr oedd arch brydferth, cauad yr hon a addurnid a. chroes o flodau, llinellau tair ongl, haner cylch, brat gwyn, yn arwyddo purdeb yr ymadawedig, a changen-wyrddlas i ar- wyddocau adgyfodiad. Yr oedd seremon- iau o'r fath yn bethau hollol newydd yn nghapel yr Hen Gorff; ond y maent yn haeddu uchel ganmoliaeth am eu rhydd- frydigrwydd, wrth dalu y gymwynas olaf i weddillion Dr. Price. Aeth tyrfa barch- us tua'r fynwent, i Benycaerau, lie y cyf- lwynwyd gweddillion un welodd fywyd llafurus, i dawel orphwys yn mhriddellau y dyffryn.
NODION GWLEIDYDDOL.
NODION GWLEIDYDDOL. METHIANT cywilyddus fu ymgais y 'green- back crowd' i gynal cynadledd ddylanwadol yn Detroit, ddydd Mercher, Awst 25ain. Yn lie bod 10,000 o bobl yn bresenol, nid oedd ond prin 700 yn y cyfarfod- ydd lluosocaf; a'r Barnydd Kelly—y gwr sydd wrth fodd calon" yr Hen Weitli- iwr Haiarn"—oedd yr unig siaradwr o en- wogrwydd. Esboniodd ef ei hobi o roddi allan 3.65 bonds, a mabwysiadodd y Gynad- ledd yr egwyddor, heblaw pasio penderfyn- iad y dylai y ddeddf o blaid adferiad arian caledion yn 1879, a basiwyd yn y Gydgyng- orfa ddiweddaf, gael ei dileu.Cafodd y Democratiaid fwyafrif o 19,000 yn yr eth- oliad diweddaf yn Arkansas. Cariodd y Gwerinwyr Maine drwy fwyafrif'o 11,000. Aetn Texas yn Ddemocrataidd drwy fwy- afrif o 47,000, ac etholodd Wisconsin Ddem- ocrat yn Llywodraethwr gyda mwyafrif bychan. Hawlid mwyafrif Democrataidd o 4000 yn Pennsylvania, a 13,000 yn New Jersey. Rhoddodd New York 50,000 i'r Democratiaid, a Missouri 37,000. Cafodd. y Gwerinwyr fwyafrif o 10,000 yn Minne- sota; 21,000 yn Mississippi; 13,000 yn Kan- sas, a 28,000 yn Iowa. Edrychir yn bryd- erus ar ganlyniadau yr etholiadau yn y Talaethau hyn yn nghorif y ddau fis dyfod- 0 1 Mae chwech o newyddiaduron yn Pennsylvania yn cefnogi yr ymgeiswyr dir- westol gyda llawer o frwdfrydedd; ac y mae George B. Dusinberre, ymgeisydd y Llwyrymwrthodwyr am y swydd o Ysgrif- enydd Talaeth New York, yn proffwydo pleidlais ddirwestol drom yn y Dalaeth hon eleni Arosodd G2,000 o etholwyr Ohio adref y llynedd. Barna y Miner's Journal, os gellir dwyn y rhai hyn at yr etholflycliau eleni, yr enilla y Gwerinwyr y Dalaeth drwy fwyafrif da.Nid yw y Seneddwr Morton yn barnu y bydd i'r Democratiaid gymeryd i-fyny y cyn-Lyw- odraethwr Seymour. Y Llyw. Tilden, medd ef, yw y dyn cryfaf yn New York, a'r dyn goreu yn y Dwyrain, megis ag y mae Hendricks ar y blaen yn y Gorllewin. Bydd i ymdrechion Tilden o blaid mesur- au diwygiadol enill iddo gyfeillion lawer. Nid yw pa fodd bynag mor adnabyddus yn y Gorllewin a rhai a enwir am yr Arlyw- yddiaeth*Ar yr 17eg o Awst, cynaliodd Gwerinwyr Swydd Luzerne, Pa., eu cyn- adledd yn Wilkesbarre. Yn ol y Cymro Brith," ni ddarfu iddynt weithredu yn ddoeth, a tliaflasant ddiystyrwch arnom fel cenedl. Yr ydym yn cyhoeddi llythyr ein gohebydd y cyfle cyntaf, gan awgrymu wrth y rhai fyddant yn ysgrifenu ar bync- iau politicaidd lleol yn y dyfodol, wneyd hynyyn fyr a chryno i ateb i'n gofod: AT FY HOFF GYDWLADWYR YN AMERICA. PITTSTON, PA., Awst 27-Ar yr 17eg cy- fisol, cynaliwyd County Convention gan y Gwerinwyr yn Wilkesbarre i ddewis swydd- wyr i'r County am y tymor dyfodol. Nid wyf am anfon manylion y cwrdd i chwi, gan y cynwysai ormod o hanes diwerth, a hyny oblegid nad oedd ond rhyw ychydig yn ceisio dylanwadu a threfnu pob peth yn unol.a'u dymuniadau eu hunain,sef y ring, blaenoriaid yr hon oeddynt J. A. Scran- ton, H M. Haitt, Oscar F. Gaines; a rhai o'r natur yna ydynt a'u dwylaw yn llogell- au y County a'r wlad er's blynyddoedd.— Nid oedd un gobaith i feib Gomer gael dim. Cynygiwyd Mri. Morgan o Plymouth, Edwards o Hazleton, a J. B. Daniels o Tay- lorville, Lackawanna; ond nid oedd o un dyben. Yn ddiweddaf cynygiwyd yn Co- orner Dr. J. M. Williams o Hyde Park, a chafodd ef ei ddewis gyda mwyafrif o Lin ond cyn iddo gael y fraint hono, cododd Mr. Thomas W. Davies o Plymouth, a siaradodd am iddynt goflo am y Dr., gan obeithio y buasai hyny yn help i gymodi Cymry Hyde Park a'r Gwerinwyr, wedi'r